Gair Rhydd 1125 - 19th November 2018

Page 9

TAF-OD

NEWYDDION

gan Tomos Evans

9

Pawen Lawen, Gymru!

Ymgyrch Aled Hughes yn codi calon

M

ae ymgyrch y cyflwynydd radio, Aled Hughes, wedi cipio dychymyg miloedd o bobl Cymru a thu hwnt wrth i ysgolion ledled y wlad a phob math o gymdeithasau a sefydliadau gyfrannu at nod o gyrraedd 10,000 pawen lawen (neu ‘high five’). Nod yr ymgyrch yw annog pobl i gyfrannu arian tuag at elusen Plant Mewn Angen wrth i’r ymgyrch wasgaru ar draws Cymru. Roedd disgyblion Ysgol Bro Cernyw, yn Llangernyw, wedi dechrau defnyddio’r term Pawen Lawen ac ers mis bellach, mae Aled Hughes wedi mynd ati i gasglu pawennau llawen o bob cwr o Gymru, gyda’r gobaith o gyrraedd ei darged uchelgeisiol. Dywedodd Aled Hughes, sy’n cyflwyno rhaglen foreol ar BBC Radio Cymru, wrth Taf-od, “Fe ddaeth y syniad ar ôl yr ymateb i’r ymadrodd pawen lawen gyrraedd y rhaglen. Mi oeddwn i’n meddwl ei fod yn ffordd wreiddiol hyfryd o ddweud ‘high five’ yn Gymraeg. Felly fe aethom ni ati i ddarganfod mae plant Llangernyw sy’n ei ddefnyddio cyn meddwl am ffyrdd o’i basio ymlaen trwy Gymru”. Ond, mae’r pawennau llawen wedi cyrraedd pobl y tu hwnt i Gymru hefyd , a bellach wedi troi’r ymgyrch yn un ryngwladol. Dywedodd Aled fod yr ymateb i’r ymgyrch “wedi fy llorio. Syniad syml y gall pawb ei wneud ac mae’r ymgyrch yma trwy’r #pawenlawen cyn mynd ar y lôn i’w casglu yn rhyfeddol...O Fietnam, Patagonia a Seland Newydd - mae yna blant wedi rhannu a gwenu a mwynhau”.

YN Y LLUN: Llun o Pudsey y tu allan i stwidio’r BBC yn Llandaf (Tarddiad: Tomos Evans) Mae’r ymateb wedi bod mor ffafriol fod Aled o’r farn y bydd mwy o bawennau llawen yn cael eu casglu na’r targed gwreiddiol. “10,000 oedd y nod ond mae’n debygol y byddwn i’n nes at 25,000 gobeithio”.

Ond er mai codi ymwybyddiaeth, a chodi arian, ar gyfer elusen Plant Mewn Angen yw’r nod, mae’r ymgyrch hefyd wedi bod yn fuddiol i’r iaith Gymraeg. Ychwanegodd Aled,”Trwy fynd ar daith i ardaloedd sydd ddim yn cael cymaint

o sylw a hynny mae yna elfen arall wedi ei hychwanegu. Mae’n dangos bod y Gymraeg yn gallu addasu a bod yn berthnasol a gwahanol. Mae’n fodd o ddiolch hefyd am y gefnogaeth i Radio Cymru”.

Felly, gyda phawennau llawen wedi codi calonnau Cymry o bob cwr o’r byd, y gobaith ydy y bydd yr ymgyrch yn llwyddo torri trwodd i godi ymwybyddiaeth o waith Plant Mewn Angen ac y bydd llawenydd yn troi’n haelioni.

Yn Trafod yr wythnos hon... Mali Llyfni 1. Pwy wyt ti a beth wyt ti’n astudio?

5. Pe fyddet ti ar yr X Factor, pa gân byddet ti’n ei chanu a pham?

9. Prosecco neu champagne? Pam?

Mali Llyfni, a dwi yn y flwyddyn gynta’n astudio Cymraeg a Hanes.

Unrhyw beth sy’n siwtio Alto, felly ddim byd gan Beyonce ne’ Whitney Houston.

10. Beth oedd y diwrnod gorau iti ei gael erioed?

2. Beth yw’r digwyddiad sy’n codi’r mwyaf o embaras arnat? Crôl teulu ‘leni...

3. Pam penderfynu astudio yng Nghaerdydd? Wel, mi on i wastad isio symud yn bell o adra’ i ryw ddinas, ac isio neud Cymraeg, ac felly dyma pam neshi ddewis dod i astudio’n Gaerdydd.

4. Beth oedd dy air cyntaf? Ma’ Mam yn deud mai ‘mam’ oedd o, a ma’ Dad yn deud mai ‘dad’ oedd o felly, un o’r ddau.

6. Beth fyddet ti’n ei archebu o’r Bwyty Inidiaidd lleol? Ma’ rhaid mynd ‘all out’, felly Popadoms, pilau rice, butter chicken a garlic naan.

Dim un

Ym, sgenai’m cô da, ond ma’r trip teulu riw 7 mlynedd nôl i Blackpool yn sefyll allan.

11. Beth yw dy gàs beth? Beans

7. Pwy oeddet ti’n ffansïo pan oeddet ti’n iau?

12. Beth fyddet ti’n gwneud yn ystod dy noson ddelfrydol?

Brandon Flowers, a dal yn i fod yn onest...

Unai noson mewn efo ffilm a ‘ice cream’, neu mynd weld band mewn gîg bychan.

8. Pwy yw dy hoff fand?

13. Pa taset yn gallu bod yn unrhyw anifail am ddiwrnod, pa un fyddet ti’n dewis, a pham?

Queen neu The Killers, anodd dewis.

Aderyn, er mwyn gallu hedfan o gwmpas y byd.

14. Disgrifia dy hun mewn tri gair. Creadigol, Cyfeillgar a Chymwynasgar?

15. Pwy fydd yn Trafod gyda’r Taf-od yr wythnos nesaf? Ruth Erin Roberts.

Eich adran taf-od Llion Carbis Tomos Evans tafod@gairrhydd.com


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.