Coleg Morgannwg - Cyrsiau Llawn Amser Medi 2012

Page 1

Morgannwg Prospect wel Doc.

13/9/11

19:08

Page 1

COLEG MORGANNWG eich amser. eich dyfodol. cyrsiau llawn amser Medi 2012

Campws newydd gwerth ÂŁ40m yn agor Medi 2012 yn Nantgarw


CYNNWYS

Morgannwg Prospect wel Doc.

13/9/11

19:08

Page 2

2. EICH AMSER, EICH DYFODOL 3. DIGWYDDIADAU AGORED A DYDDIAU YMWELD AR GYFER TEULUOEDD CYMERWCH AMSER I YSTYRIED EICH DYFODOL SAFLE 4. CAMPWS NEWYDD NANTGARW 5. RHAGLEN LEFEL UWCH 6. LLWYBR GWNEUD CAIS I GOLEG MORGANNWG 8. GWASANAETHAU MYFYRWYR 9. ADDUNED RHIENI 10. EU HAMSER EU DYFODOL 11. GWYDDONIAETH GYMHWYSOL 12. ASTUDIAETHAU GOFAL A PHLENTYNDOD 14. Y DIWYDIANNAU CREADIGOL 16. TECHNOLEG GWYBODAETH 17. BUSNES 18. CHWARAEON/ GWASANAETHAU CYHOEDDUS 20. GWALLT, HARDDWCH A THERAPI HOLISTAIDD 22. LLETYGARWCH AC ARLWYO 24. TECHNOLEG ADEILADU 26. PEIRIANNEG AC ELECTRONEG 28. LLWYBRAU DYSGU 14-19 30. BYWYD MYFYRWYR 32. BE A BLE

Mae Coleg Morgannwg yn cyd-noddi prosiect Adeiladu’r Dyfodol Gyda’n Gilydd, prosiect sy’n ceisio darparu cyfres o opsiynau cynhwysfawr ac ymyriadau er mwyn datblygu ‘r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer dysgu a darpar gyflogaeth, codi dyheadau a chynorthwyo anghenion emosiynol a chymdeithasol pobl ifanc 11-19 oed yn Rhondda Cynon Tâf.

EICH AMSER EICH DYFODOL Bydd 2012 yn flwyddyn anhygoel o gyffrous i Goleg Morgannwg; treuliwch eich amser yn datblygu’ch darpar botensial gyda ni: ym mis Medi, byddwn yn croesawu’n carfan gyntaf o fyfyrwyr a staff i Gampws rhyfeddol Nantgarw sy’n cynnwys y Campws gwych newydd gwerth £40M. rydyn ni hefyd yn lansio’n rhaglen Lefel Uwch (ALP) a fydd yn cynnig dewis i chi o 22 pwnc UG a lefel A. O Gelf a Dylunio i Fioleg, hyd yn oed Ffiseg, Seicoleg neu Wleidyddiaeth. mae ein dewis o gyfleoedd astudio yn ehangach nag erioed gyda’r cyfle i gyfuno lefelau UG gydag opsiwn BTEC. bydd ein rhaglen newydd o ddigwyddiadau cyfoethogi ar gael bob brynhawn Dydd Mercher gyda chyfleoedd i ymuno â chôr staff myfyrwyr, ennill gwobr cynllun Dug Caeredin, ymuno ag un o’r timau chwaraeon, mynd i ddosbarth Zwmba neu hyd yn oed datblygu’ch dawn entrepreneuraidd.

Adeilad modern, pedwar llawr yw campws newydd Nantgarw – mae yno le i 3,000 o fyfyrwyr ac mae’n cynnig: Adnoddau dysgu gwych ar gyfer astudio Lefel A yn ogystal ag Astudiaethau Busnes ac Astudiaethau Proffesiynol, Astudiaethau Gofal a Phlentyndod, Arlwyo, Cyfrifiaduraeth, Technoleg Gwybodaeth, Gweinyddu, Cerddoriaeth a’r Celfyddydau Perfformio, Gwallt a Harddwch, Gwyddoniaeth, Chwaraeon. Canolfan Ddysgu o’r radd flaenaf Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd Siopau coffi a bwyty Salon gwallt a harddwch Mannau perfformio ac oriel, gofod ar gyfer cerddoriaeth, drama a’r celfyddydau creadigol. Llyfrgell Bwrdeistref Tâf Elai …bydd yn adnodd cymunedol syfrdanol ar gyfer pawb. Ond does dim rhaid i chi gymryd ein gair ni, profiwch ‘rith daith’ drwy’r campws newydd ar ein gwefan www.morgannwg.ac.uk/developments JUDITH EVANS, PENNAETH

Coleg achrededig Prifysgol Morgannwg

2

MORGANNWG.AC.UK

Ymwrthodiad - Mae Coleg Morgannwg yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth sydd yn y cylchgrawn hwn yn gywir adeg ei argraffu. Mae Coleg Morgannwg yn cadw’r hawl i wneud newidiadau neu ddileu unrhyw un o’r cyrsiau, cyfleusterau’r cyrsiau neu’r cymorth a ddisgrifir yn ôl heb rybudd. Mae’r cylchgrawn hwn ar gael mewn fformatau eraill megis print bras, braille neu dâp sain; cysylltwch â’r Adran Farchnata ar 01443 663249


Morgannwg Prospect wel Doc.

13/9/11

19:08

Page 3

DIGWYDDIADAU AGORED A DYDDIADAU YMWELD AR GYFER TEULUOEDD Peidiwch â chymryd ein gair ni – dewch i weld drostoch chi eich hun. Hoffen ni eich gwahodd i ymuno â ni, mae dyddiadau ein digwyddiadau agored wedi cael eu rhestru isod. Dewch i’n gweld gyda’ch ffrindiau a’ch teulu. Mae’r Dyddiau Cynghori hyn ar gyfer y cyrsiau sy’n cychwyn ym Medi 2012. 23in Tachwedd, Diwrnod Cynghori Lefel A 4.30 – 8.00 yng Nghampws Nantgarw

SAFLE Os ydych wedi ymweld â’r sinema neu unrhyw un o’r bwytai ˆ r i chi sylwi ar ein yn Nantgarw yn ddiweddar, mae’n siw campws newydd rhyfeddol yn Nantgarw wrth iddo ymddangos fel ‘tardis’ tu ôl i’r ffensys. Mae’r ddau gampws arall o’n heiddo hefyd wedi cael eu hadnewyddu wrth i ni barhau i fuddsoddi yn y dechnoleg a’r offer mwyaf modern gan greu amgylcheddau dysgu a chymdeithasol o’r radd flaenaf ar bob un o’n campysau.

15fed Mawrth, Diwrnod Cynghori ar bob Campws 17eg Mai, Diwrnod Cynghori ar bob Campws Gwnewch gais yn fuan gan fod galw mawr am y cyrsiau. Dewch i gwrdd â’r staff, siarad â’r myfyrwyr presennol, gweld y cyfleusterau a phrofi rhai o’r sesiynau. Cewch ragor o wybodaeth ar ein gwefan: www.morgannwg.ac.uk

CAMPWS ABERDÂR Heol Cwmdâr, Abderdâr, Rhondda Cynon Taf CF44 8ST 01685 887500

CAMPWS RHONDDA Llwynypia, Tonypandy Rhondda Cynon Taf CF40 2TQ 01443 663202

CYMERWCH AMSER I YSTYRIED EICH DYFODOL… PENDERFYNIADAU, PENDERFYNIADAU Dydy hi ddim yn hawdd penderfynu beth i’w astudio ar ôl TGAU neu hyd yn oed ble i astudio. Yng Ngholeg Morgannwg gallwn gynnig coleg bywiog a chefnogol lle cewch fynediad i gyrsiau uchel eu hansawdd ˆd â gwasanaeth cymorth personol ynghy – a chael amser da yn y fargen. Fe wnawn eich helpu i: ennill yr hyder a’r cymwysterau fydd eu hangen arnoch chi i sicrhau swydd dda neu symud ymlaen i Addysg Uwch drwy gynnig y camau delfrydol i chi. dewis o ystod eang o gyrsiau galwedigaethol, pynciau academaidd neu hyd yn oed Brentisiaeth Fodern. drwy gynnig cymorth unigol mewn grwpiau bychan dysgu mewn cyfleusterau ardderchog.

DATGANIAD CENHADAETH GYDA’N GILYDD, RYDYN NI’N DARPARU AMGYLCHEDD O ANSAWDD UCHEL A BYWIOG AR GYFER CWRDD AG ANGHENION DYSGWYR, CYFLOGWYR A’R GYMUNED EHANGACH.

CAMPWS NANTGARW Heol yr Odyn, Parc Nantgarw, Caerdydd CF15 7QX 01443 663379 E-BOST: college@morgannwg.ac.uk GWEFAN: morgannwg.ac.uk

COLEG MORGANNWG YN CYRRAEDD SAFON AUR Coleg Morgannwg ydy’r coleg cyntaf yng Nghymru i dderbyn gwobr nodedig am ei safonau iechyd a lles uchel. Mae’r coleg wedi bod yn gweithio’n galed i gynnal a gwella iechyd a lles ei staff ac mae wedi derbyn Gwobr Aur y Safon Iechyd Corfforaethol gan Lywodraeth y Cynulliad ar ôl ennill y wobr arian yn 2010. Cafodd y coleg ei gymeradwyo am fentrau sy’n amrywio o hyrwyddo bwyta’n iach ar draws pob campws hyd at ddarparu proses gefnogol ar gyfer staff i ddychwelyd i’r gwaith. Dwedodd Judith Evans, y Pennaeth, “Dw i a’r staff yn hynod falch mai ni yw’r coleg addysg cyntaf yng Nghymru i ennill y wobr aur. Rydyn ni’n benderfynol i adeiladu ar y safonau iechyd a lles hyn a’n gobaith yw gwneud Coleg Morgannwg yn un o’r lleoedd gorau yng Nghymru i weithio ynddo”.

3


Morgannwg Prospect wel Doc.

13/9/11

19:08

Page 4

CAMPWS NEWYDD NANTGARW

ADNODD RHYFEDDOL, MANNAU GWYCH I DDYSGU A CHYMDEITHASU Yn ystod 2011, mae Campws newydd Nantgarw wedi dod yn amlwg i bobl ar eu ffordd i’r sinema ac i un o’r nifer o’r bwytai cyfagos.

Canolfan ddysgu o’r radd flaenaf Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd Siopau coffi a bwytai

Wrth iddo godi roedd pobl yn dangos mwy a mwy o ddiddordeb ac erbyn hyn gallwn ddatgelu popeth: Cyfleusterau dysgu gwych ar gyfer astudio Lefel A yn ogystal ag Astudiaethau Busnes ac Astudiaethau Proffesiynol, Astudiaethau Gofal a Phlentyndod, Arlwyo, Cyfrifiaduraeth, Technoleg Gwybodaeth, Gweinyddu, Cerddoriaeth a’r Celfyddydau Perfformio, Gwallt a Harddwch, Gwyddoniaeth, Chwaraeon.

“Waw – mae’n edrych yn

RHYFEDDOL beth yw e?”

un o’r sylwadau a glywyd gan bobl oedd yn pasio

4

Salon gwallt a harddwch Mannau perfformio ac oriel ar gyfer cerddoriaeth, drama a chelfyddydau creadigol Llyfrgell Bwrdeistref Tâf Elai Am brofiadau real ewch i’n ‘rhith daith’ ar ein gwefan www.morgannwg.ac.uk/ developements

Y DIWEDDARAF MAE’R CAMPWS NEWYDD YN CYNILO, AIL-DDEFNYDDIO AC AILGYLCHU WRTH GYRRAEDD RHAGORIAETH YN EI ADEILAD Mae datblygiad campws newydd gwerth £40 miliwn yn Nantgarw yn cael ei gynnig fel esiampl nodedig o gyfrifoldeb a chynaladwyedd

MORGANNWG.AC.UK

cymdeithasol corfforaethol gan Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru. Mae’r campws yn Nantgarw sy’n derbyn dros £34m o arian Llywodraeth Cynulliad Cymru gan gynnwys buddsoddiad o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop yn cael ei adeiladu yn ôl canllawiau llym i ostwng, ail-ddefnyddio ac ailgylchu ac yn brosiect sy’n cael ei gynnig fel esiampl i gwmnïau adeiladu eraill. Er mwyn sicrhau bod gwastraff yn cael ei ostwng 85%, adeiladwyd y rhannau oddi ar y safle a’i gludo mewn adrannau i Nantgarw fel gallai Laing O’Rourke ei osod at ei gilydd. Mewn seremoni ‘Topping Out’ a fynychwyd gan Leighton Andrews AC a Gweinidog Plant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, dywedodd “Rydyn ni am i’n pobl ifanc ddysgu mewn cyfleusterau sy’n amgylcheddol gyfrifol, modern, a thechnolegol ddatblygedig. Mae campws newydd Nantgarw yn enghraifft wych o’r uchelgais hwn ar waith.”


Morgannwg Prospect wel Doc.

