Cwestiynau cyffredin - cymwysterau

Page 3

Golyga hyn, mewn llawer o achosion, y bydd angen i staff feddu ar gymhwyster gwaith chwarae yn ogystal â chymhwyster blynyddoedd cynnar / gofal plant.

Rydyn ni’n gweithio gyda phlant hyd at 12 oed ac wedi clywed na fydd raid inni ennill cymwysterau gwaith chwarae tan 2021. Ydi hyn yn gywir? Ydi a nac ydi. Ym mis Medi 2017, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gylchlythyr i egluro’r gofynion cymwysterau ar gyfer y bobl hynny sy’n gweithio mewn lleoliadau cofrestredig gyda phlant hyd at 12 oed. Mae’r ‘amser cyflwyno’ ar gyfer lleoliadau gofal plant sydd wedi eu cofrestru eisoes iddynt ennill cymwysterau gwaith chwarae i weithio gyda phlant dros wyth oed erbyn mis Medi 2021. Ar gyfer cofrestriadau newydd, bydd angen i leoliadau arddangos eu bod yn cyflawni’r cymarebau angenrheidiol ar gyfer staff cymwysedig. Mwy o wybodaeth: https://gov.wales/topics/people-and-communities/ people/children-and-young-people/childcare/regulation/?skip=1&lang=cy

Pryd fydd angen imi feddu ar gymwysterau gwaith chwarae? Yn ôl y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir, os ydych yn gweithio mewn darpariaeth sydd wedi ei gofrestru fel gwaith chwarae mynediad agored neu ofal plant

y tu allan i’r ysgol, dylech feddu ar gymhwyster gwaith chwarae sydd wedi ei gynnwys ar restr SkillsActive Rhestr o Gymwysterau Gofynnol i Weithio yn y Sector Gwaith Chwarae yng Nghymru. Gwaith Chwarae fu’r cymhwyster pwrpasol ar gyfer pobl sy’n gweithio yn y mathau hyn o leoliadau gyda phlant hyd at wyth oed. Ers newidiadau i’r ddeddf, mae hyn bellach yn cynnwys gwaith gyda phlant hyd at 12 oed.

Ble alla’ i gael hyd i’r rhestrau cymwysterau? Mae Rhestr Gofal Cymdeithasol Cymru – Rhestr o’r Cymwysterau Gofynnol i Weithio yn y Sector Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant yng Nghymru a rhestr SkillsActive Rhestr o Gymwysterau Gofynnol i Weithio yn y Sector Gwaith Chwarae yng Nghymru ar gael i’w lawrlwytho: www.chwaraecymru.org.uk/cym/ cymwysteraugofynnol

Gyda pha ystod oedran fydd y cymwysterau gwaith chwarae yn caniatáu imi weithio â nhw? Bwriedir cymwysterau gwaith chwarae, yn bennaf, ar gyfer pobl sy’n gweithio gyda phlant rhwng pump ac 16 mlwydd oed mewn lleoliad gwaith chwarae. Ond, mae’n bosibl y bydd achlysuron pan fydd plant mor ifanc â thair oed yn mynychu lleoliad gwaith chwarae. Ceir rhywfaint o groesi o ran gwahanol ystod oedran gwahanol gymwysterau, yn dibynnu ar y math o leoliad yr ydych yn gweithio ynddo. Mae hyn yn caniatáu rhywfaint o hyblygrwydd.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.
Cwestiynau cyffredin - cymwysterau by Play Wales - Issuu