3 minute read

Gweithgaredd Ymarfer Creadigrwydd ac Arloesi

Cyfle i fod yn hunangyflogedig

Senario

Mae trefi a dinasoedd ledled Cymru yn cael eu trawsnewid o ganlyniad i raglenni adfywio. Nod y rhaglenni adfywio hyn yw rhoi bywyd newydd i adeiladau, ardaloedd a chymunedau. Gall adeiladau adfeiliedig fod yn hyll, yn beryglus a denu troseddwyr, ond o gael eu trawsnewid, gallant ddod yn asedau cymunedol gwych.

Mae The Corporation yn Nhreganna, Caerdydd yn enghraifft o broject adfywio llwyddiannus. Fe’i hadeiladwyd yn 1889 fel tafarn a gwesty. Fodd bynnag, ym mis Mawrth 2016, penderfynodd y trwyddedai beidio ag adnewyddu’r denantiaeth a chaewyd y drysau.

Fodd bynnag, mae’r adeilad nodedig hwn wedi’i adfywio! Mae’r perchennog wedi ei droi’n lleoliad ag unedau y gall pobl sy’n dymuno dechau eu busnesau eu hunain eu lesio.

Mae hunangyflogaeth yn gyfle cyffrous ac yn bwysig i economi Cymru. Mae nifer y bobl hunangyflogedig yng Nghymru wedi cynyddu ac mae bron un o bob saith gweithiwr yng Nghymru yn hunangyflogedig erbyn hyn. Mae hunangyflogaeth yn cynnig nifer o fanteision. Mae gweithio i chi’ch hun yn golygu mai chi sy’n gwneud y penderfyniadau a bydd gennych chi’r rhyddid i wireddu eich syniadau a phrofi boddhad hynny. Gallwch chi hefyd bennu eich oriau eich hun a all helpu i sicrhau cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a gwella eich ansawdd bywyd cyffredinol. Gallwch chi ennill incwm llawer uwch drwy fod yn hunangyflogedig. Fodd bynnag, mae anfanteision hefyd. Ni fyddwch yn cael unrhyw fuddion cyflogai fel tâl salwch neu dâl gwyliau, ac os byddwch chi’n dechrau o ddim, gall eich incwm fod yn afreolaidd, ac efallai na fyddwch yn gwneud elw. Felly, fel entrepreneur, mae’n bwysig iawn eich bod chi’n meddwl am syniad ar gyfer busnes sy’n eich gwneud yn wahanol i fusnesau eraill, fel bod cwsmeriaid yn prynu eich cynhyrchion neu’ch gwasanaethau chi.

Mae perchennog newydd Corp Market (hen dafarn The Corporation) wedi trawsnewid y tu mewn i’r adeilad gan gynnal y ffasâd hanesyddol. Mae wedi creu 24 o unedau y gall pobl eu defnyddio i redeg eu busnesau eu hunain. Mae pob uned yn 4m x 3m o led ac yn cynnwys drws a wal metel â rhwyllau er mwyn i gwsmeriaid allu gweld i mewn. Ymhlith y busnesau sy’n masnachu yn Corp Market mae siop barbwr, siop lyfrau a chaffi.

Siop barbwr

Profi Sgiliau Penodol

Creadigrwydd ac Arloesi

3.1 – Cynhyrchu syniadau yn annibynnol.

3.2 – Cydweithio wrth feddwl yn greadigol a chynhyrchu syniadau newydd drwy rannu, lledaenu ac adeiladu ar y cydweithio hwnnw.

3.3 – Creu cysylltiadau rhwng gwahanol wybodaeth i gefnogi deilliannau.

3.4 – Defnyddio meddwl creadigol i ddadansoddi gwybodaeth a syniadau.

3.5 – Ystyried ymarferoldeb rhoi syniadau a chanlyniadau ar waith.

3.6 – Cyfiawnhau pam y cafodd y syniad mwyaf priodol ei ddethol drwy gymhwyso technegau gwneud penderfyniadau gwrthrychol, gan gynnwys safbwyntiau eraill lle y bo’n briodol.

3.8 – Datblygu dulliau cyfathrebu arloesol sy’n briodol i’r gynulleidfa.

Meini Prawf

Tasg 1

Tasg 3

Tasg 5

Tasg 1

Tasg 5

Tasg 3

Tasg 5

Tasg 2/3 (yn fras)

Tasg 2

Tasg 6

Rydych chi wedi cael y cyfle i lesio un o’r unedau hyn ond mae angen syniad busnes dichonadwy arnoch. Mae amodau i lesio uned. Rhaid i’ch syniadau:

• fod yn gysylltiedig â Chymru

• cynnig rhywbeth gwahanol i fusnesau tebyg eraill rydych chi’n ymwybodol ohonynt

• cynnwys costau cychwynnol nad ydynt yn fwy na £5000.

Tasgau

1. Meddyliwch am bedwar syniad busnes o leiaf. Disgrifiwch y syniadau a sut maen nhw’n bodloni pob maen prawf. Cydweithiwch ag eraill i gasglu adborth ar eich syniadau.

Pa dechnegau y gallwn i eu defnyddio i feddwl am syniadau?

Sut y gallaf gasglu adborth?

2. Defnyddiwch dechnegau gwneud penderfyniadau priodol i ddewis a chyfiawnhau’r syniad rydych chi’n ei ffafrio, ac ystyriwch ddichonoldeb eich cynnig busnes.

Pa dechnegau gwneud penderfyniadau allai fod yn ddefnyddiol? Er enghraifft, SODAS, SWOT.

3. Datblygwch eich cynnig drwy feddwl am enw busnes, dyluniad cynllun a disgrifiad ar gyfer yr uned. Rhannwch eich enw, eich dyluniad cynllun a’ch disgrifiad ag aelod arall o’r dosbarth. Ymatebwch i’r adborth a gwnewch newidiadau.

4. Siaradwch ag aelodau eraill o’ch dosbarth. Gofynnwch iddynt am y cynnig y maen nhw wedi ei ddewis ar gyfer un o’r unedau a dywedwch wrthynt am eich cynnig chi. Pan fyddwch chi wedi siarad ag o leiaf pum person arall, dewiswch un ohonynt i gydweithio ag ef i gwblhau Tasgau 5 a 6.

5. Fel pâr, trafodwch sut y gallech chi gyfuno eich syniadau mewn ffordd arloesol er mwyn annog cwsmeriaid i siopa a gwario arian yn y ddwy uned. Defnyddiwch dechnegau cydweithredol ar gyfer meddwl yn greadigol i adeiladu ar syniadau a dadansoddi cyfleoedd. A allech chi gynnig gostyngiadau, hyrwyddiadau, digwyddiadau ar y cyd neu