13/9/11

19:08

Page 5

NEWYDD AR GYFER 2012 –

RHAGLEN LEFEL UWCH DRINGO’N UCHEL UN O’R DATBLYGIADAU MWYAF CYFFROUS AR GYFER 2012 YW LANSIO’N RHAGLEN LEFEL UWCH YN EIN CAMPWS NEWYDD SYFRDANOL YN NANTGARW. Bydd eich amser a’ch dyfodol yn cynnwys: Dewis o 22 o bynciau Lefel A, na chynigir llawer ohonyn nhw mewn ysgolion fel arfer Cyfleusterau rhyfeddol yr 21 ganrif ar gyfer astudio lefel uwch Staff profiadol gyda phrofiad cymwys ac arbenigedd mewn Lefel A Systemau pwnc a chymorth bugeiliol llawn a chynhwysfawr Pob myfyriwr yn elwa o Gymhwyster Bagloriaeth Cymru (WBQ), cymhwyster sy’n hynod gymeradwy Paratoad llawn ar gyfer gwneud cais a mynediad i Brifysgol Gweithgareddau cyfoethogi yn cynnwys chwaraeon, gweithgareddau creadigol, diwylliannol ac entrepreneuraidd. Cewch eich cyfarwyddo’n ofalus yn ystod y broses o wneud cais ac ymrestru a chewch gyngor i ddewis pynciau. Bydd ein help i sicrhau cydbwysedd o bynciau yn eich galluogi i symud ymlaen i AU neu i wireddu’ch breuddwyd. AROS YMLAEN YN Y CHWECHED DOSBARTH YN YR YSGOL? Gallwn ddal i gynnig y cyfle i chi astudio pwnc ychwanegol, os bydd yr amserlen ac amseroedd teithio yn caniatáu BETH SY’N CAEL EI GYNNIG? Mae Rhaglen Lefel Uwch yn eich galluogi i astudio dau/tri neu hyd yn oed pedwar pwnc lefel UG ynghyˆ d â’r WBQ (Uwch). Yn dilyn canlyniadau UG, gallwch wedyn ddewis dau/tri phwnc A2 ynghyˆ d â’r WBQ ar gyfer yr ail flwyddyn. Gallwch ehangu’ch dewis hyd yn oed ymhellach drwy ystyried Cwrs Cyfunol – astudio cyfuniad o 1 neu 2 lefel UG gyda Thystysgrif BTEC. Er enghraifft, Astudiaethau Busnes a Chymdeithaseg UG gyda Thystysgrif /Diploma BTEC mewn Busnes a Chyllid neu Bioleg a Seicoleg UG gyda BTEC mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

PECYN CYMORTH CYNNYDD Bydd pob myfyriwr yn derbyn pecyn cymorth cyflawn a gaiff ei gydlynu gan eu Tiwtor Cynnydd eu hun. Cynhelir Tiwtorial Cynnydd am awr bob wythnos gan ddilyn rhaglen diwtorial ar ffurf sesiynau ˆ p neu sesiynau unigol. grw Bydd Tiwtor Cynnydd a benodir ar eich cyfer ar gael i chi gysylltu ag ef/â hi tu allan i oriau’r tiwtorial os bydd angen cymorth arnoch chi. Mae dau Gydlynydd Cynnydd yn goruchwylio’r grwpiau UG ac A2 ac ar gael i gynnal sesiynau unigol fel yn wir mae’r Hyfforddwyr Dysgu a Thimoedd Cymorth y Campws. Cynhelir cyfarfodydd cynnydd y gwahoddir eich rhieni i’w mynychu ynghanol bob blwyddyn. GOFYNION MYNEDIAD Bydd disgwyl i chi fod wedi cyflawni lleiafswm o 5 TGAU ar radd C neu uwch ac mae rhaid i Saesneg fod yn un o’r rhain. Ond gall rhai pynciau fod angen gradd B fel man cychwyn, er enghraifft, Cemeg, Ffiseg a Mathemateg. BETH SY’N CAEL EI GYNNIG? Celf a Dylunio

Y Gyfraith

Bioleg

Mathemateg

Astudiaethau Busnes

Astudiaethau’r Cyfryngau

Cemeg

AG / Astudiaethau Chwaraeon

Cyfrifiaduraeth Drama /Astudiaethau Theatr Llenyddiaeth /Iaith Saesneg

Ffiseg Ffotograffiaeth Llywodraeth / Gwleidyddiaeth

Economeg

Seicoleg

Astudiaethau Ffilm

Addysg Grefyddol

Daearyddiaeth

Cymdeithaseg

Hanes

Cymraeg

TROWCH AT Y TUDALENNAU CANOL I WELD ‘BE A BLE’ NEU, GWELL FYTH, CEWCH RAGOR O FANYLION AM Y CYRSIAU UNIGOL SYDD AR GAEL AR EIN GWEFAN WWW.MORGANNWG.AC.UK TAITH TGAU - mae cyflogwyr a phrifysgolion yn ystyried eich graddau TGAU yn ofalus yn enwedig mewn Saesneg a Mathemateg. Bydd angen i unrhyw fyfyriwr sydd heb gael gradd C yn y naill bwnc na’r llall eu hail-sefyll yn ystod eu blwyddyn gyntaf o astudiaeth gyda ni.

HEB GAEL Y PWYNTIAU!! Oes rhaid i chi wella’r graddau sydd eu hangen a chynyddu’ch pwyntiau i sicrhau lle mewn prifysgol? Gall cwrs Llwybr Cyflym ail-adrodd Lefel A, er nad yw’n gwrs i’r gwangalon, eich helpu. Nod y cwrs yw cynorthwyo myfyrwyr i wella’u graddau drwy barhau i astudio’r ddau i dri phwnc i lefel UG a/neu i lefel A y maen nhw wedi eu hastudio’n flaenorol. Cynigir y cwrs hwn dim ond i fyfyrwyr: â phrofiad blaenorol o lefel A sydd am wella’u graddau sy’n symud ymlaen i Goleg Morgannwg ar ôl cwblhau eu hastudiaethau Blwyddyn 12 yn eu hysgolion. Byddwn yn darparu cymorth personol a chymorth pwnc er mwyn sicrhau bod y rhai sy’n cychwyn ar y cwrs hwn yn defnyddio’u hamser i sicrhau lle mewn prifysgol neu mewn darpariaeth dysgu yn y gweithle.

5


Morgannwg Prospect wel Doc.

13/9/11

19:09

Page 6

LLWYBR GWNEUD CAIS

I GOLEG MORGANNWG MAE GWNEUD CAIS I GOLEG MORGANNWG YN HAWDD – GALLWCH HYD YN OED WNEUD CAIS AM LE GYDA NI YN OGYSTAL Â GWNEUD CAIS I ASTUDIO MEWN YSGOLION CAM 2 NEU GOLEGAU Cwblhewch a chyflwyno’r ERAILL. ffurflen ymholiad cwrs ar-lein, wedyn cewch eich gwahodd i gwblhau ffurflen gais ar-lein a anfonir atoch chi. Neu gallwch gysylltu â Gwasanaethau Campws.

CAM 1 Ystyriwch ein hystod eang o gyrsiau, penderfynu ar y cwrs/pynciau y mae diddordeb gennych ynddyn nhw. Siaradwch â’ch ymgynghorydd gyrfaol neu ffoniwch y coleg.

6

MORGANNWG.AC.UK

CAM 3 Cewch eich gwahodd i gael sgwrs gydag arbenigwr a thiwtor cwrs. Yn ystod yr ymweliad hwn byddwch yn gwneud profion, yn trafod eich dewisiadau a chael cyngor ar y cwrs a fyddai orau i chi.


Morgannwg Prospect wel Doc.

13/9/11

19:09

Page 7

MAE GWNEUD CAIS AM GWRS YNG YNG NGHOLEG MORGANNWG YN HAWDD

CAM 4 Byddwch yn derbyn llythyr yn dweud wrthoch chi yr hyn gallwn ei gynnig i chi; cadwch hwn yn ddiogel gan y bydd ei angen arnoch chi pan fyddwch yn derbyn eich canlyniadau. Gallai gynnwys amodau megis cyflawni pynciau TGAU penodol.

CAM 5 Byddwn yn sicrhau bod gennych y wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i wneud cais am unrhyw grant ychwanegol i’ch cynorthwyo yn ystod eich astudiaethau.

CAM 6 Cyn gynted ag y byddwch yn derbyn canlyniadau’ch arholiadau, gadewch i ni wybod drwy ddilyn y cyfarwyddiadau ar eich llythyr cynnig. Cyn gynted ag y byddwn yn derbyn gwybodaeth am eich canlyniadau byddwn yn cysylltu â chi am eich trefniadau ymrestru.

CAM 7 CROESO I GOLEG MORGANNWG

Mae tîm ein Gwasanaethau Campws yma i’ch helpu i benderfynu pa gwrs sy’n addas ar eich cyfer chi. Yn cynnig cyngor di-duedd, cyfarwyddyd a chymorth drwy gydol y broses o wneud cais. Gallwch wneud cais drwy gydol y flwyddyn ond cofiwch fod lleoedd ar gyrsiau poblogaidd yn cael eu llenwi’n gyflym – felly peidiwch â’i gadael hi’n rhy hir cyn dangos diddordeb. Cofiwch eich bod yn gallu gwneud cais i Goleg Morgannwg yn ogystal â gwneud cais i astudio mewn ysgolion neu golegau eraill.

DEWCH I UN O’N DIWRNODAU CYNGHORI A GWELD DROSTOCH CHI EICH HUN AC YNA PENDERFYNU BLE FYDDWCH YN MWYNHAU ASTUDIO FWYAF. MAE’R DYDDIADAU A’R AMSEROEDD A’R EIN GWEFAN: MORGANNWG.AC.UK

7


Morgannwg Prospect wel Doc.

13/9/11

19:09

Page 8

GWASANAETHAU MYFYRWYR

gwasanaethau cefnogol cynhwysfawr

Mae ein tîm Cymorth Myfyrwyr yma i’ch Cymorth Ariannol cyfarwyddo drwy Darperir Cymorth Ariannol gan Lwfans gydol y broses o Cynhaliaeth Addysg (EMA) ar gyfer 16 i 18 oed ar Fedi’r 1af cyn wneud cais a thu hwnt, myfyrwyr cychwyn ar eu cwrs. Ewch i wefan Pan fyddwch ar y cwrs bydd timoedd Gwasanaethau’r Campws yn darparu help a chefnogaeth – academaidd neu bersonol - o ddydd i ddydd. Bydd Tiwtor Personol/Cwrs gan bob myfyriwr. Bydd Swyddogion Lles sydd wedi’u hyfforddi’n benodol yma i’ch helpu a’ch cynghori gydag unrhyw broblem bersonol neu ymarferol. ...Ac mae hyd yn oed staff Gyrfa Cymru ar gael i’ch cyfarwyddo drwy’ch llwybr gyrfaol, er mwyn sicrhau ei fod yn cydfynd â’ch uchelgais, eich sgiliau a’ch gallu. Os oes gennych anawsterau dysgu a/neu anableddau cewch help gan un o’n Gwasanaethau Cymorth Arbenigol. Gallwch ein helpu drwy ddweud wrthon ni am unrhyw ofynion penodol cyn gynted â phosibl yn y broses o wneud cais. Gallwn wedyn, gychwyn paratoi’ch Cynllun Cymorth Unigol. Felly, yn gyffredinol, rydyn ni’n darparu system gymorth gyflawn ar eich cyfer er mwyn sicrhau bydd... Eich amser yn eich helpu i wneud y gorau o’ch Dyfodol

www.studentfinancewales.co.uk neu ffonio 01443 653625/663151 am wybodaeth neu ffurflen gais. Am wybodaeth am ein Cronfa Ariannol ychwanegol wrth gefn ffoniwch 01443 653625/663151.

Dysgu yn Gymraeg

Ein nod yw meithrin ethos Gymreig a chynnig cymorth i chi drwy gyfrwng y Gymraeg wrth i chi wneud cais am gwrs gyda ni tra ar eich dewis gwrs ...ac wrth baratoi ar gyfer eich dyfodol.

Canolfannau Dysgu Campws Canolbwynt gweithgareddau unrhyw gampws yw’r Canolfannau Dysgu, nid yn unig yn darparu mannau i astudio ond hefyd yn darparu ystod eang o adnoddau, yn amrywio o ddeunydd yn seiliedig ar gyfrifiaduron, deunydd print (llyfrau a chylchgronau) i feicroffilmiau a phecynnau dysgu rhyngweithiol. Mae cyfrifiaduron, byrddau smart ac opsiynau caledwedd eraill ar gael i fyfyrwyr i baratoi cyflwyniadau a gwaith prosiect/gwaith cwrs.

O 2012, bydd un o lyfrgelloedd cyhoeddus RhCT yn agor ar gampws Nantgarw, gan ddarparu mynediad haws i ystod ehangach o lyfrau, disgiau dvd’s ayb fel mwyniant cymdeithasol

Llais a Barn – ein hamser ni yw hwn i greu ein dyfodol

Mae Senedd nodedig y Myfyrwyr sydd, yn ei dro, wedi’i wobrwyo yn chwarae rhan weithredol yn y broses o wedi wella’r coleg drwy gynrychioli’r myfyrwyr ar bob agwedd o fywyd y coleg. Mae’n gysylltiedig ag UCM - Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (NUS) ac yn darparu fforwm i fyfyrwyr drafod unrhyw fater sy’n effeithio arnyn nhw gydag aelodau o’r Senedd sy’n cynrychioli myfyrwyr ar wahanol grwpiau a phwyllgorau gan gynnwys y Corff Llywodraethol. Mae gan bob campws ei Senedd Myfyrwyr ei hun; yna, maen nhw’n ethol aelodau i fod ar Senedd Myfyrwyr y coleg cyfan. Yr engraifft fwyaf diweddar oedd i Senedd y Myfyrwyr gwrdd ag aelodau Uwch Dîm Rheoli’r coleg i drafod datblygiad Campws Dysgu newydd Taf Elai¸ felly’n sicrhau bod myfyrwyr yn cael dweud eu dweud a lleisio’u barn yn ystod y broses gynllunio.

Ymhlith manteision eraill mae…

Rhondda Cynon Taf yn darparu cludiant am ddim ar gyfer myfyrwyr llawn amser sydd o dan 19 ac sy’n byw mwy na 2 filltir o gampws y coleg yn cyflenwi’ch dewis gwrs sydd agosaf at eich cartref. Gallai fod gan fyfyrwyr llawn amser, sydd o dan 19 oed ar y 1af o Fedi cyn cychwyn ar eu cwrs ac y mae incwm eu rhieni yn llai na £10,000, hawl i dalebau bwyd i’w defnyddio yn ein ffreuturiau.

8

MORGANNWG.AC.UK

Ymunodd aelodau Tîm Rheoli’r Coleg, Swyddogion Lles a staff Gwasanaethau Campws â thros 80 o ddysgwyr ar draws y cwricwlwm yng Nghynhadledd Flynyddol y Dysgwyr.


Morgannwg Prospect wel Doc.

13/9/11

19:09

Page 9

ADDUNED RHIENI mae eu hamser a’u dyfodol yn

bwysig i ni Mae’n naturiol i rieni deimlo’n ansicr neu hyd yn oed yn bryderus pan fydd mab neu ferch yn sôn am symud i gwrs coleg yn hytrach nag aros yn y chweched dosbarth yn yr ysgol. Yng Ngholeg Morgannwg rydyn ni’n addunedu y gwnawn ni bopeth yn ein gallu i sicrhau: y bydd y pontio mor llyfn â phosibl i fyfyrwyr a rhieni y byddwn yn parhau i gynnig cymorth uchel ei lefel o ddydd i ddydd drwy gydol y cwrs

Byddwn yn cadw mewn cysylltiad gan sicrhau y cewch: fanylion cyswllt tiwtor personol/cwrs eich mab/merch y newyddion diweddaraf am gynnydd eich mab/merch a hynny’n rheolaidd adborth ar gyflawniadau’ch mab/merch rhybudd cynnar os oes angen eu hannog a’u gwthio mwy

Mae fy merch, Jess, wedi bod yn hapus iawn yng Ngholeg Morgannwg. Fel rhieni, roedden ni’n bryderus wrth iddi ymrestru yn y coleg. Ond doedd dim angen poeni gan i Jess gael ei chymell gan y staff mewn amgylchedd cefnogol iawn. Fe wnaeth hi fwynhau pob agwedd o’r cwrs a wynebu pob sialens, yn enwedig y gwaith oedd yn gysylltiedig â’r Siop Goffi a’r bwyty. Cwblhaodd y cwrs yn llwyddiannus ac erbyn hyn mae hi wedi ymrestru ar gwrs TG yn y coleg.

JANETTE PROSSER, RHIANT

Beth sy’n cael ei gynnig? yr ystod ehangaf posibl o gyrsiau yn RhCT ar gyfer pob gallu 22 pwnc lefel UG/A a addysgir gan bobl broffesiynol brofiadol fel rhan o Raglen Dysgu Uwch (ALP) staff cymwys iawn, profiadol ac ymroddgar yn darparu addysgu a dysg o’r safon uchaf; gyda thros 85% o’n myfyrwyr yn llwyddo system gymorth personol a chymorth tiwtorial dan arweiniad tiwtor y cwrs amgylchedd dysgu uwch dechnoleg gwych gyda chyfleusterau ac adnoddau o safon y diwydiant dan sylw.

