2 minute read

Cyflwyno Esgob newydd Llandaf

Mae’r Gwir Barchedig Mary Stallard wedi’i hethol yn 73ain Esgob Llandaf. Cynhelir Gwasanaeth Croeso yr Esgob Mary am ganol dydd, ddydd Sadwrn 29 Ebrill, yn Eglwys Gadeiriol Llandaf, ac mae croeso i bawb.

Mae’r Esgob Mary Stallard yn dod yn wreiddiol o Birmingham, a chafodd ei magu mewn ficerdy. Roedd ei thad yn ficer a’i mam yn wyddonydd, sy’n golygu ei bod wedi’i magu ar aelwyd lle roedd anogaeth i ofyn cwestiynau am fywyd a ffydd.

Advertisement

Darllenodd Mary Ddiwinyddiaeth yng Ngholeg Selwyn, Caergrawnt ac astudiodd i fod yn athrawes yn Llundain cyn hyfforddi ar gyfer y weinidogaeth yng Ngholeg y Frenhines, Birmingham a Seminar Diwinyddol Tamil Nadu yn India.

Roedd Mary yn un o’r menywod cyntaf i gael eu hordeinio’n offeiriad yn yr Eglwys yng Nghymru ym 1997, a threuliodd ei chyfnod yn gurad yng Nghasnewydd, cyn symud i Esgobaeth Tyddewi fel diacon-yng-ngofal a ficer Ysbyty Cynfyn, Eglwys Newydd a Llantrisant. Yn 2003, fe’i penodwyd yn Ganon Preswyl yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy ac yn Gaplan yr Esgob, gan wasanaethu hefyd fel Cyfarwyddwr Ordinandiaid yr Esgobaeth a Chadeirydd Bwrdd Gweinidogaeth yr Esgobaeth, ac fel Ysgrifennydd Dethol y Dalaith.

Ym mis Ionawr y llynedd, penodwyd Mary yn Esgob Cynorthwyol ym Mangor a’i chysegru’n esgob ym mis Chwefror.

Mae gweinidogaeth ddarlledu sylweddol Mary wedi’i gweld yn ymddangos ar BBC Radio Cymru fel arweinydd Yr Oedfa ac yn cyfrannu at Bwrw Golwg, ar raglenni All Things Considered, Celebration, Wednesday Word a Weekend Word ar BBC Radio Wales, ac ar Radio 4 fel arweinydd The Daily Service a Sunday Worship ac fel awdur a chyflwynydd Prayer for the Day.

Mae Mary yn briod â’r Parchedig Andrew Sully, a benodwyd yn bennaeth dros dro ar Gymorth Cristnogol Cymru yn ddiweddar, ac mae ganddyn nhw ddwy ferch aeddfed. Mae ei hobïau’n cynnwys coginio, darllen a rhedeg.

This article is from: