Maniffesto Plaid Cymru 2016 Manifesto

Page 176

Diwylliant Cyllid i Gelf Mi geisiwn warchod a chynyddu cyllid i gelf drwy amryw ddulliau: • bydd gofyn i awdurdodau dderbyn cyfrifoldeb drwy ddyletswydd statudol i weithredu fel cynullydd, hwylusydd a darparydd mynediad i gelf a diwylliant o fewn eu ffiniau. Dylai hyn eistedd o fewn y dyletswyddau a osodwyd ar Lywodraeth Leol gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Fe gynhwysa hyn ddyletswydd i hyrwyddo cymryd rhai a chael profiad o’r celfyddydau i blant, yn enwedig rhai o gefndir sosio-economaidd difreintiedig • mi geisiwn o leiaf 1% yn rhagor yng nghyfran Cymru o arian loteri y DG sy’n mynd i’r celfyddydau er cydnabod yr angen ychwanegol sy’n codi o ba mor fynych y mae tlodi ac amddifadedd yn digwydd yng Nghymru • mi archwiliwn hefyd bosibilrwydd loteri Gymreig i achosion da, yn seiliedig ar ardaloedd awdurdodau lleol cyfredol • mi sefydlwn gorff newydd, Cymru Greadigol, gan gychwyn â chymunrodd llywodraeth, gyda’r bwriad o ddatgloi ffynonellau eraill o gyllid i’r celfyddydau a thyfu diwylliant rhoi, buddsoddi, partneriaeth a gwirfoddoli.

176

Celf a’r Ifainc Mae cefnogi prentisiaethau mewn mudiadau diwylliannol yn hyrwyddo sgiliau yn y celfyddydau a threftadaeth, ac yn cefnogi sgiliau technegol yn ogystal â chelfyddydol. Mi fuddsoddwn mewn mentrau llwyddiannus a feithrinwyd yng Nghymru megis Only Boys Aloud i greu “sistema” Gymreig yn defnyddio cerdd, celf a theatr i drechu anfantais a helpu pobl ifainc i gyflawni’u potensial. Mi ddiogelwn wasanaethau cerdd ysgolion ledled Cymru, gan adeiladu ar argymhellion y grwp gorchwyl-a-gorffen ar wasanaethau cerdd yng Nghymru.


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.