
1 minute read
Chi a'ch Seremoni
Drwy gydol y flwyddyn, bydd y Brifysgol yn cynnal ar gyfartaledd 8 seremoni haf ar gyfartaledd ym mis Gorffennaf ac un seremoni gaeaf ym mis Tachwedd. Yn 2022, mae'r Brifysgol yn bwriadu anrhydeddu ei hymrwymiad i gynnal seremonïau ar gyfer Dosbarth 2020 a 2021. Mae gan bob carfan o fyfyrwyr eu dyddiadau ac amseroedd penodol eu hunain o seremonïau.
Os na allwch ddod i'ch seremoni, cysylltwch â ni ar graduation@cardiffmet.ac.uk a byddwn yn gwneud ein gorau glas i'ch dyrannu i'r seremoni nesaf sydd ar gael.
Advertisement
Dyddiadau ac Amserau Seremoni
Cyhoeddir holl ddyddiadau ac amserau'r seremonïau ar ein tudalen we cyn gynted ag y gallwn wneud hynny. Ar gyfer Seremonïau'r Haf fe'u cyhoeddir fel arfer ym mis Rhagfyr y flwyddyn flaenorol.
Sut fyddaf yn gwybod pryd mae fy seremoni?
Bydd eich Cyfarwyddwr Rhaglen yn eich cynghori pan fydd eich seremoni. Byddwn hefyd yn anfon e-bost atoch yn rhoi gwybod i chi pryd y gallwch gofrestru eich bwriad i fynychu. Os ydych yn eich blwyddyn ddyfarnu, nid oes rhaid i chi aros i glywed os ydych wedi pasio, i ddechrau, mae angen i ni wybod eich bod yn bwriadu mynychu.