Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru - Prospectws

Page 1


Cynnwys

Cynnwys

02

08

Lleoliad Eiconig

Safonau Proffesiynol

04

10

Dinas Greadigol

Amrywiaeth Creadigol

06 Gyda diolch i’n holl fyfyrwyr, presennol a’r gorffennol, y mae eu lluniau a’u gwaith yn ymddangos yn y cyhoeddiad hwn.

Amgylchedd Deinamig

12 Cymuned Glos


Cynnwys

Cyrsiau

16

36

46

54

Cerddoriaeth

Theatr Gerdd

CBCDC Ifanc

26

40

Cynllunio ar gyfer Perfformiad

Opera

Rheoli Llwyfan a Theatr Dechnegol

30

52

62 Ffyrdd i Gefnogi

Rheolaeth yn y Celfyddydau

Actio

64 Gwybodaeth Bellach

www.cbcdc.ac.uk

1


Lleoliad Eiconig

Lleoliad Eiconig Fel man i hyfforddi ar gyfer gyrfa mewn perfformio, mae’n anodd cael gwell lleoliad na Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

M

ae’n un o dirnodau mwyaf cyfarwydd dinas Caerdydd ac mae’n cynnig amgylchedd hyfforddi o’r radd flaenaf i’w fyfyrwyr yng nghanol prifddinas sy’n ffynnu. Mae pensaernïaeth drawiadol y Coleg yn cynnwys neuadd ddatganiad cerddoriaeth siambr gydag acwsteg ragorol, theatr cwrt hardd, stiwdios symud a dawns gyda’r mwyaf modern a gofod cyntedd ac oriel arddangos trawiadol. Ei gymydog agosaf yw Castell Caerdydd a gofod gwyrdd trefol eang a hanesyddol Parc Bute yw ei ardd gefn.

2

www.cbcdc.ac.uk


Lleoliad Eiconig

www.cbcdc.ac.uk

3


Dinas Greadigol

©

4

www.cbcdc.ac.uk


Dinas Greadigol

Dinas Greadigol Caerdydd, prifddinas Cymru, yw un o ddinasoedd prifysgol mwyaf poblogaidd y DU, ac mae’n fwrlwm o egni creadigol ifanc.

M

ae amrediad trawiadol o leoliadau chwaraeon a diwylliannol y ddinas i gyd o fewn taith ar droed o’r Coleg. Bydd Caerdydd yn cyflwyno rhaglen llawn dychymyg o ddigwyddiadau a gwyliau, a chewch yr holl ddewisiadau bwyta, siopa a bywyd nos y byddech yn ei ddisgwyl mewn prifddinas Ewropeaidd ffyniannus. Gyda’r sector creadigol yn ffynnu yng Nghymru, mae cyfleoedd cyffrous i’n myfyrwyr a’n graddedigion gael profiad a dod o hyd i waith. Mae Caerdydd yn gartref i gwmnïau celfyddydol cenedlaethol Cymru ac i ganolfan cynhyrchu drama fwyaf y BBC tu allan i Lundain.

www.cbcdc.ac.uk

5


Amgylchedd Deinamig

Amgylchedd Deinamig

6

www.cbcdc.ac.uk


Amgylchedd Deinamig

Yn ogystal â bod yn Gonservatoire Cenedlaethol Cymru, mae’r Coleg hefyd yn boblogaidd gyda chynulleidfaoedd ac mae’n un o leoliadau celfyddydau prysuraf Caerdydd.

Y

n ogystal â rhaglen amrywiol o berfformiadau, sy’n cynnwys myfyrwyr o bob disgyblaeth, mae’r Coleg yn denu artistiaid rhyngwladol blaenllaw, gan roi cyfle i fyfyrwyr ddysgu gan rai o berfformwyr mwyaf adnabyddus y byd.

Mae’r Coleg hefyd wedi cael ei ddewis fel lleoliad i gynnal digwyddiadau a gwyliau rhyngwladol mawr yn cynnwys World Stage Design a BBC Canwr y Byd Caerdydd, gan roi myfyrwyr yng nghanol gweithgaredd byd-eang yn y meysydd hyn. Yn 2020 bydd CBCDC yn croesawu Cyngres Delynau’r Byd.

www.cbcdc.ac.uk

7


Safonau Proffesiynol

Safonau Proffesiynol Mae amodau ac arferion diweddaraf y byd proffesiynol yn rhoi’r glasbrint ar gyfer yr hyfforddiant a gynigir yn CBCDC.

M

ae holl aelodau’r staff addysgu yn parhau’n weithgar o fewn eu proffesiynau ac yn defnyddio eu profiad proffesiynol eu hunain i sicrhau bod yr hyfforddiant yn CBCDC wedi’i lywio gan y galwadau diweddaraf o fyd y celfyddydau a’r diwydiannau creadigol. Ceir hefyd fewnbwn rheolaidd gan ffigurau ysbrydoledig o fewn rhwydwaith ehangach y Coleg sy’n cynnwys artistiaid, cyfarwyddwyr, arweinwyr ac ymarferwyr rhyngwladol eraill. Mae cydweithrediadau gydag Opera Cenedlaethol Cymru a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, a gydag ysgrifenwyr newydd, cyfarwyddwyr sy’n dod i’r amlwg a chyfansoddwyr yn rhoi profiad hollbwysig pellach i rwydweithiau proffesiynol.

8

www.cbcdc.ac.uk


Safonau Proffesiynol

www.cbcdc.ac.uk

9


Amrywiaeth Creadigol

Amrywiaeth Creadigol Mae cyfuniad unigryw y Coleg o gyrsiau yn rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr gymryd rhan mewn pob math o gydweithrediadau creadigol.

10

www.cbcdc.ac.uk


Amrywiaeth Creadigol

G

yda pherfformwyr yn gweithio ochr yn ochr â chyfansoddwyr, cynllunwyr, arbenigwyr cefn llwyfan a rheolwyr yn y celfyddydau, mae ansawdd yr allbwn creadigol yn rhagorol. Bydd myfyrwyr o bob disgyblaeth yn gweithio ochr yn ochr ar gyngherddau, arddangosfeydd, cynyrchiadau opera, drama a theatr gerdd drwy gydol y flwyddyn. Mae’r Coleg yn hyrwyddo dull

entrepreneuraidd ar gyfer creu gyrfa, gan roi mynediad at gyfleusterau a gofodau penodedig yn yr amserlen i fyfyrwyr ddatblygu eu prosiectau eu hunain. Mae hon yn agwedd bwysig o brofiad CBCDC sy’n caniatáu i fyfyrwyr ddatblygu ystod o sgiliau proffesiynol, darganfod llwybrau gyrfa newydd a datblygu’r rhwydweithiau a fydd yn sail i’w bywydau proffesiynol.

www.cbcdc.ac.uk

11


Cymuned Glos

Cymuned Glos Fel coleg llai gydag ychydig dros 600 o fyfyrwyr, ceir ynddo deimlad cryf o gymuned.

