VOTE
welsh language officer
manifesto 2016
VOTE
43
Swyddog y Gymraeg
The Welsh Language Officer is responsible for representing the interests of Welshspeaking students at the University within the structures of the Union and where appropriate, the University. Mae’r Swyddog y Gymraeg yn gyfrifol am gynrychioli buddiannau myfyrwyr sy’n siarad Cymraeg yn y Brifysgol o fewn strwythurau’r Undeb a, lle y bo’n briodol, strwythurau’r Brifysgol.
Welsh Language Officer
OSIAN MORGAN
Os caf fy ethol, byddaf yn canolbwyntio ar y nodau canlynol: • Sicrhau bod myfyrwyr Cymraeg eu hiaith Caerdydd yn cael yr un hawliau a chynrychiolaeth a'r rheini yn Aberystwyth a Bangor. I gyflawni'r nod hwn, byddaf yn rhoi pwysau ar yr Undeb i sefydlu 'Undeb Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd (UMCC) o fewn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd a fydd yn hafal i UMCB (Bangor) ac UMCA (Aberystwyth) gyda Llywydd etholedig llawn amser yn gyfrifol amdano. Bydd UMCC yn gweithredu fel corff cryf o fewn yr Undeb i gynrychioli myfyrwyr israddedig, ôl-raddedigion a myfyrwyr gofal iechyd sy’n siarad Cymraeg yn gymdeithasol, yn academaidd, yn wleidyddol, a gyda materion lles o fewn yr Undeb a'r Brifysgol. • Cryfhau ac ehangu'r cynllun 'Cymraeg i bawb' ar gyfer y rheini sy'n dymuno dysgu Cymraeg, gan gynyddu'r nifer o fyfyrwyr sy'n gallu cymryd rhan yn y cynllun, a sicrhau bod pawb yn gallu manteisio a mwynhau’r iaith Gymraeg. • Ymgyrchu i ail-sefydlu un neuadd cyfrwng Cymraeg yn Llys Senghennydd, i uno a chryfhau’r gymuned o fyfyrwyr sy'n siarad Cymraeg yn Llys Senghennydd ac yn y Brifysgol yn gyffredinol. • Sicrhau bod yr Undeb yn gweithredu ei Bolisi Iaith newydd. • Herio’r Brifysgol i wella ei wasanaethau dwyieithog ac i gyflawni disgwyliadau cynyddol o ran Safonau’r Iaith Gymraeg. If elected, I would concentrate on the following goals: • Assure that the Welsh speaking students of Cardiff receive the same rights and representation as those of Aberystwyth and Bangor. To fulfil this goal, I will put pressure on the Union to establish ‘Cardiff’s Union of Welsh Language Students’ (UMCC) within Cardiff Students' Union that will be equal to UMCB (Bangor) and UMCA (Aberystwyth) with an elected full-time President responsible for it. UMCC will act as a strong body within the Union to represent Welsh speaking undergraduate, postgraduate and healthcare students socially, academically, politically, and with welfare issues within the Union and the University. • Strengthen and expand the ‘Welsh for All’ scheme for those wishing to learn Welsh, by increasing the amount of students that can take part in the scheme, and assuring that everybody can take advantage of, and enjoy the Welsh language. • Campaign to re-establish one Welsh medium hall in Senghennydd Court, to unite and strengthen the community of Welsh Speaking Students in Senghennydd Court and in the University in General. • Assure that the Union implements its new Language Policy. • Challenge the University to improve its bilingual services and to fulfill the increased expectations of the Welsh Language Standards.