1 minute read

Gowns & Ffotograffiaeth Ede & Ravenscroft

Next Article
Cofrestru i Raddio

Cofrestru i Raddio

Gowns a Ffotograffiaeth Ede & Ravenscroft

Er mwyn graddio a chroesi'r llwyfan rhaid i BOB myfyriwr wisgo gŵn a hwd Met Caerdydd, y mae'n rhaid eu llogi o Ede & Ravenscroft yn Gown Hire. Rydym yn argymell bod pob myfyriwr yn archebu ei gŵn cyn y seremoni er bod opsiwn i'w logi ar y diwrnod. Gall myfyrwyr ganslo eu gŵn hyd at 10 diwrnod cyn y seremoni a chael ad-daliad.

Advertisement

Archebu lle ar-lein

Y cwestiwn cyntaf y bydd yn ei ofyn i chi yw • “Enw'r Sefydliad” gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi Met

Caerdydd. • Yna cewch gyfle i ddewis y dyddiad yr ydych yn mynychu eich graddio • Dewiswch y wobr rydych chi'n ei chael.

Pa gwn sydd ei angen arnaf?

Os nad ydych yn siŵr pa gŵn y mae angen i chi ei logi yna cliciwch

yma.

Fe fydd arnoch chi angen:  Gŵn  Hwd  Cap

Hwd

Mae ein holl israddedigion (BA/BSc) yr un dyluniad, ac mae graddau ôl-raddedig (MSc/MA) yn rhannu'r un dyluniad ond byddant yn wahanol i raddau israddedig.

Sut ydw i'n gweithio allan maint fy mhen?

I gyfrifo maint eich pen, os nad oes gennych fesur tâp yna defnyddiwch ddarn o linyn, rhowch un modfedd uwchben eich amrant ac o amgylch eich pen. Rhowch y llinyn yn erbyn pren mesur a bydd hynny'n rhoi maint eich pen mewn modfedd i chi.

Pryd a ble ydw i'n casglu’r gŵn?

Byddwch yn casglu ac yn dychwelyd eich gŵn yn y lleoliad ar ddiwrnod y seremoni.

Mae'r casgliad o seremoni'r bore yn dechrau am 8yb ac ar gyfer seremonïau prynhawn o 11yb yn unig. Bydd angen dychwelyd pob gŵn ar y diwrnod erbyn 5yh. Ffotograffiaeth

Mae Ede & Ravenscroft yn cynnig amrywiaeth o becynnau ffotograffiaeth y gallwch archebu amser cyn y diwrnod yn uniongyrchol gyda nhw neu ar y diwrnod.

Llogi gŵn neu ffotograffiaeth - Gellir ateb cwestiynau yma neu drwy gysylltu ag Ede & Ravenscroft E-bostiwch: student@edeandravenscroft.com neu ffoniwch 01223 861 854 (cyfradd genedlaethol)

This article is from: