Cyfle Annual Report/Adroddiad Cyfle 2008

Page 7

Prif thema gweithgareddau craidd Cyfle yn 2008 oedd ein cynlluniau arloesol i ddarparu hyfforddiant aml-lwyfan ac i ddatblygu hyfforddiant mewn meysydd blaenoriaeth newydd:- Ymddiriedaeth a Chydymffurfiaeth; Amddiffyn Plant; Ymarfer Proffesiynol mewn Animeiddio Digidol ac Arweinyddiaeth a Rheolaeth. Cyflwynwyd hefyd gyrsiau newydd ar gyfer cynhyrchwyr ffilm a chwrs oedd yn hwyluso mynediad pobl anabl i’r diwydiant. Llwyddwyd hefyd i gynyddu’n darpariaeth ar gyfer pobl lawrydd ac i barhau i gynnig hyfforddiant trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd y cyfnod o 2009 ymlaen yn creu sialensiau pellach. Bydd y dulliau traddodiadol o ariannu’n newid mewn hinsawdd economaidd ansicr, ac wrth i’r diwydiant ddod i delerau â realaeth newidiadau cyflym y byd digidol. Mae yna bwyslais sy’n cynyddu’n gyflym ar ddatblygiad proffesiynol parhaus, yn arbennig felly mewn meysydd megis technoleg ddigidol, syniadau creadigol, a sgiliau busnes a rheolaeth. Rydym hefyd yn nodi angen cyflogwyr am welliant yn y sgiliau sylfaenol sydd gan y gweithlu yn ein diwydiant ni, fel mewn sawl diwydiant arall. Maes arall pwysig i’w ddatblygu yw’r un sy’n cael ei adnabod fel “llythrennedd yn y cyfryngau” - arf hanfodol i alluogi unigolion a chymunedau i ddatblygu sgiliau ar gyfer bywyd a gwaith yn yr oes ddigidol. I gloi, rydym yn cymeradwyo ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad Cenedlaethol i’r iaith Gymraeg ac edrychwn ymlaen at ymwneud yn gadarnhaol gyda’i Strategaeth ar gyfer Addysg Trwy Gyfrwng y Gymraeg a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Mae angen i Cyfle fod yn greadigol, arloesol, â’i nod yn glir wrth ymateb i’r sialensiau a’r cyfleoedd hyn. Fe wnawn hyn trwy weithio’n agos gyda Skillset Cymru a’i Fframwaith Tasglu Hyfforddi a thrwy gynnal ein perthynas gref gyda’r cwmnïau annibynnol a’r darlledwyr yng Nghymru. Fe gydweithiwn gyda sectorau addysg uwch a phellach yng Nghymru a datblygu ein rhaglenni estyn allan i gymunedau. Byddwn yn bwrw ymlaen yn egnïol i ddatblygu’n rhaglenni hyfforddiant aml-lwyfan arloesol, sy’n canolbwyntio ar anghenion y diwydiant, a gyda golwg ar y farchnad fyd-eang yn ogystal â’r farchnad leol, ac fe fyddwn yn sicrhau y bydd staff Cyfle ei hun yn cael y cyfle i ddatblygu eu sgiliau hwythau er mwyn ateb y gofynion hyn.

The key themes of Cyfle’s core activities in 2008 were our innovative multi-platform training provision, the development of training in new priority areas such as Trust and Compliance, Child Protection, Professional Practice in Digital Animation and Leadership and Management, as well as new courses for emerging film producers and the targeting of disabled people into the industry. We were also able to increase our provision for freelancers and continue to offer training through the medium of Welsh. 2009 and onwards produces further challenges, as traditional funding processes change, against a background of an unstable economic climate, and an industry that is coming to terms with the realities of a fast changing digital world. There is a rapidly growing emphasis on continuing professional development, particularly in areas such as digital technology, creative ideas, and business and management skills. We also note the requirement of employers for improved basic skills amongst employees within our sector as in many others, and the importance of media literacy as an essential tool to enable individuals and communities to develop life and work skills for the digital age. Finally, we applaud the Welsh Assembly Government’s commitment to the Welsh language and look forward to engaging positively with its recently published Welsh Medium Education Strategy. Cyfle needs to be creative, innovative and highly focused in its response to these challenges and opportunities. We will do this by working closely with Skillset Cymru and its Training Framework Taskforce and by maintaining our strong relationships with the independent companies and broadcasters in Wales. We will collaborate with the Higher and Further Education sectors in Wales and develop our ‘outreach’ programmes to communities. We will forge ahead with our innovative, multi-platform training programmes, focused on industry needs, with a view to the global as well as the home market and we will ensure that Cyfle staff are given the opportunity to develop their own skills in order to meet these challenges.


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.