CIW Summer Magazine 2024 (Welsh)

Page 1


Croeso!

Croeso gan ein Prif Weithredwr, Hugh Russell

Yr Hawl i gael y Dechrau Gorau mewn Bywyd – Hawliau Babanod a Phlant Bach (Plant yng Nghymru)

Pam rydym wedi ymrwymo i 1,000 diwrnod cyntaf bywyd plentyn ac atgyfnerthu hawliau plant (Jayne Bryant AS, Y Gweinidog Iechyd Meddwl a’r Blynyddoedd Cynnar)

Beth rydyn ni’n ei wneud i gefnogi rhieni i sicrhau’r dechrau gorau i fabanod, plant a phobl ifanc yng Nghymru (Rhwydwaith Iechyd Meddwl Amenedigol Cymru)

Cymorth Digidol Am Ddim i Sefydliadau Trydydd Sector yng Nghymru (DigiCymru)

Lle Diogel i Chwarae (Cyngor Ffoaduriaid Cymru)

Boliau Bach/Tiny Tums: Gwobr arfer gorau am ddarpariaeth bwyd a diod mewn lleoliadau gofal cynnar plant ar draws Gogledd Cymru (Deieteg Iechyd Cyhoeddus, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr)

Sut gall cwtsh fod yr ateb i deuluoedd mewn argyfwng (Barnado’s Cymru)

Rhowch y cychwyn gorau mewn bywyd i blant gyda phlentyndod chwareus (Chwarae Cymru)

Yr Hawl i gael y Dechrau Gorau mewn Bywyd (CTM Nurturing Families Service)

Sicrhau fod manteision darllen, all newid bywydau, ar gael i holl blant Cymru (BookTrust Cymru)

Sut y gallwn roi’r dechrau gorau mewn bywyd i fabanod a enir yng Nghymru/neu sy’n wynebu risg uchel o barlys yr ymennydd? (Cerebral Palsy Cymru)

Cysylltu babanod â byd natur ar gyfer dyfodol iach (Cyfoeth Naturiol Cymru)

Cylch i Bawb: Croesawu pob teulu gyda’n pecyn LHDTC+ (Mudiad Meithrin)

Sut helpodd Parents Plus i roi’r Dechrau Gorau Bywyd i mi (Caerdydd Parents Plus)

Rhoi’r Dechrau Gorau mewn Bywyd i Bob Baban: Cipolygon o Ganwyd yng Nghymru (Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth)

Golygydd: Natasha Belding natasha.belding@childreninwales.org.uk

Cardiff University Social Science Research Park (SPARK), Cardiff, CF24 4HQ

029 2034 2434 @ChildreninWales info@childreninwales.org.uk

Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313

Rhif Cofrestru’r Cwmni: 2805996

Nid yw’r farn a fynegir yn y cyhoeddiad hwn o reidrwydd y farn Plant yng Nghymru, ac rydym ni’n cadw’r haw i olygu cyn cyhoeddi

Croeso gan ein Prif

Weithredwr, Hugh Russell

Croeso cynnes i’n darllenwyr i rifyn yr haf o gylchgrawn Plant yng Nghymru, sy’n canolbwyntio ar flynyddoedd cynnar bywydau plant yng Nghymru.

Ers i mi ysgrifennu’r golofn olygyddol ar gyfer y rhifyn diwethaf, rydyn ni wedi croesawu Gweinidog newydd i Lywodraeth Cymru, Jayne Bryant AS, sydd â chyfrifoldeb am Iechyd Meddwl a’r Blynyddoedd Cynnar, ac mae hi wedi bod yn ddigon caredig i gyfrannu erthygl ar gyfer y rhifyn hwn. Gyda phortffolio o gyfrifoldebau sydd hefyd yn cwmpasu Hawliau Plant, rydyn ni’n edrych ymlaen at gydweithio’n agos â’r Gweinidog i bwyso am y deilliannau gorau i fabanod, plant a phobl ifanc yng Nghymru. Bydd aelodau Plant yng Nghymru yn cael cyfle cynnar i ymgysylltu â’r Gweinidog yn ein Cyngor Polisi pan ddaw, sydd eto ar thema’r Blynyddoedd Cynnar. Byddwn ni’n parhau i weithio’n galed i hwyluso ymgysylltiad rhwng Gweinidogion ac aelodau yn ystod y misoedd nesa, i sicrhau eich bod chi’n cael cyfle i fynegi barn yn uniongyrchol, yn ogystal â chyfrannu at ddulliau gweithredu ar draws sectorau.

O ran hwyluso dulliau gweithredu cyfun er mwyn dylanwadu, mae’n rhaid i mi sôn am Rhoi Plant yn Gyntaf, ein maniffesto ar y cyd ar gyfer Babanod, Plant a Phobl Ifanc yng Nghymru, y bu i’n Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Polisi, Sean O’Neill, ei roi at ei gilydd gydag aelodau Plant yng Nghymru yn rhyfeddol o gyflym, o ystyried y cyhoeddiad sydyn ynghylch etholiad cyffredinol ym mis Gorffennaf. Mae’r maniffesto, a gyhoeddwyd cyn yr etholiad ac a fydd yn awr yn cael ei anfon at bob AS newydd dros Gymru, yn cyflwyno’n galwad ar bob plaid wleidyddol i ymrwymo i bolisïau uchelgeisiol sy’n gwella bywydau pob plentyn a theulu yng Nghymru, yn arbennig y mwyaf agored i niwed a difreintiedig; yn taclo’r newid yn yr hinsawdd; yn dileu tlodi plant, ac yn diogelu hawliau dynol pob plentyn.

Wrth gwrs, rydyn ni wedi gweld newid sylweddol yn San Steffan yn ddiweddar gyda’r llywodraeth

Lafur newydd, sydd wedi addo cyflwyno “strategaeth tlodi plant i’r llywodraeth gyfan”. Mae’r manylion yn aneglur ar hyn o bryd, ac rydym yn disgwyl yn eiddgar am Araith y Brenin i glywed am gamau cyntaf Llywodraeth y Deyrnas Unedig, gan obeithio y byddan nhw’n mynd â ni rywfaint o’r ffordd at ailgydbwyso ein cymdeithas o blaid y babanod, y plant a’r bobl ifanc hynny sydd wedi dioddef cymaint yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Allwn ni ddim goddef meddwl y bydd lefelau cyfredol tlodi plant yng Nghymru na gweddill y Deyrnas Unedig yn parhau, ac fel y nodwyd yn ein maniffesto, mae Plant yng Nghymru yn mynnu bod y llywodraeth hon yn ymrwymo i wneud dileu tlodi plant yn flaenoriaeth ganolog, gan fynd ati ar unwaith i wyrdroi’r polisi dau blentyn trychinebus, na ellir ei gyfiawnhau, a dileu’r cap budd-daliadau, er mwyn sicrhau bod modd i fabanod, plant a phobl ifanc dyfu i fyny ag urddas, gyda’u hanghenion sylfaenol yn cael eu digoni, a chan wybod eu bod yn rhan o gymdeithas sy’n ymroddedig i gefnogi’r aelodau mwyaf bregus.

Fel bob amser, diolch o galon i’n holl aelodau sydd wedi cyfrannu erthyglau ar gyfer y rhifyn hwn o’r Cylchgrawn. Mae yna waith cwbl eithriadol yn cael ei wneud i sicrhau bod blynyddoedd cynnar plant yng Nghymru yn sylfaen mor iach a chadarn â phosibl ar gyfer eu bywydau yn nes ymlaen.

Gan ddymuno haf gwych i chi i gyd, Hugh

Yr Hawl i gael y Dechrau Gorau mewn Bywyd –Hawliau Babanod a Phlant Bach

Anna Westall, Uwch Swyddog Polisi Plant yng Nghymru

Un o uchelgeisiau Llywodraeth Cymru yw bod pob baban yn cael y dechrau gorau mewn bywyd, ond beth mae’r ‘dechrau gorau’ yn ei olygu ar gyfer babanod?

I deall beth yw’r ‘dechrau gorau’, mae angen i ni ddeall pa fath o hawliau sydd gan fabanod a phlant ifanc iawn.

Gweledigaeth Plant yng Nghymru yw:

“Adeiladu Cymru lle mae hawliau pob plentyn a pherson ifanc yn cael eu cyflawni”

Mae babanod a phlant ifanc yn grŵp sy’n aml yn gallu cael eu diystyru o ran hawliau plant. Gallai hynny ddigwydd oherwydd nad oes geiriau ganddyn nhw, oherwydd canfyddiadau am eu galluoedd a’u dibyniaeth ar yr oedolion o’u cwmpas. Mae hyn i gyd yn golygu ei bod hi’n anoddach o lawer iddyn nhw gael mynediad i’w hawliau o gymharu â phlant hŷn a phobl ifanc.

Fodd bynnag, mae babanod a phlant ifanc iawn yn profi eu hawliau o’r eiliad y cânt eu geni:

• Rydw i’n dysgu am fy hawliau trwy’r ffordd mae eraill yn fy nhrin ac yn gofalu amdanaf fi.

• Rydw i’n dysgu am fy hawliau wrth i mi gael cymorth i fynegi, ffurfio a rhannu fy syniadau a’m meddyliau fy hun.

• Rydw i’n dysgu am fy hawliau wrth ddysgu sut mae fy nghorff, pethau a phobl yn gweithio ac archwilio hynny.

Mae mil diwrnod cyntaf bywyd, rhwng cenhedlu a dwy oed, yn gyfnod o gyfleoedd unigryw a bregusrwydd. Mae’n gyfnod o dwf arbennig o gyflym, pan fydd y sylfeini ar gyfer datblygiad diweddarach yn cael eu gosod.

Bu Plant yng Nghymru yn gweithio’n galed i hyrwyddo hawliau babanod a phlant ifanc iawn. Cynhyrchwyd ystod o adnoddau i helpu’r rhai sy’n gweithio gyda babanod, plant ifanc a’u teuluoedd, i ddeall a hyrwyddo eu hawliau. Ysgrifennwyd yr adnoddau o safbwynt y plentyn a darperir dolenni allweddol ynddyn nhw i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP).

‘Mae arna i angen i bawb ystyried fy sefyllfa a sut byddwn i’n teimlo cyn i chi wneud unrhyw benderfyniad.’ (Erthygl 3)

Mae popeth yn newydd i mi; mae angen help arnaf i ddeall y byd o’m cwmpas a gwneud synnwyr ohono. (Erthyglau 6 a 27)

Mae angen i mi fod yn agos at rywun sy’n rhoi gofal, a derbyn gofal wrth i mi ddysgu meithrin ymddiriedaeth a dysgu pethau newydd (Erthyglau 5 ac 18)

Yn aml, mae ffocws pendant ar amddiffyn a darparu ym maes hawliau babanod a phlant ifanc a hynny oherwydd eu bod mor ifanc a bregus; ond rhaid i ni beidio â cholli golwg ar bwysigrwydd yr hawliau cyfranogi sydd ganddyn nhw.

Mae babanod a phlant ifanc yn defnyddio ystod eang o ffyrdd er mwyn cyfathrebu â’r bobl o’u cwmpas, wrth iddyn nhw rannu eu barn am y byd a’u profiad ohono.

Dywed Erthygl 12 CCUHP:

“Mae gan bob plentyn yr hawl i fynegi eu barn, eu teimladau a’u dymuniadau ar bob mater sy’n effeithio arnyn nhw, ac i’w safbwyntiau gael eu hystyried a’u cymryd o ddifri”

Mae babanod yn gyfathrebwyr tra medrus ac mae ganddyn nhw lais y mae’n rhaid gwrando arno. Caiff y llais hwnnw ei glywed a’i weld yn y seiniau a’r symudiadau maen nhw’n eu gwneud, yn eu hymateb i’r amgylchedd a’u hymwneud â’r bobl o’u cwmpas.

Mae gan fabanod ffyrdd unigryw o fynegi eu hunain yn ddieiriau. Gall hynny fod trwy seiniau, ond hefyd yn gorfforol: trwy iaith y corff fel estyn neu nodio’r pen, neu drwy fynegiant wyneb fel gwenu.

‘Falle mod i’n methu siarad, ond rydw i eisoes yn cyfathrebu â chi, gwyliwch fy wyneb, fy symudiadau a’r seiniau rydw i’n eu gwneud. Dyma fy ‘llais’; y cyfan mae angen i chi wneud yw dysgu beth mae’r cyfan yn ei olygu’.

