Rol oedolion mewn chwarae plant

Page 5

Rydym wedi sôn am adnoddau ond nid am weithgareddau, ac am rannau rhydd ond nid am deganau - mae hyn yn bwysig. Fydd plant sy’n chwarae’r tu allan â ffrindiau ddim angen llawer o deganau. Yn aml, bydd plant yn berchen ar gymaint o deganau fel bod eu niferoedd yn gwanhau eu gallu i ddenu plant i feddwl yn ddychmyglon15. Trwy ddarparu dim ond ychydig o deganau, a ddewiswyd yn ddoeth, a digonedd o rannau rhydd gallwn gyfoethogi’r man chwarae a hwyluso chwarae. Bydd chwarae mewn man sy’n gyforiog o rannau rhydd yn cefnogi ystod eang o ddatblygiad plant yn cynnwys hyblygrwydd, creadigedd, dychymyg, dyfeisgarwch, datrys problemau, hunan-barch ac ymwybod â gofod.

Casgliad I gloi, dylem fod yn ymwybodol o bwysigrwydd chwarae a dylem weithredu i’w hyrwyddo a’i amddiffyn. Dylai unrhyw gamau ymyrryd y byddwn yn eu cymryd gydnabod nodweddion chwarae a chaniatáu digon o hyblygrwydd, natur anrhagweladwy a diogelwch i blant chwarae’n rhydd16. •

Dylem wrando ar yr hyn y bydd plant yn ei ddweud am eu chwarae a gwerthfawrogi eu cyfraniadau’n wirioneddol.

Dylem ystyried mannau chwarae plant fel amgylcheddau pwysig y dylid eu gwarchod.

Dylem eiriol bod chwarae plant yn hanfodol ar gyfer datblygiad iach a lles. Mae’n ymddygiad dilys ac yn un o’u hawliau dynol, ac mae’n berthnasol i blant sy’n chwarae’r tu mewn neu’r tu allan.

Yn aml iawn bydd chwarae plant yn ddi-drefn, gwyllt a swnllyd, a bydd mannau chwarae plant yn aml yn flêr, anniben ac idiosyncratig. Mae angen inni ddeall nad yw cysyniad plant o fan chwarae dymunol yn edrych yr un fath â chysyniad oedolion. Mae angen inni ddysgu goddef llanast a baw!

Gallwn gefnogi chwarae plant trwy ddarparu rhannau rhydd a gwrthod gor-fasnacheiddiwch.

Gallwn roi blaenoriaeth i amser plant i chwarae’n rhydd. Os y byddwn yn gor-oruchwylio neu’n gor-amddiffyn byddwn yn dwyn rhyddid dewis y plentyn a’r union elfen sy’n golygu bod ei ymddygiad yn chwarae.

Cyfeiriadau 1. Y Cenhedloedd Unedig (1989) Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP). Genefa: Y Cenhedloedd Unedig 2. Llywodraeth Cynulliad Cymru (2002) Polisi Chwarae. Caerdydd: Llywodraeth Cymru 3. Lester, S. a Russell, W. (2010) Children’s right to play: An examination of the importance of play in the lives of children worldwide. Yr Iseldiroedd: Bernard van Leer Foundation 4. Polisi Chwarae 5. Arolwg Play England 6. Hughes, B. (2012) Evolutionary Playwork (ail argraffiad). Llundain: Routledge 7. Gleave, J. (2010) Community Play: A literature review. Llundain: Play England 8. Moss, P. a Petrie, P. (2002) From Children’s Services to Children’s Spaces: Public Policy, Children and Childhood. Llundain: Routledge 9. Lester, S. a Russell, W. (2008) Play for a Change – Play, Policy and Practice: A review of contemporary perspectives. Llundain: National Children’s Bureau ar gyfer Play England 10. Gleave, J. a Cole-Hamilton, I. (2012) A world without play: A literature review. Llundain: Play England/The British Toy and Hobby Association 11. Chwarae Cymru (2012) Mannau chwarae: cynllunio a dylunio. Caerdydd: Chwarae Cymru 12. Chwarae Cymru (2012) Mannau chwarae: cwynion cyffredin ac atebion syml. Caerdydd: Chwarae Cymru 13. Community Play: A literature review 14. A world without play: A literature review 15. Elkind, D. (2007) The Power of Play: Learning what Comes Naturally. De Capo Press: Cambridge, MA 16. Children’s right to play: An examination of the importance of play in the lives of children worldwide


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.