Cyfarchion oddiwrdd Eglwys Blaenffos Danfonwn ein cyfarchion a‘n dymuniadau gorau at Eglwys Cilfowyr wrth iddi ddathlu ei thri chanmlwyddiant eleni. Ar achlysur fel yma edrychwn yn ôl dros y canrifoedd gan ryfeddu at ddycnwch a theyrngarwch di-ildio y tadau gynt yn eu cred a‘u fydd dros y Deyrnas. Talwn glod a gwrogaeth iddynt am eu sel a‘u brwdfrydedd wrth gychwyn y dystiolaeth fedyddiedig yn y parthau hyn mewn cyfnod anodd. Trwy weledigaeth a llafur gweinidogion Cilfowyr, megis David Thomas, James Lodwig, David Evans a Lewis Thomas ac eraill, sefydlwyd llawer i achos gan gynnwys achos y Bedyddwyr ym Mlaenffos. Dywed yr hanes mai tua‘r flwyddyn 1740 y dechreuwyd cadw cwrdd prynhawn dydd Sul, bob pethefnos, mewn tyddyn o‘r enw Abercerdyn, gerllaw Abertrinant, a oedd ar y pryd cyntaf i‘r uchod, Y Parch Lewis Thomas, un o weinidogion Cilfowyr. Da yw i ni gofio heddiw y bu Blaenffos ar y dechrau yn gangen o Gilfowyr am 87 o flynyddoedd cyn ei chorffori yn Eglwys yn y flwyddyn 1827. Gweinidog cyntaf Eglwys Blaenffos oedd y Parch John Morgan. Bu yn weinidog o‘r flwyddyn 1827 hyd 1849 yn fawr ei barch a‘i ddylanwad yn yr ardal a‘r gymdogaeth. Wrth olrhain hanes y dechreuadau fel yma sylweddolwn faint yr aberth a chymaint fu y gost-―Hwynthwy a lafuriasant, a nynni a aethom i mewn i‘w llafur hwynt‖. Bydded i ni fod yn deilwng o‘n hetifeddiaeth ddrud Diolchwn am y cysylltiad agos sydd wedi bodoli rhwng yr eglwysi ar hyd y blynyddoedd, a dymunwn fendith a llwyddiant ar waith y Deyrnas yn ein plith i‘r dyfodol. Windsor Thomas Ysgrifennydd.
119