Transformation Manager Welsh - Comm Invest

Page 1

CYNGOR BWRDEISTREF SIROL CAERFFILI Rheolwr Trawsnewid Buddsoddiad Masnachol

#TîmCaerffili

GWASANAETHAU POBL PEOPLE SERVICES


Neges gan Arweinydd y Cyngor - y Cyng. Dave Poole Diolch am eich diddordeb mewn gwneud cais am y swyddi newydd sbon hyn. Mae’r pecyn hwn yn cynnwys llu o wybodaeth, a gobeithiwn eich annog i ddweud wrthym pam mai chi yw’r ymgeisydd perffaith ar gyfer y rolau. Mae hwn yn gyfle unigryw i ymuno â ni yma yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar adeg gyffrous i’r sefydliad wrth iddo symud ymlaen. Mae bwrdeistref sirol Caerffili wedi cael ei chydnabod ers tro fel sefydliad lle mae gweithio mewn partneriaeth rhwng y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol yn golygu mwy na dim ond geiriau. Rydym yn bartneriaid allweddol yng Nghytundeb Dinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ac rydym yn edrych ymlaen at y cyfleoedd pellgyrhaeddol y bydd y buddsoddiad hwn, a ategir gan bartneriaethau aeddfed gyda’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol, yn eu dod i’r fwrdeistref sirol a’r rhanbarth cyfan. Mae’r cyngor yn parhau i ddarparu gwasanaethau o ansawdd i dros 180,000 a mwy o drigolion, er gwaethaf nifer o heriau. Fodd bynnag, wrth i gyllidebau dynhau, ac fel awdurdod lleol blaengar, rydym yn croesawu rhaglen strategol newydd sbon o drawsnewid ‘awdurdod cyfan’, #TîmCaerffili - Yn Well Gyda’n Gilydd, a fydd yn cael ei chyflwyno drwy fodel gweithredu newydd ar gyfer y ffordd y byddwn yn darparu ein gwasanaethau yn y dyfodol. Yn ganolog i’r rhaglen hon o newid trawsnewidiol mae ein mantra newydd o ‘Calon Gymdeithasol Pen Masnachol’. Mae hyn yn cydnabod ein hymrwymiad i wasanaeth cyhoeddus ac anghenion ein dinasyddion, gan ddangos hefyd ein dymuniad i archwilio cyfleoedd arloesol, masnachol newydd lle bo hynny’n briodol, i gynhyrchu incwm ychwanegol i’w ail-fuddsoddi mewn gwasanaethau i’w helpu i aros yn wydn. Bydd y rôl hon yn ganolog i helpu i lywio’r daith drawsnewid hon, ac felly mae’n bwysig bod yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gallu cyflawni’r weledigaeth a’r arloesedd a rannwn, er mwyn symud y sefydliad hwn yn ei flaen er lles pobl bwrdeistref sirol Caerffili. Dymunaf bob llwyddiant i ymgeiswyr, ac edrychaf ymlaen at dderbyn eich cais am y swyddi maes o law.

Y Cyng. David Poole Arweinydd y Cyngor

Os ydych chi’n credu bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni rhagoriaeth fel rhan o Dîm Caerffili, cysylltwch â ni am drafodaeth anffurfiol. Richard Edmunds Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Addysg a Gwasanaethau Corfforaethol Ffôn: 01443 864560 E-bost: edmunre@caerffili.gov.uk


Cyflwyniad gan y Prif Weithredwr Dros Dro - Christina Harrhy Rwy’n falch eich bod wedi cymryd yr amser i ystyried y cyfleoedd newydd sbon hyn i ymuno â Thîm Caerffili ar adeg hynod gyffrous o drawsnewid. Mae gan ein model gweithredu newydd #TîmCaerffili - Yn Well Gyda’n Gilydd bwrpas clir iawn: creu gallu a rhagwelediad i ddatblygu atebion i rai o heriau mwyaf y fwrdeistref sirol, gan sicrhau bod y cyngor yn deall ac yn ymateb i anghenion a blaenoriaethau newidiol ein cymunedau. Er mwyn cyflawni hyn, mae’n rhaid i ni fod yn feiddgar a dewr ac mae’n rhaid i ni allu rhagweld cyfleoedd yn y dyfodol a bod yn barod i wneud y gorau ohonynt. Bydd y rolau hyn yn allweddol wrth helpu i wireddu’r daith drawsnewid hon. Rwy’n chwilio am unigolyn sy’n gallu dod â lefel uchel o graffter masnachol a’r gallu i weithredu a meddwl yn strategol. Bydd gennych sgiliau dylanwadu a thrafod cryf a’r gallu i asesu a rheoli risgiau er mwyn manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i’r cyngor. Byddwch yn graff yn wleidyddol ac yn gallu gweithio’n rhagweithiol ac yn annibynnol i gyflwyno mentrau cynhyrchu incwm llwyddiannus. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd sgiliau rheoli rhaglenni a phrosiectau cryf i sicrhau bod prosiectau’n cael eu cyflwyno mewn modd amserol, gan ddefnyddio lefelau uchel o farnu a gwneud penderfyniadau cadarn. Bydd angen i chi gymryd persbectif arloesol, strategol, gan ein cefnogi wrth i ni feddwl am y dyfodol a sut y bydd ein bwrdeistref sirol yn edrych yn y degawd nesaf a thu hwnt. Mae’r her yn fawr ond mae’r cyfleoedd i addasu’r cyngor a’r fwrdeistref sirol at ddibenion gwahanol a’u haillunio hyd yn oed yn fwy. Gobeithio y byddwch yn rhannu ein brwdfrydedd dros y daith drawsnewidiol gyffrous hon ac rwy’n edrych ymlaen at dderbyn eich cais i ymuno â ni yma yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Christina Harrhy Prif Weithredwr Dros Dro

