Issue 1137 - Monday April 8

Page 10

taf od

10

Barn y Bobol

Wedi dyfarnu gôl o blaid Chelsea er i chwaraewr fod yn camsefyll, Taf-od sy’n holi rhai o fyfyrwyr Cymraeg Caerdydd ar y mater.

Deio Jones

Myfyriwr blwyddyn gyntaf Cymraeg a Newyddiaduraeth O ran VAR, mae yno wastad am fod ambell i ‘feirniad soffa’ sy’n barod i fynd yn erbyn graen unrhyw ychwanegiad i’r uwch-gynghrair. Mae o’n ychwanegu deinameg tebyg i TMO rygbi i’r gêm, sydd yn amlwg yn gweithio, ac hefyd yn rhoi llai o bwysau ar y swyddogion sy’n rhedeg y lein. Digon hawdd yw hi i gefnogwyr weiddi ar ddyn/dynes efo baner, ond does na’m llawer o bwynt gweiddi ar dechnoleg. I’r rai sy’n poeni am y gêm yn arafu, dw i’n meddwl fod hyn yn angenrheidiol ar gyfer dyfodol pêl-droed. O safbwynt cefnogwr Newcastle United, fuasai unrhyw help tuag at gôl yn werthfawrogol, VAR neu beidio.

Mared Jones

Myfyrwraig ail flwyddyn Cymraeg a Newyddiaduraeth Er bod VAR wedi ei ddefnyddio yn eithaf llwyddiannus yng nghwpan pêl-droed y byd yn 2018 cymysglyd iawn yw barn y bobl amdano. Dwi’n credu, yn sicr, bod rhaid ei gyflwyno i gemau’r UwchGynghrair gan bod gymaint yn y fantol i’r timoedd hyn. Petasai VAR wedi cael ei ddefnyddio yn y gêm rhwng Chelsea a Chaerdydd yn ddiweddar, ni fyddai gôl gyntaf Chelsea erioed wedi cael ei chaniatáu a phwy a ŵyr gallai Caerdydd fod wedi ennill y gêm. Gallai’r gôl honno fod yn gostus iawn i Gaerdydd gan fod yn hoelen yn ei harch i ddisgyn o’r Uwch-Gynghrair hyd yn oed.

Gwern ab Arwel Myfyriwr blwyddyn gyntaf Cymraeg a Newyddiaduraeth

Wedi siom Caerdydd ar y penwythnos, bydden nhw’n siwr o fod yn cyfri’r dyddiau nes ddyfodiad VAR y tymor nesaf. Roedd y dechnoleg yn llwyddiannus yng Nghwpan y Byd, a bydd yn sicr o arwain at benderfyniadau cywirach yn yr uwchgynghrair hefyd, ond mae angen sicrhau yn gyntaf bod y broses o wneud penderfyniadau yn gyflym a chyffrous. Yn bwysicaf oll, rwy’n credu ei bod hi’n bwysig nad yw swyddogion yn colli hyder, neu gallai arwain at orddibynnu ar VAR.

Eich unig gyhoeddiad myfyrwyr wythnosol trwy gyfrwng y Gymraeg. Sefydlwyd: 2003 I gysylltu â ni, e-bostiwch tafod@gairrhydd.com Am fwy o gynnwys, ewch i gairrhydd.com/tafod

