Caerphilly Arts & Theatre Annual Report 2016w

Page 14

Gŵyl Ffilm Ddogfennol Ryngwladol Cymru Ym mis Mai 2016, lansiwyd yr Ŵyl er mwyn cynorthwyo gwneuthurwyr ffilmiau dogfennol a chodi dyheadau a lefelau sgiliau pobl ifanc ar draws Cymru drwy ddarparu gŵyl ffilmiau rhyngwladol a rhaglen o weithgareddau gydol y flwyddyn yn y gymuned. Gan ddefnyddio Sefydliad y Glowyr Coed Duon a Sinema Maxime fel canolbwynt ar gyfer yr ŵyl, mynychodd dros 600 o bobl o ledled y DU ac Ewrop gyfres o sgriniadau, dosbarthiadau meistr, hyfforddiant a digwyddiadau rhwydweithio dros y tri diwrnod. Yn nigwyddiad ‘cwrdd â’r comisiynwyr’ BAFTA Cymru, bu 20 o wneuthurwyr ffilmiau lleol yn gallu cwrdd â’r penderfynwyr o’r BBC, Channel 4, S4C a VICE Online er mwyn trafod prosiectau a chynlluniau datblygu. Roedd yr ŵyl hefyd yn cynnig nifer fawr o gyfleoedd gwirfoddoli i fyfyrwyr o sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach i helpu rhedeg y digwyddiad.

13 Trosolwg o Weithgarwch Datblygu’r Celfyddydau

Datblygu’r Celfyddydau

Arddangosfa Cofio’r Holocost Agorodd prosiect siop wag greadigol ar 22ain Ionawr yn Arcêd y Farchnad yng Nghoed Duon. Roedd y prosiect hwn yn nodi Diwrnod Cofio’r Holocost gydag arddangosfa o waith celf a barddoniaeth ingol gan ddisgyblion lleol o Ysgol Uwchradd Cwmcarn, Ysgol Gyfun Coed Duon ac Ysgol Gyfun Gymunedol Rhisga, ochr yn ochr â’r artist proffesiynol David Garner. Cyflwynodd yr arddangosfa waith gan y disgyblion, ynghyd â gwaith celf Garner ‘B for Defiance’, ddyblygiad union o’r arwydd yn Auschwitz. Roedd dros 50 o ddisgyblion wedi cymryd rhan a daeth dros 150 o bobl i’r arddangosfa. Cynhaliwyd digwyddiad swyddogol arbennig am 11am ar ddydd Mercher 27 Ionawr i nodi Diwrnod Cofio’r Holocost, y diwrnod rhyngwladol ar gyfer dioddefwyr yr Holocost a hil-laddiadau eraill. Yn ystod yr arddangosfa, gofynnwyd i’r bobl a ddaeth i weld gwaith i gymryd cerdyn gydag enw rhywun oedd wedi colli eu bywyd yn ystod yr Holocost, ac wedyn cawsant eu hannog i gerdded ar draws yr arwydd ar y llawr i ddangos eu her yn erbyn ffasgaeth cyn gosod yr enw ar y wal gyferbyn.


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.