Rydyn ni’n darparu’r cam hanfodol hwnnw i symud ymlaen i fyd gwaith neu i brifysgol Bydd Gwasanaethau ‘Cefnogol Cynhwysfawr’ Cymorth Myfyrwyr yn eu helpu gyda’u hamser a’u dyfodol: Mae Timoedd Cymorth Gwasanaethau Myfyrwyr ymhob Swyddfa Campws yn darparu gwybodaeth a chyngor parhaus o ddydd i ddydd. Rydyn ni’n gwarantu bod gan bob myfyriwr diwtor personol a/neu diwtor cwrs a fydd yn cynnig cyfarwyddyd, cymorth ac anogaeth.

Byddwn yn sicr yn argymell y coleg i rieni eraill gan i’r staff annog Jac i gyflawni ei botensial. Pan ymrestrodd yn y coleg doedd ganddo fawr o hunan-hyder ond yn sgil y cymorth a dderbyniodd gan staff y coleg cyflawnodd ei nod. Bydd y sgiliau ychwanegol a enillodd o fudd iddo wrth ddelio gyda bywyd prifysgol. Roedd y staff yn gyfeillgar ac yn hawdd mynd atyn nhw ac yn gallu ateb ein cwestiynau bob amser. Fel rhieni, roedden ni’n derbyn adborth cyson ac anogwyd Jac yn barhaus .

SALLY EVANS, RHIANT

Asesiadau ac Adroddiadau Mae gwaith cartref ac aseiniadau yn rhan bwysig o gael ein myfyrwyr i lwyddo yn eu cwrs. Helpwch ni i’w helpu drwy gadw llygad arnyn nhw. Rydyn ni’n rhoi gwybod i chi am Nosweithiau Cynnydd rheolaidd ond os ydych am drafod gyda rhywun tu allan i’r adegau hyn, cysylltwch â’u tiwtor personol neu diwtor eu cwrs.

Presenoldeb a Phrydlondeb Mae gofyn i fyfyrwyr fynychu 100% yn enwedig os ydyn nhw’n derbyn Lwfans Cynhaliaeth Addysg (EMA). Os bydd eich mab/merch yn sâl, rhowch wybod i’w tiwtor personol/cwrs cyn gynted â phosibl. Bydd gofyn i fyfyriwr sy’n colli dau ddosbarth yn olynol fynychu cyfweliad gyda’u tiwtor personol/cwrs. Os bydd yr absenoldebau’n parhau anfonir nodyn ymgynghorol i gyfeiriad cartref y myfyriwr.

Y rhain hefyd yw’r ddolen gyswllt allweddol rhyngddoch chi a’r coleg.

9


Morgannwg Prospect wel Doc.

13/9/11

19:09

Page 10

EU HAMSER EU DYFODOL CYRSIAU A PHYNCIAU O

BOB LLUN A MAINT...

LEFEL UG A LEFEL A (LEFEL 3)

NVQs

Mae Rhaglen Lefel Uwch (ALP) yn cynnig 22 pwnc

Cymwysterau ar lefel 1-4 wedi’u paru’n uniongyrchol yn arddangos hyfedredd â’r gweithle ar sail cymhwysedd i swydd. Gellir gwneud y rhain yn y coleg neu yn y gweithle.

Mae lefel A yn golygu dwy flynedd o astudiaeth, a gelwir y flwyddyn gyntaf yn Uwch Gyfrannol (UG), a’r ail flwyddyn yn A2. I gyflawni graddau A*-E lefel A, rhaid cwblhau’r ddwy flynedd drwy arholiad a gwaith cwrs.

BTECs... cymwysterau yw’r rhain sydd ddim yn seiliedig ar arholiad ac sy’n darparu dull y byd go wir o ystyried dysg. Gellir eu cyfuno gyda TGAU a Lefel A. Mae BTECS ar gael ar wahanol lefelau Mynediad – ar gyfer datblygu hyder a sgiliau cychwynnol naill ai ar gyfer y gweithle neu ar gyfer bywyd bob dydd Rhagarweiniol (Lefel 1) – rhagarweiniad sylfaenol i sector diwydiannol, yn annog datblygiad sgiliau personol a sgiliau perthnasol ar gyfer gwaith Cenedlaethol (Lefel 3) – cymhwyster arbenigol yn cynnig llwybr gyrfaol clir neu ddilyniant i Addysg Uwch Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio (Lefel 3) – paratoi ar gyfer mynediad i Addysg Uwch i astudio celf a dylunio Sgiliau Gwaith (Mynediad 3 Lefel 2) – cyfres o unedau cyflogadwyedd yn seilieidig ar sgiliau ...ac maen nhw ar gael o wahanol faint Y Dyfarniad yw’r lleiaf Y Dystysgrif yw’r nesaf e Y Diploma yw’r mwyaf

10

BAGLORIAETH CYMRU O fis medu 2012, cynigir Bagloriaeth Cymru i bob myfyriwr ar lefel Sylfaen, Canolradd neu Uwch a dibynnu ar eich cwrs astudiaeth. Byddwch yn cymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu arloesol sy’n cynnwys dinasyddiaeth fyd-eang, cynaladwyedd, iechyd, diwylliant ayb. Mae profiad gwaith a gweithio yn y gymuned yn rhan o’r cwrs fel mae ymweld â lleoedd o ddiddordeb (yn y wlad hon a thramor). Mae Bagloriaeth Cymru yn gymhwyster Lefel Uwch sy’n werth 120 pwynt UCAS sy’n gyfwerth â gradd A lefel A yn gymhwyster sy’n cael ei dderbyn gan restr gynyddol o brifysgolion gan gynnwys Rhydychen, Caerwysg (Exeter), Prifysgol Morgannwg, Abertawe, APCC a Phrifysgol Caerdydd.

TAIR SGIL Sgiliau Cyflogadwyedd Mae cyflogwyr sy’n gwmnïau mawr a bach angen pobl ifanc sy’n meddu ar sgiliau ‘parod ar gyfer gweithio’ yn ogystal â sgiliau technegol y gweithle. Mae ein cyrsiau ar gyflogadwyedd yn canolbwyntio ar ddatblygu’r pecyn sgiliau cyflawn a fydd yn eich helpu i lwyddo yn eich gwaith cyflogedig.

MORGANNWG.AC.UK

Dysgu’r Sgiliau Hanfodol pwysig hynny - mae’ch dyfodol yn bwysig i ni, ac felly wrth i chi astudio, byddwch yn dysgu a chywain sgiliau hanfodol megis cyfathrebu, rhifedd, technoleg cyfrifiadurol, datrys problemau a gweithio mewn tîm. Gallech fod yn gweithio ochr yn ochr ag eraill, eich sgiliau trafod yn lliniaru’r sefyllfa neu hyd yn oed gynnig atebion. Gall eich SGILIAU HANFODOL gamu i’r adwy. Ydych chi’n ‘Unigolyn Mentrus’? Rydyn ni’n gweithio’n galed i sicrhau bod ein pobl ifanc i gyd yn cael cyfle i ddod yn entrepreneuriaid ac felly, rydyn ni’n rhoi digon o gyfleoedd i chi fynd i’r afael â’ch anian entrepreneuraidd..

MYFYRWYR COLEG YN LANSIO STRATEGAETH MENTER YN Y CYNULLIAD Gwahoddwyd Bethan Davies a Sam Elliot i gymryd rhan yn lansiad gwefan Strategaeth Menter Ieuenctid (YES) a ‘Syniadau Mawr Cymru’. Cawson nhw brofiad gwerthfawr iawn wrth gyflwyno hanes eu taith fel entrepreurwyr i bobl bwysig a’r wasg a gwneud hynny’n ardderchog. Mae Menter yn bwysig ar agenda’r coleg gyda Sialensiau Menter Blynyddol y Campysau.


Morgannwg Prospect wel Doc.

13/9/11

19:09

Page 11

GWYDDONIAETH GYMHWYSOL

D Y B D I NEW O FIS MEDI 2012, CYFLENWIR EIN HOPSIYNAU GWYDDONIAETH GYMHWYSOL MEWN LABORDAI FFANTASTIG AR GAMPWS NANTGARW. OES DIDDORDEB GENNYCH MEWN PETHAU GWYDDONOL OND YN ANSICR A YDYCH AM ASTUDIO LEFEL A? Beth am gyrsiau Gwyddoniaeth Gymhwysol BTEC. Cyrsiau ymarferol ac yn seiliedig ar waith yw’r rhain ac a fydd yn eich paratoi ar gyfer gyrfa’n gweithio yn y diwydiant gwyddoniaeth gymhwysol neu’n gweithio i gyflogwr, sefydliad neu gwmni y mae gwyddoniaeth yn sail i’w busnes. Gall cyrsiau Gwyddoniaeth Gymhwysol eich helpu i ddatblygu’ch gwybodaeth a’ch sgiliau gwyddonol. Byddwch yn ystyried egwyddorion gwyddonol yn ogystal â chael profiad o wyddoniaeth a’r byd gwaith; yn dewis pedair uned arbenigol o: cemeg a chymwysiadau, cymwysiadau gwyddoniaeth ffisegol, systemau biolegol, gweithio ym maes gwyddoniaeth, anatomi a ffisioleg, gwyddoniaeth amgylcheddol, planhigion a bwyd, gwyddoniaeth fforensig a gwyddoniaeth mewn meddygaeth.

Myfyrwyr gwyddoniaeth ar daith maes.

EIN HAMSER, EIN DYFODOL LLWYDDIANT GARETH Gadawodd Gareth yr ysgol heb lawer o gymwysterau a chychwyn gwaith fel postmon ond roedd ei fryd ar yrfa yn y maes gwyddonol. Yn y diwedd ymrestrodd ar gwrs gwyddoniaeth yn y coleg, gan deimlo ei fod yn cael cymorth rhagorol ar y cwrs gan y staff. Fe wnaethon nhw hefyd ei helpu drwy broses UCAS o wneud cais i fynd i brifysgol. Cwblhaodd gwrs gradd 4 blynedd ym Mhrifysgol Morgannwg ac yn 2010 enillodd Radd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf! Yna, penderfynodd ddilyn gyrfa fel athro ac ymrestrodd ar gwrs TAR a hyd yn oed dychwelyd i’r coleg i wneud rhan o’i ymarfer dysgu. Erbyn hyn, derbyniwyd Gareth i gychwyn ar Radd Ymchwil PhD 3 blynedd ym Mhrifysgol Morgannwg. Dwedodd Gareth, “Ces gyfle yn ystod fy amser yng Ngholeg Morgannwg i gyflawni mwy, ac yn bwysicach ces yr hyder i ‘fynd amdani’. Os galla i ei wneud gall unrhyw un! Wnes i erioed feddwl y baswn i’n ennill gradd a nawr dw i’n cychwyn ar PhD.”

O S I DEGWYRSIAU

DIPLOMA CYNTAF BTEC (& BAGLORIAETH CYMRU) MEWN GWYDDONIAETH GYMHWYSOL YN DANGOS SUT Y DEFNYDDIR GWYDDONIAETH MEWN AMRYWIAETH O WAHANOL BROFFESIYNAU A DIWYDIANNAU. DIPLOMA CENEDLAETHOL (& BAGLORIAETH CYMRU) MEWN GWYDDONIAETH GYMHWYSOL YN ADEILADU AR EICH GWYBODAETH O WYDDONIAETH GYMHWYSOL. GWYCH OS YDYCH YN BWRIADU ASTUDIO GWYDDONIAETH YN Y BRIFYSGOL NEU GAEL SWYDD YN Y DIWYDIANT GWYDDONOL. TROWCH AT Y TUDALENNAU CANOL I WELD ‘BE A BLE’ NEU, GWELL FYTH, CEWCH RAGOR O FANYLION AM Y CYRSIAU UNIGOL SYDD AR GAEL AR EIN GWEFAN MORGANNWG.AC.UK

11


Morgannwg Prospect wel Doc.

13/9/11

19:09

Page 12

ASTUDIAETHAU GOFAL A PHLENTYNDOD

dyfodol YDY’CH AMSER A’CH DYFODOL YN GOLYGU GYRFA YN Y PROFFESIYNAU GOFAL? GALLAI FOD YM MAES IECHYD, GOFAL OEDOLION NEU ASTUDIAETHAU PLENTYNDOD? Y BARTNERIAETH DDELFRYDOL

RYDYN NI’N NEILLTUO AMSER I OFALU AM EICH DYFODOL ASTUDIO MEWN CYFLEUSTERASU O SAFON UCHEL CAEL EICH HYFFORDDI GAN STAFF CYMWYS, ARBENIGOL A PHROFIADOL IAWN CAEL PROFIAD O ELFENNAU YMARFEROL AC ACADEMAIDD YN EICH ASTUDIAETH CAEL CIPOLWG AR GYFLOGAETH DRWY’CH PROFIAD GWAITH NEU SYMUD YMLAEN I BRIFYSGOL

ein hamser ein dyfodol

Ar eu liwt eu hun, llwyddodd y myfyrwyr, Carlie Logan, Louise Newland a Louise Glastonbury i godi £1,500 yr un i dalu am y daith arwyren a thalu am eu llety ar eu liwt eu hunain.

ANTUR AFFRICANAIDD MYFYRWYR GOFAL

Dwedodd eu tiwtor, Kath Sidorowicz: “Roedd hwn hyn gyfle gwych i’n myfyrwyr gofal plant i roi’r sgiliau roedden nhw newydd eu caffael ar waith mewn lle a fydd yn wirioneddol elwa. Mae’r ffaith eu bod wedi llwyddo i godi’r arian ar gyfer y daith a’r gefnogaeth gawson nhw gan eu teuluoedd, eu ffrindiau yn y dosbarth a’r staff yn dystiolaeth o’u hangerdd dros y prosiect.

Treuliodd tri myfyriwr ar gwrs Gofal, Addysg a Datblygiad Plant a chwech o’r staff 2 wythnos o’u gwyliau haf yn gofalu am blant yn dioddef o HIV ac AIDS yng Nghanolfan Plant Morning Star yn Welkom, De Affrica. Buon nhw’n helpu’r ganolfan drwy ofalu am y plant yn ogystal â chynorthwyo gyda thasgau ymarferol fel paentio a garddio.

12

Yn Seremoni Wobrwyo’r Acolâdau Cymdeithasol, cydnabyddwyd bod Llwybr NVQ mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn enghraifft ardderchog o gydweithio mewn partneriaeth – cynigir y cwrs mewn cydweithrediad â Phartneriaeth Gofal Cymdeithasol Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

MORGANNWG.AC.UK

Dychwelodd y myfyrwyr glew i’r coleg a rhannu eu profiadau er mwyn ysbrydoli eu ffrindiau yn y dosbarth i sefydlu’r daith yn achlysur blynyddol.


Morgannwg Prospect wel Doc.