‘Wrth i ti wrando arnaf fi ac ymateb i’m hanghenion, rydw i’n gwylio iaith dy gorff a mynegiant dy wyneb, a gall hynny fy helpu i deimlo’n ddiogel a helpu fy ymennydd i dyfu a datblygu.’

Mae CCUHP hefyd yn cydnabod y rôl hollbwysig sydd gan rieni, gofalwyr ac aelodau o’r teulu o ran cefnogi hawliau babanod a phlant ifanc. Rhieni yw rhai o gefnogwyr mwyaf hawliau plant, wrth iddyn nhw ystyried eu lles pennaf, eiriol drostyn nhw, gofalu amdanyn nhw ac ymateb i’w hanghenion.

Felly mae’n bwysig ein bod ni’n helpu rhieni i ddeall CCUHP a’r ffordd orau y gallan nhw gefnogi eu baban a’u plentyn ifanc.

I gael gwybod mwy am sut i gefnogi rhieni, ewch i

Plant yng Nghymru | Hwb Cyswllt Rhieni Cymru

I gael rhagor o wybodaeth a mynediad at ein dewis eang o adnoddau Blynyddoedd Cynnar ewch i:

Plant yng Nghymru | Adnoddau’r Blynyddoedd Cynnar

Plant yng Nghymru | Llais y Baban

Mae gennym ni i gyd ran i’w chwarae a gall newid bach wneud gwahaniaeth mawr wrth sicrhau bod pob baban yn cael y ‘dechrau gorau mewn bywyd’ ac yn tyfu i fyny yn hapus, yn iach ac yn ddiogel.

Jayne Bryant AS Y Gweinidog Iechyd Meddwl a’r Blynyddoedd Cynnar

Pam rydym wedi ymrwymo i 1,000 diwrnod cyntaf bywyd plentyn ac atgyfnerthu hawliau plant

Yn fy rôl fel Gweinidog y Blynyddoedd Cynnar, rwyf am i bob plentyn sy’n cael ei eni yng Nghymru gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd.

Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) wrth wraidd ein holl bolisïau i blant a phobl ifanc.

Mae’n ganolog i’n huchelgais i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn - yn enwedig y 1,000 diwrnod cyntaf.

Rydym yn awyddus i wneud ein gorau glas i gefnogi plant a chreu ‘Cymru i Bob Plentyn’ ac i wneud Cymru

yn wlad lle mae hawliau plant yn cael eu parchu, eu diogelu a’u cyflawni.

Rydym yn hynod o falch o sut mae Cymru wedi arwain y ffordd ar hawliau plant – ni oedd y wlad gyntaf yn y DU i’w hymgorffori yn y gyfraith a Chymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i sefydlu Comisiynydd Plant.

Mae Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn wedi cydnabod y camau cadarnhaol yr ydym wedi’u cymryd i wireddu hawliau plant yng Nghymru, drwy ymestyn hawliau pleidleisio i bobl ifanc 16 ac 17 oed a thrwy roi amddiffyniad cyfartal

i blant rhag ymosodiad arnynt fel oedolion, pan wnaethom ddileu’r amddiffyniad o gosb resymol.

Rwyf yn falch iawn hefyd mai Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i ddeddfu ar gyfer chwarae plant, gan gefnogi hawl plant a phobl ifanc i chwarae ac ymlacio o dan Erthygl 31.

Rwyf am sicrhau bod plant yn cael eu cefnogi i ffynnu, drwy gael cyfleoedd a phrofiadau wedi’u cyfoethogi a fydd yn hybu eu llesiant a’u hapusrwydd, ac yn eu galluogi i ddatblygu a dysgu.

Datblygwyd ein Cynllun Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar o amgylch tair thema: ansawdd y ddarpariaeth; mynediad at ddarpariaeth; a chefnogi a datblygu’r gweithlu. Drwy ganolbwyntio ar y rhain, mae’n cefnogi’r gwaith o ddatblygu a chyflwyno dull cyson o feithrin, dysgu a datblygu.

Mae rhaglen Plant Iach Cymru yn nodi’r cyfeiriad strategol i’r GIG yng Nghymru i ddarparu rhaglen iechyd gynhwysol ar gyfer plant a’u teuluoedd o’r adeg pan gaiff y plant eu trosglwyddo o wasanaeth mamolaeth i’r blynyddoedd cyntaf yn yr ysgol.

Mae mentrau fel hyn yn atgyfnerthu ein ffocws ar 1,000 diwrnod cyntaf bywyd plentyn a phwysigrwydd mesurau ataliol ac ymyrraeth gynnar. Maent yn helpu i wireddu ein dyheadau ar gyfer datblygiad cyfannol babanod a phlant ifanc, gan gynnwys eu datblygiad cymdeithasol, emosiynol, gwybyddol a chorfforol i gefnogi llesiant a dysgu gydol oes.

Mae rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant yn mynd y tu hwnt i iechyd a llesiant; rydym yn deall pwysigrwydd gofal plant hygyrch, nid yn unig wrth gefnogi rhieni, ond yn natblygiad parhaus plant hefyd.

Mae ein rhaglen flaenllaw, Dechrau’n Deg, yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant yn rhai o’n cymunedau mwyaf difreintiedig a’i nod yw cyrraedd tua 38,500 o blant bob blwyddyn.

Rydym yn gwybod bod gofal plant yn broblem enfawr i deuluoedd ac rydym wedi addo ei wneud yn fwy hygyrch i’r rhai y mae arnynt ei angen. Rydym yn disgwyl cefnogi mwy na 9,500 yn ychwanegol o blant dwy flwydd oed ledled Cymru i gael mynediad at ofal plant o ansawdd gyda Dechrau’n Deg erbyn diwedd 2024, ac rydym ar y trywydd iawn i gyflawni hynny.

Rydym yn cydweithio’n agos â’n partneriaid i gefnogi a chryfhau ehangu darpariaeth gofal plant a gwaith chwarae Cymraeg. Rwyf wrth fy modd bod cam diweddaraf rhaglen ehangu Dechrau’n Deg wedi galluogi mwy na 1,000 o blant dwy flwydd oed i fanteisio ar ddarpariaeth gofal plant mewn lleoliad cyfrwng Cymraeg.

Mae sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu yn hanfodol i ystod eang o ganlyniadau llesiant, addysg a chanlyniadau hirdymor. Rydym yn gwybod pa mor bwysig y gall fod wrth rymuso teuluoedd a sicrhau bod plant yn cyrraedd eu potensial.

O’r cymorth, gwybodaeth a chyngor cyffredinol o ansawdd uchel ym maes rhiant a ddarperir gan dimau rhianta ein hawdurdod lleol a’n Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd, i’n hymgyrch rhianta cadarnhaol Magu Plant. Rhowch amser iddo, mae cymorth ar gael i bob rhiant pan fydd arno ei angen.

Pan fydd angen ychydig o gymorth ychwanegol ar deuluoedd, mae Teuluoedd yn Gyntaf wrth law hefyd i gefnogi teuluoedd i feithrin gwytnwch, drwy roi’r sgiliau iddynt ymdopi ag unrhyw anawsterau y gallent eu hwynebu mewn bywyd yn y dyfodol.

Mae ein Cynllun Plant a Phobl Ifanc yn nodi ein holl ymdrechion i wneud Cymru’n lle gwych i blant a phobl ifanc dyfu, byw a gweithio, lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.

Mae’r camau hyn, ynghyd â phenodi Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol - a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol – yn dangos ein hymrwymiad hirsefydlog i roi plant yn gyntaf.

Ni allaf gyflawni’r holl amcanion hyn ar fy mhen fy hun. Mae angen i bawb sy’n gweithio yn y sectorau chwarae rhan a chydweithio i alluogi plant i fod yn hapus ac yn iach er mwyn iddynt gyrraedd eu potensial llawn.

Beth rydyn ni’n ei wneud i gefnogi rhieni i sicrhau’r dechrau gorau

i fabanod, plant a phobl ifanc yng Nghymru

Martha Sercombe, Arweinydd Clinigol, Rhwydwaith Gweithredu Iechyd Meddwl

Amenedigol Cymru (Rhwydwaith PNMH Cymru)

Yn 2016, darparodd Llywodraeth Cymru £1.5 miliwn i ddatblygu gwasanaethau Iechyd Meddwl Amenedigol teg ledled Cymru.

Yn 2016, cynhaliodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg adolygiad o wasanaethau Iechyd Meddwl Amenedigol ledled Cymru, ac ym mis Hydref 2017 gwnaeth 27 o argymhellion.

Roedd y sylw gwleidyddol ar ddatblygu gwasanaethau Iechyd Meddwl Amenedigol ledled Cymru.

Ym mis Ionawr 2019, dechreuodd yr Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl Amenedigol yn ei swydd gyda’r nodau canlynol:

• Arwain y Rhwydwaith Clinigol Iechyd Meddwl Amenedigol

• Datblygu safonau ansawdd, llwybrau gofal, cymwyseddau proffesiynol ac adnoddau hyfforddi

• Hyrwyddo iechyd meddwl babanod cadarnhaol ac atal problemau iechyd meddwl amenedigol

• Datblygu gweithlu sydd wedi’i hyfforddi’n briodol

• Casglu a dadansoddi data y cytunwyd arno.

Yna, cynhaliwyd cyfres o weithdai gyda staff, defnyddwyr gwasanaethau a chydweithwyr yn y trydydd sector, i’n helpu i ddeall:

• Lle’r oedden ni arni

• Lle’r oedden ni eisiau bod

• Sut byddwn ni’n cyrraedd yno

Ers hynny, rydyn ni wedi datblygu rhaglen iechyd meddwl amenedigol Cymru Gyfan a 10 Llwybr Iechyd Meddwl Amenedigol Cymru Gyfan

Mae ein llwybrau yn seiliedig ar bum lefel o angen ac yn siapio Meini Prawf Atgyfeirio Cymru Gyfan, sy’n dilyn y Fframwaith Gofyn, Asesu a Gweithredu, yn seiliedig ar ofyn i bob rhiant newydd yng Nghymru ‘Sut wyt ti’n teimlo heddiw?’

Rydyn ni wedi gallu cryfhau ansawdd a diogelwch y gwasanaethau a ddarparwn a darparu’r profiad gorau posibl i bawb.

Mae’r holl wasanaethau iechyd meddwl amenedigol arbenigol yn gweithio tuag at fodloni Safonau CCQI Coleg Brenhinol y Seiciatryddion (pqn-community-standards-6th-edition.pdf (rcpsych.ac.uk)

Un o’n hamcanion oedd cryfhau ein gweithlu, gan sicrhau bod gan bawb y sgiliau, yr wybodaeth, yr oruchwyliaeth a’r gefnogaeth gywir.

Bellach mae gennym 100 o Hyrwyddwyr Iechyd Meddwl Amenedigol Mamau a Babanod a 38 o Hyrwyddwyr Lles Emosiynol ledled Cymru. Mae’r hyrwyddwyr hyn yn rhaeadru hyfforddiant Iechyd

Meddwl Amenedigol y Sefydliad Ymweliadau Iechyd (iHV) ar draws pob bwrdd iechyd ac yn ehangach.

Mae ein cyfres newydd o adnoddau hyfforddi arlein i helpu gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol i gefnogi menywod a theuluoedd sy’n profi anawsterau iechyd meddwl bellach yn fyw ar blatfform Tŷ Dysgu.

Rydyn ni wedi llunio’r modiwlau e-ddysgu gyda’r tîm iechyd meddwl yn Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC).

Maen nhw’n darparu cyflwyniad manwl iawn i staff sy’n gweithio o lefelau ‘gwybodus’ hyd at lefelau ‘arbenigol’ fel yr amlinellir yn fframwaith cwricwlaidd iechyd meddwl mamau a babanod Cymru, sy’n eich helpu i benderfynu pa hyfforddiant a dysgu fyddai o fudd i chi.

Gall unrhyw un gael mynediad at yr hyfforddiant, ond bydd y modiwlau o fudd arbennig i ymarferwyr yn y sectorau a’r disgyblaethau canlynol:

• Blynyddoedd cynnar

• Gwasanaethau brys

• Ymwelwyr iechyd

• Gwasanaethau mamolaeth

• Unedau babanod newydd-anedig

• Gofal sylfaenol

• Gwaith cymdeithasol

• Timau Iechyd Meddwl Amenedigol/PAIRS arbenigol

• Sector gwirfoddol

Y modiwlau yw’r ychwanegiad diweddaraf at ein cyfres o adnoddau ar gyfer gweithwyr proffesiynol, menywod, tadau, partneriaid a theuluoedd, gan gynnwys llwybrau gofal, canllawiau ar sgrinio a meddyginiaeth iechyd meddwl, a chyfres o daflenni cyngor a chymorth

Rydyn ni’n gwerthfawrogi’r berthynas rydyn ni wedi’i meithrin ar draws Cymru gyfan a’r DU.

Rydyn ni’n cynnal digwyddiadau Cymuned Ymarfer rheolaidd a fforymau proffesiynol

ledled Cymru. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â rhestr ddosbarthu’r Rhwydwaith

Iechyd Meddwl Amenedigol, a derbyn ein cylchlythyr rheolaidd, cysylltwch â helen.ranson@wales.nhs.uk

Cyhoeddwyd Law yn llaw at Iechyd Meddwl: Ein strategaeth iechyd meddwl ar gyfer Cymru yn 2012.

Yn 2023 cynlluniodd cydweithwyr Rhwydwaith

Iechyd Meddwl Amenedigol Cymru, ynghyd â’r NSPCC, gyfres o ddigwyddiadau i gasglu barn ar flaenoriaethau ar gyfer iechyd meddwl amenedigol a babanod ar gyfer y strategaeth iechyd meddwl nesaf. Llwyddwyd i gysylltu â mwy na 100 o gydweithwyr (ar-lein ac wyneb yn wyneb) ledled Cymru i gasglu adborth a rhannu syniadau. Rhannwyd y safbwyntiau hyn gyda Llywodraeth Cymru.

Ym mis Ebrill 2023, symudon ni i Weithrediaeth GIG Cymru - swyddogaeth gymorth genedlaethol newydd y GIG. Ein prif bwrpas yw:

• ysgogi gwelliannau yn ansawdd a diogelwch gofal - gan arwain at ganlyniadau, mynediad a phrofiad cleifion gwell a thecach, llai o amrywiaeth, a gwelliannau yn iechyd y boblogaeth.

Mae ein taith i wella gwasanaethau yn parhau i gefnogi rhieni i ddarparu’r dechrau gorau i fabanod, plant a phobl ifanc yng Nghymru.

Cyngor a chymorth iechyd meddwl yn ystod beichiogrwydd ac ar ôl cael babi
Sganiwch y codau QR i lawrlwytho'r taflenni

Cymorth Digidol Am Ddim i Sefydliadau

Trydydd Sector yng Nghymru

Ydych chi’n sefydliad trydydd sector yng Nghymru sydd yn chwilio am ddatrysiad digidol i’ch problem?

Mae ProMo Cymru yn cynnig cymorth digidol un i un trwy brosiect Cefnogaeth Ddigidol Trydydd Sector, diolch i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Os ydych chi’n elusen, sefydliad dielw, menter gymdeithasol, grŵp cymunedol neu wirfoddol, rydych chi’n gymwys am gymorth am ddim trwy DigiCymru. Bydd DigiCymru yn eich paru gydag un o arbenigwyr ProMo i ddarganfod datrysiad i’ch her neu broblem ddigidol, ac os na fedrant helpu, yna byddant yn darganfod rhywun arall sydd yn gallu.

Mae ProMo wedi helpu dros 60 o sefydliad trydydd sector yng Nghymru ym mlwyddyn gyntaf y prosiect. Dyma rhai esiamplau:

• Roedd Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan eisiau help i greu cyfrif TikTok. Nid oedd ganddynt brofiad creu cynnwys fideo ac eisiau dysgu mwy am osodiadau preifatrwydd a’r rhagofalon diogelwch sydd angen eu hystyried. Dangosodd ProMo sut i greu a golygu cynnwys, defnyddio templedi, cyngor arfer gorau, manteision ac anfanteision a lliniaru risg.

• Roedd Connect (Adoption Cymru) yn cael trafferth rhoi gwybod i bobl ifanc wedi’u mabwysiadu am ddigwyddiadau cyfarfod oedd yn cael ei hysbysu ar y wefan. Roeddent eisiau datblygu app i yrru hysbysiadau gwthio ond yn poeni am greu gormod o waith wrth orfod diweddaru dwy system. Trwy sesiynau DigiCymru darganfuwyd datrysiad fforddiadwy ble gallant yrru hysbysiadau trwy’r wefan heb orfod datblygu rhywbeth newydd.

• Roedd The Venture yn awyddus i ddigideiddio’r system papur a phensel oedd yn creu problemau iddynt wrth greu adroddiadau, cynnal cronfa ddata a chadw golwg ar ddata. Trafodwyd datrysiadau yn y sesiwn DigiCymru a phenderfynwyd ar Plinth, Llwyfan Effaith Cymunedol. Roedd hyn yn caniatáu iddynt gael cofrestr ddigidol lle gallant greu cronfa ddata o’r holl ddefnyddwyr, gan gynnwys manylion personol fel alergeddau a rhifau cyswllt argyfwng. Gallant hefyd greu adroddiadau yn syth o’r system.

Darganfod mwy am yr astudiaethau achos (a mwy) yma

Os ydych chi angen cymorth i ddarganfod datrysiad digidol i’ch sefydliad, trefnwch eich sesiwn un i un am ddim trwy’r system archebu yma neu ymwelwch â gwefan ProMo Cymru am wybodaeth bellach

Lle Diogel i Chwarae

Meryl Hoffer, Gweithiwr Datblygu Chwarae Cyngor Ffoaduriaid Cymru

Ers dros 14 mlynedd, mae Prosiect Chwarae Cyngor Ffoaduriaid Cymru wedi croesawu a chefnogi babanod, plant a theuluoedd sy’n llywio’r system ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghaerdydd. Mae ein prosiect yn darparu gofod diogel hanfodol, lle gall y plant hyn ddod at ei gilydd, chwarae, a mwynhau llawenydd plentyndod, er gwaethaf y digwyddiadau trawmatig, colled, ac ofn y maent wedi’u hwynebu’n aml.

Mae llawer o’r plant hyn yn byw mewn tai cyfyng gyda phobl eraill ers blynyddoedd, gan symud yn aml trwy sawl cyfeiriad dros dro cyn dod o hyd i gartref parhaol yng Nghaerdydd neu rywle arall yng Nghymru. Mae newydd-ddyfodiaid, sy’n cael eu gosod mewn gwestai i ddechrau, yn aml yn dod gydag ychydig bach o eiddo a dim teganau. Er mwyn hwyluso eu taith i ni, rydym yn ad-dalu costau teithio.

Mae ein tîm ymroddedig o saith gweithiwr chwarae, gan gynnwys gwirfoddolwyr ac unigolion â phrofiad o fyw, yn creu amgylchedd anogol yng Nghanolfan y Drindod deirgwaith yr wythnos. Yma, mae plant yn cael eu hannog i deimlo’n ddiogel, archwilio, a mwynhau. Sefydlon ni saith i wyth o weithgareddau, gan ysgogi eu dychymyg trwy weld, clywed ac ogleuo. O chwarae meddal a gweithgareddau sgiliau echddygol i chwarae rôl ac adrodd straeon, mae rhywbeth ar gyfer pob plentyn. Rydym yn darparu digon o le i redeg, canu, dawnsio, ac ymlacio.

Mae chwarae rhydd wrth wraidd ein hathroniaeth, gan rymuso plant i wneud eu dewisiadau eu hunain a symud ymlaen ar eu cyflymder eu hunain. Mae’n hollbwysig eu bod yn teimlo eu bod yn rheoli eu hamgylchedd. Mae angen sawl sesiwn ar rai plant i deimlo’n gyfforddus wrth symud i ffwrdd o’u rhieni, tra bod eraill, sy’n fwy gofalus, yn elwa o gyrraedd yn gynnar i ymgyfarwyddo â’r ystafell. I lawer o fabanod a phlant bach, mae ein grŵp yn cynnig eu cyfle cyntaf i gymdeithasu a gwneud ffrindiau.

Mae cysondeb yn allweddol i’r teuluoedd hyn, sy’n aml yn wynebu bodolaeth dros dro ac anhrefnus. Rydym yn cynnig teganau ac arferion penodol bob sesiwn er mwyn sicrhau parhad a diogelwch. Mae’r sefydlogrwydd hwn yn arbennig o bwysig i blant sydd heb ddechrau’r ysgol eto.

Rydym yn eu hannog i gymryd risgiau bach, fel mentro allan o olwg rhiant, cydbwyso ar gerrig camu, reidio beiciau tair olwyn, neu roi cynnig ar weithgareddau newydd.

I gefnogi eu datblygiad ymhellach, rydym yn rhoi teganau i’n holl blant, yn darparu pecynnau

BookStart i fabanod a phlant bach, ac yn dosbarthu llyfrau dwyieithog gan BookTrust Cymru. Mae’r anrhegion hyn yn dod â llawenydd aruthrol i’r plant.

Drwy gydol y flwyddyn, rydym yn trefnu anturiaethau i archwilio diwylliant Caerdydd. Mae cydweithio yn hollbwysig i’n gwaith, gan gyfoethogi profiadau’r plant. Mae ein sesiynau misol yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, ymweliadau â Global Gardens, llwybr Golau Nadolig Parc Bute, gweithdai syrcas Cymunedol NoFitState, a mwy, yn dod â hapusrwydd a chyffro. Mae ymweliadau rheolaidd gan gerddorion BBC NOW, Ti-A-Fi, Amser Odli Llyfrgell Caerdydd, ac eraill yn ddigwyddiadau cofiadwy sy’n rhoi hwb i wytnwch a hyder y plant.

Bob blwyddyn, rydym yn gweld rhwng 250 a 350 o blant, gyda 60% o dan bedair oed. Mae rhai yn ymuno â ni am ychydig o sesiynau cyn symud ymlaen, tra bod eraill yn tyfu gyda ni nes eu bod yn barod ar gyfer yr ysgol, yn aml yn dychwelyd yn ystod gwyliau’r ysgol. Daw cyfeiriadau gan ymwelwyr iechyd, gweithwyr achos, a sefydliadau eraill. Rydym hefyd yn atgyfeirio teuluoedd mewn angen brys i sicrhau eu bod yn derbyn cymorth a gwasanaethau hanfodol.

Mae ein sesiynau wedi’u llenwi â’r synau gorau o chwerthin, llawenydd, a llu o ieithoedd. Ond

rydym hefyd yn gweld plant yn hynod ymwybodol o frwydrau eu teuluoedd, wedi’u llethu gan eu hamgylchiadau.

Mae’r argyfwng tai a mesurau llymder yn effeithio’n sylweddol ar eu bywydau. Er y gallai ffigurau cyhoeddedig awgrymu mai dim ond am ychydig wythnosau y bydd teuluoedd yn wynebu’r amodau hyn, mae’r realiti yn llawer llymach. Mae’r rhan fwyaf o deuluoedd ffoaduriaid newydd yn dioddef misoedd mewn gwestai, wedi’u cyfyngu i ystafell sengl, ac yna arosiadau hir mewn tai dros dro. Mae’r ansefydlogrwydd hwn yn arwain at oedi datblygiadol mewn hyfforddiant poti, hunanleddfu a diddyfnu. Mae llawer o blant hefyd yn cael trafferth gyda bwyd anghyfarwydd, gan ychwanegu at eu trallod.

Mae cael mynediad at wasanaethau hanfodol, gan gynnwys dillad, bwyd, gwersi ESOL a chymorth, yn heriol i deuluoedd sydd wedi’u lleoli ymhell o ganol y ddinas. Byddai adfer WiFi am ddim mewn llety ceisiwyr lloches a galluogi teithio am ddim yn gwella ansawdd eu bywydau’n fawr.

Mae digartrefedd hirdymor ac adleoli cyson yn ynysu’r plant hyn ac yn cynyddu eu profiadau niweidiol yn ystod plentyndod.