12

www.cbcdc.ac.uk


Cymuned Glos

R

ydym yn ymfalchïo ein bod yn darparu lefel eithriadol o sylw unigol, yn academaidd ac o ran lles. Mae staff ymroddedig yn darparu cefnogaeth a chyngor i fyfyrwyr sydd ag ystod o wahanol anghenion o swyddfeydd sydd wedi’u lleoli’n ganolog drws nesaf i ystafell gyffredin, siop, bar a ffreutur y myfyrwyr.

Mae digwyddiadau cymdeithasol rheolaidd yn cynnwys nosweithiau meic agored, partïon thema ar ddiwedd tymor ac wrth gwrs Dawns yr Haf, sy’n uchafbwynt y calendr cymdeithasol. Mae clybiau a chymdeithasau o fewn y Coleg yn cynnwys yr Undeb Cristnogol ac LGBT, pêl-droed a rygbi, yoga, pilates a hyfforddiant cylchedau.

Bydd pob myfyriwr yn sicr o gael ystafell wely astudio gydag ystafell ymolchi mewn fflat a rennir yn y neuaddau preswyl, sydd ar safle diogel ac wedi’i reoli’n llawn dim ond taith ddeng munud ar droed o’r Coleg. Mae Undeb y Myfyrwyr yn cynnal rhaglen hynod lwyddiannus i helpu myfyrwyr newydd i ddod o hyd i gyd-letywyr addas cyn eu bod yn cyrraedd.

www.cbcdc.ac.uk

13


Title TitleCyrsiau Cynnwys

Opera

Cynnwys Cyrsiau

Cerddoriaeth

30 - 33

Actio

26 - 27

16 - 23

36 - 37 14

www.cbcdc.ac.uk

Theatr Gerdd


46 - 49

40 - 43

Rheoli Llwyfan a Theatr Dechnegol

Cynllunio ar gyfer Perfformiad

Cynnwys Cyrsiau

54 - 55

52 - 53

CBCDC Ifanc

Rheolaeth yn y Celfyddydau www.cbcdc.ac.uk

15


Cerddoriaeth

Cerddoriaeth

Llun: Mentora Cerddoriaeth Siambr gyda Thriawd Piano Gould.

Adlewyrchir amrywiaeth y proffesiwn cerddoriaeth yn y cyfleoedd sydd ar gael i fyfyrwyr o’u diwrnod cyntaf yn CBCDC.

Mae’n ficrocosm o fyd y celfyddydau o dan yr unto ac, am ychydig flynyddoedd, mae’r cwbl ar gael i chi. Catrin Finch, Telynor Rhyngwladol ac Artist Preswyl

16

www.cbcdc.ac.uk


Cerddoriaeth

 LEFEL

 CWRS

 HYD

Rhaglenni Gradd

BMus (Anrh) Cerddoriaeth BMus (Anrh) Jazz

4 Blynedd

Diploma Ôl-raddedig mewn Ymarfer Proffesiynol Uwch

1 Flwyddyn

MA mewn Cyfarwyddo Opera

1 Flwyddyn

MA mewn Perfformio Opera Uwch

2 Flynedd

MA mewn Astudiaethau Repetiteur

2 Flynedd

MA neu Diploma Ôl-raddedig mewn Jazz

2 Flynedd

MMus neu Diploma

2 Flynedd

Ôl-raddedig

(opsiwn 1 flwyddyn ar gael mewn rhai achosion)

Rhaglenni Ôl-radd

• Perfformio Cerddoriaeth • Perfformio Cerddorfaol

ADDYSGU O’R RADD FLAENAF O athrawon un i un, cyfeilyddion a hyfforddwyr ensemble i arweinyddion gwadd ac artistiaid rhyngwladol ar ymweliad, mae rhai o gerddorion mwyaf ysbrydoledig y byd yn cyfrannu i brofiad hyfforddiant y myfyrwyr.

Yn ogystal â gwersi un i un (fel arfer yn wythnosol) bydd offerynwyr a chantorion yn gweithio’n annibynnol gydag un o gyfeilyddion proffesiynol y Coleg er mwyn archwilio repertoire a datblygu cyd-destun cydweithredol ar gyfer eu perfformiadau.

• Perfformio Hanesyddol • Perfformio Chwythbrennau Aml-offeryn • Piano Cydweithredol • Arwain Cerddorfaol • Arwain Band Pres • Arwain Corawl • Cyfansoddi

www.rwcmd.ac.uk/music

Mae’r dosbarthiadau meistr wedi cael effaith enfawr ar fy nysgu a sut rydw i’n edrych ar berfformio. Sioned Evans

Llun: Dosbarth Meistr gyda’r deuawd piano rhyngwladol, The Labèque Sisters.

www.cbcdc.ac.uk

17


Cerddoriaeth

HYFFORDDIANT A MENTORA Mae CBCDC yn rhoi pwyslais mawr ar ddatblygu cerddorion cyflogadwy gyda sgiliau cryf mewn creu cerddoriaeth ar y cyd. Mae pob offerynnwr yn aelod o o leiaf un grŵp siambr, gyda hyfforddiant a mentora rheolaidd gan weithwyr proffesiynol blaenllaw.

18

www.cbcdc.ac.uk

Mewn grŵp bach, nid oes unman i guddio. Dyma’r hyfforddiant gorau. Simon Jones, Pennaeth Perfformio Llinynnau


Cerddoriaeth

Rydych yn cael llwyth o gyfleoedd i chwarae mewn grŵp. Mae’n debyg i redeg busnes bach ac mae hynny’n eich paratoi ar gyfer bywyd ar ôl y Coleg. Tom Taffinder, New British Winds

Llun: Unawdwyr Llinynnau CBCDC gyda’r cyfarwyddwr gwadd Henning Kraggerud.

