PHNC Nov Bulletin Welsh HQ

Page 12

Theatr Hijinx Ar ddechrau 2016, aeth Clare Williams a Jon Kidd o theatr Hijinx i Lesotho ar ymweliad cwmpasu wedi ei ariannu gan HubCymru Affrica mewn partneriaeth â Dolen Cymru. Ar yr ymweliad hwn fe wnaethant seiclo heibio i dŷ oedd wedi ei baentio fel bwrdd du yn gwahodd pobl oedd yn mynd heibio i ychwanegu eu huchelgais. Fe wnaeth eu taro fel rhywbeth arwyddocaol mewn gwlad lle mae’r disgwyliadau ar gyfer a chan bobl ag anableddau mor isel a lle mae goroesi yn gyflawniad. Ers hynny, maent wedi bod yn codi ymwybyddiaeth ac arian i fynd â 4 actor proffesiynol â Syndrom Down i Lesotho. Ym mis Chwefror 2018, bydd 4 actor o Academi Hijinx yn ymuno â disgyblion o Goleg Rhyngwladol Machabeng ym Maseru a phobl ifanc o gartref plant amddifad Pheilisong i greu darn theatr o’r enw KE LABALABELA HO (Fy uchelgais yw). Byddant yn cyflwyno’r gwaith i blant ysgol, cymunedau anabledd a chanolfannau diwylliannol ar draws y wlad. Am fwy o wybodaeth gweler www.hijinx.org.uk

Anabledd yng Nghymru ac Affrica - Hybu Undod Bydeang Pobl Anabl

I’r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru, bydd Diwrnod Rhyngwladol Pobl ag Anableddau'r Cenhedloedd Unedig (UNIDPD), ar 3 Rhagfyr, yn mynd heibio fel diwrnod arall yn y calendr. Bydd y syniad y gallai’r dyddiad fod yn gyfle i ddathlu’r hyn y mae pobl anabl wedi ei gyflawni, ac yn ei gyflawni, ym mhell o feddyliau pobl. Os ydym yn lwcus, efallai y byddwn yn cael cyfarfod gyda gwleidyddion a gwneuthurwyr polisïau, mewn ymgais i wasgu addewidion oddi wrthynt yn ymwneud â gwasanaethau cymorth gwell. Fodd bynnag, o ran y cyhoedd, p’un ai eu bod yn anabl neu beidio, 'bydd y diwrnod yn mynd rhagddo fel arfer'. Mae hyn yn wahanol iawn i’r gorymdeithiau a’r cyfarfodydd cyhoeddus fydd yn cael eu trefnu mewn sawl rhan o Affrica. I lawer o bobl anabl yn Affrica, ac yn wir, rhannau eraill o’r byd, dyma eu diwrnod nhw. Dyma’r diwrnod pan fyddant yn siarad dros ddynoliaeth ac yn gwneud ceisiadau cyhoeddus i’w lleisiau gael eu clywed. Bydd llawer yn dadlau na fydd llawer o bobl yn gwrando. Efallai fod rhywfaint o wirionedd yn hyn. Fodd bynnag, y gwahaniaeth sylfaenol rhwng y ddwy ymagwedd yw cyfranogiad y cyhoedd, yn ardaloedd fel Affrica, a’r balchder o fod yn fodau dynol. Ar ddiwedd y dydd, bydd cynnwys anabledd yn digwydd am fod safbwyntiau’r cyhoedd wedi newid nid rhai gwleidyddion yn unig. Mae’r diwrnod yn cael ei ystyried gan lawer ar draws y byd, fel canolbwynt i amlygu brwydr pobl anabl am gyfiawnder a chydraddoldeb. Y thema ar gyfer UNIDPD yn 2017 yw “Trawsnewid i gael cymdeithas gynaliadwy a chadarn i bawb”. Mae hyn yn hybu natur gyffredinol y profiad o anabledd. Mae’n ymwneud â’r ddynoliaeth gyfan ac mae’n llawer mwy na chasgliad o gyflyrau meddygol. Cynhaliwyd y diwrnod am y tro cyntaf ym 1992. Cafodd ei ddatblygu i adeiladu ar y momentwm a ddechreuwyd gan Flwyddyn Ryngwladol Pobl Anabl (1981) a ddatblygodd yn Ddegawd Pobl Anabl y CU o 1983 i 1992. Mae llawer iawn i’w wneud eto cyn y gall llawer o bobl anabl, yn arbennig mewn gwledydd incwm isel a chanolig, gael statws


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.