Skip to main content

gair rhydd - Issue 965

Page 33

Taf-od33 Cyfarchion o Ffrainc... News Opinion Politics Feature Science Societies Listings 9 - 12 14 - 18 20 - 23 24 - 25 26 - 27 1-6 28 - 29

Sport 36 - 40

Monday November 28 2011 • #gairrhydd • tafod@gairrhydd.com

Nia Davies Taf-od Pan mae unrhywun yn penderfynu astudio ieithoedd fel gradd yn y Brifysgol, mae treulio blwyddyn dramor yn dod law yn llaw gyda’r cwrs. Felly, pan nes i benderfynu astudio Ffrangeg a Sbaeneg ym Mhrifysgol Caerdydd, o’n i’n gwybod y byddwn i’n treulio hanner cyntaf y drydedd flwyddyn yn Ffrainc a’r ail hanner yn Sbaen fel myfyrwraig Erasmus. A dyna ble’r ydw i nawr; Caen, Basse-Normandie, Gogledd Ffrainc tan ganol mis Ionawr, ac yna fe fyddai yn Santiago de Compostela, Galicia, Gogledd Sbaen o fis Chwefror hyd ddiwedd mis Mehefin. Os ydych chi’n astudio un iaith, fe gewch chi’r cyfle i fod yn assistante mewn ysgol dramor yn dysgu Saesneg, ond nid yw hyn yn bosib i’r sawl sy’n astudio dwy iaith, ac felly’r dewis yw naill ai gweithio neu astudio fel myfyriwr. Fe wnes i benderfynu mynychu’r Brifysgol yn Ffrainc ac yn Sbaen gyda’r gobaith o gwrdd â nifer o bobl debyg i fi tra’n parhau i astudio a byw bywyd myfyrwraig. Gan fy mod i yn Ffrainc am llai na hanner blwyddyn roedd cael ystafell yn y llety myfyrwyr bron yn amhosib, felly fe wnes i benderfynu dewis yr opsiwn ‘home stay’, sef byw mewn cartref Ffrangeg gyda theulu Ffrangeg. Mae’n help aruthrol o ran siarad a deall yr iaith, ond mae e hefyd wedi fy helpu i

setlo yn y wlad a dod i adnabod rhai o’r traddodiadau. Un gwahaniaeth mawr ym mywyd teuluol y Ffrancwyr yw’r ffordd maen nhw’n cynnal pryd o fwyd teuluol. Bues i’n ddigon ffodus i gael gwahoddiad i bryd o fwyd tebyg gyda’r teulu cyfan ac heb orymateb o gwbwl, fe wnaeth y pryd bwyd pum cwrs bara chwe awr! Dyma’r cyfle i’r teulu i gyd ddod at ei gilydd i fwynhau bwyd a gwin. Gan fy mod i’n byw tua chwarter awr o’r Brifysgol, mae’n rhaid i mi ddal bws ac yna tram. Mae’r system drafnidiaeth yma yn anhygoel ac yn hawdd iaw. Mae’n bosib prynu cardyn am 30 Ewro y mis sy’n eich galluogi ddefnyddio pob bws a thram mor aml ag yr hoffech. Mae’r brifysgol fan hyn yn wahanol i Brifysgol Caerdydd gan bod popeth ar gampws. Mae mwyafrif y myfyrwyr yn byw, yn astudio, ac yn bwyta ar gampws y Brifysgol. Pryd o fwyd tri chwrs amser cinio am llai na 4 Ewro… bargen a hanner! Ac mae’n rhaid i mi hefyd ganmol safon bwyd y wlad…dim brechdan ham a phecyn o greision – ond salad i ddechrau, dewis o gig, pysgod a pizzas di-ri, a digon o ddewis i bwdin gan gynnwys ffrwythau ffres a chacennau. Yn amlwg mae gweld eisiau pethau o adref, yn bennaf teulu a ffrindiau, yn anorfod. Mae’n hawdd iawn dod o hyd i rywbeth yn lle baked beans, ond mae’n anodd iawn dod o hyd i un o’ch teulu a’ch

