YW February 2024 newsletter (Welsh)

Page 1

Cylchlythyr Cymru Ifanc Chwefror 2024 www.childreninwales.org.uk


2 | childreninwales.org.uk

Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel

4

Grŵp Rhanddeiliaid Ieuenctid Cenedlaethol – Diweddariad

6

Iechyd Meddwl a Llesiant yn Adroddiad Y Cenhedloedd Unedig

7

Stori Kai

8

Cofiwch bleidleisio ar gyfer Gwneud Eich Marc

10


Chwefror 2024 | 3


4 | childreninwales.org.uk

Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel Dydd Mawrth, 6 Chwefror 2024

Eleni, cynhaliwyd Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel ddydd Mawrth, 6 Chwefror 2024, ac roedd ein Grŵp Cymru Ifanc Cadw’n Ddiogel Ar-lein yn prysur baratoi ar gyfer diwrnod llawn gweithgareddau hwyl. Felly beth mae hyn yn ei olygu? Mae Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel yn ymgyrch fyd-eang a grëwyd i ysgogi pobl i siarad am yr holl ffyrdd gwych y gallwn ni ddefnyddio technoleg, a sut y gallwn ni gefnogi ein gilydd i’w defnyddio mewn ffordd gadarnhaol a chyfrifol. Efallai y byddwch chi wedi clywed am Ddiwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau yn yr ysgol neu drwy weithgareddau Cymru Ifanc.

Eleni, y thema ar gyfer Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel yw ‘Ysbrydoli Newid? Gwneud gwahaniaeth, rheoli dylanwad, a llywio newid ar-lein.’ Mae aelodau o’n Grŵp Cadw’n Ddiogel Ar-lein wedi bod yn prysur baratoi ar gyfer y diwrnod mawr. Cawsom gyfle i sgwrsio â’r grŵp ym mis Tachwedd i holi am eu barn ynghylch thema eleni. “Mae’n anodd diogelu eich plant pan fo popeth yn newid, [fel] cyfyngiadau a ffiniau” Dywedodd y grŵp ei fod yn credu bod yn rhaid ei bod hi’n anodd i rieni plant sydd ar-lein, gan ei bod hi’n anodd meddu ar y wybodaeth ddiweddaraf o ran technoleg newydd, a cheisio deall beth sy’n ddiogel ac anniogel o hyd.


Chwefror 2024 | 5

“Mae yna bethau y gallwch chi eu gosod ar apiau er mwyn eich atal rhag gweld pethau, ond dydyn nhw ddim yn gweithio bob amser.” Soniodd un person ifanc am ei brofiadau gyda gosodiadau fel ‘Restricted Mode’, sy’n helpu i atal cynnwys amheus neu gynnwys a allai beri gofid rhag ymddangos ar ffrydiau cyn i bobl allu ei weld. Fodd bynnag, er bod gosodiadau o’r fath yn fanteisiol i bobl ifanc, dywedon nhw nad oedd hyn yn ddull llwyddiannus o aros yn ddiogel ar-lein bob tro. “Mae’n anodd meddu ar y wybodaeth ddiweddaraf drwy’r amser... mae popeth yn newid o hyd; yn gyflym iawn.” Dywedodd grŵp arall o bobl ifanc eu bod yn teimlo eu bod yn ei chael hi’n anodd cadw ar y blaen o ran tueddiadau a diweddariadau wrth ddefnyddio technoleg, sy’n aml yn gallu gwneud iddyn nhw deimlo wedi’u hynysu neu wedi drysu. Er mwyn cydnabod thema eleni, sef rheoli dylanwad a llywio newid ar-lein, mae ein grŵp Cadw’n Ddiogel Ar-lein yn ffurfio partneriaeth ag Undeb Rygbi Cymru yn Stadiwm Principality. Bydd ein gwirfoddolwyr yn siarad â staff a chwaraewyr Undeb Rygbi Cymru am yr heriau a wynebir gan chwaraewyr ar-lein, a pha gamau a gymerir ganddyn nhw i fynd i’r afael â’r heriau, yn ogystal â sut i ddefnyddio technoleg mewn ffordd gadarnhaol. Mae ein Grŵp Cadw’n Ddiogel Ar-lein hefyd yn gweithio gyda grŵp cyfatebol yn Iwerddon, WebWise, i ddatblygu fideo dan arweiniad pobl ifanc ar gyfer Diwrnod Defnyddi’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2024. Gofynnwyd y cwestiwn canlynol i’r gwirfoddolwyr: “Beth hoffech chi ei newid am y rhyngrwyd pe gallech chi?” Caiff y fideo cydweithredol ei ddangos am y tro cyntaf

ar Ddiwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel yn Stadiwm Principality. Mae’r grŵp yn edrych ymlaen at rannu’r fideo ar HWB a gwefannau cymdeithasol Cymru Ifanc. Os hoffech chi gymryd rhan yn ein grŵp Cadw’n Ddiogel Ar-lein, neu os hoffech chi ddysgu mwy am waith ein gwirfoddolwyr, ewch i’n hadran ni ar HWB: https://hwb.gov.wales/cadwnddiogel-ar-lein/grwp-ieuenctid-cadwn-ddiogelar-lein/y-newyddion-diweddaraf-gan-ein-grwpieuenctid


6 | childreninwales.org.uk

Grŵp Rhanddeiliaid Ieuenctid Cenedlaethol – Diweddariad Mae cylchlythyr â ffocws ar iechyd meddwl a llesiant yn gyfle perffaith ar gyfer diweddariad ar Grŵp Rhanddeiliaid Ieuenctid Cenedlaethol ac felly dyma ni... Petai angen unrhyw dystiolaeth er mwyn amlygu’r pwyslais y mae pobl ifanc yn ei roi ar iechyd meddwl a llesiant, yna darparwyd hynny yn adroddiad Cymru Ifanc i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Daeth iechyd meddwl a llesiant yn ail o ran pwysigrwydd gyda’r Senedd Ieuenctid yn rhoi’r argyfwng costau byw yn gyntaf. Mae’r Grŵp Rhanddeiliaid Ieuenctid Cenedlaethol ar gyfer pobl ifanc sydd â phrofiad personol neu ddiddordeb arbennig mewn iechyd meddwl a llesiant. Mae’r grŵp yn ceisio mynd i’r afael â materion iechyd meddwl a rhennir gan bobl ifanc, ac yn adolygu mentrau iechyd meddwl a llesiant gan Lywodraeth Cymru a sefydliadau eraill ledled Cymru. Mae’r grŵp wedi bod yn weithgar iawn dros y chwe mis diwethaf; ymysg pethau eraill, mae wedi rhoi adborth ar brofiadau’r Dull Ysgol Gyfan, wedi bwydo i mewn i ddrafft y

Strategaeth Iechyd Meddwl newydd ac wedi cyfrannu at ddatblygiad Adnodd Hyfforddi NYTH ac Adnodd Hunanwerthuso NYTH. Gwnaed sylwadau ac awgrymiadau gan y Senedd Ieuenctid ar y cynnwys a’r cynllun gyda’r neges sylfaenol o sicrhau bod dull gweithredu hawliau plant yn ganolog i ddau ddatblygiad NYTH. Mae ei mewnbwn yn glir a chaiff ei ddatgelu yn ystod lansiad yr adnodd hyfforddi a’r adnodd hunanwerthuso ar 28 Chwefror 2024. Mae aelodau o’r grŵp yn cyflwyno yn ystod y lansiad ar-lein hwn; ceir manylion yn y ddolen isod (1). Byddwn yn troi ein ffocws yn ôl i’r Strategaeth Iechyd Meddwl drafft yn ystod y gwanwyn gyda sesiwn ar-lein / hybrid wedi’i drefnu ar gyfer mis Ebrill ac ymgynghoriad ehangach yn ystod cwrs preswyl Cymru Ifanc ym mis Mai. Dylai unrhyw berson ifanc (14–25 oed) a hoffai ymuno â’r grŵp gysylltu â russell.baker@childreninwales.org.uk.

1. Digwyddiadur Busnes Cymru – NYTH/NEST Gweithdy Offer Gweithredu (business-events.org.uk)


Chwefror 2024 | 7

Iechyd Meddwl a Llesiant yn Adroddiad Y Cenhedloedd Unedig

Ym mis Chwefror 2023, aeth gwirfoddolwyr Cymru Ifanc i Genefa i gyfarfod â Phwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. I baratoi ar gyfer hyn, roedd gwirfoddolwyr Cymru Ifanc wedi gweithio gyda staff i gydgynhyrchu adroddiad ar hawliau plant yng Nghymru. Gallwch weld yr adroddiad yma. Defnyddiwyd ffynonellau gwybodaeth gwahanol, gan gynnwys ymgynghoriadau, arolwg, ac adroddiadau gan sefydliadau eraill i lywio’r adroddiad. Rhoddwyd trefn ar 13 maes blaenoriaeth. Ar gyfer bob maes, cynigwyd argymhellion ar sut i helpu plant i ddefnyddio’u hawliau. Un o’r meysydd blaenoriaeth yn yr adroddiad oedd Iechyd Meddwl a Llesiant. Roedd yr adroddiad yn rhoi pum argymhelliad ar gyfer y maes hwn: • • • • •

Lefelau uwch o gefnogaeth ac ymyrraeth gynharach Sicrhau gwell mynediad at wasanaethau Cynnig ystod ehangach o wasanaethau Cynyddu gwelededd a normaleiddio iechyd meddwl Creu Mannau Diogel

