White Gold / Aur Gwyn

Page 1

contemporary NANTGARW presents: | NANTGARW gyfoes yn cyflwyno:

WHITE GOLD AUR GWYN JUSTINE ALLISON MEL BROWN CARYS DAVIES KATE EVANS STUART HOUGHTON SUSAN NEMETH

VICKY SHAW ANA SIMMONS GEOFF SWINDELL LOUISA TAYLOR RIE TSURUTA JAMES & TILLA WATERS

17.5.2014 - 17.8.2014


Llun / Delwedd: Orange Slice Serving Dish (detail) / Llestr gweini sleisen oren (manylyn), Louisa Taylor


WHITE GOLD AUR GWYN ‘White Gold’ is an exhibition dedicated to porcelain tableware, an aspect that has been integral to Nantgarw’s history. The artists chosen for this exhibition produce work that is highly skilled and shows a level of artistic commitment that is essential to successfully highlight the inherent qualities of porcelain.

Mae ‘Aur Gwyn’ yn arddangosfa sy’n canolbwyntio ar lestri bwrdd porslen, agwedd sydd wedi bod yn rhan annatod o hanes Nantgarw. Mae’r artistiaid a ddewiswyd ar gyfer yr arddangosfa hon yn cynhyrchu gwaith sydd yn fedrus ac yn dangos lefel o ymrwymiad artistig sy’n hanfodol i dynnu sylw at rinweddau cynhenid porslen llwyddiannus.


PORCELAIN Statement by Geoff Swinfell “Porcelain formed part of Oriental Art and Culture for many centuries before it was first brought to Europe by Marco Polo in 1295. At that time Western pottery was simple and crude. The popularity and value of these newly imported wares caused alchemists to become involved in frenzied competition to replicate the Chinese porcelain. This continued until the mystery of its composition was finally discovered in Europe early in the 18th century. Until then it shared the same value as precious jewellery or gold, being a ‘blue chip’ commodity only possessed by Royalty or extremely wealthy influential people.

Essentially porcelain is made from Kaolin, Feldspar and Flint. To achieve the whiteness and translucency it needs to be fired to a temperature so high (1280-1300 degress celsius) that the form is near to collapse. Ceramicists need to be very skilled and possess a positive attitude to life to endure the often-daunting problems encountered in the production of a porcelain object. Great care and knowledge is needed throughout every stage of making, drying and firing to ensure that the piece does not warp or crack. It would be much easier to work with coarser stoneware clays, but only porcelain is capable of expressing the refinement, delicacy, translucency and whiteness required by the artists who use it.”


PORSLEN Datganiad gan Geoff Swindell “Mi oedd porslen yn rhan o Gelf a Diwylliant y Dwyrain am ganrifoedd lawer cyn daethpwyd a’r deunydd i Ewrop gan Marco Polo ym 1295. Ar y pryd hynny, crochenwaith syml a chrai oedd yn y Gorllewin. Fe wnaeth poblogrwydd a gwerth y nwyddau newydd hyn annog alcemyddion i gystadlu’n ddiwyd i geisio ail-greu clai o’r un ansawdd a phorslen Tsieineaidd. Parhaodd yr arbrofi hyn tan i’r cyfansoddiad gael ei ddarganfod yn Ewrop ar ddechrau’r 18fed ganrif. Hyd hynny, mi oedd porslen yn rhannu’r un gwerth â gemwaith gwerthfawr neu aur, yn nwydd ‘blue chip’ a oedd ond ym meddiant y teulu Brenhinol neu bobl ddylanwadol a oedd yn eithriadol o gyfoethog.

Yn ei hanfod mae porslen yn cael ei wneud o Gaolin, Ffelsbar a Fflint. Er mwyn cyrraedd y nod o gael clai gwyn a thryloyw mae angen iddo gael ei danio i dymheredd mor uchel (1280-1300 gradd selsiws) fel bod y llestr yn agos at gwympo. Mae’n hanfodol fod gan wneuthurwyr serameg sgiliau medrus iawn i weithio gyda’r deunydd ac yn meddu ar agwedd gadarnhaol i ddioddef y problemau y mae rhywun yn dod ar eu traws wrth gynhyrchu gwrthrych porslen. Mae angen gofal a gwybodaeth eang trwy gydol pob cam o wneud, sychu a thanio er mwyn sicrhau nad yw’r darn yn camdroi neu’n cracio. Byddai’n llawer haws i weithio gyda chlai crochenwaith caled a brasach, ond dim ond porslen sy’n gallu mynegi y ceinder, tryloywder a’r gwynder sy’n ofynnol gan yr artistiaid sy’n ei ddefnyddio.”


JUSTINE ALLISON www.justineallison.com Capel Iwan, Carmarthenshire / Capel Iwan, Sir Gaerfyrddin

Since leaving college in 1998 I have been working solely with hand built porcelain- creating semi functional pieces. My work addresses the boundaries between function and decoration. I look at objects that are used on a daily basis; like the form of a jug and create pieces that move away from function and are more concerned with the aesthetic and the visual. My work is very much concerned with the simplicity and beauty of the clay and incorporating pattern and texture as well as glaze to create subtle, unique variations. Thinness and movement are very important in each piece. I am also fascinated by the transforming effect of light on the physical properties of porcelain. When a simple object is illuminated from within, subtle details become apparent and an ‘atmosphere’ is created that transcends the object’s mere functionality.