ffrindiau. Ond un o’r amseroedd anoddaf i fi eu cael yn Ffrainc oedd yn ystod Cwpan y Byd Rygbi. Fel yr unig Gymraes mewn crys coch Cymru, mewn tafarn llawn Ffrancwyr, nid oedd y canlyniad rhwng Cymru a Ffrainc yn un hawdd i’w lyncu! Roedd gweld neu glywed Ffrancwr yn fy ngwneud i’n flin am ddyddiau, a chredwch chi fi, ar y pryd, doedd dim ffordd o ddianc rhagddynt, roeddent ym mhobman. Yn amlwg, gorymateb o’n i, ond Ffrainc oedd y lle gwaethaf yn y byd i fod ar y pryd, yn bendant. ‘Dwi wedi dod dros sioc ac iselder y penwythnos yna erbyn hyn, ac nid yw pob Ffrancwr yn fy ngwneud i’n flin rhagor. Diolch byth am hynny, neu byddai’r misoedd diwethaf yma wedi bod yn annioddefol! Yn ystod fy amser yn Ffrainc ‘dwi wedi cwrdd â phobl arbennig ac wedi cael profiadau gwych. ‘Dwi wedi cael y cyfle i fyw bywyd fel Ffrances a profi traddodiadau a diwylliant y wlad. Ond yn bennaf, rwy’n teimlo fy mod i wedi cyflawni un o brif fwriadau’r amser dramor, sef gwella fy iaith. Mae’n wir ei bod hi’n anodd meistroli iaith nes eich bod chi’n byw bywyd drwyddi bob dydd, ac er bod fy iaith yn bell iawn iawn o fod yn berffaith, ac hefyd yn bell o fod yn rhugl, mae’r misoedd diwethaf yma yn Ffrainc wedi rhoi hwb i fi ac i fy iaith. Y camau nesaf i fi nawr yw edrych ymlaen at y Nadolig, at gael gweld teulu a ffrindiau, cyn dychwelyd yn

ôl i Ffrainc i wneud arholiadau mis Ionawr. Yna byddaf wedi gorffen fy amser yn Ffrainc ac yn hedfan draw i Sbaen i ddechre’r holl beth eto. Fe fydden i’n bendant yn annog unrhywun sy’n cael y cyfle i dreulio amser dramor i wneud hynny.

Heb swnio’n rhy gawslyd, mae wir yn ehangu eich gorwelion, ond mae e hefyd yn antur, a beth yw bywyd heb ychydig bach o antur? Cewch ddarllen am brofiadau Nia yn Sbaen y tymor nesaf.

Digwyddiadur Taf-od 2il Rhagfyr 2011. Dwr A Thân: Cadeiriau'r Urdd 2011 gyda Llyr Gwyn Lewis. 7:30yh. Capel y Crwys, Caerdydd. Trefnir gan Cymrodorion Caerdydd, noddwyd gan Llenyddiaeth Cymru.

Eisiau cyfrannu erthygl, adolygiad, neu hysbysebu digwyddiad? Cysylltwch â ni ar:

3ydd Rhagfyr 2011 - Gig Nadolig Rhanbarth Morgannwg Gwent (Cymdeithas yr Iaith): Heather Jones, Alun Battrick, JJSneed, Jamie Bevan a'r Gweddillion, DJs. Cychwyn 6yh (ar ol y rygbi) Clwb y Bont, Pontypridd. Mynediad yn £5

Facebook: grwp Taf-od 2011-12

7fed Rhagfyr 2011 - Noson Nadoligaidd: Huw M. 6:30yh. Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan. 7fed Rhagfyr 2011 - Gig Taliesin yn 50: Y Niwl, Richard James + nifer o feirdd a llenorion yn cynnwys y Prifardd Rhys Iorwerth. 7yh. Bunkhouse, Heol y Santes Fair, Caerdydd. £8.50 *yn cynnwys tanysgrifiad blwyddyn i Taliesin*

e-bost: tafod@gairrhydd.com

Rhagfyr 8fed - Parti Dolig Nyth: No Thee No Ess, Tim Ten Yen, Fennel Seeds, Mr Huw, Twll Daear Pry Genwair, DJs. 7:30yh. Gwdihw, Caerdydd.

Twitter: @Taf_od

10fed Rhagfyr 2011 - Noson lansio yr albym Troi a Throsi: Yr Ods, Creision Hud, Violas. 8yh. Clwb Ifor Bach, Caerdydd. £5. 11eg Rhagfyr 2011 - Cwis Nadolig Cell Caerdydd (Cymdeithas yr Iaith) yng nghwmni'r cwisfeistr enwog Geraint Criddle. Tafarn y Diwc, Treganna, Caerdydd. 14eg Rhagfyr 2011 - Noson lansio yr albym Gathering Dusk: Huw M, Georgia Ruth, Siddi, DJ Meic P. 8yh. Gwdihw, Caerdydd. £3.

Uchaf: Huw M Isaf: Y Niwl


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
gair rhydd - Issue 965 by Cardiff Student Media - Issuu