Amserlen Recriwtio 03/07/19 - Gweithgareddau recriwtio yn dechrau 19/07/19 - Dyddiad cau


#TîmCaerffili

YN WELL GYDA’N GILYDD Mae’r awdurdod yn dechrau ar raglen trawsnewid fawr i edrych ar sut y caiff gwasanaethau eu blaenoriaethu a sut y gallant ddod yn fwy busnes effeithlon, i ymchwilio i gyfleoedd i ganolbwyntio mwy ar y cwsmer a chyflawni’n ddigidol, ac i ystyried modelau cyflawni amgen a chwilio am gyfleoedd masnachol. I’n galluogi i barhau i ddarparu gwasanaethau o ansawdd da sy’n cynnig gwerth am arian mewn amgylchedd a fydd yn galw am ddulliau newydd a sgiliau newydd, bydd angen hefyd inni feithrin perthynas newydd gyda’n staff a’n cymunedau. Mae’r rhaglen newid uchelgeisiol hon yn mynegi cyd-weledigaeth y Cabinet a’r Tîm Arwain Corfforaethol ac wedi cael ei datblygu dros y 12 mis diwethaf. Wrth wireddu’r Strategaeth hon, bydd arweiniad dewr gan wleidyddion a swyddogion yn hanfodol er mwyn sicrhau y byddwn yn llwyddo i gyflawni’r canlyniadau yr ydym yn anelu atynt. Mae ein strategaeth trawsnewid #TîmCaerffili - Yn Well Gyda’n Gilydd yn amlochrog ac wedi’i seilio ar amrywiaeth o elfennau allweddol a fydd yn sail i bopeth a wnawn ac a fydd yn cael eu gwreiddio’n llawn yn ein model gweithredu newydd. Dyma’r canlyniadau yr ydym yn anelu at eucyflawni: • Bod â pherthnasoedd gweithio cryf gyda’n cymunedau a’n partneriaid er mwyn gwneud y defnydd mwyaf posibl o’n cyd-adnoddau i sicrhau bwrdeistref sirol gydnerth at y dyfodol. • Gwreiddio model gweithredu newydd a fydd yn hybu dulliau arloesol o ddarparu gwasanaethau a sicrhau ein bod yn gwneud y defnydd gorau o’n hadnoddau. • Helpu i gau’r bwlch rhwng tlodi a ffyniant trwy wella cyrhaeddiad addysgol ac ysgogi’r economi leol i greu swyddi o ansawdd da. • Gwneud Bwrdeistref Sirol Caerffili yn lle gwell i fyw, gweithio ac ymweld â hi.


Model Gweithredu

Mae dealltwriaeth dda o’r angen am newid. Ers blwyddyn ariannol 2008/09 mae’r Cyngor wedi torri mwy na £100 miliwn o’i gyllideb oherwydd y rhaglen cyni barhaus a rhagwelir arbedion pellach o ryw £44 miliwn ar gyfer y cyfnod o bedair blynedd o 2020/21 i 2023/24. Mae hyn, ynghyd â’r galwadau cynyddol sy’n gysylltiedig â phoblogaeth sy’n heneiddio, helpu pobl ag anghenion iechyd cymhleth i aros yn eu cartrefi eu hunain, y bwlch rhwng tlodi a ffyniant, y newid yn yr hinsawdd a datblygiadau digidol, yn galw am ymagwedd newydd sy’n ein galluogi i gyflawni “mwy gyda llai”. Hyd yma mae’r Cyngor wedi ymateb i’r her ariannol heb lawer o effaith ar wasanaethau rheng flaen. Fodd bynnag, wrth gynllunio ar gyfer dyfodol y Fwrdeistref Sirol, gwyddom fod anghenion ein cymunedau a phroffil demograffig ein poblogaeth yn newid. Er enghraifft, erbyn 2036 bydd nifer y bobl hŷn nag 85 oed sy’n byw yn y Fwrdeistref Sirol yn cynyddu 119%.