13/9/11

19:09

Page 13

iach dewis o gyrsiau:

UN O GYRSIAU CACHE – YN EICH PARATOI AR GYFER GYRFA MEWN SEFYLLFAOEDD GOFAL PLANT MEGIS YSGOLION, MEITHRINFEYDD, CANOLFANNAU GOFAL DYDD, YSBYTAI NEU HYD YN OED MEWN TEULUOEDD FEL NANI …NEU’R DYSTYSGRIF GENEDLAETHOL MEWN GOFAL, DYSG A DATBLYGIAD PLANT A BAGLORIAETH CYMRU - YN DELIO Â PHOB AGWEDD O DDATBLYGIAD A DYSG PLANT O’U GENEDIGAETH HYD AT 16 OED

…NEU HWYRACH DIPLOMA CENEDLAETHOL BTEC (2 FLYNEDD) A’R DIPLOMA CYNTAF (1 FLWYDDYN) MEWN IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL YN DELIO Â’R WYBODAETH A’R DDEALLTWRIAETH SYDD EU HANGEN I WEITHIO YM MAES NYRSIO, GWAITH CYMDEITHASOL AC ADDYSGU/DYSGU. …NEU BETH AM Y LLWYBR NVQ MEWN IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL (A BAGLORIAETH CYMRU) YN DARPARU PECYN O OPSIYNAU’R SECTOR GOFAL A ARDYSTIR GAN GYNGOR GOFAL CYMRU. TROWCH AT Y TUDALENNAU CANOL I WELD ‘BE A BLE’ NEU, GWELL FYTH, CEWCH RAGOR O FANYLION AM Y CYRSIAU UNIGOL SYDD AR GAEL AR EIN GWEFAN MORGANNWG.AC.UK/ CYMRAEG/CARE

13


Morgannwg Prospect wel Doc.

13/9/11

19:09

Page 14

DIWYDIANNAU CREADIGOL

AM LUNIO’CH LLWYBR EICH HUN MEWN CELF, DYLUNIO, Y CYFRYNGAU, CERDDORIAETH NEU BERFFORMIO? YMUNWCH Â STAFF CYFADRAN FYWIOG AC EGNÏOL Y DIWYDIANNAU CREADIGOL A PHROFI’R FFACTOR ECSTRA YNA. Beth bynnag fo’ch dewis, bydd digon o waith ymarferol. Rydyn ni’n rhoi pwyslais mawr ar sgiliau ymarferol, creadigol a pherfformio sydd eu hangen arnoch chi i chwilio am swydd neu symud i gwrs prifysgol. Mae’r rhan fwyaf o’n staff yn bobl broffesiynol gweithiol sy’n mynnu cael ethos proffesiynol ac agwedd broffesiynol. Ein nod yw cynnig profiad o safle gwaith gyda chyfleusterau heb eu hail yn RhCT gan roi’r ffactor ychwanegol i ni. Mae myfyrwyr CELF A DYLUNIO yn cael profiad o gyfleusterau stiwdio ar gyfer printiadau 3D a dylunio graffig, celf gain a ffasiwn, gwisgoedd a thecstiliau a hynny gyda chymorth TGCh o safon y diwydiant.

14

Mae myfyrwyr CELFYDDYDAU PERFFORMIO yn cael defnyddio stiwdios pwrpasol ar gyfer dawns a rihyrsio gyda theatr dechnegol o’r radd flaenaf Gall myfyrwyr Y CYFRYNGAU ymarfer eu sgiliau mewn cynhyrchiadau ffilm a theledu gyda chymorth ystafelloedd golygu gyda’r holl offer. Tra chaiff myfyrwyr TECHNOLEG CERDDORIADETH ddefnyddio stiwdio recordio a chymysgu ˆ d â chyfleusterau rihyrsio a ynghy pherfformio’n fyw. Gall myfyrwyr FFOTOGRAFFIAETH gael profiad ymarferol o brintio traddodiadol a phrosesu digidol gan ddefnyddio offer TG i wella’u sgiliau trin a thrafod a hyn oll mewn ystafelloedd ffotograffiaeth arbenigol. Os mai’r maes AMLGYFRYNGOL sy’n mynd â’ch bryd, byddwch wrth eich bodd gyda’n cyfres o gyfrifiaduron Apple Mac gyda’r feddalwedd megis Adobe Photoshop, Illustrator, Dreamweaver, Flash ynghyˆ d â rhestr faith o feddalwedd golygu.

MORGANNWG.AC.UK

Mae myfyrwyr ADDYSG UWCH mewn SAERNÏO DILLAD yn gweithio ar gynyrchiadau cyffrous gyda Chwmni Opera Cenedlaethol Cymru, y BBC a Theatr Mappa Mundi yn dylunio a gwneud gwisgoedd. Mae’r rhestr o gyrsiau yn rhyfeddol gyda rhywbeth at ddant pob dawn greadigol, cyfoes neu draddodiadol ac mae pawb yn astudio Bagloriaeth Cymru fel rhan o’r prif gwrs astudiaeth. Anogir SGILIAU ENTREPRENEURAIDD drwy ymgorffori prosiectau menter ar draws pob raglen sydd wedi golygu cyflawniadau gwych gan gynnwys trydydd lle yn y Sialens Menter Fyd Eang yn Bali, yn cystadlu yn erbyn 14 o wledydd eraill.


Morgannwg Prospect wel Doc.

13/9/11

19:09

Page 15

ATYNIAD Y CYFRYNGAU Cafodd myfyrwyr cwrs y Cyfryngau gyfle i gynhyrchu hysbyseb radio i hyrwyddo dyddiau ‘ymrestru’. ˆ p o fyfyrwyr â Ymwelodd y grw stiwdios Real Radio yng Nghaerdydd lle croesawyd nhw gan Paul Robinson, Ysgrifennwr Copi’r hysbysebion. Cafodd y myfyrwyr weld o amgylch y stiwdio a chwrdd â nifer o gyflwynwyr cyn cychwyn ar y dasg o gynhyrchu’r hysbyseb. Dwedodd Roxy Bevan, un o’r myfyrwyr, “Roedd yn gyfle gwych, ron i wrth fy modd – ar y dechrau roedden ni gyd yn nerfus ond roedd Paul yn wych; eglurodd sut mae mynd ati i ysgrifennu hysbysebion, yn defnyddio effeithiau sain ayb. ac fe dawelodd ein meddwl drwy gydol y sialens.... Dwi wir yn edrych ymlaen i glywed yr hysbyseb!” Dwedodd Paul Robinson, “Er eu bod yn swil ar y cychwyn, fe wnaethon nhw ymlacio a dw i’n ˆ r eu bod wedi mwynhau’r siw profiad. Rydyn ni’n ceisio annog myfyrwyr i gymryd rhan ac roedd yn dda gweld eu brwdfrydedd – roedd ganddyn nhw syniadau da iawn ac roedd y canlyniad yn ardderchog”.

MYFYRWYR YN ARDDANGOS EU TALENTAU AR LWYFAN BYD-EANG Dewiswyd myfyrwyr yn astudio ar gyfer Gradd Sylfaen Saernïo Gwisgoedd ar gyfer y Llwyfan a Ffilm i ddylunio gwisgoedd ar gyfer seremoni agoriadol cystadleuaeth WorldSkills Llundain. Caiff y myfyrwyr, dan gyfarwyddyd y tiwtor Emma Highgate, y cyfle i ddangos eu talentau ar lwyfan bydeang yn yr achlysur a gynhelir yn arena O2. Cynhelir y gystadleuaeth y mae disgwyl iddi ddenu dros 150,000 o ymwelwyr mewn gwlad wahanol bob dwy flynedd a hefyd denu cystadleuwyr o 50 o wledydd.

BTEC LEFEL 2 & 3 DIPLOMAS ESTYNEDIG MEWN CELF A DYLUNIO (A BAGLORIAETH CYMRU) BTEC DIPLOMA ESTYNEDIG YN Y CELFYDDYDAU PERFFORMIO BTEC DIPLOMA ESTYNEDIG MEWN CYNHYRCHU (TELEDU A FFILM) CREADIGOL YN Y CYFRYNGAU BTEC DIPLOMA GYNTAF NEU ESTYNEDIG MEWN CERDDORIAETH A THECHNOLEG CERDDORIAETH BTEC DIPLOMA YN Y CELFYDDYDAU CYNHYRCHU (COLURO) SAERNÏO GWISGOEDD AR GYFER Y LLWYFAN A FFILM - GRADD SYLFAEN/ BA ANRHYDEDD

AM BERFFORMIAD Mae myfyrwraig o Gaerdydd a gafodd fagwraeth anodd, yn symud o un cartref maeth i’r llall yn edrych ymlaen at ddyfodol disglair ar ôl gwneud y gorau o’i haddysg. Symudodd Laura Thomas o gartref i gartref a chael trafferthion yn yr ysgol oherwydd helbulon cyson. Yn 16 oed, roedd rhaid iddi fyw ar ei phen ei hun ac, felly, gwnaeth y penderfyniad i newid ei bywyd drwy ymrestru yng Ngholeg Morgannwg. Llwyddodd Laura i ennill TGAU mewn Astudiaethau’r Cyfryngau, Saesneg, TGCh, Cymdeithaseg a rhagori mewn Diploma yn y Celfyddydau Perfformio tra yn y coleg. Dewiswyd Laura o blith dros 12,000 o fyfyrwyr rhan amser a llawn amser fel myfyriwr mwyaf nodedig y coleg mewn seremoni gwobrwyo yn ddiweddar. Erbyn hyn, mae Laura ym Mhrifysgol Aberystwyth yn astudio cwrs ac meddai: “Taswn i’n onest, mae’r wobr wedi fy syfrdanu ond dw i ar ben fy nigon o’i hennill. Agorodd Coleg Morgannwg lwybr i mi wella fy mywyd a bu cymorth y staff yn fodd i gynyddu fy hyder ac i mi gyflawni i fy llawn botensial. “Wnes i erioed feddwl y byddwn i’n mynd i brifysgol, ond mae mynd i’r coleg wedi newid fy mywyd ac wedi gwneud i mi sylweddoli bod popeth yn bosibl. Hoffwn fod yn athrawes ddrama ond rwy’n cadw meddwl agored ar hyn o bryd.”

TROWCH AT Y TUDALENNAU CANOL I WELD ‘BE A BLE’ NEU, GWELL FYTH, CEWCH RAGOR O FANYLION AM Y CYRSIAU UNIGOL SYDD AR GAEL AR EIN GWEFAN MORGANNWG.AC.UK/CYMRAEG/CREATIVE

15


Morgannwg Prospect wel Doc.

13/9/11

19:09

Page 16

TECHNOLEG GWYBODAETH

dimensiwn

ALT.

Mae CYRSIAU CYFRIFIADURAETH Coleg Morgannwg yn rhoi cyfle i chi ystyried ystod o opsiynau ar draws y diwydiant TG yn amrywio o faes cynnal chadw Prosesydd Geiriau, rhaglennu, hyd hyn oed dylunio gwefan, i rwydwethio neu gymhwyso meddalwedd. Mae llawer o’n myfyrwyr yn symud ymlaen i Addysg Uwch i astudio cyrsiau sy’n cynnwys Gwyddorau Cyfrifiaduraeth a Dylunio Gemau. Yn yr un modd, gallwch wirio’r farchnad lafur o ran cymorth TG a dylunio gwefan yn syth ar ôl cyflawni’u cymwysterau cyfrifiaduraeth. Mae nifer o’n myfyrwyr Lefel 2 yn aros gyda ni er mwyn symud ymlaen i gwrs Cyfrifiaduraeth uwch ei lefel neu symud i gwrs cysylltiedig megis Busnes.

EIN HAMSER EIN DYFODOL

‘da fi erioed yn y dechnoleg newydd, yn enwedig ym maes cyfrifiaduraeth. Bydd fy ymchwil ar gyfer y papur heb os nac onibai yn helpu gyda fy astudiaethau.”

DEWIS O GYRSIAU:

Eleni, ymdaflodd JORDAN i fywyd y coleg, gan ennill Rhagoriaeth yn ei Ddiploma lefel 2 BTEC mewn TG a hefyd chwarae i dimoedd rygbi a pheldroed y coleg. “Newidiodd Coleg Morgannwg fy mywyd. Dw i wedi gwneud ffrindiau ffantastig, wedi gweithio a chwarae’n galed. Nawr, dw i’n edrych ymlaen at symud i gwrs Lefel 3 ym mis Medi.”

BTEC DIPLOMAS ESTYNEDIG CYNTAF A LEFEL 3 MEWN TG (A BAGLORIAETH CYMRU) I’CH PARATOI AR GYFER NAILL AI CWRS MEWN PRIFYSGOL NEU SWYDD FEL TECHNEGYDD CYMORTH SYSTEMAU NEU WEITHREDYDD AR LINELL GYMORTH. ITQ LEFEL 1, 2 & 3 AR GYFER DEFNYDDWYR TG YN RHOI CIPOLWG I CHI AR Y DEFNYDD O TG MEWN AMGYLCHEDD SWYDDFA FODERN. CAEL CIPOLWG AR TG NEU GYFRIFIADURAETH DRWY UN O’N CYRSIAU PORTH LEFEL MYNEDIAD ARBENIGOL.

Yn ddiweddar, cwblhaodd LEWIS GREGORY ei gwrs Lefel 3 gyda Thriawd o Ragoriaethau ac mae’n cychwyn ym Mhrifysgol Exeter yn yr Hydref. “Roedd astudio Lefel A yn llwybr hollol anghywir i mi. Trodd Coleg Morgannwg hyn ar ei ben a rhoi cyfle i mi ddisgleirio’n academaidd ac yn bersonol. Bydda i’n colli’r coleg, yn staff a myfyrwyr.”

Roedd SAMANTHA JAYNE wrth ei bodd gyda’i chwrs, cymaint felly fel mae hi am ddweud wrth weddill y coleg amdano. Yn ogystal â chychwyn ar gwrs Cyfrifiaduraeth Lefel 3 y flwyddyn nesaf, mae hefyd yn troi ei llaw at newyddiadura ar bapur newydd y coleg yn hysbysu myfyrwyr am newidiadau technolegol. “Bu diddordeb

16

MORGANNWG.AC.UK

TROWCH AT Y TUDALENNAU CANOL I WELD ‘BE A BLE’ NEU, GWELL FYTH, CEWCH RAGOR O FANYLION AM Y CYRSIAU UNIGOL SYDD AR GAEL AR EIN GWEFAN MORGANNWG.AC.UK


Morgannwg Prospect wel Doc.

13/9/11

19:09

Page 17

BUSNES A NAWR Y

FENTER FAWR OS OES GENNYCH CHI BEN BUSNES… ...cewch gipolwg ar fyd busnes, cewch brofiad o ystod o leoliadau busnes, cynllunio a rheoli’ch digwyddiad eich hun drwy ymuno â chwrs Diploma Cenedlaethol BTEC mewn Busnes ynghyˆ d â Bagloriaeth Cymru a chael profiad ymarferol o holl agweddau’r cwrs astudiaethau busnes. Efallai hefyd cewch gwrdd â rhai o arweinwyr ysbrydoledig busnesau rhyngwladol, cymryd rhan ym menter eich cymuned eich hun a chodi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch chi i symud ymlaen naill ai i gwrs prifysgol neu symud i swydd ym myd busnes. Opsiynau Swyddfa - Dysgwch wrth weithio yn y swydd yn ein hystafelloedd swyddfa arbenigol gan ddefnyddio’r caledwedd cyfrifiadurol mwyaf modern ar gyfer busnes wedi’i lwytho gyda meddalwedd safonol busnes. O’r cychwyn cyntaf, drwy weithio drwy ran ‘Practice Firm’ o’n Rhith Gwmni, mae ein holl gyrsiau Gweinyddu Busnes yn ddrych o amgylchedd busnes go wir. Drwy gymryd rhan mewn sesiynau arloesol a pherthnasol yn seiliedig ar swyddfa neu ddarlithoedd theori, ein nod yw eich paratoi ar gyfer cyflogaeth a/neu Addysg Uwch. Ac wrth astudio Bagloriaeth Cymru yn ychwanegol, gallwch gymryd rhan mewn mentrau cymunedol, profiad gwaith a gweithgaredd entrepreneuraidd. Mae galw mawr am ein myfyrwyr Gweinyddu Busnes gan gwmnïau lleol, gyda rhai’n cael cynnig swyddi yn ystod eu profiad gwaith. …a hyn oll dan gyfarwyddyd staff profiadol arbenigol.

