Eich Cam Nesaf
Gwlad arall yn yr UE
Mae’n bosibl y cewch gymorth ar gyfer ffïoedd dysgu ar sail debyg i fyfyrwyr y DU ond ni fyddwch yn gymwys i wneud cais am Fenthyciad Myfyriwr na Grantiau Atodol. Am ffurflen gais i gael help gyda ffïoedd dysgu, cysylltwch â: Student Finance Services non-UK Team Student Loans Company PO Box 89 Darlington County Durham England DL1 9AZ Ffôn: +44 (0)141 243 3570 Cysylltwch â'r Gwasanaethau Myfyrwyr: Caerfyrddin: +44 (0)1267 676830 Llambed: +44 (0)1570 424722 Abertawe: +44 (0)1792 481123
Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Mae nifer o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ar gael gan y Brifysgol i roi cymorth ariannol ychwanegol i fyfyrwyr israddedig. Dosberthir pob ysgoloriaeth a bwrsariaeth i geisiadau llwyddiannus trwy’r Gwasanaethau Myfyrwyr ar bob campws. Ymhlith yr enghreifftiau o ysgoloriaethau a bwrsariaethau sydd ar gael mae:
Ysgoloriaethau Adrannol
Mae nifer o ysgoloriaethau ar gael i fyfyrwyr israddedig ym mhob maes academaidd.
Bwrsariaeth Y Drindod Dewi Sant Mae’r Brifysgol yn cynnig nifer o fwrsariaethau sydd wedi’u hanelu at fyfyrwyr llawn amser o gartrefi incwm isel.
270
Ysgoloriaethau cyfrwng Cymraeg/Dwyieithog
Mae gan y Brifysgol ysgoloriaethau sylweddol am gredydau a gwblhawyd yn llwyddiannus drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Mae'n rhaid i’r modylau fod o leiaf 50% dwyieithog. Yn ogystal, mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnig ysgoloriaethau ychwanegol i bobl sy’n astudio eu gradd drwy gyfrwng y Gymraeg. Am ragor o wybodaeth, ewch i www.colegcymraeg.ac.uk
Interniaethau
Ar ôl ichi ddechrau eich cwrs israddedig, mae'n bosibl y gallwch wneud cais am fwrsariaeth i’ch cynorthwyo i gael profiad gwaith gwirfoddol, sy'n berthnasol i'ch cwrs, yn ystod gwyliau'r haf.
Bwrsariaethau Gofal Plant
Mae’n bosibl bod cymorth ariannol ar gael i’r myfyrwyr hynny sydd ddim yn gymwys ar gyfer Grant Gofal Plant.
Bwrsariaethau Preswyl
Mae nifer o fwrsariaethau preswyl sy’n dibynnu ar brawf modd ar gael i fyfyrwyr israddedig sy’n talu ffïoedd llawn.