British Academy Cymru Awards 2015 programme

Page 18

Uc h a f bw y n t i a u D i g w y d d i a d a u / Events Highlights

18

Gan ddechrau ym mis Medi 2015, bydd ymrwymiad BAFTA Cymru i fod yn gangen sy’n estyn allan i ddiwydiant a’r cyhoedd ar draws y wlad yn cael ei gynyddu wrth i ni lansio cyfres reolaidd o ddigwyddiadau a gynhelir yn y ganolfan Pontio newydd ym Mangor ac yn Galeri, Caernarfon.

Starting in September 2015, BAFTA Cymru’s commitment to being a branch that reaches out to industry and the public across the country will be increased with the launch of a regular series of events hosted at the new Pontio centre in Bangor and at Galeri, Caernarfon.

Bydd y digwyddiadau hyn yn cynnwys dangosiadau rhagolwg gyda sesiynau holi ac ateb o ffilmiau a rhaglenni Cymraeg a Phrydeinig newydd, yn ogystal â dangosiadau archif a dosbarthiadau meistr gyda’n henwebeion ac enillwyr BAFTA Cymru.

These events will include preview screenings with Q&A sessions of new Welsh and British films and television programmes, as well as archive screenings and masterclasses with our Cymru Award nominees and winners.

Bydd y digwyddiadau hyn yn ehangu ar ein digwyddiadau misol rheolaidd yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd a Cineworld Caerdydd a fydd yn cynnwys ein digwyddiadau Gyrfa Glyfar newydd ar gyfer myfyrwyr ac aelodau cychwyn gyrfa a chyfleoedd i rwydweithio gydag aelodau eraill BAFTA Cymru yn ein digwyddiadau Comisiynwyr a gefnogir gan Ddesg Greadigol Ewrop UK Cymru.

These events will expand on our regular monthly events at Chapter Arts Centre, Cardiff and Cineworld Cardiff and will include our new Career Clever events for students and career starter members and opportunities to network with other BAFTA Cymru members at our Creative Europe Desk UK Wales supported Commissioners events.

Set Fire to the Stars Premiere – New York

The Marriage of Reason and Squalor Premiere – Chapter

Michael Sheen and Iwan Rheon at 195 Piccadilly event


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.
British Academy Cymru Awards 2015 programme by BAFTA - Issuu