Gwyddom y bydd technoleg yn sail i swyddi, sgiliau, cyflogaeth ac addysg yn y dyfodol. Bydd Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cynnig y cyfle pwysicaf i ysgogi’r economi leol am genedlaethau i ddod. Mae cyflogaeth yn arwain at ffyniant a chyfle cyfartal. Mae arnom ddyletswydd i fod yn gyfrifol yn fyd-eang ym mhopeth a wnawn ac mae’n rhaid inni ddarparu ein gwasanaethau mewn ffordd effeithlon, effeithiol a chynaliadwy. Mae ein partneriaid yn gweithredu mewn amgylchedd yr un mor heriol ac mae angen inni wneud y mwyaf o’n cyd-alluoedd trwy gydweithio ar draws y sectorau cyhoeddus, gwirfoddol a chymunedol. Rydym yn ailddiffinio ein gweledigaeth a’n gwerthoedd fel sefydliad. Bydd angen i’n hegwyddorion gweithredu newid er mwyn gwireddu ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol. Rydym yn datblygu set newydd o werthoedd ac mae ein staff wedi cael eu cynnwys yn y cyfle cyffrous hwn ar gyfer newid cadarnhaol. Byddwn yn eu helpu gyda hyn trwy arferion cymorth a datblygiad newydd. Rydym wedi nodi prosiectau allweddol yr awdurdod lleol a fydd yn gwella ein cydnerthedd a byddwn yn cyflawni’r rhain trwy waith rheoli rhaglenni trylwyr. Mae ein Strategaeth Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden Egnïol, a fabwysiadwyd yn ddiweddar, yn enghraifft dda o’n hymagwedd yn y dyfodol - atgyfnerthu a chefnogi gwasanaethau hyfyw i’r dyfodol. Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i amddiffyn pobl agored i niwed a darparu gwasanaethau mewn ffordd mor deg ag sy’n bosibl ar draws y fwrdeistref sirol gyfan. Fodd bynnag, rhaid inni feddwl yn fwy masnachol yn ein dulliau o ddarparu gwasanaethau, a chwilio am gyfleoedd i gynyddu incwm y gellir ei ail-fuddsoddi mewn gwasanaethau. Rhaid i’r ffordd yr ydym yn rhyngweithio ac ymgysylltu â’n cymunedau fod yn fwy ystyrlon a chael ei hintegreiddio’n llawn i’n strategaethau, felly bydd angen i’n hymagwedd bresennol newid. Rhaid inni reoli disgwyliadau ein cymunedau a datblygu cyd-ddealltwriaeth na allwn ddarparu gwasanaethau yn yr un ffyrdd ag o’r blaen. Byddwn yn gwrando’n ofalus ar farn ein cymunedau wrth siapio gwasanaethau yn y dyfodol a byddwn yn esbonio’r rhesymau y tu ôl i unrhyw benderfyniadau a wneir. Bydd angen gwneud dewisiadau anodd a bydd angen inni roi blaenoriaeth i wasanaethau hanfodol. Byddwn yn agored ac yn onest yn y ffordd y gwnawn y dewisiadau hyn ac rydym eisiau i’n cymunedau a’n staff fod yn rhan o’r drafodaeth. Mae ein staff yn adnodd ymroddedig a gwerthfawr a byddwn yn sicrhau ein bod yn eu cynorthwyo a’u harfogi â’r sgiliau a chymwyseddau y bydd arnynt eu hangen i sicrhau y bydd y model gweithredu newydd a fydd yn sail i’r rhaglen trawsnewid hon yn cael ei gyflawni’n llwyddiannus. Bydd y rôl newydd sbon hon yn allweddol wrth gefnogi darpariaeth #TîmCaerffili - Yn Well Gyda’n Gilydd


Swydd Ddisgrifiad a Manyleb y Person Manylion y Swydd Teitl y Swydd: Gradd: Cyfadran: Adran: Is-adran: Lleoliad: Yn atebol i:

