









Er mwyn gosod cynllun strategol pum mlynedd, mae angen ehangu gorwelion a chryn dipyn o graffter ... edrychwch ar yr hyn y daethom drwyddi yn ystod y pum mlynedd diwethaf! Pandemig, caledi, newid llywodraeth ar lefel Cymru a’r Deyrnas Unedig... amser cythryblus. Drwy gydol y cyfnod aflonyddgar hwnnw, mae Plant yng Nghymru wedi parhau i fod yn rym cyson, dibynadwy, gan gyflawni ar gyfer ein haelodau a’n cyllidwyr, a gweithio’n galed i sicrhau bod lles pennaf plant a phobl ifanc wedi aros wrth wraidd y penderfyniadau a wnaed yng Nghymru.
Wrth baratoi’r sail i’r cynllun strategol hwn, rwyf i a’m cydweithwyr wedi cael cannoedd o sgyrsiau sydd wedi dweud llawer wrthym am farn pobl ynghylch Plant yng Nghymru ac sy’n adlewyrchu’n dda ar waith y sefydliad drwy gydol y cyfnod hwnnw a chyn hynny. Dywedodd cydweithwyr wrthym pa mor falch ydyn nhw o weithio i Plant yng Nghymru. Maent yn rhannu ymdeimlad cryf o gyflawniad a dealltwriaeth gyffredin o’r adegau yr ydym ar ein gorau: pan fydd y gwaith a wnawn wedi’i wreiddio yn hawliau, lleisiau a dyheadau plant a phobl ifanc. Dywedodd y bobl ifanc wrthym gymaint y maen nhw’n gwerthfawrogi’r cyfleoedd a rown iddyn nhw gael lleisio eu barn am faterion sy’n bwysig iddyn nhw (a chymaint o hwyl a gawsant yn y broses!). Mae aelodau’r Bwrdd yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau ac wedi ymrwymo’n gadarn. Yn allanol, clywsom fod gennym enw da ymhlith y rhai sy’n gweithio gyda ni, a hwnnw ar sail blynyddoedd o hyrwyddo hawliau plant ar draws amrywiaeth o fannau a dylanwadu’n effeithiol ar ran plant ac aelodau.
Serch hynny, cafwyd llawer o wybodaeth o’r sgyrsiau hyn sy’n mynnu ymateb: cawsom ein herio i ddangos yr hyn sy’n ein gwneud yn wahanol i eraill sy’n gweithredu yn y maes hwn; clywsom y byddai ein cynnig aelodaeth yn elwa ar adfywiad, a bod angen egluro ein cyfeiriad ar gyfer y dyfodol. Rwy’n croesawu’r heriau hynny ac rwy’n obeithiol bod y cynllun strategol hwn yn cynnig yr eglurder hwnnw.
Rydym wedi gosod nodau uchelgeisiol, wedi’u sbarduno gan werthoedd sy’n angori’r sefydliad yn gadarn yn ei rolau craidd – cynrychioli ein haelodau, mwyhau lleisiau plant, dylanwadu ar benderfyniadau polisi i sicrhau gwell canlyniadau i blant – gan addasu ein cynnig i sicrhau bod ein gwasanaeth ar ei orau. Diolch i’m cydweithwyr, aelodau ymroddedig y bwrdd a holl bobl ifanc, aelodau a phartneriaid Plant yng Nghymru sydd wedi rhoi eu llais i ddatblygu ein cynllun strategol, y mae trosolwg ohono’n dilyn. A ninnau’n gorff ambarél, daw cydweithio’n reddfol i ni, felly mae’n braf ein bod wedi cael cyfranogiad mor frwdfrydig gan gynifer ohonoch wrth ddatblygu’r cynllun hwn. Edrychaf ymlaen at ei gyflawni gyda’n gilydd.
Cofion gorau
Hugh Russell, Prif Weithredwr Mawrth 2025
Adeiladu Cymru lle mae
holl hawliau pob plentyn a pherson ifanc yn cael eu cyflawni.
