
1 minute read
Y swydd
Rydym yn awyddus i recriwtio Gweinyddydd i gefnogi rheolaeth effeithiol ac effeithlon gweithgareddau gweinyddol a chyfathrebu'r cwmni. Byddwch yn adrodd i aelod o'r Uwch Dîm Arwain a bydd gennych gyfrifoldeb am weinyddu'r busnes yn gyffredinol.
Byddwch yn gweithredu fel pwynt cyswllt arweiniol ar gyfer rhanddeiliaid mewnol ac allanol a byddwch yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o gyfrifoldebau o ddydd i ddydd gan gynnwys gwneud trefniadau teithio a chyfarfod, paratoi adroddiadau a chofnodion, cynnal systemau ffeilio priodol, rheoli cofnodion rhanddeiliaid y cwmni, a chefnogi gweithgareddau cyfathrebu ac ymgysylltu’r cwmni fel trefnu digwyddiadau, dosbarthu datganiadau i'r wasg a chydlynu deunyddiau brand. Yn ogystal, byddwch hefyd yn darparu cefnogaeth i'r Bwrdd a'i bwyllgorau.
Advertisement
I fod yn llwyddiannus, bydd gennych brofiad blaenorol mewn rôl debyg fel Cynorthwyydd Gweinyddol.
Bydd gennych sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig rhagorol, yn ogystal â sgiliau rhyngbersonol, cynllunio a threfnu. Byddwch yn frwdfrydig iawn ac yn hunan-gymhellol gyda'r gallu i weithio gyda materion manwl a sensitif i amser.
Oherwydd natur a chyfrifoldebau'r rôl, rhaid i chi allu siarad Cymraeg yn ogystal â meddu ar lefel uchel o sgiliau mewn darllen ac ysgrifennu Cymraeg. Byddai cymhwyster Gweinyddu Busnes perthnasol neu gymhwyster tebyg yn ddymunol, yn ogystal â rhywfaint o brofiad mewn cyfathrebu a pheth dealltwriaeth o'r diwydiant niwclear.