Aeth rhai o’n myfyrwyr Gweinyddu ymlaen i Addysg Uwch ac yn gyfredol, mae nifer yn cael eu cyflogi yn y sector cyhoeddus ac o fewn yr ardal leol.

EIN HAMSER

EIN DYFODOL MYFYRWYR BUSNES YN GWNEUD EU MARC Mae myfyrwyr Gweinyddu Busnes yng Ngholeg Morgannwg yn ennill profiad ymarferol o redeg cwmni ar lefel ryngwladol gyda rhaglen y coleg sef Profiadau Cynhyrchu Arloesedd Newydd (EGNI). Mae 42 o wledydd yn rhan o’r cynllun, gan gynnwys Malaysia sydd newydd ymuno â’r cynllun. Mae eu cwmnïau’n cynnwys ‘Clean Sweep’, Cariad a Greets & Treats sy’n gwerthu eu cynnyrch i gwmnïau ymarfer eraill mewn 42 o wledydd ar draws y byd. Cawson nhw eu sefydlu i ymdebygu i fusnesau go wir gyda gwahanol adrannau megis marchnata, gwerthiant a chyfrifon. Yr unig wahaniaeth yw nad oes arian na chynnyrch yn cyfnewid dwylo. Cynigir rhaglen EGNI i holl fyfyrwyr Gweinyddu Busnes ochr yn ochr â gwersi theori traddodiadol. Yn ystod y rhaglen, mae myfyrywr yn ‘mynychu’ ffeiriau masnach o gwmpas y byd gyda chwmnïau ymarfer eraill i geisio sicrhau busnes a datblygu cysylltiadau. Cymaint yw llwyddiant EGNI yng Ngholeg Morgannwg mae’n gweithredu fel Tyˆ ’r Cwmnïau ar gyfer cwmnïau ymarfer eraill yn y DU a dyma’r ganolfan ganolog ar gyfer colegau ac ysgolion eraill ar draws Prydain i ‘fancio’ eu henillion.

Meddai Christine Thomas darlithydd: “Mae EGNI yn ddull gwych i bobl ifanc ennill profiad ymarferol o redeg busnes”. Astudiodd Abi Powell, o Aberdâr, gwrs Gweinyddu Busnes gan ddefnyddio cynllun EGNI ac erbyn hyn mae’n gweithio i Hammond (ECS) Cyf. cwmni rheilffordd a pheirianneg sifil. Meddai Abi: ‘Pan ddechreuais gyda Hammond (ECS) Cyf. don i ddim yn sylweddoli mod i’n gwybod cymaint am sut mae busnes yn gweithredu. Ron i’n gallu rhoi fy mhrofiad gydag EGNI ar waith.”

DEWIS O

GYRSIAU: NVQ LEFEL 1, 2 & 3 MEWN GWEINYDDU BUSNES DIPLOMA A THYSTYSGRIF A CHYMWYSTERAU TECHNOLEG GWYBODAETH (ITQ) HEFYD YN CAEL EU HINTEGREIDDIO I MEWN I’R CWRS A FYDD YN EICH RHOI AR Y LLWYBR I DDATBLYGU’R SGILIAU SYDD EU HANGEN ARNOCH CHI I WEITHIO YN UN O FUSNESAU HEDDIW. CAEL CIPOLWG I MEWN I FAES GWEINYDDU DRWY UN O’N CYRSIAU PORTH LEFEL MYNEDIAD ARBENIGOL.

TROWCH AT Y TUDALENNAU CANOL I WELD ‘BE A BLE’ NEU, GWELL FYTH, CEWCH RAGOR O FANYLION AM Y CYRSIAU UNIGOL SYDD AR GAEL AR EIN GWEFAN MORGANNWG.AC.UK

17


Morgannwg Prospect wel Doc.

13/9/11

19:09

Page 18

CHWARAEON

MAE MWY O AMSER HAMDDEN A NEWIDIADAU YN EIN FFORDD O FYW YN GOLYGU MWY O GYFLEOEDD AR GYFER POBL BROFFESIYNOL BYD CHWARAEON. BETH BYNNAG FO’CH CAMP NEU’CH DIDDORDEB YM MAES CHWARAEON EFALLAI EICH BOD AM DDATBLYGU’CH GWYBODAETH EICH HUN A’CH ARBENIGEDD YN OGYSTAL AG ENNILL PROFIAD PELLACH YM MAES CHWARAEON A PHERFFORMIAD. GLEISION CAERDYDD YN HELPU MYFYRWYR I DDANGOS EU LLIWIAU Rydyn ni wedi uno gydag Academi Gleision Caerdydd ac wedi dyfeisio cwrs sy’n datblygu sgiliau chwaraewyr rygbi ifanc, addawol ar y cae yn ogystal â darparu cymwysterau academaidd a galwedigaethol ar eu cyfer.

RHESTR ANRHYDEDDAU’R ACADEMI RYGBI Unodd Coleg Morgannwg gydag Academi Gleision Caerdydd yn 2010 a dyma chi gychwyn da. Mae pedwar myfyriwr wedi derbyn cap i dîm Cymru o dan 18 o fewn blwyddyn o ymuno ag academi rygbi’r coleg.

18

Mae fformiwla lwyddiannus cwrs Coleg Morgannwg ac Academi Rygbi’r Gleision yn helpu i ddatblygu sgiliau chwaraewyr ifanc addawol yn ogystal â darparu cymwysterau academaidd a galwedigaethol a fydd yn werthfawr ar gyfer eu dyfodol. Cyflwynwyd capiau i Lewis Young, 18, o Aberdâr, Thomas Pascoe, 18, o Aberpennar, Jack Dando, 18, o Ben-yGraig a Callum Lewis, 17, o Aberdâr, gan Eddie Butler, y chwaraewr rygbi enwog a’r sylwebydd rygbi mewn seremoni wobrwyo yn y coleg. Dwedodd Clive Jones, cyfarwyddwr rygbi yng Ngholeg Morgannwg: “Rydyn ni mor falch dros y bechgyn sydd wedi ennill eu capiau. Maen nhw wir yn eu haeddu gan bod agwedd pob un yn wych a phob un wedi gweithio’n galed i ennill eu lle ar y tîm cenedlaethol”.

MORGANNWG.AC.UK

Meddai Callum Lewis “Mae’r coleg wedi bod yn wych, heb fod wedi chwarae yng nghynghrair gystadleuol y coleg, dw i ddim yn credu y byddwn i wedi cael fy newis i chwarae dros Gymru sy’n dangos cymaint o help a ges ganddyn nhw yn fy ngyrfa. Yn yr academi, ceir cydbwysedd perffaith rhwng gwaith a rygbi; mae’r tiwtoriaid yn rhoi cyfrifoldeb a lle i ni. Mae’r staff hyfforddi wedi bod yn wych ac yn sicrhau nad ydyn ni’n cymryd dim yn ganiataol. Fy ngobaith nawr yw sicrhau lle yn nhîm y Gleision, ennill rhagor o gapiau a phasio fy nghwrs gyda marciau uchel. Dylai unrhyw un sy’n dymuno dysgu am rygbi a chwarae’r gêm yn sicr ymuno â’r coleg.” Dwedodd Gethin Watts, rheolwr datblygu perfformiad rhanbarthol Cardiff Blues: “Rydyn ni wedi mwynhau helpu Coleg Morgannwg i gyflenwi’r cwrs hwn a allai gynhyrchu sêr y dyfodol ar gyfer y Gleision. Mae natur holistaidd y cwrs yn golygu bod gan chwaraewyr rygbi yrfa ar ôl gorffen chwarae’r gêm gan bod ganddyn nhw sgiliau a chymwysterau eraill i’w galluogi i gario ymlaen i weithio ym maes chwaraeon.” Gobaith Coleg Morgannwg yw datblygu’r berthynas gyda Gleision Caerdydd ymhellach er mwyn parhau i gynhyrchu talent rygbi o’r radd flaenaf a sicrhau bod gan unigolion yrfa o’u blaen ym maes rygbi ai peidio.


Morgannwg Prospect wel Doc.

13/9/11

19:09

Page 19

Ar ddiwedd y cwrs dwy flynedd, mae myfyrwyr yn ennill Diploma lefel 2/3 BTEC mewn Chwaraeon (perfformiad a rhagoriaeth). Mae sesiynau bore yn cynnwys darlithoedd megis hyfforddiant ffitrwydd a rhaglennu, ffisioleg a maeth ar gyfer chwaraeon. Treulir y prynhawniau yn mirienio sgiliau ar y cae rygbi ac yn y gampfa. Mae myfyrwyr hefyd yn gweithio tuag at Gymhwyster Bagloriaeth Cymru.

EFALLAI EICH BOD YN GWYBOD Y BYDDWCH YN GWISGO IWNIFFORM YN Y DYFODOL OND DDIM YN SICR PA UN O’R GWASANAETHAU CYHOEDDUS MEWN LIFRAU YR HOFFECH YMUNO AG E.

Yn ystod y cwrs, caiff ein myfyrwyr gyfle i hyfforddi ochr yn ochr â chwaraewyr Gleision Caerdydd a derbyn hyfforddiant gan rai o hyfforddwyr y Gleision.

Bydd y cyrsiau Gwasanaethau Cyhoeddus yn eich paratoi ar gyfer gyrfa mewn lifrau, boed yn yr Heddlu, y Frigâd Dân neu’r Lluoedd Arfog.

TROWCH AT Y TUDALENNAU CANOL I WELD ‘BE A BLE’ NEU, GWELL FYTH, CEWCH RAGOR O FANYLION AM Y CYRSIAU UNIGOL SYDD AR GAEL AR EIN GWEFAN MORGANNWG.AC.UK/CYMRAEG/ CARE

O dystysgrifau i ddiplomas, gallwch ennill sgiliau a chymwyseddau i’ch helpu i baratoi ar gyfer y broses recriwtio neu ddefnyddio’r profiad i symud ymlaen i gwrs prifysgol. Byddwch yn astudio ffitrwydd corfforol; gwaith tîm a chwaraeon; arweinyddiaeth; disgyblaeth, ymatebolrwydd a sgiliau cyfathrebu effeithiol. Byddwch y gallu cymryd rhan mewn sesiynau hyfforddi ymarferol, sefyllfaoedd chwarae rôl yn ogystal ag astudio’r gyfraith a damcaniadethau troseddeg. Bydd ymweliadau gan aelodau’r Heddlu a chyrff y sector cyhoeddus yn rhoi syniad dyfnach i waith o ddydd i ddydd eich dewis faes. Yng Ngholeg Morgannwg rydyn ni’n cynnig Diplomas Cyntaf ac Estynedig BTEC mewn Gwasanaethau Cyhoeddus gyda mantais ychwanegol Bagloriaeth Cymru.

TROWCH AT Y TUDALENNAU CANOL I WELD ‘BE A BLE’ NEU, GWELL FYTH, CEWCH RAGOR O FANYLION AM Y CYRSIAU UNIGOL SYDD AR GAEL AR EIN GWEFAN MORGANNWG.AC.UK

19


Morgannwg Prospect wel Doc.

13/9/11

19:09

Page 20

GWALLT, HARDDWCH A THERAPI HOLISTAIDD

n a f a r

H i Ha

OS YDY’CH BRYD AR HELPU POBL I DEIMLO AC EDRYCH YN DDA, BYDD CYRSIAU GWALLT, HARDDWCH A THERAPI HOLISTAIDD A GYFLENWIR GAN STAFF ARBENIGOL, TALENTOG AC ARLOESOL YN EICH RHOI AR BEN Y FFORDD. Mae pwyslais cryf ar ennill sgiliau ymarferol, creadigol a busnes a fydd eu hangen arnoch i weithio mewn salon neu sba. Bydd ein cyrsiau yn eich paratoi ar gyfer chwilio am swydd neu ystyried sefydlu’ch busnes eich hun.

ein hamser, ein dyfodol

Cewch eich addysgu gan staff cymwys, medrus drwy weithio ar gleientiaid yn salonau a sba uchel eu hansawdd safonol y diwydiant yng Ngholeg Morgannwg. Mae llawer o’n staff hefyd yn gweithio yn y proffesiwn a byddan nhw’n eich helpu i feithrin ethos proffesiynol ac agwedd broffesiynol.

Mae tîm cystadleuaeth drin gwallt, tîm o 21 o fyfyrwyr wedi bod yn ennill gwobrau mewn cystadlaethau ymhobman. Ym Mhencampwriaethau Agored Trin Gwallt Prydain, enillon nhw 5 gwobr! Mewn chwe digwyddiad dros y chwe mis diwethaf daethon nhw’n gyntaf ail trydydd neu bedwerydd 19 o weithiau.

20

MYFYRWYR TRIN GWALLT UWCHBEN PAWB!

MORGANNWG.AC.UK

Roedd y myfyrwyr yn rhoi o’u hamser hamdden i ymarfer a chystadlu a chael ffrindiau a theulu i wirfoddoli i fodelu iddyn nhw. Mae’r holl dîm yn perfformio’n dda ac mae egin sêr yn eu plith. Mae creadigrwydd Catrin Davies wedi creu argraff fawr ar ei thiwtoriaid ac aeth o nerth i nerth yn y cystadlaethau. Daeth yn gyntaf yng nghategori ‘Gwallt hir merched ar gyfer noson allan’ yn ogystal â chael ei choroni yn bencampwraig y Ffederasiwn Gwallt Cenedlaethol am drin gwallt priodferch. Mae Samantha Collins a astudiodd Lefel 3 wrth ei bodd yn cystadlu ac wedi dangos ymroddiad i’w chrefft. Enillodd hi ddwy wobr, dod yn ail yng nghategori ‘Gwallt hir Merched Iau’ a dod yn drydydd yng nghategori ‘ ori Gwallt Merched Iau’.


Morgannwg Prospect wel Doc.

13/9/11

19:09

Page 21

h C w d rd

a H

Meddai Ann Hopkin, cydlynydd y tîm cystadlu: “Mae’n anhygoel beth mae’r tîm hwn wedi’i gyflawni mewn amser byr mewn cystadlaethau, mae’r canlyniadau yn dyst i hynny. Rydyn ni mor falch o’r holl fyfyrwyr sydd wedi cymryd rhan yn y digwyddiadau hyn ac wedi cynrychioli Coleg Morgannwg ar lwyfan cenedlaethol a hynny yn erbyn pobl broffesiynol a medrus”. Does dim amheuaeth bod y profiad ychwanegol a gaiff myfyrwyr sy’n astudio yng Ngholeg Morgannwg a chymryd rhan mewn cystadlaethau uchel eu lefel fel hyn yn eu gosod ben ac ysgwydd uwchben y gweddill.

