Issuu on Google+

y gloran Glyn James yn protestio o flaen yr Ysbyty

Brian Davies,

Tonypandy, yn adrodd ei hanes yn tynnu'r lluniau

Pan oeddwn i yn Ysgol Eilradd Fodern Blaenclydach rhwng 1965 - 1969, roedd athro yno o enw Mr David Hawkins. Roedd diddordeb gyda Mr Hawkins mewn ffotograffiaeth, a hoffai e ddysgu ffotograffiaeth i'w ddisgyblion hefyd. Roeddwn i'n hoffi tynnu lluniau a gweithio yn yr ystafell dywyll. Roedd fy rhieni wedi prynu camera i fi o Boots ac enlarger o stiwdio Cyril Batstone, 212 Stryd Ystrad Pentre. Mae'r enlarger yn dal gyda fi heddiw. Doedd dim llawer o bobl yn tynnu lluniau yn drosodd

20c Alec Jones gyda nyrs ar ben to car yn 1968

LLUNIAU O'R CHWEDEGAU

Gorymdaith yn Nhonypandy yn 1968


golygyddol l Bu sefydlu ffermydd gwynt ar hyd a lled yr ardal yn bwnc llosg ers tro gyda rhai o'u plaid, eraill yn eu herbyn a rhai sy'n gefnogol i ynni gwyrdd yn gyffredinol yn gwrthwynebu ffermydd penodol oherwydd eu lleoliad neu eu maint. Fodd bynnag, un o'r pethau a ddaeth yn realiti i bawb yw bod cronfeydd ariannol cymunedol wedi eu sefydlu gan y mentrau hyn ac yn barod elwodd nifer o gyrff yn yr ardal ar eu haelioni gan gynnwys y papur hwn. Prosiect Pen y Cymoedd

Cwmni Vattenfall yw'r mwyaf o bell ffordd yn yr ardal hon. O 2016 ymlaen, disgwylir y bydd blaenau cymoedd Afan, Rhondda, Cynon a Nedd yn elwa o ryw £1.8 miliwn y flwyddyn a gwahoddir y cyhoedd i gyfrannu syniadau sut y dylid defnyddio'r arian sylweddol hwn. Yn barod, trafodwyd syniadau yn ymwneud â gwella iechyd ein pobl, gwellau'r amgylchedd a'n diwylliant ac mae'r cwmni nawr yn chwilio am syniadau sut y gellir gwella'r economi leol. Sut gallwn ni greu

y gloran

mai 2014

YN Y RHIFYN HWN

Lluniau o’r Chwedegau...1-2

rhagor o swyddi a gwella ffyrdd? Rhwng nawr a mis Awst mae cyfle ichi gyfrannu syniadau ar y thema hon. Gallwch wneud hyn trwy ymweld â httpV Mae'n amlwg i bawb fod mawr angen hwb ar bron pob agwedd ar fywyd yr ardal, boed iechyd, yr amgylchedd neu'r economi ac felly, mae'n bwysig ein bod yn elwa ar y cynnig i ddylanwadu ar y datblygiadau pwysig hyn. Felly, peidiwch, da chi â gwrthod y cynnig hwn.

Hoffwn i fynd â chi yn ôl i 1968, a'ch atgofio chi am y bobl oedd yn gwrthdystio yn erbyn cau'r adran frys yn Ysbyty Llwynypia. Mae'r lluniau yn dangos yr orymdaith yn 2

Nhonypandy. Yr A.S. newydd ei ethol, Mr Alec Jones, gyda gweithwyr ysbyty, oedd yn arwain yr orymdaith. Dwi’n meddwl bod y llun gyda nyrs a siaradwr ar do fan Ford Anglia’n anarferol. Doedd dim iechyd a diogelwch yn 1968!

Mae llun hefyd o Mr Glyn James oedd wedi cadwyno ei hunain i

Steddfod y Glowyr ym Mhorthcawl...4 Newyddion Lleol...5-8 Treherbert/Treorci/ ..8 Cwmparc/Y Pentre/Ton Pentre..9 Byd Bob...10 Ysgolion...11 Ysgol Gynradd Gymraeg Bodringallt ac Ysgol Gyfun Cymer Rhondda...12

Golygydd

LLUNIAU O’R CHWEDEGAU parhad

ystod y chwedegau, ac felly roedd y rhan fwyaf o bobl yn meddwl bod tipyn o newydd-deb mewn cael eu llun wedi ei dynnu.

Golygyddol...2 Helyntion Pysgotwr...3

ffens yr ysbyty. Roedd rhaid iddo fe aros yno tra bod deiseb yn cael ei chyflwyno i Stryd Downing am fod y bobl a gyflwynodd y ddeiseb wedi mynd ag allwedd y clo gyda nhw!

Brian Davies

Pafiliwn Porthcawl gweler tud 4

Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru

Argraffwyd Y GLORAN gan J & P Davison gyda chymorth Cymdeithas Celfyddydau Cymru Cyhoeddwyd Y GLORAN gan Fwrdd Golygyddol Y GLORAN


HELYNTION PYSGOTWR - DECHRE TEITHIO Islwyn Jones yn parhau â'i hanes yn pysgota afonydd Cymru

Yn ystod fy mlwyddyn ola’n y Brifysgol,des i nabod cyd-fyfyriwr a hanai o Landysul. Ei enw oedd Clive Jones. Roedd Clive yn gwybod(fel pawb arall) pa mor hoff o’n i o bysgota. Dwedai’n amal, "Rhaid iti drio am sewin(sea trout) lawr y Teifi’ Eith Dad â ti ma's.’Roedd na broblem, fodd bynnag. O’n i’n dal heb basio fy mhrawf gyrru. Roedd tad Clive, Artie, yn ysgrifennydd Clwb Llandysul,ac yn bysgotwr sewin profiadol iawn. Bydde fe’n fodlon fy nhywys a’m dysgu sut i bysgota am sewin yn y nos gyda phluen.vRhaid oedd trio gweithio pethe ma's yng ngwyliau’r haf. Fel oedd hi’n digwydd, cwympodd pethe i’w lle yn reit hwylus. Roedd cefnither fy Mam, Esme, yn cadw Gwesty’r Porth.felly,roedd rhywle ‘da fi i aros.bHefyd cynigiodd fy ffrind, Rob(fy mrawd yng nghyfraith,bellach) lifft I

fi I Gaerfyrddin gan ei fod e ar ei ffordd I Ddinbych y Pysgod. Gallwn ddal bws I Landysul o’r fan honno. ac felly,gyda phopeth wedi’i drefnu, helais fy mhac,ac wedi’m llwytho gydag offer pysgota, cyrhaeddais westy’r Porth ar ôl siwrne o ryw bedair awr. Bu Artie (tad Clive) yn garedig iawn wrtho i a threfnon ni fynd allan y noson honno, gydag e’n fy nhywys. Dwedodd hefyd y byddai pysgotwr arall go arbennig yn dod gyda ni. Ffaelodd yn deg â dweud ei enw imi."Ffeindi di ma's yn ddigon cloi" oedd ei unig ateb. Noson i'w chofio O’n i erioed ‘di pysgota yn y nos o’r blaen. Mae pysgota nos yn brofiad gwahanol iawn, a dweud y lleia. Onibai am help Artie, fy fyddwn I ‘di cwympo’n bendramwnwgl I ddyfroedd tywyll Afon Teifi. Y cwestiwn ych chi’n ei ofyn, rwy’n siwr, yw ’Sut ar y ddaear

ych chi’n gweld unrhywbeth a gwybod lle i gastio?. Wel,synnech chi, achos hyd yn oed ar y noson dduaf mae’n bosib gweld llawer mwy nag y byddech yn dychymygu, Mae tors dach chi i newid pluen ag ati. Anamal bydd angen ichi ddefnyddio’r golau.Y gyfrinach bennaf yw cael mynd ar yr afon a chael dod i nabod y pwll cyn iddi nosi. Hefyd cael camu i mewn i’r darn o'r afon ych chi’n ei bysgota er mwyn osgoi unrhyw fannau dwfn, Nid yw pysgota nos at ddant pawb! Mae cefn gwlad Cymru yn gallu bod yn lle go arswydus yn codi ofn ar y dewraf ohonom. Cri’r dylluan,syniau y tu ôl ichi ar y lan, llwynog,neu fochyn daear yn snwfflan yn swnllyd. dwrgwn yn chwibanu i’w gilydd yn y tywyllwch. Da o beth cael cwmni. Soniais bo’ ‘na hefyd westai arall ar fy noson gyntaf o bysgota.Dyn llwyddianus ar y cae ygbi ryngwladol.

Un a ddwedodd flynyddoedd yn ddiweddarach ei fod e’n cael mwy o wefr yn dal samwn na sgorio cais tros ei wlad.Neb llai na Gareth Edwards. Roedd yn anhygoel cael treulio amser gydag e ar yr afon.Hefyd ces gyfle i ddal fy sewin cynta- tra’r aeth y gŵr enwog adre’n waglaw. Enghraift o’r ‘Beginners Luck’ yn ddios. Yn dilyn y trip pysgota cyntaf hwnnw i ddyffryn Teifi, bûm yn ymwelydd cyson dros y blynyddoedd a threulio oriau hapus iawn ar hyd ei glannau.Paradwys ar y ddaear!. Nid yn unig o ran prydferthwch y wlad ond hefyd,caredigrwydd fy nghyd-bysgotwyr ar Afon Teifi. Llawer wedi dod yn ffrindiau agos imi dros y blynyddoedd. Adre o'r diwedd Graddiais o Gaerdydd yn 1974 a chael cynnig swydd fel deintydd yn Nhreorci. Ro’n I adre ym Mlaenrhondda unwaith eto. Roedd fy hen ffrind John Clatworthy yn dweud y dylwn drio afon Wysg yn Aberhonddu. Erbyn hyn ro’n i 'di dechre gyrru ac felly gallwn drafaelu’n rhwyddach er mwyn trio llefydd newydd. Nawr bo fi adre, roedd fy hen ffrindiau pysgota,fel Rob Thomas,a Steve Lock a Kelvin Thomas yn gallu manteisio ar y cyfle i ddod gyda mi. Fe fydde llond car ohonom yn mentro draw I Aberhonddu ddwywaith yr wythnos. Nos Fercher a nos Wener fel arfer. Byddai John yn mynd draw gyda ffrind arall iddo,Dai Owens o Ynyswen. Bydde ni i gyd Parhad ar dudalen 9

3


o STEDDFOD Y GLOWYR aelod Gôr Meibion YM MHORTHCAWL Treorci

Pennod arall yn atgofion

Roger Price

Dw i'n meddwl mai mis Medi 1974 oedd hi pan ffeindies fy hun, trwy rinwedd fy swydd gyda Chyngor Bwrdeistref Ogwr, yn Rheolwr dros dro ar Bafiliwn y Grand ym Mhorthcawl. Y drefn arferol oedd i mi edrych trwy'r dyddiadur i weld beth oedd yn debygol o droi lan a sylwes bod enw Mr Francis o Undeb Glowyr de Cymru i lawr i redeg trwy'r trefniadau ar gyfer yr eisteddfod oedd i'w chymryd lle yn y mis olynol. Wrth gwrs, o'n i'n gyfarwydd â Dai Francis ond erioed wedi cael cyfle i gwrdd ag e. Felly, dyma fi'n clywed ymhen yr awr y llais tenoraidd caled yn adleisio i lawr y coridor tu fas i'n swyddfa. Es mas i groesawu'r gŵr gyda'r frawddeg, os dw i'n cofio'n iawn, "Pnawn da Mr Francis, da gen i gwrdd â chi" a dyma fe'n ateb yn syth "O! Cymro? Iawn, TI fydd yr Ysgrifennydd!". Wrth gwrs nid o ni'n gwybod bod y fath swydd ar gael ond mae'n rhaid i mi ddweud o ni'n gwybod digon am yr achlysur unigryw hwn fel mod i ddim yn mynd i droi lawr swydd mor bwysig! O'n i wedi cystadlu yn Steddfod y Glowyr fel 4

oedd mor gefnogol i'r ŵyl unigryw hon. 1958 oedd y flwyddyn. Rhyfedd meddwl nawr mor deyngar oedd y Côr i'r Ŵyl. Rai misoedd ynghynt o'n ni wedi ennill y brif gystadleuaeth ar gyfer corau mebion ym Mhrifwyl Glyn Ebwy. Hwn oedd y tro cynta i mi gystadlu yn y Genedlaethol ac mae'r darnau prawf yn aros yn glir yn y cof sef "Angladd y Marchog" gan W Mathews Williams a'r ail ddarn oedd "Y Rhaeadr" gan Haydn Morris. Dw i'n cofio'r rihyrsdal cynta ar ol y fuddigoliaeth yng Nglyn Ebwy a Llyfrgellydd y côr yn dosbarthu copiau o "Olygfa'r Coroni" allan o'r opera "Boris Godunov" gan Mussorgsky, un o gyfansoddwyr mawr gwlad Rwsia. Hwn oedd y darn roedd Wncl Jac wedi ei ddewis ar gyfer Steddfod y Glowr oedd i gymryd lle ymhen cwpl o fisoedd. Wrth gwrs, roedd sawl un, mewn sbort dybia i, yn dweud mai dewis doeth oedd hyn gan fod darn o Rwsia bownd o fod yn boblogaiedd wrth gymryd sylw ar y dylanwed oedd gan y blaid Gomiwnyddol ar y pryd da'r NUM!! Ta waeth, ennill eto ym Mhorthcawl a Sam Griffiths yn canu'r unawd yn berffaith.

Felly, o'n i'n gyfarwydd â safon a statws yr Ŵyl ym Mhorthcawl. Gwerth nodi mai Steddfod y Glowyr ar y pryd oedd yr enghraifft fwya yn Ewrop o ŵyl o'r fath safon oedd wedi'i threfnu gan undeb llafur. O hynny mla'n, es ati i helpu ma's ond rhaid dweud mai yn y blynyddoedd cynnar roedd y rhan fwya o'r gwaith yn cael'i wneud trwy swyddfa'r undeb yn Nhŷ Sardis ym Mhontypridd dan ofal Dai Francis a rhaid i mi enwi David Kennedy a Gwyn Martin fel y ddau mwya gweithgar. Dai'n gorffen Ond, yn 1976, bu'n rhaid i Dai ymddeol fel Ysgrifennydd yr Undeb er mi roedd e'n fodlon iawn i gario mlaen gydag ysgrifennyddiaeth yr Eistoddfod ond ni cytunwyd iddo wneud hyn. Rwy'n cofio mor glir iddo fy nghymryd i naill ochor a dweud "Roger, edrychwch ar ôl yr Eisteddod. Mae hi'n bwysig ei bod hi'n cario mlaen..." Sylwais bod Dai, fel Cymro i'r carn, yn gofidio na fydde falle rywun o fewn i'r undeb â'r brwdfrydedd i etifeddu'i gariad e at yr Ŵyl. Rhaid i mi esbonio fan hyn. Y drefn gyda'r Eisteddfod oedd bod Ysgrifennydd yr Undeb hefyd yn Ysgrifennydd yr Eisteddfod a hefyd roedd gan y cyngor oedd yn cydweithio â'r Ŵyl yn apwyntio Cyd-ysgrifennydd ond chafodd hyn

erioed ei nodi'n ffurfiol nes i mi gymryd y swydd yn 1974. Mae 'na gymaint o atgofion yn ymestyn dros bron deugain mlynedd. Cofio Beti George fel newyddiadures newydd i radde'n troi lan, siwr o fod yn 1974 neu 1975 a gofyn i mi pwy oedd ar gael i roi cyfweliad yn yr heniaith. Awgrymais un o westeion yr Ŵyl ar y pryd, sef Wynford Vaughan Tomos. Roedd Beti'n ame a oedd Wynford yn medru'r Gymraeg. "Wel", wedais wrthi hi, "Mae e yn y swyddfa fanco, cerwch mewn i siarad ag e". Fe wnaeth hi hyn a dw i'n cofio glir o fewn cwpl o funude dyma Beti'n dod ma's o'r swyddfa a Wynford yn dweud "Gobeithio eich bod yn sylweddoli mae dyma'r tro cynta i mi roi cyfweliad yn y Gymraeg!" Peth od ond am ryw reswm mi roedd na swilder yn perthyn i gymaint ar y pryd i ddangos eu bod nhw'n medru'r Gymraeg. Atgoffes i Beti am hyn ond wythos yn ôl a dw i'n meddwl ei bod hi'n siomedig efallai na chadwodd hi gopi o'r sgwrs â Wynford. Tipyn o sgŵp, dybiwn i. Mi roedd Eisteddfod y Glowyr wastad yn mynd ati i gael beirniaid o'r safon ucha a hefyd llywyddion y llwyfan eto o mysg y gorau. Roedd y Parchedig D Jacob Davies yn un o'r sêr yn y blynyddoedd cynnar a

Parhad ar dud 9


newyddion lleol DEUNYDD AR GYFER POB RHIFYN I MEWN ERBYN DECHRAU’R MIS OS GWELWCH YN DDA

TREHERBERT

Yn sgil ei erthglau yn y Gloran, derbyniodd Roger Price wahoddiad i ymddangos ar raglen radio 'Beti a'i Phobl' ar 27 Ebrill. Bu'n sgwrsio â Beti George am ei yrfa ac yn arbennig am ei ddiddordeb mewn cerddoriaeth. Hefyd, cafodd gyfle i ddewis ei hoff recordiau.

Blin cofnodi marwolaeth un o wŷr busnes mwya adnabyddus yr ardal sef Mr Herbert Hunt o Eileen Place. Cyn ei ymddeoliad roedd Mr Hunt yn arwain cwmni adeiladu sy’n uchel ei barch yn y cwm. Sefydwyd y Cwmni gan ei dad yn 1934 a daeth Herbert i weithio gydag ef yn 1946 ar ôl cyfnod byr yn y fyddin Mae ei feibion yn dal i weithio yno. Roedd Herbert yn gymeriad deniadol ac roedd yn llawn humour trwy gydol ei oes. Bydd colled fawr ar ei ôl. Anfonwn ein cydymdeimlad at ei ddau fab Vivian a Howard a’u teuluoedd . Cynhaliwyd yr angladd yn eglwys Sant Mathew Treorci dan ofal y Tad Haydn. Cynhaliwyd soie hud 'The Last Illusion' gan Theatre Bash Street yn ysgol Penpych ar Ebrill

3ydd. Roedd y gynulleidfa fawr wrth eu bodd gyda’ r perfformiad hynod o ddiddorol.

Llongyfarchiadau i ddisgyblion Mrs Norma Davies o Stryd Miskin sydd wedi bod y llwyddianus yn yr arholiadau cerddoriaeth yr ABRSM

Theori Ffion Wilde, gradd 5. Angharad Millard, gradd 5.- Teilyngdod.

Ymarferol Laura Palmer, gradd 1.Teilyngdod. Ffion Jones, gradd 4. Lowri Connolly, gradd 5. Saffron Bowtell, gradd 5.

Mae’r galw am wasaneth y banc bwyd yng Nghapel Blaenycwm yn dal i gynyddu. Os ydych mewn argyfwng ariannol ac yn cael trafferth i brynu bwyd mae’r banc bwyd ar agor pob dydd Gwener o 2-3. I ddefyddio’r gwasanaeth mae eisiau voucher neillai o’r gwasaneth cymdeithasaol neu adran tai'r cyngor neu swyddogion Clwstwr Cymunedau Cyntaf 156 Bute St Treherbert

Os chi eisiau cyfrannu bwyd cysylltwch â Ralph Upton rhif ffôn

07891035021. Diolch.

Mae gardd gymunedol Capel Blaenycwm wedi derbyn grant oddi wrth RCT Homes. Adeiladwyd ffens newydd o gwmpas yr ardd a chanllaw ar hyd y llwybr. Cyn bo hir bydd y cyhoedd yn gallu defnyddio’r ardd.

Daeth llawer o drigolion i gyfarfod cyhoeddus a drefnwyd gan Treherbert SOS yn y Ganolfan Addysg Gymunedol i drafod dyfodol y Ganolfan. Erbyn diwedd y mis bydd y cyngor yn cau'r ganolfan ieuenctid a’r llyfgell yn Nhreherbert. Cyflwyniwyd adroddiad gan Mr Martin Price, arbenigwr a gyflogwyd gan Treherbert SOS gyda grant oddiwrth Ymddiriadolaeth y Meysydd Glo. Mae e wedi creu cynllun busnes er mwyn rhedeg y ganolfan fel busnes cymunedol. Yn bresennol, roedd aelodau o’r mudiadau sy’n defnyddio'r ganolfan ar hyn o bryd, sef y clwb ieuenctid, y mudiad cydweithredol bwyd ac aelodau'r bore coffi sy’n codi arian at elysenau wahanol.. Roedd y cyfarfod yn un-

EICH GOHEBWYR LLEOL: Rhowch wybod iddyn nhw os byddwch chi eisiau rhoi rhywbeth yn Y GLORAN Treherbert: GERAINT a MERRILL DAVIES Treorci: MARY PRICE

Cwmparc: NERYS BOWEN DAVID LLOYD Y Pentre: TESNI POWELL ANNE BROOKE

Ton Pentre a’r Gelli: HILARY CLAYTON GRAHAM JOHN frydol wrth dderbyn cynllun yr arbenigwr a chyflwynir y cynllun busnes terfynol i’r cyngor erbyn Mai 16ed.

TREORCI

Mae Val a Gwyn Evans, 59 Stuart Street yn falch dros ben i gyhoeddi geni eu hŵyr newydd, Leo Rhys ar 13 Mawrth, yn pwyso 8 pwys a 6 owns. Mab cyntaf i Luc a Beth a brawd bach i Anwen sydd yn dair oed. Maent yn byw yn Newcastle, N.S.W. Awstralia ers sawl blwyddyn. Mae Luc, yn gynchwaraewr rygbi dros Dreorci a Chymru, a 5


Beth yn dentyddion ac yn mwynhau byw yn Awstralia. Dymunwn bob hapurswydd i'r teulu.

Llongyfarchiadau i gwmni Carpets & Carpets ar ennill gwobr y cwmni carpedi gorau ym Mhrydain am ailgylchu. Roedd perchen y cwmni, Mal Thomas, yn hynod o falch hefyd eu bod wedi debyn medal arian am eu camp. Mae'r cwmni sy'n cyflogi nifer o bobl leol i'w longyfarch yn fawr ar ei gamp. Trist yw cofnodi marwolaeth Mrs Iris Morgan, gynt o Deras Troedyrhiw a fu farw'n ddiweddar. Hi oedd un o drigolion hynaf yr ardal a hithau'n 102 oed. Am beth amser bu yng ng-

6

hartref gofal Tŷ Ross, Treherbert lle y derbyniodd ofal dyner yn ei blynyddoedd olaf. Cydymdeimlwn â'i phlant, Jean, Sheila a Colin a'r teulu oll yn eu colled. Trefnwyd darlith gan yr hanesydd Dr John Davies gan bwyllgor etholaeth Plaid Cymru yn y Parc a'r Dâr, nos Wener, 21 Mawrth. Daeth cynulleidfa deilwng ynghyd i wrando arno'n sôn am hanes Cwm Rhondda trwy brofiadau personol aelodau ei deulu. Diolchwyd iddo am ei ddarlith gan Jill Evans, ASE a threfnwyd lluniaeth i bawb gan y pwyllgor. Daeth tymor llwyddiannus y Gymdeithas Gymraeg i ben gyda chyngerdd gan gôr Cyt-

gord [Aberdâr] o dan arweiniad Janice Harris. Cafwyd noson o hwyl a chân gyda Gwyn Morgan [Penderyn] wrth y llyw yn ein diddanu â'i straeon, caneuon a cherddi. Cyfeiliwyd gan Jennifer Jones. Bydd y Gymdeithas yn ailgynnull nos Iau olaf mis Medi. Daeth aelodau Hermon ynghyd ar Sul y Pasg i gyflwyno gwasanaeth o ddarlleniadau ac emynau i ddathlu'r ŵyl. Casglwyd £115 yn yr oedfa at Gymorth Cristnogol. Pob dymuniad da i Margaret Beauchamp, Heol Glyncoli sydd wedi dod adre' ar ôl treulio cyfnod yn yr ysbyty. Un arall sydd wedi dod adre o'r ysbyty'n ddiweddar hefyd yw un o'n darllen-

wyr ffyddlon, Mrs Margaret Jarman, Stryd Dyfodwg. Pob dymuniad da i'r ddwy am wellhad llwyr a buan. Bydd diddordeb gan ffrindiau Delyth Evans, gynt o Penylan, Stryd Luton glywed bod yr arian a gasglwyd er cof am ei diweddar bartner, David Bennett, wedi ei ddefnyddio i brynu offer ar gyfer Canolfan Gwylio Moroedd y Byd yn y Cei Newydd, Ceredigion. Yn ddiweddar, torrodd Delyth ruban mewn seremoni i ddynodi dechrau sefydlu telesgôp digidol ar y safle a fydd yn galluogi'r cyhoedd i wylio bywyd môr cyfoethog Bae Ceredigion. Mae nifer o'r ardal sydd naill ai yn yr ysbyty ar


hyn o bryd neu newydd ddod ma's. Anfonwn bob dymuniad da at Mr Ron Barrett, Stryd Dumfries, Mr Elwyn Buckland, a Mr John Hughes, y ddau o Heol Glyncoli. Nos Lun, 17 Mawrth cynhaliodd Cymdeithas Ddinesig y Rhondda gwis llwyddiannus iawn yn y Clwb Busnes. Mrs Anne Barrett oedd yn gyfrifol am y trefniadau. Trefnwyd noson 'Cwrw a Cherdd' nos Wener, 4 Ebrill i godi arian at glybiau bechgyn a merched yr ardal. Daeth nifer fawr ynghyd i fwynhau gwrando ar farddoniaeth wedi ei chyflwyno gan bobl dalentog yr ardal. Diolch i bawb a gymerodd ran ac i bawb a gefnogodd yr achos da hwn. Ddydd Iau, 20 Mawrth, aeth aelodau Clwb yr Henoed ar wibdaith i Gwmbrân. Yn anffodus,

cafodd Margaret English gwymp yn y gwesty a bu rhaid mynd â hi i Ysbyty Brenhinol Gwent. Trwy lwc, doedd hi ddim wedi torri unrhyw asgwrn ac er gwaethaf ei chleisiau a mân anafiadau roedd hi'n gallu dychwelyd adref gyda'r nos. Dymuniadau gorau iddi. Y siaradwr yng nghyfarfod misol WI oedd Mr Richard Wiston o Adran Amgylchedd Rhondda Cynon Taf a draddododd sgwrs ddiddorol iawn ar 'Ieir Bach yr haf yng nghymoedd de-Cymru.' Dau o'r ardal a ddathlodd eu pen-blwyddi'n 80 oed yn ddiweddar oedd Mr John Evans, Stryd Stuart a Mr David Roberts, y Stryd Fawr. Anfonwn ein llongyfarchiadau at y ddau a chofiwn yn arbennig i David sydd yn yr ysbyty ar hyn o bryd. Pob hapusrwydd ac iechyd iddynt i'r dyfodol.

Ddydd Sadwrn y Pasg, trefnwyd bore arbennig i blant gan aelodau Eglwys Sant Matthew. Cafodd pawb fodd i fyw. Yn ogystal â hela wyau Pasg, cymerodd y plant ran mewn cystadleuaeth am y foned orau. Mawr yw diolch yr aelodau i Mrs Sheila Phelps a Catherine am drefnu'r cyfan ac i chwiorydd yr eglwys am baratoi lluniaeth. Yn ddiweddar bu farw dau gymydog o Stryd Clark sef Mrs Hilda Jones a Mrs Eileen Holly. Cydymdeimlwn â theuluoedd y ddwy yn eu colled. Y pregethwr yng ngwasanaeth Gwener y Groglith eglwysi Cymraeg Treorci oedd Parch Aled Gwyn, Caerdydd. Llywyddwyd gan y Parch Carwyn Arthur, Bethlehem. Pob dymuniad da i Mrs

Nan Price, Prospect Place sydd newydd ddod adre ar ôl treulio cyfnod yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Mae'n flin iawn gennym gofnodi marwolaeth annisgwyl Mrs Belinda Havard, Stryd Colum. Cydymdeimlwn â'i phlant, Kathryn, Karen, Carey a Helen a'r holl deulu yn ei brofedigaeth. Cofiwn hefyd Anna Brown, Stryd Regent a gollodd ei mam, Mrs Jenny Beynon yn ddiweddar. Roedd yn ddrwg gan bawb dderbyn y newyddion am farwolaeth Mr Bob Webster. Y Stryd Fawr yn 68 oed ar 1 Mai. Mae Bob oedd yn adnabyddus yn yr ardal fel perchennog siop baent Decomate, wedi bod yn dost ers peth amser. Roedd yn berson hawddgar, cymwynasgar y gwelir ei eisiau gan

7


bawb oedd yn ei nabod. Cydymdeimlwn yn gywir iawn â'i wraig, Gaynor a'i balnt, Ellen ac Emyr yn eu profedigaeth.

CWMPARC

Llongyfarchiadau i Lindsey Foxhall, Heol y Parc oedd yn dathlu ei benblwydd yn 80 oed ddydd Sadwrn, 5 Ebrill. Mae Lindsey yn aelod gweithgar iawn o Eglwys Sant Siôr ac yn canu gyda Chôr Cwm Rhondda. Pob dymuniad da iddo oddi wrth ei deulu a'i ffrindiau oll.

Mae ffrindiau a theulu Rubina Jones, Stryd Tallis yn dymuno iddi wellhad llwyr a buan. Bu Rubina yn Ysbyty Brehinol Morgannwg ac Ysbyty Chwm Rhondda ers rai wythnosau ond mawr obeithir y daw hi adre cyn bo hir.

Y PENTRE

8

Da yw gweld Dr Anne Brooke yn ôl yn y Pentre am y tro cyntaf ers peth amser. Edrychwn ymlaen at gael ei chwmni am rai wythnosau ynghyd ag ambell adroddiad i'r Gloran. Dywed Anne ei bod yn ddyledus iawn i Michael a Tesni Powell tra ei bod hi nôl yn Virginia a'i bod yn cael blas ar newyddion bob amser.Gol. Mae'n ddrwg gennym nad yw ein gohebwyr yn

y Pentre, Tesni a Meic Powell ddim wedi bod yn dda yn ddiweddar. Mawr obeithiwn y bydd y ddau yn holliach cyn bo hir. Pob dymuniad da iddynt a llongyfarchiadau ar enedigaeth ŵyr newydd, Connor, sy'n fab i Ceri a Sarah ac yn frawd bach newydd i Leah. Newyddion da! Mae Siop y Gymuned, Stryd Llywelyn yn gwahodd ceisiadau am ei grantiau bach ar hyn o bryd. Os oes gennych ddiddordeb, mae croeso ichi roi llythyr cais drwy'r drws, meddai Gerde Becker, y rheolwraig. Ymhlith y rhai sydd wedi elwa ar y grantiau'n ddiweddar, mae Diffyg Clyw y Rhondda, Band y Parc a'r Dâr, Nyrsys MacMillan a Rygbi Ysgolion Rhondda. Bellach, oherwydd problemau parcio, mae'r siop yn barod i gasglu eich rhoddion o nwyddau o'r tŷ ond ich i adael neges ffôn ar 432942 neu 436536. Agorir y siop yn unig rhwng dydd Mercher a dydd Sadwrn oherwydd prinder staff. Trist iawn yw cofnodi marwolaeth Margaret Harvey, Stryd madeline ddiwedd Ebrill. Ymunodd hi â thîm Siop y Gymuned yn 2000, yn fuan wedi i Eirlys lewis, Y Pentre gynt, benderfynu agor busnes gyda'r bwriad o godi arian er budd pobl y Rhondda. Ar ôl ymddeoliad Eirlys yn 2005, daeth Margaret yn rheolwraig a pharhau'r gwaith aruthrol nes i'r siop gau yn 2010. Mae