Ym mis Mai 2023, aeth gwirfoddolwyr Cymru Ifanc yn ôl i’r Cenhedloedd Unedig. Y tro hwn, siaradodd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig â llywodraethau’r DU – gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Wedi hyn, ysgrifennodd y pwyllgor adroddiad gydag argymhellion ar gyfer y llywodraethau (1). Roedd yn dangos sut y gallai’r llywodraethau wneud yn siŵr bod plant sy’n byw yn y DU yn defnyddio’u hawliau. Roedd rhan o adroddiad y Cenhedloedd Unedig yn canolbwyntio ar Iechyd Meddwl a Llesiant, a gwnaeth gyfres o argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru a llywodraeth y DU. Mae’r adroddiad hwn yn rhan o gylchred wyth mlynedd a bydd Cymru Ifanc nawr yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu argymhellion yr adroddiad. Bydd y gwaith hwn yn dechrau gydag ymgynghoriad â phobl ifanc yn ystod cwrs preswyl Cymru Ifanc y mis hwn.

1. OHCHR – (2023). Concluding observations on the combined sixth and seventh periodic reports of the United Kingdom of Great Britain and Northern Ireland. Ar gael yn: https://tbinternet.ohchr.org/_layouts/15/ treatybodyexternal/Download.aspx?symbolno=CRC%2F C%2FGBR%2FCO%2F6-7&Lang=en


8 | childreninwales.org.uk

Stori

Kai

Helo, Kai ydw i ac rydw i wedi bod yn brwydro gyda fy iechyd meddwl ers rhai blynyddoedd bellach a hoffwn i rannu fy stori i helpu’r rheiny ohonoch chi sydd â phrofiadau/sefyllfaoedd tebyg i deimlo nad ydych chi ar eich pennau eich hunain. Dechreuais i brofi problemau gyda fy iechyd meddwl yn ystod cyfnod clo 2020 pan ddes i i delerau gyda’r ffaith fy mod i’n drawsryweddol am y tro cyntaf. Roedd dod allan i fy ffrindiau a fy nheulu yn anodd ond, am eu bod nhw wedi fy nerbyn i am bwy ydw i, roeddwn i’n teimlo’n dda amdana i fy hun ac yn teimlo’n hapus o’r diwedd. Er hyn, roedd bywyd yn yr ysgol yn achosi straen; daeth pobl i wybod fy mod i’n drawsryweddol. Yn sydyn, roedd pawb yn fy mlwyddyn i’n gwybod ac er bod y rhan fwyaf yn gefnogol, wynebais lawer o wahaniaethu a chasineb mewn man a oedd yn teimlo’n ddiogel i mi ar un adeg. Roeddwn i’n teimlo fy mod i’n colli arna i fy hun ond, roedd gen i rywun i fy helpu i drwy’r cyfan: fy nghi hyfryd, Spirit. Rwy’n gwybod ei fod yn swnio’n hurt, ond roeddwn i’n gallu dweud unrhyw beth wrtho; roedd


Chwefror 2024 | 9

e’n gwybod pan oeddwn i’n teimlo’n drist a byddai’n fy nghysuro i. Hyd yn oed yn ystod ei ddyddiau olaf, arhosodd wrth fy ochr heb adael. Ar 20 Awst 2020, bu farw Spirit yn flwydd oed; chwalodd hyn fy myd ac, i fod yn onest, dydw i ddim wedi bod yr un fath ers hynny.

Ar ddechrau 2023, aeth fy mrwydr ag iselder yn waeth; roeddwn i ar fy mhen fy hun yn yr ysgol, doedd gen i ddim ffrindiau i siarad â nhw ac roedd fy unig ffrindiau yn byw’r ochr arall i Gymru. Dechreuais feddwl mai fi oedd y broblem ac na fyddai neb eisiau fi. Drwy gydol y flwyddyn, roeddwn i’n brwydro’r ysfa i hunanniweidio ond datblygais ffyrdd o ymdopi â’r teimlad, fel celf a gwrando ar gerddoriaeth. Roedd celf o gymorth enfawr i mi; roedd hi’n bosibl i mi fynegi fy nheimladau drwy luniadau pan doeddwn i ddim yn gallu siarad amdanyn nhw, ac roedd yn gyfle i fy ymennydd ymlacio. Cefais gyffuriau gwrth-iselder hefyd i geisio dod o hyd i’r hen fi. Wrth i fy iselder waethygu, doeddwn i ddim yn gallu canolbwyntio yn yr ysgol. Doeddwn i ddim yn gallu gwneud unrhyw beth heblaw gorwedd ar fy ngwely yn syllu ar y nenfwd. Aeth fy mhryder am fy rhywedd yn waeth ac yn waeth, i’r pwynt lle doeddwn i ddim yn gallu syllu ar fy hun yn y drych. Roeddwn i wedi colli pwy oeddwn i.