Rydym yn mwyhau lleisiau, anghenion a phrofiadau amrywiol babanod, plant a phobl ifanc yng Nghymru ac yn hwyluso eu cyfranogiad ystyrlon mewn penderfyniadau sy’n effeithio arnynt.
• Rydym yn cefnogi ac yn hyrwyddo ein haelodau; rydym yn cysylltu, yn cydweithio ac yn cynnig llwybrau i ddylanwadu ar newid.
• Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a’r DU, cyrff cyhoeddus a sefydliadau ledled Cymru ac yn eu hannog i ymgysylltu â babanod, plant a phobl ifanc, er mwyn cyflwyno polisi ac arferion trawsnewidiol sy’n adlewyrchu eu hawliau, eu dyheadau a’u blaenoriaethau.
• Rydym yn herio anghydraddoldeb ac yn hyrwyddo mynediad teg at wasanaethau cynaliadwy, o ansawdd uchel i’r holl fabanod, plant a phobl ifanc yng Nghymru a’u rhieni a’u gofalwyr.
• Rydym yn darparu cyfleoedd dysgu a datblygu i sefydliadau a gweithwyr proffesiynol plant trwy hyfforddiant a gwasanaeth ymgynghori sy’n canolbwyntio ar hawliau.
• Rydym yn cynnal ac yn rhannu ymchwil ac arferion arloesol i wella bywydau babanod, plant a phobl ifanc.
Mae ein gwerthoedd, a ddatblygwyd ar y cyd â chydweithwyr a phobl ifanc, yn llywio ein hymddygiad ac yn rhoi fframwaith i ni ar gyfer gwneud penderfyniadau.
• Rydym yn gweithredu ag Unplygrwydd: mae ein dull gweithredu wedi’i seilio ar hawliau plant a phobl ifanc. Byddwn yn gweithio i gyflawni ein cenhadaeth yn onest ac yn ddewr, ac ni fyddwn yn dal yn ôl rhag herio ar ran y rhai yr ydym yn ceisio mwyhau eu lleisiau.
• Rydym yn Gwrando: rydyn ni’n eich clywed chi. Rydym yn ymboeni am yr hyn sydd gennych i’w ddweud. Byddwn yn ymateb drwy weithredu, lle gallwn.
• Rydym yn Barchus: byddwn yn sicrhau ein bod yn gynhwysol, bod lle wrth ein bwrdd i’r rhai nad yw eu lleisiau’n cael eu clywed mor aml ag eraill, a bod pawb yn cael dweud ei ddweud.
• Rydym yn Dosturiol: byddwn yn llawn empathi wrth gyfathrebu; byddwn yn ceisio cydweithio ar bob cyfle; a byddwn yn sicrhau ein bod yn ystyried profiadau pobl eraill.
Rydym yn gwrando ar leisiau plant a phobl ifanc yng Nghymru, yn eu cydlynu a’u mwyhau, ac yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio gyda nhw ac ar eu rhan, fel bod eu hawliau, eu hanghenion a’u dyheadau yn llywio penderfyniadau sy’n effeithio arnynt.
Mae Plant yng Nghymru yn hwyluso ac yn ymgyrchu dros weithredu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn llawn yng Nghymru. Rydym yn gwrando ar leisiau plant a phobl ifanc, yn eu cydlynu a’u mwyhau. A ninnau’n gorff ambarél cenedlaethol ar gyfer pobl a sefydliadau sy’n gofalu am blant a phobl ifanc neu’n ymboeni amdanynt, rydym yn ganolbwynt unigryw i Gymru, gan adeiladu rhwydweithiau, capasiti a llwyfannau ar gyfer arbenigedd cyfunol ein haelodau. Rydym yn cefnogi ac yn annog y llywodraeth a sefydliadau sy’n wynebu plant i ddarparu polisïau, arferion a gwasanaethau teg sy’n adlewyrchu hawliau, anghenion a dyheadau babanod, plant a phobl ifanc.
