Gwanwyn/Haf 2022
rhowch
gŵyl oleuadau canol gaeaf Roedd hud y Nadolig i’w weld yn amlwg pan wnaethom wahodd teuluoedd i’r hosbis ar gyfer ein hail Ŵyl Oleuadau. Treuliodd staff Tŷ Hafan oriau lawer hapus (ac oer!) yn gweddnewid ein gerddi hardd yn lle hudol wedi ei oleuo ag amrywiaeth anhygoel o oleuadau a gweithgareddau’r Nadolig. Gwnaethom fanteisio i’r eithaf ar y babell enfawr y rhoddodd Rob Pearce o TAD Ltd a Lewis Smith o LT Scaffold Services Ltd i ni yn hael iawn, a’n gardd synhwyraidd newydd hyfryd diolch i Greenfingers. Darparwyd llawer o nodweddion golau ychwanegol a gwnaed yr arddangosfa hyd yn oed yn fwy anhygoel gan rodd oddi wrth Figure of Eight Events.
Gwahoddwyd y teuluoedd i ddod i ymlwybro drwy’r gerddi prydferth wedi’u goleuo, ymuno mewn amryw o weithgareddau’r Nadolig ar y ffordd a gorffen gydag ychydig o hwyl y Nadolig. Gan ei fod yn ddigwyddiad awyr agored, bu’n rhaid ystyried yn ofalus sut i gadw ein teuluoedd a’n gilydd mor ddiogel â phosibl, ac rydym yn hynod o falch o faint mae’r digwyddiad hwn wedi codi calonnau’r teuluoedd yr ydym yn gweithio gyda nhw.
“Roedd yn daith gerdded wych, yn llawn o hwyl y Nadolig a goleuadau prydferth! Pawb yn gwenu” Ruby Nash, rhiant Tŷ Hafan
13