TROWCH AT Y TUDALENNAU CANOL I WELD ‘BE A BLE’ NEU, GWELL FYTH, CEWCH RAGOR O FANYLION AM GYRSIAU UNIGOL AR EIN GWEFAN MORGANNWG.AC.UK/ CYMRAEG/SERVICES

mae’r dewis o gyrsiau yn cynnwys

LEFEL 1, 2 & 3 MEWN TRIN GWALLT (& CHYMHWYSTER BAGLORIAETH CYMRU

LEFEL 1, 2 & 3 MEWN THERAPI HARDDWCH WEDI’I GYFUNO Â GWASANAETH CWSMERIAID (& CHYMHWYSTER BAGLORIAETH CYMRU) MAE EIN CYRSIAU THERAPI CYFLENWOL YN CYNNWYS: LEFEL 3 DIPLOMA MEWN AROMATHERAPI LEFEL 3 DIPLOMA MEWN ADWEITHEG LEFEL 3 TYSTYSGRIF MEWN TYLINO SWEDAIDD LEFEL 3 DIPLOMA YN Y DULL INDIAIDD O DYLINO’R PEN

21


Morgannwg Prospect wel Doc.

13/9/11

19:09

Page 22

LLETYGARWCH AC ARLWYO

MAE EIN CWRS ARLWYO YN SICR YN RHYWBETH I GNOI CIL ARNO, YN EICH PARATOI AR GYFER SWYDDI YN Y BUSNES LLETYGARWCH AC ARLWYO. Ar bob campws mae bwyty y mae myfyrwyr yn eu rhedeg gyda chwsmeriaid o blith y staff, myfyrwyr, aelodau’r gymuned a chontractau arlwyo lleol. Mae myfyrwyr ar ein cyrsiau lletygarwch ac arlwyo hefyd yn cymryd rhan mewn digwyddiadau yn y coleg, sioeau a seremonïau, boed yn arlwyo ar gyfer codi arian neu achlysur i groesawu gwesteion y coleg. Felly ymunwch â ni i ddysgu’r sgiliau, ennill yr arbenigedd a gweiddi am ‘service!’

22

COGINIO SIMON YN SWYNO Ymrestrodd Simon Watkins yn y coleg pan oedd yn 16 oed ar ôl i’w deulu benderfynu symud i Gymru yn dilyn effaith drychinebus y swnami yn Thailand yn 2008. Aeth ati i astudio gydag angerdd a llwyddodd i gwblhau cymwysterau mewn Lletygarwch Amlsgiliau, Coginio Proffesiynol, Gwasanaeth Bwyd a Diod, Goruchwylio ac Arweinyddiaeth Coginio Proffesiynol a Lletygarwch.

MORGANNWG.AC.UK

Gwnaeth ran o’i brofiad gwaith gyda ‘Compass - Jockey Club Catering’ yn rasys y ‘Gold Cup’ yn Cheltenham. Gweithiodd fel goruchwyliwr yn y blychau lletygarwch tu ôl i ffenestri ar y cwrs. Roedd ei waith yn golygu rheoli staff o bedwar ar ddeg a gofalu am 480 o westeion dros bedwar ˆ yl. Roedd Simon yn diwrnod yr w awyddus i fynd yr ail filltir bob amser ac ymrestrodd ar gwrs gradd Rheoli Gwesty Rhyngwladol yn APCC.


Morgannwg Prospect wel Doc.

13/9/11

19:09

Page 23

LEFEL 1 LLETYGARWCH AC ARLWYO GYDA Â CHYMHWYSTER BAGLORIAETH CYMRU COGYDDION YN RHAGORI MEWN CYSTADLEUAETH GOGINIO Mae sgiliau coginio ein myfyrwyr arlwyo wedi cael eu cydnabod mewn cystadleuaeth genedlaethol. Enillon nhw’r fedal arian yn Seremoni Wobrwyo Sefydliad ‘Hospitality’, gwobrau y mae myfyrwyr arlwyo ar draws Cymru yn cystadlu amdanyn nhw. Yn eu cystadleuaeth, rhoddwyd £100 i’r myfyrwyr ei wario ar y bwyd, addurn ar gyfer y bwrdd a £40 i wario ar win. Eu tasg oedd cynllunio’r fwydlen, paratoi, coginio a gweini pryd tri chwrs ar gyfer 12 o westeion a hyn i gyd mewn pedair awr!

LEFEL 1 DIPLOMA MEWN GWEINI BWYD A DIOD LEFEL 3 MEWN COGINIO PROFFESIYNOL BTEC LEFEL 1 & 2 DIPLOMAS MEWN COGINIO PROFFESIYNOL/BWYD A DIOD TROWCH AT Y TUDALENNAU CANOL I WELD ‘BE A BLE’ NEU, GWELL FYTH, CEWCH RAGOR O FANYLION AM GYRSIAU UNIGOL AR EIN GWEFAN AT MORGANNWG.AC.UK/CYMRAEG/SERVICES

23


Morgannwg Prospect wel Doc.

13/9/11

19:09

Page 24

TECHNOLEG ADEILADU

SEILI DDYDD A MAE’R TÎM TECHNOLEG ADEILADU WEDI GWNEUD ENW IDDYN NHW EU HUNAIN YM MAES HYFFORDDI PRENTISIAID YN Y GREFFT O OSOD BRICS, PAENTIO AC ADDURNO, GOSOD TRYDAN, GWAITH SAER, GWAITH PLYMWR A PHEIRIANNEG SIFIL. WRTH WEITHIO Â PHOBL BROFFESIYNOL BROFIADOL, POB UN WEDI CYMHWYSO YN EI ALWEDIGAETH, BYDDWCH YN ASTUDIO CYRSIAU A LUNIWYD AR GYFER A GYDA’R DIWYDIANT ADEILADU MEWN CYFLEUSTERAU ARBENIGOL.

EIN HAMSER, EIN DYFODOL. ADEILADU AR GYFER ‘EIN’ DYFODOL Mae tîm Adeiladu Coleg Morgannwg yn gweithio gyda Laing O’Rourke i gyflenwi rhaglen o gymorth i ddarlithoedd sy’n rhoi cipolwg manwl i’r myfyrwyr o’r diwydiant adeiladu a phrofiad o safle waith. Mae’r rhaglen yn cydredeg â’r cwrs adeiladu yn sgil contract Laing O’Rourke gyda Choleg Morgannwg i adeiladu’r campws newydd gwych gwerth £40M yn Nantgarw. Dwedodd y Pennaeth, Judith Evans: “Bu’r rhaglen gymorth yn amhrisiadwy i’n myfyrwyr adeiladu ac wedi rhoi’r modd iddyn nhw lwyddo mewn diwydiant caled. Mae’r

24

MORGANNWG.AC.UK

gystadleuaeth yn y farchnad lafur yn ffyrnig iawn ar y foment, gyda diweithdra ymhlith pobl ifanc ar ei uchaf erioed, felly, rydyn ni am sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y blaen ar y rhai fydd yn cystadlu yn eu herbyn. Mae’n wych gweld cymaint o fyfyrwyr yn cael cyfle unigryw i gael cychwyn da i’w gyrfa yn y diwydiant adeiladu.” Mae’r myfyrwyr hefyd yn cael gweithio gyda’r cwmni adeiladu ar leoliadau profiad gwaith hirdymor, a chael blas ar amgylchedd gwaith. Caiff dau fyfyriwr eu dethol i gael eu talu am fod ar leoliad fel peirianwyr, ac felly’n cael mwy o gyfrifoldeb ar y safle. A hefyd, nid yn unig bod yn rhan o’r broses adeiladu campws newydd y coleg ond maen nhw’n gweithio ar y datblygiad gwerth

£34m ym Mharc Iechyd Merthyr, Stephen Robbins sy’n gofalu am y rhaglen gymorth i ddarlithoedd ac fe yw rheolwr cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol (CSR) yn Laing O’Rourke, ac meddai: “Mae’r fenter hon yn wych i Laing O’Rourke ac i Goleg Morgannwg. Mae gennym berthynas dda iawn gyda staff y coleg, y myfyrwyr, y trigolion a’r cymunedau busnes ehangach o gwmpas ein safleoedd sy’n dangos ein hymroddiad i CSR. CYFLAWNI’R MEINCNOD Yn ddiweddar, ymgymerodd myfyrwyr cwrs *Diploma’r Flwyddyn Gyntaf Gwaith Saer ac Asiedydd â phrosiect i ddylunio ac adeiladu dwy fainc fawr bren ar gyfer picnic.


Morgannwg Prospect wel Doc.

13/9/11

19:09

Page 25

IAU I A DDAW Cychwynnwyd yn null ‘The Apprentice’ drwy ganfod y sgiliau fyddai eu hangen arnyn nhw a’u paru â’r aelod priodol. Enwebwyd rheolwr ˆ p. Gweithion prosiect i gydlynu’r grw nhw i gyd mor galed, hyd yn oed yn eu hamser egwyl i sicrhau bod y meinciau’n barod ar amser.

DEWIS O GYRSIAU SY’N CYNNWYS:

Dwedodd un myfyriwr “Dw i’n hapus gyda’n mainc. Pan gawson ni’r dasg, ro’n i’n eitha nerfus i daclo sialens mor fawr ond rydyn ni gyd wedi cydweithio a bydd yn dda gweld ein meinciau’n cael eu defnyddio gan fyfyrwyr eraill”.

BTEC LEFEL 3 DIPLOMA ATODOL MEWN ADEILADU AC AMGYLCHEDD ADEILEDIG (& WBQ)

Dwedodd Darren Lewis, darlithydd adeiladu, “Dw i’n hynod o falch o’r ˆ p hwn, maen nhw i gyd yn grw fyfyrwyr yn eu blwyddyn gyntaf ac mae ansawdd eu gwaith yn rhagorol”. ˆ p hwn wedi Erbyn hyn mae’r grw cwblhau eu blwyddyn gyntaf a bydd nifer ohonyn nhw’n mynd ymlaen i 2il flwyddyn y Diploma yn y coleg. O gwblhau eu hail flwyddyn yn llwyddiannus, cân nhw’r cyfle i astudio cwrs Diploma Estynedig Adeiladu.

BTEC HAEN SYLFAEN LEFEL 1 DIPLOMA MEWN ADEILADU

TYSTYSGRIF BTEC MEWN ADEILADU/ PEIRIANNEG SIFIL (& WBQ) LEFEL 1 DIPLOMA MEWN GWAITH SAER/ ASIEDYDD, PAENTIO/ADDURNO NEU WAITH GOSOD BRICS (& WBQ) LEFEL 1/2 CWRICWLWM 2000 MEWN GWAITH PLYMWR NVQ LEFEL 1 A THYSTYSGRIF MEWN GOSOD TRYDAN (& WBQ) TROWCH AT Y TUDALENNAU CANOL I WELD ‘BE A BLE’ NEU, GWELL FYTH, CEWCH RAGOR O FANYLION AM GYRSIAU UNIGOL AR EIN GWEFAN MORGANNWG.AC.UK/CYMRAEG/ CONSTRUCTION

25


Morgannwg Prospect wel Doc.

13/9/11

19:09

Page 26

PEIRIANNEG AC ELECTRONEG

MAE CAMPWS NANTGARW, PRIF GANOLFAN COLEG MORGANNWG AR GYFER CREFFTAU, TECHNEGWYR, PEIRIANNEG AC ELECTRONEG YN GYFLEUSTER PWRPASOL FFANTASTIG. Mae yma weithdai modern iawn, ystafelloedd addysgu a thiwtorial gydag offer ac adnoddau o’r ansawdd uchaf a diwydiannol safonol. Ceir hefyd gyfleusterau gwych ar Gampws Rhondda.

CYNYDDU PWERAU DYSGU Cyfleusterau arbenigol gyda phobl broffesiynol gymwys a phrofiadol Cyrsiau Sylfaen i gyrsiau Gradd Sylfaen

Bu Coleg Morgannwg yn arwain maes hyfforddi prentisiaid ar gyfer GE Aircraft Maintenance a leolir yn Nantgarw ers dros 20 mlynedd. Mae llawer o’n prentisiaid GE wedi mynd ymlaen i gwblhau eu HNC a chymwysterau Gradd mewn peirianneg a Pheirianneg Awyrofod.

Enw ardderchog am hyfforddi prentisiaid mewn trwsio cyfrifiaduron, electroneg, peirianneg cynhyrchu a pherfformiad Cysylltiadau agos â chyflogwyr lleol i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd hyfforddi yn arwain at gyflogaeth lawn i fyfyrwyr.

CALLUM YN ENNYN DIDDORDEB Callum Morgan, myfyriwr Peirianneg Trydan ddaeth i’r brig, gan guro 15 myfyriwr arall yn rownd derfynol Cymru yng nghystadleuaeth World Skills. Aeth ymlaen i gynrychioli Cymru yn rowndiau terfynol World Skills Cymru.

26

MORGANNWG.AC.UK

MERCHED YN Y MAES Mae Coleg Morgannwg wedi gweld cynnydd mawr yn nifer y merched sy’n troi eu cefn ar gyrsiau traddodiadol fenywaidd ac astudio pynciau nodweddiadol wrywaidd, gyda chynnydd o 5% yn 2011 yn y nifer sy’n astudio prentisiaethau peirianneg. Cwblhaodd Cerys Williams ei Thystysgrif Genedlaethol BTEC mewn Cynhyrchu a Pheirianneg ac aeth ymlaen i fod y ferch gyntaf o brentis yn Allevard Springs Ltd yng Nghwm Clydach. Deilliodd cariad Cerys at beirianneg o’r amser y treuliodd gyda’i thadcu yn ei sied yn defnyddio’i offer a dysgu sut i wneud pethau. Meddai Cerys: “Dw i’n ddiolchgar i Goleg Morgannwg am roi’r help a’r hyder oedd eu hangen arna i. Roedd fy nhiwtoriaid cwrs a phwnc mor gefnogol achos roeddwn mor ddi-hyder


Morgannwg Prospect wel Doc.

13/9/11

19:09

Page 27

yn fy ngwaith. Ron i’n gofyn cwestiynau byth a beunydd ac roedd y tiwtoriaid yno bob amser i’w hateb. “Fe ddysgais gymaint o sgiliau a bu’r cyfuniad o bynciau yn help i fy nghyflogwyr yn ogystal â fy ngwybodaeth o weithio’n gorfforol.” Mae Cerys yn credu gall merched gynnig set wahanol o sgiliau mewn diwydiant lle mae dynion yn traarglwyddiaethu ac mae’n dweud: “Dw i’n credu y gall merched ddod â gwahanol sgiliau i fyd peirianneg oherwydd bod eu safbwyntiau’n wahanol. Fi yw’r ferch gyntaf i weithio yn maes peirianneg yn fy nghwmni ac mae hyn wedi bod yn sialens. Ond, er gwaethaf fy mhryderon, dw i’n teimlo mod i wedi profi i fi fy hun ac i fy nghydweithwyr bod y galluoedd anghenrheidiol gen i i fod yn beiriannydd cymwys”. “Y prif beth mae rhaid i ferched ei gofio wrth weithio mewn crefft yw bod ganddyn nhw yr un hawl i wneud y gwaith ag unrhyw ddyn ac mae cymorth ar gael i’r rhai sydd am ddysgu.” Dwedodd Kevin Dickens, tiwtor Peirianneg: “Mae cyrsiau galwedigaethol yn cynnig man cychwyn gwych i fynd i mewn i fusnes. Mae diwydiannau modern yn cydnabod bod merched yn gwneud eu gwaith yn dda, er gwaethaf stereoteipio hen ffasiwn. Dw i’n falch o fod yn rhan o goleg sydd mor flaengar.”

