UWIC Graduation Programme December 2010

Page 15

N

Making a Difference S Gwneud Gwahaniaeth

Since 1865 when this institution was founded, many people have committed their time, energy and money to supporting education at what is now the University of Wales Institute, Cardiff (UWIC).

Ers ei sefydlu ym 1865, mae llawer o bobl wedi cyfrannu o’u hamser, eu hegni a’u harian i gefnogi addysg yn y sefydliad hwn a elwir bellach yn Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd (UWIC).

The people who’ve made that commitment have done so for a variety of reasons.

Mae’r bobl hyn wedi cyfrannu am wahanol resymau.

Some have taught students to make the best of their abilities. Many of our alumni are now making a real difference to communities across the globe. Some people have felt that a good education is crucial to the welfare of the community in which we live and so they’ve donated gifts to enhance the campus environment or scholarships that help those who need it most. Some people have owned and managed businesses that have been longstanding partners in the research that we undertake. Others just wanted to “give something back” - having benefited from their time studying at this institution and they have supported important causes across the whole of UWIC.

Mae rhai wedi dysgu myfyrwyr i fanteisio i’r eithaf ar eu galluoedd. Mae llawer o’n cyn-fyfyrwyr bellach yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymunedau bedwar ban byd. Roedd eraill yn credu bod addysg dda yn hollbwysig i les y gymuned rydym yn byw ynddi ac felly maent wedi rhoi rhoddion i wella amgylchedd y campws neu ysgoloriaethau i gynorthwyo’r rhai hynny sydd eu hangen fwyaf. Hefyd, mae rheolwyr a pherchnogion busnesau yn bartneriaid yn ein gwaith ymchwil ers cryn amser. Dymuniad rhai yn syml oedd “talu’n ôl” - ar ôl elwa ar eu cyfnod yn astudio yn yr athrofa, ac maent wedi cefnogi achosion pwysig drwy UWIC i gyd.

Whatever their motivation, they’ve all had one thing in common: they have all wanted to “make a difference.”

Beth bynnag y rheswm, mae ganddynt i gyd un peth yn gyffredin. Maent wedi bod eisiau gwneud “gwahaniaeth gwirioneddol.”

If you want to make a difference to assist UWIC’s continued drive to be a dynamic, enterprising and creative institution or to learn more about our fund raising priorities please contact the UWIC Foundation.

Os ydych chi am wneud gwahaniaeth a chynorthwyo ymgyrch barhaus UWIC i fod yn athrofa ddeinamig, arloesol a chreadigol neu i ddysgu mwy am ein blaenoriaethau codi arian, cysylltwch â Sefydliad UWIC.

You can pick up a donation form at the Alumni Stand or contact us by telephone: +44 (0)29 2020 1590 or email: uwicfoundation@uwic.ac.uk

Gallwch gasglu ffurflen roddi yn Stondin y Cynfyfyrwyr neu ffoniwch ni ar: +44 (0)29 2020 1590 neu e-bostiwch: uwicfoundation@uwic.ac.uk

SEFYDLIAD FOUNDATION


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.