PERFFORMIO ENSEMBLE Mae rhaglen ein Gwyliau Cerddoriaeth Siambr yn cynnwys perfformiadau myfyrwyr ochr yn ochr â datganiadau gan artistiaid rhyngwladol. Mae’r gyfres Dyddiau Mawrth Siambr poblogaidd yn rhoi rhagor o gyfleoedd ar gyfer perfformiadau cyhoeddus drwy gydol y flwyddyn, gyda’r grwpiau mwyaf llwyddiannus yn gallu sicrhau gwaith drwy raglen ‘Llogi Perfformiwr’ y Coleg. Mae nifer hefyd wedi clyweld yn llwyddiannus ar gyfer menter Cerdd Byw Nawr! a ariennir gan Yehudi Menuhin OM KBE ac Ian Stoutzker CBE. www.cbcdc.ac.uk

19


Cerddoriaeth

Llun: Cerddorfa Symffoni CBCDC yn Neuadd Dewi Sant gyda’r Maestro Carlo Rizzi a’r unawdwyr Simon Keenlyside, Adrian Thompson ac Alwyn Mellor.

HYFFORDDIANT CERDDORFAOL Mae gan y Coleg gysylltiadau cryf gyda dwy o brif gerddorfeydd proffesiynol y DU - Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru, ac mae’r ddwy yn cynnig ystod o gyfleoedd i fyfyrwyr CBCDC gael mewnwelediadau ymarferol i ofynion chwarae mewn cerddorfa broffesiynol. Yn ogystal â’r Gerddorfa Symffoni, sy’n perfformio gweithiau ar raddfa fawr yn Neuadd Dewi Sant, mae’r Gerddorfa Siambr yn cyflwyno rhaglenni yn Neuadd Dora Stoutzker y Coleg yn ogystal â darparu cefnogaeth mewn cynyrchiadau opera a pherfformiadau gala. Llun: Y feiolinydd Jess Townsend gyda David Adams, arweinydd Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru.

20

www.cbcdc.ac.uk


Cerddoriaeth

GYRFAOEDD GRADDEDIGION Tianyi Lu Cerddorfa Symffoni CBCDC, Cynorthwyydd Gwadd i Carlo Rizzi Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Cynorthwyydd Gwadd i Thomas Søndergård Cerddorfa Halle, Cynorthwyydd Gwadd i Syr Mark Elder

Gwobr Stoutzker yw cystadleuaeth fwyaf nodedig y Coleg ar gyfer unawdwyr. Bydd y cystadleuwyr sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn perfformio i gyfeiliant Cerddorfa Siambr CBCDC yn Neuadd Dora Stoutzker.

www.cbcdc.ac.uk

Cymrawd Gustavo Dudamel, Cerddorfa Ffilharmonig Los Angeles Penodwyd yn Arweinydd Cynorthwyol Cerddorfa Symffoni Melbourne (2017)

21


Cerddoriaeth

Rydych chi’n wych. Mae rhywbeth yn y dŵr yma. Quincy Jones

JAZZ Mae cerddorion jazz CBCDC yn chwarae i gyntedd gorlawn yn y sesiwn AmserJazzTime reolaidd ar nos Wener, sydd hefyd yn teithio i amrywiol fannau ledled y wlad. Bydd myfyrwyr hefyd yn perfformio ochr yn ochr ag artistiaid adnabyddus yn ein gŵyl dridiau AmserTazzTime flynyddol. Mae ymddangosiadau diweddar wedi cynnwys Gŵyl Jazz Llundain.

Mae’r drymiwr jazz Ollie Howell wedi cael ei fentora gan yr arwr cerddoriaeth Quincy Jones ers iddynt gyfarfod gyntaf yn CBCDC. Yn 2017, perfformiodd Ollie yn y cyfnod preswyl agoriadol yn ‘Q’s’ yn Dubai - clwb jazz cyntaf Quincy Jones.

22

www.cbcdc.ac.uk


Cerddoriaeth

CYFANSODDI Yn ychwanegol at y cyfleodd i gydweithio a gynigir drwy’r Coleg, anogir myfyrwyr gyfansoddwyr i wneud cysylltiadau proffesiynol ac yn ddiweddar maent wedi gweithio ar brosiectau gyda chwmnïau dawns, opera a theatr, cynhyrchwyr teledu, gwneuthurwyr ffilm ac artistiaid.

Mae’r ŵyl undydd flynyddol Awyrgylch yn cynnwys cymysgedd eclectig o berfformiadau premiere byd yn amrywio o berfformiadau byw ac electronig i archwiliadau traws genre a seinluniau ymdrwythol.

©

SGILIAU PROFFESIYNOL Gyda’r bwriad o ymestyn a datblygu eu cynlluniau gyrfa, mae cyfleoedd i fyfyrwyr gymryd rhan mewn prosiectau a datblygu sgiliau mewn addysgu, gwaith allgymorth, arwain gweithdy, cyfansoddi a threfnu, rheoli cyngerdd ac elfennau o reolaeth yn y celfyddydau.

Llun: Prosiect allgymorth Opera Ysgolion.

www.cbcdc.ac.uk

23



Llun gan Kiran Ridley Llun: Neuadd Dora Stoutzker yn CBCDC.


Opera

AR Y CYD AG OPERA CENEDLAETHOL CYMRU

Opera

Llun: Dosbarth meistr cyhoeddus gyda Chyfarwyddwr Artistig Opera Cenedlaethol Cymru, David Pountney yn CBCDC yn ystod BBC Canwr y Byd Caerdydd 2017.

Mae Ysgol Opera David Seligman yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn darparu un o’r profiadau hyfforddiant opera mwyaf integredig sydd ar gael yn unrhyw le’n y byd.  LEFEL

 CWRS

 HYD

Rhaglenni Ôl-radd

MA Perfformio Opera Uwch

2 Flynedd

MA Astudiaethau Répétiteur

2 Flynedd

MA Cyfarwyddo Opera

1 Flwyddyn

www.rwcmd.ac.uk/opera 26

www.cbcdc.ac.uk

Rydym angen y mynediad gorau posibl at dalentau sy’n dod i’r amlwg. David Pountney, Cyfarwyddwr Artistig, Opera Cenedlaethol Cymru

Mae cyfleoedd ar gael hefyd i gerddorion cerddorfaol, arweinwyr, cyfansoddwyr, cynllunwyr a myfyrwyr rheoli llwyfan.


