Maniffesto Plaid Cymru 2016 Manifesto

Page 70

Caffael Mi ddeddfwn i’w gwneud yn orfodol i gyrff sector-cyhoeddus ddilyn polisi Llywodraeth Cymru ar gaffael. Caiff ystyriaethau cymdeithasol, cyflogaethol ac amgylcheddol yr un pwyslais â phris wrth ddewis cyflenwydd.

cyhoeddi manylion pob cyflenwydd a phrynwr sector-cyhoeddus yng Nghymru, yn cynnwys piblinellau’r dyfodol, er mwyn rhoi darlun cywir a diweddaredig o lefel caffael MBCh (SME) Cymreig tra’n helpu i’w chynyddu.

Mi ddefnyddiwn y rhyddid sydd i’w gael o dan y Gyfarwyddeb Gontractau Cyhoeddus i sicrhau’r enillion cymdeithasol ac amgylcheddol mwyaf posibl, yn cynnwys talu Cyflog Fyw Gymreig i bob gweithiwr a safon MacFarlane, sef o leiaf blwyddyn o gyflogaeth i un person o gefndir dan-anfantais am bob £1 miliwn o wariant. Hefyd mi geisiwn ehangu ac ymestyn rhan y sector cymdeithasol wrth ddarparu gwasanaethau a nwyddau.

Mi osodwn darged o gadw 75% o wariant caffael cyhoeddus haengyntaf Cymru o fewn y wlad, â chwmnïau sy’n eiddo neu’n cael eu rheoli’n lleol, cyweithiau ac elusennau (wedi’u diffinio’n annibynnol), gan greu dros 40,000 o swyddi newydd prefat a sectorcymdeithasol, a datblygu targed i gyflenwyr yr ail a’r drydedd haen mewn contractau o fwy.

Bydd disgwyl i bob asiantaeth sector-cyhoeddus gyrraedd erbyn 2020 safonau cytunedig, sef un arbenigydd caffael, yn meddu ar achrediad proffesiynol addas, i £10 miliwn o wariant. Mi ddarparwn gyllid uniongyrchol ar gyfer deg yn rhagor o reolwyr caffael cyhoeddus i’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol i’n galluogi i gyrraedd y nod o gynyddu pwrcasu lleol tra’n parhau i wella ansawdd y gwasanaeth. Bydd gofyn i bob awdurdod cyhoeddus, o dan nawdd Llywodraeth Cymru, ddarparu gwybodaeth cyflenwyr cynhwysfawr amserreal er mwyn i ni allu gweithredu system Contractau Agored sy’n

70

Mi gyflawnwn hyn yn rhannol drwy sicrhau contractau addas eu maint i gwmnïau bach a chanolig a thrwy gynnig cymorth uniongyrchol i gwmnïau Cymreig sy’n ceisio am gontractau cyhoeddus. Bydd y WDA newydd yn cydweithio â’r Gwasanaeth Caffael Cyhoeddus i ddod o hyd i ddau neu dri maes blaenoriaeth cychwynnol i ddatblygu cadwynau cyflenwi e.e. gwasanaethau adeiladu a gofal. Fe sefydla ein Llywodraeth ni gyrrensi digidol i Gymru - y cyntaf o’i fath ar wastad cenedlaethol - a’i ddefnyddio’n arbrofol i gaffael gwasanaethau a derbyn taliadau er mwyn mesur ei botensial i gadw llif arian o fewn economi Cymru.


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.