
2 minute read
anrhydeddu ein nyrsys o ynysoedd philippines
Mae pawb yn nheulu Tyˆ Hafan yn gadael eu marc, ni waeth ba mor hir maen nhw gyda ni. Gwnaeth grwˆp o nyrsys gofal lliniarol o Ynysoedd Philippines y daith hir i Sili dros 20 mlynedd yn ôl ac maent wedi bod yn rhan annatod o’r hosbis fyth ers hynny.
Mae Livet Eyao, Emee Miller, Mai Mai Mallari, Myra Belonio, Gigi Ricaforte, Leila Gariando ac Anne Alog wedi gwneud Tyˆ Hafan yn gartref i’w hunain dros y ddau ddegawd diwethaf ac i nodi’r pen-blwydd hwn ar 1 Gorffennaf, talodd Tyˆ Hafan deyrnged i’w hymroddiad, eu haberth personol a’u gwaith caled yn yr hosbis yn Sili.
Meddai Beth Morgan, Pennaeth Gwasanaethau Hosbis:
“Rydym ni yma i gydnabod dau ddegawd o wasanaeth gan y grwˆp ymroddedig hwn o nyrsys o Ynysoedd Philippines.
“Mae ugain mlynedd o nyrsio gofal lliniarol plant yn gyflawniad enfawr ynddo’i hun, ond mae pwysau’r pandemig wedi bod yn her aruthrol iddyn nhw. Mae pawb wedi cael trafferthion drwy gydol y 15 mis diwethaf, ond bu’n rhaid i’r grwˆp hwn o nyrsys Tyˆ Hafan hefyd ymdopi a bod miloedd o filltiroedd i ffwrdd oddi wrth eu teuluoedd a’u hanwyliaid, yn ystod un o’r cyfnodau mwyaf brawychus rwy’n credu y gallwn ni i gyd ei gofio, pan gafodd eu cymuned eu hunain ei tharo yn arbennig o galed gan Covid.
“Er gwaethaf hyn, maen nhw wedi bod yma ddydd ar ôl dydd mewn cyfarpar diogelu personol yn cynorthwyo’r plant a’r teuluoedd yr ydym yn gweithio â nhw.
“Nid oes unrhyw ffordd arall o’i ddweud – rwy’n llawn parch enfawr atyn nhw i gyd. Maen nhw’n bobl arbennig o hyfryd, gofalgar, ymroddedig a hynod broffesiynol. “Mae ethig gwaith y nyrsys heb ei hail ac mae teulu yn hollbwysig iddyn nhw. Yn unigol, ac fel tîm, maen nhw wedi bod yno i Tyˆ Hafan erioed, felly ar ran ein holl gydweithwyr hoffwn ddweud diolch, oherwydd nid yn unig yr wyf i’n ddiolchgar iawn am bopeth y maen nhw’n ei wneud, ond rwyf i hefyd yn ddiolchgar iawn am bopeth ydyn nhw.”
Mae Gigi Ricaforte, Dirprwy Nyrs Arwain, yn cofio symud i Gymru:
“Pan wnaethon ni adael ein cartrefi yn Ynysoedd Philippines i ddod i weithio i Tyˆ Hafan, rhoddwyd y cyfle i ni gael gwell bywyd. Daethom ni yma ar gyfer y swyddi. Doedden ni ddim yn sylweddoli bryd hynny ei fod yn gymaint mwy na gwaith ac er ein bod ni wedi gadael ein teuluoedd ein hunain gartref, roeddem yn ymuno â theulu Tyˆ Hafan.
“Rydym ni wedi bod mor ddiolchgar am hyn erioed. Rydym ni’n caru’r hyn rydym ni’n ei wneud, ac rydym ni’n ei wneud o waelod ein calonnau.”
Meddai Anne Alog, Nyrs Arwain, sydd wedi bod yn gweithio i Tyˆ Hafan
ers 2001: “Doedden ni ddim yn gwybod beth i’w ddisgwyl pan wnaethon ni gyrraedd gyntaf, ond rydym ni wedi cael y cyfle i dyfu a datblygu ein sgiliau. Mae’n fraint gweithio yn Tyˆ Hafan.”
Talodd y Prif Weithredwr Maria Timon Samra deyrnged i’r nyrsys:
“Rydych chi wedi rhoi ugain mlynedd o’ch bywydau proffesiynol i’n helusen. Mae’r hyn rydych chi wedi ei wneud i blant â chyflyrau sy’n cyfyngu ar fywyd a’u teuluoedd yr ydym ni’n gofalu amdanyn nhw, yn anhygoel.”