Dathlais fy mhen-blwydd yn 18 ym mis Hydref 2023 a dyna phryd newidiodd popeth. Dechreuais ddweud wrth fy hun nad fi oedd y broblem a’i bod hi’n bosibl i mi gael lle yn y brifysgol a bod modd i mi wneud unrhyw beth. Drwy newid fy agwedd, dechreuodd fy hyder dyfu. Dechreuais wneud pethau a oedd yn fy ngwneud i’n hapus unwaith eto, fel mynd i’r sinema a chysgu draw yn nhai fy ffrindiau, mynd â fy mrodyr/chwiorydd i’r parc a chwarae gyda fy nghŵn newydd, Loki a Radar. Y peth sydd wedi fy helpu i fwyaf yw fy ngwaith gwirfoddoli; drwy fod yn rhan o Cymru Ifanc a chynghorau ieuenctid eraill, rwy’n teimlo fy mod i’n gwneud gwahaniaeth, gan helpu’r rheiny o fy nghwmpas i sydd methu siarad drostyn nhw eu hunain. Dyna’r hyn sy’n fy ngyrru i barhau i fyw a byw’r bywyd rydw i am ei fyw. Rwy’n mynd i fod yn onest gyda chi i gyd: dyw pethau dal ddim yn wych, ond rwy allan o’r niwl. Os galla i wneud hynny, yna gallwch chi wneud hefyd! Rwy’n addo y bydd bywyd yn gwella i chi, hyd yn oed os nad yw hi’n edrych felly.


10 | childreninwales.org.uk

Cofiwch bleidleisio ar gyfer Gwneud Eich Marc – 29 Ionawr i 8 Mawrth 2024

Ydych chi’n berson ifanc sydd am wneud gwahaniaeth? Ydych chi am Wneud Eich Marc, a lleisio eich barn? Os ydych chi rhwng 11 ac 18 oed, mae gan Gyngor Ieuenctid Prydain y cyfle i chi! Mae pleidlais Gwneud Eich Marc yn cael ei chynnal ledled y DU, gan roi’r cyfle i chi rannu eich meddyliau am y materion sy’n effeithio fwyaf ar bobl ifanc. Mae pynciau’r papur pleidleisio yn cael eu dewis gan Grŵp Llywio Senedd Ieuenctid y DU, sy’n cydweithio ag Aelodau Senedd Ieuenctid o bob rhan o’r DU (gan gynnwys Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru!). Mae’r pynciau’n cynnwys: • • • • • • • • • •

Addysg a Dysgu Cysylltiadau Rhyngwladol Iechyd a Llesiant Hawliau, Cydraddoldebau a Democratiaeth Swyddi, yr Economi a Budd-daliadau Troseddu a Diogelwch Diwylliant, y Cyfryngau, Chwaraeon Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd Trafnidiaeth Gwaith Ieuenctid a Gwasanaethau Pobl Ifanc

Mae miloedd o bobl ifanc yn cymryd rhan yn Gwneud Eich Marc, gan ddylanwadu ar gannoedd o ymgyrchoedd a phrojectau dan arweiniad pobl ifanc ledled y DU. Mae eich pleidlais yn rhoi gwybod i’ch awdurdod lleol am yr hyn sy’n bwysig i chi, a gall hyn ddylanwadu ar y math o brojectau a gwasanaethau y gallech chi gymryd rhan ynddyn nhw!

Wedi i’r pleidleisiau cael eu cyfrif, bydd Aelodau Senedd Ieuenctid yn dadlau’r materion y pleidleisiodd bobl ifanc drostyn nhw fel y materion pwysicaf. Byddan nhw’n ymgyrchu i ddylanwadu ar Senedd y DU, gan sicrhau bod lleisiau ifanc yn cael eu clywed gan y rhai sy’n gwneud penderfyniadau ac yn chwarae rôl flaenllaw wrth wneud newidiadau cadarnhaol. Mae’r bleidlais ar agor nawr tan ddydd Gwener, 8 Mawrth 2024, felly Gwnewch Eich Marc, a chymerwch ran! I bleidleisio, dilynwch y ddolen hon am ragor o wybodaeth: https://www.makeyourmark. youthimpact.app/register/me Os hoffech chi ddysgu rhagor am sut i gymryd rhan yn Senedd Ieuenctid y DU, e-bostiwch Frances.Hoey@childreninwales.org.uk


21 Windsor Place, Cardiff CF10 3BY 029 2034 2434 @ChildreninWales info@childreninwales.org.uk childreninwales.org.uk


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.