Tir ym Modedern, Ynys Môn - Haf 2023

Page 1

TIR YM MODEDERN, YNYS MÔN

Datblygiad 29 o gartrefi newydd fforddiadwy

effeithlon o ran ynni, yn cael eu hadeiladu gan DU

Construction ar ran ClwydAlyn ac mewn partneriaeth â Chyngor Ynys Môn a Llywodraeth Cymru.

DIWEDDARIAD AM Y CYNNYDD AC EDRYCH YMLAEN

Cychwynnodd y gwaith ar y safle ar 19 Mehefin, a chynhaliwyd y ‘seremoni torri’r dywarchen’ swyddogol ar 20 Mehefin. Cam cyntaf y datblygiad yw dechrau clirio’r safle a fydd yn galluogi’r peiriannydd i symud ymlaen i osod y lefelau a chyfesurynnau’r tai i’r gwaith tir gael dechrau ar y sylfeini concrid a’r slabiau. Gobeithio y bydd y tywydd da yn parhau trwy gydol yr haf i gwblhau’r rhan fwyaf o’r gwaith tir, gyda’r nod o godi nifer o’r 29 o fframiau pren cyn y Nadolig.

Yn ystod yr haf, mae Helen, Rheolwr Datblygu’r

Prosiect i ClwydAlyn, yn bwriadu cyfarfod Cyngor

Cymuned Bodedern i roi trosolwg o’r cynllun tai, trafod cyfleoedd i gael budd i’r gymuned yn y pentref ac unrhyw bryderon neu syniadau allai fod ganddynt.

Ar 20 Mehefin, nododd seremoni torri’r dywarchen ddechrau’r gwaith ar brosiect £5.5 miliwn. Mae’r cartrefi teuluol fforddiadwy newydd yn rhan o raglen adeiladu uchelgeisiol ClwydAlyn sy’n cyd-fynd â chynllun uchelgeisiol Cyngor Sir Ynys Môn i gynyddu’r ddarpariaeth dai ar yr ynys. Roedd yn wych gweld pawb yn y digwyddiad ac roedd y Cynghorydd Gary Pritchard, Deiliad Portffolio Tai a Gwasanaethau Plant Cyngor Sir Ynys Môn yno hefyd a dywedodd:

“ Mae’n wych gweld y gwaith yn dechrau ar y cartrefi newydd yma ym Modedern. Mae’r Cyngor yn falch o gefnogi’r prosiect hwn a fydd yn darparu eiddo modern sy’n gyfeillgar o ran carbon i deuluoedd y mae galw mawr amdanynt, gyda chartrefi glân a gwyrdd a fydd gobeithio yn cynnig effeithlonrwydd ynni mewn cyfnod lle mae prisiau tanwydd yn codi.”

CLWYDALYN.CO.UK YNYS MÔN
HAF 2023

RHOI YN ÔL I’R GYMUNED

Rhan bwysig o ymrwymiad ClwydAlyn i adeiladu tai fforddiadwy o safon uchel yw sicrhau bod yr holl bartneriaid sy’n rhan o’r cynllun yn ymrwymo i roi yn ôl i’r cymunedau lleol yr ydym yn gweithio ynddyn nhw mewn amrywiaeth eang o ffyrdd yn unol â’n blaenoriaethau tlodi. Bydd hynny yn ei dro yn helpu i gyfoethogi ein cymunedau trwy roi cefnogaeth lle mae ei angen, boed hynny yn helpu pobl yn ôl i waith, brwydro yn erbyn bod yn ynysig yn gymdeithasol, cefnogi preswylwyr sydd mewn tlodi tanwydd neu roi mynediad at fwyd maethlon.

CARTREFI YNNI EFFEITHIOL

EIN CENHADAETH: GYDA’N GILYDD I

DRECHU TLODI

Ein blaenoriaethau tlodi:

• Gwaith, hyfforddiant, addysg a gwirfoddoli (Cynyddu)

• Tlodi bwyd (lleihau)

• Tlodi tanwydd (lleihau)

• Cynhwysiant Digidol (cynyddu)

Nod ClwydAlyn yw taclo tlodi tanwydd a helpu i leihau’r effaith y gall cartrefi llai effeithlon o ran ynni ei gael ar iechyd a lles pobl. Wedi eu hadeiladu gan ddefnyddio technolegau mwy gwyrdd a dyluniadau blaengar, bydd y cartrefi newydd yma’n effeithlon iawn o ran ynni ac yn manteisio ar:

• Pympiau gwres ffynhonnell aer

• Paneli trydan solar

• Cartrefi wedi eu gosod i wneud y mwyaf o’r haul a golau naturiol

• Cyfleusterau gwefru ceir trydan

• ‘Dulliau Adeiladu Modern’, gan ddefnyddio cymaint o ddeunyddiau naturiol a chynaliadwy ag sy’n bosibl

• Canfod deunyddiau gan weithgynhyrchwyr a chyflenwyr lleol, gan gadw’r ôl troed carbon yn isel

Gall y cartrefi yma wneud gwahaniaeth mawr. Byddant yn helpu preswylwyr i gefnogi’r amgylchedd; arbed ynni gwerthfawr ac fe allant arbed arian yn y pen draw hefyd.

CARTREFI AM OES

EISIAU GWYBOD SUT MAE PWMP GWRES

FFYNHONNELL AER YN GWEITHIO, GWYLIWCH

EIN FIDEO:

Cyflwyniad i Bympiau Gwres

Ffynhonnell Aer

Adeiladir ein holl gartrefi fel cartrefi am oes ac maent wedi eu dylunio i fod yn hawdd eu haddasu yn ôl anghenion y preswylwyr wrth iddynt newid, gan eu helpu i fyw’n annibynnol yn hwy.

RHEOLI’R SAFLE AC ORIAU GWEITHREDU

Mae Tîm Rheoli Safle ar y safle bob amser, sydd wedi ei hyfforddi i reoli’r holl weithrediadau a gweithgareddau’r isgontractwyr yn ddiogel. Yr oriau gweithredu nodweddiadol yw dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8am a 6pm a dyddiau Sadwrn 8am hyd 4:30pm. Os bydd angen i waith arbenigol ddigwydd ar unrhyw adeg tu hwnt i’r oriau hyn, byddwn yn cysylltu â chi. Byddwn yn parhau i gyfathrebu yn gyson trwy gylchlythyr wrth i’r datblygiad symud yn ei flaen.

CYSYLLTWCH Â NI

Os bydd gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â Steven Hughes ar 07557275657 a fydd ar gael i ateb unrhyw ymholiadau all fod gennych. Fel arall, os byddai’n well gennych gysylltu â ni trwy e-bost, ein cyfeiriad yw: info@duconstructionltd.co.uk

DILYNWCH NI AR Y CYFRYNGAU CYMDEITHASOL

Am y newyddion diweddaraf am y datblygiad, gan gynnwys delweddau o’r ffordd mae’r safle’n datblygu, dilynwch ClwydAlyn ar y cyfryngau cymdeithasol. @ClwydAlyn

Mae ClwydAlyn yn Gymdeithas Gofrestredig Elusennol

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.