sustainability policy cymraeg

Page 1

Undeb Bangor

Polisi Cynaliadwyedd 2024-2027

Adolygwyd

Dyddiad

Diben Cyhoeddi/Disgrifiad o’r Newid

1. Wedi'i adolygu a'i gymeradwyo gan Fwrdd Ymddiriedolwyr y Myfyrwyr

Mae gan Undeb Bangor XXX aelod a 31 aelod o staff, ac mae’n cydnabod ei effaith ar yr amgylchedd a’r gymuned, yn lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang. Yn ogystal, mae’n cydnabod y rôl y mae'n ei chwarae, o fewn y sector ac yn genedlaethol, i fynd i'r afael â materion cynaliadwyedd a chyflawni Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig.

Mae’r Undeb yn cael ei ysgogi i ymgorffori meddylfryd ac arferion amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol yn ei waith, ac mae wedi nodi 8 thema allweddol ar gyfer cyflawni cynaliadwyedd:

Ffocws dan Arweiniad Myfyrwyr

Rydym yn benderfynol o sicrhau bod ein gwaith cynaliadwyedd yn cael ei arwain gan faterion cyfredol sy’n effeithio ar fyfyrwyr, a materion y mae myfyrwyr yn angerddol yn eu cylch, yn ogystal â gan gynaliadwyedd ehangach, y Nodau Datblygu Cynaliadwy, a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae’r Undeb yn casglu adborth gan fyfyrwyr yn flynyddol i gefnogi hyn ac mae’n ymdrechu’n barhaus i gynnwys myfyrwyr a grwpiau myfyrwyr yn ei waith, ymgyrchoedd, a thrafodaethau perthnasol.

Rydym yn gweithio'n agos gyda'n Harweinwyr a’n Rhwydwaith Cynaliadwyedd i arwain ein gwaith a'u helpu i gyflawni eu nodau eu hunain.

Addysg a Newid Ymddygiad

Fel sefydliad sy’n cefnogi myfyrwyr ac yn gweithio gyda nhw, mae Undeb Bangor yn teimlo dyletswydd i addysgu staff a myfyrwyr ar faterion cynaliadwyedd, gan roi’r wybodaeth iddynt wneud eu penderfyniadau eu hunain ac ymgorffori arferion cynaliadwy yn eu gwaith a’u bywydau eu hunain.

Grymuso

Rydym wrth ein bodd yn gweld ein myfyrwyr a grwpiau myfyrwyr yn gwneud eu gwaith cynaliadwyedd eu hunain ac yn hyrwyddo hyn cymaint â phosibl. Rydym yn hwyluso hyn trwy gynnig hyfforddiant, offer a gwybodaeth i'n harweinwyr myfyrwyr allu creu a gweithredu newid.

Gweithio mewn Partneriaeth a Meithrin Cymuned

Rydym yn gweithio gyda’r Brifysgol i wella ei gwaith cynaliadwyedd ac yn ei lobïo i ymateb i anghenion a syniadau myfyrwyr, gan gymryd ein rôl o gynrychioli ac eiriol dros fyfyrwyr o ddifrif.

Trwy feithrin perthnasoedd sydd o fudd i bawb gyda sefydliadau, ysgolion a busnesau lleol, rydym yn gwella ein heffaith gadarnhaol ar yr amgylchedd, yr economi a'r gymuned. Rydym yn chwilio am gyfleoedd newydd i gysylltu myfyrwyr â’n partneriaid yn barhaus, ac annog cydweithrediad er mwyn cefnogi eu gwaith o rwydweithio a datblygu sgiliau ac i gefnogi eu profiad.

Gweithrediadau Cynaliadwy

Rydym yn arwain drwy esiampl, gan fabwysiadu arferion prynu cynaliadwy fel tîm o staff lle bo modd. Rydym yn darparu arweiniad prynu moesegol i’n grwpiau myfyrwyr, gan eu galluogi i wneud eu penderfyniadau gwybodus eu hunain sy'n ystyried cynaliadwyedd ariannol, amgylcheddol a chymdeithasol. Mae hyn yn cynnwys canllawiau ar bryniannau Masnach Deg ac Amazon.

Rydym yn annog ein staff a’n myfyrwyr i ddefnyddio opsiynau trafnidiaeth gynaliadwy, gan gynnwys cerdded i weithgareddau lleol, rhannu ceir, defnyddio bysiau mini Undeb y Myfyrwyr a defnyddio cludiant bws.

Rydym wedi ymrwymo i wella ein cynaliadwyedd ariannol, gan sicrhau bod cyllid yn cael ei fuddsoddi ym meysydd cywir gweithgareddau'r Undeb, a sicrhau lefel briodol o adnoddau ariannol. Caiff hyn ei gefnogi gan reolaeth ariannol effeithiol a dull ar-lein effeithlon a hygyrch o gyflwyno ein systemau ariannol.

Ymchwil a Dysgu

Byddwn yn parhau i ymchwilio a dysgu am yr amgylchedd, cyfiawnder cymdeithasol, a datblygiad, yn gyson â mynd i'r afael â'r nodau datblygu cynaliadwy ac unrhyw faterion cyfredol neu faterion newydd. Lle bo’n bosibl ac yn briodol, byddwn yn rhannu canfyddiadau â myfyrwyr a staff y brifysgol.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Rydym yn addo gwrando ar fyfyrwyr er mwyn meithrin amgylchedd cefnogol a chydweithredol sy’n hyrwyddo cynwysoldeb ac ymdeimlad o berthyn, gan ddod o hyd i ffyrdd newydd o ymgysylltu’n weithredol a chynnwys pob myfyriwr yn ein gwaith cynaliadwyedd a’n gwaith ehangach.

Cynaladwyedd Diwylliannol

Rydym yn dathlu amrywiaeth ddiwylliannol, gan hwyluso’r gwaith o feithrin cymunedau o fyfyrwyr a mynegi a rhannu gwahanol hunaniaethau diwylliannol trwy gydweithio a chynnal digwyddiadau ac ymgyrchoedd.

Rydym yn falch o rannu’r pwysigrwydd diwylliannol a hanesyddol, gan gynnwys ein hiaith, sy'n ein galluogi i wneud yn fawr o’n Cymreictod.

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.