Wrth i ni weithio tuag at ein gweledigaeth o Gymru lle bodlonir holl hawliau pob plentyn a pherson ifanc, byddwn yn cyfeirio ein ffocws at dair cynulleidfa allweddol: babanod, plant a phobl ifanc; ein haelodau – y rhai sy’n gofalu am blant ac yn gweithio ar eu rhan; a llunwyr polisïau, sy’n gyfrifol am gymryd camau er eu lles pennaf. Datblygwyd ein hamcanion pwrpasol ar gyfer y pum mlynedd nesaf gyda’r cynulleidfaoedd hyn mewn golwg.
Cafodd Plant yng Nghymru ei sefydlu fel corff aelodaeth dros 30 mlynedd yn ôl. Mae’n hanfodol i’n pwrpas bod ein haelodau’n cyfrannu’n glir at ein gwaith a’n bod yn darparu gwasanaeth rhagorol i gymuned ein haelodau. Yn ystod ein strategaeth pum mlynedd, byddwn yn adfywio ein haelodaeth, er mwyn cydlynu, hyrwyddo a mwyhau lleisiau gweithwyr proffesiynol a sefydliadau sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc ac ar eu rhan. Byddwn yn estyn ein haelodaeth i blant a phobl ifanc yn benodol, er mwyn sicrhau ein bod bob amser yn gwrando ar eu lleisiau ac yn cael eu llywio ganddynt. Bydd ein Hadroddiad Effaith yn cynnig atebolrwydd, a byddwn yn gwella’r ffyrdd yr ydym yn dangos ein cynnydd.
Gall yr aelodau ddisgwyl y canlynol:
• Byddwn yn lansio cynnig aelodaeth newydd, wedi’i adfywio, gydag ystod ehangach o fanteision, gan gynnig gwerth gwych, darparu cyfleoedd i rannu effaith a gwella’r ymdeimlad o fod yn rhan o gymuned fywiog.
• Bydd yr aelodau’n cael mwy o gyfleoedd nag erioed i gyfrannu at ein gwaith a’n helpu i gyflawni ein gweledigaeth o Gymru lle bodlonir holl hawliau pob plentyn a pherson ifanc.
• Byddwn yn diffinio ac yn hyrwyddo cynnig aelodaeth unigryw (am ddim) i bobl ifanc, gan wella cyfleoedd i gymryd rhan yn ein gwaith a gwaith ein haelodau.
• Byddwn yn datblygu calendr cyffrous o ddigwyddiadau i aelodau, gan gynnwys ailsefydlu Cynhadledd Plant yng Nghymru, wedi’i gefnogi gan galendr o ddigwyddiadau rhanbarthol ac arbenigol.
• Byddwn yn parhau i greu, hyrwyddo a rhannu’r adnoddau dysgu a pholisi diweddaraf, sy’n helpu ein haelodau i ddarparu’r gwasanaeth gorau i fabanod, plant a phobl ifanc.
• Byddwn yn darparu lleoedd i aelodau ddod at ei gilydd i ddatblygu dulliau cyffredin o ymdrin â heriau cyffredin.
Mae Cymru Ifanc, ein gwasanaeth cyfranogiad ieuenctid, yn 10 oed eleni. Er i ni ddechrau bywyd fel corff ambarél i’r rhai sy’n gweithio gyda phobl ifanc, mae Plant yng Nghymru wedi chwarae rôl bwysig ers amser maith yn gweithio’n uniongyrchol gyda babanod, plant a phobl ifanc. Mae’r strategaeth hon yn cynnwys ymrwymiad i wneud mwy i sicrhau bod ein gwaith, ar draws y sefydliad, yn cael ei lywio gan farn plant. Yn y pen draw, bydd hyn yn ein helpu i sicrhau bod mwy byth o bolisïau a phenderfyniadau sy’n effeithio ar fabanod, plant a phobl ifanc yng Nghymru yn adlewyrchu eu hawliau, eu lleisiau a’u profiad bywyd.
• Byddwn yn cynyddu cyfleoedd i gymryd rhan ac ymgysylltu â mwy o blant a phobl ifanc, gan gynnwys rhai o gefndiroedd amrywiol a nas clywir yn aml, yn uniongyrchol ac ar y cyd ag aelodau, gan sicrhau bod ein dulliau cyfranogi o safon uchel.