NEWYDDION

Cyfweliad Meri Huws: Ei diwrnod olaf a’i chyfweliad olaf

gan Jacob Morris

A

r ei diwrnod olaf yn y swydd, cefais i’r anrhydedd o siarad â Meri Huws yn ei chyfweliad olaf fel Comisiynydd y Gymraeg, cyfle i’w holi ynglyn â’i gwaith fel Comisiynydd ers 2012. Dyma ddiwedd ar gyfnod y comisiynydd cyntaf erioed ac yn sicr mae hi wedi gadael ei hôl; o gyflwyno’r Safonau Iaith ynghyd â gosod targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae’n berson angerddol, annibynnol ac uchelgeisiol sydd wedi ymrwymo’i hoes i frwydro’n ddiflino dros y Gymraeg. Y fenyw gyntaf a fu’n Gadeirydd ar Gymdeithas yr iaith Gymraeg ac yn Gadeirydd ar y Bwrdd Iaith, mae ei chyfraniad helaeth wedi bod yn ganolog i frwydr yr iaith ar hyd y degawdau. Ond erbyn hyn, mae’n teimlo fod hi’n bryd camu i’r neilltu gan wneud lle i’w holynydd, Aled Roberts. Beth oedd yr uchafbwyntiau? ‘Wel mae’r saith mlynedd yn dod i ben am hanner nos ddydd Sul, a ti sy’n cael y cyfweliad olaf! Roedd cyflwyno’r safonau i sefydliadau cyhoeddus yng Nghymru yn o’r uchafbwyntiau pennaf, ar y dechrau roedd hi wedi profi’n hynod heriol , ond dwi di gweld gwahaniaeth ar lawr gwlad ac wrth i mi ddod at ddiwedd fy nghyfnod dwi mor falch o weld y safonau iechyd yn cael eu cyflwyno. Mae’r safonau wir wedi bod yn gam ymlaen i’r Gymraeg a bod gan bobol yr hawl i ddefnyddio’r Gymraeg wrth ymwenud â’r gwasanaeth iechyd.’ Beth oedd yr iselbwyntiau? ‘Y Papur Gwyn a gyflwynwyd gan Alun Davies ynglyn â newid strwythur o gael gwared ar y Comisiynydd, symud at gomisiwn ac odd e’n amau gwerth y safonau - d’odd hwnna ddim yn gyfnod da fan hyn. Nid oedd colli stêm yma, ro ni’n hollol benderfynol bo ni ddim yn mynd i golli momentwm ac o ni mor ddiolchgar bod y safonau iechyd wedi cael eu pasio. Er fe wnaeth godi amheuaeth o fewn a thu allan i’r sefydliad, wnaeth e ddim o reidrwydd arafu gwaith ond yn sicr fe wnaeth lesteirio arno.’ Y fenyw gyntaf fu’n gadeirydd ar Gymdeithas yr Iaith a Chadeirydd y Bwrdd Iaith, sut wnaeth y swyddi hyn eich arfogi ar gyfer swydd y Comisiynydd? ‘Dwi’n meddwl nôl at y cyfnod yna’n aml fel cadeirydd y gymdeithas a’r bwrlwm odd mor fyw yn y cyfnod ‘na a dwi’n gobeithio deugain mlynedd ymlaen fod peth o’r bwrlwm yna, yr ysbryd i ymladd a brwydro dros y Gymraeg yn perthyn i’r sefydliad yma hefyd. Ry ni’n sefydliad statudol, ry ni’n sefydliad sy’n rhan o gyfansoddiad Cymru ond o ni’n awyddus i

Cyn-Gomisiynydd y Gymraeg: Mae Meri Huws wedi camu o’r adwy ar ôl dechrau’r swydd yn 2012. (Tarddiad: Jacob Morris). gael yr elfen yna o weithredu i bwrpas. Ma’r elfen honno yn bendant wedi dod gyda fi o ‘nghyfnod i gyda’r gymdeithas.’ Mae’n siŵr nad yw pethau wedi bod yn fel i gyd, ond sut felly mae eich perthynas gyda’r llywodraeth? ‘Swni’n dweud fod e’n gorfod bod yn berthynas iach ac onest, dyw’r Comisiynydd ddim yn was i’r llywodraeth, rôl y Comisiynydd yw cydweithio ond hefyd herio’r llywodraeth. Ond wedi dweud hynny, ma’ gweithio mewn partneriaeth i feithrin perthynas iach a dwi ceisio fy ngorau i wneud hynny. Ond hefyd, dwi di ceisio meithrin perthynas iach gydag arweinwyr y cynghorau, arweinwyr y sector iechyd. Pan ddaeth y Safonau Addysg o ni’n siarad gyda phrifathrawon, is-ganghellorion prifysgolion er mwyn iddyn nhw gael deall pam o’dd y newidiau yma’n diwgydd. Dwi yn rheoleiddiwr, ond yn rheoleiddwr i bwrpas ydw i, er mwyn sicrhau fod y Gymraeg yn ffynnu yng Nghyrmu. Felly mae trafod mor, mor bwysig er mwyn bod pobol yn deall pam.’ Mae yna gryn feirniadaeth gan rai o weinidogion y llywodraeth, yn bennaf Eluned Morgan, fod y Gymraeg bellach wedi datblygu’n rhywbeth biwrocratiadd, sut fyddech chi’n ymateb i hynny? ‘Fasen i’n anghytuno’n llwyr. Ma ‘na