Opera

Llun: Cynhyrchiad CBCDC o Falstaff yn Theatr Sherman, wedi’i arwain gan Carlo Rizzi a’i gyfarwyddo gan Martin Constantine.

GYRFAOEDD GRADDEDIGION Justina Gringyte Stiwdio Opera Genedlaethol Artist Ifanc Jette Parker Tŷ Opera Brenhinol Maddalena, Rigoletto, Tŷ Opera Brenhinol Fenena, Nabucco gydag Opera Cenedlaethol Cymru Canwr Ifanc y Flwyddyn Gwobrau Opera Rhyngwladol 2015 Carmen, English National Opera

Aeth Trystan Llŷr Griffiths (tenor) ymlaen i gwblhau ei hyfforddiant yn y Stiwdio Opera Genedlaethol, ac ymunodd a’r Stiwdio Opera Ryngwladol yn Zürich ar gyfer tymor 2016/17. Ymunodd y pianydd David Doidge â’r staff cerddoriaeth yn Opera Cenedlaethol Cymru yn union wedi graddio o’r Coleg. www.cbcdc.ac.uk

27



Llun gan Robert Workman Llun: Cynhyrchiad CBCDC o Street Scene yn Theatr Sherman, 2017.


Actio

Actio

Un o’r cyrsiau hyfforddi actorion mwyaf trylwyr a heriol yn Ewrop.

YSGOL DRAMA ORAU’R DU*

 LEFEL

 CWRS

 HYD

Rhaglenni Gradd

BA (Anrh) Actio

3 Blynedd

Rhaglenni Ôl-radd

MA Actio ar gyfer y Llwyfan, Sgrin a Radio

1 Flwyddyn (ynghyd â Phrosiect Perfformiad Annibynnol)

Simon Stephens, Dramodydd

www.rwcmd.ac.uk/acting

*Canllaw Prifysgolion The Guardian 2019

30

www.cbcdc.ac.uk


Actio

CWMNI RICHARD BURTON Ar gyfer blwyddyn olaf eu hyfforddiant mae’r actorion yn ymuno â Chwmni Richard Burton, ynghyd â myfyrwyr o’r cyrsiau rheoli a chynllunio llwyfan. Gan weithio gyda chyfarwyddwr a goruchwylwyr cynhyrchu proffesiynol, mae’r cwmni’n cynhyrchu tua 15 sioe bob blwyddyn, yn amrywio o ddramâu clasurol i ddrama gyfoes.

YSGRIFENNU NEWYDD Mae gŵyl ysgrifennu newydd flynyddol y Coleg yn rhoi cyfle i actorion weithio’n agos gydag ysgrifenwyr a chyfarwyddwyr ifanc ar ddramâu a gomisiynir gan CBCDC mewn cydweithrediad â The Royal Court, Paines Plough a Theatr Sherman. Bydd cynyrchiadau yn agor yn CBCDC cyn symud i Theatr y Gate yn Llundain. Mae’r cyrsiau hefyd yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr archwilio eu gwaith eu hunain, datblygu gwaith gwreiddiol a chymryd rhan mewn dosbarthiadau meistr gyda rhai o ysgrifenwyr mwyaf cyffrous y DU.

PERFFORMIADAU STONDIN ACTIO Mae stondinau actio blynyddol yng Nghaerdydd yn rhoi myfyrwyr blwyddyn olaf o flaen prif asiantau a chyfarwyddwyr castio. Llynedd cynhaliodd y Coleg ei Stondin Actio gyntaf yn Efrog Newydd a bydd yn dychwelyd yno yn 2017.

Llun: Yr actor Matthew Rhys yn cwrdd â myfyrwyr a graddedigion yn Stondin Actio Efrog Newydd.

www.cbcdc.ac.uk

31


Actio

Cafodd Anthony Boyle ei gastio i chwarae rhan Scorpius Malfoy yn y cynhyrchiad gwreiddiol o Harry Potter and the Cursed Child yn ystod ei dymor olaf yn CBCDC. Enillodd Wobr Olivier yr Actor Cefnogi Gorau am ei berfformiad ac mae’n atgyfodi’r rôl ar gyfer y cynhyrchiad Broadway yn 2018.

Seren y sioe. The Evening Standard

Mae actorion yn gweithio ar leoliad gyda chriw proffesiynol i ddeall galwadau penodol gwaith ffilm a theledu.

DOSBARTHIADAU MEISTR

Llun: Dosbarth meistr theatr gorfforol gyda Rakie Ayola.

Mae Cyfres Dosbarthiadau Meistr y Coleg yn rhoi cyfleoedd i rwydweithio gyda gweithwyr proffesiynol blaenllaw a chael cyngor arbenigol ar bopeth, o dechneg clyweld i weithio gydag asiantau.

Ymunodd Rakie Ayola â chast Harry Potter and the Cursed Child yn Llundain yn 2017 fel yr Hermione Granger yn oedolyn. 32

www.cbcdc.ac.uk


Actio

Roeddwn ofn y byddai theatr yn fawreddog a fyddwn i ddim yn ei ddeall. Sophie Melville

© Sherman Theatre

Fortune’s Fool, Theatr Old Vic

Yr hyn y mae CBCDC yn wych am ei wneud yw cynnig amrywiaeth o wahanol brosiectau drwy gydol eich hyfforddiant er mwyn eich paratoi ar gyfer y byd tu allan.

Versailles, Teledu BBC

Alex Vlahos

GYRFAOEDD GRADDEDIGION Alex Vlahos Doctors, BBC Cymru Wales Merlin, Teledu BBC Privates, Teledu BBC Macbeth gyda Syr Kenneth Branagh, Gŵyl Ryngwladol Manceinion

Am ei pherfformiad ‘ysgubol’ yn y sioe un fenyw Iphigenia in Splott gan y dramodydd Gary Owen, enillodd Sophie Melville Wobr The Stage am Ragoriaeth Actio yng Ngŵyl Ymylol Caeredin ac enwebiad am yr Actores Orau yng Ngwobrau’r Evening Standard pan symudodd cynhyrchiad Theatr Sherman i’r National Theatre yn Llundain.

100% BODLONRWYDD MYFYRWYR*

*Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2017

www.cbcdc.ac.uk

33


Llun: Cynhyrchiad Cwmni Richard Burton o Dying for It gan gyn-fyfyriwr CBCDC Moira Buffini, 2017.