pawb yn yr ardal yn ei dyled. Cydymdeimlwn â'r teulu oll yn eu galar. Cofiwn hefyd am deuluoedd y canlynol a fu farw'n ddiweddar: Marilyn Holley, Stryd Robert, John Terrill, Stryd Elizabeth a Brian Murphy, Stryd Albert. Estynnwn i'w teuluoedd a'u ffrindiau ein cydymdeimlad cywiraf. Cynhaliwyd Ffair Basg gan Eglwys Sant Pedr am y tro cyntaf eleni ar ddiwrnod heulog, hyfryd o fis Ebrill. Rhwng yr hela wyau ar gyfer y plant ifancaf a'r stondinau amrywiol a chyffrous [yn cynnwys digoedd o deininnau gogoneddus] ar gyfer pawb, roedd yn achlysur hapus a llwyddiannus dros ben. Yn ogystal, codwyd £500 at gronfa'r eglwys. Yn amlwg, bydd eisiau i'r ffair ddod yn ddigwyddiad blynyddol o hyn ymlaen. Mae'n dda gweld bod Esme Holmes, Tŷ Siloh yn gwella'n gyflym ar ôl derbyn llawdriniaeth i'w phenglin. Pob dymuniad da iddi. Ymhlith y rhai sy'n dathlu pen blwydd yn Ebrill a Mai mae Mary Barry a Pearl Brideman o Dŷ Pentre a Tesni Powel, May Paddy a John Pearce o Dŷ Siloh. Yr aelodau o Fyddin yr Iachawdwriaeth sydd hefyd yn dathlu yw Eleri Sas, Anthony Hocking, Dorothy Paddon, Connor Davies a Carys Browning. Llongyfarchiadau iddynt i gyd. Llongyfarchiadau i Megan Sas ar lwyddo yn

ei arholiad cornet Gradd 4 ac i Eleri Sass ar lwyddo ar Radd 2 gydag anrhydedd.

TON PENTRE A’R GELLI Da yw gweld Dr Anne

Brooke yn ôl yn y Pentre am y tro cyntaf ers peth amser. Edrychwn ymlaen at gael ei chwmni am rai wythnosau ynghyd ag ambell adroddiad i'r Gloran. Dywed Anne ei bod yn ddyledus iawn i Michael a Tesni Powell tra ei bod hi nôl yn Virginia a'i bod yn cael blas ar newyddion bob amser.Gol. Mae'n ddrwg gennym nad yw ein gohebwyr yn y Pentre, Tesni a Meic Powell ddim wedi bod yn dda yn ddiweddar. Mawr obeithiwn y bydd y ddau yn holliach cyn bo hir. Pob dymuniad da iddynt a llongyfarchiadau ar enedigaeth ŵyr newydd, Connor, sy'n fab i Ceri a Sarah ac yn frawd bach newydd i Leah. Newyddion da! Mae Siop y Gymuned, Stryd Llywelyn yn gwahodd ceisiadau am ei grantiau bach ar hyn o bryd. Os oes gennych ddiddordeb, mae croeso ichi roi llythyr cais drwy'r drws, meddai Gerde Becker, y rheolwraig. Ymhlith y rhai sydd wedi elwa ar y grantiau'n ddiweddar, mae Diffyg Clyw y Rhondda, Band y Parc a'r Dâr, Nyrsys MacMillan a Rygbi Ysgolion Rhondda. Bellach, oher-


wydd problemau parcio, mae'r siop yn barod i gasglu eich rhoddion o nwyddau o'r tŷ ond ich i adael neges ffôn ar 432942 neu 436536. Agorir y siop yn unig rhwng dydd Mercher a dydd Sadwrn oherwydd prinder staff. Trist iawn yw cofnodi marwolaeth Margaret Harvey, Stryd madeline ddiwedd Ebrill. Ymunodd hi â thîm Siop y Gymuned yn 2000, yn fuan wedi i Eirlys lewis, Y Pentre gynt, benderfynu agor busnes gyda'r bwriad o godi arian er budd pobl y Rhondda. Ar ôl ymddeoliad Eirlys yn

2005, daeth Margaret yn rheolwraig a pharhau'r gwaith aruthrol nes i'r siop gau yn 2010. Mae pawb yn yr ardal yn ei dyled. Cydymdeimlwn â'r teulu oll yn eu galar. Cofiwn hefyd am deuluoedd y canlynol a fu farw'n ddiweddar: Marilyn Holley, Stryd Robert, John Terrill, Stryd Elizabeth a Brian Murphy, Stryd Albert. Estynnwn i'w teuluoedd a'u ffrindiau ein cydymdeimlad cywiraf. Cynhaliwyd Ffair Basg gan Eglwys Sant Pedr am y tro cyntaf eleni ar ddiwrnod heulog, hyfryd o fis Ebrill. Rhwng yr

STEDDFOD Y GLOWYR YM MHORTHCAWL - parhad

dw i'n cofio rhai fel yr Athro Reynolds Lewis, Parchedigion D E Williams o ardal y glo caled ac yn y blynyddoedd diweddara'r Parchedig Eric Williams, Jac Jones a Griff Williams. Rhaid hefyd enwi Herbert Jones o'r Cwm, cyflwynydd ymysg y gorau yn y maes. Sawl gwaith dw i wedi sôn am Steddfod y Glowyr fel achlysur gwir ddwyiethog. Nid bod pob gair yn cael ei drosi ond bod bobol yn siarad yn gyffyrddus o'r llwyfan ym mha bynnag iaith oedd eisiau. Os oedd angen cyfieithu, mi fyddai hyn yn digwydd yn naturio, ac yn dawel, o fewn corff y gynylleidfa. Serch hynny, erbyn diwedd fy ngyrfa yn y gwaith, fe dybia'i bod yr Ŵyl, os rhywbeth, yn fwy Cymraeg oherwydd mi lwyddais, gyda help cyd-swyddogion oedd yn medru'r Gymraeg fel Mari Major a Gill Elfyn Jones i sicrhau bod rhaglen y dydd yn cael'i argraffu yn y ddwy iaith. Hefyd, daethpwyd â chystadleuaeth "Englyn" gyda'r Parchedig W Rhys Nicolas yn beirniadu. Ar ôl marwolaeth Rhys o'n ni mor ffodus i gael T Arfon Williams i gymryd drosodd ac wedi marwolaeth sydyn Arfon, y Prifardd Emyr Lewis. Hefyd mi roedd Traethawd Dic Penderyn ar gynnig yn y Saesneg a'r Gymraeg. Mae na gymaint rhagor i'w ddweud ar y pwnc ond mae'n rhaid i mi enwi dau berson, sef arweinyddion corau o wahanol oedrannau, a fu mor gefnogol i'r

hela wyau ar gyfer y plant ifancaf a'r stondinau amrywiol a chyffrous [yn cynnwys digoedd o deininnau gogoneddus] ar gyfer pawb, roedd yn achlysur hapus a llwyddiannus dros ben. Yn ogystal, codwyd £500 at gronfa'r eglwys. Yn amlwg, bydd eisiau i'r ffair ddod yn ddigwyddiad blynyddol o hyn ymlaen. Mae'n dda gweld bod Esme Holmes, Tŷ Siloh yn gwella'n gyflym ar ôl derbyn llawdriniaeth i'w phenglin. Pob dymuniad da iddi. Ymhlith y rhai sy'n dathlu pen blwydd yn

Ebrill a Mai mae Mary Barry a Pearl Brideman o Dŷ Pentre a Tesni Powel, May Paddy a John Pearce o Dŷ Siloh. Yr aelodau o Fyddin yr Iachawdwriaeth sydd hefyd yn dathlu yw Eleri Sas, Anthony Hocking, Dorothy Paddon, Connor Davies a Carys Browning. Llongyfarchiadau iddynt i gyd. Llongyfarchiadau i Megan Sas ar lwyddo yn ei arholiad cornet Gradd 4 ac i Eleri Sass ar lwyddo ar Radd 2 gydag anrhydedd.

Ŵyl, sef Richard Williams o Donyrefail a Davida Lewis o Waunarlwydd. Erbyn i mi gymryd y swydd yn 1974 roedd Côr Meibion Treorci wedi rhoi'r gorau i gystadlu er bod Wyncl Jac yn dal i fod yn wyneb cyfarwydd fel beirniad yn yr Ŵyl. I gloi ga'i adrodd sgwrs ges i â Dai Francis ynglŷn â'r tywydd oedd wastad mor braf ar achlysur Steddfod y Glowyr yn yr hydref, ond eto, gyda'r "Miners' Fortnight" mi fyddai'n aml iawn yn arllwys y glaw. "Wel ti'n gweld, boi bach" wedodd Dai, "Yr Undeb sy'n rhedeg yr Eisteddfod ond y Coal Board'n ficso'r holidays!!"

ISLWYN JONES - Pysgotwr parhad

yn cwrdd lan yn Aberhonddu (Y Boar’s Head,fel arfer) Trafod tactegau, wedyn i lawr i’r afon. Cawsom gymaint o nosweithiau difyr a llwyddianus ar afon Wysg. Fodd bynnag ,mae na un stori arbennig ynglyn â Dai a John sy’n llamu i’m meddwl.Roedd gan Dai gar tair olwyn’Reliant Robin’ (un fel car Del Boy yn ‘Only Fools Horses’) Roedd y ceir hyn,os gallech eu disgrifio fel ceir!! wedi’u gwneud ma's o ‘Fibre Glass’, felly nid o’r gwneuthuriad cryfa, a dweud y lleia. Profwyd y ddamcaniaeth hon un noson niwlog wrth i Dai a John ddychwelyd o Aberhonddu i Ynyswen tros y Bannau.Camodd hen fuwch i’r hewl o flaen y car anffodus. Cafwyd gwrthdrawiad. Chwalwyd y’Reliant’ yn ddarnau mân! Siglodd yr hen fuwch ei phen cyn ymdoddi nôl I’r niwl heb grafad arni! Yn ffodus iawn, nid anafwyd John neu Dai. Ond roedd y car druan yn ‘write off’ a bu rhaid i Dai brynu Mini Metro er mwyn gwneud ei bererindodau i Aberhonddu. Tro Nesa - Mas i Iwerddon a rhagor o helyntion!

9


BYD BOB

Prynu'n lleol neu ar y we yw pwnc Bob Eynon y mis hwn. Mae siopau a busnesau bach ar hyd a lled Cyru'n cwyno am y trethi lleol uchel. Sefydlwyd y trethi 'n ddegawd yn ôl pan oedd yr economi'n gryf - sef, cyn y cwymp ariannol ofnadwy. Yn y cyfamser mae elw busnesau wedi lleihau ond mae'r trethi lleol yn dal yn uchel a fyddan nhw ddim yn cael newid am dair blynedd o leiaf. Mae gan bobl lai o arian i'w wario y dyddiau hyn. Yn ychwanegol, mae llawer ohonon ni'n troi at gwmnïau 'ar lein' yn lle ymweld â siopau lleol. Ond dyma air o rybudd... Fe brynodd un o'm ffrindiau soffa trwy'r Internet. Dydyw i ddi am enwi'r cwmni rhag ofn bod Y Gloran yn cael ei ddarllen ar Wall St neu yn Ninas llundain! Felly, rhaid i'r cwmni aros yn ddi-enw. Wel, pan gyrhaeddodd y soffa dŷ fy ffrind roedd mewn cyflwr gwael ac roedd y lliw yn anghywir hefyd. Fe ffoniodd e dro ar ôl tro, ac fe gafodd ei fod yn delio â thri cwmni nawr - yn cynnwys un o'r Almaen. Doedd dim un ohonyn nhw'n derbyn cyfrifoldeb am gyflwr y soffa [heb sôn am y lliw] a doedd neb yn barod i roi ei arian yn ôl iddo fe chwaith. Fe aeth i ofyn am gyngor cyfreithiol. Dyna pryd y dysgodd e fod y cwmnïau i gyd yn gweithredu tu allan i gyfraith Prydain. Doedden nhw ddim yn talu trethi ym Mhrydain chwaith. Fydden nhw ddim yn parch penderfyniadau llysoedd Prydain Fawr [Prydain Fawr, wir!] Roedd pob hawl 'da nhw i'n twyllo a dwyn ein harian ni. Felly, beth oedd yr ateb i'r broblem? Ateb hawdd... Derbyn y soffa neu ei thaflu hi i mewn i sgip. Rwy'n cydymdeimlo â fy ffrind, ond gobeithio y bydd yn chwilio am ddeliwr mwy lleol y tro nesaf. ********************************** Pan fydd pobl yn gofyn i fi pam y penderfynais ysgrifennu cymaint o nofelau cowboi, rwy'n sôn wrthyn nhw am un o'm hynafiaid, Jim, a ymdrechodd yn erbyn yr Indiaid Cochion yn y Gorllewin Gwyllt. Fe ddaeth e mor adnabyddus fel yr enwon nhw gyllell ar ei ôl e. Wrth gwrs, rwy'n sôn am yr enwog Jim Bread...

10

Ysgol Gyfun Cymer Rhonddao

Eisteddfod Ysgol 2014 Cafwyd Eisteddfod bendigedig eto eleni! ‘Roedd y disgyblion a’r staff yn cystadlu’n frwd dros eu llysoedd ac fe arddangoswyd talentau arbennig trwy’r dydd. ‘Roedd gwledd o ganu, adrodd, dawnsio a chanu offerynnau. Un o uchafbwynt y dydd oedd y Seremoni Gadeirio. Enillwyd y tlws Cymraeg gan Stephanie Pearce a’r tlws Saesneg gan Megan Rees. Llongyfarchiadau gwresog i’r ddwy!