Ers gadael y coleg yn 1998, rwyf wedi bod yn gweithio yn benodol gyda porslen - yn creu darnau lled-bwrpasol. Mae’r gwaith yn cyfeirio at y ffiniau sydd rhwng pwrpas ac addurn. Rwy’n edrych ar wrthrychau bob dydd; fel ffurf y jwg ac yna’n creu darnau sy’n symud i ffwrdd o’i swyddogaeth i ymwneud yn fwyfwy ac elfennau esthetig a’r gweledol. Mae fy ngwaith yn ymwneud yn helaeth â symlrwydd a harddwch y patrwm ac yn ymgorffori gwead clai, yn ogystal â gwydredd i greu amrywiadau cynnil, unigryw. Mae teneurwydd a symudiad yn bwysig iawn ym mhob darn. Câf fy hudo gan drawsnewidiaeth golau ar briodweddau ffisegol porslen. Pan fydd gwrthrych syml yn cael ei oleuo o’r tu mewn, mae manylion cynnil yn dod i’r amlwg gan greu ‘awyrgylch’ sydd y tu hwnt i ymarferoldeb y gwrthrych yn unig.


Llun / Delwedd: Stripe jugs and vessel / Jwgiau streipiog a llestr, Justine Allison


Llun / Delwedd: Lines Vessels and Palladium Bowl / Llestrau Llinellau a Bowlen Paladiwm, Justine Allison

Llun


n / Delwedd: Installation view at Nantgarw China Works Museum / Golygfa o’r gosodwaith yn Amgueddfa Crochendy Nantgarw, Justine Allison


MEL BROWN www.melaniebrownporcelain.com Abergavenny / Y Fenni

I make teapots. I am continually fascinated by the three dimensional jigsaw puzzle that is necessary in order to get the four elements of body, lid, spout and handle to marry and work together to form the whole. I throw and turn all my work in porcelain, I respond to its whiteness and purity and the oriental glazes that I use are crisp and vibrant against the white clay body. The clay is high fired giving it hardness and durability. Although my work is becoming far more sculptural, I believe it is important that the integrity of function and craftsmanship should be complemented by aesthetic considerations; consequently the ergonomics of each piece is potentially part of its beauty. I use the teapot as a metaphor for the human condition, the sets being synonymous with tribal or familial genetic groups, in particular the relationships in which we find ourselves, whether that be chosen or thrust upon us, and the resultant engagement in dialogue. In this collection I am investigating the importance of memory and our tendency to imbue the mundane with meaning thus personalizing, elevating and changing the function, status and value of the object.

Rwy’n creu tebotau . Câf fy nghyfareddu yn barhaus gan y cymhlethdod anghenraid sydd wrth wraidd creu’r pedair elfen sydd eu hangen ar gyfer creu’r llestr - yr uniad o gorff, caead, pig a dolen sy’n gweithio gyda’i gilydd i ffurfio’r cyfan. Rwy’n taflu a throi fy ngwaith allan o borslen, ac yn ymateb i wynder a phurdeb y deunydd drwy osod gwydreddau dwyreiniol cain a llachar ar wyneb y clai gwyn. Mae’r clai yn cael ei danio’n uchel sy’n ei droi yn galed ac yn wydn. Er bod fy ngwaith yn dod yn fwyfwy cerfluniol, yr wyf yn credu ei bod yn bwysig bod pwrpas a chrefftwaith yn cael ei danlinellu gan ystyriaethau esthetig; o ganlyniad, mae ergonomeg pob darn yn ychwanegu i’w harddwch. Rwy’n defnyddio y tebot fel trosiad am y cyflwr dynol, y setiau yn gyfystyr â grwpiau llwythol neu deulu, yn enwedig y berthynas yr ydym yn profi ein hunain, boed hynny drwy ddewis neu wedi eu gwthio arnom, a’r deialog a ddilyna. Yn y casgliad yma, rwyf yn archwilio pwysigrwydd y cof a’n tueddiadau i dreiddio’r cyffredin gydag ystyr (felly’n personoli), gan ddyrchafu a newid y swyddogaeth, statws a gwerth y gwrthrych.


Llun / Delwedd: Deconstructed teapot in a vintage oval frame / Tebot wedi ei ddad-wneud mewn han ffram ofal, Mel Brown


Llun / Delwedd: ‘Miss Havisham’, Mel Brown


Llun / Delwedd: ‘Quarter’, Mel Brown


CARYS DAVIES www.carysdavies.com London / Llundain

I throw pots on the wheel in porcelain. I like them to show the marks of their making – whorls and swirls, as well as my ‘maker’s mark’, which for me is a reminder of Conwy Castle, where I grew up. I like the imperfections, they make me want to look closer, touch the pots, feel their glassy coolness.

Yr wyf yn taflu potiau ar yr olwyn mewn porslen. Rwy’n hoff o ddangos marciau eu gwneud - troellau a chwyrliadau, yn ogystal a ‘nod y gwneuthurwr, sydd i mi, yn atgof o Gastell Conwy, lle cefais i fy magu. Rwy’n hoffi yr amherffeithrwydd, maent yn gwneud i mi fod eisiau edrych yn agosach, cyffwrdd y potiau, a theimlo’r arwyneb gwydrog .

I write on the pots, scratching in the words by hand, then filling the dents with oxides which bleed into the glaze, making the words tactile too: words as objects. The words are chosen to reclaim the power of poetry – to add layers of resonance by using neglected or new words that open people up, send them back to the rest of the poem. I like the idea of people reading out the words – reclaiming the sense of the spoken word as handling pots reclaims the sense of touch.