Mae pob plentyn yn haeddu teimlo’n ddiogel ac yn cael ei warchod. Mae ein Prosiect Chwarae yn ymroddedig i sicrhau bod plant sy’n ffoaduriaid ac yn ceisio lloches yng Nghaerdydd yn cael llawenydd, sicrwydd, ac ymdeimlad o berthyn yn eu bywydau cythryblus.

Boliau Bach/Tiny Tums: gwobr arfer gorau am ddarpariaeth bwyd a diod mewn lleoliadau gofal

cynnar plant ar draws Gogledd Cymru

Andrea Basu

Arweinydd Gwasanaeth Deieteg Iechyd Cyhoeddus,

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Cefndir

Mae’r blynyddoedd cynnar yn gyfnod hollbwysig o ran dysgu a datblygu, gan helpu i greu’r sylfaen hanfodol ar gyfer iechyd a lles plentyn yn y dyfodol. Mae darparwyr gofal plant mewn sefyllfa ddelfrydol i helpu i feithrin a llunio arferion bwyta cadarnhaol sy’n annog ac yn galluogi plant ifanc i fwynhau bwyta’n dda.

Cynigiwyd gwobr Boliau Bach/Tiny Tums am y tro cyntaf yn 2010, gyda’r nod o gydnabod a gwobrwyo lleoliadau gofal cynnar i blant am sicrhau arfer gorau wrth ddarparu bwyd a diod. Symudodd ein gwaith ganllawiau Llywodraeth

Cymru yn eu blaen yn 2018 a chyfrannodd at yr ymgynghoriad ehangach ar y pryd, a oedd yn cydnabod y rôl hanfodol y mae lleoliadau

gofal plant yn ei gwneud wrth ddarparu bwyd a diod maethlon, o ansawdd, i blant yn eu gofal. Mae gwobr Boliau Bach wedi datblygu’n llwyddiannus oherwydd ymroddiad tîm deieteg iechyd cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a chydweithio â’r sector gofal cynnar plant a rhanddeiliaid lleol i sicrhau ymgysylltu, gweithredu, monitro a gwerthuso effeithiol.

Gwobr Boliau Bach

Gall lleoliadau cofrestredig sy’n gofalu am fabanod 0-1 oed a phlant 1-4 oed wneud cais am y brif wobr os ydynt yn darparu prydau llawn a byrbrydau, neu am y wobr byrbrydau a diod, lle darperir byrbrydau a diodydd yn unig. Gall lleoliadau fynegi eu diddordeb trwy gysylltu â’r tîm sydd wedyn yn cynnig cyfleoedd hyfforddi achrededig

a safonol am faeth, gan alluogi staff gofal plant i ddatblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau am faeth cyn dechrau gweithio tuag at y wobr. Mae lleoliadau sy’n dymuno gwneud cais am y wobr yn cael eu harwain trwy restr wirio hunanasesu sy’n cynnwys cyfres o safonau sy’n cefnogi datblygu bwydlenni cynhwysfawr a chreu polisi bwyd a diod sy’n croesawu dull lleoliad cyfan o fwyta’n iach.

Fel sy’n wir am lawer o deuluoedd yn yr hinsawdd bresennol, mae cost gynyddol bwyd yn peri heriau sylweddol i leoliadau gofal plant wrth iddynt barhau i ddarparu bwydlenni maethlon ac amrywiol. Felly, mae ein cymorth yn cynnwys arweiniad ar flaengynllunio bwydlenni, paratoi bwyd ac awgrymiadau ar gyfer siopa, yn ogystal â defnyddio cynhwysion tymhorol, a gall pob un o’r rhain helpu i wneud y mwyaf o’r gyllideb sydd ar gael.

Manteision i’r lleoliadau sy’n ennill gwobr

Boliau Bach:

• yn cyd-fynd â safonau ansawdd Arolygiaeth Gofal Cymru ar faeth

• yn cyrraedd safonau maeth ac iechyd y geg y Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy (Llywodraeth Cymru, 2023)

• yn cydymffurfio’n llawn â Chanllawiau Arfer Gorau Llywodraeth Cymru: Bwyd a Maeth ar gyfer Lleoliadau Gofal Plant(2018)

• yn sicrhau bod lleoliadau sy’n darparu lleoedd wedi’u hariannu gan Dechrau’n Deg yn bodloni’r safonau uchel y disgwylir er mwyn optimeiddio darpariaeth bwyd a diod (Llywodraeth Cymru, 2023).

• yn darparu’r cydbwysedd cywir o fwyd a diod maethlon i fodloni’r argymhellion deietegol ar gyfer babanod a phlant cyn-ysgol

• annog plant i fwyta’n dda mewn amgylchedd iach ac i ddysgu am fwyd

• hyrwyddo cysondeb negeseuon am faeth ac annog cyfleoedd i rannu negeseuon cefnogol gyda theuluoedd

• yn dangos i deuluoedd bod lleoliadau gofal plant wedi ymrwymo i iechyd plant cyn oed ysgol drwy eu hannog i fabwysiadu arferion bwyta da a datblygu agweddau cadarnhaol tuag at ddeiet cytbwys iach

• sicrhau bod o leiaf un aelod staff yn cael ei hyfforddi mewn maeth blynyddoedd cynnar gan Ddeietegwyr Iechyd Cyhoeddus

• pan fydd lleoliadau wedi eu cymeradwyo, byddant yn gallu bod yn falch o arddangos y logo Boliau Bach i rieni a theuluoedd ei weld

Adborth ar y wobr Boliau Bach

“Rwyn hoffi sut mae’r plant yn cael amrywiaeth o ‘brydau bwyd oedolion’ iw helpu i feithin hoffter o ystod amrywiol o flasau.”

Rhiant plentyn yn un o leoliadau Boliau Bach

“Mae gen i deimladau cryf am ddeiet plant, mae’n bwysig ar gyfer eu twf a’u datblygiad. Mae’r fwydlen newydd yn lliwgar a’n llawn gweadau gwahanol, ac mae’r plant yn mwynhau eu bwyta a’u harchwilio”

Rheolwr cynorthwyol mewn Ileoliad Boliau Bach

“Gyda chymorth y Dietegwyr rydym yn hyderus bod ein bwydlen yn diwallu anghenion ein plant yn ogystal â bod yn flasus.”

Rheolwr Meithrin

Ers y pandemig, rydym wedi gweithio’n agos gyda’r sector i sicrhau bod y wobr Boliau

Bach yn parhau i fod yn addas i’r diben, a bod llwyddiannau o ran arfer gorau yn cael eu dathlu’n eang. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi gweithio gyda bron i 200 o leoliadau ar draws Gogledd Cymru, ac wedi gweld cynnydd o 25% yn nifer y lleoliadau sy’n gweithio tuag at y wobr lawn, ac ychydig dros 50% yn y rhai sydd wedi derbyn y wobr byrbryd a diod. Rydym hefyd wedi darparu hyfforddiant i arweinwyr tîm

Arolygiaeth Gofal Cymru i loywi eu gwybodaeth am y wobr, tra hefyd yn cynnwys gwybodaeth gryno ar bynciau diweddaraf maeth.

Fel tîm, rydym yn gyffrous am yr hyn y gallem ei gyflawni eleni wrth i ni ddatblygu ein gwaith partneriaeth gyda DEWIS Cymru a Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd i sicrhau presenoldeb cyhoeddus mwy ar-lein i Boliau Bach.

Os hoffech ragor o wybodaeth am y wobr Boliau Bach, ewch i’n tudalen drwy wefan Sgiliau Maeth am Oes Blynyddoedd Cynnar – Sgiliau Maeth am Oes

Cyfeiriadau

Llywodraeth Cymru (2019). Bwyd a Maeth ar gyfer lleoliadau gofal plant. Canllawiau Arfer Gorau. Ar gael oddi wrth: https://www.llyw.cymru/canllawiau-bwydmaeth-ar-gyfer-lleoliadau-gofal-plant | LLYW.CYMRU

Llywodraeth Cymru (Ebrill 2023) Canllawiau Gofal Plant Dechrau’n Deg. Ar gael oddi wrth: Gofal plant Dechrau’n Deg: canllawiau | LLYW.CYMRU

Llywodraeth Cymru (Medi 2023). Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy. Meini Prawf Gwobrau Cenedlaethol. Ar gael oddi wrth: phw.nhs.wales/services-and-teams/welshnetwork-of-healthy-school-schemes/welsh-networkof-healthy-school-schemes-documents/healthy-andsustainable-pre-school-scheme-national-awards-criteria/

Sut gall cwtsh fod yr ateb i deuluoedd mewn argyfwng

Mewn un rhan o Gymru, mae nifer y babanod sy’n cael eu rhoi mewn gofal wedi cael ei haneru diolch i waith partneriaeth rhwng Cyngor Dinas Casnewydd a Barnardo’s Cymru. Mae gwasanaeth Babi a Fi yr elusen yn profi sut y gall ymyrraeth gynnar newid bywydau rhieni a’u plant.

Mae chwe mam yn eistedd ar fatiau rwber lliwgar. Maen nhw’n dal eu babis ac yn canu cân, gan groesawu pob plentyn yn ôl ei enw ar ddechrau’r sesiwn Cwtch wythnosol mewn neuadd gymunedol yng Nghasnewydd.

Mae’n awr hamddenol a llawen lle gall mamau fwynhau cwmni eu babanod, a gyda thema’r

wythnos hon yn “disgo” mae cyfle i wisgo goleuadau LED sy’n fflachio ar eu pennau, ratlo offerynnau taro a dawnsio o gwmpas y neuadd i guriad y gerddoriaeth

Mae’n edrych fel unrhyw grŵp mamau a babanod arferol, ond ar ddiwedd yr awr mae’r babanod yn mynd yn ôl at ofalwyr maeth tra bod eu mamau’n dal i aros i’r llysoedd benderfynu os byddant yn cael mynd â’u plant adref gyda nhw.

Cefnogir y sesiynau Cwtch gan weithwyr prosiect Barnardo’s Cymru, ac mae gweithwyr cymdeithasol y rhieni hefyd yn bresennol, ond byddai unrhyw un sy’n edrych i mewn ar y sesiynau yn gweld babanod hapus yn cythru am y swigod a chwythwyd gan eu mamau sy’n mwynhau’r foment.

Dyma un enghraifft yn unig o’r gefnogaeth a gynigir gan Barnardo’s drwy eu gwasanaeth Babi a Fi, sy’n cael ei redeg mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Casnewydd. Mae mamau, ac weithiau tadau, yn cael cyfle i brofi am gyfnod byr beth mae llawer o rieni’n ei gymryd yn ganiataol, y cyfle i gwrdd ag eraill a chael hwyl gyda’u babanod mewn lleoliad cymdeithasol.

Mae rhieni Babi a Fi hefyd yn elwa o gefnogaeth un-i-un ddwys, bwrpasol, nid yn unig yn y cyfnod cyn yr enedigaeth, ond ar ôl hynny hefyd .

Mae ymarferwyr yn cydnabod pwysau magu plant ochr yn ochr â phrosesau amddiffyn plant ac yn helpu rhieni i gael gafael ar ystod eang o wasanaethau gan gynnwys tai priodol, gwasanaethau iechyd meddwl a chymorth camddefnyddio sylweddau.

Maent hefyd yn mynychu rhaglen grŵp magu plant cynenedigol sy’n chwe wythnos o hyd a chynhadledd grŵp teulu, lle bo hynny’n briodol. Y nod yw creu lle diogel i deuluoedd allu archwilio eu problemau ac i’w grymuso i gyflawni eu nodau o gadw eu teuluoedd gyda’i gilydd.

Mae’r gwasanaeth yn dod ag iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a chymorth magu plant at ei gilydd mewn un model cyfannol sydd wedi sicrhau canlyniadau rhagorol.

Ers ei sefydlu yn 2019, bu gostyngiad o 48% mewn achosion gofal a gychwynnwyd ar enedigaeth, gydag oddeutu 40 yn llai o fabanod yn cael eu rhoi mewn gofal yng Nghasnewydd.

O’r babanod sydd wedi mynd adref, roedd 100% wedi cael eu tynnu oddi ar y Gofrestr Amddiffyn Plant erbyn eu pen-blwydd cyntaf.

Mae Barnardo’s Cymru o’r farn y dylai’r lefel hon o gymorth fod ar gael i deuluoedd ledled Cymru a byddai’n annog comisiynwyr a llunwyr polisïau i gefnogi ehangu Babi a Fi a modelau eraill sy’n helpu teuluoedd i aros gyda’i gilydd yn ddiogel.

