PHNC July Bulletin Welsh PDF HQ

Page 22

Crynodeb o’r Newyddion Croeso i’r Crynodeb o’r Newyddion! Cliciwch ar benawdau’r eitemau newyddion i fynd at y stori newyddion lawn ar Wefan Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Plant a Phobl Ifanc O’r Drws i’r Ddesg: Helpu mwy o blant i gerdded neu feicio i’r ysgol Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi canllaw gweledol newydd hawdd i’w defnyddio er mwyn helpu sefydliadau i chwarae mwy o ran wrth annog plant i gerdded neu feicio i’r ysgol.

Gwaith ‘Digwyddiadau Diweithdra Torfol (DDTau) – Atal ac Ymateb o Safbwynt Iechyd Cyhoeddus’ Adroddiad newydd yn archwilio effaith digwyddiadau diweithdra torfol ar iechyd, a’r camau y gellir eu cymryd i leihau’r effaith honno.

Polisi Bil Iechyd y Cyhoedd yn cael Cydsyniad Brenhinol Eang y ddeddfwriaeth a fydd yn helpu pobl i fyw bywydau iachach a’u hamddiffyn rhag niwed, Gydsyniad Brenhinol.

Gweithgaredd Corfforol Canolfan Gydweithredu WHO ar gyfer Gweithgaredd Corfforol ac Iechyd Mae Prifysgol Zurich (y Swistir) wedi cael ei dynodi fel Canolfan Gydweithredu newydd WHO ar gyfer Gweithgaredd Corfforol ac Iechyd.


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.