elfen o fiwrocrataieth yn perthyn i reoloeddio yn arbennig rheoleiddio gwael, a dwi ddim yn credu fod hynny’n wir fan hyn. Ry ni’n rheoleiddio i bwrpas i sicrhau fod Cymru’n wlad ddwyieithog, yn wlad wirioneddol ddwyieithog ein bo ni’n gallu gweld a chlywed y Gymraeg ymhob man a bod pobl sy’n dewis defnyddio’r Gymraeg yn gallu gwneud.’ Pa mor realistig yw miliwn o siaradwyr erbyn 2050? ‘Swni’n dweud fod e yn realistig. O edrcyh ar y ffigyrau diweddara sy di dod allan o’r llywodraeth yn ganolog, ma rhyw 800,000 o siaradwyr yng Nghymru ac felly ma camu i’r filiwn ddim yn amhosib. Ond i gyrraedd yna mae angen i ni gydio yn y system addysg yn enwedig y cyn 16 oed, oherwydd dwi ddim wedi cael fy mherswadio ein bod ni’n creu siradwyr rhugl, hyderus.’ Fel menyw yn un o swyddi pwysicaf yng Nghymru ar hyn o bryd, beth fyddech neges chi i ferched ifanc eraill sy’n ystyried dilyn llwybr gyrfa mewn gwleidyddiaeth? ‘Swni’n dweud camwch mlan, ma Cymru yn wirioneddol eich angen chi. Er gwaetha’r ffaith ein bo ni di ennill y bleidlais dros ganrif yn nôl nawr dwi’n edrych o hyd ar sefydliadau dros Gymru a gweld bo’r uchel swyddi yn cael eu llenwi gan ddynion. Yn fwy nag erioed ma an-

gen merched yng ngwleidyddiaeth, swyddi uchel ac yn rhedeg sefydliadau yng Nghymru.’ Beth fyddech cyngor pennaf i’ch olynydd, Aled Roberts? ‘Yn syml iawn; bydd yn driw iti dy hunan, bydd yn uchelgeisiol a bydd yn annibynnol a chofia pam ti’n neud y job sef er mwyn y Gymraeg.’ Beth yw eich gobeithion am y dyfodol? ‘Wel, ma hynny’n gwestiwn sydd yn fy mhoeni ‘chydig bach a dweud y gwir, dwi di bod mewn swydd ers gadael y brifysgol. Byddaf sicr yn treulio mwy o amser yn fy nghartref, Llandeilio ac efallai gwneud mwy o fewn y gymuned honno. Dros y blynyddoedd dwi di bod yn cyrraedd gytre’n hwyr a gadael yn gynnar yn y bore felly’n ymwneud yn fwy yn y gymuned honno yw’r bwriad, ond fydd rhaid imi ffeindio rhywbeth i wneud.’ Sut gall bobl ar lawr gwlad wneud ei rhan i gyrraedd y filiwn erbyn ganol y ganrif? ‘Ma na lot o bethau, manteisio ar bob cyfle i ddefnyddio’r Gymraeg, lle bynnag i chi’n gweld bathodyn iaith. Ond cyn bwysiced o oes yna ddysgwyr siaradwch Gymraeg gyda chi peidiwch troi i’r saesneg er mwyn hwyluso’r sgwrs, byddwch yn rhan o’r daith i bobl eraill. Peidiwch bod ofn i ddefnyddio’ch Cymraeg chi ymhob man.’


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.
Issue 1137 - Monday April 8 by Cardiff Student Media - Issuu