
1 minute read
Y swydd (parhad)
Cyfrifoldebau allweddol
• Bod fel y prif bwynt cyswllt ar gyfer rhanddeiliaid mewnol ac allanol
Advertisement
• Ateb galwadau a gohebiaeth ysgrifenedig
• Gweithredu fel cyswllt rhwng gweithwyr proffesiynol eraill yn y sefydliad
• Trefnu ac amserlennu apwyntiadau ar ran staff y Cwmni
• Rheoli dyddiadur ar gyfer yr Uwch Dîm Arwain
• Cynllunio cyfarfodydd, gan gynnwys paratoi papurau, adroddiadau a chofnodion
• Goruchwylio systemau a gweithdrefnau rheoli swyddfa
• Rheoli a diweddaru cronfeydd data
• Goruchwylio rheoli system logio ymgysylltu â rhanddeiliaid y cwmni
• Cydlynu trefniadau teithio a llety
• Cyflwyno a chysoni adroddiadau treuliau
• Darparu cymorth gweinyddol ar gyfer gweithgareddau cyfathrebu'r cwmni, e.e. dosbarthu datganiadau i'r wasg, rheoli digwyddiadau, rheoli a diweddaru’r wefan, gweithgaredd cyfryngau cymdeithasol
• Darparu cefnogaeth weinyddol i'r Bwrdd a'i bwyllgorau
• Helpu i sefydlu unrhyw swyddfa/safle newydd ar y cyd â'r Rheolwr Busnes
• Sefydlu trefniadau gweinyddol ar gyfer unrhyw leoliadau/prentisiaid posibl
• Cyfrifoldebau eraill sy'n ofynnol gan Uwch Dîm Arwain (yn unol â graddfa’r swydd)