gair rhydd - Issue 949

Page 22

Taf-od 22

Hwyl Fawr Derwyddon Elliw Mair Taf-Od

Daeth diwedd cyfnod Nos Sadwrn y 27ain wrth i Dderwyddon Dr Gonzo chwarae ei cord olaf (yn llythrennol gan fod yr allweddell bellach yn filoedd o ddarnau man ar lawr clwb). Ers ennill brwydr y bandiau Cymdeithas yr Iaith yn 2005, mae’r Derwyddon wedi tyfu o nerth i nerth. Maent wedi cyrraedd brig siart c2 a chael eu gwobrwyo gan Radio Cymru am fand gorau a band gorau byw Cymru yn 2009. Nid yn unig y cydiwyd calonnau'r Cymry gan y Derwyddon, maent wedi perfformio yn rhai o wyliau mwyaf Lloegr megis Gwyl Latitude ac wedi cael eu caneuon ar radio 1 sy’n gamp aruthrol i fand Cymraeg. Er bod caneuon fel Chaviach a Madrach yn ganeuon gwych, ei perfformiadau byw a wnaeth Derwyddon yn fand mwyaf poblogaidd Cymru. Roedd ganddynt y gallu i gael y dorf i ddawnsio ar ôl un nodyn ac roeddent yn cyfathrebu yn wych gyda’r gynulleidfa. Ni all neb

a aeth i weld Derwyddon yn fyw ei galw yn fand boring. Nid oedd Nos Sadwrn, pan chwaraewyd eu gig olaf yng Nghlwb Ifor Bach yn eithriad ac mae 3 gair yn ddigon i ddisgrifio’r noson - orlawn, gwyllt a ffantastig, ac i ychwanegu gair arall - chwyslyd! Cefais air sydyn gyda Dewi Foulkes – chwaraewr bâs y Derwyddon: Pam wnaethoch benderfynu ei fod yn amser i ymddeol? Rydyn yn gorffen oherwydd bo ni'n meddwl bo ni'n stryglo mynd ymhellach efo be danisho neud fel band ac mae’n anodd cael pawb at eu gilydd i sgwennu caneuon gan bo pawb ar hyd y wlad ym mhob man. Sut deimlad oedd hi i chwarae eich gig olaf ? Roedd hi’n deimlad gwych chwarae'r gig olaf. Cynulleidfa brilliant unwaith eto. Rydych wedi perfformio mewn sawl lleoliad, ble oedd eich gig gorau erioed?

yn Isle of Wight. Rydych chi’n enwog am wisgo dillad gwallgo’ ond pa un oedd dy wisg orau? Dim ond Y-FRONTS coch a gwyn. Beth oedd dy brofiad gorau di fel rhan o’r Derwyddon? Chwarae mewn gwyliau megis Wakestock, Bestival, Latitude a Headlinio steddfod Bala. I chi'n meddwl y byddwch fel Meic Stevens ac yn chwarae tua 10 gig olaf ? Na! Heb os, mae’r Sin roc Gymraeg yn mynd i deimlo colled enfawr y band unigryw hwn a roddodd cymaint o fwynhad a phleser i bobl Cymru. Ni fydd gwyliau Cymru hanner mor wyllt heb y Derwyddon yn llenwi ein llwyfannau. Hwyl Fawr a Diolch Derwyddon!

Maes-b Bala neu Gwyl Bestival

Un Nos Ola Leuad Meinir Williams Taf-Od Heb os, un o’r nofelau enwocaf i’w hysgrifennu yn y Gymraeg erioed yw campwaith Caradog Prichard, Un Nos Ola Leuad. Doedd dim syndod felly y bu disgwyl eiddgar am gynhyrchiad diweddaraf Theatr Bara Caws wrth iddynt ddramateiddio’r nofel boblogaidd a mynd a hi ar daith ar hyd a lled Cymru. Er yn siomedig na ddaeth y cynhyrchiad i’n Prifddinas, cafwyd y rhai a fu’n ddigon lwcus i’w gweld wledd a hanner, ac yn sicr nid oedd y perfformiad yn siomi. Betsan Llwyd oedd yn gyfrifol

am ei chyfarwyddo gyda’r cast yn cynnwys wynebau adnabyddus megis Carys Gwilym oedd yn chwarae rhan y fam, Siôn Trystan yn chwarae rhan y mab a Rhys Richards yn chwarae rhan y ‘dyn’ fel petai. Teimlaf mai cryfder pennaf y cynhyrchiad oedd eu gallu i drosglwyddo yn glir feddylfryd y bachgen o gymharu â’r mab. I unrhyw un sydd wedi darllen y nofel, nid modd gwadu ei bod yn gymhleth drwyddi draw gyda’i hiaith ffonetig dafodieithol, llu o gymeriadau a thuedd y penodau i anwybyddu trefn gronolegol yn llwyr. Wrth ddarllen y nofel, ar brydiau

ceir hi’n anodd gwahaniaethu rhwng meddylfryd hunangofiannol y dyn a sefyllfa bresennol y bachgen. Ond, rhannwyd yn eglur rannau’r dyn a’r mab rhwng y ddau gymeriad a llwyddwyd i drosglwyddo’r stori yn llawer mwy eglur ac yn hynod effeithiol. Cryfder arall y ddrama oedd sut yr ymdopwyd â’r holl gymeriadau. Gyda dim ond chwe actor yn gyfan gwbl yn rhan o’r cynhyrchiad, rhaid yw eu canmol am eu gallu i drosglwyddo o un cymeriad i’r llall mor rhwydd a naturiol. Digwyddai cymaint o ddigwyddiadau yn y nofel, roeddwn yn tybio y byddai’r ddrama yn mynd am oriau! Ond llwyddwyd i ddewis a

dethol y rhannau pwysicaf yn effeithiol er mwyn ei gwneud yn ddrama awr a hanner oedd yn ddigonol yn fy marn i. Gwelsom y golygfeydd pwysicaf, y rhai oedd yn arwain at salwch meddwl y fam a chwymp cymeriad y bachgen. Yn ddiddorol, ni ychwanegwyd rhannau o’r penodau ‘salmaidd’ eu naws yng nghanol a diwedd y nofel yn y cynhyrchiad o gwbl. Roedd hwn yn benderfyniad doeth gan y byddai yn sicr wedi gor-gymhlethu y plot. Teimlaf fod yn rhaid rhoi ychydig eiriau i ganmol Rhys Richards am ei ran fel ‘y dyn’. Mae fy nghlod yn bennaf nid yn unig am ei actio gwych ond he-

Want to write? Come to our meetings on Monday at 5pm on the fourth floor of the Students' Union

fyd ei allu i gadw ffocws anhygoel trwy gydol y ddrama gan ei fod yn bresennol ar y llwyfan, yn y cefndir ai peidio ymhob golygfa. Rhaid llongyfarch felly Gwmni Theatr Bara Caws am eu cynhyrchiad gwych. Cafwyd golygfeydd llon a lleddf a chyffyrddwyd y gynulleidfa gan sefyllfa druenus y mab a’i fam a ddaeth yn fyw o flaen ein llygaid. Rwyf eto i ddod o hyd i rywun nad ydynt wedi mwynhau'r cynhyrchiad. Ynghyd â’r set, y gwisgoedd, y goleuo a’r action, roedd y perfformiad hwn yn rhagorol. Ond, Theatr Bara Caws, dewch a chynhyrchiadau fel hyn i Gaerdydd yn y dyfodol!


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.
gair rhydd - Issue 949 by Cardiff Student Media - Issuu