1 minute read

Gweithgaredd Ymarfer Cynllunio a Threfnu

Cynllunio Ffair Swyddi

Senario

Yn ôl CIPDA (15 Tachwedd 2021), mae gan 47% o gyflogwyr swyddi gwag y maen nhw’n ei chael hi’n anodd eu llenwi, ac mae 27% yn disgwyl i nifer y swyddi anodd eu llenwi gynyddu dros y chwe mis nesaf.

Mae ffair swyddi yn ffordd fwyfwy poblogaidd i gyflogwyr lenwi swyddi gwag. Fel arfer, cynhelir ffeiriau swyddi dros ddiwrnod cyfan mewn lleoliadau dan do mawr. Bydd cyflogwyr yn gosod stondinau ac yn siarad â darpar recriwtiaid. Os byddant yn gwneud argraff dda ar gyflogwr, mae’n bosibl y byddant yn cael eu gwahodd i gyfweliad neu’n cael cynnig swydd yn y fan a’r lle!

Mae ffeiriau swyddi yn gofyn am lawer o gynllunio a threfnu; mae angen i chi reoli’r bobl a fydd yn mynychu, sy’n golygu trefnu’r logisteg yn gywir a sicrhau cyfathrebu clir. Mae materion iechyd a diogelwch pwysig i’w hystyried hefyd, ynghyd â thasgau trefnu allweddol fel penderfynu pwy i’w gwahodd a chadw cofnod o’r rhai a fydd yn mynychu, yn ogystal â dod ag unrhyw gyfarpar y gall fod ei angen ar gyflogwyr. Mae hefyd yn bwysig cael adborth gan bawb a fynychodd y digwyddiad er mwyn mesur ei lwyddiant a nodi sut y gellid ei wella, er mwyn helpu i lywio digwyddiadau yn y dyfodol.

Rydych chi wedi cael eich gwahodd i gynllunio ffair swyddi ar gyfer eich ysgol – gallai fod ar gyfer disgyblion o flwyddyn 11 hyd at flwyddyn 13, neu ar gyfer eich coleg.

Profi Sgiliau Penodol

1.4 – Amserlennu gweithgareddau a thasgau. Tasgau 1 a 2

1.5 – Dethol a defnyddio technegau a/ neu adnoddau rheoli project priodol. Tasg 2

1.6 – Diffinio blaenoriaethau a meini prawf llwyddiant. Tasg 3

Tasgau

1. Mae trefnu ffair swyddi lwyddiannus yn gofyn am fanylder, creadigrwydd a chynllunio strategol. Mae llawer o benderfyniadau y bydd angen eu gwneud:

• Dyddiad/amser

• Lleoliad

• Marchnata

• Cyfarpar

• Arlwyo

• Staffio

Efallai y byddwch chi am gasglu ymchwil drwy gydweithio â myfyrwyr eraill i’ch helpu i lunio rhestr o’r holl weithgareddau a thasgau y bydd angen eu cwblhau cyn y ffair swyddi ac ar y diwrnod ei hun. Peidiwch ag anghofio cynnwys hanfodion fel cynnal asesiad risg, gosod byrddau i’r cyflogwyr a darparu bathodynnau enw.

2. Gan ddefnyddio adnoddau/technegau rheoli project, lluniwch gynllun project sy’n blaenoriaethu ac yn amserlennu eich gweithgareddau a’ch tasgau’n glir a fydd yn cefnogi’r project sy’n cael ei gwblhau.

Pa adnoddau/technegau rheoli project y gallwn i eu defnyddio?

3. Er mwyn mesur llwyddiant eich ffair swyddi, nodwch dri dangosydd perfformiad allweddol rydych chi’n gobeithio eu cyflawni drwy gynnal ffair swyddi. Crëwch ffordd o fesur a yw eich ffair swyddi wedi cyflawni ei dangosyddion perfformiad allweddol.

Beth yw dangosyddion perfformiad allweddol?