Rheolwr Trawsnewid - Buddsoddi Masnachol Prif Swyddog D Addysg a Gwasanaethau Corfforaethol Gwasanaethau Gwella Busnes Tîm Gwella Busnes Tŷ Penallta Pennaeth Gwasanaethau Gwella Busnes

Pwrpas y Swydd: Yn gyfrifol am ddatblygu a chyflwyno dull masnachol o ddarparu gwasanaethau a chynhyrchu incwm i sicrhau bod yr Awdurdod yn darparu gwasanaethau effeithlon, effeithiol a chynaliadwy. Hyrwyddo’r defnydd o ddulliau arloesol a masnachol o ddarparu gwasanaethau i gefnogi’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig, diogelu gwasanaethau rheng flaen a chefnogi cyflawni amcanion corfforaethol. Prif gynghorydd i Bennaeth Gwasanaethau Gwella Busnes yn ogystal â’r Tîm Arwain a’r Rhwydwaith Rheoli ar yr holl faterion sy’n gysylltiedig â gweithgareddau masnachol a chynhyrchu incwm. Chwarae rôl allweddol wrth greu’r diwylliant a’r amodau sefydliadol sydd eu hangen i gefnogi trawsnewid gwasanaeth eang a gweithredu dull newydd a mwy masnachol o ddarparu gwasanaethau. Chwarae rôl allweddol wrth archwilio cyfleoedd i gydweithio ag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i ddiogelu a chynnal gwasanaethau a chefnogi cyflwyno’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig. Gweithio gyda swyddogion allweddol perthnasol mewn perthynas â Chynllunio’r Gweithlu i wreiddio’r sgiliau a’r technegau angenrheidiol yn y sefydliad i gefnogi cyflwyno model gweithredu newydd y Cyngor.

Meysydd Canlyniadau Allweddol Hyrwyddo dull a diwylliant mwy masnachol a gwreiddio hyn o fewn yr Awdurdod i gyflawni gostyngiadau cost a chynnal gwasanaethau. Dod o hyd i gyfleoedd i gynhyrchu incwm, gan gynnwys manteisio i’r eithaf ar ffynonellau cyllid allanol. Ysbrydoli a galluogi pobl i ddefnyddio dulliau masnachol i wella gwasanaethau a chyrraedd targedau penodol. Rheoli newid gwasanaeth yn effeithiol ar fentrau penodol gyda’r nod o wneud y mwyaf o effeithlonrwydd, moderneiddio gwasanaethau a sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i’n cymunedau a’n defnyddwyr gwasanaethau. Gwneud cyfraniad cadarnhaol i ddylanwadu ar bartneriaethau lleol a rhanbarthol a chydweithio e.e. cyfrannu at ddatblygu cynigion ar gyfer cyllid drwy Gytundeb Dinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.


Cyflawni’r amcanion a bennwyd o ganlyniad i’r broses Adolygu Perfformiad, Cynllunio Gwasanaethau, mentrau Corfforaethol a mentrau’r Cyngor. Cyflawni yn ôl cyfrifoldebau statudol a glynu wrth ofynion deddfwriaethol sy’n berthnasol i’r rôl

