
2 minute read
Colofn yr Archddiaconiaid
Yr Hybarch Mike Komor & Yr Hybarch Rod Green
Dychmygwch geisio dal llif rhaeadr mewn cwpan.
Advertisement
Mae hynny’n eithaf tebyg i geisio deall ystyr lawn dioddefaint, marwolaeth ac atgyfodiad Iesu – y digwyddiadau sy’n ganolbwynt i’r Wythnos Fawr a’r Pasg – yn ôl un awdur Cristnogol, Géza Vermes. Mae anferthedd ac arwyddocâd y digwyddiadau yn rhy fawr i unrhyw un eu hamgyffred yn iawn; y gorau y gallwn ei wneud yw dal ychydig ddiferion dŵr. Mae’n ffiol ni wir yn llawn.
Erbyn hyn rydyn ni wedi cyrraedd yr adeg yn y flwyddyn pan ydyn ni unwaith eto ar fin mynd i mewn i ddirgelwch dioddefaint Crist, ei groeshoeliad a’i godi o’r meirw, a thrwy ras Duw mae gennyn ni draddodiadau ac arferion yr Eglwys i’n helpu o leiaf i ddechrau deall yr hyn sydd y tu hwnt i’r amgyffred dynol.
Mae llawer o wahanol symbolau o’r Pasg yn cael eu defnyddio gan yr Eglwys, ac mae pob un yn ei ffordd ei hun yn pwyntio at wirionedd yr hyn y mae’r ŵyl yn ei olygu. Un o’r lleiaf cyffredin, ond un o’r mwyaf pwerus o bosibl, yw’r glöyn byw. Mae pawb yn dysgu fel plentyn ysgol bod gloÿnnod byw yn dod o lindys. Mae’r newid o’r naill i’r llall yn broses ryfeddol, byddai rhai’n dweud yn broses wyrthiol, sy’n syfrdanol yn ei chymhlethdod. I ddod yn löyn byw, mae lindysyn yn ffurfio cocŵn neu grysalis, ac wedyn yn ei fwyta’i hun. Ond mae rhai grwpiau o’i gelloedd wedi goroesi, gan droi’r cawl yn llygaid, adenydd, antenau a strwythurau eraill yr oedolyn o bryfyn. Yn wir ichi, o rywbeth sy’n rhoi’r argraff o fod yn farw daw rhywbeth newydd sy’n brydferth a gogoneddus.
Dyw hi ddim yn anodd gweld pam mae hwn yn symbol mor bwerus o atgyfodiad. Er bod yna barhad rhwng corff Iesu oedd yn hongian ar y groes a’r Crist atgyfodedig a welodd ei ddisgyblion, roedd yna newid hefyd: roedd yr hyn a fu farw wedi dod yn gwbl fyw mewn ffordd nad oedd neb dynol wedi’i brofi o’r blaen. Bu farw’r hen; wele, mae’r newydd wedi dod. Aleliwia!
Mewn ystyr arall, a hynny ar raddfa o arwyddocâd llawer is, mae’n rhaid cyfaddef, mae’r esgobaeth ar fin gweld math arall o aileni, wrth inni baratoi i groesawu’n Hesgob newydd, Mary Stallard.