Llun gan Craig Sudgen


Theatr Gerdd

Theatr Gerdd

Bydd myfyrwyr yn perfformio mewn cabaret a chynyrchiadau arddangos cyhoeddus yn ogystal ag mewn cynhyrchiad prif lwyfan. Mae cynyrchiadau diweddar wedi cynnwys Sweeney Todd, Cabaret (llun), Into the Woods a Rent.

DIM OND 12 LLE SYDD AR GAEL

Mae’r cwrs MA Theatr Gerdd wedi datblygu’n gyflym i fod yn un o brif gyrsiau CBCDC, gan ddenu sylw a chefnogaeth rhai o enwau mwyaf y diwydiant. Mae’r cwrs yn rhoi myfyrwyr yng nghanol cymuned greadigol amrywiol y Coleg, gan gydweithio’n agos gyda’r adrannau cerddoriaeth, cynhyrchu a chynllunio.  LEFEL

 CWRS

 HYD

Cwrs Ôl-radd

MA Theatr Gerdd

1 Flwyddyn

www.rwcmd.ac.uk/musicaltheatre

36

www.cbcdc.ac.uk


Theatr Gerdd

GYRFAOEDD GRADDEDIGION

Bydd Vikki Bebb yn perfformio’r brif ran ym mherfformiad premiere byd Canolfan Mileniwm Cymru o Tiger Bay the Musical yn 2017. Bydd ei chyd-raddedigion Emma Warren a Kayed Mohammed Mason hefyd yn ymuno â’r cast.

Luke McCall Ysgolor Andrew Lloyd Webber 2014 Canwr Ifanc y Flwyddyn Theatr Gerdd Cymru Les Miserables, Theatr Queen’s, Llundain Phantom of the Opera, Theatr Her Majesty’s, Llundain

Llun: Un o’n graddedigion diweddar Vikki Bebb mewn Perfformiad Gala arbennig ar gyfer y Fonesig Shirley Bassey yn 2016.

PERFFORMIADAU STONDINAU SIOE GERDD Mae Stondinau Sioe Gerdd yng Nghaerdydd a Llundain yn gosod myfyrwyr blwyddyn olaf ar lwyfan o flaen asiantau a chyfarwyddwyr castio blaenllaw. Llynedd llwyfannodd y Coleg ei Stondin Sioe Gerdd UDA gyntaf yn Efrog Newydd, a oedd yn cynnwys ein graddedigion Gogledd America. Byddwn yn dychwelyd i Efrog Newydd yn ddiweddarach eleni.

YSGOLORIAETHAU Darperir ysgoloriaethau ffioedd llawn ar gyfer yr MA mewn Theatr Gerdd yn flynyddol gan Gymrawd y Coleg, yr Arglwydd Andrew Lloyd Webber, a gan Sefydliad Cameron Makintosh.

Llun: Arglwydd Andrew Lloyd Webber yn Neuadd Dora Stoutzker CBCDC.

www.cbcdc.ac.uk

37



Llun gan Kirsten McTernan Llun: Rifiw theatr gerdd Larger Than Life yn Stiwdio’r Fonesig Shirley Bassey CBCDC, 2017.


Rheoli Llwyfan a Theatr Dechnegol

Rheoli Llwyfan a Theatr Dechnegol

40

www.cbcdc.ac.uk


Rheoli Llwyfan a Theatr Dechnegol

Yn wahanol i lawer o opsiynau hyfforddiant sydd ar gael i bobl sydd eisiau gweithio yn y proffesiynau cefn llwyfan, mae cwrs CBCDC yn cyfuno hyfforddiant eang mewn sgiliau technegol craidd, cynllunio sain a golau, ac ystod eang o sgiliau rheoli llwyfan.

 LEFEL

 CWRS

 HYD

Rhaglenni Gradd

BA (Anrh) Rheoli Llwyfan a Theatr Dechnegol

3 Blynedd

Ystod eang o hyfforddiant a phrofiad mewn rheoli llwyfan, sgiliau technegol, cynllunio sain a golau Rhaglenni Ôl-radd

MA Rheoli Llwyfan a Digwyddiadau

1 Flwyddyn llawn amser a modiwl seiliedig ar waith

www.rwcmd.ac.uk/stageman

100% CYFLOGAETH GRADDEDIGION*

LLEOLIADAU CYNHYRCHU Caiff myfyrwyr brofiad ymarferol eang mewn ystod o rolau technegol a chynhyrchu ar draws meysydd drama, theatr gerdd, opera a digwyddiadau cerddoriaeth. Fel rhan o Gwmni Richard Burton y Coleg (gweler tudalen 35) maent yn rhan mewn cynhyrchu tua 15 o sioeau bob blwyddyn, yn amrywio o gynyrchiadau teithio ar raddfa fechan o ddramâu newydd wedi’u comisiynu’n benodol i sioeau cerdd wedi’u llwyfannu’n llawn. *UNISTATS 2017

www.cbcdc.ac.uk

41


Rheoli Llwyfan a Theatr Dechnegol

Mae pob myfyriwr yn cymryd rhan mewn hyd at dri lleoliad profiad gwaith proffesiynol gyda chwmnïau allanol yn y DU a thramor.

Mae myfyrwyr rheoli llwyfan yn cyflawni’r rolau technegol a chynhyrchu allweddol ar holl gynyrchiadau’r Coleg.

©

Bob haf, bydd rheolwyr llwyfan CBCDC yn cynnal Venue 13 yng Ngŵyl Ymylol Caeredin, gan ddarparu cefnogaeth cynhyrchu lawn i 150 o berfformiadau proffesiynol yn ystod yr ŵyl tair wythnos. 42

www.cbcdc.ac.uk


Rheoli Llwyfan a Theatr Dechnegol

GYRFAOEDD GRADDEDIGION Tim Routledge Seremonïau Agor a Chloi Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd Llundain 2012 Cyngerdd Jiwbilî Diemwnt y Frenhines, Palas Buckingham, 2013 Taith Byd Formation Beyoncé 2016 Cyfarwyddwr Goleuo Rowndiau Terfynol Byw X Factor 2016

Mae graddedigion CBCDC yn llenwi prif rolau rheoli llwyfan yng nghynhyrchiad teithiol y DU o Warhorse. Sarah- Jayne Davies yw Rheolwr Llwyfan; Elli Andrews, Dirprwy Reolwr Llwyfan; Chris Deasey, Rheolwr Llwyfan Cynorthwyol/Llyfr Wrth Gefn a Mark Davies, Prif Rigiwr. Daw’r cynhyrchiad i Gaerdydd ym mis Gorffennaf 2018.