Proffil Manwl o’r Dasg Cefnogi Pennaeth Gwasanaethau Gwella Busnes drwy ddarparu cyngor, arweiniad ac arbenigedd ar ddull yr Awdurdod wrth weithredu gweithgareddau masnachol a chynhyrchu incwm. Ffurfioli gweithgareddau masnachol yr Awdurdod drwy’r canlynol:• Cynhyrchu Incwm - Cynyddu refeniw drwy adolygu taliadau cyfredol, archwilio cyfleoedd i gyflwyno taliadau newydd a thrwy nodi a denu cyllid allanol o amrywiaeth o ffynonellau. • Creu Diwylliant Masnachol - Hyrwyddo a chefnogi dull mwy proffesiynol i ddarparu gwasanaethau a sicrhau bod staff yn meddu ar y sgiliau a’r ymddygiadau cywir sy’n gysylltiedig â sefydliadau masnachol. Creu diwylliant a strwythur cydlynol sy’n caniatáu i syniadau masnachol newydd ddatblygu a gweithredu prosiectau masnachol, gan roi pob cyfle iddynt ddod yn fentrau masnachol llwyddiannus. Datblygu Strategaeth Fasnachol yr Awdurdod gyda’r nod cyffredinol o gyflwyno elw ariannol sy’n helpu i ddiogelu gwasanaethau rheng flaen a/neu gyfrannu at ofynion arbed arian y Cyngor. Sefydlu Fframwaith Masnachol i werthuso gwasanaethau masnachol presennol a sefydlu proses glir i annog a gwerthuso syniadau newydd ar gyfer gweithgareddau masnachol. Sicrhau bod risgiau sy’n gysylltiedig â chyflwyno mentrau penodol yn cael eu nodi a’u rheoli’n effeithiol. Gwreiddio prosesau a dulliau gweithredu o fewn y sefydliad sy’n cynnwys y gweithlu i annog meddwl creadigol i ddatblygu ffyrdd mwy effeithiol o ddarparu gwasanaethau. Hyrwyddo dull a diwylliant mwy masnachol a grymuso staff i wneud penderfyniadau proffesiynol a manteisio ar gyfleoedd newydd. Darparu cefnogaeth, hyfforddiant, cyngor ac arweiniad i staff ar draws y sefydliad yn ôl yr angen. Cefnogi datblygu achosion busnes a modelu ariannol ar gyfer gweithgareddau masnachol a chyfleoedd i gynhyrchu incwm. Darparu argymhellion a chyngor i Bennaeth Gwasanaethau Gwella Busnes ar gymeradwyo neu fel arall achosion busnes. Gweithio gyda chyfres o dimau prosiect sy’n cynnwys staff o bob lefel o’r sefydliad i ddatblygu a gweithredu prosiectau masnachol hyd at wireddu buddion. Dadansoddi perfformiad ac effaith gweithgareddau masnachol cymeradwy a’r cyfraniad y maent yn ei wneud i wella effeithlonrwydd a chynhyrchu incwm. Cyflawni rôl eiriolwr, ymgynghorydd, trafodwr, dylanwadwr, penderfynwr a gweithredwr ar adegau gwahanol, yn dibynnu ar natur y gwaith sy’n cael ei wneud neu ei oruchwylio. Ymchwilio, datblygu a threialu dulliau newydd ac arloesol o ddarparu gwasanaethau ar draws y Cyngor i wneud y gorau o adnoddau a sicrhau gwerth am arian. Ymgysylltu ag ystod eang o gynulleidfaoedd, yn fewnol ac yn allanol, er mwyn cael ymrwymiad a chefnogaeth ar gyfer y Strategaeth Fasnachol.


Cyfrannu at baratoi a gweithredu Cynlluniau Gwasanaeth Blynyddol a helpu i sicrhau bod nodau, amcanion a chynlluniau gweithredu’r Gwasanaeth yn galluogi cyflawni amcanion strategol y Cyngor a darparu gwasanaethau priodol o ansawdd uchel. Ymgynghori, fel y bo’n briodol, gyda’r Aelod(au) Cabinet perthnasol ac Aelodau Etholedig eraill a darparu gwybodaeth briodol ac ystyrlon i alluogi Aelodau, y Cyngor, y Cabinet, Pwyllgorau a rheolwyr i fonitro perfformiad yn ôl safonau a thargedau cytunedig a chynnydd tuag at gyflawni amcanion strategol y Cyngor. Meithrin a sefydlu cysylltiadau agos â chyrff allanol. Yn gyfrifol am ddatblygu, gweithredu, monitro ac adrodd ar ganlyniadau ar gyfer mentrau strategol penodol ar draws y Cyngor fel y’u pennwyd. Hyrwyddo a sicrhau buddiannau’r Cyngor a’r Fwrdeistref Sirol yn allanol, gan ddatblygu perthnasoedd a phartneriaethau effeithiol gyda sefydliadau allanol, gan gynnwys gosod gofynion y Cyngor o fewn unrhyw fframweithiau rhanbarthol. Sicrhau bod prosesau a gweithdrefnau yn cefnogi cydymffurfiaeth â deddfwriaeth berthnasol a pholisïau’r Cyngor, gan gynnwys Iechyd a Diogelwch, ym mhob rhan o’r maes gwasanaeth. Dirprwyo ar ran Bennaeth Gwasanaethau Gwella Busnes yn ôl yr angen

Perthnasoedd Gweithio Allweddol Datblygu perthnasoedd gweithio effeithiol gyda’r Tîm Rheoli Corfforaethol, Penaethiaid Gwasanaeth, Uwch Reolwyr, y Cabinet ac Aelodau Etholedig y Cyngor. Gweithio gydag ystod eang o bartïon gan gynnwys Partneriaid y Sector Cyhoeddus a Gwirfoddol eraill, sefydliadau’r sector preifat, aelodau’r cyhoedd a rhanddeiliaid eraill.

Adeilad Porth Tredomen

Pont y Siartwyr a Cherflun


Cyfrifoldebau am Staff Teitlau Swyddi, Niferoedd a Lefel Atebolrwydd Yn disgwyl i chi arwain a chadw cyfrifoldeb am nifer o dimau prosiect ar unrhyw adeg benodol. Bydd y swyddogaethau sy’n debygol o gael eu cynrychioli yn dod o ystod o lefelau hynafedd ac yn debygol o gynnwys y swyddogaethau canlynol: • Cwsmeriaid a Digidol. • Cyllid. • Adnoddau Dynol. • Y Gyfraith. • Caffael. • Cynrychiolaeth gwasanaeth rheng flaen (rheolwr gwasanaeth ynghyd â staff)

Cyfrifoldeb am Adnoddau Cyllid; Peiriannau; Adeiladau neu Gyfarpar Cyfrifoldeb am gyflawni lefelau sylweddol o arbedion a rheoli unrhyw gyllid buddsoddi sydd ei angen i gefnogi adolygiadau gwasanaeth. Systemau Data Mynediad i nifer o gronfeydd data’r Cyngor.

Amgylchedd Gweithio Mae’r rôl wedi’i lleoli yn y swyddfa gydag ymweliadau â lleoliadau eraill y Cyngor ac ymweliadau â gwahanol safleoedd.

Anghenion Ychwanegol Cyfyngiad Gwleidyddol: Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd: Gwirio Rhestr Wahardd: Gwaelodlin Asesiad Meddygol Cyn Cyflogaeth: Cofrestru:

Oes Nac oes Nac oes Nac oes Nac oes

Cyfrifoldebau Cyfundrefnol Yn deall ac yn gallu arddangos egwyddorion cyfrinachedd. I weithio o fewn polisïau a gweithdrefnau’r Cyngor, gan gynnwys cydnabod y ddyletswydd i ddiogelu oedolion, plant a phobl ifanc bregus. Yn deall ac yn arddangos ymrwymiad i bolisïau’r Cyngor. Dangos ymrwymiad i ddatblygiad personol parhaus. Mae’r dyletswyddau a chyfrifoldebau yn anodd eu diffinio’n fanwl a gallent amrywio o dro i dro heb newid cymeriad cyffredinol y dyletswyddau neu lefel y cyfrifoldebau dan sylw. Felly, disgwylir i ddeiliad y swydd ymgymryd â dyletswyddau eraill yn ôl y gofyn ar yr amod na fydd cymeriad cyffredinol y dyletswyddau na lefel y cyfrifoldebau yn newid.


Castell Caerffili

TÅ· Weindio Glofa Elliot

Canolfan Ymwelwyr Caerffili

Parc Penallta


Manyleb y Person

Cymwysterau

Hanfodol

Dymunol

Cymhwyster Lefel 6 (Gradd) perthnasol ar Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru.

Lefel Ymarferydd PRINCE2 neu gymhwyster rheoli prosiectau cyfatebol. Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus a/ neu aelodaeth o gorff proffesiynol.

Gwybodaeth

Sgiliau

Lefel uchel o graffter masnachol. Gwybodaeth am fframweithiau llywodraethu sy’n sail i gyflwyno gweithgareddau masnachol.

Dealltwriaeth o reoli ariannol a gwneud penderfyniadau yn y sector cyhoeddus.

Y gallu i feddwl a gweithredu’n strategol.

Sgiliau Iaith Gymraeg.

Y gallu i weithio’n rhagweithiol ac yn annibynnol i gyflwyno mentrau cynhyrchu incwm llwyddiannus. Sgiliau trafod a dylanwadu cryf a’r gallu i asesu a rheoli risgiau i wneud y mwyaf o gyfleoedd i’r Cyngor. Arwain a chyflwyno rhaglenni newydd yn bersonol o’r cysyniad i wireddu buddion. Sgiliau rheoli rhaglenni a phrosiectau cryf i sicrhau bod buddion yn cael eu darparu mewn modd amserol. Lefelau uchel o farnu a gwneud penderfyniadau cadarn. Sgiliau TGCh cadarn gyda’r gallu i ddefnyddio offer meddalwedd ar gyfer amserlennu, rheoli adnoddau, adrodd, dadansoddi a chyfathrebu. Sgiliau cyfathrebu ardderchog (ar lafar, yn ysgrifenedig ac wrth wrando). Y gallu i ddod ag ymagwedd arloesol, optimistaidd a chreadigol at ddatblygu a gweithredu strategaethau, polisïau a darparu gwasanaethau. Y dycnwch i gadw at bethau hyd at ganlyniad llwyddiannus. Y gallu i nodi a deall materion allweddol yn gyflym ac ymateb yn briodol. Y gallu i godi proffil y Sefydliad a’i waith drwy amrywiaeth o gyfryngau.


Profiad

Sefydlu gweithio mewn partneriaeth gydag ystod eang o ddefnyddwyr gwasanaeth, sefydliadau cyhoeddus a phreifat.

Profiad o weithio gyda’r Sector Masnachol.

Datblygu, gweithredu a rheoli cyflwyno strategaeth gorfforaethol. Hanes llwyddiannus o gyflawni a rheoli yn y sector cyhoeddus neu’r sector preifat. Tystiolaeth o gyflwyno gwasanaethau yn effeithlon ac effeithiol drwy ysgogi, annog, grymuso a rhyddhau potensial staff. Arall

Cyfathrebwr cryf ac arweinydd ysbrydoledig sy’n meithrin perthnasoedd ac sy’n ennyn parch yn naturiol. Brwdfrydedd dros ac ymrwymiad i wasanaethau cyhoeddus. Agwedd hyblyg tuag at waith, gan gynnwys mynychu cyfarfodydd y tu allan i oriau. Ymwybyddiaeth, dealltwriaeth a sensitifrwydd gwleidyddol. Yn gallu rheoli llwyth gwaith sylweddol yn effeithiol. Wedi ymrwymo i ddatblygiad proffesiynol parhaus. Trwydded yrru lawn Categori B (Ceir) y DU a defnyddio cerbyd modur wedi’i yswirio at ddibenion busnes / gwaith i deithio ledled y fwrdeistref a thu hwnt i fynychu cyfarfodydd ac ymweld â safleoedd.

Gŵyl y Caws Mawr

Bannau Brycheiniog


Fframwaith Cymwyseddau Cymwyseddau Craidd: Maes Cymhwysedd Cymwyseddau Gwybodaeth sy’n Berthnasol i’r Swydd

Yn dangos gwybodaeth arbenigol mewn maes o arbenigedd yn ogystal â sgiliau rheoli cryf sydd eu hangen ar gyfer y swydd. Yn meddu ar ddealltwriaeth glir iawn o’r Cyngor yn ei gyfanrwydd a lle mae’r rôl yn ffitio i mewn i’r sefydliad. Yn archwilio y tu allan i’w union faes er mwyn ehangu eu gwybodaeth am eu swydd a chadw’n hysbys â datblygiadau newydd.

Cyfathrebu a Darbwyllo

Yn cyfathrebu ac yn sicrhau dealltwriaeth o nodau maes corfforaethol a gwasanaeth. Yn cyflwyno syniadau mewn cyd-destun sefydliadol, gan helpu hybu dealltwriaeth o nodau a gweledigaeth y sefydliad. Yn gallu cyflwyno negeseuon anodd yn briodol. Yn adeiladu partneriaethau y tu mewn a’r tu allan er budd y cyngor a defnyddwyr y gwasanaeth

Gwasanaeth Cwsmeriaid

Yn monitro perfformiad gwasanaethau cwsmeriaid ar draws eu maes cyfrifoldeb. Yn hyrwyddo gwasanaeth cwsmeriaid i gydweithwyr ar draws y Cyngor. Yn rhoi cyngor ac yn arwain ar faterion gwasanaeth cwsmeriaid. Yn gwerthuso perfformiad gwasanaeth cwsmeriaid yn eu maes cyfrifoldeb. Yn cyflwyno gwelliannau o ansawdd i ofynion gwasanaeth cwsmeriaid. Yn datblygu’r strategaeth gwasanaeth cwsmeriaid ar gyfer eu maes cyfrifoldeb.

Arloesi a Newid

Yn cadw’n hysbys â damcaniaethau a thueddiadau newydd. Yn annog arloesi a chymryd risgiau mesuredig. Yn gweithredu arferion gorau ar draws eu maes cyfrifoldeb. Yn cael a defnyddio syniadau gwreiddiol ar gyfer ei hun ac eraill. Yn herio dulliau traddodiadol ac yn arwain newid.

Datrys Problemau Yn mabwysiadu dull strwythuredig a defnyddio profiad, arbenigedd a sgiliau rheoli prosiect uwch i ddatblygu datrysiadau arloesol iawn a chreadigol i faterion gwasanaeth pwysig. Yn dyrannu gwaith a rheoli cyfraniad eraill at ddatrys problemau. Yn asesu risgiau gwahanol atebion a phrofi goblygiadau ar gyfer y gwasanaeth. Yn monitro a gwerthuso canlyniadau ar gyfer effeithiolrwydd. Ceisir gan bobl eraill ar gyfer mewnbwn a chefnogaeth Gwneud Penderfyniadau a Barnu

Yn cymryd cam yn ôl a chymryd golwg ehangach ar effaith penderfyniadau ar eraill drwy’r sefydliad. Yn sicrhau bod penderfyniadau’n gysylltiedig â gwella perfformiad yn barhaus. Yn sicrhau bod mesurau wrth gefn ar waith ar gyfer unrhyw risgiau sylweddol. Yn trin problemau cymhleth gyda hyder cytbwys. Yn gwneud penderfyniadau ar faterion cymhleth sy’n effeithio ar y gwasanaeth.