BTEC HAEN SYLFAEN LEFEL 1 DIPLOMA MEWN PEIRIANNEG (& WBQ) BTEC LEFEL 2 DIPLOMA A PHERFFORMIO GWEITHREDIADAU PEIRIANYDDOL LEFEL 1 MEWN PEIRIANNEG NEU BEIRIANNEG ELECTRONEG (& WBQ) BTEC LEFEL 3 DIPLOMA ATODOL A PHEIRIANNEG PERFFORMIO GWEITHREDIADAU PEIRIANYDDOL LEFEL 2 MEWN CYNHYRCHU (& WBQ) BTEC LEFEL 3 DIPLOMA ATODOL A PHEIRIANNEG PERFFORMIO GWEITHREDIADAU PEIRIANYDDOL LEFEL 1 MEWN CYNHYRCHU (LLWYBRAU I BRENTISIAETH & WBQ) NVQ LEFEL 2 PEIRIANNEG ELECTRONEG A THRWSIO CYFRIFIADURON PERFFORMIO GWEITHREDIADAU PEIRIANYDDOL LEFEL 1 & 2 MEWN PEIRIANNEG TROWCH AT Y TUDALENNAU CANOL I WELD ‘BE A BLE’ NEU, GWELL FYTH, CEWCH RAGOR O FANYLION AM GYRSIAU UNIGOL AR EIN GWEFAN MORGANNWG.AC.UK/CYMRAEG/ENGINEERING

27


Morgannwg Prospect wel Doc.

13/9/11

19:09

Page 28

LLWYBRAU DYSGU 14-19

GWEITHIODD COLEG MORGANNWG GYDA’R HOLL 19 YSGOL UWCHRADD YN RHONDDA CYNON TAF I ROI DEWIS EHANGACH I CHI O RAGLENNI CYSWLLT. Mae’r Rhaglenni Cyswllt ‘Link’ yn cydredeg ag opsiynau mae eich ysgol yn eu cynnig o Flwyddyn 10 i Flwyddyn 13 naill ai yn eich ysgol eich hun, campws coleg neu mewn ysgol gyfagos. FEL RHAN O FWYDLEN OPSIYNAU RHONDDA CYNON TAF MAE COLEG MORGANNWG YN DARPARU: 21 opsiwn yn ystod blwyddyn 10 ac 11 gan gynnwys 10 drwy gyfrwng y Gymraeg 26 opsiwn yn ystod blynyddoedd 12 ac 13. 10 ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg …felly cysylltwch, lincwch lan Gellir cael gwybodaeth am opsiynau yn eich ysgol ar wefan Gyrfa Cymru. Gofynnwch i’ch athrawon am yr opsiynau sydd ar gael i chi neu gysylltu â ni yma ar wefan Coleg Morgannwg morgannwg.ac.uk Mae Rhaglen Gyswllt ‘Link’ ar gael i gwrdd ag anghenion pawb. FFASIWN FFANTASTIG Os ydych ym mlwyddyn 10 neu 11 ac â diddordeb mewn dylunio a dysgu sut i wneud dillad, yna hwn yw’r cwrs i chi. Mae Coleg Morgannwg a Skillset wedi llunio cwrs dwy flynedd cyfwerth â 2 TGAU. Byddwch yn:

28

MORGANNWG.AC.UK

gweithio ar egwyddorion dylunio ystyried adeiladwaith a saernïo dilledyn diywdiannol, yn mesur ac yn defnyddio blociau sylfaen cynhyrchu addasiadau o batrwm a chwblhau patrymau cael cipolwg ar y diwydiant dillad, esgidau a lledr.

Busnes a Gweinyddu TG Adwerthu Rheoli Cyfleusterau Wedyn, rydych chi’n symud ymlaen i leoliad gwaith dan gymorth sy’n gysylltieidg â’ch dewis o faes astudiaeth.

DIDDORDEB MEWN DAWNS, TECHNOLEG CERDDORIAETH A’R CELFYDDYDAU PERFFORMIO – yna mae gennym opsiwn Llwybrau Dysgu ar eich cyfer! Astudiwch ar Gampws Rhondda lle mae gennym gyfleusterau newydd gwych gan gynnwys Stiwdio Ddawns, Cyfres o Ystafelloedd Recordio a Golygu ac awditoriwm yn dal 200 o bobl. Gallwch ddewis o: BTEC Tystysgrif Gyntaf Dawns BTEC Dyfarniad Cenedlaethol Technoleg Cerddoriaeth/Recordio Cerddoriaeth BTEC Dyfarniad Cenedlaethol Celfyddydau Perfformio (Dawns, Coluro, Y Celfyddydau Cynhyrchu neu Wisgoedd) BTEC Dyfarniad Cenedlaethol Celf a Dylunio/Ffotograffiaeth

ADEILADU’CH SYLFAEN AR GYFER BYWYD – YSTYRIWCH TG! Mae ein cwrs blwyddyn, Sgiliau Sylfaenol mewn Busnes, Adwerthu a Menter yn rhoi cyfle i chi wella’ch sgiliau gwaith. Drwy ystyried opsiynau cysylltiedig â gwaith, byddwch yn gwella’ch sgiliau personol unigol a’ch sgiliau gweithio mewn tîm

YDY DYSGU YN Y GWEITHLE YN APELIO ATOCH CHI? Byddwn yn cynnig cyfle i 20 o fyfyrwyr gymryd rhan yn ein rhaglen Camau i Gyflogaeth. Byddwch yn treulio 12 wythnos yn datblygu’ch ˆ d ag sgiliau allweddol ynghy astudio cymwysterau yn un o’r meysydd canlynol:

SGILIAU SYLFAENOL – YMARFEROL Ydy’r cyfle i drio agweddau ar Adeiladwaith a Garddwriaeth ochr yn ochr â Thechnoleg Gwybodaeth yn ogystal â gwella’ch Saesneg a Mathemateg yn apelio atoch chi? SGILIAU SYLFAENOL – LLETYGARWCH AC ARLWYO MEWN BLWYDDYN! Pam na rowch gynnig ar wella’ch sgiliau gwaith drwy gychwyn ar un o’n cyrsiau Lletygarwch ac Arlwyo. Byddwch yn gweithio ar y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer swyddi yn y diwydiant lletygarwch neu arlwyo. Dysgwch am hylendid bwyd, defnyddio technoleg gwybodaeth a hyd yn oed gwella’ch Saesneg a Mathemateg.


Morgannwg Prospect wel Doc.

13/9/11

19:09

Page 29

SHANE YN ENILLYDD CENEDLAETHOL Ym Mis Medi 2010 daeth Shane Dally i’r coleg i ymrestru ar gwrs Paentio ac Addurno, ond ni lwyddodd yn ei gais gan fod geirda’r ysgol yn un gwael a chyfeiriwyd Shane at Gwrs Sgiliau Ymarferol a newidiodd ei fywyd! CWRS SYLFAEN AR GYFER Y RHAI Â NAM AR Y SYNHWYRAU Lluniwyd y Cwrs Sylfaen hwn yn arbennig ar gyfer myfyrwyr â nam ar y golwg neu’r clyw. Achubwch ar y cyfle i astudio ar gyfer ystod o gymwysterau lefel mynediad a fydd yn eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau byw’n annibynnol a hybu’ch hunan-hyder. MAN CYNNYDD – Mae’r tri chwrs Sylfaen hyn yn rhoi cyfle i chi symud i opsiynau prif ffrwd neu gyflogaeth. CYNYDDWCH EICH OPSIYNAU BYWYD A GWAITH – drwy fynychu Coleg Morgannwg am gwrs blwyddyn ar 4 diwrnod yr wythnos. Lluniwyd y cwrs yn benodol ar gyfer darpar anghenion galwedigaethol, gwirfoddol neu gyflogaeth myfyrwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. DYSGU AC ENNILL – OPSIYNAU DYSGU’N SEILIEDIG AR WAITH: Cynigir Prentisiaethau Modern i unrhyw un sy’n cael eu cyflogi ym maes Peirianneg neu Waith Plymwr o 16 oed. Maen nhw’n cynnig opsiwn hyblyg i’r prentisiaid a’u cyflogwr. Mae Prentisiaethau Modern Sylfaen ar gael mewn Gwaith Plwmwr i’r rhai sydd wedi bod mewn cyflogaeth ers 16 oed. Os oes diddordeb gennych chi, cysylltwch â morgannwg.ac.uk/skillstraining neu e-bostio j.williams@morgannwg.ac.uk.

Ymrestrodd Shane ar y cwrs a dangosodd ymroddiad llwyr; presenoldeb ardderchog ac mae’n fodel i eraill gan gefnogi aelodau llai abl yn y dosbarth. O ystyried ei ymroddiad, cafodd ei enwebu am Wobr ‘WorkSkills’ a theithiodd i Smithfiled, Llundain i fynychu Achlysur Gwobrwyo Llwyddiant WorkSkills. Nid siwrnai seithug oedd hi, derbyniodd Shane Wobr Genedlaethol WorkSkills sef y wobr uchaf oll. Mae Shane nawr yn ceiso ymrestru ar gwrs adeiladu. Dwedodd ei diwtor, Jill James, “Dw i erioed wedi cwrdd â myfyriwr sydd mor benderfynol ac sy’n ffocysu’n llwyr. Mae wedi dangos ei sgiliau a’i briodweddau personol ac wedi delio â nifer o broblemau i gyflawni ei nod.” YMLAEN AC I FYNY BO’R NOD I JESS Dechreuodd Jess Prosser drwy wneud cais am gwrs Astudiaethau Sylfaen mewn Arlwyo nôl yn 2010. Yn ystod ei chyfweliad, soniodd na fu’n mynychu’r ysgol llawn amser ers iddi fod yn 13 oed. Oherwydd bod ei phresenoldeb mor wael, bu rhaid iddi gael ei haddysgu gartref gan gyflawni TGAU Mathemateg. Ers ymuno â’r coleg, dangosodd Jess ymroddiad llwyr i’w chwrs gyda phresenoldeb o 99%, a dim ond colli 3 diwrnod eleni. Gwnaeth lawer o ffrindiau ac mae ei bywyd cymdeithasol wedi gwella 100%. Mae safon uchel i’w gwaith, mae wrth ei bodd gyda bywyd coleg ac mae hyd yn oed yn cwyno pan fydd gwyliau. Cyflawnodd Jess ei chymwysterau i gyd eleni a hyd yn oed derbyn gwobr ‘WorkSkills’. Ym Mis Medi bydd yn cychwyn ar gwrs TG.

MAE’R PYNCIAU SYDD AR GAEL LLAWN AMSER A RHAN AMSER AR Y GRID AR Y TUDALENNAU CANOL NEU AR EIN GWEFAN MORGANNWG.AC.UK

29


Morgannwg Prospect wel Doc.

13/9/11

19:09

Page 30

BYWYD MYFYRWYR

YMLACIWCH YMUNWCH & MWYNHEWCH! MAE COLEG MORGANNWG YN ANNOG MYFYRWYR I YMUNO MEWN GWEITHGAREDDAU TU ALLAN I’W MAES ASTUDIO. YN OGYSTAL Â MWYNHAU CYDWEITHIO Â FFRINDIAU, BYDDWCH YN DYSGU SGILIAU NEWYDD A CHYFOETHOGI’CH ‘CV’.

Gall gweithgaredd allgyrsiol amrywio o Chwaraeon i Ddrama a’r Cyfryngau hyd at godi arian at elusennau. DYDD MERCHER YDY’R DIWRNOD MAWR... Ar bnawn Mercher daw cyfle i ymlacio, ymuno a mwynhau. Fel enghreifftiau o weithgareddau, gallwn restru Mentergarwch neu adloniant, chwaraeon neu iaith arwyddo. Mae’r opsiynau’n newid o flwyddyn i flwyddyn wrth i ni ymateb i geisiadau ddaw drwy holiaduron ymhlith y myfyrwyr.

30

CYFFREDINOL HYLENDID BWYD/ CYMORTH CYNTAF CROESO CYMRU – GWASANAETH CWSMERIAID TYSTYSGRIF EFFEITHIOLRWYDD PERSONOL LEFEL 2 / 3 DIPLOMA MEWN CYMWYSIADU DIGIDOL TYSTYSGRIF MEWN MENTERGARWCH IAITH ARWYDDO (BSL) CHWARAEON A FFITRWYDD (M/F) RYGBI/PÊLDROED HOCI/PÊL-RWYD PÊL FASGED PILATES HYFFORDDIANT CYLCHOL GWOBR ARWEINYDD CHWARAEON DUC CAEREDIN

MORGANNWG.AC.UK

CREADIGOL DRAMA A THEATR FIDEO A FFILM TECHNOLEG CERDD RADIO/CYLCHGRAWN Y COLEG CÔR Trefnir Chwaraeon yng Ngholeg Morgannwg drwy’r rhaglen 5 x 60 sy’n cymell pobl ifanc i fod yn fwy actif ac yn annog rhai sydd ddim yn gwneud unrhyw chwaraeon i gymryd rhan a mwynhau. Mae hefyd yn ceisio rhoi cyfle i wirfoddolwyr gael rhagor o brofiad o weithio mewn amgylchedd chwaraeon ac i helpu i redeg clybiau ac ennill gwobrau a chymwysterau. Yn ogystal â threfnu clybiau allgyrsiol, mae’r rhaglen 5 x 60 yn ceisio gofalu fod y gweithgareddau’n gynaliadwy drwy ddatblygu lincs â chlybiau lleol. Agwedd bwysig o’r rhaglen ydy cymryd sylw o ofynion y myfyrwyr a darparu gweithgareddau maen nhw’n gofyn amdanyn nhw. Roedd gweithgareddau 2011 yn cynnwys gemau tîm traddodiadol fel rygbi, pêl-droed, pêl-rwyd neu hoci, gweithgareddau awyr agored fel beicio mynydd, cerdded mynyddoedd neu ddringo creigiau a diddordebau dan do fel dosbarthiadau Zumba, dawnsio stryd neu gampau dwyreiniol ‘martial arts’.


Morgannwg Prospect wel Doc.