© National Theatre Gweithiodd Sam Griesser (chwith) ac un o’i gyd-raddedigion Tafara Takavarasha ar daith y DU o Wicked fel rhan o’u cwrs, ac ers graddio maent wedi gweithio gyda’i gilydd fel Rheolwyr Llwyfan Cynorthwyol ar Sleeping Beauty a The Red Shoes Matthew Bourne.

Nid yw’n gwrs ysgafn – weithiau fe fyddwch yn gweithio o 9am hyd 10pm, ond mae’n adlewyrchu’r diwydiant. Sam Griesser

www.cbcdc.ac.uk

43


Llun: Cyfarwyddwr ar ymweliad Iqbal Khan (RSC) mewn rihyrsal ar gyfer The Taming of the Shrew yn Theatr Richard Burton CBCDC.


Llun gan Kirsten McTernan


Cynllunio ar Gyfer Perfformiad

Cynllunio ar Gyfer Perfformiad

Mae CBCDC yn arweinydd byd mewn hyfforddi cynllunwyr ar gyfer perfformiad. Bydd myfyrwyr yn canfod eu hunain nid yn unig yng nghanol cymuned greadigol amrywiol y Coleg, ond hefyd gweithgarwch rhyngwladol yn y maes.

100% BODLONRWYDD MYFYRWYR*

*Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2017

46

www.cbcdc.ac.uk


Cynllunio ar Gyfer Perfformiad

 LEFEL

 CWRS

 HYD

Rhaglenni Gradd

BA (Anrh) Cynllunio ar gyfer Perfformiad

3 Blynedd

Ystod lawn o hyfforddiant a phrofiad mewn cynllunio a gwireddu ar gyfer perfformiad Rhaglenni Ôl-radd

MA Cynllunio ar gyfer Perfformiad Gyda llwybrau arbenigol mewn: • Cynllunio ar gyfer Perfformio • Cynllunio Set

1 Flwyddyn llawn amser a modiwl seiliedig ar waith Mae dewisiadau astudio hyblyg ar gael ar gyfer pobl sydd eisoes yn gweithio mewn maes cysylltiedig

• Cynllunio Gwisgoedd • Creu Gwisgoedd • Pypedwaith • Cynllunio Golau • Cynllunio Sain • Celf Golygfeydd ac Adeiladu ar gyfer y Llwyfan a’r Sgrîn

www.rwcmd.ac.uk/design

Bydd myfyrwyr yn cael hyfforddiant mewn ystod eang o sgiliau technegol yn cynnwys lluniadu technegol, gwneud modelau a chreu gwisgoedd.

www.cbcdc.ac.uk

47


Cynllunio ar Gyfer Perfformiad

GWAITH CYNHYRCHU Mae rhaglen artistig eang ei hamrediad CBCDC yn cynnig llu o gyfleoedd i gynllunwyr wireddu eu gwaith ar gyfer perfformiadau cyhoeddus. Fel rhan o Gwmni Richard Burton (gweler tudalen 35) maent yn gweithio ar tua phymtheg cynhyrchiad bob blwyddyn, yn amrywio o deithiau ar raddfa fechan o ddramâu newydd a gomisiynwyd yn arbennig i sioeau cerdd ac opera ar y prif lwyfan.

PROSIECTAU PERFFORMIO Mae’r Sioe Gelf Wisgadwy, a berfformir ar gyfer cynulleidfa gyhoeddus bob gwanwyn, yn rhoi cyfle i gynllunwyr fod yn flaenllaw ar y llwyfan, yn modelu gwisgoedd a grëwyd o ddeunyddiau a ‘ganfuwyd’ ac a ailgylchwyd. Mae’r perfformiad pypedwaith safle benodol blynyddol yn cynnig cyfleoedd pellach i gynllunwyr brofi ymateb cynulleidfaoedd i’w gwaith.

ARDDANGOSFEYDD Mae Oriel Linbury y Coleg yn lleoliad trawiadol ac unigryw ar gyfer arddangosfeydd o waith cynllunio myfyrwyr a fydd yn newid yn gyson - o osodiadau sy’n cynnwys cerfluniau papur anferth i arddangosfeydd o gelf golygfeydd a phropiau. Mae Balance, ein harddangosfa flynyddol o waith myfyrwyr sy’n graddio, yn denu diddordeb cyfarwyddwyr proffesiynol blaenllaw a chyflogwyr eraill. Yn dilyn wythnos agoriadol yn CBCDC Caerdydd bydd yr arddangosfa yn symud ar gyfer cyfnod preswyl yn y Bargehouse ar y South Bank yn Llundain.

48

www.cbcdc.ac.uk


Cynllunio ar Gyfer Perfformiad

GYRFAOEDD GRADDEDIGION Tom Scutt Enillydd Gwobr Linbury am Gynllunio Llwyfan Royal Shakespeare Company, Royal National Theatre, Tŷ Opera Brenhinol rtist Cyswlt, Donmar A Warehouse Gwobrau Cerddoriaeth Fideo MTV, Los Angeles Enwebiad ar gyfer Gwobr Tony am y Cynllunio Gwisgoedd Gorau 2016

Cynhaliodd lleoliad CBCDC yr ŵyl World Stage Design yn 2013. Y flwyddyn nesaf bydd yn croesawu Dathliad 50 Oed OISTATT.

Llun: Cynllun Fin Redshaw, Enillydd Gwobr Linbury 2017, ar gyfer cynhyrchiad CBCDC o Mojo.

GWOBR LINBURY Mae gan CBCDC enw da dihafal o lwyddiant yng Ngwobr Linbury cystadleuaeth fwyaf nodedig y DU ar gyfer cynllunwyr perfformiad sy’n dod i’r amlwg. Yn 2017 roedd pump o’r deuddeg a gyrhaeddodd y rownd derfynol yn raddedigion diweddar y Coleg. Byddant yn cael y cyfle i weithio gyda rhai o gwmnïau theatr, opera a dawns blaenllaw’r wlad ac arddangos eu gwaith yn y National Theatre. www.cbcdc.ac.uk

49


Llun: Cynhyrchiad Cwmni Richard Burton o Taming of the Shrew Shakespeare a gyfarwyddwyd gan Iqbal Khan.


Llun gan Kirsten McTernan


Rheolaeth yn y Celfyddydau

Rheolaeth yn y Celfyddydau

100% CYFLOGAETH GRADDEDIGION

© Wales Millennium Centre

Mae gweithio’n agos gyda’n partneriaid yn y diwydiant, gan greu cyfleoedd i fyfyrwyr gael profiad ymarferol, wrth wraidd popeth a wnawn. Rydym yn eu harfogi gyda chasgliad trosglwyddadwy o sgiliau ymarferol a phrofiad perthnasol o arfer presennol er mwyn sicrhau eu bod 100% yn barod am gyflogaeth. Karen Pimbley, Arweinydd Cwrs Rheolaeth yn y Celfyddydau

52

www.cbcdc.ac.uk

 LEFEL

 CWRS

 HYD

Rhaglenni Ôl-radd

MA Rheolaeth yn y Celfyddydau

1 Flwyddyn (Llawn Amser) 2 - 5 Mlynedd (Rhan Amser)

www.rwcmd.ac.uk/artsman Ar gyfer ymgeiswyr sydd â dwy neu ragor o flynyddoedd o brofiad proffesiynol, taledig mewn rôl rheoli creadigol a/neu reoli cynhyrchiad, gellir teilwra’r cwrs i anghenion datblygiad gyrfaol unigol, gyda modelau perthnasol ar gael ar gyfer APEL.


Rheolaeth yn y Celfyddydau

MAE MODIWLAU A PHYNCIAU YN CYNNWYS:

Rydw i wrth fy modd bod pawb yn cydweithio mor agos a’u bod yn angerddol ynglŷn â’r gwaith y maent yn ei wneud a’r gwahaniaeth y mae’n ei wneud.

Codi Arian

Gweinyddu yn y Celfyddydau

Marchnata ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd

Pobl a Pherfformiad

Dysgu a Chyfranogi

Rheolaeth ac Arweinyddiaeth

Gweithio yn y Sector Creadigol

Datblygu a Rheoli Strategaeth Ddigidol

Lleoliad Gwaith

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn y Celfyddydau

Lleoliad Proffesiynol

Rheolaeth yn y Celfyddydau Rhyngwladol

Rheoli Sefydliadau Diwylliannol

Grace Nelder

LLEOLIADAU PROFFESIYNOL Mae tri lleoliad gwaith proffesiynol yn digwydd dros gyfnod o 22 wythnos, gan ddarparu myfyrwyr â phrofiad ymarferol yn lleoliadau’r Coleg a gydag un o 26 sefydliad partner, sy’n cynnwys Canolfan Mileniwm Cymru, Cwmni Dawns Cymru, Opera Cenedlaethol Cymru, Neuadd Dewi Sant a No Fit State Circus.

GYRFAOEDD GRADDEDIGION Toks Dada Cadeirydd REPCo Bwrdd Cyfarwyddwyr Sinfonia Cymru Cydlynydd Prosiect (International Conscert Series Extras) Neuadd Dewi Sant Cydlynydd Rhaglen (Cerddoriaeth Glasurol) ar gyfer Neuadd y Dref a Neuadd Symffoni Birmingham Aelod Grŵp Llywio, Cynhadledd Amrywiaeth a Chynhwysiant mewn Cyfansoddi y BBC Cyfarwyddwr Anweithredol Opera Cenedlaethol Cymru

www.cbcdc.ac.uk

53


CBCDC Ifanc

Conservatoire

Iau

Bob dydd Sadwrn mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama yn gartref i’r Conservatoire Iau. O’u camau cyntaf un mewn cerddoriaeth i baratoad dwys ar gyfer hyfforddiant ar lefel conservatoire, mae’r Conservatoire Iau yn cynnig y cyfle i blant a phobl ifanc ddysgu gyda’i gilydd mewn amgylchedd cyffrous a chefnogol.

Rydw i wrth fy modd yn gwneud ffrindiau newydd sy’n mwynhau cerddoriaeth cymaint â fi. Lewis, Myfyriwr Conservatoire Iau

 CWRS

 OEDRAN

 SAFON

Cwrs Hŷn

8-18

Gradd 5 ac uwch

Cerddoriaeth yn Gyntaf

7-11

Graddau 1-5

Cerddoriaeth Mini

4-8

Dim angen profiad

Cynhelir yr holl gyrsiau ar ddyddiau Sadwrn yn ystod y tymor yn unig. I gael rhagor o wybodaeth (yn cynnwys gwybodaeth am ysgolion haf a gweithdai offerynnau penodol): www.rwcmd.ac.uk/junior

HYFFORDDIANT YN CYNNWYS: Llwybrau Clasurol a Jazz Gwersi Unigol Cerddoriaeth Siambr Ensemble Jazz Gweithdai piano a llais Dosbarthiadau iaith ar gyfer cantorion Gallu Cerddorol Cyffredinol

Mae cyrsiau Cerddoriaeth Mini, ar gyfer plant 4-8 oed, yn canolbwyntio ar ganu a symud rhythmig i ysgogi a datblygu cywreinrwydd a mwynhad naturiol plant mewn cerddoriaeth.

Theori Cerddoriaeth Hyfforddiant Sain y Glust Cerddorfa Iau Côr

Perfformiodd Charlotte Kwok sy’n naw oed, i EUB Tywysog Cymru ym Mhalas Buckingham fel rhan o ddathliad arbennig Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. 54

www.cbcdc.ac.uk

Dosbarthiadau Byrfyfyr Hyfforddiant arbenigol mewn Cyfansoddi


CBCDC Ifanc

Stiwdio

Actorion Ifanc Mae’r Stiwdio Actorion Ifanc wedi dod yn ffynhonnell gyfoethog o dalent ar gyfer y Coleg, gan ddod yn bont bwysig rhwng ysgol a hyfforddiant proffesiynol. Dave Bond, Pennaeth Hyfforddiant Actorion, CBCDC

Roedd saith o’r 20 actor a oedd yn dechrau ar gwrs Actio BA (Anrh) CBCDC yn 2017 wedi mynychu’r Stiwdio Actorion Ifanc.