Yr wyf yn ysgrifennu ar y potiau, crafu’r geiriau â llaw, ac yna llenwi’r tolciau gydag ocsidau sy’n gwaedu i mewn i’r gwydredd, gan wneud y geiriau yn gyffyrddol hefyd: geiriau fel gwrthrychau. Mae’r geiriau yn cael eu dewis i adennill grym barddoniaeth - i ychwanegu haenau o gyseiniant drwy ddefnyddio geiriau sy’n cael eu hesgeuluso neu eiriau newydd sy’n agor pobl, eu hanfon yn ôl i weddill y gerdd. Rwy’n hoffi’r syniad o bobl yn darllen y geiriau - yn adennill y synnwyr o’r gair llafar â thrafod potiau yn adennill y synnwyr o gyffwrdd .

The ‘On The Horizon / Ar y gorwel’ series uses words from the poet Llyr Lewis and from the Shipping Forecast. Llyr won the Chair at the 2010 Urdd Eisteddfod with his poem ‘Tonnau / Waves’, which also includes parts of the Shipping Forecast. I like the idea of translations – from Welsh to English and back, but also from poem into clay. The horizons on the pots remind me of standing on Conwy mountain looking out towards Puffin Island as well as sitting indoors listening to the 6pm shipping forecast on the radio. (Tonnau/Waves was published in Welsh and English in the Jesus College Record and is used by permission of both Jesus College and Llyr Lewis)

Mae ‘On The Horizon / Ar y Gorwel‘ yn gyfres sy’n defnyddio geiriau gan y bardd Llyr Lewis ac o Ragolwg Tywydd y Mor. Enillodd Llyr y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd 2010 gyda ei gerdd ‘Tonnau / Waves‘, sydd hefyd yn cynnwys elfennau o Ragolwg Tywydd y Mor. Rwy’n hoffi’r syniad o gyfieithiadau - o’r Gymraeg i’r Saesneg ac yn ôl, ond hefyd o gerdd i glai. Mae gorwelion y potiau yn fy atgoffa o sefyll ar fynydd Conwy yn edrych allan tuag at Ynys Seiriol, yn ogystal ag eistedd o dan do yn gwrando ar y rhagolygon llongau 06:00 ar y radio. (Cyhoeddwyd Tonnau yn y Gymraeg a’r Saesneg yng Nghofnod Coleg yr Iesu ac fe’i defnyddir drwy ganiatâd Coleg yr Iesu a Llyr Lewis)


Llun / Delwedd: Carys Davies



Llun / Delwedd: manylyn / detail, Carys Davies

Llun / Delwedd: ‘On the Horizon / Ar y Gorwel’, Carys Davies


KATE EVANS www.kate-evans-ceramics.co.uk Monmouthshire / Sir Drefynwy

I make a range of porcelain ware including vases and Tea bowls, decorated with delicately incised plant designs, inspired by flowers in the hedgerow and the countryside. The vases are intricately hand carved, so each piece is unique. The pieces are finished in a tonal range of blue and green transparent oxidised glazes, that pool in the carvings, enhancing these unique designs. The vases are designed for small posies of flowers, or just objects of beauty in their own right.

Rwyf yn gwneud amrywiaeth o nwyddau porslen gan gynnwys fasau a bowlenni te, wedi ei haddurno gyda chynlluniau endoredig gofalus o blanhigion, a ysbrydolwyd gan flodau yn y gwrych a chefn gwlad. Mae’r fasys yn cael eu cerfio yn ofalus gyda llaw, felly mae pob darn yn unigryw. Mae’r darnau yn cael eu gorffen mewn ystod o wydreddau tryloyw glas a gwyrdd wedi eu hocsideiddio, sy’n gwaedu mewn y cerfiadau, ac yn amlygu’r cynlluniau unigryw hyn. Mae’r jygiau wedi’u cynllunio ar gyfer blodau bach, neu’n wrthrychau o harddwch yn eu rhinwedd eu hunain.


Llun / Delwedd: Colleciton of work / Casgliad o waith, Kate Evans


Llun / Delwedd: Snowdrop vase & Rosehip vases / Fas lili wen fach a fasys Afal Bwci, Kate Evans


Llun / Delwedd: Orange Slice Serving Dish / Llestr gweini sleisen oren, Louisa Taylor

Llun / Delwedd: Poppy Vase / Fas Popi, Kate Evans


STUART HOUGHTON www.stuarthoughtonpotter.co.uk Ledbury, Herefordshire / Ledbury, Swydd Henffordd

I am a “materials person” and my inspiration comes from the clay; from stretching my knowledge of its qualities and from developing my technique. I use a very fine porcelain – which, on the face of it, could give one a false impression. My pots are robust – not fine and shell-like but thrown to be strong and resilient and to cope with dishwashers and the thermal shock of oven to table use. “`I love this pot, I used it every morning – now I’d like a jug to go with it’ – comments like these, overheard in the pottery, give me great pleasure and spur me on to make more and better. As a keen vegetable grower, I bring to the table the products of my labour - salads leaves, newly dug potatoes - and put together a selection for family and friends. Then I choose a pot. A pot that works well with the food – or food that works well with the pot, which it is - I can never decide.”

Yr wyf yn “berson deunyddiau” ac mae fy ysbrydoliaeth yn dod o’r clai; o ymestyn fy ngwybodaeth am ei rinweddau ac o ddatblygu fy nhechneg. Rwy’n defnyddio porslen cain iawn - sydd, ar yr olwg gyntaf, yn rhoi argraff ffug. Mae fy mhotiau yn gadarn - nid yn gain fel cregyn ond wedi eu taflu i fod yn gryf a gwydn ac i ymdopi â pheiriannau golchi llestri a sioc thermol wrth eu defnyddio ar y bwrdd. “` Rwyf wrth fy modd gyda’r pot hwn, yr wyf yn ei ddefnyddio bob bore - nawr hoffwn gael jwg i fynd gydag ef ‘- mae sylwadau fel y rhain sydd i’w clywed yn y crochendy yn rhoi pleser mawr i mi ac yn fy sbarduno i i wneud mwy ac yn well. Fel tyfwr llysiau brwd, yr wyf yn dod a chynnyrch fy llafur i’r bwrdd - dail salad, tatws newydd a gloddiwyd a’u dethol ar gyfer teulu a ffrindiau. Yna byddaf yn dewis pot. Pot sy’n gweithio’n dda gyda’r bwyd - neu fwyd sy’n gweithio’n dda gyda’r pot, pa un sy’n dod yn gyntaf - ni allaf byth benderfynu.”


Llun / Delwedd: Rounded squeezed jugs / Jwgiau crwn wedi eu gwasgu, Stuart Houghton


Llun / Delwedd: Rounded squeezed jugs / Jwgiau crwn wedi eu gwasgu, Stuart Houghton


Llun / Delwedd: Lidded store jars & Pouring bowls / Jariau storio a bowlenni arllwys, Stuart Houghton


SUSAN NEMETH www.susannemeth.co.uk London / Llundain

My ceramics are about expressing individuality and exploring the handmade mark. I am looking for the vulnerability, the spirit and the essence of the human touch with all its imperfections. I use porcelain for its purity, sensitivity, fragility and strength. My references are the eighteenth century porcelain vases of Meissen, Sèvres and recently Spode. These symbols of perfection carefully eliminated the mark of the maker. By transforming these from the impersonal to the personal I am aiming for a bare essential quality, creating almost a caricature of the original.

Mae fy serameg yn ymwneud â mynegi unigoliaeth ac archwilio’r marc llaw. Yr wyf yn edrych am fregusrwydd, ysbryd a hanfod y cysylltiad dynol gyda’i holl ddiffygion . Rwy’n defnyddio porslen ar gyfer ei burdeb, sensitifrwydd, breuder a chryfder. Rwy’n cyfeirio at fasys porslen o’r ddeunawfed ganrif gan Meissen, Sèvres ac yn fwy diweddar, Spode. Mae’r rhain yn symbolau o berffeithrwydd sydd wedi colli marc y gwneuthurwr. Trwy drawsnewid rhain o’r amhersonol i’r personol yr wyf yn anelu at ansawdd hanfodol noeth, gan greu bron i wawdlun o’r gwreiddiol.


Llun / Delwedd: Candlesticks and Bent Candlesticks / Canwyllbrennau a Canwyllbrennau Cam, Susan Nemeth


Llun / Delwedd: (l-r) Skinny Vase with Folded Top, Belly Vase, Straight Vase with Folded Top, Skirted Vase with Folded Top / (ch-d) Fas Fain gyda thop wedi ei blygu, Fas bol, Fas syth gyda thop wedi ei blygu, Fas Godreog gyda thop wedi ei blygu Susan Nemeth



VICKY SHAW

www.vickyshaw.co.uk Stoke-on-Trent, Staffordshire / Stoke-on-Trent, Swydd Stafford

The process of drawing through printmaking has become a tool through which ideas and form flow. I draw inspiration from the world that surrounds me; this comprises of objects and forms subjectively chosen for their aesthetic qualities. They form an eclectic mix, often having reference to the domestic and the everyday. Photography has been a useful way of capturing compositions of contrasting surfaces. These subjects of interest indirectly inform my work along with my fascination for the “bowl” which is a reoccurring theme. Often the starting point is a visual playfulness, a love of line, form and the subtle differences of stripes, dots and repeat patterns, which in their turn are abstracted into drawings and ceramic forms.

Mae’r broses o ddarlunio trwy argraffu wedi dod yn arf pwysig i archwilio syniadau a ffurf. Tynnaf ysbrydoliaeth o’r byd sy’n fy amgylchynu; mae hyn yn cynnwys gwrthrychau a ffurfiau a ddewisir yn oddrychol am eu rhinweddau esthetig. Maent yn ffurfio cymysgedd eclectig, sy’n aml yn cyfeirio at y cartref a bywyd bob dydd. Mae ffotograffiaeth wedi bod yn ffordd ddefnyddiol o ddal cyfansoddiadau arwynebau cyferbyniol. Mae’r rhain yn bynciau o ddiddordeb anuniongyrchol sy’n llywio fy ngwaith ynghyd â’m diddordeb o’r “fowlen” sydd yn thema gyson yn fy ngwaith. Yn aml, mae’r man cychwyn yn weledol chwareus, cariad at linell, ffurf a’r gwahaniaethau cynnil a ddaw o osod streipiau, dotiau a phatrymau sy’n ailadrodd, sydd yn eu tro yn cael eu llunio ar ffurfiau serameg.


Llun / Delwedd: Bowl / Bowlen, Vicky Shaw


Llun / Delwedd: Wall compositions / Cyfansoddiadau Wal, Vicky Shaw


Llun / Delwedd: Bowls / Bowlenni, Vicky Shaw


ANA SIMMONS www.anasimmons.wordpress.com Wobbage, Herefordshire / Wobbage, Swydd Henffordd


I aim to create a spontaneous type of expression within my work, capturing both the malleability and softness of porcelain.

Fy nod yw creu math digymell o fynegiant yn fy ngwaith, gan ddal hydrinedd a meddalwch porslen.

Throughout my work, I try to express the fluidity of porcelain in the throwing stage, creating new and interesting forms. This is achieved through cutting, joining and stretching away from the wheel, to create pieces which are not necessarily limited concentrically. Interaction between form and glaze also plays a vital role within my work. Thick ash glazes and celadons help maintain the fluidity and softness of wet clay in a fixed static object.

Yn fy ngwaith, rwy’n ceisio mynegi hylifedd porslen yn ystod y cyfnod taflu, gan greu ffurfiau newydd a diddorol. Cyflawnir hyn drwy dorri, uno ac ymestyn i ffwrdd oddi wrth yr olwyn, i greu darnau nad ydynt yn gyfyngedig gonsentrig o reidrwydd. Mae’r berthynas rhwng ffurf a gwydredd hefyd yn chwarae rôl hanfodol o fewn fy ngwaith. Gwydreddau lludw trwchus a celadon sy’n cynorthwyo i gynnal yr hylifedd a thynerwch y clai gwlyb mewn gwrthrych sefydlog.

I hope to bring contemporary craftsmanship into the home through my work.

Yr wyf yn gobeithio dod â crefftwaith gyfoes i mewn i’r cartref drwy fy ngwaith.


Llun / Delwedd: Large bowl, mug, jug, teapot / Bowlen fawr, mwg, jwg, tebot, Ana Simmons


Llun / Delwedd: Butter dish and mugs / Llestr menyn a mygiau, Ana Simmons


GEOFF SWINDELL www.homepage.ntlworld.com/mcaluan/ghs/ Dinas Powys, Vale of Glamorgan / Dinas Powys, Bro Morgannwg

I have been working on a small scale, making porcelain vessels usually less than 12 cms high since leaving the Royal College of Art in 1970. Throughout this period of time inspiration for form, colour and texture has been drawn from a wide variety of sources including sea creatures, fossils, Sci-Fi illustrations and my own collection of objects, eroded by the sea and found on the beaches of South Wales. The images and forms I work with require the fine texture and whiteness only available with porcelain clay. The body needs to be high fired to give physical strength to the very light weight, thinly walled structure of each piece. The lightness of the form creates a feeling of delicacy and preciousness very similar to a sea shell. The whiteness of porcelain gives a good ground for the application of glazes without affecting the colours unlike a normal stoneware body. The porcelain body is smooth and characterless allowing me to control and impose my own textures upon it. To create the pieces I use the potter’s wheel to make precise and accurately engineered forms and then colour them with soft organic looking glazes reflecting the contrasting qualities I enjoy finding in my source material.

Yr wyf wedi bod yn gweithio ar raddfa fach, gan wneud llestrau porslen fel arfer, dim mwy na 12cm o uchder ers gadael y Coleg Celf Brenhinol yn 1970. Trwy gydol y cyfnod hwn, cefais fy ysbrydoli gan ffurf, lliw a gwead a oedd wedi eu benthyg gan amrywiaeth eang o ffynonellau gan gynnwys creaduriaid y môr, ffosilau, darluniau Sci-Fi a fy nghasgliad fy hun o wrthrychau a erydwyd gan y môr a ganfuwyd ar hyd traethau De Cymru . Mae’r delweddau a’r ffurfiau rwy’n creu yn ddibynnol ar waead cain a’r gwynder a geir gyda chlai porslen. Mae angen iddynt gael eu tanio yn uchel er mwyn rhoi cryfder corfforol i’r llestrau ysgafn yma a’r strwythur tenau sydd i bob darn. Mae ysgafnder y ffurf yn creu ymdeimlad o fregursrwydd, yn debyg iawn i gragen môr. Mae gwynder y porslen yn arwyneb da ar gyfer gosod gwydreddau arno sydd ddim yn effeithio ar liwiau yn ormodol, yn wahanol i gorff clai caled. Mae corff y porslen yn llyfn ac yn ddigymeriad sydd yn caniatáu i mi reoli a gosod fy ngweadau fy hun arno. I greu’r darnau yr wyf yn defnyddio olwyn i wneud ffurfiau manwl a pheiriannol gywir ac yna eu lliwio â gwydreddau ysgafn, organig yr olwg, er mwyn adlewyrchu nodweddion cyferbyniol a ddaw o’r ffynhonnellau a ysbrydolodd y gwaith yn y lle cyntaf.


Llun / Delwedd: Gwaith gan Geoff Swindell / Work by Geoff Swindell



Llun / Delwedd: Tea set / Set te, Geoff Swindell


LOUISA TAYLOR www.louisataylorceramics.com London / Llundain

The source of inspiration for my work stems from museum collections of 18th-century porcelain wares. In 2012, I undertook a six-month residency at the Victoria and Albert Museum, London. During the residency, I researched the history of food and how dinning vessels have evolved to accommodate new functions and fashions. The 18th century was a time when new foods such as rice, pasta and cocoa were being imported into the country. Tea, pineapples, oranges and spices were prized commodities and reflected an individual’s social status. There was greater understanding about the nutritional benefits of food and how a varied diet of fresh fruit, vegetables and meat could promote good health and well-being. Important life-saving discoveries were being made; vitamin C present in citrus fruits could prevent Scurvy, a deadly disease common amongst sailors. The Papillon collection explores “the landscape of the table” and reflects the grandeur and performance of 18th century upper class dining. The forms derive from ornate 18th century press-moulded pickle pots and condiment dishes. I like the use of trompe l’oeil (“trick of the eye”) and in the base of each piece, a moulded texture of foodstuffs relevant to the historical period, is revealed as the contents of the vessel are served. My overall intention is to create objects for the table that aim not to prescribe specific functions but instead encourage interaction and playfulness amongst diners.

Daw ysbrydoliaeth ar gyfer fy ngwaith o gasgliadau amgueddfeydd o nwyddau porslen y 18fed ganrif. Yn 2012, bum ar breswyliad chwe mis yn Amgueddfa Victoria ac Albert, Llundain. Yn ystod y cyfnod preswyl yma, fe fum yn ymchwilio hanes bwyd a sut mae llestri bwrdd wedi esblygu i bwrpasau a ffasiynau newydd. Roedd y 18fed ganrif yn gyfnod pan oedd bwydydd newydd fel reis, pasta a choco yn cael eu mewnforio i mewn i’r wlad. Roedd te, pinafal, orennau a sbeisys yn nwyddau a chai eu gwerthfawrogi ac a oedd yn adlewyrchu statws cymdeithasol unigolyn. Roedd dealltwriaeth am faeth bwyd a sut y gallai deiet amrywiol o ffrwythau ffres, llysiau a chig hybu iechyd a lles da. Cafodd darganfyddiadau achub bywyd pwysig eu darganfod hefyd; gallai fitamin C a oedd yn bresennol mewn ffrwythau sitrws atal y llwg - clefyd marwol cyffredin ymhlith morwyr. Mae’r casgliad Papillon yn archwilio “tirwedd y bwrdd” ac yn adlewyrchu mawredd a pherfformiad fwyta dosbarth uchel y 18fed ganrif. Mae’r ffurfiau yn deillio o botiau phicl wedi eu gwasgu mewn mowld o’r 18fed ganrif. Rwy’n hoffi’r defnyddio trompe l’ oeil (“tric y llygad“) fel sylfaen i bob darn, ble mae bwydydd sy’n berthnasol i’r cyfnod hanesyddol, yn cael ei datgelu ar waelod pobl llestr sy’n cael ei weini. Fy mwriad yw creu llestri bwrdd sy’n ymestyn allan o’i bwrpas er mwyn annog trafod a rhyngweithio chwareus ymhlith ciniawyr.


Llun / Delwedd: Orange Slice Serving Dish / Llestr gweini sleisen oren, Louisa Taylor


Llun / Delwedd: Jugs / Jwgiau, Louisa Taylor

Llun / Delwedd: Turnip jar, Pepper jar, Carrot jar / Jar erfinen, Jar pupur, Jar Moron, Louisa Taylor


Llun / Delwedd: Serving dishes and fruit pots collection / Llestri gweini a chasgliad potiau ffrwythau, Louisa Taylor


RIE TSURUTA

www.rietsuruta.co.uk London / Llundain

My tactile porcelain tableware is made to be used as a central part of people’s daily lives and to provoke a sense of intimacy and awareness of touch. The forms derive naturally from the making process and impressions of landscape in my mind. The glaze’s muted colours derive from nature’s seasons and my memories of growing up in Japan. My aim is to create a still life or landscape in the domestic environment: in other words, memory of landscape made tangible.

Bwriad fy llestri porslen yw i gael eu defnyddio fel rhan ganolog o fywyd pob dydd ac i ysgogi ymdeimlad o agosatrwydd ac ymwybyddiaeth o gyffwrdd. Mae’r llestri yn esblygu’n naturiol drwy’r broses o greu ac agraffiadau o dirwedd y meddwl. Mae lliwiau tawel y gwydredd yn deillio o dymhorau natur a’m hatgofion o dyfu i fyny yn Japan. Fy nod yw creu bywyd llonydd neu dirwedd o fewn amgylchedd y cartref: neu mewn ystyr eraill, cof am dirwedd a wnaed yn ddiriaethol.


Llun / Delwedd: Work by Rie Tsuruta / Gwaith gan Rie Tsuruta


Llun / Delwedd: Work by Rie Tsuruta / Gwaith gan Rie Tsuruta


Llun / Delwedd: Work by Rie Tsuruta / Gwaith gan Rie Tsuruta


JAMES & TILLA WATERS

www.jamesandtillawaters.co.uk Llansadwrn, Carmarthenshire / Llansadwrn, Sir Gaerfyrddin

James and Tilla Waters work together to produce domestic ceramics in their studio in the hills between Llandeilo and Llandovery, Carmarthenshire. They have been based in the county for ten years and continue to develop and refine their practice, which has strong connections to their artistic training as painters as well as time spent as assistants to influential English potter, Rupert Spira. All of their work is thrown on the wheel using porcelain and stoneware clay bodies. The partnership has evolved so that James does all the throwing and Tilla is concerned with surface quality.

Gweithia James a Tilla Waters ar y cyd i greu crochenwaith domestig yn eu stiwdio rhwng Llandeilo a Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin. Mae’r ddau wedi gweithio yn y sir am ddeng mlynedd ac yn parhau i ddatblygu a pherffeithio eu gwaith sydd a chysylltiadau cryf gyda’u hyfforddiant artistig fel paentwyr yn ogystal a’r amser a dreuliwyd fel cynorthwywyr i’r crochenydd dylanwadol o Loegr, Rupert Spira. Mae eu gwaith yn cael ei daflu ar yr olwyn gan ddefnyddio clai porslen a chlai carreg galed. Mae’r bartneriaeth wedi esblygu fel mai James sy’n taflu a Tilla sy’n gyfrifol am yr arwyneb.


Llun/Delwedd: Work by James & Tilla Waters / Gwaith gan James a Tilla Waters



Llun/Delwedd: Work by James & Tilla Waters, as seen in ‘White Gold’ / Gwaith gan James a Tilla Waters, fel y gwelwyd yn ‘Aur Gwyn’


List of works / Rhestr o’r gweithiau Justine Allison

Mel Brown

Stripe Jug (large - black) / Jwg Streipïog (mawr – du)

Relief Vessel (small) / Llestr Cerfwedd (bach)

Stripe Jug (small – black) / Jwg Streipïog (bach – du)

Vessel Dark Glaze (large) / Llestr Gwydredd Dywyll (mawr)

Stripe Vessel (black) / Llestr Streipïog (du)

Vessel Dark Glaze (small) / Llestr Gwydredd Dywyll (bach)

Stripe Vessel (green – tall) / Llestr Streipïog (gwyrdd – tal)

Vessel Lines (large) / Llestr Llinellau (mawr)

£360

Stripe Vessel (green – large) / Llestr Streipïog (gwyrdd – mawr)

Vessel Lines (small) / Llestr Llinellau (bach)

Stripe Vessel (green – medium) / Llestr Streipïog (gwyrdd – canolig)

Palladium Bowl / Bowlen Paladiwm

‘Quarter’ Four Sang de Boeuf teapots with cane and silver handles on a rosewood stand. / Pedwar tebot Sang de Boeuf gyda dolenni gwialen arian ar blât rhosbren.

Stripe Vessel (green – small) / Llestr Streipïog (gwyrdd – bach)

‘Triplets’ Three Celadon teapots with black cane and silver handles on an ebonised beech stand. / Tri tebot Celadon gyda dolenni gwialen ddu ac arian ar blât ffawydden.

£600 Stripe Vessel (green – very small) / Llestr Streipïog (gwyrdd – bach iawn) Gold Bowl / Bowlen Aur White Bowl / Bowlen Wen Relief Vessel (large) / Llestr Cerfwedd (mawr)

Deconstructed teapot in a vintage oval frame / Tebot wedi ei ddad-wneud mewn hen ffram ofal daw / nfs


Carys Davies ‘Two Gentlemen in conversation’ Two Crackle glazed teapots in an antique glass dome. / Dau debot gyda gwydredd wedi cracio mewn hen ddôm wydr.

on the horizon £195

dogger bank £65

gales imminent £115

squally shower £65

£450

fog imminent £85

gales £30

‘Miss Havisham’ veering West Unglazed porcelain teapot in an an- £95 tique glass dome with silver, porcelain and dried flowers. dish, ‘attention all shipping’ / Tebot porslen heb wydredd mewn £65 hen ddôm gyda gwydr, porslen a blodau sych. dish, ‘veering southern’ £55 £350 refusing the ebb1 £95 refusing the ebb2 £75 refusing the ebb3 £65 on the horizon2 £65


Kate Evans

Stuart Houghton

Poppy/Grass vase – grey/blue Fâs Popi/Gwair – llwyd/las £60

Lidded Store Jar - medium, tenmoku / Jar storio gyda chaead – canolig, tenmoku £45

Poppy vase – dark blue Fâs Popi – glas tywyll £60 Hop vase – dark green Fâs llewyg – gwyrdd tywyll £40 Love in the mist vase – turquoise blue Fâs ‘Love in the mist’ – gwyrdd las £40 Snowdrop vase – pale blue Fâs Lili Wen Fach – glas golau £40 Snowdrop vase – dark green Fâs Lili Wen Fach – gwyrdd tywyll £34 Rosehip vase – dark green Fâs Afal bwci – gwyrdd tywyll £30 Snowdrop vase – turquoise blue Fâs Lili Wen Fach – gwyrdd las £30

Lidded Store Jar - large, tenmoku / Jar storio gyda chaead – mawr, tenmoku £60 Pouring bowl - small, celadon / Bowlen arllwys – bach, celadon £25 Pouring bowl - medium, celadon / Bowlen arllwys – canolig, celadon £30 Pouring bowl- large, celadon / Bowlen arllwys – canolig, celadon £39 Serving Platter - Large, yellow / Llestr gweini – Mawr, melyn £60 Rounded squeezed Jug - large, yellow / Jwg gron wedi ei gwasgu – mawr, melyn £28

Ramekin, yellow / Ramekin, melyn £18 Tapered Jug with handle - medium milk jug, yellow / Jwg blaenfain gyda dolen – jwg laeth ganolig, melyn £35 Rounded squeezed Jug - small, celadon / Jwg gron wedi ei gwasgu – bach, celadon £19 Rounded squeezed Jug - medium, celadon / Jwg gron wedi ei gwasgu – canolig, celadon £23 Rounded squeezed Jug - large, celadon / Jwg gron wedi ei gwasgu – mawr, celadon £28 Tapered Jug with handle - large water jug, white / Jwg blaenfain gyda dolen – jwg laeth fawr, gwyn £55


Susan Nemeth 1-6 Candlesticks Porcelain, glaze, gold leaf / 1-6 Canwyllbrennau Porslen, gwydredd, deilen aur £150 each / yr un

Vicky Shaw Straight Vase with Folded Top Porcelain, glaze, decals, gold leaf / Fâs Syth gyda thop wedi ei blygu Porslen, gwydredd, transffer, deilen au £300

Bowl 2 / Bowlen 2 £375 Bowl 3 / Bowlen 3 £490

7-9 Bent Candlesticks Porcelain, glaze, gold leaf / 7-9 Canwyllbrennau Cam Porslen, gwydredd, deilen aur £250 each / yr un

Bowl 6 / Bowlen 6 £475

Belly Vase Porcelain, glaze, decals, gold leaf / Fâs bol Porslen, gwydredd, transffer, deilen aur £420

Composition 5 / Cyfansoddiad 5 £185

Skinny Vase with Folded Top Porcelain, glaze, decals / Fâs Fain gyda thop wedi ei blygu Porslen, gwydredd, transffer £300 Skirted Vase with Folded Top Porcelain, decals / Fâs Godreog gyda thop wedi ei blygu Porslen, transffer £420

Bowl 7 / Bowlen 7 £495

Composition 6 / Cyfansoddiad 6 £185 Composition 1 / Cyfansoddiad 1 £190 Composition 2 / Cyfansoddiad 2 £190 Composition 3 / Cyfansoddiad 3 £190 Composition 4 / Cyfansoddiad 4 £190


Vicky Shaw

Ana Simmons

Geoff Swindell

Composition 7 / Cyfansoddiad 7 £295

Large bowl / Bowlen fawr Celadon £90

Teaset / Llestri te £570

Composition 8 / Cyfansoddiad 8 £295

Teapot / Tebot Celadon £60 Jug / Jwg Celadon £28 Mug, large / Mwg, mawr Celadon £22 Butter dish / Llestr menyn Celadon £42 Mug, small / Mwg, bach Celadon £18

Teacups / Cwpanau te £195 Teapot / Tebot £280 Teapot 2 / Tebot 2 £280 Teapot 3 / Tebot 3 £330


Louisa Taylor Orange Slice Serving Dish / Llestr gweini sleisen oren £485 Rice serving dish, small / Llestr gweini reis, bach £140 Pineapple Serving Dish, small / Llestr gweini pinafal, bach £110 Turnip Jar / Jar Erfinen £120 Carrot Jar / Jar Moron £110 Pepper Jar / Jar Pupur £90 Cauliflower Teapot & 2 cups and saucers set / Casgliad Tebot blodfresych a 2 gwpan a soser £375 Lemon Jug / Jwg Lemwn £45 Lime Jug / Jwg Leim £45

Rie Tsuruta Orange Bowl / Bowlen Oren £40 Melon Bowl Green / Bowlen felon werdd £180 Pineapple Bowl Grey / Bowlen pinafal Llwyd £150 Artichoke Bowl Dark Purple / Bowlen gellygen y ddaear piws tywyll £120 Artichoke Bowl Moave / Bowlen gellygen y ddaear glas golau £90 Lemon Bowl Yellow / Bowlen melyn lemwn £60 Orange Bowl (Pale Orange) / Bowlen Oren (Oren golau) £75

Mug / Cup Mwg / Cwpan £43 Salt cellar with spoon / Soser halen gyda llwy £52


James & Tilla Waters Teapot / Tebot £192 Breakfast Mug / Mwg brecwast £37.50 Small pourer, plain / Jwg fach, plaen £33 Small pourer, decorated / Jwg fach, wedi ei haddurno £42 Large pourer, decorated / Jwg fawr, wedi ei haddurno £63 Small mug / Mwg fach £33



Acknowledgements

Cydnabyddiaethau

Contemporary Nantgarw would like to thank the exhibitors: Justine Allison, Mel Brown, Carys Davies, Kate Evans, Stuart Houghton, Susan Nemeth, Vicky Shaw, Ana Simmons, Geoff Swindell, Louisa Taylor, Rie Tsuruta and James & Tilla Waters; also to Pete Goodridge and Artworks for their assistance in the exhibition display and to Cllr. Jill Bonetto (Taff’s Well and Nantgarw Community Council) and Andrew Renton (Applied Arts Curator, National Museum of Wales) for opening the exhibition.

Fe hoffai Nantgarw Gyfoes ddiolch i’r artistiaid: Justine Allison, Mel Brown, Carys Davies, Kate Evans, Stuart Houghton, Susan Nemeth, Vicky Shaw, Ana Simmons, Geoff Swindell, Louisa Taylor, Rie Tsuruta a James a Tilla Waters; ac i Pete Goodridge ac Artworks am eu cymorth gyda gosod gofod yr arddangosfa ac i Cyngh. Jill Bonetto (Cyngor Cymuned Ffynon Taf a Nantgarw) ac Andrew Renton (Curadur Celfyddydau Cymhwysol, Amgueddfa Genedlaethol Cymru) am agor yr arddangosfa.

Thanks also to the Friends and Volunteers of Nantgarw China Works Museum.

Diolch hefyd i ffrindiau a gwirfoddolwyr Amgueddfa Crochendy Nantgarw.

Curated by Contemporary Nantgarw: Lowri Davies, Anne Gibbs, Margo Schmidt, Sally Stubbings.

Curadwyd gan Nantagwr Gyfoes: Lowri Davies, Anne Gibbs, Margo Schmidt, Sally Stubbings.

Design: Carwyn Evans Photography: Artists’ own, plus additional pictures from Nantgarw Contemporary

Dylunio: Carwyn Evans Ffotograffiaeth: Yr artistiaid, gyda delweddau ychwanegol gan Nantgarw Gyfoes


Nantgarw China Works Museum, Tyla Gwyn, Nantgarw, Rhondda Cynon Taff CF15 7TB

Amgueddfa Crochendy Nantgarw, Tyla Gwyn, Nantgarw, Rhondda Cynon Taff CF15 7TB

+44(0)1443 844 131

+44(0)1443 844 131

Contemporary Nantgarw would like to note project support from Arts Council of Wales

Hoffai Nantgarw Gyfoes nodi cefnogaeth y prosiect gan Gyngor Celfyddydau Cymru

www.nantgarwchinaworksmuseum.co.uk


WHITE GOLD AUR GWYN contemporary NANTGARW | NANTGARW gyfoes


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.