13/9/11

19:09

Page 31

MYFYRWYR YN ‘CYD-DYNNU’ AR DDYDD Y TRWYNAU COCHION

Ein nod ydy y gallwch ymuno mor rhwydd a hyblyg â phosibl, a bod y gweithgareddau’n gallu bod dan amodau ‘trowch lan a chwarae’, neu’n sesiynau hyfforddi ffurfiol, gornestau cystadleuol neu’n ˆ yl hwyl. w

Ymunodd dros 100 o’r myfyrwyr o sawl cwrs ar gampws Nantgarw â gweithlu Cynnal a Chadw cwmni British Airways yng Nghaerdydd i godi arian at Comic Relief. Bu’r timau’n ‘tynnu Awyren’ ym maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd ar ddydd y Trwynau Cochion. Cyn pob plwc o dynnu, bu dau fabolgampwr proffesiynol, Matt Elias (400m dros y clwydi) a David Roberts (nofiwr Olympaidd), yn cynnal ymarferion twymo. Hefyd dyfarnwyd gwobrau am wisgoedd gorau o blith y timau, y casglwyr gorau a’r rhai cyflymaf, a dyfarnwyd medal i bawb o’r tynwyr. Ers ymuno â’r ymgyrch Comic Relief ym Mehefin 2010, mae British Airways wedi codi dros £700,000 ar gyfer ‘Flying Start’ - partneriaeth elusennol y cwmni hedfan gyda Comic Relief, sy’n gweddnewid bywydau plant bregus a difreintiedig y DU ac o amgylch y byd.

CYFLE I CHWARAE Yn 2010/11 ymunodd Coleg Morgannwg â chynghrair rygbi’r colegau, felly mae cyfle bellach i’r myfyrwyr deithio ar hyd a lled gwlad i chwarae yn erbyn colegau eraill. Gwell fyth, mae rhai o ddarpar sêr y cymoedd yn cael eu hyfforddi gan Clive Jones, cyn Gyfarwyddwr Rygbi Pontypridd, sydd bellach yn Gyfarwyddwr newydd y Cwrs Diploma Lefel 3 Perfformiad a Rhagoriaeth mewn Chwaraeon. Ac yn goron ar y cyfan, mae Coleg Morgannwg yn gartref i Academi Gleision Caerdydd, sy’n golygu y caiff ein myfyrwyr gyfle i wireddu’r breuddwydion ar y maes chwarae ac maen nhw’n cael cyfle i ymarfer a chwarae ochr yn ochr ag ieuenctid proffesiynol tîm Gleision Caerdydd. Eleni fe enillodd pedwar o’n sêr rygbi eu capiau dros Gymru.

RHAI ESIAMPLAU O WEITHGAREDDAU’N MYFYRWYR TU ALLAN I’W GWAITH COLEG – YMLACIWCH, YMUNWCH A MWYNHEWCH.

31


Morgannwg Prospectus Doc.

13/9/11

19:03

Page 32

WHAT’S ON AND WHERE BE A BLE FULL-TIME COURSES SEPTEMBER 2012 CYRSIAU LLAWN AMSER MEDI 2012

KEY /ALLWEDD A – ABERDARE N – NANTGARW R – RHONDDA

ANR

ANR

CARE AND CHILDHOOD STUDIES ASTUDIAETHAU GOFAL A PHLENTYNDOD

SERVICE INDUSTRIES Y DIWYDIANNAU GWASANAETHU

Level 1 Certificate in Introduction to Health & Social Care & WBQ Tystysgrif Lefel 1 Cyflwyniad i Iechyd a Gofal Cymdeithasol & WBQ Diploma in Children’s, Care, Learning and Development Childcare and Education (Level 2) / Diploma Gofal, Dysgu a Datblygiad ac Addysgu Plant (Lefel 2) CACHE Diploma in Childcare and Education (Level 3) / CACHE Diploma Gofal Plant ac Addysg (Lefel 3) BTEC National Certificate in Children’s Care, Learning & Development & WBQ / BTEC Tystysgrif Genedlaethol Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant & WBQ BTEC First Diploma in Health & Social Care & WBQ / BTEC Diploma Cyntaf mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol & WBQ

Level 1 Hairdressing & WBQ Lefel 1 Trin Gwallt & WBQ Level 2 Hairdressing & WBQ Lefel 2 Trin Gwallt & WBQ Level 3 Hairdressing & WBQ Lefel 3 Trin Gwallt & WBQ Level 1 Beauty Therapy & WBQ Lefel 1 Therapi Harddwch & WBQ Level 2 Beauty Therapy & WBQ Lefel 2 Therapi Harddwch & WBQ Level 3 Beauty Therapy & WBQ Lefel 3 Therapi Harddwch & WBQ Holistic Complementary Therapies & WBQ Therapïau Cyflenwol Holistaidd & WBQ Level 1 Diploma in Professional Cookery & WBQ Lefel 1 Diploma Coginio Proffesiynol & WBQ Level 2 Diploma in Professional Cookery & WBQ Lefel 2 Diploma Coginio Proffesiynol & WBQ Level 3 Diploma in Professional Cookery & WBQ Lefel 3 Diploma Coginio Proffesiynol & WBQ Level 1 Diploma in Food Drink & WBQ Lefel 1 Diploma Bwyd a Diod & WBQ

NVQ Pathway in Health and Social Care & WBQ / NVQ Llwybr Iechyd a Gofal Cymdeithasol & WBQ BTEC Extended Diploma in Health and Social Care & WBQ / BTEC Diploma Estynedig Iechyd a Gofal Cymdeithasol & WBQ Foundation Degree in Childhood Studies / Gradd Sylfaen Astudiaethau Plentyndod Progression Diploma in Health and Social Care / Diploma Dilyniant Iechyd a Gofal Cymdeithasol Access to Higher Education Health Professions / Mynediad i Addysg Uwch y Proffesiynau Iechyd

FOUNDATION SKILLS | SGILIAU SYLFAEN Life & Work Options / Opsiynau Bywyd a Gwaith Foundation Skills in Business, Retail Administration and Enterprise Sgiliau Sylfaen Busnes, Gweinyddu Adwerthu a Menter Foundation Skills in Hospitality & Catering / Sgiliau Sylfaen Lletygarwch ac Arlwyo Foundation Skills in Practical Skills / Sgiliau Sylfaen mewn Sgiliau Ymarferol Foundation Level Vocational Studies Diploma / Diploma Lefel Sylfaen Astudiaethau Galwedigaethol

SPORT & PUBLIC SERVICES CHWARAEON & GWASANAETHAU CYHOEDDUS BTEC Diploma in Sport (Performance & Excellence) & WBQ BTEC Diploma Chwaraeon (Perfformiad & Rhagoriaeth) & WBQ BTEC First Diploma in Public Services & WBQ / BTEC Diploma Cyntaf Gwasanaethau Cyhoeddus & WBQ BTEC Extended National Diploma in Public Services & WBQ BTEC, Diploma Cenedlaethol mewn Gwasanaethau Cyhoeddus a Bagloriaeth Cymru

GENERAL EDUCATION | ADDYSG GYFFREDINOL AS/A LEVELS | LEFEL AS/A Art and Design / Celf a Dylunio Biology / Bioleg Business Studies / Astudiaethau Busnes Chemistry / Cemeg Computing / Cyfrifiaduron Drama / Theatre Studies / Drama Astudiaethau Theatr English Literature / Language / Saesneg Llên / Iaith Economics / Economeg Film Studies / Astudiaethau Geography / Daearyddiaeth History / Hanes Law / Y Gyfraith

CREATIVE INDUSTRIES | Y DIWYDIANNAU CREADIGOL

Maths / Mathemateg

BTEC Extended Diploma level 3 in Art & Design & WBQ BTEC Diploma Estynedig Lefel 3 Celf a Dylunio & WBQ

Media Studies / Astudiaethau’r Cyfryngau

BTEC Diploma level 2 Diploma in Art & Design & WBQ BTEC Diploma Lefel 2 Celf a Dylunio & WBQ Costume Construction for Screen & Stage Foundation Degree/BA Hons / Saernïo Gwisgoedd i Sgrin a Llwyfan - Gradd Sylfaen/BA Anrh BTEC Extended Diploma level 3 in Creative Media Production (Television & Film) & WBQ / BTEC Diploma Estynedig Lefel 3 Cynhyrchu (Teledu a Ffilm) Cyfryngau Creadigol & WBQ BTEC Extended Diploma level 3 in Performing Arts & WBQ BTEC Diploma Estynedig Lefel 3 Celfyddydau Perfformio & WBQ BTEC Diploma level 3 in Production Arts (Make-up) BTEC Diploma Lefel 3 Celf Cynhyrchu (Colur) BTEC Diploma level 2 in Music & WBQ BTEC Diploma Lefel 2 Cerdd & WBQ BTEC Extended Diploma level 3 in Music Technology & WBQ BTEC Diploma Estynedig Lefel 3 Technoleg Cerdd & WBQ

32

MORGANNWG.AC.UK

PE/Sport Studies / Addysg Gorfforol Astudiaethau Chwaraeon Physics / Ffyseg Photography / Ffotograffiaeth Government & Politics / Llywodraeth / Gwleidyddiaeth Psychology / Seicoleg Religious Studies / Addysg Grefyddol Sociology / Cymdeithaseg Welsh / Cymraeg Access to Higher Education, Humanities Mynediad i Addysg Uwch, Dyniaethau Pre-Access to Higher Education, Humanities Cyn-Mynediad i Addysg Uwch, Dyniaethau


Morgannwg Prospectus Doc.

13/9/11

19:03

Page 33

ANR SCIENCE | GWYDDONIAETH BTEC National Diploma in Applied Science (Laboratory & Industrial Science) & WBQ / BTEC Diploma Cenedlaethol Gwyddoniaeth Gymhwysol (Gwyddorau Labordy a Diwydiant) & WBQ BTEC First Diploma in Applied Science & WBQ BTEC Diploma Cyntaf mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol & WBQ Access to Higher Education, Science Mynediad i Addysg Uwch, Gwyddoniaeth

BUSINESS | BUSNES BTEC Extended National Diploma in Business & WBQ BTEC Diploma Estynedig Cenedlaethol mewn Busnes & WBQ Principal Learning Business, Administration & Finance Prif Faes Astudio Busnes, Gweinyddiaeth a Chyllid

CHECK OUT WWW.MORGANNWG.AC.UK FOR ALL YOUR COURSE, APPLICATION AND ENROLMENT INFO EWCH AR WWW.MORGANNWG.AC.UK AM HOLL FANYLION Y CYRSIAU, GWNEUD CAIS AC YMRESTRU

SKILLS FOR LIFELONG LEARNING | SGILIAU ADDYSG GYDOL OES TECHNOLOGY (CONSTRUCTION) | TECHNOLEG (ADEILADWAITH) BTEC Foundation Tier Level 1 Diploma in Construction BTEC Diploma Haen Sylfaen Lefel 1 mewn Adeiladwaith BTEC Level 3 Subsidiary Diploma in Construction & Built Environment & WBQ / BTEC Diploma Atodol Lefel 3 mewn Adeiladwaith ac Amgylchedd Adeiledig & WBQ The BTEC Certificate in Construction/ Civil Engineering (Part time) BTEC Tystysgrif mewn Adeiladwaith/ Peirianneg Sifil (Rhan amser) Level 1 Diploma in Carpentry/Joinery (& WBQ) Lefel 1 Diploma Gwaith Saer/ Asiedydd (& WBQ) Level 1 Diploma in Painting/Decorating (& WBQ) Lefel 1 Diploma Peintio / Addurno (& WBQ) Level 1 Diploma in Bricklaying (& WBQ) Lefel 1 Diploma Gosod Brics (& WBQ) Level 1/2 Curriculum 2000 in Plumbing Lefel 1/2 Cwricwlwm 2000 Gwaith Plymwr Level 1 NVQ & Certificate in Electrical Installations (& WBQ) Lefel 1 NVQ a Thystysgrif Gosod Trydanwaith (& WBQ)

TECHNOLOGY (ENGINEERING) | TECHNOLEG (PEIRIANNEG) BTEC Foundation Tier Level 1 Diploma in Engineering & WBQ BTEC Diploma Haen Sylfaen Lefel 1 mewn Peirianneg & WBQ BTEC Level 2 Diploma & PEO Level 1 in Engineering and also in Electronic Engineering & WBQ / BTEC Diploma Lefel 2 & PEO Lefel 1 mewn Peirianneg ac hefyd mewn Peirianneg Electroneg & WBQ BTEC Level 3 Subsidiary Diploma & PEO Level 2 in Manufacturing & WBQ BTEC Diploma Atodol Lefel 3 & PEO Lefel 2 mewn Gweithgynhyrchu & WBQ BTEC Level 3 Subsidiary Diploma & PEO Level 1 in Manufacturing (Pathways to Apprenticeships) & WBQ / BTEC Diploma Atodol Lefel 3 & PEO Lefel 1 mewn Gweithgynhyrchu (Llwybrau i Brentisiaeth) & WBQ NVQ 2 Electronic Engineering Computer Repair NVQ 2 Peirianneg Electroneg Atgyweirio Cyfrifiaduron PEO Level 1 in Engineering / PEO Lefel 1 mewn Peirianneg PEO Level 2 in Engineering / PEO Lefel 2 mewn Peirianneg

COMPUTING/ADMINISTRATION & IT | CYFRIFIADUREG/GWEINYDDU &TG BTEC Level 2 First Diploma in IT & WBQ BTEC Lefel 2 Diploma Cyntaf mewn TG & WBQ BTEC Level 3 Extended Diploma in IT & WBQ BTEC Lefel 3 Diploma Estynedig mewn TG & WBQ Gateway to Computing / Porth i Gyfrifiadureg Gateway to IT and Administration / Porth i TG a Gweinyddu OCR Level 1 NVQ Cert in Business & Administration & WBQ OCR Lefel 1 NVQ Tystysgrif Busnes a Gweinyddu & WBQ OCR Level 2 NVQ Diploma in Business & Administration & WBQ OCR Lefel 2 NVQ Diploma Busnes a Gweinyddu & WBQ OCR Level 3 NVQ Diploma in Business & Administration OCR Lefel 3 NVQ Diploma Busnes a Gweinyddu City & Guilds Start IT & Level 1 Certificates for IT Users - ITQ & WBQ / City & Guilds Tystysgrifau TG Cychwynnol & Lefel 1 i Ddefnyddwyr TG - ITQ & WBQ

DISCLAIMER - Coleg Morgannwg has made every effort to ensure the information contained in this magazine is accurate at the time of printing and reserves the right to make changes or withdraw without notice any of the courses, course facilities or support described. YMWRTHODIAD - Mae Coleg Morgannwg wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y cylchgrawn hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi ond maen cadw’r hawl i newid neu ddiddymu unrhyw gwrs, adnodd cwrs neu gymorth a ddisgrifwyd, a hynny heb rybudd.

Some of our courses are supported by the European Social Fund through the Building the Future Together project, which is a partnership with RCT. Caiff rhai o’n cyrsiau gefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop drwy’r prosiect Adeiladu’r Dyfodol Gyda’n Gilydd, sy’n bartneriaeth â RhCT.

Design/Dylunio: Savage and Gray T: 029 2034 5533 www.savageandgray.co.uk 4746/11

Workchoices / ‘Workchoices’

City & Guilds Level 2 Diploma for IT Users - ITQ & WBQ City & Guilds Diploma Lefel 2 i Ddefnyddwyr TG - ITQ & WBQ City & Guilds Level 3 Diploma for IT Users - ITQ City & Guilds Diploma Lefel 3 i Ddefnyddwyr TG - ITQ

33


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.