4 minute read

straeon o’r ardd goffa

Mae Tyˆ Hafan yn llawn mannau sy’n golygu popeth i’r teuluoedd sy’n defnyddio’r hosbis. Mae’r ystafell gerddoriaeth, yr ystafell chwarae, y Ffau a’r ystafell amlsynnwyr i gyd wedi ymddangos yn Cwtsh, ac mae pob un yn ychwanegu at fywydau teuluoedd Tyˆ Hafan yn ei ffordd ei hun. Ond efallai o ran mannau sy’n golygu’r mwyaf, mae’n rhaid i’r anrhydedd honno fynd i’r ardd goffa.

Mae lleoliad delfrydol Tyˆ Hafan ar lannau Môr Hafren yn cynnig llonyddwch i blant a theuluoedd a noddfa i ymlacio a myfyrio. Mae’r ardd yn gwneud hynny yn fwy arbennig fyth. Mae’r gosodwaith Cân Adar, “Bydd yr enwau hyn yn ein ffurfafen am byth”, yn ffordd unigryw a gwefreiddiol o barhau etifeddiaeth y plant a’r bobl ifanc sy’n pasio drwy ein bywydau. Ei nod yw cofio a dathlu bywydau’r plant sydd wedi marw trwy gyfrwng cân adar. Caiff enw pob plentyn ei gyfieithu gan ddefnyddio cod Morse i gân yr aderyn sy’n canu’n fwyaf croch yn y mis y bu farw’r plentyn ac fe’i dilynir gan dawelwch o un eiliad ar gyfer bob blwyddyn o fywyd y plentyn. Mae’r darn yn para dros ddwy awr a hanner ar hyn o bryd ac yn chwarae yn yr ardd goffa.

Gallwch ddarganfod mwy am y gosodwaith trwy chwilio am ‘cân adar’ ar ein gwefan.

Caiff yr atgof am ferch Pauline Harvey, Abigail, ei ddathlu gyda chân y robin, felly mae’r ardd yn golygu llawer iawn iddi hi a’i theulu. Mae Pauline yn myfyrio yma ar lansiad hynod emosiynol Cân Adar:

“Sefais yn y gasebo yn yr Ardd Goffa yn gwrando wrth i gân unigol yr adar ddod o wahanol rannau o’r ardd. Roedd yn ymddangos weithiau bod un aderyn yn dilyn yn syth ar ôl yr un blaenorol, weithiau roedd y bylchau mor hir ei bod yn syndod pan roedd y nesaf yn dechrau. Roedd yr holl ganeuon yn wahanol iawn i’w gilydd, yn unigryw ac yn hyfryd. A digwyddodd rhywbeth a wnaeth fy synnu, roedd yn teimlo fel pe bai’r gawod emosiynol wedi codi a bod yr haul wedi dod allan o’r tu ôl i’r cymylau (parhaodd y glaw go iawn yn ddi-baid, roedd y tywydd yn ofnadwy ac yn amlwg nid oedd ganddo unrhyw synnwyr o achlysur).

“Teimlais gynhesrwydd a chysur aruthrol. Nid oeddwn yn aros i glywed enw Abigail mwyach, nid oedd yn ymddangos bod hynny’n bwysig bellach, roedd yn rhan o’r côr, roedd yn rhan o gân bob aderyn, roedd y cyfnodau o dawelwch yn dathlu pob bywyd byr unigol, ond roedd yn teimlo fel pe bai’r holl blant gyda’i gilydd yng nghân pob aderyn. Nid yw Abigail ar ei phen ei hun, mae hi gyda ffrindiau ac maen nhw’n canu’n braf. “Rwy’n siŵr y bydd pob person sy’n cael y profiad “Bydd yr enwau hyn yn ein ffurfafen am byth” yn teimlo rhywbeth gwahanol. Bydd y profiad yn unigryw iddyn nhw. Mae’n ychwanegiad hyfryd, llawn ysbrydoliaeth, syfrdanol at yr ardd goffa, yr wyf i’n teimlo yn aruthrol o ddiolchgar amdano yn bersonol i T Hafan, yr Artist Sain Justin Wiggan a Phennaeth Gwasanaethau Cymunedol T Hafan ei hun, Tracy Jones."

Cydnabuwyd y gosodwaith gan Gymdeithas Frenhinol Iechyd y Cyhoedd ac fe’i rhoddwyd ar y rhestr fer ar gyfer y Wobr Celfyddydau ym Maes Iechyd, i’w chyhoeddi ddiwedd mis Hydref.

Meddai Brian Medley, sy’n gwirfoddoli fel garddwr i Tyˆ Hafan:

“Nid oes gen i unrhyw gysylltiad personol â T Hafan ac eithrio bod yn fachgen o Benarth ac mae gan bawb ym Mhenarth le yn eu calonnau i’r hosbis leol a’r siop yn y dref.

“Mae’r ardd yn Tyˆ Hafan yn lle da i ddysgu gan y gwirfoddolwyr eraill, y mae gan rai ohonynt erddi a rhandiroedd. Nid yw gweithio mewn gardd fyth yr un fath ddwy wythnos yn olynol. Rwyf i wedi gweld gwelyau blodau yn marw yn yr hydref ac yn cael eu tocio yn y gaeaf. Rwy’n edrych ymlaen yn arw i weld y bywyd newydd yn blaguro yn y gwanwyn, felly rwy’n cael llawer o fwynhad personol ohono.

“Os yw gwella’r amgylchedd yn helpu gyda llesiant, rwy’n teimlo ei fod yn sicr yn ddefnydd gwerth chweil o fy amser a’m hegni. Mae’r ardd yn lle arbennig i’r teuluoedd sy’n ei defnyddio fel ffordd o greu atgofion, yn enwedig gan fod rhai o’r plant mor fregus, ac rwy’n hapus i wybod y gallaf i chwarae rhan fach i’w cynorthwyo.

“Hoffwn ddweud hefyd pa mor arbennig yw hi bod pob aelod o dîm Tyˆ Hafan yr wyf i wedi dod i gysylltiad â nhw yn yr ardd, mewn e-byst ac yn y rhith-gyfarfod Zoom, yn ddieithriad, wedi bod mor werthfawrogol.

Mae’n anhygoel y gall ychydig oriau o waith wneud cymaint i godi ysbryd pawb."

This article is from: