CIW Autumn magazine 2023 (Welsh)

Page 1

Rhifyn 86 Hydref 2023 childreninwales.org.uk

Adeiladu Cymru lle mae gan bob plentyn a pherson ifanc eu holl hawliau wedi’u cyflawni

30ain

penblwyd

d

(Rhan 1)

CYNNWYS Julie Morgan AS a Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Latch Ysgol Gynradd Bryn Celyn

HEFYD: NYAS Cyngor Caerdydd Chwarae Cymru Ty Hafan Coleg Sir Gar


HYDREF 2023 | 3

CROESO

Croeso gan Hugh Russell, Prif Weithredwr Croeso cynnes iawn i rifyn yr Hydref cylchgrawn chwarterol aelodau Plant yng Nghymru. Wrth i Plant yng Nghymru ddathlu ein pen-blwydd yn 30 oed, rydym hefyd yn troi’n sylw yn y rhifyn hwn at rai o’r gwasanaethau ac ymgyrchoedd sydd wedi galluogi plant i gael gwireddu eu hawliau yn ystod y cyfnod hwnnw. Fel aelod eithaf newydd o’r tîm yma yn Plant yng Nghymru, rwy’n hynod falch o fod yn arwain sefydliad sydd wedi, ynghyd â’n haelodau, cyfrannu at gymaint o gynnydd tuag at rymuso plant i arfer eu hawliau, yma yng Nghymru. Mae ein gwaith uniongyrchol â’r Cenhedloedd Unedig, er enghraifft, i ddarparu’r gwaith gwerthfawr o graffu ar gynnydd Cymru ym maes hawliau plant, yn cael ei drafod mewn cyfraniad gan Gyfarwyddwr Polisi Plant yng Nghymru, Sean O’Neill.

6

4

Helo!

Croeso gan ein Prif Weithredwr

3

Julie Morgan, AS

4

Plant yng Nghymru

6

NYAS Cymru

8

Cyfoeth Naturiol Cymru

10

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd

12

a’r Fro

12

Ysgol Gynradd Bryn Celyn

13

Coleg Sir Gar

15

CCYILB

16

Chwarae Cymru

18

LATCH

20

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi

21

Cadwaladr

15

Clybiau Plant Cymru

22

The Fostering Network

23

DARGYFEIRIO

24

Ty Hafan

25

Home Start Cymru

27

Comisiynydd Plant Cymru

28

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

28

29

EYST

30

ProMo Cymru

32

Golygydd: Louise O’Neill louise.oneill@childreninwales.org.uk 21 Plas Winsor, Caerdydd CF10 3BY 029 2034 2434 @ PlantyngNghymru info@childreninwales.org.uk Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313 Rhif Cofrestru’r Cwmni: 2805996

childreninwales.org.uk

Nid yw’r farn a fynegir yn y cyhoeddiad hwn o reidrwydd yn farn Plant yng Nghymru, ac rydym ni’n cadw’r hawl i olygu cyn cyhoeddi

Fel y gallwch chi ddychmygu, gyda phwnc mor ddeniadol i’w drafod, rydym wedi cael casgliad hynod o gyfraniadau i’r rhifyn hwn o’r cylchgrawn, gan edrych yn ôl dros y cyfnod hwnnw o 30 mlynedd (a chyfnodau hirach mewn rhai achosion, gydag elusen LATCH, er enghraifft, sy’n aelod newydd, yn dathlu 40 mlynedd o’r gwasanaethau gwych a ddarperir ganddi i blant â chanser a’u teuluoedd) a darparu ystod eang o enghreifftiau o wasanaethau sy’n seiliedig ar hawliau sydd oll wedi cyfrannu at greu Cymru sy’n lle gwell i dyfu i fyny ynddi. Mae’r cyfraniadau’n cynnwys ystyried y ffordd y mae Tŷ Hafan wedi cynnwys hawliau plant wrth ddylunio ei gwasanaethau; cyfraniad gan y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol (NYAS) sy’n dathlu pŵer eiriolaeth yng Nghymru; ac mae Clybiau Plant Cymru wedi ysgrifennu darn gwych ar ei waith wrth hyrwyddo Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) drwy ei gyrsiau hyfforddi i weithwyr chwarae, gan godi mwy o ymwybyddiaeth o hawliau plant, a sicrhau y caiff CCUHP ei weithredu yn eu gwaith o ddydd i ddydd gyda phlant. Yn ogystal â dathlu llwyddiant y gorffennol, mae gennym un llygad ar ddyfodol hawliau plant yng Nghymru. Gan gadw hynny mewn cof, mae gennym ddarn gwych gan Goleg Sir Gâr ar arwyddocâd cyflwyno Cwricwlwm newydd i Gymru – y diwygiad addysgol mwyaf arwyddocaol mewn dros 30 mlynedd – i blant a phobl ifanc. Rydym hefyd yn clywed gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar sut bydd y Siarter Hawliau Plant Gogledd Cymru newydd, a fydd yn sicrhau fod gan blant a phobl ifanc lais ar feysydd sy’n bwysig iddyn nhw, yn gweithredu yn unol ag Erthygl 12 CCUHP. Wrth gwrs, er gwaethaf yr holl gynnydd a wnaed yn ystod y 30 mlynedd ddiwethaf, mae llawer mwy i’w wneud. Mae gan dlodi presenoldeb ystyfnig a hyll o hyd ym mywydau gormod o blant a theuluoedd yng Nghymru ac mae ein hadroddiad diweddar ar ganfyddiadau ein 7fed Arolwg Blynyddol ar Dlodi Plant a Theuluoedd yn ddigon i’ch gwylltio. Mae dyfyniadau brawychus i’w gweld gyda

phobl ifanc a darparwyr gwasanaeth yn disgrifio plant yn methu â chanolbwyntio yn yr ysgol oherwydd eu bod yn llwglyd ac yn methu â chyrraedd yr ysgol hyd yn oed mewn rhai achosion oherwydd cost trafnidiaeth. Ar nodyn cadarnhaol, mae cefnogaeth gref yn yr adroddiad hwn i gyflwyno prydau ysgol am ddim i bawb (er bod angen gofalu y caiff ansawdd y prydau hyn eu cynnal), sydd wedi sicrhau bod llai o stigma, gwell maeth a llai o ymdeimlad o euogrwydd ac iechyd meddwl gwael ymysg rhai rhieni. Rydym yn gwybod y bydd cyllideb nesaf Llywodraeth Cymru yn un anodd, ond rôl Plant yng Nghymru yw amlygu profiadau’r rhai hynny sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc, yn ogystal â phlant a phobl ifanc eu hunain; ni allan nhw oddef unrhyw doriadau pellach. Mae’n hollbwysig y caiff y cyd-destun y mae llawer o blant a theuluoedd bellach yn byw ynddo ei ddeall yn glir a bod hyn yn arwain at ymdrechion ar y cyd i lwyr amddiffyn y cyllidebau ar gyfer y rhaglenni, ymyriadau a gwasanaethau hynny y mae mwy a mwy o blant, pobl ifanc a theuluoedd yn dibynnu arnyn nhw. Rydym yn manteisio ar bob cyfle i ddadlau ein hachos ar ran aelodau i sicrhau fod y plant hynny, y mae costau byw wedi disgyn arnynt heb unrhyw fai arnyn nhw eu hunain, yn cael eu clywed a’u gwasanaethau’n cael eu diogelu. I orffen fy nghyflwyniad ar nodyn cadarnhaol, hoffwn nodi pa mor ddiolchgar ydw i am y croeso cynnes rwyf wedi’i gael yn ystod fy nhri mis cyntaf yn y swydd. Mae aelodau Plant yng Nghymru wedi bod yn hael ac yn barod iawn gyda’u hamser ac rwyf wir wedi mwynhau cyfarfod nifer ohonoch chi a dysgu mwy am eich gwaith. Cysylltwch â mi ar bob cyfrif – byddwn i wrth fy modd yn cyfarfod rhagor ohonoch chi. Diolch yn fawr a dymuniadau gorau ar gyfer y misoedd sydd i ddod. Cyfarfod gyda Fateha Ahmed, EYST

Aelodaeth Plant yng Nghymru Mae aelodaeth bellach wedi’i gwneud yn haws i chi - mae’r pŵer yn eich dwylo i gael mynediad at eich dewisiadau eich hun a’u rheoli gan ddefnyddio ein platfform aelodaeth. Byddwch yn gallu cael mynediad at ystod eang o fuddion drwy’r platfform hwn, gan gynnwys eich rhif aelodaeth, cod disgownt at ein cyrsiau hyfforddi, adnoddau gan gynnwys Efriffiadau Aelodau Plant yng Nghymru a Eurochild, hen gopïau o’r Cylchgrawn hwn, digwyddiadau rhwydweithio i aelodau yn unig, a chyfleoedd unigryw eraill. I weld yr ystod lawn o fuddion aelodaeth, ewch i’n platfform yma.


4 | CHILDRENINWALES.ORG.UK

Pa mor bell rydyn ni wedi dod yng Nghymru o ran hawliau plant?

Julie Morgan, AS a Dirprwy Weinidog y Gwasanaethau Cymdeithasol

Cwestiwn: Beth, yn eich barn chi, yw’r newidiadau mwyaf effeithiol a fu mewn perthynas â hawliau plant dros y 30 mlynedd diwethaf? Rwy’n credu bod sawl un, ond yn bersonol byddwn i’n dewis y Mesur Plant am ei fod yn ddarn o ddeddfwriaeth bwysig iawn, ac mae’n golygu bod yn rhaid i ni ystyried safbwyntiau bob plentyn a pherson ifanc ym mhob penderfyniad a wnawn yn Llywodraeth Cymru. Rwyf hefyd yn falch iawn o’r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi deddfu ar gyfer rhoi terfyn ar gosbi plant yn gorfforol; mae hynny’n rhywbeth rydw i wedi bod yn ymwneud yn fawr ag ef ac wedi brwydro drosto ers dros 20 mlynedd. Pan oeddwn i’n AS yn San Steffan, ac yna pan ddes i yma i’r Senedd, roeddwn i’n teimlo yr holl amser ei bod hi’n hollol anghywir nad oeddech chi’n cael taro oedolyn, ond eich bod chi’n cael taro plentyn. Felly, un o’r pethau roeddwn i am wneud pan ddes i i’r Senedd oedd ceisio newid y ddeddf honno ac rydw i mor falch ei bod bellach ar waith ar eich cyfer chi. Dyw hi ddim yn gyfreithiol taro plentyn mwyach a, hyd yn hyn, mae’n gweithio’n dda yn fy marn i. Y peth arall fyddwn i’n ei ddewis, sy’n arwyddocaol iawn yn fy marn i, yw rhoi’r bleidlais i bobl ifanc 16 ac 17 oed. Eto, mae’n rhywbeth rwy’n teimlo’n gryf amdano ac yn rhywbeth rwyf wedi ei gefnogi ers blynyddoedd lawer. Cyflwynais Fil Preifat amdano yn San Steffan, ac rwy’n falch ein bod ni yn y Senedd wedi gallu sicrhau fod pobl ifanc 16 ac 17 oed yn cael pleidleisio mewn etholiadau ac etholiadau llywodraeth leol. A gwn fod 58% o bobl ifanc wedi cofrestru i bleidleisio yn etholiadau diwethaf y Senedd. Felly, rwy’n credu fod yr enghreifftiau uchod yn wych.

Cwestiwn: Sut mae Llywodraeth Cymru yn ystyried Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn wrth wneud penderfyniadau? Wel, oherwydd bod y Mesur yn ddeddf, mae hynny’n golygu fod angen i ni edrych ar yr effaith ar blant ym mhob deddfwriaeth a wnawn, nid yn unig y ddeddfwriaeth rydych chi’n meddwl sy’n berthnasol. Mae’n ymwneud ag unrhyw beth sy’n effeithio ar blant yn arbennig, fel addysg neu’r gwasanaethau cymdeithasol. Caiff asesiad hawliau plant ei gynnal ar y polisïau hyn, felly ymgynghorir â swyddogion cyn pasio deddf. Mae popeth ar gael wedyn yn Llywodraeth Cymru. Rydyn ni’n ceisio gwneud yn siŵr ei fod yn rhan annatod o’n holl waith ni yn Llywodraeth Cymru. Dydw i ddim yn dweud fod y system yn un berffaith, oherwydd mae’n rhaid i ni ei datrys drwy’r amser, ond rwy’n credu ein bod ni’n gweithio’n galed i sicrhau fod yr hyn a wnawn yn cael effaith gadarnhaol ar blant.

Cwestiwn: Pam eich bod chi yn bersonol am eirioli dros bobl ifanc? Rwy’n falch iawn o eirioli dros bobl ifanc. Yn fy rôl i, rwy’n gyfrifol am y gwasanaethau cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru ac rwy’n gyfrifol am gynnal hawliau plant, felly mae’n rôl hanfodol wrth allu eirioli dros blant. Rwy’n treulio cymaint o amser â phosib yn gwrando ar blant ifanc, plant a phobl ifanc ac yn ceisio deall yr hyn sy’n bwysig i bob un ohonyn nhw. Dyna pam ei bod hi’n wych siarad gyda chi heddiw ac roedd hi’n dda cael eich cyfarfod chi ac eraill pan ddaethoch chi nôl o Genefa. Hefyd, mae angen i mi weithio gyda phobl ifanc sydd wedi cael profiadau penodol yn y system gofal hefyd. Rwy’n ymwneud llawer â phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal. Cynhaliom Uwchgynhadledd (dydw i ddim yn siŵr a oeddech chi’n ymwybodol o hyn) lle cyfarfu Prif Weinidog Cymru a Gweinidogion Cymru â phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal ac rydyn ni i gyd wedi llofnodi Datganiad. Ein bwriad yw sicrhau y caiff dymuniadau’r bobl ifanc hyn eu gwireddu. Cyn i mi fod yn wleidydd, roeddwn i’n weithiwr cymdeithasol. Un o’r pethau a oedd yn rhoi’r boddhad mwyaf i mi ym maes gwaith cymdeithasol oedd siarad â phobl ifanc unigol a’u teuluoedd. Ond mae bod yn wleidydd yn golygu y gallwch chi wneud pethau ar raddfa ychydig yn ehangach. Rwy’n falch iawn o eirioli dros bobl ifanc. Mae’n wych. Rwy’n siarad am Erthygl 12 o hyd. Rwy’n credu bod dyletswydd ar bawb sy’n gofalu am bobl ifanc neu sydd mewn rôl sy’n paratoi’r ffordd. Mae dyletswydd arna i oherwydd y cyfrifoldebau penodol sydd gen i o ran hawliau plant, a’r cyfrifoldebau penodol sydd gen i dros blant a phobl ifanc yn y system gofal. Mae gen i hefyd gyfrifoldebau dros blant sydd ag anabledd ac eraill o grwpiau a all fod ar y cyrion. Rwy’n arbennig o ymwybodol fod dyletswydd arna i o ran pob plentyn ym mhob maes gwaith gwahanol. Ond mae’n ddyletswydd ar bawb hefyd.

Cwestiwn: Ydych chi’n wynebu unrhyw rwystrau? Wel, anawsterau system fiwrocrataidd am wn i; efallai cael digon o adnoddau i wneud yr hyn rydych chi am ei wneud; cael yr hyblygrwydd i allu cymryd rhan mewn pethau. Y math yna o bethau. Os bydda i’n poeni am rywbeth, rwy’n teimlo bod yn rhaid i mi weld beth alla i wneud am y peth yn syth. Dydy hi ddim yn bosibl gwneud hynny bob amser, fodd bynnag, oherwydd mae’n rhaid i chi gael y wybodaeth gywir a dilyn gwahanol weithdrefnau.

Cwestiwn: Sut beth yw’r gydberthynas rhwng hawliau plant a’r gwasanaethau cymdeithasol, yn eich barn chi? Mae’n gydberthynas gref iawn gan fod y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn cwmpasu’r ddau ac mae’n rhaid i ni barchu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Felly rwy’n credu eu bod yn gweithio ar y cyd – maen nhw’n rhan o’r un peth. Ac wrth gwrs, mae’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol yn canolbwyntio ar yr unigolyn i roi cymorth, felly rwy’n credu eu bod nhw’n cyfateb i’w gilydd.

HYDREF 2023 | 5

Cwestiwn: Allwch chi roi syniad i ni o’r camau nesaf posibl i blant er mwyn darparu hawliau plant? Mae gennym ni’r adroddiad nawr, felly roeddwn i’n falch o weld y ddau beth a gyfeiriwyd atyn nhw: cael gwared ar amddiffyn cosbi rhesymol a rhoi’r bleidlais i bobl ifanc 16 ac 17 oed. Roeddwn i’n meddwl bod hynny’n fanteisiol iawn i Gymru. Ond yn amlwg mae llawer o argymhellion ac rydyn ni yn y broses o astudio ac rydyn ni’n gobeithio rhoi rhai ohonynt ar waith. Rydyn ni hefyd yn gwneud llawer o bethau eraill er mwyn ystyried hawliau plant, er enghraifft rydw i wedi crybwyll yr Uwchgynhadledd ac rydyn ni wedi ymrwymo i fynd yn ôl at y bobl ifanc hynny sydd â phrofiad o ofal mewn blwyddyn a dweud wrthyn nhw beth rydyn ni wedi’i wneud o ganlyniad i’r hyn a ddywedon nhw wrthym ni. Felly rwy’n credu bod hynny’n hybu hawliau plant gan ein bod ni’n atebol iddyn nhw o ran y materion penodol hynny. Rydyn ni’n ymgysylltu â Voices from Care Cymru, Cymru Ifanc a Plant yng Nghymru i chwilio am ddulliau o hybu hawliau plant a phobl ifanc. e have the report now, so I was very pleased to see that the two things they referred to - getting rid of the defence of reasonable punishments and bringing the 16 to 17 year old votes in - I thought that was a big plus for Wales. But obviously there are a lot of recommendations and we’re in the process of studying and we will be looking to take some of them forward.

Cwestiwn: Pam mae hawliau plant yn bwysig i chi yn eich gwaith a pha hawl sydd fwyaf dylanwadol, yn eich barn chi? Rwy’n credu bod gan blant yr hawl i gael eu clywed; mae hyn yn allweddol oherwydd mae’n rhaid i ni sicrhau fod cymdeithas a phawb yn ymwybodol o ystyr hawliau plant a beth mae plant eisiau a beth mae ganddyn nhw’r hawl iddo. Rwy’n teimlo bod hawliau plant wedi bod yn bwysig i mi am flynyddoedd lawer oherwydd fy mod i wedi gweithio gyda phlant a phobl ifanc mewn rhyw ffordd erioed. Rydw i bob amser wedi mwynhau bod gyda nhw gan eu bod nhw’n llawn egni ac yn creu ymdeimlad o lawenydd; pethau rwy’n eu gweld yma heddiw. Ond mae gennyf gyfrifoldeb am ystod eithaf eang o bethau eraill hefyd, er enghraifft y gwasanaethau cymdeithasol yn gyffredinol a gofal ar gyfer pobl hŷn. Felly mae gen i ystod eang o gyfrifoldebau. Yn Llywodraeth Cymru, rydyn ni am roi cyfle i bawb wneud yr hyn maen nhw am ei wneud. Ac rwy’n meddwl am yr holl blant ifancaf a’r babanod wrth iddyn nhw dyfu i fyny. Dyna pryd y gallwn ni wneud gwahaniaeth go iawn, yn fy marn i. Rydyn ni’n awyddus i ymestyn y math o gymorth y gallwn ni ei roi i blant yn ystod camau cynnar eu bywydau. Mae ein cynllun, Dechrau’n Deg, yn rhywbeth a all helpu plant a theuluoedd i gael magwraeth hapus, lle gallan nhw ffynnu. think children have a right to be heard and this is key, because we need to ensure that society and everybody is aware of what children’s rights mean and what children want and what they’re entitled to.

Cwestiwn: Beth yw eich barn chi am rai o’r materion allweddol y mae plant ifanc yng Nghymru yn eu hwynebu heddiw? Dywedodd plant ifanc wrthym ni mai’r materion allweddol iddyn nhw yw iechyd meddwl, newid yn yr hinsawdd a chostau byw, felly rydyn ni am wneud y mwyaf y gallwn ni i helpu a newid pethau yn y meysydd hynny. Mae’r rhain yn faterion hanfodol sy’n berthnasol i gymdeithas gyfan. Ond gallan nhw gael effaith arbennig ar bobl ifanc, yn amlwg. Mae’n bwysig ein bod ni’n cydnabod bod y meysydd hynny yn rhai o’r meysydd sy’n bwysig i bobl ifanc.

Cwestiwn: Allwch chi ddisgrifio sut mae hawliau plant yng Nghymru yn debygol o edrych yn y dyfodol, yn eich barn chi? Wel, rwy’n teimlo’n optimistaidd am hawliau plant yng Nghymru. Hoffwn ddweud llongyfarchiadau enfawr i Plant yng Nghymru ar gyrraedd ei ben-blwydd yn 30 oed. Mae’r sefydliad, yn fy marn i, wedi bod yn allweddol wrth sicrhau ein bod ni’n cadw hawliau plant ar yr agenda yng Nghymru. Rydyn ni wedi bod yn amlwg yng Nghymru wrth frwydro dros hawliau plant a ni oedd y wlad gyntaf yn y DU i gael Comisiynydd Plant. Rhaid ystyried hawliau plant wrth greu bob deddf. Ac rwy’n gweld cynnydd yn hynny o beth. Rwy’n falch iawn bod rhai ohonoch chi wedi bod yn Genefa i leisio eich barn. A byddwn ni’n edrych ar yr argymhellion a ddaw o’r Cenhedloedd Unedig yn fanwl iawn. Rwy’n teimlo’n optimistaidd iawn ac rwy’n credu bod y dyfodol yn argoeli’n dda ar gyfer hawliau plant yng Nghymru.

Cwestiwn: Hoffech chi rannu neges gyda’r bobl ifanc fydd efallai’n darllen y llyfr pen-blwydd yn 30 oed sy’n cael ei ddatblygu gan Plant yng Nghymru? Mae Plant yng Nghymru wedi bod yn allweddol wrth hyrwyddo hawliau plant a hoffwn ddweud bod Llywodraeth Cymru yn llwyr ymrwymedig i sicrhau fod hawliau plant yn cael eu parchu. Dydyn nhw ddim yn ddewisol. Maen nhw’n rhan o adeiladwaith cymdeithas Cymru ac rydyn ni i gyd am wneud popeth posibl i sicrhau fod pob un ohonoch chi, pob plentyn yng Nghymru, yn cael y profiad gorau allan o fywyd. Os gallwn ni wneud hynny yna byddwn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu ni. Mae cynhyrchu’r llyfr hwn yn rhywbeth a fydd yn ein helpu ar hyn y ffordd. Hoffwn ddymuno pob lwc wrth ddatblygu’r llyfr, a diolch yn fawr iawn am gymryd yr amser i’w roi at ei gilydd a fy ngwahodd i i fod yn rhan ohono.


6 | CHILDRENINWALES.ORG.UK

Monitro cydymffurfiaeth â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yng Nghymru – 21 mlynedd a rhagor Sean O’Neill, Plant yng Nghymru Hyd heddiw, Confensiwn Y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) yw’r cytuniad hawliau dynol sydd wedi’i gadarnhau ar y raddfa ehangaf erioed, gyda 196 o wledydd yn ymrwymo i ddiogelu, parchu a gwireddu hawliau bob plentyn dan 18 oed. Cyhoeddwyd CCUHP ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Plant yn 1989 a’i gadarnhau’n swyddogol gan y DU yn 1991. Gwnaed camau sylweddol yng Nghymru ers datganoli; yn gyntaf drwy fabwysiadu CCUHP yn ffurfiol yn 2004 gan Lywodraeth Cymru fel y sylfaen ar gyfer yr holl lunio polisïau ac, yn fwy diweddar, gyda phasio Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 sy’n gofyn i bob gweinidog roi sylw dyledus i CCUHP yn eu holl swyddogaethau. Yn 2019, cynhaliwyd digwyddiad cenedlaethol i ddathlu 30 mlynedd o CCUHP yng Nghymru, a roddodd gydnabyddiaeth i bwysigrwydd cynyddol hawliau plant yn ymarferol a thrwy bolisi. Roedd yn cydnabod rôl allweddol hyrwyddwyr hawliau plant unigol, gan gynnwys plant a phobl ifanc, yn ogystal â sefydliadau drwy gydol y cyfnod cychwynnol.

Mae’r rôl a chwaraewyd ar y cyd gan gyrff anllywodraethol i hyrwyddo hawliau plant a galw am wireddiad cynyddol hawliau’r plentyn yng Nghymru wedi bod yn sylweddol yn ystod y cyfnod hwn, ynghyd â’r rôl a chwaraewyd gan Gomisiynwyr Plant Cymru dilynol ac wrth gwrs, plant a phobl ifanc eu hunain, yn aml drwy strwythurau cyfranogol lleol a chenedlaethol gan gynnwys, yn fwy diweddar, Cymru Ifanc.

Mae grŵp Monitro CCUHP yn gynghrair a gydnabyddir yn rhyngwladol o gyrff anllywodraethol ac academyddion sydd â’r dasg o fonitro a hyrwyddo CCUHP yng Nghymru. Cafodd y Grŵp Monitro ei sefydlu yn 2002 gyda’r nod sylfaenol o ddod â sefydliadau o’r un meddylfryd at ei gilydd i hwyluso’r gwaith o ddatblygu a chyflwyno ‘adroddiad amgen’ i’r Cenhedloedd Unedig i lywio eu hadolygiadau cyfnodol o’r datblygiad a wneir gan lywodraethau i roi CCUHP ar waith.

Wedi’i ariannu a’i hwyluso i ddechrau gan Achub y Plant Cymru, ac yna gan yr Arsyllfa ar Hawliau Dynol Plant, mae Grŵp Monitro CCUHP Cymru yn cael ei reoli ar hyn o bryd gan Plant yng Nghymru fel un o’r sefydliadau sylfaenol, ac mae’n dal i gynnwys llawer o’r sefydliadau a ddaeth ynghyd am y tro cyntaf dros 20 mlynedd yn ôl ag egni, angerdd a phenderfyniad i roi llais i’r sector cyrff anllywodraethol yng Nghymru i hyrwyddo hawliau plant a phobl ifanc.

HYDREF 2023 | 7

Ym mis Mai 2023, cynhaliwyd sesiwn craffu ffurfiol swyddogion y llywodraeth o’r holl wledydd cartref, gyda Phwyllgor y Cenhedloedd Unedig wedyn yn cyhoeddi eu set derfynol o argymhellion, o’r enw ‘Sylwadau Clo’ ym mis Mehefin. Croesawodd Grŵp Monitro CCUHP Cymru yr argymhellion ac mae wedi bod yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi’r camau gweithredu y bydd yn eu cymryd i roi’r Sylwadau Clo ar waith yn llwyr, ac i gyhoeddi Cynllun Gweithredu Hawliau’r Plentyn i Gymru. Fel aelod o Grŵp Cynghori Llywodraeth Cymru ar Hawliau Plant, bydd Plant yng Nghymru yn parhau i godi hyn fel blaenoriaeth ar gyfer gweithredu yn ystod y cyfnod yn arwain at Ddiwrnod Rhyngwladol y Plant ym mis Tachwedd. Er bod yr argymhellion wedi’u hanelu’n benodol at lywodraethau, ac mae’n gyfrifoldeb arnyn nhw i weithredu a gwneud newidiadau cadarnhaol a bod yn llwyr atebol i blant a phobl ifanc, gall rhanddeiliaid ledled y gweithlu plant yng Nghymru gyfrannu at eirioli dros newid a hyrwyddo ac ymgorffori CCUHP a hawliau plant yn fwy eang i’w gwaith o ddydd i ddydd. Mae Comisiynydd Plant Cymru wedi cyhoeddi cyfres o adnoddau i gefnogi cyrff cyhoeddus gyda’r dasg hon, ac mae Plant yng Nghymru yn cynnig hyfforddiant i weithwyr proffesiynol ar hawliau plant a dulliau ar gyfer cynnwys plant o bob oed. Er bod 2023 yn gyfle i edrych yn ôl â balchder ar y cynnydd a wnaed gan Gymru wrth hyrwyddo hawliau plant a CCUHP, mae’r set ddiweddar o argymhellion o adroddiad Cyflwr Hawliau Plant yng Nghymru yn atgoffwr amserol bod angen cymaint mwy o gynnydd ar unwaith. Gellir darllen ymhellach isod: · Adroddiad ar Gyflwr Hawliau Plant - Plant yng Nghymru | Mae’r ail adroddiad a baratowyd gan Grŵp Monitro UNCRC Cymru wedi lansio · Adroddiad Plant a Phobl Ifanc - Children in Wales | Young Wales report to the United Nations Committee on the Rights of the Child

Cylchgrawn y Gaeaf Plant yng Nghymru 2023

Wrth i Plant yng Nghymru barhau i ddathlu ei ben-blwydd yn 30 oed a’r cyflawniadau a wnaed i orfodi hawliau plant, ar gyfer cylchgrawn y Gaeaf, hoffem eich help, fel aelodau, i feddwl am sut olwg fyddai ar hawliau plant yn y dyfodol. O le rydym am fynd o’r fan hon i ddatblygu hawliau plant a phobl ifanc yng Nghymru, a sut olwg fyddai ar ein rhestr ddymuniadau? Efallai yr hoffech ystyried: • • • • • •

· Sylwadau Clo Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig Cynhyrchwyd yr adroddiad ar y cyd cyntaf i’r Cenhedloedd Unedig yn 2002, gydag adroddiadau pellach yn 2008 a 2015 a lywiodd rowndiau adrodd olynol. Caiff yr ‘adroddiad amgen’ hwn ei werthfawrogi’n fawr gan y Cenhedloedd Unedig fel rhan allweddol o’r mecanweithiau adrodd, gan ddarparu safbwynt gwahanol i adroddiadau’r wladwriaeth a gyflwynir gan lywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig, drwy roi cydnabyddiaeth i’r cyflawniadau a wneir, yn ogystal â’r meysydd pryder ac ymyriadau nodedig â hawliau.

Cyflwr Hawliau Plant yng Nghymru yw’r adroddiad diweddaraf a gyflwynwyd i’r Cenhedloedd Unedig. Cafodd ei lansio ar ddechrau 2023, gan ddarparu cyfrif manwl o’r meysydd allweddol sy’n effeithio ar blant ar draws yr amrediad llawn o flaenoriaethau thematig yn Erthyglau confensiwn y Cenhedloedd Unedig. Mae’r adroddiad hwn, a lywiodd y sail ar gyfer deialog yn y sesiwn craffu rhwng cyrff anllywodraethol a Phwyllgor y Cenhedloedd Unedig yn Genefa ym mis Chwefror 2023, yn cynnwys 72 o argymhellion i’w gweithredu gan lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Cyflwynodd plant a phobl ifanc adroddiad hefyd a chawsant gyfle i drafod eu blaenoriaethau allweddol gydag aelodau o Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig.

• •

Beth ydych chi’n ei weld fel yr heriau mwyaf sy’n wynebu hawliau plant ar hyn o bryd? Enghreifftiau o waith rydych chi’n ei wneud i helpu i fynd i’r afael â’r heriau hyn ac unrhyw wersi a ddysgwyd? Beth ydych chi’n ei ystyried yw’r bygythiadau newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg i blant sy’n mwynhau eu hawliau? Enghreifftiau o newidiadau yn eich ymarfer i wynebu’r heriau newydd hyn? Sut allwn ni adeiladu ar etifeddiaeth y 30 mlynedd diwethaf i ymgorffori hawliau plant ymhellach? Enghreifftiau o waith rhagweithiol rydych chi’n ei wneud i gefnogi hawliau plant yn y dyfodol? Beth sy’n gweithio’n dda a beth sydd ei angen i gynnal y gwaith hwn ar gyfer y dyfodol? Unrhyw beth arall sy’n cael effaith gadarnhaol ar hyrwyddo hawliau plant ledled Cymru?

Dylai erthyglau fod rhwng 500 a 750 o eiriau; fod ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg; ganddynt deitl ac awdur ac maent yn cynnwys un llun JPEG o ansawdd da (dewisol). Y dyddiad cau ar gyfer erthyglau yw dydd Iau, 11 Ionawr 2024. E-bostiwch louise.oneill@ childreninwales.org.uk i gadw eich lle.


8 | CHILDRENINWALES.ORG.UK

Yr Hawl i Gael Eich Clywed: Dathlu Grym Eiriolaeth yng Nghymru

HYDREF 2023 |

credai ei bod hi’n barod i ddychwelyd i’r ysgol. Heb y cynnig gweithredol, mae’n bosibl na fyddai Lucy wedi cael gwybod am ei hawl i gael eiriolaeth, ac efallai na fyddai hi erbyn hyn yn eneth ifanc hapus sydd wedi’i grymuso, sy’n barod i ffynnu yn yr ysgol ac yn teimlo ei bod yn ddiogel a bod eraill yn gwrando arni.

“‘Mae fy eiriolwr wedi fy helpu i ganfod y goleuni pan oedd pethau’n dywyll” Sylw gan unigolyn ifanc ynghylch gweithio gydag un o eiriolwyr NYAS Cymru

Phoebe White, NYAS Cymru

Pa fyddwn yn sgwrsio â phlant a phobl ifanc am eu profiadau o dderbyn gofal, byddant oll yn dweud mai cael eu clywed a’u gweld a chael gwrandawiad yw’r pethau pwysicaf iddynt. Mae hynny wrth wraidd pob profiad o dderbyn gofal, boed yn brofiadau da neu’n rhai sydd ddim cystal. Mae gwrando ar blant a phobl ifanc yn hollbwysig er mwyn gwella eu hunan-barch, eu hyder, a’u helpu i deimlo’n ddiogel ac yn sicr.

Er y dylid parhau i ddathlu’r cynnig gweithredol yng Nghymru, yn union fel popeth arall, ceir lle i wella bob amser. Yn ail, ni ddylid ystyried bod y cynnig gweithredol yn gyfystyr â ‘chynnig untro’ pan fydd plentyn yn dod i gysylltiad â’r system amddiffyn plant neu’n cychwyn derbyn gofal. Mae’n rhaid sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu hatgoffa’n rheolaidd gan weithwyr proffesiynol am eu hawl statudol i gael eiriolaeth ar adegau allweddol yn ystod eu taith gofal. Mae gan blant a phobl ifanc hawl i gael yr un mathau o wasanaethau eiriolaeth o ansawdd uchel ble bynnag y maent yng Nghymru. Yn rhinwedd eu rôl rhiant corfforaethol, dylai pob awdurdodau lleol ymdrechu’n deg i ragori o ran sicrhau bod ganddynt brosesau cyfeirio cadarn, a sicrhau na ddaw mynediad at wasanaethau eiriolaeth yn loteri cod post arall i’r plant y maent yn gofalu amdanynt. Yn olaf, mae NYAS Cymru yn galw ar i Lywodraeth Cymru adolygu’r Ymagwedd Genedlaethol at Eiriolaeth Statudol er mwyn parhau i amddiffyn hawliau plant a phobl ifanc i gael eu clywed, a sicrhau y bydd y cynnig gweithredol yn dal yn rhywbeth sy’n werth ei ddathlu yn y dyfodol. Whilst the active offer in Wales should continue to be celebrated, like anything, there is always room for improvement.

Yng Nghymru, mae’r cynnig gweithredol o ran eiriolaeth yn un o’r hawliau pwysicaf sydd gan blant a phobl ifanc sy’n ymwneud â

I gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau eiriolaeth NYAS Cymru yng Nghymru, trowch at ein gwefan neu e-bostiwch elly.jones@

gwasanaethau plant, oherwydd mae’n sicrhau bod ganddynt hawl statudol i gael eu clywed a chael gwrandawiad. Mae’r cynnig

nyas.net

gweithredol o ran eiriolaeth yn deillio o argymhelliad a gynigiwyd yn wreiddiol gan Gomisiynydd Plant Cymru yn adroddiad ‘Lleisiau Coll: yr Hawl i Gael Eu Clywed’ (2014), a sefydlwyd hynny yng Nghymru yng Ngorffennaf 2017 dan Ran 10 y Cod Ymarfer yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014. Yn rhinwedd ei rôl fel darparwr blaenllaw ym maes eiriolaeth, fe wnaeth NYAS Cymru gyfraniad allweddol at sicrhau’r cynnig gweithredol, ar y cyd â sefydliadau eraill megis Plant yng Nghymru a TGP Cymru.

Yn 2019, fe wnaeth NYAS Cymru gynorthwyo i ddatblygu’r fframwaith ar gyfer Ymagwedd Genedlaethol at Eiriolaeth Statudol. Mae’r fframwaith yn sicrhau bod unrhyw blentyn neu unigolyn ifanc yng Nghymru sy’n ymwneud â gwasanaethau plant yn gallu cael eiriolaeth o ansawdd uchel, ac mae’n cynnig set o safonau at ddiben monitro gwasanaethau eiriolaeth. Roeddem wrth ein bodd yn gweld Llywodraeth Cymru yn hybu hawl Erthygl 12 plant a phobl ifanc, trwy weithredu’r cynnig gweithredol a Fframwaith yr Ymagwedd Genedlaethol.

Fel y nodir yn Rhan 10, ceir dau brif egwyddor yn achos eiriolaeth. Yn gyntaf, siarad ar ran a siarad gydag unigolion nad yw eu lleisiau’n cael eu clywed a’u helpu i fynegi eu safbwyntiau er mwyn gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth. Yn ail, amddiffyn hawl unigolion i fynnu bod eu safbwyntiau, eu dymuniadau a’u teimladau yn cael eu cymryd o ddifrif. Mae egwyddorion eiriolaeth yn hanfodol o ran Erthygl 12 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, ac maent yn cyfrannu at sicrhau y caiff pob plentyn a phob unigolyn ifanc eu grymuso a’u cynnwys yn weithredol yn y gwaith o wneud penderfyniadau ynghylch eu bywydau hwy eu hunain.

Ni ddylai neb ddiystyru grym eiriolaeth. Ers cyflwyno’r cynnig gweithredol, mae plant a phobl ifanc wedi dweud wrthym ni sut mae eiriolaeth yng Nghymru wedi gweddnewid eu bywyd trwy gyflawni’r hyn oedd “tu hwnt i amgyffred” a sicrhau bod eu lleisiau yn cael eu clywed. Yn achos un stori, cafodd Lucy, a oedd yn 10 oed, ei hysbysu am y cynnig gweithredol gan ei gweithiwr cymdeithas a chafodd ei chyfeirio at NYAS Cymru. Roedd Lucy yn dymuno sicrhau bod ei safbwyntiau, ei dymuniadau a’i theimladau yn cael eu clywed yn ystod cyfarfod amddiffyn plant a oedd ar fin cael ei gynnal. Ar ôl teimlo bod ei safbwyntiau, ei dymuniadau a’i theimladau wedi cael eu blaenoriaethu yn y cyfarfod hwnnw, fe wnaeth Lucy barhau i weithio gyda’i heiriolwr a ddarparwyd iddi gan NYAS Cymru i’w chynorthwyo i gyflawni ei nodau mewn perthynas â’i haddysg a’i hiechyd meddwl. Yn sgil hynny, cyfeiriwyd Lucy at gynllun ‘Argyfwng Costau Byw’ NYAS Cymru. Cafodd Lucy gyfrifiadur llechen i’w galluogi i gael gwasanaethau cwnsela ar-lein, ac ymhen amser,


10 | CHILDRENINWALES.ORG.UK

HYDREF 2023 | 11

Dysgu yn yr amgylchedd naturiol, dysgu amdano a dysgu ar ei gyfer Karen Clarke, Cyfoeth Naturiol Cymru

Ym mis Ebrill 2013, daeth Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i fodolaeth fel prif gynghorydd Llywodraeth Cymru ar yr amgylchedd naturiol, gan arwain at newid a gwelliant sylweddol i reolaeth gynaliadwy. Mae eleni yn nodi deng mlynedd ers inni ddechrau gofalu am aer, tir, dŵr, bywyd gwyllt, planhigion a phriddoedd Cymru gan weithio i’w rheoli’n effeithiol nawr, fel eu bod mewn cyflwr da ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Ym mis Ebrill eleni, cyhoeddodd CNC ei Gynllun Corfforaethol hyd at 2030, o’r enw ‘Byd Natur a Phobl yn Ffynnu Gyda’n Gilydd’. Mae hwn yn gynllun uchelgeisiol i ymdrin â’r heriau a wynebir gan Gymru, a’r byd, gyda’r argyfyngau hinsawdd a natur. Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i ddatgan argyfwng hinsawdd yn swyddogol ar 1 Mai 2019, ac yna ym Mehefin 2021 daeth y penderfyniad o bwys i ddatgan argyfwng natur. Rydym i gyd bellach yn sylwi ar effeithiau’r argyfyngau hyn, gyda digwyddiadau tywydd mwy eithafol, tanau gwyllt mynych, dirywiad mewn bywyd gwyllt, ac yn y blaen. Gyda chyfryngau cymdeithasol, newyddion a theledu, mae hyd yn oed plant ifanc iawn yn cael eu llethu gan ddelweddau a straeon am effeithiau newid hinsawdd ledled y byd. Mae llawer o blant a phobl ifanc bellach yn profi rhywfaint o bryder mewn perthynas â’r hinsawdd neu fyd natur. Rydym i gyd wedi gweld faint o’n cenedlaethau iau sydd wedi bod yn tynnu sylw at fethiannau penderfyniadau’r gorffennol, a phenderfyniadau yn y presennol, nad ydynt yn ystyried eu dyfodol. Yn Cyfoeth Naturiol Cymru, credwn fod gan bob plentyn hawl i fyw, dysgu, chwarae a thyfu i fyny mewn amgylchedd naturiol iach a reolir yn gynaliadwy. Rydym yn gweithio i sicrhau ein bod yn lliniaru ac yn addasu ar gyfer effeithiau argyfyngau’r hinsawdd a natur fel bod ein holl blant yn cael mynediad i aer a dŵr glân, tirweddau hardd i chwarae ynddynt, pridd iach i dyfu ein bwyd ynddo, ac amrywiaeth gyfoethog o blanhigion a bywyd gwyllt i’w mwynhau.

Ni all un person, polisi na hyd yn oed wlad atal newid hinsawdd. Rydym i gyd yr un mor gyfrifol; mae’n rhaid i ni i gyd wneud newidiadau trawsnewidiol yn ein ffordd o fyw. A dyna pam mae angen inni gefnogi ein dinasyddion iau i gymryd rhan cyn gynted â phosibl. Mae addysgu a dysgu am yr argyfyngau hinsawdd a natur yn sail i lawer o Bedwar Diben y Cwricwlwm i Gymru, yn enwedig ddinasyddion egwyddorol, gwybodus Cymru a’r byd. Ac yn CNC rydym wedi creu rhaglen hyfforddi addysgwyr a chyfoeth o adnoddau addysgu i gefnogi hyn. Tra bod ein harweinwyr a’n llunwyr polisi yn edrych ar y darlun ehangach, mae gan bob un ohonom, gan gynnwys ein dinasyddion iau, ein rhan i’w chwarae. Felly, er y gall hyn i gyd ymddangos yn llethol, allwn ni ddim cuddio ein pennau yn y tywod mwyach a gobeithio y bydd y cyfan yn diflannu. Mae hyn yn gwneud anghymwynas â chenedlaethau’r dyfodol sy’n ymwybodol iawn o’r heriau sydd o’n blaenau ac sy’n awyddus i fwrw iddi! Rydym i gyd yn ddarnau bach arbennig o bwysig y mae angen iddynt ffitio i mewn i’r jig-so byd-eang o weithredu cadarnhaol, gan helpu ein hamgylchedd naturiol gwerthfawr i adfer a ffynnu. Chwilio am fwy o adnoddau dysgu, gwybodaeth a data?

Er mwyn helpu i gynnwys ein dinasyddion iau yn ein penderfyniadau ynghylch sut y gallwn wneud hyn, buom yn gweithio gyda swyddfa Comisiynydd Plant Cymru i ddod yn sefydliad sy’n arddel Dull Hawliau Plant. Mae hyn wedi ein helpu i wreiddio arfer da yn fewnol ac yn ein gwaith i gefnogi addysgwyr a theuluoedd i ddatblygu ymddygiadau o blaid yr hinsawdd ac o blaid yr amgylchedd.

Cysylltwch a: education@naturalresourceswales.gov.uk neu ewch i https://cyfoethnaturiol.cymru/dysgu?lang=cy Fformat gwahanol: print bras neu iaith arall, cysylltwch ar: ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk Ffon: 0300 065 3000

Buom hefyd yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc o gefndiroedd amrywiol, ledled Cymru, gan wrando ar eu pryderon am natur a sut yr oeddent am helpu i ofalu amdano. Arweiniodd hyn at ein Siarter Hawliau Plant, sy’n dangos sut y byddwn yn cynnal ac yn hyrwyddo hawliau plant yn ein gwaith ac yn darparu gwell gwasanaethau i blant a phobl ifanc yng Nghymru.

www.cyfoethnaturiol.cymru


12 | CHILDRENINWALES.ORG.UK

Ymgorffori dull hawliau plant mewn Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl Holly Tarren, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Mae ymgorffori dull hawliau plant yn hanfodol er mwyn rhoi cymorth iechyd a lles emosiynol o ansawdd i bobl ifanc. Mae gan bobl ifanc yr hawl i gael gofal iechyd ac amodau o safon i gefnogi eu datblygiad meddyliol, corfforol a chymdeithasol, ond mae ganddynt hefyd yr hawl i gael gafael ar wybodaeth sy’n hawdd ei deall ac i fod yn bartner cyfartal trwy rannu eu meddyliau a’u syniadau. Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, rydym yn ffodus o fod â Bwrdd Ieuenctid sefydledig, a gefnogir gan Dr Lisa Cordery a Claire Pugh. Mae’r aelodau yn wirfoddolwyr swyddogol yn y sefydliad. Maent yn mynychu cyfarfodydd misol i rannu eu syniadau i wella gwasanaethau a chymryd rhan mewn prosesau gwneud penderfyniadau allweddol. Rydym yn ddiolchgar iawn am haelioni ac ymroddiad y Bwrdd Ieuenctid o ran y prosiectau rydym yn gweithio arnynt gyda’n gilydd - rydym bob amser yn edrych ymlaen at weithio gyda’n gilydd! Mae sawl prosiect allweddol sy’n rhan o’n taith o ymgorffori hawliau plant yr hoffem dynnu sylw atynt: 1. Datblygu ein gwefan https://cavyoungwellbeing.wales/cy/: Dywedodd aelodau’r Bwrdd Ieuenctid wrthym eu bod am allu cael gafael ar wybodaeth am hunangymorth a chyngor ar wasanaethau ar-lein yn eu hamser eu hunain. Gwnaethom weithio gydag aelodau’r Bwrdd Ieuenctid i ddatblygu manyleb o’r hyn yr oedd angen ei gynnwys ar wefan a’r ffordd yr oedd angen iddi deimlo a gyda’n gilydd dewiswyd cyflenwr llwyddiannus. Rhoddodd y Bwrdd Ieuenctid adborth ar sawl drafft o nodweddion gwefan gan rannu syniadau ar gyfer cynnwys i’w ddatblygu. Aeth y wefan yn fyw ym mis Tachwedd 2021 ac fe’i dathlwyd gan Gomisiynydd Plant Cymru ar y pryd fel enghraifft o arfer gorau. 2. Caffael a gweithredu Yr Hangout: Dywedodd aelodau’r Bwrdd Ieuenctid wrthym eu bod am allu cael gafael ar gymorth a chefnogaeth heb fod angen siarad â rhywun am atgyfeiriad, pan oedd ei angen (p’un ag oeddent yn wynebu argyfwng iechyd meddwl neu’n cael diwrnod gwael). Gwnaethom weithio gyda’r Bwrdd Ieuenctid i ddatblygu manyleb o’r hyn yr oedd angen i ‘hyb cymorth cynnar’ ei gynnig i bobl ifanc. Roedd yn hanfodol bod cydweithio gyda phobl ifanc yn ganolog i’r ethos, nid yn unig yn ystod y broses weithredu ond drwy gydol oes y prosiect. Helpodd sawl aelod o’r Bwrdd Ieuenctid i benderfynu pa gyflenwr fyddai’n cyflawni’r prosiect. Y cyflenwr oedd Platfform, gyda lansiad swyddogol The Hangout yn digwydd ar 15 Medi 2023. Edrychwn ymlaen at weld sut mae The Hangout yn esblygu yn seiliedig ar farn ac adborth pobl ifanc sy’n ymweld ag ef. 3. Datblygu fideos gyda Promo Cymru: Fel rhan o’r gwaith o ddatblygu cynnwys ein gwefan, rydym wedi gweithio gyda Promo Cymru ac aelodau’r Bwrdd Ieuenctid i ddatblygu rhai fideos i esbonio cysyniadau i bobl ifanc ac i gynnig cyngor. Mae’r rhain wedi cynnwys fideo mewn arddull Tiktok ar y pum llwybr at les, trosolwg o Les Emosiynol ac Iechyd Meddwl, esbonio beth mae ‘dim drws anghywir’ i iechyd meddwl yn ei olygu iddynt a sut i helpu ffrind sy’n cael trafferth gyda’i iechyd meddwl. Helpodd aelodau’r Bwrdd Ieuenctid i greu sgript a rhoddwyd adborth ar sawl drafft o’r fideos. 4. Gweithredu Cysylltiadau Cymunedol: Roedd y Bwrdd Ieuenctid yn un o sawl grŵp o bobl ifanc i rannu eu barn a’u syniadau am brosiect presgripsiynu cymdeithasol ar gyfer pobl ifanc. Gofynnwyd iddynt beth oeddent yn ei wybod amdano’n barod a sut olwg ddylai fod ar wasanaeth presgripsiynu cymdeithasol yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Aethom yn ôl a rhannu’r hyn a ddysgwyd, yn ogystal â gofyn am adborth ar ein dyddiadur lles, adnodd i’w gadw gan y person ifanc yn ystod eu cyfnod gyda Chysylltiadau Cymunedol. Rydym wedi dysgu llawer gan y Bwrdd Ieuenctid - nid dim ond manylion penodol sy’n gysylltiedig â’r prosiectau rydym yn gweithio arnynt, ond hefyd sut gallwn gael y gorau o’n hamser gyda’n gilydd. Mae’n bwysig bod yn glir am yr hyn rydym yn chwilio amdano gan bobl ifanc, a pham rydym am wneud y gwaith yn y lle cyntaf. Mae hyn yn golygu bod yn agored ac yn dryloyw gyda phobl ifanc am yr heriau y mae ein gwasanaethau’n eu hwynebu a’r hyn rydym yn ei wneud i wella pethau. Rydym wedi mwynhau gweithio gyda’r Bwrdd Ieuenctid ar brosiectau go iawn gan ei bod yn tueddu i fod yn haws rhoi adborth yn ystod y broses (bydd rhai pobl yn cymryd rhan trwy gydol y prosiect, bydd eraill yn cymryd rhan nawr ac yn y man fel sy’n addas iddynt). Mae hefyd yn rhoi boddhad gallu cysylltu eich cyfranogiad â chynnyrch terfynol, fel fideo neu ein gwefan – nid yn unig i bobl ifanc, ond i’n staff hefyd! Gwybodaeth gyswllt: ewmh.cav@wales.nhs.uk

HYDREF 2023 | 13

Clwb Haf Bwyd a Hwyl

Elizabeth Berry, Ysgol Gynradd Bryn Celyn, Pentwyn, Caerdydd Yn Ysgol Gynradd Bryn Celyn, mae Clwb Bwyd a Hwyl Gwyliau’r Haf yn bwynt allweddol yn ystod y flwyddyn lle gall plant a theuluoedd gael bwyd iach yn ystod misoedd yr haf. Wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru, mae’r rhaglen arloesol hon, sy’n cyfuno prydau iach, gweithgareddau addysgol, ac ymgysylltiad cymunedol, wedi bod yn effeithio’n fawr ar fywydau plant a chymunedau ledled Cymru am rai blynyddoedd. Mae Clwb Bwyd a Hwyl Gwyliau’r Haf yn gyfle perffaith i blant ddysgu mwy am hawliau sylfaenol Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a’u deall. Drwy gydol y rhaglen, mae ffocws ar erthygl 24: yr hawl i ddŵr glân a bwyd iach, erthygl 27: yr hawl i fwyd gyda llywodraethau’n helpu teuluoedd na allant fforddio darparu hyn, ac erthygl 31: yr hawl i ymlacio a chwarae. Mae cyfleoedd dysgu dilys wrth wraidd y rhaglen hon gyda chyfleoedd i gynaeafu bwydydd fel tatws, tomatos a moron o’n cae chwarae bwytadwy. Un o brif amcanion Clwb Bwyd a Hwyl Gwyliau’r Haf yw mynd i’r afael â diffyg diogeledd bwyd ymysg plant. Yn ystod gwyliau’r haf, pan fydd ysgolion wedi cae, mae llawer o blant o deuluoedd incwm isel yn wynebu’r risg o lwgu. Mae’r rhaglen hon yn sicrhau fod y plant hyn yn cael prydau maethlon, gan leddfu’r risg o lwgu a hybu eu llesiant cyffredinol. Y tu hwnt i fynd i’r afael ar unwaith â llwgu, mae Clwb Bwyd a Hwyl Gwyliau’r Haf yn ceisio meithrin arferion iach ymysg plant. Mae’r prydau a ddarperir wedi’u cynllunio’n ofalus i fod yn faethlon ac yn flasus. Mae hyn yn sicrhau fod plant yn cael y maetholion cywir ar gyfer tyfu a datblygu ac mae hefyd yn eu haddysgu am bwysigrwydd gwneud dewisiadau bwyd iach. Mae Clybiau Bwyd a Hwyl Gwyliau’r Haf yn gwneud mwy na darparu prydau yn unig. Maen nhw’n cynnig amrywiaeth o weithgareddau addysgol sy’n ymgysylltu meddyliau a chyrff plant. Gall y gweithgareddau hyn gynnwys dosbarthiadau coginio, garddio, ymarfer corff, a gweithdai addysgol. Drwy gyfuno dysgu â hwyl, gall plant gadw’n weithgar yn ystod gwyliau’r ysgol, yn ogystal â dysgu gwybodaeth a meithrin sgiliau gwerthfawr. Mae’r staff sy’n arwain y rhaglen yn meithrin cydberthnasau cadarnhaol â’r plant a’u teuluoedd ac mae ymdeimlad go iawn o fwynhad wrth ymgysylltu â’r profiadau a gynigir. Er enghraifft, eleni aeth y plant i barc dŵr fel rhan o ddiwrnod i ffwrdd o’r safle a daeth pryfed i ymweld â’r ysgol er mwyn i’r plant ddysgu mwy am y byd o’u cwmpas. Mae ein tîm o staff Bwyd a Hwyl yn griw talentog ac yn teimlo’n angerddol dros wneud gwahaniaeth i fywydau ein plant. Nid ysgol yw’r clwb Bwyd a Hwyl. Caiff ei gynnal yn yr ysgol ond mae’n teimlo’n wahanol. Cefnogir a gofalir am y plant yn yr un ffordd ag yn yr ysgol, ond mae’r awyrgylch yn fwy hamddenol ac mae’r plant wrth eu boddau!

Mae’r rhaglen yn meithrin ymdeimlad o gymuned ymysg y cyfranogwyr. Mae teuluoedd yn dod ynghyd ac mae’r plant yn gwneud ffrindiau newydd, gan greu rhwydwaith gefnogol. Mae cyfranogiad y gymuned yn hollbwysig gan ei fod yn sicrhau fod y rhaglen yn parhau i ffynnu a chyrraedd y rhai hynny mewn angen. Mae effaith gadarnhaol Clwb Bwyd a Hwyl Gwyliau’r Haf yn ymestyn i iechyd a llesiant y plant sy’n cymryd rhan. Rydym yn gwybod fod plant sydd â mynediad at brydau maethlon ac sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol yn ystod yr haf yn llai tebygol o brofi dirywiad yn eu hiechyd corfforol a meddyliol. Mae’r rhaglen yn helpu i fynd i’r afael â llithr yr haf, lle mae plant yn colli sgiliau academaidd yn ystod y gwyliau, ac yn cyfrannu at eu datblygiad cyffredinol. Mae Clwb Bwyd a Hwyl Gwyliau’r Haf Ysgol Gynradd Bryn Celyn yn gwneud gwahaniaeth i fywydau plant heddiw ac yn llunio eu rhagolygon ar gyfer y dyfodol. Drwy fynd i’r afael â diffyg diogeledd bwyd, hybu arferion iach, a darparu cyfleoedd addysgol, mae’r rhaglen hon yn rhoi’r adnoddau sydd eu hangen ar blant i lwyddo yn yr ysgol a thu hwnt. Gall sicrhau tegwch i’r rhai hynny a fyddai, fel arall, yn wynebu anfanteision oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i’w rheolaeth. Mae Clwb Bwyd a Hwyl Gwyliau’r Haf Ysgol Gynradd Bryn Celyn yn enghraifft wych o raglen sy’n mynd i’r afael ag anghenion ar unwaith ac sy’n buddsoddi yn nyfodol y rhai hynny sy’n cymryd rhan. Drwy fynd i’r afael â diffyg diogeledd bwyd, hybu bwyta’n iach, cynnig cyfleoedd addysgol cyfoethog, adeiladu cymunedau, a gwella iechyd a llesiant cyffredinol plant, mae wedi dod yn adnodd gwerthfawr i deuluoedd ledled y wlad. Wrth iddi barhau i dyfu ac ehangu, mae effaith y rhaglen hon ar fywydau plant Cymru yn parhau i fod yn aruthrol ac yn werthfawr tu hwnt.


HYDREF 2023 | 15

Cwricwlwm i Gymru: The Force Awakens…

Nicky Abraham, Coleg Sir Gar Tebyg iawn i Star Wars: The Force Awakens, mae’r Cwricwlwm i Gymru yn cynrychioli’r diwygiad addysgol mwyaf arwyddocaol mewn dros ddeng mlynedd ar hugain. Mae ymddangosiad y cwricwlwm newydd yn cynrychioli’r rheiny sy’n codi yn erbyn y First Order, i gywiro camweddau addysgol y gorffennol. Roedd mis Medi 2022 yn dynodi gweithrediad llawn, cyfreithiol ac ymarferol y Cwricwlwm i Gymru ym mhob ysgol gynradd yng Nghymru, lle ystyrir y ffordd newydd o ddysgu i fod mewn gwrthgyferbyniad llwyr i’r Cwricwlwm Cenedlaethol blaenorol (ac wedi dyddio). I lawer o Jedis yn y proffesiwn addysgu, mae hon yn oes o The Force Awakens… Caiff ysgolion Cymru eu harwain nawr gan fframwaith cenedlaethol, ond caniateir y rhyddid iddynt gynllunio eu cwricwla lleol eu hunain o fewn cyddestun brodorol. Mae p’un a fydd hyn yn creu anghysondebau arwyddocaol rhwng systemau planedol (ysgolion) yn yr hirdymor yn ddadleuol, gan y bydd gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau Younglings o addysg gynradd yn dibynnu’n helaeth ar yr ysgol maen nhw’n mynychu. Mae’r fframwaith newydd wedi creu platfform delfrydol i hyrwyddo hawliau plant, lle mae Jedis fel athrawon dosbarth yn gorfod arfogi Younglings â’r wybodaeth, sgiliau a phrofiadau sy’n cwmpasu’r Pedwar Diben Craidd. Bydd y pwyslais ar blant yn dod yn ‘Ddinasyddion, gwybodus, moesegol’, sy’n ‘Iach, hyderus a pharod i arwain bywydau gwerth chweil’ yn chwarae rhan sylweddol o ran hyrwyddo eu hawliau. Mae ymchwil gan Goleg Sir Gâr yn seiliedig ar astudiaeth achos ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg, yn dangos blwyddyn gyntaf yr ysgol o weithredu’r cwricwlwm diwygiedig. Datgelodd ymchwil cynradd arfer arloesol yn Ysgol Gynradd Nantgaredig, o ddatblygu a gweithredu mentrau newydd a oedd yn cydnabod ac yn gorfodi hawliau plant. Bob wythnos cyflwynir y plant i

Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC) trwy wasanaethau a gweithgareddau dosbarth. Mae dull Ysgol Nantgaredig o weithredu’r cwricwlwm newydd yn mynd law yn llaw â phrosiect ysgol gyfan cyffrous ‘Cynefin’ sy’n anelu at fynd i’r afael ag ymfudiad ymennydd ac adfer ymdeimlad o falchder yn y gymuned. Heb unrhyw gyfieithiad uniongyrchol, mae Cynefin yn portreadu ymdeimlad o berthyn ac ynghylch y prosiect dywed y Jedi Master (a Phrifathro) Steffan Griffiths: ‘Mae’r prosiect yn darparu cyfle delfrydol i ymgorffori pedwar diben y fframwaith i gwricwlwm lleoledig sy’n hyrwyddo hawliau plant ac annibyniaeth gynyddol’. Mae Cynefin yn darparu ystod o gyfleoedd i blant Ysgol Nantgaredig fydd yn datblygu sgiliau trawsgwricwlaidd, profi manteision Ysgol Goedwig, yn ystod ymweliadau i Goedwig Brechfa - archwilio Meysydd Dysgu (AoLEs) Dyniaethau a Llythrennedd, Iaith a Chyfathrebu. Mae’r plant hefyd wedi mwynhau cyfansoddi anthem ysgol gyda’r canwr o Gymru Dafydd Iwan gan greu cysylltiadau rhwng Y Celfyddydau ac Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu. Yna bu Blwyddyn 6 yn coladu gwaith y prosiect trwy greu podlediad i ddathlu ymdrechion helaeth y plant. O safbwynt plentyn, mae’r Prosiect Cynefin yn creu cyfleoedd i ymarfer amrywiol hawliau UNCRC ac yn benodol, Erthygl 13: yr hawl i ‘ddarganfod pethau’. Mae amrywiaeth y gweithgareddau sy’n gysylltiedig â’r prosiect yn cefnogi’r younglings i bontio i ysgol uwchradd, fel Padawans gyda’r wybodaeth, sgiliau a phrofiadau i ddod yn ddysgwyr gydol oes annibynnol. Ar lefel ysgol uwchradd mae padawans Ysgol Bro Dinefwr wedi ffurfio Senedd, i gynrychioli llais y disgyblion ar faterion allweddol megis addysgu a dysgu, iechyd a lles a gwobrwyo dysgwyr. Mae’r Senedd wedi bod yn rhagweithiol yn gwella

darpariaeth bwyd yn yr ysgol, gan weithio gyda Chyngor Sir Caerfyrddin i gynnwys cynnyrch lleol ac iachach ar y fwydlen. Mae’r Senedd eisoes wedi cwrdd â Phrif Weinidog Cymru Mark Drakeford, i rannu eu syniadau a’u mentrau i greu newid. Ar gwrdd â’r Prif Weinidog, meddai’r disgybl Eva Davies ‘Roedd yn anrhydedd gwirioneddol i gael cyfle i rannu ein meddyliau gyda fe, i gael ein clywed a’n cymryd o ddifrif.’ Yn y cyfamser, mae grymoedd hefyd ar waith yng Ngholeg Sir Gâr yn hyrwyddo hawliau dysgwyr yn addysg bellach. Mae Undeb y Myfyrwyr yn cefnogi gwahanol grwpiau trwy swyddogion dynodedig ac ar hyn o bryd, cynrychiolir y gymuned LGBTQ+ i sicrhau y clywir eu lleisiau. Mae’r Undeb hefyd wedi ceisio codi ymwybyddiaeth o dlodi mislif, gan arwain at ddarparu cynnyrch mislif am ddim i fyfyrwyr. Does dim amheuaeth bod addysg yng Nghymru yn nodi oes newydd, wrth i blant a phobl ifanc Cymru ddod yn gynyddol ymwybodol o’u hawliau, a defnyddio’r rhain i lunio polisïau. Mae addysgwyr Cymru yn grymuso Padawans ifanc i ddod yn Jedis cyflawn, sy’n gallu siarad drostynt eu hunain drwy gydol eu bywydau. Mae geiriau doeth Master Yoda yn adlewyrchu ymagwedd addysgwyr Cymru i ddiwygio’r cwricwlwm ac eiriolaeth dysgwyr: ‘Do or do not, there is no try.’


16 | CHILDRENINWALES.ORG.UK

Cydnabod a gorfodi hawliau plant yng Nghymru: trwy ymchwil Dr Michaela James, y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Llesiant y Boblogaeth

HYDREF 2023 |

Mae NCPHWR hefyd yn gweithio gyda phartneriaid fel Llesiant Rhieni Sengl ar eu Maniffesto Iechyd Meddwl (prosiect a ariennir gan y Loteri Genedlaethol). Y nod gyffredinol a’r canlyniad a ddymunir yw y bydd pobl ifanc sy’n byw mewn cartrefi rhiant sengl yn deall pwysigrwydd a gwerth gofalu am eu hiechyd meddwl a’u llesiant ac y bydd ganddynt y sgiliau, y wybodaeth a’r adnoddau (emosiynol ac ymarferol) i wneud hynny trwy gydgynhyrchu adnoddau ac arbenigedd gyda’u cymheiriaid ac ar gyfer eu cymheiriaid. Bydd hyn yn grymuso cenhedlaeth iachach yn feddyliol yn y dyfodol sy’n teimlo’n hyderus i fanteisio ar gyfleoedd a gweithredu er mwyn symud ymlaen a gwneud newidiadau cadarnhaol yn eu bywyd, gan ddylanwadu ar eu cymunedau ac ar ddatblygiad ehangach polisi.

O ganlyniad i’r prosiectau cydgynhyrchu hyn ynghyd â’n gwaith ar brosiect Ganwyd yng Nghymru (sy’n ymgymryd ag ymchwil ac arolygon gyda rhieni beichiog a rhieni newydd i helpu deall yn well sut orau i gefnogi plant a theuluoedd sy’n byw yng Nghymru), mae NCPHWR wedi datblygu CORDS (Cydgynhyrchu Cyfeiriad a Strategaeth Ymchwil). Nod CORDS yw darparu rhywfaint o eglurder ar sail tystiolaeth ac enghreifftiau o brosiectau blaenorol a gydgynhyrchwyd gydag aelodau’r cyhoedd ac a ddatblygwyd gan NCPHWR. Mae ein canllaw arfer gorau ar gyfer cydgynhyrchu yn cydnabod na ddylai fod yn ddull ‘unffurf’; yn hytrach, gall sefyll o fewn gwerthoedd craidd a all helpu i ddylanwadu ar gyfeiriad a chadw buddion pennaf y boblogaeth yn flaenllaw ar yr un pryd. Mae’r buddion hyn yn cynnwys i) cynwysoldeb, ii) hyblygrwydd, iii) dilysrwydd a v) myfyrdod.

Yn unol ag esblygiad polisi Cymru, mae NCPHWR yn pwysleisio pwysigrwydd gorfodi a chydnabod hawliau plant yng Nghymru, yn enwedig ochr yn ochr ag Erthyglau 12 a 15. Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth ym mywyd plant Cymru, gan effeithio ar bopeth o addysg i ofal iechyd a’r tu hwnt. Dylai plant gael dweud eu dweud am faterion sy’n effeithio arnyn nhw. Nid yn unig y mae eu safbwyntiau, eu mewnwelediadau a’u breuddwydion yn cael eu clywed, maent yn cael eu hintegreiddio i bolisïau ac ymarfer sydd â’r

Mae Cymru ar flaen y gad yn fyd-eang yng nghyd-destun hawliau plant; mae deddfwriaeth fel Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a pholisi ynghylch chwarae (e.e. Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 a’r Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae) wedi rhoi plant yn ganolog – creu mwy o ymwybyddiaeth ynghylch angen cymunedau i weithio er iechyd a llesiant pobl ifanc. Mae hyn, ar y cyd ag ymrwymiad i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC), wedi creu chwyldro distaw ond dwys – un sydd â’r potensial i ail-lunio tirlun ymchwil, polisi ac, yn anad dim, iechyd a llesiant plant a phobl ifanc. Yn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Llesiant y Boblogaeth, mae cydgynhyrchu yn hanfodol i’n hymchwil. Gall cydgynhyrchu ymchwil gyda phobl nad ydynt yn ymchwilwyr ond sydd â budd yn y prosiect, helpu i wreiddio’r ymchwil, gwella ansawdd yr ymchwil a chynhyrchu deilliannau ystyrlon a newidiadau cadarnhaol i’r gymuned. Mae ein cydgynhyrchu’n defnyddio dull wedi’i seilio ar hawliau, gan ganolbwyntio’n arbennig ar Erthygl 12, sy’n galw am i blant (hyd at 18 oed) gael hawl i gael eu clywed a’u cymryd o ddifri o ran pob mater sy’n effeithio arnyn nhw, a’r hawl i gasglu a defnyddio mannau cyhoeddus (Erthygl 15). Caiff hyn ei ategu ymhellach gan Erthygl 31 ac Ymrwymiad Cyffredinol 17, sy’n cyfeirio at yr hawl i gael mannau i ymlacio, chwarae a chymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden a bywyd diwylliannol ynddynt.

Mae RPlace yn un prosiect o’r fath sydd â chydgynhyrchu yn ganolog iddo. Dywedodd pobl ifanc wrthym eu bod am fod yn weithgar yn eu cymuned leol, ond maent yn teimlo bod diffyg cyfleusterau y maen nhw eu heisiau, eu bod yn costio gormod, neu eu bod yn teimlo nad oes croeso iddynt yn y mannau hyn. Yn ogystal â hyn, dywedant wrthym fod gormod o draffig, gormod o sbwriel ac, weithiau, nad ydynt yn teimlo’n ddiogel. Roeddem am roi llais i bobl ifanc wneud newidiadau yn eu cymuned leol i oresgyn y rhwystrau hyn. O ganlyniad, datblygodd ein tîm ‘RPlace’, sef ap symudol lle y gallant adolygu eu hardaloedd lleol i helpu grymuso pobl ifanc ac eiriol dros eu dymuniadau a’u hanghenion i helpu gwneud newidiadau i’r mannau lle maen nhw’n byw, yn chwarae ac yn mynd i’r ysgol. Datblygwyd yr ap o ganlyniad i ganfyddiadau’r Rhwydwaith Ysgolion Cynradd HAPPEN ac ACTIVE (prosiect oedd â’r nod o wella ffitrwydd ac iechyd calonnau pobl ifanc yn eu harddegau yn Abertawe trwy ymyrraeth aml-elfen), ochr yn ochr â chydweithrediad cadarn â Chwarae Cymru. Bydd yr adolygiadau gan bobl ifanc a gasglwyd gan Ap RPlace yn cael eu rhannu gyda sefydliadau (er enghraifft, cynghorau lleol) i wneud lleoedd yn fwy diogel, yn fwy amgylcheddol gyfeillgar ac yn fwy hygyrch i blant a phobl ifanc yn eu harddegau.

potensial i greu dyfodol tecach, mwy disglair i bawb.

Ariennir y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Llesiant y Boblogaeth gan Lywodraeth Cymru trwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.


18 | CHILDRENINWALES.ORG.UK

Cefnogi hawl plant i chwarae Marianne Mannello, Chwarae Cymru

Pen-blwydd hapus Plant yng Nghymru yn 30 oed! Mae Chwarae Cymru hefyd yn dathlu carreg filltir eleni hefyd – ein pen-blwydd yn 25 oed! Yn ystydod y pum mlynedd ar hugain hynny, bu Plant yn Nghymru yn nodwedd amlwg. Rwy’n falch o rannu fy mhrofiadau o sut yr ydym, gyda’n gilydd, wedi ymgyrchu i greu Cymru sy’n cefnogi hawl plant i chwarae. Dechreuais ar fy nhaith gyda Chwarae Cymru ym 1997, pan ofynnwyd i mi gynrychioli Fforwm Chwarae Cymru Gyfan ar bwyllgor rheoli Chwarae Cymru, cyn i’r sefydliad fod yn elusen. Roeddem yn grŵp bach o bobl ymroddedig a lwyddodd i gael grant gan y Swyddfa Gymreig, fel yr oedd bryd hynny, i sefydlu elusen genedlaethol ar gyfer chwarae plant. Ym mis Chwefror 1998, aethom ati i sefydlu ein helusen gydag aelodau newydd o staff, a hynny y tu ôl i’r cypyrddau yn swyddfa Plant yng Nghymru. Man wedi’i fenthyg oedd ein ‘swyddfa’, a’r cyfan y gallem ei fforddio bryd hynny. Er nad oedd ein sefyllfa ariannol yn iach, roedd gennym weledigaeth a photensial a digon o gyfle i ddatblygu. A chawsom lawer o gymorth gan dîm Plant yng Nghymru. Roeddwn i wrth fy modd cael paned yn y gegin fach ger y swyddfa cynllun agored ac roedd yr ystafell gyfarfod ar y llawr gwaelod yn lle pwysig i ni hefyd. Dyma oedd lleoliad cyfarfodydd Ymddiriedolwyr Chwarae Cymru, cyfweliadau am swyddi a’r sesiynau ble roeddem yn breuddwydio am Gymru chwaraegyfeillgar. Yn fuan wedyn, symudodd Chwarae Cymru i leoliad mwy ym Mae Caerdydd, a oedd hefyd yn dod yn gartref i ddatganoli yng Nghymru ar y pryd a chafwyd cyfleoedd cyffrous yn sgil y llywodraeth ddatganoledig. Ochr yn ochr â Phlant yng Nghymru, fe wnaethom helpu i ddrafftio polisi chwarae a chynllun gweithredu polisi chwarae cyntaf y byd. Yn y pen draw, wrth i ni ddod yn fwy sefydledig, fe wnaethom greu rhwydwaith o swyddogion a chymdeithasau chwarae ledled Cymru a oedd yn gweithio i ddenu cyllid ar gyfer chwarae, gyda’r Gronfa Loteri Fawr bryd hynny yn buddsoddi mewn chwarae plant. Bu’r un rhwydwaith yn gweithio’n ddiflino i ddylanwadu ar y dyletswyddau

cyfleoedd chwarae digonol arloesol, a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru drwy Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010. Heb unrhyw amheuaeth, mae’n rhaid llongyfarch Llywodraeth Cymru am arwain y ffordd yn fyd-eang ar lunio polisïau ar chwarae plant. Ni ddylem gymryd y cynnydd yn ganiataol – ac ni ddylem laesu dwylo. Yn ein hadroddiad ymchwil newydd, Yr hyn mae plant yn ei ddweud am chwarae yng Nghymru: 2022, dywedodd bron i 7,000 o blant a phobl ifanc yn eu harddegau yng Nghymru eu bod yn fodlon â’r cyfleoedd chwarae sydd ar gael yn yr ardal leol. Dywedodd 79% o blant a‘r rhai yn eu harddegau ledled Cymru eu bod yn chwarae mewn mannau awyr agored yn bennaf. Fodd bynnag, y man chwarae mwyaf cyffredin a nodwyd yw’r ardd gefn. Mae Chwarae Cymru yn awyddus i weld mwy o blant yn bod yn fwy amlwg ac yn chwarae mewn mwy o fannau yn y gymdogaeth ledled Cymru. Er bod gennym lawer i’w ddathlu o ran cydnabod pwysigrwydd chwarae yng Nghymru, nid yw Chwarae Cymru am roi’r gorau i ymgyrchu eto. Fel cenedl, mae gennym lawer i’w wneud i wireddu hawl plant i chwarae. Mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae yn hyn o beth. Mae plant yn chwarae mewn llawer o fannau gwahanol a hynny ble a phan fo’r amodau’n iawn. Gall hyn fod dan do ac yn yr awyr agored, gan gynnwys mannau megis ysgolion, lleoliadau gofal plant, ysbytai ac yn y gymdogaeth. Fel oedolion, ein cyfrifoldeb ni yw sicrhau bod gan blant amser, lle a rhyddid i chwarae.


20 | CHILDRENINWALES.ORG.UK

HYDREF 2023 | 21

Dathlu deugain mlynedd o ofal

Menai Owen-Jones, LATCH Craidd Elusen Canser Plant Cymru Yn ogystal â Plant yng Nghymru, mae eleni hefyd yn ddathliad pen-blwydd mawr i elusen arall i blant yng Nghymru, Elusen Canser Plant Cymru LATCH. Mae LATCH yn cefnogi plant, pobl ifanc a’u teuluoedd sydd â diagnosis o ganser neu lewcemia ac sy’n derbyn triniaeth yn Ysbyty Plant Cymru yng Nghaerdydd. Eleni mae’r elusen yn dathlu ei phen-blwydd yn ddeugain ac mae’r Prif Swyddog Gweithredol, Menai Owen-Jones, yn myfyrio ar gyflawniadau’r elusen a’i chyfraniad tuag at gefnogi hawliau plant. Mae plant, pobl ifanc a’u teuluoedd y mae canser neu lewcemia yn effeithio arnynt yn aml yn wynebu taith hir, lethol ac ansicr. Craidd Elusen Canser Plant Cymru LATCH, ers ei dechreuad yn y 1980au cynnar, yw rhoi gobaith, gwneud bywyd ychydig yn haws i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd a rhoi eu hanghenion nhw yn gyntaf, gan weithio dros yr hyn sydd orau i bob plentyn. Sefydlwyd LATCH ym 1983 gan grŵp bach o rieni a theuluoedd yr oedd eu plant yn derbyn triniaeth ar gyfer canser. Eu nod oedd darparu cefnogaeth gilyddol a chodi arian i wella bywydau’r cleifion, gan adnabod pwysigrwydd hawliau plant i gael gofal iechyd o safon. Roedd Uned Oncoleg Plant Cymru wedi’i leoli yn Ysbyty Llandochau ym Mro Morgannwg ar y pryd, sy’n esbonio tarddiad y llythrenw LATCH - ‘Llandough Aims to Treat Children with Cancer and Leukaemia with Hope’ - ac yn ein hatgoffa o wreiddiau cryf a hanes hir yr elusen o weithio gyda’r GIG. Dros y deugain mlynedd diwethaf mae LATCH wedi cefnogi miloedd o blant, pobl ifanc a’u teuluoedd ledled De, Canolbarth, Dwyrain a Gorllewin Cymru. Yn 2005, symudodd yr Uned Oncoleg Plant i Gaerdydd i’r Ysbyty Plant Cymru newydd. Ar y pryd, trwy ymgyrch codi arian cyhoeddus sylweddol, arianodd LATCH uned llety wyth gwely pwrpasol yn yr Ysbyty fel bod teuluoedd yn gallu aros ar y safle tra bod eu plentyn yn glaf mewnol. Ein nod yw darparu profiad cartref oddi cartref i’n teuluoedd sy’n aros gyda ni yn ein llety ar safle’r ysbyty. Mae LATCH yn cynnig sawl gwasanaeth cymorth gwerthfawr arall, gan gynnwys grantiau ariannol, gwasanaeth gwaith cymdeithasol, carafanau gwyliau, digwyddiadau a gweithgareddau i blant, pobl ifanc a’u brodyr a chwiorydd. Y bwriad yw dod â theuluoedd at ei gilydd ar gyfer cefnogaeth gilyddol a rhoi cyfle i’r plant ymlacio a chwarae. Mae ein tîm o weithwyr cymdeithasol yn arbenigo yn yr heriau sy’n wynebu teuluoedd plant sy’n derbyn triniaeth ar gyfer canser a lewcemia a darparu gwybodaeth a chymorth ymarferol, emosiynol ac ariannol. Maen nhw’n helpu i sicrhau bod plant a’u teuluoedd yn deall eu hawliau. Dros y pedwar deg mlynedd diwethaf mae LATCH wedi darparu dros £15 miliwn o wasanaethau rhad ac am ddim. Mae hyn yn

cynnwys grantiau ariannol a chyllid i Uned Oncoleg Bediatrig Ysbyty Plant Cymru ar gyfer gwelliannau cyfalaf, offer meddygol ac ystod o brosiectau ymchwil clinigol ac oncoleg bediatrig. Mae buddion y gwasanaeth iechyd a sefydliad i gleifion yn gweithio mewn partneriaeth yn amlwg yn y gwahaniaeth positif ym mhrofiad taith triniaeth canser plant, pobl ifanc a’u teuluoedd. Mae’r tîm LATCH yn gweithio ochr yn ochr â’r timau clinigol yn Ysbyty Plant Cymru ac mae ein tîm gwaith cymdeithasol yn rhan o dîm amlddisgyblaeth yr Uned Oncoleg Plant, gan ddarparu gofal di-dor a chyfannol i blant a’u teuluoedd. Wrth i ni ddathlu pedwar deg mlynedd o ofal yn 2023, rydym yn gwybod bod cyfraddau achosion o ganser ymhlith plant ar gynnydd yn anffodus, sy’n golygu ei fod yn debygol iawn y bydd y galw am wasanaethau LATCH yn parhau i gynyddu i’r dyfodol. Rydym yn gwybod bod angen gwneud mwy i godi ymwybyddiaeth o anghenion plant a phobl ifanc a’u teuluoedd sy’n cael eu heffeithio gan ganser a lewcemia, gan gynnwys amlygu’r caledi ariannol y mae cynifer yn ei wynebu. Rhaid hefyd rhoi mwy o amlygrwydd i hawliau, lleisiau ac anghenion plant a phobl ifanc gyda chanser a lewcemia ym meysydd ymchwil a gofal iechyd canser, ble mae’r ffocws ar gleifion sy’n oedolion yn rhy aml. Gan edrych i’r dyfodol, mae hwn yn amser cyffrous yn nhaith yr elusen gan y byddwn y canolbwyntio ar ddatblygu ein gwasanaethau ac adeiladu ar gyflawniadau’r pedwar deg mlynedd diwethaf. Bydd LATCH yn parhau i fod yn elusen sy’n darparu gobaith ac yn rhoi anghenion plant a’u teuluoedd yn gyntaf, fel y gwnaeth ein sefydlwyr flynyddoedd yn ôl. I ddysgu rhagor am LATCH ewch i www.latchwales.org neu Facebook: https://www.facebook.com/LATCHWales

Siarter Hawliau Plant newydd yng Ngogledd Cymru Eirian Wynne, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae plant a phobl ifanc o bob rhan o Ogledd Cymru wedi cymryd rhan mewn digwyddiadau amrywiol i helpu i ddatblygu Siarter Hawliau Plant newydd i sicrhau bod ganddynt lais ar feysydd sy’n bwysig iddynt. Cynhaliodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), mewn partneriaeth â sefydliadau a chynghorau ledled Gogledd Cymru, gyfres o ddigwyddiadau a sesiynau ymgysylltu i bobl ifanc eu mynychu i helpu i greu’r Siarter Plant. Roedd y digwyddiadau, a gynhaliwyd mewn gwahanol leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Rheilffordd Tal-y-llyn, yn galluogi plant a phobl ifanc i ymgysylltu â datblygu’r siarter trwy weithgareddau hwyliog a rhyngweithiol, a oedd yn canolbwyntio ar iechyd meddwl cadarnhaol, lles a grymuso, gan roi profiadau cadarnhaol iddynt a chyfle gwirioneddol i ddylanwadu ar sut mae sefydliadau ledled Gogledd Cymru yn gweithio gyda phobl ifanc. Mae’r siarter yn set o safonau y mae sefydliadau’n gweithio iddynt, i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu trin yn deg a bod ganddynt lais ac fe’i lansiwyd yn swyddogol ym mis Ebrill 2023. Mae Tîm Profiad Cleifion Rhanbarthol y bwrdd iechyd yn arwain ar ddatblygu’r siarter ac ymgysylltu â thua 2,400 o blant a phobl ifanc a chreu partneriaeth amlasiantaeth “Adeiladu yn Iawn” gyda chynrychiolwyr ar draws iechyd, gofal cymdeithasol, addysg, trydydd sector a phobl ifanc, i gefnogi’r prosiect ymgysylltu â hawliau plant mawr a chyd-ddylunio’r Siarter Hawliau Plant ar gyfer BCHUB.

Mae datblygiad y siarter yn gyfle gwych i sicrhau bod ein holl staff yn deall yr hyn y gall plant a phobl ifanc ei ddisgwyl gan ein gwasanaethau. Yn ogystal, mae “Llyfr Ryseitiau” wedi’i ddylunio hefyd fel adnodd defnyddiol i sefydliadau ledled Gogledd Cymru mewn dulliau gweithredu sy’n seiliedig ar hawliau adeiladu ar ymarfer. Mae’r Llyfr Ryseitiau yn rhannu dysgu gwerthfawr a mewnwelediadau allweddol gan blant a phobl ifanc am yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw a’r hyn maen nhw’n teimlo yw’r cynhwysion allweddol wrth greu amgylcheddau lle maen nhw’n teimlo bod eu lleisiau’n cael eu clywed, eu lles yn cael ei feithrin a bod eu hawliau’n cael eu gwarchod. Am fwy o wybodaeth am y Siarter, ebostiwch: BCU.CAMHSNeuroPEQueries@wales.nhs.uk


22 | CHILDRENINWALES.ORG.UK

Hyrwyddo’r CCUHP drwy ein cyrsiau hyfforddi Bev Williams, Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs

Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) he United Nations Convention on the Rights of the Child (UNCRC) wedi bod yn rhan annatod o waith Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs ers dros 30+ mlynedd. Yn yr erthygl hon, mae Bev Williams, Swyddog Hyfforddi, yn esbonio sut mae hi wedi bod yn angerddol ac yn rhagweithiol wrth hyrwyddo hawliau plant, fel Gweithiwr Chwarae a Gweithiwr Ieuenctid, gan gefnogi a grymuso plant a phobl ifanc i ddeall a gwneud y gorau o’u hawliau. Yn fy rôl bresennol fel tiwtor Gwaith Chwarae, rwy’n hyrwyddo CCUHP trwy ein cyrsiau hyfforddi i Weithwyr Chwarae, gan godi mwy o ymwybyddiaeth o Hawliau Plant, a sicrhau y gweithredir y CCUHP o fewn eu gwaith o ddydd i ddydd gyda phlant. Er bod yr Erthyglau yn y Confensiwn yn dod yn eu cyfanrwydd, mae yna rai sy’n ymwneud yn fwy â fy rôl i. Erthygl 31 - Hawl y plentyn i Chwarae, gorffwys a chymryd rhan mewn cyfleoedd hamddenol a diwylliannol, Mae chwarae yn hanfodol i ddatblygiad cyfannol plant ac yn cefnogi eu dealltwriaeth ohonynt eu hunain a’r byd o’u cwmpas; rydym yn annog dysgwyr i adolygu eu polisïau i sicrhau bod hawliau plant yn sail i’w harferion a’u gweithdrefnau, yn enwedig eu polisi Chwarae, gan felly sicrhau eu bod yn gweithio o fewn yr Egwyddorion Gwaith Chwarae ac yn sicrhau bod plant yn cael mynediad at gyfleoedd Chwarae o safon. Mae’n werth nodi yma … roedd cyflwyniad Sylw Cyffredinol 17 (2013) yn sicrhau ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu ystod eang o brofiadau amrywiol a chyffrous i’r plant; yn cynnwys, cyfleoedd chwaraeon amrywiol, y celfyddydau, theatr, ac yn darparu adnoddau a chyfleoedd i’r plant brofi eu diwylliant eu hunain a diwylliannau gwahanol pobl eraill… mae hyn yn rhoi cyfle i blant ddeall cefndir a threftadaeth plant eraill…mae SC17 yn cefnogi oedolion a Gweithwyr Chwarae i ddeall ymhellach bwysigrwydd Chwarae ym mywydau plant a hyrwyddo cyfleoedd a phrofiadau cyfartal. Erthygl 12 - Hawl y plentyn i lais, barn a chael gwrandawiad; rydym yn hyrwyddo pwysigrwydd diwallu anghenion plant a phwysigrwydd cymryd barn plant o ddifrif; rydym yn hyrwyddo ymgynghori fel arf i adnabod dymuniadau a barn y plant, a bydd eu cymryd o ddifrif yn cefnogi eu lles emosiynol a’u hymdeimlad o berthyn a gwerth. Erthygl 23 – hawl plant anabl i gael manteision teg a chael y cyfleoedd gorau posibl i ymgysylltu a byw bywyd llawn; trwy ein hyfforddiant, rydym yn annog Gweithwyr Chwarae i nodi a chael gwared ar rwystrau sy’n anablu er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn gallu mwynhau Chwarae a ddewisir yn rhydd yn eu lleoliadau. Mae eiriolaeth trwy ein cyrsiau hyfforddi wedi cael effaith gadarnhaol aruthrol ar ein dysgwyr, sy’n cymryd Hawliau Plant o ddifrif ac yn gwneud newidiadau cadarnhaol yn eu clybiau Chwarae, meithrinfeydd a lleoliadau gofal plant… wrth sicrhau bod gan y plant lais a dewis; a defnyddio’r Dull Gwaith Chwarae i gefnogi eu datblygiad cymdeithasol, corfforol ac emosiynol. Rwyf wedi gweld llawer o newidiadau cadarnhaol mewn deddfwriaeth a pholisi, sydd wedi golygu bod Hawliau Plant wedi eu cydnabod a’u deall yn ehangach. Teimlaf fod Chwarae mewn man amlwg ar agenda Comisiynwr Cymru; a phan ddaw’n fater o hyrwyddo a gorfodi Hawliau Plant – gellir dadlau mai Cymru fel Cenedl yw’r wlad fwyaf rhagweithiol yn y byd. Mae Llywodraeth Cymru wedi ysgrifennu Hawliau Plant mewn deddfwriaeth, sy’n golygu bod yn rhaid i bawb ystyried a myfyrio ar fuddiannau gorau’r plentyn. Goblygiadau i’n harferion … mae’n rhaid i Bolisïau a Gweithdrefnau ein lleoliad adlewyrchu Hawliau Plant – a rhaid i Weithwyr Chwarae ystyried anghenion a diddordebau pob plentyn unigol…darparu ar gyfer anghenion Chwarae plant unigol a sicrhau eu diogelwch, eu gwarchodaeth a’u lles. Mae ‘Cymru – Gwlad Lle mae Cyfle i Chwarae’ (Canllawiau Statudol) 2014 ynghyd â ‘Creu Cymru Lle mae Cyfle i Chwarae’ 2012 yn rhoi canllawiau clir ac yn gorfodi Awdurdodau Lleol i gefnogi a sicrhau cyfleoedd Chwarae digonol i blant yn eu cymunedau eu hunain. Fodd bynnag, rwy’n gweld lleoliadau Chwarae’n cael trafferth i aros ar agor oherwydd diffyg cyllid, gwagle a rhwystrau amgylcheddol. Yn bersonol, teimlaf fod llawer o blant yn dal heb y cyfle i Chwarae yn eu cymunedau eu hunain; mae gormod o rwystrau o hyd y mae angen mynd i’r afael â nhw, megis diffyg hyfforddiant, lle priodol, rhwystrau ariannol, lleoliadau addas ar gyfer plant ag anableddau ac ati. Rhaid cydnabod a mynd i’r afael â’r rhwystrau hyn ar lefel Awdurdod Lleol er mwyn gwneud rhoi gwelliannau ar waith. Ar nodyn cadarnhaol, rwy’n credu bod Hawliau Plant yn cael eu cydnabod yn llawer ehangach ac rydym wedi dod yn bell mewn 30+ mlynedd... ffordd i fynd eto cyn i bob plentyn gael ei hawl sylfaenol i CHWARAE! Ond rydym yn mynd i’r cyfeiriad cywir, y cyfan sydd ei angen arnom yw mwy o oedolion a Gweithwyr Chwarae i gymryd Hawliau Plant o ddifrif ac eiriol ar bob lefel i sicrhau bod plant yn cael eu Hawliau, a chyfle i ddysgu, tyfu a datblygu’n effeithiol i fod yn oedolion ifanc, hyderus a hunan-sicr.

HYDREF 2023 |

Cylchgrawn Ffynnu: Grymuso pobl ifanc sydd â phrofiad gofal yng Nghymru i ddeall a chofleidio’u hawliau Elizabeth Bryan, Y Rhwydwaith Maethu

Ers 20 mlynedd, bu’r Rhwydwaith Maethu yng Nghymru yn cynhyrchu cylchgrawn Ffynnu. Mae’r cyhoeddiad yn cynorthwyo plant a phobl ifanc sydd â phrofiad gofal i ddeall eu hawliau, gan sicrhau y gallant gael at wybodaeth a chymorth ynglŷn â’r materion sy’n bwysig iddyn’ nhw. Ac yntau’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, nod y cylchgrawn Ffynnu yw darparu cynnwys hygyrch ac addysgiadol i blant a phobl ifanc sydd â phrofiad gofal sy’n egluro ystod eang o bynciau mewn iaith syml a hawdd ymwneud â hi. Mae’n cynnwys erthyglau, cyfweliadau a storïau sy’n dadansoddi gwahanol agweddau o’u bywydau, yn ogystal â materion penodol yn ymwneud â phrofiad gofal. Mae wedi bod yn bwysig bob amser i Ffynnu adlewyrchu lleisiau a phrofiadau pobl ifanc o bob cwr o Gymru. Mae eu cynnwys nhw wedi dod â safbwyntiau a dirnadaethau unigryw. Mae cyfranogi wrth graidd y broses ddatblygu ar gyfer pob mater, gyda phobl ifanc yn dewis y prif themâu, gan ofyn cwestiynau ar gyfer y dudalen broblemau, ac weithiau’n darparu’r atebion. Drwy weithio’n gydweithredol yn y ffordd hon, creodd y cylchgrawn lwyfan i rannu profiadau a heriau, gan ddathlu llwyddiant. Mae Ffynnu yn cydnabod pwysigrwydd magu cadernid – rydym wedi canolbwyntio ar iechyd meddwl, gan gyflwyno mecanweithiau ymdopi a strategaethau hunanofal. Rydym wedi ymdrin ag addysg, gyda rhifynnau sy’n archwilio’r heriau y gall pobl ifanc sydd â phrofiad gofal eu hwynebu wrth ddechrau mewn ysgol newydd neu sefyll arholiadau. Gall blynyddoedd yr arddegau fod yn anodd eu llywio i bob person ifanc, ac felly cawsom ein harwain gan ein cynulleidfa graidd i ganolbwyntio ar y materion sydd bwysicaf. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae hynny wedi cynnwys cadw’u hunain yn ddiogel ar-lein a magu a chynnal perthnasoedd iach gyda’r rheiny sydd o’u hamgylch. Drwy roi sylw i’r materion hanfodol hyn, mae’r cylchgrawn yn cyfarparu’i ddarllenwyr gydag offer i lywio drwy flynyddoedd eu harddegau gan fynnu’u hawliau. Gwyddom hefyd fod gofalwyr maeth yn ei ganfod yn ddefnyddiol i’w ddarllen ac i fyfyrio ar y pynciau a godwyd, gyda llawer yn dweud wrthym eu bod yn cadw rhifynnau’r gorffennol o Ffynnu fel adnodd i bori drwyddo fel y bo angen. Roedd yr ystod eang o bynciau yr ymdrinnir â hwy yn ein rhifyn diogelwch digidol yn sicr yn rhywbeth na fyddid wedi’i ystyried pan lansiwyd y cylchgrawn 20 mlynedd yn ôl. Fel mae’r blaenoriaethau i bobl ifanc yn datblygu ac yn newid, felly hefyd y gwnaeth ein cylchgrawn. Eleni, lansiasom rifyn o’r enw ‘Arian, Arian, Arian!’, oedd â chysylltiad â chyflwyno’r Cynllun Peilot ar Incwm Sylfaenol yng Nghymru. Ysgrifennwyd y rhifyn hwn i hysbysu ac i gynorthwyo’r bobl ifanc hynny oedd yn cymryd rhan yn y cynllun peilot a’r rheiny oedd ond yn dechrau ar eu taith i fyw’n annibynnol. Darparasom gynghorion ynglŷn ag arbed arian, yn ogystal â chynghorion ynglŷn â hawliau ariannol ar gyfer y rheiny sydd â phrofiad gofal. Gallwn ddweud yn hyderus fod y cylchgrawn Ffynnu wedi sefydlu’i hun fel adnodd cyfeillgar ac

addysgiadol ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â phrofiad gofal. Mae gan ein rhifyn nesaf, a lansir ym mis Hydref 2023, y teitl, ‘Eich gofal, eich hawliau, eich llais’, a bydd yn gwasanaethu fel pecyn cymorth i bobl ifanc i ddeall, i gofleidio, ac i fynnu’u hawliau. Mae’n cynnwys cyfweliad â Rocio Cifuentes, y Comisiynydd Plant, a chyfraniad gan Voices from Care Cymru. Credwn y gall hyn fod y mater pwysicaf rydym erioed wedi ysgrifennu amdano, ac edrychwn ymlaen at ei rannu â’n cymuned faethu. Gallwch ganfod mwy o wybodaeth am Ffynnu a gwaith Y Rhwydwaith Maethu drwy anfon e-bost at wales@fostering. net neu drwy fynd i’n gwefan yn thefosteringnetwork.org.uk.


24 | CHILDRENINWALES.ORG.UK

HYDREF 2023 | 25

Media Academy Cymru a’r broses o ddatblygu’r gwasanaeth DARGYFEIRIO – dull wedi’i arwain gan hawliau Sophie Longland & Sam Heatley, DARGYFEIRIO Mae hawliau plant yng nghyd-destun delio â throseddau lefel isel gan bobl ifanc wedi eu trawsnewid drwy ddargyfeirio dros y 15 mlynedd diwethaf. Cyn 2009, roedd hawliau plant a phobl ifanc yng Nghymru yn cael eu hatal, roedd troseddau lefel isel yn aml yn cael eu troseddoli ac nid oedd opsiwn ar gael i blant a phobl ifanc ymgysylltu â chanlyniadau adferol a fyddai’n sicrhau bod eu hawliau yn cael eu hyrwyddo. Dengys tystiolaeth y gall troseddoli troseddau lefel isel gael effeithiau hirdymor ar lwybrau plant a phobl ifanc yn y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys ffactorau megis cyfyngu ar gyflogaeth a chyfleoedd hyfforddi yn y dyfodol, yr effaith a gaiff ar deulu agos y plant a’r bobl ifanc a’r risg o gael effaith niweidiol ar sut mae plant a phobl ifanc yn gweld eu hunain, sy’n cynyddu’r risg o broffwydoliaethau hunangyflawnol. Bu i amgylchedd hawliau plant a phobl ifanc newid cyfeiriad o ran Cyfiawnder Ieuenctid yn 2010 pan sefydlodd Media Academy Cymru (MAC) wasanaeth dargyfeirio yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Rhoddwyd dull wedi’i arwain gan hawliau ar waith i ddargyfeirio pobl ifanc rhwng 10 a 17 oed oddi wrth ganlyniadau cosbol ffurfiol y System Cyfiawnder Troseddol a thuag at ymyrraeth adferol. Ethos DARGYFEIRIO yw sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc sydd wedi cyflawni troseddau lefel isel yng Nghaerdydd yn cael ei weld fel plentyn a pherson ifanc yn gyntaf

ac yna fel troseddwr, fel y nodir yn null ‘Plentyn yn Gyntaf’ y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid. Yn hyn o beth, rhoddir ‘Erthygl 3’ o ‘Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn’ (CCUHP) ar waith o adeg yr atgyfeiriad er mwyn sicrhau bod pob gweithred yn cael ei chyflawni er budd pennaf y plentyn. Yn wir, drwy gydol y broses ymyrryd, caiff plant a phobl ifanc eu grymuso i fod yn rhan o benderfyniadau a wneir a deall yr hawliau sydd ganddynt i wneud penderfyniadau gwybodus am y broses ymyrryd. Caiff hyn ei nodi yn Erthygl 12 o CCUHP sy’n nodi gwerth cynnwys barn pobl ifanc wrth wneud penderfyniadau. Nod y gwasanaeth yw darparu ymyraethau cyfannol er mwyn cefnogi cyfiawnder cadarnhaol a blaenoriaethu budd pennaf plant, gan gydnabod eu hanghenion, eu gallu, eu hawliau a’u potensial. Drwy sicrhau hawliau plant a phobl ifanc ar yr adeg hon, yn ogystal â phlismona seiliedig ar hawliau Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu, llwyddwyd i leihau’r gyfradd aildroseddu a lefelau aildroseddu o fewn cyfnod byr o amser. Mae MAC, a’r gwasanaeth DARGYFEIRIO, wedi bod yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc ers 2010, yn cydnabod ac yn gorfodi eu hawliau o fewn cyd-destun Cyfiawnder Ieuenctid. Mae MAC wedi dargyfeirio miloedd o blant a phobl ifanc oddi wrth y System Cyfiawnder Troseddol ffurfiol. Gellir priodoli canlyniadau cadarnhaol y rhaglen ddargyfeirio i nifer o ffactorau, ond yn bwysicaf oll, y dull a gaiff ei arwain gan hawliau sy’n rhoi hawliau plant yn gyntaf sydd wedi sicrhau newidiadau mor ddramatig. Mae sylfeini’r gwasanaeth dargyfeirio wedi’u hadeiladu ar hawliau plant fel y nodir yng ‘Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn’ (CCUHP) ac yn annog ymarferwyr i hyrwyddo hawliau plant a phobl ifanc yn weithredol er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yn deall ac yn defnyddio eu hawliau (Erthygl, 42).

Dylai rheolwyr achosion DARGYFEIRIO geisio hyrwyddo hawliau plant ym mhob agwedd ar y broses ymyrryd. Yn fwy diweddar, cafodd person ifanc ei gefnogi gan reolwr achosion o fewn gwasanaeth DARGYFEIRIO i weithio gyda Heddlu De Cymru i wneud penderfyniadau ynghylch y cynnig o Ddatrysiadau y Tu Allan i’r Llys. Yn yr achos hwn, bu’r rheolwr achosion yn cydgysylltu â Heddlu De Cymru er mwyn sicrhau bod y person ifanc yn gallu cael gafael ar y dogfennau a oedd yn gysylltiedig â’i drosedd. Llwyddodd i gael gafael ar fideo o gamerâu a wisgir ar y corff a thrafod ei opsiynau â swyddog yr heddlu er mwyn gwneud penderfyniad deallus. Yn hyn o beth, galluogodd y person ifanc i ddeall ei opsiynau a’i hawliau yn y cyd-destun hwn. Dyma un enghraifft o sut mae’r gwasanaeth DARGYFEIRIO yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc i sicrhau eu bod yn ymwybodol o’u hawliau ac yn teimlo wedi’u grymuso yng nghyddestun Cyfiawnder Ieuenctid. Helpodd y gwasanaeth DARGYFEIRIO i gyd-lunio dull asesu wedi’i arwain gan hawliau ar gyfer pobl ifanc sy’n ymgysylltu â’r gwasanaeth DARGYFEIRIO ac mae hefyd yn ei ddefnyddio. Caiff asesiadau eu cwblhau ar y cyd â’r bobl ifanc ac maent yn tynnu sylw at gryfderau, diddordebau a’r ffactorau amddiffynnol sy’n gysylltiedig â’r person ifanc. Mae hyn yn helpu i hyrwyddo Erthygl 12 ac Erthygl 13 o CCUHP sy’n nodi bod lleisiau pobl ifanc yn hanfodol ar gyfer cwblhau asesiadau’r ymarferwyr a bod eu barn, eu meddyliau a’u teimladau yn galluogi pobl ifanc i gymryd perchnogaeth o’r asesiad a chael eu grymuso yn ystod y broses. Ewch i’n gwefan i gael gwybod mwy am y gwasanaeth DARGYFEIRIO a Media Academy Cymru a’r prosiectau rydym yn eu cynnig, neu anfonwch e-bost atom i info@mediaacademycymru.wales

Llwybr Tŷ Hafan i grymuso meddyliau pobl ifanc Katie Simmons, Ty Hafan

Dywed Llywodraeth Cymru ei bod yn arwain y ffordd o ran hybu hawliau plant. Dros y 30 mlynedd diwethaf, mae newidiadau a datblygiadau enfawr wedi digwydd a bydd o fudd i blant a phobl ifainc yng Nghymru. Mae’r erthygl hon yn tynnu sylw at pam eu bod wedi bod mor bwysig i’r bobl ifanc rydyn ni’n eu cefnogi yn Hosbis Plant Tŷ Hafan. Blwyddyn nesaf mae Hosbis Plant Tŷ Hafan yn dathlu pum mlynedd ar hugain o ddarparu cysur, gofal a chefnogaeth i blant sydd â chyflyrau sy’n byrhau bywyd. Yn yr hosbis a chymunedau ehangach ledled Cymru, ein nod yw helpu plant a phobl ifanc i gael hwyl, magu hyder a theimlo eu bod wedi’u grymuso yn feddyliol ac yn gorfforol, pan fo hynny’n bosibl. Yn yr hosbis, rydym yn ymfalchïo o ddarparu’r gofal a’r cymorth gorau posibl i’n plant a’n teuluoedd. Ers agor ein drysau yn swyddogol ym 1999, mae hawliau a lleisiau plant wedi dod yn bell! Yn y gorffennol roeddem yn dibynnu llawer ar weithwyr meddygol proffesiynol a rhieni i wneud penderfyniadau ar yr hyn oedd orau i’r plentyn. Yn 2021, roedd Tŷ Hafan yn cydnabod yr angen am weithredu cymdeithasol a chyfranogiad ieuenctid systematig wedi’i wreiddio. Yna gwnaethom gais i Blant Mewn Angen am grant i sicrhau swyddogaeth sy’n ymroddedig i rymuso pobl ifanc a rhoi’r cyfle iddynt ddweud eu dweud a gwneud gwahaniaeth. Roeddem yn ffodus ac yn teimlo’n llawn cyffro o gael ein derbyn ar gyfer y grant a oedd wedyn yn ein galluogi i benodi ymarferydd priodol ar gyfer y swyddogaeth. O ganlyniad, ar ddechrau 2023, dechreuais fy antur gan weithio gyda’n pobl ifanc wych. Fel athrawes, roeddwn bob amser yn hynod angerddol am lais y disgybl ac am gefnogi pobl ifanc i deimlo eu bod wedi’u grymuso. Mae’r angerdd sydd gennyf i dros wrando ar blant a’u helpu i gyflawni eu hawliau wedi bod yn rhan hanfodol o fy ngwaith erioed. Fel Ymarferydd Gweithredu Cymdeithasol Ieuenctid, rhan o fy swyddogaeth yw gwrando ar leisiau ein pobl ifanc a’u cynorthwyo i weithredu i gyflawni newidiadau o ran y materion penodol y maent yn teimlo’n angerddol amdanynt. Yn ddiweddar, rwyf wedi sefydlu ein Bwrdd Ieuenctid cyntaf erioed sy’n cynnwys amrywiaeth o bobl ifanc; brodyr a chwiorydd, brodyr a chwiorydd mewn profedigaeth a phlant wedi’u hatgyfeirio. Mae ein bwrdd ieuenctid yn agored i bob person ifanc sy’n gysylltiedig â Thŷ Hafan ac mae’n gynhwysol o ran pob cyflwr ac angen. Ar gyfer pobl ifanc sy’n ddieiriau neu sydd ag anghenion cymhleth iawn, rydym yn sicrhau bod y dechnoleg ddiweddaraf o’r radd flaenaf yn cael ei defnyddio i gefnogi’r plentyn i gyfrannu trwy symud ei lygaid, ei ben, ei draed neu unrhyw ran o’i gorff! Mae’r grŵp yn cyfarfod yn fisol ac yn cydweithio ar ddarn o weithredu cymdeithasol. Yn rhan o fy swyddogaeth byddaf yn ymweld â’r bobl ifanc yn eu cartrefi, yn yr ysgol neu yn yr hosbis lle rydym yn treulio amser yn siarad am faterion, pryderon neu ofidiau a allai fod ganddynt. Wrth gyfarfod â’r bobl ifanc rydym yn aml yn cynnal trafodaethau agored am hawliau plant yng Nghymru a’r hyn y maent yn ei olygu iddyn nhw. Rydym yn rhannu enghreifftiau o arferion da yn yr ysgol neu yn y cartref a phwysigrwydd codi ymwybyddiaeth o’r 42 hawl sydd ganddynt. Ers imi ddechrau fy swyddogaeth ym mis Chwefror rydym wedi bod yn ddigon ffodus i gael y cyfle i weithio gyda rhai sefydliadau gwych. Yn ddiweddar, ymunodd y bobl ifanc â phrosiect drama ‘Mess Up The Mess’ i gyflwyno perfformiad gweithredu cymdeithasol byr yn seiliedig ar eu haddysg a’r anghydraddoldebau y maent yn eu teimlo sydd ynghlwm wrth hyn. Cynhaliwyd y perfformiad yn Neuadd Goffa’r Barri a chyflwynodd neges bwerus. Nawr mae e-bost yn cael ei baratoi a bydd yn cael ei anfon at benaethiaid ysgolion a’r Ysgrifennydd Addysg yn sôn am farn y bobl ifanc, yn y gobaith y byddant yn ystyried rhai o’r materion a godwyd. Rydym hefyd wedi creu cysylltiadau cryf ag Amgueddfa Cymru. Mae ein Bwrdd Ieuenctid yn ymuno â hi i godi ymwybyddiaeth o fynediad cadair olwyn yn yr amgueddfa a’r tiroedd yn Amgueddfa Sain Ffagan. Yn ddiweddar rydym hefyd wedi dechrau prosiect cydweithredol gyda Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a’r Fro. Nodau’r prosiect cydweithredol yw cyflwyno fframwaith NEST (offeryn iechyd meddwl a llesiant Llywodraeth Cymru) i’r bobl ifanc yr ydym yn gofalu amdanynt yn Nhŷ Hafan. Yna bydd y fframwaith yn rhoi gwell dealltwriaeth i ni o sut y gofalir am iechyd meddwl a llesiant plant. Bydd y bobl ifanc yn cynorthwyo i greu clip fideo byr i hyrwyddo’r fframwaith gyda’r nod o helpu eraill ledled Cymru. Rydym hefyd wedi dechrau proses pan fo’n bobl ifanc yn cyfarfod yn rheolaidd gyda bwrdd llawn ymddiriedolwyr Tŷ Hafan. Mae’r bobl ifanc wedi cyflwyno rhai syniadau ynghylch sut y gellir teilwra adeilad/cyfleusterau a gwasanaethau’r hosbis i fod yn fwy addas i hawliau’r plant. Mae ymgysylltu a gwrando ar leisiau ein pobl ifanc yn bethau sy’n cael eu cydnabod, eu datblygu a’u blaenoriaethu yn gyflym wrth i ni symud ymlaen. Mwy maes o law! I gael rhagor o wybodaeth am Tŷ Hafan a’r gwasanaethau a ddarparwn, ewch at www.tyhafan.org neu ebostiwch katie.simmons@ tyhafan.org


HYDREF 2023 | 27

Grymuso Rhieni i Helpu Plant i Ffynnu

Izzabella James, Home Start Cymru

Mae Home-Start Cymru yn rhagweld dyfodol lle bydd gan bob rhiant yng Nghymru’r gefnogaeth angenrheidiol i gynnig y dechrau gorau posibl mewn bywyd i’w plant. Bob blwyddyn, rydym yn estyn cymorth hanfodol i filoedd o deuluoedd trwy ein rhwydwaith a yrrir gan wirfoddolwyr trwy ymweliadau cartref un-i-un a grwpiau cymorth cymheiriaid. At hynny, mae ein prosiectau wedi’u teilwra’n rhychwantu pob un o’r 18 rhanbarth awdurdod lleol yng Nghymru, gan ddarparu cymorth personol i grwpiau targed fel tadau, teuluoedd ffoaduriaid a cheiswyr lloches, a’r rhai sydd â phlentyn ar y llwybr niwroddatblygiad, ymhlith eraill. Rydym wedi ein hangori yn y gred fod pob plentyn yn haeddu plentyndod llawen a diogel. Rhieni sydd â’r cyfrifoldeb hollbwysig o osod y sylfaen ar gyfer dyfodol llewyrchus eu plentyn. Wrth ddarparu gwasanaethau, rydym yn rhoi blaenoriaeth i ddeall anghenion unigryw pob teulu, gan feithrin cysylltiadau cryf a dibynadwy â nhw. Gan ddefnyddio dulliau arloesol a chydweithredol, rydym yn ymgysylltu â’r teulu cyfan, yn cryfhau’r cwlwm rhwng rhiant a phlentyn, ac yn hyrwyddo hawliau plant. Mae llawer o genhadaeth Home-Start Cymru yn canolbwyntio ar gynorthwyo rhieni i gryfhau eu cysylltiad â’u plant a goresgyn heriau fel pryder. Mae rhieni yn aml yn tynnu oddi ar eu profiadau plentyndod eu hunain ac ymddygiadau rhianta etifeddol. Mae Home-Start Cymru yn cynnig arweiniad, gan helpu rhieni i ddeall hawliau eu plant yn well ac i ddarganfod strategaethau magu plant iachach ar gyfer eu teuluoedd. Er enghraifft, mae Home-Start Cymru wedi cynorthwyo rhieni i ddeall Deddf Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol 2020 yn ddiweddar. Rydym yn cydweithio â theuluoedd, gan ymdrin â phynciau disgyblu a chosb gydag empathi a heb farn, gan bwysleisio egwyddorion rhianta cadarnhaol fel yr amlinellir yn y canllaw ‘Rhianta. Rhowch Amser Iddo’. Trwy feithrin perthnasoedd sydd wedi’u hangori mewn ymddiriedaeth a dealltwriaeth, anogir rhieni i rannu eu pryderon ac maent yn fwy parod i dderbyn technegau magu plant newydd sydd o fudd i’r teulu cyfan ac sy’n cynnal hawliau eu plentyn. “[Pan] ymwelais â mam – roedd yn gadarnhaol iawn am y cymorth a gafodd

gan ei gwirfoddolwr Home-Start. Mae’r sesiynau wedi bod yn ddefnyddiol iawn, ac mae hi wedi dysgu llawer ohono.” Ymwelydd Iechyd Dechrau’n Deg “Rwy’n falch o’r newidiadau rydw i wedi’u gwneud” Teulu â chymorth Mae Home-Start Cymru yn ymestyn cymorth yn barhaus i deuluoedd ag aelodau sy’n wynebu anghenion dysgu ychwanegol. Mae nifer o deuluoedd a gynorthwyir yn aros am ddiagnosis niwro-ddargyfeirio ar gyfer eu plant. Rydym yn arwain y teuluoedd hyn i ddeall ymddygiad eu plant ac yn eu helpu i sicrhau cefnogaeth arbenigol gan unigolion profiadol. Trwy eu taith gyda Home-Start Cymru, mae rhieni’n datblygu dealltwriaeth a geirfa ddyfnach am niwro-ddargyfeirio, gan arwain yn aml at hunan-ddiagnosis. Rydym yn mynd ati i chwilio am ffyrdd o symleiddio bywyd i’r teuluoedd hyn drwy nodi cyfleoedd ar gyfer chwarae a dysgu eu plant. Er enghraifft, rydym yn nodi oriau tawel mewn archfarchnadoedd lleol i deuluoedd â phlant ADY i siopa heb wynebu torfeydd neu heriau synhwyraidd. Ar ben hynny, rydym yn cysylltu teuluoedd â pharciau sy’n neilltuo amserau unigryw i deuluoedd ADY, gan greu gofod cynhwysol i blant a llwyfan i rieni gael cefnogaeth cyfoedion. Bu Home-Start Cymru yn cynorthwyo mam yn Sir Benfro gyda babi wyth mis oed sy’n wynebu heriau meddygol parhaus a oedd wedi treulio’r rhan fwyaf o’u bywyd cynnar yn yr ysbyty. Camodd ein tîm i’r adwy i helpu’r fam i reoli ei straen a’i phryder. Daeth ein gweithwyr cymorth o hyd i gylch chwarae ar gyfer

plant â chyflyrau meddygol tebyg ac anghenion offer meddygol. Roedd y profiad hwn yn drawsnewidiol i’r fam a’r plentyn. Gallai ymlacio, gan wybod bod ei babi yn ddiogel rhag dwylo chwilfrydig a gallai gysylltu â rhieni eraill a oedd yn deall ei heriau. Roedd hyn yn nodi rhyngweithiad cyntaf y babi â chyfoedion y tu allan i’r ysbyty, gan greu bondiau ag eraill a rannodd brofiadau tebyg. Trwy hyn cynyddodd hyder y fam, a mynegodd ddiolchgarwch aruthrol am ddarparu profiad o’r fath i’w phlentyn. “Rydw i mor falch o Amanda. Does dim rhaid i mi anfon neges destun hyd yn oed, hi yw’r cyntaf wrth y drws ac mae’n magu hyder gyda rhieni eraill bob wythnos!” Arweinydd grŵp babanod


28 | CHILDRENINWALES.ORG.UK

Lleisiau

Rocio Cifuentes MBE, Comisiynydd Plant Cymru Bu 1997 yn flwyddyn arwyddocaol i leisiau Cymreig. Gyda synau Cŵl Cymru bandiau Catatonia, Super Furry Animals a’r Stereophonics yn y cefndir, dangosodd ganlyniadau’r refferendwm hanesyddol nad oedd pobl yng Nghymru’n teimlo fel bod eu lleisiau yn cael eu clywed yn ddigonol. Roedd yna newid ar y gorwel. Er hyn, tra oedd nifer o oedolion yn dathlu a mwynhau’r addewid o lais cryfach trwy Gynulliad cenedlaethol, roedd Cymru hefyd yn edrych nôl ar ddegawdau lle cafodd leisiau plant eu hanwybyddu. was a significant year for Welsh voices. 1997 oedd y flwyddyn lle dechreuodd gwrandawiadau cyhoeddus Ymchwiliad Waterhouse am gamdriniaeth erchyll bu mewn cartrefi gofal plant yng ngogledd Cymru. Yn ystod y tair blynedd ddilynol byddai’r ymchwiliad yn archwilio cannoedd o honiadau o gamdriniaeth rywiol gan oedolion a oedd mewn sefyllfa o bŵer dros rhai o blant mwyaf bregus yng Nghymru. Pan oedd angen i Gymru wrando, gorchuddiodd ei chlustiau. Pan gyhoeddodd Sir Ronald Waterhouse ei adroddiad yn y flwyddyn 2000, un o’i brif argymhellion oedd cyflwyno llais annibynnol newydd i blant yng Nghymru; sef Comisiynydd Plant Cymru.

Ei brif swyddogaeth oedd hyrwyddo a diogelu hawliau plant o dan Gonfensiwn y CU ar Hawliau’r Plentyn. Mae’r Confensiwn hwn yn amlinellu’r pethau sydd angen ar blant i dyfu’n hapus, iach a diogel a’r cyfrifoldebau sydd gan oedolion fel bod plant yn gallu cael mynediad i’w hawliau. Maent yn cynnwys yr hawl i fod yn ddiogel, yr hawli beidio â chael eu gwahaniaethu a’r hawl i gael eu clywed. Ers 2011 mae gan Lywodraeth Cymru ddyletswydd benodol lle mae rhaid i weinidogion ystyried yr CCUHP pan meant yn gwneud penderfyniadau perthnasol. Ond mae’r Confensiwn a mynediad plant i’w hawliau gwastad wedi bod yn ganolog i waith y Comisiynydd Plant.

HYDREF 2023 | 29

Cefnogi’r Perthynas rhwng Rhieni a Babanod

Julie Powell-Jones a Dr Helen Joseph, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Mae gan bob plentyn, gan gynnwys babanod, yr hawl i’r iechyd a’r datblygiad gorau posibl, fel y nodir yn CCUHP. Mae bod yn feddyliol iach yn ystod plentyndod cynnar yn galluogi plentyn ifanc i reoli emosiynau, perthnasoedd sy’n meithrin profiad yn ogystal ag adeiladu’r potensial i fod yn feddyliol iach trwy gydol ei oes. Sefydlodd Llywodraeth Cymru (LlC) a Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf Bartneriaeth Integreiddio Blynyddoedd Cynnar yn 2018/2019. Mae nodau’r Rhaglen Trawsnewid y Blynyddoedd Cynnar CTM yn adlewyrchu’r egwyddorion o fewn Fframwaith NYTH LlC , sy’n hyrwyddo dull system gyfan o ddatblygu gwasanaethau iechyd meddwl, lles a chymorth i blant (0-7) a’u teuluoedd. Mae un o’r chwe ffrwd waith o fewn y Rhaglen Trawsnewid y Blynyddoedd Cynnar CTM wedi’i neilltuo i gefnogi ‘perthnasoedd rhwng rhieni a babanod’ iach (PIR); y pwyslais yw ‘gwneud pethau’n iawn’ i fabanod a phlant ifanc o’r cyfle cyntaf posibl. Mae babi angen perthynas ‘ddigon da’ gyda’i ofalwr - Winnicott, Donald Woods. The Child, the Family, and the Outside World: By DW Winnicott. Penguin Books, 1969. Gall bod yn agored i adfyd ac absenoldeb perthnasoedd meithringar gael canlyniadau pellgyrhaeddol ar gyfer iechyd a lles gydol oes yn y dyfodol. Yn 2021, comisiynodd y Rhaglen Trawsnewid y Blynyddoedd Cynnar CTM y Parent Infant Foundation i gynnal yr Astudiaeth “Diogelu Bywydau Iach” (SHL). Roedd hyn yn cynnwys cyfres o gyfweliadau ag ymarferwyr Blynyddoedd Cynnar a 487 o rieni CTM a nododd ansawdd eu perthynas rhwng rhieni a babanod fel y trydydd dylanwad pwysicaf ar ddatblygiad plentyn, ychydig yn is nag effaith trais a defnydd rhieni o gyffuriau. . Fodd bynnag, dim ond 35% o rieni a deimlai fod digon o gymorth perthynas ar gael iddyn nhw. I gefnogi rhieni ar ddechrau eu taith amenedigol, lansiwyd menter ‘Parti Bwmp Cyn-geni’ leol ym mis Mehefin 2023 gan roi cyfle i gwrdd â staff a dod i sesiynau gwybodaeth. Mae canfyddiadau Adroddiad SHL wedi bod yn sail i gyfeiriad y Ffrwd Waith Perthynas Rhwng Rhieni a Babanod wrth ddatblygu diwylliant cyfunol lle mae pob cyswllt teuluol yn cael ei ddefnyddio i atgyfnerthu negeseuon, ac mae staff yn teimlo’n fedrus i normaleiddio trafodaethau ynghylch y Perthynas Rhwng Rhieni a Babanod. Mae hyfforddiant staff yn cael ei gynnwys mewn ‘Cyfeiriadur Hyfforddiant’ sy’n manylu ar lefelau ymarfer ymarferwyr a’i ddosbarthu gyda thimau blynyddoedd cynnar CTM. Mae hyn yn cynnwys hyfforddiant sydd wedi’i gynllunio i gefnogi’r Perthynas Rhwng Rhieni a Babanod sy’n datblygu hyd yn oed cyn i’r babi gael ei eni.

Tynnodd y Comisiynydd cyntaf, Peter Clarke sylw at fethiannau enfawr am ddiogelwch plant mewn addysg yn ei ymchwiliad Clywch, a wnaeth arwain at gryfhau trefniadau diogelwch mewn ysgolion. Adolygodd Keith Towler, yr ail Gomisiynydd yn 2008, gwasanaethau eiriolaeth yng Nghymru, gan sicrhau fod eirolaeth i fod yn ddyletswydd benodol i weinidogion o’r pwynt yna ymlaen. Gwnaeth fy rhagflaenydd, Sally Holland sicrhau newid yn y gyfraith gan Lywodraeth Cymru i atal cosb corfforol i blant, ac aeth hi â safbwyntiau a phrofiadau filoedd o blant i Lywodraeth Cymru yn ystod y ddau gyfnod clo. Fy swydd i dros y blynyddoedd nesaf yw sicrhau bod lleisiau plant yn cael eu clywed, yn cael eu cymryd yn ddifrifol a’u gweithredu.

Llynedd, clywed fy nhîm gan bron i 9,000 o blant a phobl ifanc yng Nghymru yn ein harolwg cenedlaethol, Gobeithion i Gymru. Clywom sut mae’r argyfwng costau byw yn effeithio ar deuluoedd. Clywom am fwlio ar sail hunaniaeth ac am heriau iechyd meddwl helaeth.

Yn 2022, lansiodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf eu Siarter Plant, yn manylu ar ddeg addewid i blant ar sut y dylen nhw gael eu trin a gofalu amdanyn nhw tra dan eu gofal. . Mae babanod yn arbennig o sensitif i gyflwr emosiynol eu prif ofalwr ac yn disgwyl iddyn nhw ddeall y byd a gwybod a yw sefyllfa’n ddiogel ai peidio. Mae Siarter neu Addewid Babanod yn manylu ar beth y dylai babanod ei ddisgwyl gan y rhai o’u cwmpas (gweler Addewid un dudalen yr Alban). Mae’n annog ystyriaeth ofalus o’r ciwiau, y teimladau, y safbwyntiau a’r ymrwymiad i gynnal eu hawliau a chymryd camau priodol. Mae hefyd yn atgyfnerthu pwysigrwydd gweld babanod fel unigolion gyda’u meddyliau, eu teimladau, eu hawliau a’u hemosiynau eu hunain. Gan weithio gyda Plant yng Nghymru a’r Comisiynydd Plant, rhoddodd Cynhadledd EYTP-PIR CTM ym mis Hydref 2023 lwyfan i gynnwys dros 120 o arbenigwyr i ddechrau trafodaethau ar ddatblygu Siarter Babanod CTM/Addewid Babanod i ategu’r Siarter Plant bresennol.

cyngor rydym yn clywed am yr heriau mae teuluoedd yn wynebu wrth gael mynediad i’r ddarpariaeth gywir i’w plant gydag anghenion

Gall amgylcheddau a phrofiadau lywio datblygiad meddyliol a chorfforol yn ystod blynyddoedd cynharaf bywyd . Agwedd debyg i un Starcatchers yn yr Alban yn cael ei dreialu yn CTM lle bydd carfan o rieni a’u babanod yn cymryd rhan mewn cyfres o sesiynau gan ddefnyddio cerddoriaeth a symud i’w helpu i ddysgu sut i ‘diwnio’ i giwiau, iaith ac anghenion di-lais eu babi.

dysgu ychwanegol. Bydd cyflwyno’r profiadau hyn i Lywodraeth Cymru a galw am newid yn ganolog i fy ngwaith dros y blynyddoedd

Y nod yw y bydd gwell dealltwriaeth o lais y babi yn dod i’r amlwg a bydd cyfle i gydgynhyrchu adnoddau

nesaf.

gyda rhieni, sy’n hybu ymwybyddiaeth o lais y babi ar draws y rhanbarth. Mae ‘cadw’r babi mewn cof’ yn

Trwy ein gwaith ymgysylltu wyneb yn wyneb rydym wedi gwrando ar brofiadau plant am hiliaeth mewn ysgolion, a thrwy ein gwasanaeth

ganolog i Grŵp Strategol Bwydo Babanod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Mae strategaeth Rhan drawiadol o fy swydd hyd yn hyn yw cael clywed plant a phobl ifanc yn rhannu eu safbwyntiau yn uniongyrchol, wyneb yn wyneb, gyda’r rhai sydd yn gwneud penderfyniadau. Bydd cael rhywun rannu eu safbwyntiau ar eu rhan wastad yn bwysig, ond mae cael y cyfle i siarad o’r galon gyda gweinidogion ac unigolion dylanwadol yn gyfle dwi eisiau llawer o blant a phobl ifanc cael, yn enwedig plant sydd ddim yn cael y cyfleoedd yma’n aml. Dwi’n teimlo’n lwcus bod gymaint o waith hawliau plant gwych yn digwydd ar draws y wlad gyda nifer o weithwyr ymroddgar yn gweithio’n ddiflino ar y materion yma. Dwi eisiau sicrhau bod fy swyddfa yn edrych am gyfleoedd i weithio gydag eraill ar draw’r sector: nid yn unig er mwyn ymhelaethu lleisiau plant, ond er mwyn ymhelaethu lleisiau ein gilydd. Gyda’n gilydd gallwn sicrhau fod lleisiau plant yn cael ei lwyfannu yng Nghymru. Yn wir, mae 1997 yn teimlo fel amser maith yn ôl. Ond mae gwrando, siarad lan a herio yr un mor bwysig ag erioed.

bwydo ar y fron yn ei chyfnod datblygu ac mae’r dull yn canolbwyntio ar daith y baban i fwydo ar y fron yn llwyddiannus. Mae’r Strategaeth yn addewid i fabanod a theuluoedd i gefnogi eu taith bwydo ar y fron. Er mwyn amddiffyn datblygiad plant yn y dyfodol, mae’n bwysig blaenoriaethu anghenion babanod cyn-eiriau. Mae barn gyffredin bod y babi “yn rhy fach i’w ddeall neu i’w gofio mewn gwirionedd” yn ystumio pwysigrwydd hanfodol hawliau plant yn ystod y blynyddoedd cynharaf. Bydd rhoi ‘llais y baban’ yn ei gyddestun ychwanegol yn helpu i gryfhau hawliau’r baban cyn-eiriol.


30 | CHILDRENINWALES.ORG.UK

HYDREF 2023 | 31

Mae gan bob un ohonom hawliau: rôl EYST wrth wireddu hawliau plant yng Nghymru Jami Abramson, EYST Mae hawliau plant yn sylfaenol i waith EYST Cymru. Ers ein dechreuad yn 2005 fel elusen yn Abertawe â ffocws ar bobl ifanc, yr holl ffordd i fod yn elusen Cymru gyfan yn cefnogi pobl ifanc a theuluoedd, gan gynnwys ceiswyr lloches a ffoaduriaid – mae hawliau plant yn ganolog i ddull EYST, gan ddarparu’r adnoddau sydd eu hangen ar bobl ifanc a’u teuluoedd i gyrraedd eu potensial llawn. Dros y blynyddoedd, rydym wedi ymgorffori dull hawliau plant yn y ffordd rydym yn gweithio. Ein nod allweddol yw cefnogi ein cleientiaid i gael gafael ar yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i fynd i’r afael â materion. Mae hyn yn aml yn arwain at unigolion annibynnol sy’n hyderus yn eu sgiliau gwneud penderfyniadau. Er enghraifft, mae ein gwaith fel rhan o brosiect BME CYP yn sicrhau fod gan deuluoedd fynediad at wasanaethau hanfodol drwy rannu gwybodaeth am rwystrau y mae ein cleientiaid yn eu profi sy’n seiliedig ar ddiwylliant a chrefydd. Yn ystod COVID-19 a’r cyfnodau clo aflonyddgar, gwnaethom sicrhau fod gan deuluoedd fynediad at wybodaeth a gwnaethom gefnogi awdurdodau lleol wrth ledaenu gwybodaeth am fynediad digidol i blant yn ystod y cyfnod addysg yn y cartref. Cynyddu Gwydnwch Plant a Phobl Ifanc Rydym wedi cefnogi plant a phobl ifanc a all fod yn agored i niwed ac a all wynebu risg o gael eu hecsbloetio a’u cyflwyno i eithafiaeth. Drwy ein prosiect ‘Gwydnwch’, bu gweithwyr ieuenctid yn cefnogi plant a phobl ifanc drwy rhannu gwybodaeth ac adnoddau â nhw i herio negeseuon eithafol (y dde eithafol ac Islamaidd). Trafodwyd cwestiynau

ynghylch cydsyniad a chydberthnasau fel rhan o’n nod o gynyddu gwydnwch plant yn erbyn ecsbloetio plant yn rhywiol. Drwy gefnogaeth un-i-un ac ymwybyddiaeth addysgol, roedd y gwaith hwn yn cefnogi plant a phobl ifanc i gael mynediad at eu hawliau i wybodaeth, amddiffyniad rhag trais, cam-drin rhywiol, ac ecsbloetio. Gwirfoddoli dan Arweiniad Pobl Ifanc Mae gwirfoddoli yn allweddol i EYST. Un o’n prosiectau gwirfoddoli cyntaf oedd ein ‘Clwb Gwaith Cartref’ ar gyfer plant a phobl ifanc. Daeth angen i’r amlwg ar gyfer plant nad oedden nhw’n llwyr cyrraedd eu potensial mewn ysgol, yn arbennig plant a oedd yn sefyll eu harholiadau TGAU a oedd yn aml ar y ffin rhwng gradd C/D. Ni allai llawer o bobl ifanc ethnig leiafrifol gael mynediad at wersi, oherwydd y gost enfawr, ac efallai eu bod wedi colli allan ar gymorth teulu/ plentyn ychwanegol gyda gwaith cartref oherwydd teulu a brofodd rwystr iaith. Er mwyn mynd i’r afael â’r blwch hwn, roedd modd i rieni gofrestru eu plant gyda’r clwb gwaith cartref, lle roeddent yn ffurfio partneriaeth â gwirfoddolwr ifanc a allai eu cefnogi gyda’u gwaith cartref. Roedd y gefnogaeth cyfoedion-i-gyfoedion hyn yn ffordd wych i blant gael mynediad at eu hawl i addysg, ac roedd yn gyfle i wirfoddolwyr ifanc gefnogi plant. Uchafbwynt arall yn ein gwaith yw sicrhau fod plant a phobl ifanc yn arfer eu ‘Hawl i Hunaniaeth’, sef ein prosiectau gwirfoddoli dan arweiniad pobl ifanc sy’n archwilio hunaniaeth, treftadaeth, a mudo yng Nghymru, gan gynnwys ‘Ifanc, Mudwr a Chymro/Cymraes’. Gan ddefnyddio ffilm a ffotograffiaeth, bu cyfranogwyr ifanc yn dogfennu mynegiadau o’u hunaniaeth, yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw, yn ogystal â phrofiadau o dyfu i fyny yng Nghymru, gan arwain at arddangosfa. Y nod oedd hawlio’r gair ‘mudwr’ yn ôl o’r cysylltiadau negyddol a ddefnyddir yn aml gan sefydliadu’r cyfryngau, gan ganolbwyntio ar fudo fel rhywbeth i’w ddathlu yng

Nghymru. Edrych Ymlaen Felly, beth sydd nesaf yng ngwaith EYST gyda hawliau plant? Rydym yn credu bod hawliau plant ond yn ystyrlon os bydd plant, pobl ifanc a theuluoedd yn ymwybodol o’u hawliau ac yn teimlo’n hyderus i’w harfer. Gan ddilyn y dull hwn, yn ddiweddar, mae EYST wedi arloesi gwasanaeth newydd, o’r enw ‘Hawl i Addysg’, i ddarparu cymorth arbenigol i blant a theuluoedd wrth gysylltu â’u hysgolion, gan ganolbwyntio’n benodol ar waharddiadau o’r ysgol. Ar hyn o bryd, mae’r tîm yn gweithio i sicrhau fod plant a’u teuluoedd yn ymwybodol o’u Hawl i Addysg, gan gael gafael ar wybodaeth mewn ffordd hygyrch. Drwy’r gwaith hwn, rydym yn adeiladau ein cydberthnasau â Chanolfan Gyfreithiol y Plant, Comisiynydd Plant Cymru, a chyfreithwyr addysg arbenigol yng Nghymru. Gan edrych yn ôl ar le ddechreuom ni yn 2005, rydym yn falch iawn o weld ein cynnydd o fod yn ddarpariaeth ieuenctid yn Abertawe i dyfu i gyflwyno darpariaeth i bobl ifanc a theuluoedd ledled Cymru. Rydym wrth ein boddau fod hawliau plant wrth wraidd ein gwaith, a bod gwaith ar gyfer cleientiaid, ymchwil a pholisi ystyrlon yn datblygu ar draws y sector, i sicrhau newidiadau unigol a strwythurol i blant o bob cefndir i’w galluogi i fwynhau ac arfer eu hawliau yng Nghymru.

Agoriad arddangosfa ‘Youn

g, Migrant & Welsh’ yn Am

gueddfa Genedlaethol y Gla

nnau

), a yn EYST (Abertawe d rhwng pobl ifanc enctid o ‘Hunaniaeth’ aid pe ro Ew ’ ge an ‘Hunaniaeth X-Ch Belg a Gwlad Pwyl. Mynegiadau ieu phobl ifanc o Wlad

Seremoni wobrwyo flynyddol yn cydnabod cyflawniadau pobl ifanc yn narpariaeth ieuenctid Wrecsam


32 | CHILDRENINWALES.ORG.UK

Llinell Gymorth MEIC - yr hanes Steph Hoffman, ProMo Cymru

Y Presennol Mae Meic yn parhau i fod yn unigryw yn ei gynnig cyffredinol i PPI ledled Cymru ar unrhyw fater, gan sefydlu ei hun fel ffynhonnell cefnogaeth a gwybodaeth y mae llawer yn ymddiried ynddo, PPI yn bennaf, ond i rai oedolion hefyd (rhieni, athrawon, gweithwyr ieuenctid ayb). Yn cael ei drosglwyddo gan dîm amrywiol a phroffesiynol sydd yn angerddol am hawliau, llais PPI, arloesedd a chreadigedd. Mae Meic yn falch iawn o: * Amddiffyn rhag niwed, cychwyn atgyfeiriadau diogelu, cysylltu gyda gwasanaethau brys, darparu tystiolaeth mewn achosion cyfiawnder troseddol *Hyrwyddo hawliau, cychwyn atgyfeiriadau at ddarparwyr eiriolaeth statudol, gofal cymdeithasol a lles y sector cyhoeddus a’r trydydd sector * Hyrwyddo llais a dylanwad i ddylanwadu a llywio penderfyniadau a llunio polisïau ar lefel uchel *Rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth i PPI i ddefnyddio’u llais mewn sgyrsiau anodd ac i archwilio opsiynau a dewisiadau Mae llais y PPI yn galonogol iawn:

“Diolch yn fawr am y sgwrs yma, mae wir wedi gwneud i mi deimlo’n llawer llai unig, a dwi’n fwy hapus ac yn ddiogel, mae’ch gwefan chi wir yn achub bywydau” “Dwi’n rili hoff o’r wefan yma, dwi’n hoffi’r darnau am bryder a beth i wneud. Dwi wedi dweud wrth fy ffrindiau hefyd” Yr Hanes Yn dilyn datganoli yn 1996, ymrwymodd Cymru yn sydyn iawn i gynnal hawliau plant (CCUHP 1989) a hyrwyddo lles plant (Deddf Plant 1989) gyda deddfwriaeth, polisi a rhaglenni darparu gwasanaeth parhaus. Lansiwyd Meic ym Mis Mai 2010 i ddarparu gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth genedlaethol, annibynnol, hygyrch a dwyieithog i blant a phobl ifanc (PPI) hyd at 25 oed yng Nghymru. Y nod oedd sicrhau hawliau PPI, yn eu grymuso a’u galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus, a rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth iddynt i wneud newidiadau a chael eu clywed i ddylanwadu ar newid a gwneud gwahaniaeth. Comisiynwyd ProMo-Cymru gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a rhanddeiliaid eraill fel y partner arweiniol mewn cytundeb cydweithredol gyda Plant yng Nghymru, NYAS, TGP a Voices from Care Cymru. Roedd Meic ar gael yn gyfrinachol ac am ddim ar y ffôn, neges testun a sgwrs ar-lein 24/7 365 diwrnod y flwyddyn. Mae’r gwasanaeth wedi esblygu, datblygu a gwella i ddod yn rhan annatod o wasanaethau wedi’u hanelu at PPI, gan gynnwys eiriolaeth a diogelu, iechyd, addysg, a thai.

“Rydych chi ar dân! Ro’n i’n talu am gwnsela o’r blaen... dwi’n synnu sut rydych chi’n cynnig gwell dealltwriaeth ac ar yr un pryd dwi’n hynod fodlon” “Dwi wedi trïo 15 gwasanaeth gwahanol a chi ydy’r unig rai sydd wedi gwrando ac wedi bod o gymorth mawr” “Ro’n i’n teimlo’n rili crap heddiw... mae Meic wedi helpu fi i ddarganfod ffordd i dawelu a rhoi fy hun mewn meddylfryd positif. Roedd y person yma wedi gwrando, helpu ond, yn bwysicach fyth, wedi deall.”

Mae’r adborth gan PPI hefyd yn dangos lefel uchel o foddhad: Mae Meic wedi dathlu llwyddiannau sylweddol, wedi addasu, rhoi newidiadau ar waith, ac wedi cyflawni cerrig milltir fawr. Yn tanseilio hyn i gyd mae’r gwerthoedd cyd-gynhyrchu a’r ethos o wrando, gweithredu a hyrwyddo lleisiau PPI: - Trawsnewid yn llwyddiannus i wasanaeth llai 8yb-hanner nos - Cynnal ac ymateb i gysylltiadau gan PPI o bob oedran, cefndir, ac anghenion - Datblygu sgiliau ac arbenigedd i ymdopi gyda’r nifer cynyddol o gysylltiadau anodd (iechyd meddwl, perthnasau, niwed ar-lein) - Cynyddiad enfawr mewn cyrhaeddiad ac ymgysylltiad ar-lein trwy’r wefan a chyfryngau cymdeithasol

* Gyda mwy o wybodaeth * Yn fwy hyderus * Gwybod ble i fynd am help * Deall mwy am helpu’i hunain Y Dyfodol Bydd wastad galw am Meic os yw’r amgylchedd allanol yn parhau i roi pwysau enfawr ar fywydau bob dydd, hawliau, cyfleoedd, a dyheadau’r boblogaeth PPI. Bydd peryglon a heriau darparu a datblygu Meic i gyfarfod anghenion ei gynulleidfa yn parhau, o fewn ein rheolaeth a’r tu hwnt i’n dylanwad. Byddem wastad yn ymdrechu i gynnal ein cywirdeb a’n proffesiynoldeb trwy lynu at ein gwerthoedd a’n hegwyddorion a pharau i fod yn greadigol ac yn iterus i gyfarfod yr heriau yma er budd y rhai sydd angen Meic.

- Ymateb syth i’r pandemig COVID-19 - yn delio gyda phryderon a darparu negeseuon hygyrch, hawdd i’w deall - Datblygu brand cyson, cydnabyddedig ar draws holl lwyfannau ar-lein

Ysgrifennu yw’r modd cysylltu mwyaf poblogaidd. Roedd 65% o gysylltiadau’r chwarter diwethaf yn neges testun neu sgwrs ar-lein. Y datblygiad mawr nesaf fydd gwella hygyrchedd ymhellach wrth lansio negeseuo uniongyrchol trwy WhatsApp, yn caniatáu i ni roi dolen uniongyrchol i sgwrsio trwy gyfryngau cymdeithasol. Dilynnwch Meic: TikTok, Instagram, Facebook, X a YouTube. Cysylltwch ar y ffon (080880 23456), tecst (84001) neu sgwrs ar-lein ar: www.meic.cymru.


21 Plas Winsor, Caerdydd CF10 3BY 029 2034 2434 @ChildreninWales info@childreninwales.org.uk

childreninwales.org.uk


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.