cwtch
Y newyddion a’r straeon diweddaraf gan t ŷ hafan
www.tyhafan.org
straeon o'r… waliau olion dwylo Pan ofynnir beth yw’r peth cyntaf sy’n dod i’r meddwl pan fyddwch chi’n meddwl am Tŷ Hafan, mae’r atebion yn debygol o fod yn amrywiol iawn. Ond rhywbeth sy’n taro ymwelwyr â’r hosbis yw pa mor lliwgar yw hi, o’i hawyrgylch unigryw i’r cymeriadau y byddwch yn eu cwrdd ac wrth gwrs, yr olion dwylo tanbaid ar y waliau. Wrth gerdded i ganol yr hosbis, cewch eich cyfarch gan olion dwylo a thraed o bob siâp, maint a lliw. Mae’r waliau wedi’u haddurno â’r darluniau hyn o fan a lle ers agor ein drysau. Maen nhw’n rhan enfawr o’r hosbis ac mor bwysig i’r rhai hynny sydd wedi gadael eu hôl. Mae creu atgofion yn rhan fawr o’r hyn yr ydym yn ei wneud yn Tŷ Hafan ac mae rhywbeth dirnadol fel yr olion dwylo yn helpu i wneud i’r cysylltiad â’r amser hapus y gwnaethon nhw ei dreulio gyda’i gilydd barhau. O blant Tŷ Hafan a’u teuluoedd i’n noddwr, Tywysog Cymru, mae’r waliau hyn yn arddangos rhan fawr o stori Tŷ Hafan, gan roi cefndir i olion dwylo a thraed y plant hynny sydd wedi pasio trwy ein bywydau yn llawer rhy gyflym ond sydd wedi gwneud argraff ddofn iawn. Bydd Tŷ Hafan yn golygu gwahanol bethau i wahanol bobl, ond mae coffau heb amheuaeth yn un o’n helfennau pwysicaf. Mae gallu ailymweld â’r waliau a gweld yr olion hyn o gyfnod gwahanol yn golygu cymaint i deuluoedd, gan wybod bod yna le lle na fydd eu plentyn byth yn angof.
Dyma olion dwylo a thraed y plant hynny sy’n pasio trwy ein bywydau yn rhy gyflym ond sy’n gadael argraf f mor barhaol.
04
Ar ôl mwy nag 20 mlynedd o ddefnydd cyson, mae tipyn o dyllau a marciau wedi ymddangos ar y waliau. Felly, i’w chadw’n ffres ac i roi mwy o le i ni allu parhau â’r traddodiad hwn, yn rhan o’r gwaith o adnewyddu’r hosbis, rydym wedi edrych am ffyrdd newydd o gadw’r olion. Mae pob ôl ar bob wal wedi’i ddigideiddio’n ofalus, gan amlygu’r rhai sydd wedi colli eu lliw a grwpio teuluoedd gyda’i gilydd, maen nhw wedi eu hatgynhyrchu ar bersbecs a’u gosod o flaen y rhai gwreiddiol fel eu bod wedi’u diogelu y tu ôl i’r waliau newydd. Mae’n ffordd o sicrhau hirhoedledd yr olion a chadw’r rhai gwreiddiol, gan hefyd fwrw ymlaen â’r gwaith adnewyddu sydd mor hanfodol i’r ffordd yr ydym yn darparu gofal arbenigol i’n teuluoedd. Gall teuluoedd bellach weld sut y mae’r waliau ar eu newydd wedd yn edrych a dechrau ychwanegu atyn nhw. Mae llawer o bethau am ein hosbis sydd wedi ei hadnewyddu i deimlo’n gyffrous amdanyn nhw, ond y man cychwyn i’r cyfan yw ein waliau olion dwylo enwog.