TYSTYSGRIF LEFEL MYNEDIAD MEWN CYMRAEG AIL IAITH: DEFNYDDIO’R GYMRAEG
2.
6
Cynnwys
Defnyddio’r Gymraeg: Mynediad yw’r cyntaf mewn cyfres o gymwysterau. Mae hwn yn asesiad o hyfedredd cyffredinol yr ymgeiswyr yn y Gymraeg, ac nid yn brawf ar wybodaeth o lyfr cwrs penodol. Ceir manylion a chyfarwyddyd manwl am gynnwys ieithyddol a fyddai’n ddefnyddiol wrth baratoi i sefyll yr arholiad hwn yn y Cwrs Mynediad a’r ‘Cwricwlwm Cymraeg i Oedolion’ a ddatblygwyd gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: Cwricwlwm Cenedlaethol Cymraeg i Oedolion Darperir fersiynau gwahanol (de a gogledd) o’r tasgau ar y papurau arholiad, gan ddilyn y ffurfiau a argymhellir yn y Cwricwlwm Cymraeg i Oedolion ac a ddefnyddir yn y llyfrau cwrs mwyaf cyffredin. Disgwylir i ymgeiswyr ddefnyddio’r ffurfiau y maen nhw’n gyfarwydd â nhw yn y profion cynhyrchiol, wrth siarad neu ysgrifennu. Mae canllaw penodol am yr eirfa graidd y disgwylir i ymgeiswyr ei gwybod ar y lefel hon i’w gael ar wefan CBAC: Geirfa Graidd Mynediad Mae’r rhestr yn cynnwys geirfa, ymadroddion a chydleoliadau y gellir eu defnyddio mewn profion Darllen a Gwrando, lle bo eitemau’n dibynnu ar ddealltwriaeth o eiriau penodol. Isod, ceir rhestr gyfair o’r wybodaeth angenrheidiol ar gyfer lefel Mynediad, ynghyd â’r sgiliau y dylai ymgeiswyr eu hymarfer wrth baratoi i sefyll y profion: Gwybodaeth a dealltwriaeth I ennill y cymhwyster hwn, rhaid i ymgeiswyr ddangos gwybodaeth a dealltwriaeth o’r isod fel y’u diffinnir ar gyfer lefel Mynediad: • • • •
patrymau ac amserau’r Gymraeg ymadroddion defnyddiol cyfleoliadau geirfa sy’n berthnasol i’w hanghenion personol
Sgiliau
• • •
Gwrando Mae disgwyl i’r ymgeisydd allu: deall pwyntiau allweddol mewn deialog deall pwyntiau allweddol mewn bwletin tywydd adnabod prisiau ac amserau dechrau digwyddiadau o wrando ar hysbysiadau syml
• • • •
Siarad Mae disgwyl i’r ymgeisydd allu: darllen deialog syml yn uchel gan ynganu’n briodol ateb cwestiynau a rhai sgil-gwestiynau syml ateb cwestiynau syml am lun o berson gofyn cwestiynau syml i gael gwybodaeth gan gydsgwrsiwr
• •
Darllen Mae disgwyl i’r ymgeisydd allu: darllen hysbysebion i gael hyd i ffeithiau perthnasol i ateb cwestiynau syml darllen deialog syml gan ddeall ffeithiau arwyddocaol a bwriad y siaradwyr