Tynnodd adolygiad gofal diweddar Llywodraeth Cymru sylw at Babi a Fi ac argymhellodd y dylai modelau cymorth tebyg fod ar gael ym mhob rhan o Gymru.

Dim ond un agwedd o bartneriaeth strategol

Cyngor Dinas Casnewydd a Barnardo’s Cymru a sefydlwyd yn 2011 yw Babi a Fi. Mae’n darparu ymatebion arloesol i’r heriau sy’n wynebu teuluoedd yng Nghasnewydd, yn enwedig y rheini sydd ar gyrion gofal.

Dan adain y Gwasanaeth Cymorth i Deuluoedd, mae’r ymyriadau’n cynnwys Babi a Fi, y tîm Ymateb Brys sy’n gweithio gyda phlant hŷn a phobl ifanc yn eu harddegau ar ffiniau gofal, Cyswllt Gydol Oes, a Chynadleddau Grŵp Teulu.

Ceir gwahaniaeth diwylliannol allweddol mewn partneriaeth strategol sy’n seiliedig ar gyfrifoldeb ar y cyd rhwng yr awdurdod lleol a phartner y trydydd sector, lle mae’r ddau bartner yn cydnabod y manteision o fuddsoddi i arbed a gweithio ar y cyd tuag at nod cyffredin.

Mae’r bartneriaeth yn esblygu’n gyson drwy nodi meysydd datblygu presennol neu drwy ystod eang o brosesau dysgu gan gynnwys cydgynhyrchu gyda phobl ifanc a theuluoedd.

Fodd bynnag, wrth galon y berthynas mae’r awydd i ddarparu atebion arloesol i ddiwallu anghenion plant a theuluoedd.

Rhowch y cychwyn gorau mewn bywyd i blant gyda phlentyndod chwareus

Mae chwarae yn ran bwysig o blentyndod iach a hapus i blant o bob oed. Drwy roi digonedd o gyfleoedd i fabis a phlant chwarae gallwn ni roi y cychwyn gorau mewn bywyd iddynt.

Pan maen nhw’n chwarae, bydd plant yn datblygu a dysgu ym mhob math o ffyrdd. Mae chwarae’n gwneud cyfraniad hanfodol i bob rhan o ddatblygiad plentyn – yn gorfforol, meddyliol, emosiynol a chymdeithasol. Pan maent yn chwarae, mae babis a phlant yn dysgu drwy’r

amser. Bydd cael profiad chwarae da drwy eu plentyndod yn helpu babis a phlant i ddatblygu sgiliau y gallant eu defnyddio wrth dyfu a dechrau crwydro’n annibynnol trwy’r byd.

Mae chwarae’n hwyl hefyd – ac mae hynny’n bwysig hefyd. Mae cael hwyl, chwerthin a mwynhau amser gyda ffrindiau a’r teulu i gyd yn rhan o blentyndod hapus. Mae hwyl yn ychwanegu at iechyd a datblygiad plant.

Yn ystod blynyddoedd cynnar bywyd plentyn, mae’n bwysig i blant a’r rhai sy’n rhoi gofal chwarae gyda’i gilydd. Bydd hyn yn helpu i greu perthynas glós (neu ymlyniad). Mae hefyd yn helpu i ddatblygu sgiliau iaith a chymdeithasol y plentyn.

Mae gan bob plentyn hawl i chwarae. Bydd rhoi digonedd o gyfleoedd i fabis a phlant bach chwarae yn sicrhau eu bod yn cael y cychwyn gorau mewn bywyd.

Chwarae yn ystod y chwe mis cyntaf

Yn y dyddiau cynnar, bydd chwarae’n helpu i ysgogi synnwyr golwg, clyw, cyffyrddiad a symudiad babi. Bydd chwarae gemau fel ‘pi-po!’ (ffordd hwyliog, garedig i gyflwyno ansicrwydd), canu, rhoi pethau i fabi gydio a chythru ynddyn nhw yn helpu babi a’r rhai sy’n rhoi gofal i greu perthynas glos. Bydd hefyd yn gadael i fabi wybod bod y rhai sy’n rhoi gofal yn bobl chwareus a llawn hwyl.

Chwarae i fabis

O chwe mis i flwydd oed, bydd gemau’n dal i fod yn boblogaidd gyda babis. Wrth iddyn nhw lwyddo i symud mwy, byddant hefyd am gropian, rowlio a symud o gwmpas. Byddant yn defnyddio eu corff cyfan i ddysgu am eu hunain, ac am oedolion eraill sy’n agos atyn nhw, a’r byd o’u hamgylch. Bydd hyn yn cynnwys y synhwyrau, fel golwg, clyw a blas.

Chwarae i blant bach

Bydd plant bach yn dysgu siarad, gan godi geiriau newydd trwy’r amser. Maen nhw hefyd yn naturiol chwilfrydig, ac mae eu sylw’n cael ei dynnu gan bethau newydd a gwahanol. Maen nhw’n dal i ddysgu mwy a mwy am eu byd gan ddefnyddio eu synhwyrau – er enghraifft, gwahanol flasau, arogleuon a gweadau.

Mae’n bwysig i blant bach chwarae gyda deunyddiau naturiol fel brigau, cerrig, dail, pridd, gwair, mwd a dŵr. Mae’n debyg y byddan nhw’n mwynhau sblasio, padlo a baeddu hefyd.

Bydd symudiad plentyn bach yn gwella ac fe fyddan nhw’n chwilio am gyfleoedd i falansio,

dringo, a chuddio o dan bethau (fel byrddau a chadeiriau). Gallwn gael ein temtio i roi stop ar hyn neu i geisio helpu – ond mae’n bwysig peidio ag ymyrryd oni bai eu bod mewn perygl. Bydd bydd caniatáu’r math hyn o weithgareddau’n helpu plant bach i ddysgu am eu corff a’r hyn y gall (ac na all) ei wneud ar hyn o bryd.

Mae gwefan Plentyndod Chwareus yn llawn syniadau a chynghorion i gefnogi rhieni a gofalwyr i roi digonedd o gyfleoedd chwarae i blant o bob oed – o syniadau ar gyfer chwarae gartref, i anturiaethau bob dydd allan yn y gymuned, i wybodaeth am sut mae chwarae’n paratoi plant ar gyfer yr ysgol feithrin a’r ysgol.

Anelir y wefan at rieni a gofalwyr, ond mae hefyd yn llawn adnoddau defnyddiol ar gyfer ymarferwyr sy’n gweithio gyda phlant o bob oed a’u teuluoedd.

Darganfyddwch fwy ar: www.plentyndodchwareus.cymru

Ymgyrch gan Chwarae Cymru yw Plentyndod Chwareus

Yr Hawl i’r

‘Dechrau

Gorau mewn Bywyd’

Gwasanaeth Meithrin Teuluoedd CTM –Dr Bethan Phillips, Arweinydd Clinigol

Cafodd y Parent Infant Foundation ei gomisiynu yn 2021 gan Fwrdd Trawsnewid Blynyddoedd Cynnar Cwm Taf Morgannwg (EYTB) gyda chyllid gan Raglen Trawsnewid Blynyddoedd Cynnar Llywodraeth Cymru i gynnal darn o ymchwil ym maes perthnasoedd rhwng rhieni a babanod (PIR). Casglon nhw barn rhieni a siaradodd nhw ag ymarferwyr lleol am sut y maen nhw’n cefnogi teuluoedd i ddatblygu perthynas cryf rhwng babanod a’u rhieni.

Credir mai hwn yw’r arolwg mwyaf yn y DU o rieni ar y pwnc hwn, dangosodd yr ymchwil fod tua un o bob pump o fabanod a chafodd eu geni yn rhanbarth Cwm Taf Morgannwg (CTM) yn debygol o brofi anhawster perthynas rhwng rhieni a babanod mor sylweddol fel ei fod mewn perygl o’u iechyd meddwl a chorfforol, perthnasoedd cymdeithasol, cynnydd yn yr ysgol ac yn y gwaith cael eu heffeithio yn diweddarach. Mae graddfa’r angen yn uchel oherwydd bod cymunedau lleol yn profi lefelau uchel o galedi ac adfyd sy’n cyfrannu at bwysau cynyddol ar y berthynas rhiant rhwng baban.

Yn ogystal, dangosodd y data:

• Dywedodd rhienimai ansawdd y berthynas rhwng rhieni a babanod oedd y trydydd dylanwad pwysicaf ar ddatblygiad plentyn, ychydig yn is nag effaith trais yn y cartref a defnydd rhieni o gyffuriau.

• Dim ond 35% o rieni teimlodd fod digon o gymorth perthynas ar gael iddyn nhw yn y rhanbarth

• Doedd 65% ddim wedi cael eu gofyn am eu perthynas â’u babi

• Er mai dim ond 3% o rieni oedd wedi cael cymorth uniongyrchol ar gyfer eu perthynas rhwng rhieni a babanod, roedd 93% o’r rhieni hynny’n gweld y cymorth hwnnw’n ddefnyddiol.

Roedd casgliadau’r ymchwil yn awgrymu bod y tri awdurdod lleol, iechyd, y sector gwirfoddol a rhieni yn cydweithio i ddatblygu tîm PIR arbenigol rhanbarthol; a bod y tîm PIR arbenigol yn cynnig amrywiaeth o ymgynghori, goruchwylio, ymgorffori

arferion, gweithio ar y cyd a hyfforddi’r gweithlu i feithrin gallu a chysylltiadau ar draws y system.

Mewn ymateb i’r adroddiad hwn, a gyda llawer o waith caled ac ymdrech gan staff ar EYTB CTM, cafodd cais llwyddiannus gan Gronfa Integreiddio

Rhanbarthol CTM (RIF) ei ganiatáu am gyllid 12 mis i gefnogi datblygiad cychwynnol tîm PIR arbenigol. Ym mis Ebrill 2024 cafodd Gwasanaeth Meithrin Teuluoedd CTM ei sefydlu. Yn cynnwys

Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol rhan amser fel Arweinydd Clinigol a Rheolwr Prosiect, nid yw’r gwasanaeth yn wynebu’r cyhoedd ar hyn o bryd, ei amcanion allweddol ar hyn o bryd yw:

• Goruchwylio’r gwaith o ddatblygu a gweithredu dull system-gyfan gynaliadwy o hyfforddi a datblygu gweithlu’r blynyddoedd cynnar ar y berthynas rhwng rhieni a babanod.

• Datblygu Llwybr Meithrin Teuluoedd Rhanbarthol CTM, gan ddefnyddio arbenigedd ar draws iechyd, awdurdodau lleol, gofal cymdeithasol a’r trydydd sector

• Datblygu model gwasanaeth sy’n wynebu’r staff fel bod staff CTM sy’n gweithio yn y sector blynyddoedd cynnar yn gallu cael cymorth ac arweiniad ar gyfer pryder PIR. Bydd hyn yn cynnwys ymgynghoriad grŵp a rhannu arfer da.

• Datblygu gwasanaeth berthnasoedd rhwng rhieni a babanod rhanbarthol mewn partneriaeth ag iechyd, awdurdodau lleol, gofal cymdeithasol a’r trydydd sector a fydd yn denu cyllid cynaliadwy parhaus i alluogi darpariaeth gwasanaeth uniongyrchol gyda theuluoedd ar draws ôl troed CTM.

Mae hwn yn gyfle cyffrous iawn i CTM ddechrau gwneud gwahaniaeth i gefnogi rhieni i ddarparu’r dechrau gorau i fabanod a phlant ifanc y gobeithiwn barhau i’w yrru ymlaen fel rhanbarth. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd rhwystr parhaus ar bwysau cyllidebol ar gyfer yr holl bartneriaid statudol yn gweld y prosiect yn cael ei ddirwyn i ben erbyn mis Mawrth 2025 os na ellir sicrhau cyllid parhaus. Er bod yr holl bartneriaid yn cydnabod manteision ymyrraeth gynnar a phwysigrwydd buddsoddi yn y 1000 o ddiwrnodau cyntaf, nid yw pwysau ariannol ar awdurdodau lleol ac iechyd i fodloni’r galw presennol am wasanaethau yn gadael llawer o arian ar gael i’w fuddsoddi mewn datblygiadau gwasanaethau newydd.