Mae cyrsiau a gweithdai Stiwdio Actorion Ifanc yn rhoi cyfle i bobl ifanc ddatblygu ystod o sgiliau actio a chael mewnwelediad gwirioneddol i’r hyfforddiant a ddarperir gan ysgolion drama blaenllaw.  BETH

 PWY

 PRYD

Cwrs Actio

16-20

Dyddiau Sadwrn yn Sir Benfro Dyddiau Sul yng Nghaerdydd

Gweithdy Theatr

11-18

GYRFAOEDD GRADDEDIGION Annes Elwy Stiwdio Actorion Ifanc

Dyddiau Sul yng Nghaerdydd

BA mewn Actio yn CBCDC

Gwybodaeth bellach (yn cynnwys ysgolion haf a gweithdai clyweliadau)

www.rwcmd.ac.uk/yas

Gall llawer o fyfyrwyr y Conservatoire Iau a Stiwdio Actorion Ifanc elwa gan gefnogaeth bwrsariaeth ar gyfer ffioedd hyfforddiant, diolch i haelioni nifer o gefnogwyr y Coleg.

he Crucible yn T Bristol Old Vic Yr Actor Ifanc Yasemin Ozdemir a’r cyn-fyfyriwr Gruff Rhys fel Romeo a Juliet yng nghynhyrchiad haf Theatr Ieuenctid Cymru.

www.cbcdc.ac.uk

EN yn Theatr y Y Royal Court r Ymadawiad Y (The Passing) ffilm Little Women, BBC One (2018)

55


Dinas yr Annisgwyl

Mae Caerdydd yn ddinas sy’n fwrlwm o egni creadigol.

©

I gael gwybod mwy, ewch i: www.creativecardiff.org.uk www.visitcardiff.com


Llun gan Craig Kirkwood Llun: Dinas yr Annisgwyl - yn 2016, ledled y ddinas cynhaliwyd dathliad mawr Roald Dahl, a anwyd yng Nghaerdydd, yn cynnwys cast o 3,500.


Darganfod Cymru

Camwch allan o Gaerdydd er mwyn darganfod rhai o dirweddau a henebion mwyaf trawiadol y DU. © Visit Wales


Gwlad chwedlau. Gwlad anturiaethau. www.croesocymru.com



Llun gan Paul Burns Llun: Perfformiad gala a gynhaliwyd gan Noddwr CBCDC, EUB Tywysog Cymru, ym Mhalas Buckingham, 2016.


Cefnogwch Ni

Cefnogwch Ni Yn yr amgylchedd hynod gystadleuol ac ariannol feichus hwn, mae’r Coleg yn gweithio’n brysur i feithrin perthynas gyda rhoddwyr a phartneriaethau er mwyn sicrhau ein llwyddiant, cyflawni ein potensial a darparu cymorth ariannol i fyfyrwyr. Rydym yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth yr ydym yn ei derbyn gan unigolion, teuluoedd, busnesau, ymddiriedolaethau a sefydliadau ac maent yn rhan o’n cymuned greadigol.

SUT I GEFNOGI’R COLEG Cyswllt CBCDC Ysgoloriaethau wedi’u henwi a chyfleoedd enwi eraill Bwrsariaethau ariannu Cymynroddion Rhoddion mawr a gwaddol

Gyda’i gilydd, mae eu cyfraniadau yn helpu ein myfyrwyr i gael y budd gorau posibl o’u cyfnod yn y Coleg tra’n helpu’r Coleg i ymestyn ei ddylanwad a rhannu ei brofiadau y tu hwnt i Gymru ar y canfas cenedlaethol a rhyngwladol.

Nawdd hyfforddiant, perfformiadau, ensembles a phrosiectau arbennig Cefnogi mynediad ehangach

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r Adran Ddatblygu ar 029 2039 1420 / 029 2039 1401 neu e-bostiwch development@rwcmd.ac.uk

www.rwcmd.ac.uk/supportus

Mae sefydlu Ysgol Opera yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn ddatblygiad newydd cyffrous ar gyfer y Coleg ac rydw i wrth fy modd y bydd fy nghefnogaeth yn cyfrannu at ei thwf. David Seligman OBE, Cymynnwr

62

www.cbcdc.ac.uk


Cysylltu

Eich cyfle i gefnogi profiadau Your chance to support hyfforddiant a chyfleoedd student training experiences and performance opportunities perfformio myfyrwyr

All new Patron Connect and Patron Connect Gold donations are currently being matched by UBS, our Philanthropy Partner, doubling the value and impact of your gift

For more information on joining CONNECT, please call 02920 391420 or visit www.rwcmd.ac.uk/connect

For more information about UBS, visit ubs.com/wales-uk

Mae cefnogaeth hael ein rhoddwyr yn caniatáu i ni ddod ag artistiaid blaenllaw o bob rhan o’r byd i weithio gyda’n myfyrwyr, megis John Fisher, Athro Cadair Sefydliad Rhyngwladol Hodge mewn Opera, sy’n Gyfarwyddwr Gweinyddu Cerddoriaeth yn Metropolitan Opera Efrog Newydd ac yn hyfforddwr llais rhyngwladol o fri.

www.cbcdc.ac.uk

63


Gwybodaeth Bellach

Gwybodaeth Bellach Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru Maes y Castell, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3ER, Y Deyrnas Unedig Mynediadau Ffôn: +44 (0) 29 2039 1361 E-bost admissions@rwcmd.ac.uk

Gallwch ddarllen mwy am Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ar ein gwefan, cbcdc.ac.uk

Cadwch mewn cysylltiad â’r Coleg I gael y newyddion diweddaraf, storïau am raddedigion a myfyrwyr a diweddariadau rheolaidd dilynwch ni @RWCMD

64

www.cbcdc.ac.uk


Gwybodaeth Bellach

Lluniau Clawr Emily Bates Monika Jezierska

Ffotograffiaeth Ffotograffiaeth gan gan Kirsten McTernan Kirsten McTernan Kiran RidleyKiran Ridley Oliver Edwards Oliver Edwards

Ffotograffiaeth Ffotograffiaeth ychwanegol ychwanegol gan gan Cynhyrchwyd Cynhyrchwyd a golygwyd a golygwyd gan gan Nick Guttridge Nick Guttridge Nicola Nicola Lloyd Lloyd a Sophie a Sophie Potter Potter Nicola Lloyd Nicola Lloyd Philip Griffiths Philip Griffiths Dyluniwyd Dyluniwyd gangan burningred.co.uk burningred.co.uk

www.cbcdc.ac.uk

65


CERDDORIAETH OPERA ACTIO THEATR GERDD RHEOLI LLWYFAN A THEATR DECHNEGOL CYNLLUNIO AR GYFER PERFFORMIAD RHEOLAETH YN Y CELFYDDYDAU


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.