• Byddwn yn hwyluso mwy o gyfleoedd i blant a phobl ifanc ymgysylltu’n uniongyrchol â’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ar lefelau lleol a rhanbarthol gan gynnwys ar lefel Awdurdod Lleol, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r Cenhedloedd Unedig. Mae hyn yn cynnwys polisïau sydd heb eu datganoli sy’n cael eu gyrru gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
• Byddwn yn nodi dulliau newydd o ymgysylltu â phlant iau a’r rhai sy’n gofalu amdanynt, er mwyn sicrhau eu bod hefyd yn cael eu cynrychioli’n briodol mewn penderfyniadau sy’n effeithio arnynt.
• Byddwn yn ymgysylltu â mwy o rieni, ysgolion, grwpiau cymunedol a sefydliadau eraill sy’n rhannu ein gwerthoedd, i wella eu dealltwriaeth o Hawliau Plant ac i ymestyn gallu plant i gymryd rhan ystyrlon mewn lleoedd sy’n bwysig iddynt.
• Byddwn yn ymgysylltu â mwy o bobl ifanc mewn cyfleoedd ymchwil, gan adeiladu ar enghreifftiau llwyddiannus o ymchwil cymheiriaid rydym wedi’i chyflawni o’r blaen, fel llwybr arall at hyrwyddo safbwyntiau a phrofiadau pobl ifanc yn ystyrlon.
Mae gan Plant yng Nghymru hanes maith a balch o ddylanwadu ar newid polisi
cadarnhaol i blant a phobl ifanc, o ymgyrchu i sefydlu Comisiynydd Plant Cymru, i’n rhan mewn datblygu’r ddeddfwriaeth sy’n gwahardd cosbi plant yn gorfforol. Yn ystod y cyfnod strategol hwn, byddwn yn ceisio cynnal a gwella’r elfen hon o’n gwaith, gan gefnogi a herio llunwyr polisi, yn ôl yr angen, ar ran ein haelodau ac ymgyrchu dros newid cadarnhaol i fabanod, plant a phobl ifanc, yn unol â’n cenhadaeth.
Byddwn yn sicrhau bod lleisiau a phrofiadau babanod, plant a phobl ifanc yng
Nghymru yn dylanwadu ar bolisïau Llywodraeth Cymru, a bod Hawliau Plant yn parhau i lywio polisïau. Byddwn yn ceisio datblygu ymhellach ein gwaith gydag awdurdodau lleol, Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r Cenhedloedd Unedig, i sicrhau bod plant sy’n tyfu i fyny yng Nghymru yn dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio arnynt, ble bynnag y cânt eu gwneud.
• Byddwn yn parhau i feithrin perthynas ymddiriedus cyfaill beirniadol â Gweinidogion Cymru, Aelodau’r Senedd a gweision sifil, gyda phwyslais ar ddylanwadu’n gynnar ar agendâu a pholisïau.
• Byddwn yn parhau i sicrhau cyfleoedd ymgysylltu a chyfranogiad wedi’u comisiynu i Lywodraeth Cymru sy’n bodloni ein safonau ac anghenion pobl ifanc.
• Byddwn yn cydlynu maniffesto cydlynol ar gyfer plant, gan gynrychioli safbwyntiau o bob rhan o’n haelodaeth, cyn etholiadau’r Senedd yn 2026 a dilyn yr un broses ar gyfer Etholiad Cyffredinol nesaf y DU.
• Byddwn yn creu mwy o gyfleoedd i blant a phobl ifanc ymgysylltu’n uniongyrchol â llunwyr polisi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.
• Byddwn yn datblygu perthynas agosach ag awdurdodau lleol yng Nghymru, fel aelodau ac fel partneriaid wrth hyrwyddo hawliau plant.
• Byddwn yn datblygu perthynas agosach â San Steffan, yn enwedig ag aelodau seneddol Cymru ac aelodau Cymru o Lywodraeth y Deyrnas Unedig, er mwyn dylanwadu ar faterion polisi nad ydynt wedi’u datganoli sy’n effeithio ar fabanod, plant a phobl ifanc yng Nghymru. Byddwn yn gwneud hyn i sicrhau bod plant sy’n tyfu i fyny yng Nghymru, a’r rhai sy’n gweithio gyda nhw, yn dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw, ble bynnag y cânt eu gwneud.