Sicrhau fod manteision darllen, all newid bywydau, ar gael i holl blant Cymru

O enydau cyntaf plant, gall darllen gael effaith ddofn a phellgyrhaeddol, Mae ymchwil BookTrust, ‘Manteision Darllen’ yn canfod fod darllen yn cefnogi plant i oresgyn anfantais a achosir gan anghydraddoldeb, i ddatblygu gwell llesiant meddyliol, sgiliau cymdeithasol, a pherthynas gref ag eraill, taro cerrig milltir iaith a llafaredd, a gwneud y well yn yr ysgol ac i ddatblygu dychymyg, tosturi a chreadigrwydd.

Mae cyd-ddarllen hefyd yn dod â manteision ar unwaith i deuluoedd. Mae’n cefnogi creu rhwymau rhwng plant a’u rhieni, gofalwyr, neu aelodau eraill o’r teulu, mae’n hybu positifrwydd o du rhieni ac yn gwella cwsg plant. Bydd ymennydd plentyn yn profi’r tyfiant mwyaf yn ystod eu pum mlynedd gyntaf o fyw. Yn y blynyddoedd cynnar hynny,

mae cael sbardun gan lyfrau, a defnyddio llyfrau, straeon a rhigymau fel ffocws ar gyfer chwarae, siarad a chanu’n gwella twf gwybyddol, corfforol, cymdeithasol ac emosiynol, a datblygiad plant sy’n ymestyn yn bell y tu hwnt i’w plentyndod.

Os yw plant yn cael profiad o gyd-ddarllen yn gynnar, maen nhw’n fwy tebygol o barhau i ddarllen wrth iddyn nhw dyfu, ac mae effaith y darllen er pleser hwnnw’n bedair gwaith mwy grymus o ran dylanwadu ar gynnydd mewn geirfa, mathemateg a sillafu pan fydd y plentyn yn 16 oed, yn fwy nag addysg y rhiant na statws cymdeithasol-economaidd y rhiant. Fel gweithgaredd creu rhwymau, mae cyd-ddarllen yn y blynyddoedd cynnar yn cefnogi datblygiad ymrwymiad plentyn (pa mor ddiogel, saff ac ymddiriedol y maen nhw’n teimlo o gwmpas eu

rhiant neu ofalwr). Mae Ymrwymiad yn hanfodol i hapusrwydd a chymhwysiant cymdeithasol plentyn, a’u gallu i ffurfio cysylltiadau ystyrlon.

Mae plant sy’n dod o gefndiroedd incwm isel yn fwy tebygol fyth o elwa o’r manteision union-syth a mwy hirdymor a ddaw yn sgil cyd-ddarllen. Dengys tystiolaeth fod plant o gefndiroedd difreintiedig sy’n cyflawni’n uchel ar ddiwedd yr ysgol gynradd ddwywaith yn fwy tebygol o fod wedi cael rhywun yn darllen iddyn nhw gartref yn eu blynyddoedd cynnar, o’i gymharu â’u cyfoedion. Yn y tymor hir, mae gan ddarllen y potensial i drawsnewid cyfleoedd bywyd plant i’r dyfodol, Bydd gan blentyn sy’n cael ei fagu mewn tlodi, ond sy’n cael rhywun yn darllen iddo yn bum mlwydd oed, gyfle sylweddol uwch o gael llwyddiant economaidd yn ei 30au na’i gyfoedion oedd heb neb yn darllen iddynt. Mae’n hanfodol nad yw plant o gefndiroedd teuluol incwm isel ac agored i niwed yn colli’r cyfle i elwa o fanteision trawsnewidiol darllen ar y cyd yn ifanc.

Yn BookTrust rydyn ni’n gweithio gyda theuluoedd, gan eu cefnogi i ddechrau rhannu straeon a llyfrau gyda’i gilydd o’r oedran ifancaf posib. Rydyn ni’n gweithio ar gael plant i ddarllen, yn enwedig y rheiny o deuluoedd incwm isel neu gefndiroedd agored i niwed. Darperir ein llyfrau, a ddetholir yn ofalus, a’n rhaglenni sydd wedi cael eu hymchwilio’n drylwyr, gan bartneriaid lleol, gan ddod â hudoliaeth darllen gerbron plant.

Mae ein rhaglen Dechrau Da yng Nghymru’n cynnig pecyn llyfrau dwyieithog rhad ac am ddim, ynghyd â chynghorion gwych, i bob babi yn ystod blwyddyn gyntaf ei fywyd, ac unwaith eto pan fydd plentyn yn 2-3 oed. Mae’r pecynnau hyn, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn helpu i roi sbardun i arferion darllen teuluoedd, ac i’w cynnal. Yn 2023, rhoddwyd dros 60,000 o becynnau’n anrheg drwy gyfrwng ein partneriaeth gydag ymwelwyr iechyd a llyfrgelloedd ar draws pob awdurdod lleol yng Nghymru.

Rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi plant bregus a’r rheiny o gefndiroedd incwm isel, ac rydym wedi datblygu mentrau newydd gan gynnwys cynnig pecyn Dechrau Da Plant Bach i blant 1-2 oed, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ac wedi’u rhoi’n anrheg i 5,000 o blant drwy gyfrwng ystod o bartneriaid fel timau blynyddoedd cynnar awdurdodau lleol, grwpiau Cymraeg i Blant, timau ymwelwyr iechyd Dechrau’n Deg ac eraill,

ynghyd â phecyn Storïwr, set o lyfrau, adnoddau, gweithgareddau a phropiau ar gyfer ymarferwyr blynyddoedd cynnar, i’w defnyddio i arwain plant a theuluoedd ar anturiaethau adrodd straeon.

Dengys ein hymchwil fod yr ymwneud sy’n digwydd rhwng teuluoedd a gweithwyr proffesiynol ym maes y blynyddoedd cynnar yn creu argraff bwysig ar ddarllen fel teulu. Pan fydd gweithwyr proffesiynol y blynyddoedd cynnar yn annog rhieni a gofalwyr i rannu straeon, a dangos iddynt sut i wneud hynny, maen nhw’n cael mwy o symbyliad ac yn dod yn fwy hyderus. Er bod 28% o rieni a gofalwyr dros blant 0-12 mis oed yn dweud wrthym nad ydyn nhw’n ei chael hi’n hawdd darllen gyda’u plant, mae mwyafrif ymysg y rheiny wnaeth dderbyn cynghorion ynghylch sut i ddefnyddio’r llyfr a’r cynnwys ym mhecyn Dechrau Da Babi oddi wrth weithwyr proffesiynol y blynyddoedd cynnar yn adrodd am effaith gadarnhaol y pecyn ar eu hyder a’u hymddygiad wrth gyd-ddarllen.

Mae pwysigrwydd darllen ar y cyd o oedran cynnar iawn yn glir iawn o ran rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant. Mae hi’n hollbwysig felly fod yn rhaid cael cefnogaeth, llyfrau, ac adnoddau parhaus i helpu plant a theuluoedd, yn enwedig y rhai mwyaf agored i niwed ac o’r teuluoedd â’r incwm isaf, sef y rhai a all fod fwyaf ar eu hennill, i sicrhau fod y manteision a all ddod yn sgil darllen yn cael eu gwireddu gan bob plentyn.

I ddarllen mwy am Fanteision Darllen ewch i: booktrusts-benefits-of-reading-welsh-june-2024.pdf neu booktrusts-benefits-of-reading-june-2024.pdf

Jenny Carroll MA MCSP PGC(HE)

Cyfarwyddwr y Ganolfan, Parlys yr Ymennydd

Cymru

Sut y gallwn roi’r dechrau

gorau mewn bywyd i fabanod a enir yng

Nghymru /neu sy’n wynebu risg uchel o barlys yr ymennydd?

Ym Mharlys yr Ymennydd Cymru, mae rhoi’r dechrau gorau posibl mewn bywyd i fabanod wrth galon popeth a wnawn.

Parlys yr ymennydd yw un o’r anableddau corfforol mwyaf cyffredin ymysg plant ledled y byd, ac amcangyfrifir bod babi yn cael ei eni â’r cyflwr bob 5 diwrnod ledled Cymru.

Mae Cerebral Palsy Cymru yn ganolfan ragoriaeth genedlaethol sy’n cynnig therapi a chymorth arbenigol i blant a theuluoedd ledled Cymru sy’n byw gyda pharlys yr ymennydd. Mae ein gwaith clinigol yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol ac rydym yn cael ein cydnabod fel arbenigwyr ar gyfer parlys yr ymennydd yng Nghymru.

Mae ein gwasanaeth arbenigol ‘Dechrau Gwell, Dyfodol Gwell’ yn rhoi cyfle i fabanod teuluoedd ledled Cymru sydd â pharlys yr ymennydd neu’n wynebu risg o’i ddatblygu gael ymyrraeth gynnar.

Mae hwn yn wasanaeth unigryw, gan gyfuno therapi a chymorth i deuluoedd, a hwn yw’r unig wasanaeth o’i fath yn y DU. Mae’n achubiaeth hanfodol i lawer o deuluoedd.

Mae ymchwil yn dangos bod yr ymennydd ar ei fwyaf plastig ac addasadwy yn ystod 2 flynedd gyntaf bywyd. Felly, mae hwn yn gyfle pwysig i deuluoedd a’u babanod sy’n wynebu risg uchel o ddatblygu parlys yr ymennydd gael budd o ymyrraeth arbenigol. Rydym yn gwybod bod canlyniadau babanod yn y dyfodol yn well pan

fydd ymyrraeth yn dechrau cyn gynted â phosibl ac yn ystyried y teulu cyfan.

Prif nod ein hymyrraeth yw hyrwyddo llesiant, gweithgarwch a chyfranogiad y baban, gan ei gefnogi i gyrraedd ei lawn botensial o ran ei symudedd, dysgu cynnar, chwarae a chyfathrebu.

Mae ‘Dechrau Gwell, Dyfodol Gwell’ sicrhau’r cyfle i’n therapyddion weithio’n agos gyda phob baban a’i deulu, gan wneud y mwyaf o’r cyfle i sefydlu cysylltiadau niwrolegol sydd ond yn bosibl hyd at ddwy flynedd ar ôl cyfnod beichiogrwydd llawn ac yn helpu plant i gyflawni eu llawn botensial.

Mae dealltwriaeth well a chanfod yn gynnar wedi agor posibiliadau i ymyrryd yn gynnar. 3 mis cyntaf bywyd yw’r cyfnod pwysicaf ar gyfer niwroplastigedd. Mae ein hymennydd wedi’u ffurfio gan brofiadau ôl-enedigol, gan gynnwys teimlo cariad a magwraeth, meithrin cydberthnasau cadarnhaol â gofalwyr a chael cyfleoedd i ddysgu o nofelau, gweithgareddau priodol i ddatblygu sy’n hwyluso datblygiad gwybyddol a sgiliau echddygol. Mae hyn yn ei gwneud hi’n hanfodol i deuluoedd gael gafael ar ddarpariaeth arbenigol yn ystod yr amser hwn.

Mae ein therapyddion a’n swyddogion cymorth i deuluoedd yn gweithio gyda’i gilydd i gynnig ymyraeth a chymorth i deuluoedd. Pan fydd teuluoedd yn cysylltu â ni i ddechrau, maent yn aml yn dal i wella o drawma genedigaeth, yn ceisio ymdopi fel rhiant newydd a’r ffaith y gall eu plentyn gael anabledd. Yn aml, nid ydynt yn gwybod llawer am barlys yr ymennydd ac maent yn teimlo’n anobeithiol. Mae teuluoedd yn cael profiadau o broblemau iechyd meddwl ac emosiynol fel gorbryder, iselder, anhwylder straen wedi trawma a theimlo euogrwydd ac unigedd. Mae cael plentyn sydd â pharlys yr ymennydd yn effeithio ar y teulu cyfan, ac mae cael gafael ar ddull ymyrrydd a chyngor o’r dechrau yn cefnogi ac yn grymuso’r teulu cyfan, gan leihau lefel y trawma a’r straen y maent yn eu profi. Yn ein harolwg cymorth i deuluoedd blynyddol, dywedodd 58% o deuluoedd bod angen cymorth emosiynol arnynt, a dywedodd 42% bod angen cymorth iechyd meddwl arnynt. Ar draws 2022/2023, dywedodd 47% o deuluoedd nad oeddent wedi cael y cymorth hwnnw gan unrhyw le heblaw Cerebral Palsy Cymru.

