Haf/Hydref 2013
Dudalen 5
(O dudalen 4)
Bydd y Gymuned Ymarfer ar gyfer Ymddygiad Heriol yn edrych ar y Cynllun Gweithredu eto yn eu cyfarfod ar 18 Medi ac yn penderfynu pa 5 syniad maen nhw'n meddwl sydd fwyaf pwysig. Byddan nhw hefyd yn dewis aelodau o'r Gymuned Ymarfer ar gyfer Ymddygiad Heriol i ymuno ag isgrŵp y Grŵp Cynghori i gael gwell gofal i bobl ag anableddau dysgu a phobl ag ymddygiad heriol yng Nghymru. “To catch the reader's attention, place an
Digwyddiad 30 Mlynedd a Dal i Gyfrif
interesting sentence or quote from the story here.”
Mae'r Grŵp Cynghori yn cynnal digwyddiad i ddathlu 30 mlynedd o Strategaeth Cymru Gyfan. Roedd Strategaeth Cymru Gyfan ynghylch pobl ag anabledd dysgu yn symud i'r gymuned yn lle byw mewn ysbytai mawr fel Trelai a Hensol. Mae Mencap Cymru, Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan, Anabledd Dysgu Cymru a Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan wedi bod yn cynllunio'r digwyddiad. Maen nhw wedi gwahodd pobl ag anabledd dysgu, teuluoedd, gofalwyr a phobl broffesiynol i ddod i'r digwyddiad. Bydd Gwenda Thomas, Dirprwy Weinidog y Gwasanaethau Cymdeithasol yn siarad yn y digwyddiad. (Muy ar dudalen 6)