Cynllunio a Threfnu

Yn datblygu strategaethau tymor hirach a thorri cynlluniau i lawr i gyflawni’r strategaeth honno. Yn tynnu ystod o weithgareddau ynghyd i wneud i’r cynllun ddwyn ffrwyth. Yn sicrhau bod gweithgareddau yn cael eu cwblhau ar amser ac o fewn y gyllideb


Cymhelliant Personol ac Effeithiolrwydd

Yn cymryd cyfrifoldeb personol dros berfformiad y maes gwasanaeth. Yn cyflawni nodau sefydliadol a phersonol. Yn modelu rhagoriaeth. Yn gallu ail-ganolbwyntio ac ailgyfeirio pan fydd yn amlwg nad oes modd cyflawni nod. Yn dangos egni diflino. Yn canolbwyntio ar ragoriaeth ac mae ganddynt weledigaeth o sut i’w gyrraedd.

Gwaith Tîm

Yn gwneud cyfraniad hollbwysig i’r tîm. Yn gweithio ar draws gwahanol swyddogaethau a chynnal rhwydwaith. Yn dangos bod cyfraniad pobl eraill yn cael ei werthfawrogi yn wirioneddol. Yn dangos esiampl dda drwy weithredu ymddygiadau gwaith tîm fel ymgynghori, adborth adeiladol a herio cefnogol. Yn cydnabod a dathlu llwyddiant

Cymwyseddau Rheoli: Maes Cymhwysedd Cymwyseddau Pobl

Yn rheoli gwasanaeth mawr ac amrywiol sy’n cwmpasu ystod o swyddogaethau pwysig. Yn ceisio cyfleoedd i ddatblygu tîm o fewn a thu allan i ffiniau canfyddedig arferol yn gyson. Yn defnyddio sgiliau rheoli pobl i gefnogi cydweithwyr eraill. Yn rhannu eu sgiliau, gwybodaeth a phrofiad eu hunain yn weithredol er budd y tîm a’r rhai y tu allan i’r tîm. Yn meddu ar y sgiliau i gael mynediad at ystod o ddulliau i reoli’r tîm a pherfformiad y tîm.

Deallusrwydd Gwleidyddol

Yn deall yr amgylchedd gwleidyddol yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol. Yn defnyddio barn yn effeithiol, yn gwybod beth i’w ddweud, faint i’w ddweud ac wrth bwy. Yn ymwybodol o’r hwyl gyhoeddus / gwleidyddol ac yn gweithio gyda hi. Yn gallu herio penderfyniadau cynghorwyr mewn modd priodol a sensitif.

Arweinyddiaeth

Yn datblygu, cyfathrebu a chyflawni yn ôl gweledigaeth a rennir gyda phwrpas a chyfeiriad. Yn cymryd perchnogaeth o’r weledigaeth. Yn grymuso pobl i gyflawni. Bydd ganddynt lygaid strategol ac yn gweld lle mae rôl y staff yn cyd-fynd yn y sefydliad cyfan. Yn gwybod ble mae eisiau mynd a sut i gyflawni hynny. Yn cymryd persbectif tymor hir. Yn cyfathrebu’r neges. Yn gweithredu fel esiampl dda ar gyfer uwch reolwyr. Yn ennyn parch ac edmygedd pawb, gan weithredu gyda’r parch a’r gofal uchaf am y gyfraith, yr amgylchedd a thriniaeth deg o bobl wedi ei seilio ar onestrwydd, uniondeb a didwylledd. Yn modelu ymddygiadau sy’n cael eu gwerthfawrogi gan y sefydliad. Bydd ganddynt hygrededd personol.

Adnoddau a Pherfformiad

Yn sicrhau bod adnoddau yn cael eu darparu’n gyfartal ar draws y sefydliad. Yn cydbwyso gofynion adnoddau cymhleth er budd y sefydliad. Yn cydnabod yr angen i fuddsoddi er mwyn arbed lle bo’n briodol. Yn gosod y safonau ar gyfer effeithlonrwydd a gwella. Yn gyfrifol yn y pen draw am ganlyniadau o fewn y Gyfadran. Yn goruchwylio prosiectau mawr iawn hyd at gwblhau ar amser ac o fewn y gyllideb.



Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.