Er mwyn cyflawni ein hamcanion pwrpasol, byddwn yn cyflawni amrywiaeth o amcanion galluogi yn ystod y cynllun hwn. Gyda ffocws clir bob amser ar ein
Cenhadaeth a’n Gweledigaeth, bydd yr amcanion ychwanegol hyn yn ein galluogi i ehangu ein dylanwad, cynnal ein sefydliad a dangos yr effaith rydym yn ei chael. Bydd y rhain yn cynnwys meysydd lle rydym wedi hen ennill ein plwyf, megis ein cynnig dysgu a datblygu uchel ei barch i weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant, yn ogystal â’r bwriad o adeiladu ar waith mewn meysydd mwy newydd, fel cynnig gwasanaeth ymgynghori i gefnogi eraill i wella eu cynnig cyfranogi i blant a phobl ifanc. Byddwn yn chwilio am ffrydiau incwm newydd gan gyllidwyr sy’n rhannu ein gwerthoedd a byddwn yn ymgorffori gwerthoedd y sefydliad yn ein gweithgareddau.
Dros y pum mlynedd nesaf, bydd ein hamcanion galluogi’n cynnwys y canlynol:
• Byddwn yn datblygu cynnig dysgu a datblygu gwell i sicrhau bod ein darpariaeth hyfforddiant sefydledig a dibynadwy yn ehangu i feysydd newydd, yn unol â’n nod y dylai’r holl sefydliadau ac unigolion hynny sy’n gofalu am blant neu’n gweithio gyda nhw ac ar eu rhan fod yn ystyriol o hawliau ac yn barod i gymryd rhan mewn cyfranogiad effeithiol.
• Byddwn yn datblygu gwasanaethau ymgynghori newydd mewn meysydd arbenigedd i’r sefydliad, sy’n gweddu i’r dim i’n gweledigaeth a’n cenhadaeth, megis mewn cyfranogiad ieuenctid a gwella ymgysylltiad plant a phobl ifanc â democratiaeth.
• Byddwn yn datblygu strategaethau cyfathrebu newydd sy’n gwella ein gallu i ddangos ein heffaith yn fyw i aelodau, llunwyr polisi a phlant a phobl ifanc.
• Byddwn yn sicrhau bod sgiliau a phrofiad ein cydweithwyr, yn ogystal â’n strwythurau llywodraethu, yn adlewyrchu ein pwrpas, ein gwerthoedd a’n hymrwymiadau strategol.
• Byddwn yn gweithio’n galed i sicrhau bod ein gwerthoedd bob amser i’w gweld yn amlwg yn ein gweithredoedd.
• Byddwn yn sefydliad cynaliadwy, cynhwysol, yn gweithio’n dosturiol a chydag unplygrwydd i gyflawni ein cenhadaeth.
Byddwn yn darparu cyfleoedd clir i’n holl randdeiliaid, gan gynnwys plant a phobl ifanc, cyllidwyr a’n haelodau, i’n dwyn i gyfrif. Byddwn yn dangos ein heffaith yn agored ac yn ymfalchïo yn y gwahaniaeth a wnawn. Bydd dangosyddion perfformiad allweddol clir yn perthyn i bob un o’n hamcanion strategol a byddwn yn dryloyw ynghylch ein cynnydd a’r adegau hynny pan fydd rhwystrau yn ein ffordd. Byddwn yn adrodd yn ôl yn flynyddol drwy ein Hadroddiad Effaith, a gyhoeddir ym mis Tachwedd bob blwyddyn, gan roi cyfle i ni ddathlu ein llwyddiannau ar ran ein haelodau, a babanod, plant a phobl ifanc yn gyhoeddus.
Cewch wybod rhagor yn childreninwales.org.uk
Parc Ymchwil Gwyddorau
Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd (SPARC), Caerdydd, CF24 4HQ 029 2034 2434
info@childreninwales.org.uk
@childreninwales.org.uk @childreninwales @youngwalesciw
Children in Wales
childreninwales.org.uk