Caiff ‘Dechrau Gwell, Dyfodol Gwell’ ei ariannu’n llwyr gan ein gweithgareddau codi arian megis rhoddion cyhoeddus, digwyddiadau ac incwm a gynhyrchir yn ein siopau elusen. Ar hyn o bryd, nid chawn unrhyw gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru na’r GIG i ariannu ‘Dechrau Gwell, Dyfodol Gwell’. Wrth i’r galw am y gwasanaeth hanfodol hwn gynyddu bob blwyddyn, ac wrth i’r elusen wynebu costau uwch, mae babanod a theuluoedd yn wynebu’r risg o beidio â gallu cael gafael ar y gwasanaeth arbenigol hwn a gymeradwyir yn rhyngwladol, sy’n newid bywydau babanod a’u dyfodol.

Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, gyda’r nod o wneud y gwasanaeth hwn yn rhan o’r ddarpariaeth statudol ar gyfer yr holl fabanod a theuluoedd, drwy wneud buddsoddiadau blynyddol i sicrhau y caiff pob baban a enir yng Nghymru â pharlys yr ymennydd y dechrau gorau posibl mewn bywyd. Dywedodd un rhiant wrthym:

“Dylai pob plentyn gael y cyfle i gael byw bywyd fel fy merch – ni ddylai fod yn fater o lwc neu loteri cod post. Mae ‘Dechrau Gwell, Dyfodol Gwell’ yn wasanaeth therapi hanfodol a all newid dyfodol bywydau plant a’u teuluoedd. Dylai fod ar gael i bob plentyn sy’n wynebu risg o barlys yr ymennydd ac mae angen i’r ymyriadau ddechrau cyn gynted â phosibl. Nid rhywbeth dewisol yw’r gwasanaeth hwn, mae’n angenrheidiol - dylai pob plentyn gael yr hawl i ddyfodol gwell.”

Cysylltu babanod â byd natur ar gyfer dyfodol iach

Cyfoeth Naturiol Cymru

Mae Cymru ar daith i ymaddasu i’r argyfyngau hinsawdd a natur. Mae newid hinsawdd a diraddio’r adnoddau naturiol yr ydym yn dibynnu arnynt i fyw yn cael effaith ddofn ar hawl ein plant i ddod i oed a byw mewn amgylchedd iach, gyda mynediad at fwyd, aer a dŵr glân, iechyd ac addysg. Mae UNICEF yn amcangyfrif bod biliwn o blant ar draws y byd mewn perygl difrifol oherwydd effeithiau newid hinsawdd.

Mae bellach yn bwysicach nag erioed bod ein dinasyddion ieuengaf, a chenedlaethau’r dyfodol, yn dod i oed yn deall eu lle o fewn y byd naturiol, gan werthfawrogi a gofalu am yr amgylchedd, fel nad ydynt yn ailadrodd yr un camgymeriadau a wnaethom yn y gorffennol.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cydnabod ein bod ni i gyd wedi ein geni â chysylltiad cynhenid

â’r amgylchedd naturiol. Fodd bynnag, dros amser, mae ein diwylliant yn lleihau dyfnder y cysylltedd hwnnw yn araf. Os bydd ein babanod a’n plant ifanc yn cynnal ac yn cryfhau eu perthynas â natur, bydd eu dyfodol yn argoeli’n fwy disglair o lawer.

O eiliad cyntaf ein cenhedlu, rydym yn perthyn i natur ac yn dibynnu ar yr amgylchedd naturiol am ein bywydau cyfan. Mae adnoddau naturiol yn darparu ein hanghenion sylfaenol: yr aer rydym yn ei anadlu, y dŵr rydym yn ei yfed a’i ddefnyddio i gadw’n lân, a’r bwyd sy’n maethu ein cyrff. Mae adnoddau naturiol yn cyfoethogi ein bywydau, yn ein cefnogi i fod yn iachach, ac yn cynnig lleoedd a mannau i ni chwarae, dysgu ac ymlacio. Os ydym yn gofalu am natur, rydym yn gofalu amdanom ni ein hunain, a’r blaned.

Cyn geni, gall llawer o ffactorau allanol eisoes fod yn effeithio ar ein hiechyd gydol oes. Mae’r ffactorau hyn yn cael eu hadnabod fel penderfynyddion ehangach iechyd, sef ystod amrywiol o ffactorau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol sy’n effeithio ar iechyd pobl. Gallai natur helpu i wrthbwyso rhai o’r agweddau negyddol ar y rhain. Er enghraifft, mae’r mamau mwyaf difreintiedig yn fwy tebygol o gael babanod gyda phwysau geni isel. Canfu astudiaeth yn Israel fod mamau difreintiedig wedi profi newid cadarnhaol ym mhwysau eu baban ar ôl cael eu hamlygu i wyrddni.

Mae 1,000 diwrnod cyntaf o fywyd baban – o eiliad cyntaf ei genhedlu hyd at ddwy flwydd oed – yn gyfnod hollbwysig pan fo sylfeini datblygiad plentyn yn cael eu gosod. Mae’r blynyddoedd cynnar ym mywyd plentyn yn gyfnodau lle mae’r corff a’r ymennydd yn tyfu ac yn datblygu’n gyflym. Yn ystod y cyfnod hwn, mae ymennydd plentyn yn dechrau tyfu, gan adeiladu’r sail ar gyfer ei iechyd a’i lesiant gydol oes. Mae’r cyfnod hwn yn cynnig cyfle i feithrin cysylltiad gydol oes â natur.

Gall y broses cysylltu â natur ddechrau cyn geni, gyda’r Fam Ddaear yn darparu amgylchedd iach i ddarpar famau gymryd rhan mewn gweithgareddau ymarfer corff ysgafn yn yr awyr agored, megis cerdded a chael awyr iach.

Mae hyn yn caniatáu’r pethau canlynol:

• Magu stumog am fwydydd iach.

• Creu fitamin D oherwydd amlygiad i olau dydd naturiol.

• Lleihau straen trwy ymlacio mewn mannau naturiol.

• Gwell llesiant trwy fwynhau golygfeydd, synau, gweadau a newidiadau byd natur.

Mae ymchwil wyddonol yn awgrymu bod dod i gysylltiad â’r amgylchedd naturiol yn ystod beichiogrwydd yn hybu twf iach y ffetws, pwysau geni uwch, a llai o siawns y bydd baban yn fach o ystyried oed y ffetws. Mae tystiolaeth hefyd i awgrymu y bydd llai o risg o gymhlethdodau mewn perthynas â beichiogrwydd, anhwylderau meddwl, a chanlyniadau geni negyddol.

Mae ymchwil hefyd yn dangos bod babanod a phlant ifanc yn mwynhau buddion datblygiadol a chyfannol mewn perthynas ag iechyd corfforol a llesiant meddwl trwy gysylltu â natur a threulio amser ynddi.

Yr hyn sy’n allweddol i gysylltiad effeithiol â byd natur ar gyfer pob baban a phlentyn ifanc yw’r rhyngweithio rhwng oedolion, yr amgylchedd awyr agored, a phrofiadau difyr. Fel gofalwyr, ein rôl yw darparu profiadau addas a chadarnhaol sy’n seiliedig ar natur i fabanod a phlant ifanc. Trwy wneud hyn, gallant ddatblygu eu chwilfrydedd, parch a rhyfeddod tuag at y byd naturiol trwy archwilio a dysgu sut i deimlo’n gyfforddus a diogel yn yr awyr agored, gan arwain at werthfawrogiant o fyd natur a’r dymuniad i ofalu amdano wrth iddynt ddod i oed. Mae gan oedolion sy’n rhan o fywyd plentyn ddylanwad aruthrol ar brofiad plentyn o’r byd. Gall oedolion sy’n galluogi dysgu agor drysau i fyd natur sy’n ysbrydoli, herio, meithrin a chefnogi babanod a phlant ifanc, gan eu cychwyn ar daith o fod yn gysylltiedig â natur a fydd yn para ar hyd eu hoes.

Dysgu yn yr amgylchedd naturiol, dysgu amdano, a dysgu ar ei gyfer.

Cysylltwch ag addysg@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu ewch i https://naturalresources.wales/learning?lang=cy

Cylch i Bawb: Croesawu pob

teulu gyda’n pecyn LHDTC+

Mae gan bob plentyn hawl i fyw mewn byd heb ragfarn; byd gwirioneddol gynhwysol sy’n eu croesawu ac mae Mudiad Meithrin a’n lleoliadau, yn croesawu plant o deuluoedd a chefndiroedd amrywiol.

Yn ddiweddar, ‘ry’n ni wedi lansio adnodd newydd ar gyfer lleoliadau blynyddoedd cynnar, sef “Cylch i Bawb: Croesawu pob teulu gyda’n pecyn LHDTC+”

Mae’n cynnwys cyngor i staff am:

• siarad â theuluoedd,

• defnyddio’r termau cywir,

• deall stereoteipiau,

• ateb cwestiynau plant,

• adnoddau i’w defnyddio yn y lleoliad,

• syniadau ar gyfer helpu plant i ddysgu am berthyn a gwahanol deuluoedd, cariad a chyfeillgarwch, a gweithgareddau ar gyfer dathlu Balchder (Pride).

Mae’r pecyn yn codi ymwybyddiaeth am yr hawliau sydd gan blant ac am y rôl bwysig sydd gan leoliadau blynyddoedd cynnar yn hyrwyddo’r hawliau hyn; ‘ry’n ni am i bob plentyn fod yn nhw eu hunain, cyrraedd eu llawn botensial a mwynhau perthnasoedd boddhaus, iach a diogel.

Mae’n cynnwys syniadau i wreiddio hawliau plant yng ngweithgareddau dydd i ddydd y lleoliad, e.e. drwy drafod gyda’r plant bwysigrwydd trin pawb yn deg a charedig, neu drafod teuluoedd gwahanol, ymdeimlad o berthyn , cariad a chyfeillgarwch. Mae hefyd yn cynnig cyngor ar ateb cwestiynau plant, ac am adnoddau fel llyfrau stori sy’n adlewyrchu hawliau plant .

Mae Mudiad Meithrin am i bob plentyn sy’n mynychu’n lleoliadau ddeall fod gan bawb hawliau drwy gydol eu hoes, beth bynnag

eu cefndir, ac felly mae’r pecyn yn cynnwys gweithgareddau i ddathlu Balchder (Pride). Mae hefyd yn rhoi sylw i adnoddau, gweithgareddau a gwersi hawliau Comisiynydd Plant Cymru ar gyfer y blynyddoedd cynnar, a ddatblygwyd i hyrwyddo hawliau unigol Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, fel

• Mae gen i hawl i gael fy amddiffyn rhag cael fy niweidio neu fy nhrin yn wael

• Mae gen i hawl i gael fy ngwrando a’m cymryd o ddifri

• Rhaid i oedolion wneud beth sydd orau i fi

‘Ry’n ni am i’r holl blant sy’n mynychu lleoliadau Mudiad Meithrin, ddatblygu empathi a thosturi, ac i feithrin cyfeillgarwch ystyrlon nawr ac yn y dyfodol. ‘Ry’n ni am iddyn nhw ddysgu bod yn garedig wrth ei gilydd, i fod yn deg ac i barchu a gwerthfawrogi ei gilydd. Mae “Cylch i Bawb: Croesawu pob teulu gyda’n pecyn LHDTC+” yn gam yn y cyfeiriad cywir tuag at wireddu’r weledigaeth hon.

Mae Cylch i Bawb: Croesawu pob teulu gyda’n pecyn LHDTC+, ar gael trwy wneud cais o http://www.meithrin.cymru/adnoddau-dysgu-adatblygu/

The following link contains a short video introducing the pack:

Fideo Pecyn Cymraeg gyda isdeitlau on Vimeo

Sut helpodd Parents Plus* i roi’r Dechrau

Gorau Bywyd i mi

Dr Rebecca Stewart a Dr Nicola Canale (gyda diolch i Lucy a’i mam)

Helo!

Fy enw i yw Lucy, dydw i ddim wedi cael fy ngeni eto, ond roeddwn i eisiau dweud wrthych chi am sut mae Paretns Plus wedi bod yn helpu fy mam i fod y rhiant gorau y gall hi fod i mi nawr a phan fyddaf yn cael fy ngeni.

