RHIFYN 2
Cynadleddau Met Caerdydd Yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi Digwyddiadau diweddar Confensiwn Addysg Uwch UCAS Ar gyfer y 14eg flwyddyn yn olynol, cynhaliodd Prifysgol Metropolitan Caerdydd Gonfensiwn Addysg Uwch UCAS, a chroesawu dros 7,000 o ymwelwyr yn ystod y dydd. Roedd y digwyddiad llwyddiannus yn cynnwys Canolfan Athletau Dan Do Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn cael ei thrawsffurfio i fod yn arena arddangos 5,000m2, gyda dros 150 o stondinau, a thŷ chwyddadwy maint go iawn â gwely, soffa a sinc cegin chwyddadwy! Fe wnaeth y Tîm Cynadleddau proffesiynol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd sicrhau bod holl fanylion y logisteg wedi’u hystyried, o bob agwedd ar iechyd a diogelwch i ddarparu rholiau bacwn yn y siop fwyd dros dro.
“Roedd yn noson wych, diolch! Roedd y lleoliad yn berffaith ac fe wnes i werthfawrogi eich help yn fawr ar y diwrnod! Byddwn yn bendant yn defnyddio’r lleoliad eto pan fyddwn yn dychwelyd i Gaerdydd.” CODE UK
Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Gŵyl Delynau Camac
Dros y penwythnos 6-7 Chwefror, cynhaliodd Prifysgol Metropolitan Caerdydd gynhadledd flynyddol Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ar gyfer yr ail flwyddyn yn olynol. Cynhaliwyd y digwyddiad a ddarlledwyd gan y BBC yn adeilad yr Ysgol Rheoli, gyda chyflwyniadau a chyfarfodydd ymylol ar gyfer dros 200 o bobl. Roedd siaradwyr y gynhadledd yn cynnwys Tim Farron, Kirsty Williams a nifer o wleidyddion eraill. Roedd awyrgylch gwych yn y digwyddiad, gydag 19 stondin arddangos a chaffi’r Atriwm yn gweini bwyd a diod. Roedd y gwaith cynllunio a pharatoi yn werth chweil, gan yr oedd y digwyddiad yn llwyddiant mawr.
Roeddem yn falch croesawu digwyddiad Telynau Camac Caerdydd yn ôl, a gynhaliwyd yn ystod y penwythnos 12-13 Mawrth. Roedd y digwyddiad yn cynnwys gweithdai, dosbarthiadau meistr a chyngerdd ar y nos Sadwrn gyda cherddorion enwog, gan gynnwys Catrin Finch, Elinor Bennett a Gwenllian Llŷr. Roedd dros 30 telyn yn cael eu harddangos yn yr Atriwm, ac roedd y cleient yn falch o gael defnyddio lle mor wych ar gyfer eu digwyddiad. Darganfyddwch fwy am ein Cyfleusterau Cynadledda a Digwyddiadau.
“Diolch am ddiwrnod hyfryd heddiw; aeth popeth yn berffaith! Roedd pawb yn falch iawn â’r lleoliad a’r bwyd, a byddaf yn argymell y lleoliad i bobl eraill.” Y Gymdeithas Strôc “Diolch yn fawr iawn am eich help gyda’r digwyddiad heddiw. Crëwyd argraff fawr arnom o ran pa mor hawdd yr aeth popeth a’ch gwaith caled.” Effective Communication
01