Conference Services Newsletter (Welsh) - May 2016 (External)

Page 2

Digwyddiadau sydd ar ddod Mae’r haf yn gyfnod prysur ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, pan rydym yn defnyddio’r holl gyfleusterau, ystafelloedd cynadledda ac ystafelloedd gwely yn y ddau gampws. Rydym yn cynnal cynadleddau meddygol, grwpiau ysgol, ysgolion iaith ac ysgolion haf, corau, cynadleddau academaidd a

gwersyllfaoedd hyfforddi chwaraeon. Mae’r digwyddiadau sydd ar ddod yn cynnwys Massage Training Institute, European Inferno, Ras De Cymru, South Wales Potters a Triathlon Cymru. Mae’n bleser gennym hefyd gynnal digwyddiad nesaf Cardiff PA Network, a gynhelir ar 18 Mai. Yn ogystal â’r cyfarfod

a’r siaradwyr ysgogiadol, bydd y cynrychiolwyr yn gallu mwynhau lluniaeth ar y noson wrth rwydweithio gyda’r grŵp a chyfarfod â’ Tîm Cynadleddau. Cymerwch gipolwg ar dudalen we Cardiff PA Network i gael mwy o wybodaeth am y digwyddiad a sut i gofrestru.

Cynnig Ystafell Gyfarfod ‘Funud Olaf’ Trefnwch gyfarfod ym mis Ebrill neu fis Mai, a chewch ostyngiad o 50% oddi ar bris llogi ystafell a phlât o ffrwythau rhad ac am ddim.

Cysylltwch â’r Tîm Cynadleddau i weld beth sydd ar gael a threfnu ystafell gan ddyfynnu ‘Cynnig Gwanwyn’.

Llety En-suite Newydd 150 o ystafelloedd gwely newydd eu hailwampio, ac mae 30 ohonynt yn cynnwys gwelyau maint ¾, a gall dau unigolyn rannu. Darganfyddwch fwy, gwiriwch beth sydd ar gael a threfnwch le ar-lein.

Rhwng Gorffennaf a Medi, gallwch drefnu lle mewn detholiad mawr o lety ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae dros 700 o ystafelloedd gwely en-suite ar gael yng Nghampws Cyncoed a Champws Plas Gwyn, ar gyfer arosiadau unigol a grŵp. Mae gan Gampws Cyncoed

“Roedd yn ardderchog; roedd y cyfathrebu a’r llety’n wych – yn union beth yr oedd ei angen arnom. Roedd y bobl a wnaeth ein cyfarch ni yn wych ac yn gynorthwyol iawn. Rwy’n trefnu’r daith hon bob mis Gorffennaf a byddaf yn bendant yn cysylltu eto yn y gobaith o drefnu lle ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd eto’r flwyddyn nesaf.” Syr Thomas Ysgol Picton, Sir Benfro

02


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.
Conference Services Newsletter (Welsh) - May 2016 (External) by Cardiff Metropolitan University - Issuu