Roedd yn syndod mawr i fy mam ddarganfod ei bod hi’n feichiog gyda mi gan iddi gael gwybod na allai gael mwy o blant. Cymerodd amser iddi gredu fy mod i’n dod ac i ddechrau siarad â mi. Unwaith y gwnaeth hi, roedd yn wych clywed ei llais.

Helpodd Parents Plus fy mam i ddeall pam mae siarad â mi, hyd yn oed cyn i mi gael fy ngeni, mor bwysig. Dwi wrth fy modd yn clywed llais fy mam. Mae’n gwneud i mi deimlo’n ddiogel. Pan nad ydw i’n clywed ei llais am gyfnod, rydw i’n rhoi cic bach iddi, ac mae hi’n dechrau siarad â mi eto, neu rwbio ei bol. Mae hyn yn gwneud i mi deimlo fy mod yn cael fy nghlywed ac yn bwysig. Mae Mam hefyd yn stopio gwneud rhai pethau pan dwi’n dangos iddi nad ydw i’n eu hoffi nhwfel bwyta cyri!

Mae fy mam bellach yn gallu meddwl am yr hyn rydw i ei eisiau i mi aros yn iach ac yn ddiogel wrth i mi ddatblygu yn y groth. Mae hi’n dweud y pethau hyn yn uchel wrtha i. Er nad wyf yn deall y geiriau eto, pan gaf fy ngeni, bydd hyn yn fy helpu i ddeall a dysgu ymdopi â gwahanol deimladau.

Doedd fy mam ddim wedi cael dechrau da iawn i’w bywyd. Nid oedd ei gofalwyr yn gallu ei dysgu sut i ymdopi â’i theimladau mawr ei hun, felly roedd yn rhaid iddi ddod o hyd i ffyrdd o wneud hyn ar ei phen ei hun. Yn ffodus, fe wnaeth modryb fy mam ei helpu drwy wrando arni a gwneud iddi deimlo ei bod yn cael ei derbyn am pwy yw hi. Mae Parents Plus wedi helpu fy mam i feddwl am yr hyn a wnaeth ei modryb i wneud iddi deimlo’n ddiogel ac yn annwyl fel ei bod yn gallu gwneud yr un peth i mi.

Mae Parents Plus wedi helpu fy mam i feddwl am sut mae ei theimladau mawr yn gwneud i mi deimlo. Mae hi’n ymarfer ffyrdd o helpu ei hun i tawelu ei feddwl, fel bod ganddi rai strategaethau da nawr a phan fyddaf yn cael fy ngeni (pan allai pethau fynd ychydig yn anodd iddi). Mae gofalu am rywun bach yn gallu bod yn anodd iawn weithiau!

Trwy sgyrsiau gyda Parents Plus, mae fy mam bellach yn gwybod y bydd angen ei help arnaf i wneud synnwyr o’m teimladau mawr fy hun, ac ymdopi â nhw. Mae fy mam wedi gallu meddwl am yr hyn y bydd hi’n gallu ei wneud i drwsio ein perthynas yn ystod adegau pan nad yw’n gallu ‘bod gyda’r’ teimladau mawr yma.

Mae fy mam eisiau bod yn ganolfan ddiogel lle gallaf archwilio’r byd a bod yn hafan ddiogel y gallaf ddychwelyd iddi pan fydd pethau’n mynd yn ormod. Mae Parents Plus wedi helpu fy mam i feddwl am sut y gall hi wneud hyn. Mae hi bellach yn teimlo’n fwy hyderus yn ei gallu i wneud hyn i mi. Mae hi hefyd yn gwybod pwy yw’r gwahaniaeth rhwng pobl ddiogel ac anniogel i’m cadw’n ddiogel pan fyddaf yn cael fy ngeni.

Dyma rai o’r pethau dywedodd fy mam am y gwaith:

Heb y gwaith hwn, fyddwn i ddim wedi bod yn barod yn feddyliol i fod yn fam eto. Er fy mod i’n gwybod beth roeddwn i eisiau, doeddwn i ddim yn teimlo’n hyderus. Rydych chi wedi rhoi map ffordd i mi i’m helpu i gyrraedd yno.

Rwy’n dod o hyd i ffyrdd o dawelu fy hun cyn i bethau fynd yn ormod ac ymarfer hyn nawr, felly rwy’n gwybod sut i ymdopi â fy emosiynau pan fydd y babi yn cael ei eni.”

Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gwrdd â mam. Mae hi’n swnio’n anhygoel! Lucy.

*Mae Rhieni a Mwy yn wasanaeth sy’n cael ei arwain gan seicoleg sy’n ffurfio rhan o Rhianta a Chwarae Caerdydd yn Cymorth Cynnar Caerdydd. Mae Rhieni a Mwy yn dîm sy’n cael ei ariannu gan LlC, sy’n gweithio gyda rhoddwyr gofal a babanod/plant ifanc o’r cenhedlu i’r dderbynfa. Yn ystod y 1000 diwrnod cyntaf, mae’r gwaith yn canolbwyntio ar gefnogi perthynas ddiogel rhwng rhoddwyr gofal a’u babanod/plant ifanc. Mae’r tîm yn cynnwys seicolegwyr ac ymarferwyr sy’n cael eu harwain gan seicoleg, sydd wedi derbyn hyfforddiant arbenigol mewn dulliau y dangoswyd eu bod yn cefnogi perthnasoedd rhwng rhieni a babanod a babanod a phlant ifanc.

Nicola.Canale@Cardiff.gov.uk

Rhoi’r Dechrau Gorau mewn Bywyd i Bob Baban: Cipolygon o Ganwyd yng Nghymru

Un o uchelgeisiau allweddol Llywodraeth Cymru yw bod pob baban yn cael y dechrau gorau mewn bywyd. Ond beth mae hynny’n ei olygu i deuluoedd sy’n wyneb heriau dydd i ddydd?

I ddeall yr heriau hyn, mae astudiaeth carfan o enedigaethau, Ganwyd yng Nghymru, a sefydlwyd yn 2020 ac a ariennir gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Llesiant y Boblogaeth, yn archwilio dylanwadau presennol ar iechyd, lles a bywyd teuluol yn ystod beichiogrwydd a blynyddoedd cynnar bywyd. Mae’r ddealltwriaeth hon yn hollbwysig i lywio deilliannau iechyd, llesiant ac addysg i blant yng Nghymru yn y dyfodol.

Adeiladu set ddata gyfoethog

Mae Ganwyd yng Nghymru yn astudiaeth hirdymor sy’n ymrwymo i ymchwil gynhwysfawr

a chasglu data cynhwysfawr. Trwy dri arolwg i rieni sy’n dechrau cyn genedigaeth ac yn para tan 5 oed, mae’r prosiect yn casglu data helaeth ar iechyd, datblygiad a llesiant babanod, plant a rhieni yng Nghymru. Mae’r set ddata gyfoethog hon yn mynd y tu hwnt i arolygon. Mae’n ymgorffori cofnodion iechyd electronig, cronfeydd data addysg cenedlaethol, data gofal cymdeithasol a sganiau uwchsain, gydag oddeutu 30,000 o enedigaethau newydd yn cael eu hychwanegu at y garfan bob blwyddyn.

Trwy ddadansoddi’r cyfoeth hwn o wybodaeth a data, mae ymchwilwyr yn ennill cipolygon gwerthfawr i sut gall ffactorau fel iechyd neu amgylchedd cymdeithasol y fam effeithio ar ddatblygiad plentyn. Mae’r ymchwil hon yn hanfodol ar gyfer datblygu polisïau seiliedig ar dystiolaeth i gefnogi iechyd a llesiant teuluoedd, yn enwedig i boblogaethau agored i niwed.

Trwy ddefnyddio data o HAPPEN (rhwydwaith iechyd ac addysg ysgolion cynradd), Ganwyd yng Nghymru, gall ymchwilwyr olrhain iechyd a llesiant plant o’r cyfnod cyn geni, dros y blynyddoedd meithrin hyd at ysgol gynradd. Mae’r agwedd hydredol, gynhwysfawr hon yn darparu dealltwriaeth fanylach o sut mae ffactorau plentyndod yn effeithio ar ddatblygiad.

Ymgysylltu â’r Gymuned

Mae ymgysylltu â’r gymuned yn elfen allweddol o Ganwyd yng Nghymru. Mae Grŵp Adborth Teuluoedd Iach Ymgysylltu â Chleifion a’r Cyhoedd, sy’n cynnwys 39 o rieni ymgysylltiedig, yn chwarae rôl hanfodol wrth lywio’r ymchwil. Mae cyfarfodydd chwarterol yn caniatáu i aelodau rannu eu cipolygon a’u profiadau, gan sicrhau bod y prosiect yn mynd i’r afael ag anghenion a phryderon go iawn.

Mae Ganwyd yng Nghymru yn cydweithredu ag ysbytai a llyfrgelloedd i ymgysylltu â’r gymuned ymhellach, gan gynnal sesiynau ymwybyddiaeth a dosbarthu deunyddiau gwybodaeth. Mae’r allgymorth hwn yn ymestyn i ysbytai lleol lle mae aelodau’r tîm, gyda chefnogaeth bydwragedd ymchwil, yn recriwtio mamau a thadau beichiog i’r arolygon. Mae’r rhyngweithio wyneb yn wyneb hwn yn amhrisiadwy, gan ganiatáu i rieni fynd i’r afael ag unrhyw gwestiynau neu bryderon a deall pwysigrwydd cymryd rhan.

Ymestyn Allan i Dadau

Gan gydnabod anghenion unigryw tadau, mae Ganwyd yng Nghymru wedi gwneud ymdrech bendant i’w cynnwys trwy ymestyn allan i grwpiau tadau. Mae’r trafodaethau hyn ar fagu plant, iechyd a llesiant wedi ehangu effaith y prosiect trwy gasglu gwybodaeth hanfodol am y profiadau a’r heriau y mae tadau yng Nghymru yn eu hwynebu.

Deall dynameg teuluol

Mae’r astudiaeth hefyd yn archwilio digwyddiadau bywyd, gan gynnwys bywyd gwaith a straen ar fenywod beichiog a’u partneriaid. Trwy gysylltu data iechyd, ysgolion a data arall, ei nod yw cael dealltwriaeth well o’r sefyllfaoedd teuluol sy’n gallu effeithio ar blentyndod cynnar. Nod y dull

cynhwysfawr hwn yw darparu tystiolaeth o’r hyn sy’n gweithio i gefnogi plant a theuluoedd o’r dechrau’n deg.

Mae Hope Jones, Ymchwilydd Arweiniol gyda Ganwyd yng Nghymru, yn pwysleisio arwyddocâd estyn allan i’r gymuned: “Yn Ganwyd yng Nghymru, credwn y dylai ymchwil adlewyrchu amrywiaeth ein cymunedau. Trwy ymgysylltu’n weithgar â grwpiau yn y gymuned nad ydynt fel arfer yn cymryd rhan mewn ymchwil, rydym yn sicrhau bod ein canfyddiadau yn gynhwysol a’u bod yn cynrychioli profiadau pob teulu yng Nghymru.”

Ychwanegodd yr Athro Sinead Brophy, Cyfarwyddwr yn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Llesiant y Boblogaeth: “Mae Ganwyd yng Nghymru wedi ymrwymo i ymchwil gynhwysol, dryloyw, wedi’i gyrru gan y gymuned. Trwy bontio bylchau, grymuso lleisiau a chydweithredu trwy ymchwil fanwl, rydym yn paratoi’r ffordd i bob plentyn yng Nghymru gael y dechrau gorau mewn bywyd. Nod ein canfyddiadau yw grymuso teuluoedd, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a llunwyr polisi i wneud penderfyniadau gwybodus ar gefnogi teuluoedd yn ystod y cyfnod hanfodol hwn.”

I gael mwy o wybodaeth am sut mae Ganwyd yng Nghymru yn cefnogi teuluoedd, ewch i https:// ncphwr.org.uk/cy/portfolio/born-in-wales-overview/

Cardiff University Social Science Research Park (SPARK), Cardiff, CF24 4HQ 029 2034 2434

@ChildreninWales info@childreninwales.org.uk childreninwales.org.uk

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.