Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru Efwletin - Awst 2018

Page 15

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae ffocws cynyddol wedi bod ar bobl ifanc sydd ag alergenau bwyd, yn dilyn nifer o farwolaethau yn gysylltiedig â digwyddiadau alergedd bwyd. Mae gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) fewnwelediad sy’n awgrymu nad yw oedolion ifanc yn barod i siarad yn gyhoeddus am gael alergedd, er enghraifft, nid ydynt yn dueddol o roi gwybod am eu halergedd i fusnesau bwyd pan fyddant yn archebu tecawê neu fwyta allan. Mae’r grŵp hwn hefyd yn fwy tebygol o gymryd risgiau wrth fwyta, ac weithiau nid ydynt am gario eu Epi pen gyda nhw. Er mwyn mynd i’r afael â hyn, mae’r Asiantaeth yn lansio ymgyrch o’r enw #HawddHoli gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth ymysg pobl ifanc (16-24 oed) o’u hawliau o ran cael gwybodaeth am alergenau pan fyddant yn bwyta allan. Mae ein hymchwil wedi dangos nad yw’r grŵp oedran hwn yn aml yn teimlo’n hyderus yn siarad am eu halergedd – rhywbeth y mae’r Asiantaeth am fynd i’r afael ag ef ac annog pobl i siarad am eu halergenau gyda’u ffrindiau a’r rheiny sy’n gweini wrth fwyta allan. Fel rhan o’r ymgyrch, a fydd yn lansio fis Medi, bydd yr ASB hefyd yn anelu at gynyddu dealltwriaeth busnesau bwyd o bwysigrwydd cydymffurfio â rheoliadau alergenau a’r manteision o ofyn am wybodaeth alergenau gan eu cwsmeriaid. Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth neu os gallwch chi helpu drwy rannu’r negeseuon hyn, anfonwch e-bost: caroline.kitson@food.gov.uk.

Ar Y Grawnwin

Ymgyrch Alergenau Bwyd: #HawddHoli


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.