
1 minute read
Fforwm Eiriolaeth Profiad Bywyd Lived Experience Advocacy Forum
Rhwystrau rhag adrodd
Troseddau Casineb
Advertisement
Barriers to reporting hate crime

Cafodd LEAF (Fforwm
Eiriolaeth Profiad Bywyd) ei sefydlu gan Cymorth i
Ddioddefwyr yn gynharach eleni o ganlyniad i arian gan
Lywodraeth Cymru i gynnal
Canolfan Cymorth Casineb
Cymru. Mae’n cydnabod pwysigrwydd dysgu o brofiad bywyd pobl i helpu i siapio a datblygu’r gwasanaeth
Troseddau Casineb cenedlaethol.
Mae LEAF yn cynnwys grŵp gwirfoddol craidd wedi’i gefnogi gan gymuned ehangach o wirfoddolwyr, hefyd gyda phrofiad bywyd, sy’n helpu i lywio’r drafodaeth a’n galluogi ni i gael ystod mor eang â phosib o brofiad a barn.
Fel sefydliad, mae Cymorth i
Ddioddefwyr yn awyddus iawn i flaenoriaethu llais y rhai hynny yr effeithiwyd arnynt. Nod craidd y
Fforwm yw helpu i siapio datblygiad
Canolfan Cymorth Casineb Cymru drwy ddarparu arweiniad drwy brofiad pobl o gasineb a’i effaith, a chefnogi sdatblygu, rhannu gwybodaeth, dysgu a thwf y Ganolfan Gymorth ac aelodau’r grŵp.
Mae’r grŵp craidd eisoes wedi nodi’r materion allweddol sydd, yn eu barn nhw, angen eu harchwilio ymhellach yn seiliedig ar eu profiadau ar y cyd o gael eu targedu a phrofi Troseddau Casineb.
Serch hynny, maen nhw wedi penderfynu y dylid blaenoriaethu archwilio’r rhwystrau rhag adrodd
Troseddau Casineb, oherwydd mae’n ymddangos bod hyn yn hanfodol i geisio gwella gwasanaethau a chanlyniadau.
Dyfarnwyd grant gan y Comisiwn
Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i Ganolfan Astudiaethau Casineb
Prifysgol Caerlŷr i arwain prosiect sy’n mynd i’r afael â throseddau casineb homoffobig, trawsffobig a deuffobig yng Nghaerlŷr a Swydd Gaerlŷr. Er bod y darn hwn o waith wedi’i anelu’n uniongyrchol at fynd i’r afael â’r broblem o dan-adrodd ymysg dioddefwyr LHDT o droseddau casineb o fewn Swydd Gaerlŷr, dangosodd ein canlyniadau o ran rhwystrau yng
Nghymru ar draws yr holl nodweddion gwarchodedig batrwm tebyg iawn https://le.ac.uk/hate- studies/research/identifying-barriersand-solutions-to-under-reporting