Tri Chymro’n cael cynnig! Llongyfarchiadau i Thomas Sheppard, Shane Lewis Hughes a Cameron Lewis am gael eu dewis i gynrychioli sgwad Dan 16 Rygbi Ysgolion Cymru ar gyfer y tymor 2014/15. Bydd y bechgyn yn cynrychioli Ysgolion Cymru yn ystod y flwyddyn hon yn cychwyn eu taith yn Wellington, Lloegr penwythnos yma 12/13eg lle byddant yn gwynebu gwrthwynebwyr y gwledydd cartref. Da iawn fechgyn, mae'n gyflawniad rhagorol i gael tri o fechgyn Ysgol Gyfun Cymer Rhondda yn y nhîm rygbi Ysgolion Cymru yn 2014/15.

YGCR - Achrediad Ysgol Rygbi WRU Mae Ysgol Gyfun Cymer Rhondda wedi llwyddo i dderbyn achrediad fel Ysgol Rygbi gan Undeb Rygbi Cymru (WRU) o ganlyniad i ymroddiad yr Ysgol i ddatblygiad rygbi a chyfraniad at dwf y gêm yn y gymuned. Prif nod yr adran Addysg Gorfforol ar draws pob gweithgaredd chwaraeon yw darparu cyfleoedd i ddisgyblion gynrychioli ein hysgol â chymuned gyda balchder ac ysbryd ar bob cyfle. Rhoddir pwyslais ar ymfalchïo yn ein treftadaeth, wrth anelu i gystadlu gyda'r gorau a'r bwriad o ledaenu ein llwyddiant fel ysgol ar hyd a lled y wlad. Mae'r Ysgol, yr adran a'r athrawon wedi dangos ymroddiad tuag at gynnal traddodiad rygbi cryf yn ardal y Rhondda ac maent yn anelu at lwyddiant parhaus i Ysgol Gyfun Cymer Rhondda. Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cydnabod yr ymdrechion yma trwy wobrwyo'r ysgol gyda'r anrhydedd o fod yn 1 o 8 Ysgol Rygbi yng Nghymru.


Jay Eades, Seren Wood Jones, Ellie Brown a Jac Wood Jones gyda’r gwobrau am eu gwaith celf

Ddoe digwyddod ffrwydrad erchyll am 08:10 yb yn Senghenydd Sir Caerffili. Mae’n debyg digyddodd y ffrydrad o wreichion drydanol a wnaeth cynnau’r nwy methan. Dywedodd un o’r lowyr “Roedd nwy wenwynig o dan y ddaear”. Bu farw 439 o lowyr a un achubwr, y cyfansm oedd 440. “Cyn y ffrwydrad roeddn i’n bwyta brechdannau a wedyn clywaid bang erchyll a gwelais mwg yn dod o’r pwll. Rhedais tuag at y pwll i weld beth ddigyddodd a dywedodd Mam arall bod ffrwydrad ym Mhwll glo Senghenydd.” Dywedodd Mrs Telson “Rwy’n gobeithio bod fy machgen bach Dafydd yn iawn a fy Ngwr Siôn hefyd.” Dywedodd Mrs Jones “buodd pawb yn gweiddi y perchennog sydd ar fai”. Ymateb perchennog y pwll oedd “Nid fi sydd ar fai”. Arhosodd bawb am newyddion o’u teulu. Pan death y newyddion, tristwch a ddagrau wnaeth boddi pobl Senghenydd. Gan Jay Eades. Blwyddyn 5 15/10/1913

Dyma lun o Heini yn cadw'n heini gyda plant Blwyddyn 1 a 2.

Diwrnod Braf Mae hi’n ddydd mawrth heddiw ac mae hi’n heulog.Rydyn ni wedi bod ar y beiciau.Does dim un cwmwl yn yr awyr. Yfory bydd hi’n ddydd

Newyddion Bodringallt Yr Eisteddfod Gylch Llongyfarchiadau mawr i bob un fuodd yn cystadlu yn yr Eisteddfod Gylch Y Rhondda ar Fawrth 22ain. Dyma’r canlyniadau: 1af/1st: Elle Ashford Dawns Disgo Unigol Côr Ellie Brown Unawd Piano Seren a Mia Deuawd Seren Lawthom Unawd dan12 2il: Darcy Lewis Unawd dan 8 Mia Rosser Unawd Piano Ellie a Chloe Deuawd Joe Lawthom Llefaru dan 8 Dafydd Lawthom Llefaru dan 10 Megan Hanney Llefaru dan 10 3ydd: Ebony Thomas Unawd dan 8 Grwp Dawns Disgo Dawns Werin dan 10 Cai Rosser Unawd dan 10 4ydd: Ellie Brown Unawd dan 12

Cymru Mae gen i siop, Fish Called Rhondda, Dwi’n cyrraedd yno yn fy Honda. Maen nhw’n gwerthu pysgod a saws, Ond dydyn nhw ddim yn gwerthu caws.

Mae gan fy nhad Fruit Bowl yn y cwm, A dwi’n hoffi cnoi gwm. Dewch i’r Rhondda i gael hwyl a sbri, Byddwch chi ddim yn siomedig wir i chi. Rwy’n byw gyda mam, dad a fy chwaer, A fy nghwningen a thri pysgodyn aur. Gan Thomas Lloyd Wilshire Bl 6 Cymru Rydw i’n caru Cymru,

YGG Bodringallt

GWAITH BODRINGALLT Rysait Crempogau Blasus 110 gram o flawd plaen 2 wy mawr 200ml o laeth 75ml o ddŵr Pinsiad o halen Menyn Siwgwr Lemwn Yn gyntaf, hidlwch y blawd mewn i’r fowlen.Yna ychwanegwch yr wyau. Ar ôl hynny arllwyswch y dŵra’r llaeth I mewn I’r fowlen.Wedyn pan fydd y gymysgedd yn llyfn fel hufen bydd y crempogau yn barod I’w coginio.MMM Blasus!!!!! Caden Harris Blwyddyn 2

Ysgol Bodringallt enillodd y tlws eleni am y mwyaf o bwyntiau yn yr Eisteddfod. Diolch yn fawr i’r Staff am hyfforddi a pharatoi y plant. Diolch hefyd i’r Rhieni am eu holl gefnogaeth, ac i Gymdeithas Rhieni ac Athrawon yr Ysgol am baratoi y stondin luniaeth hyfryd ar gyfer yr Eisteddfod. Gala Nofio Llongyfarchiadau i’r disgyblion canly

Dewi Sant a’r ddraig. Lliw ein draig sydd Yn goch fel ein gwaed.

Blodau hardd sydd gennym ni, Ac mae llawer yn y tŷ. Maen nhw’n tyfu yn yr ardd, Cennin Pedr, o mor hardd. Gan Seren Lawthom Blwyddyn 6

Cymru. Cymru hyfryd, Cymru braf, Cymru llon a Chymru lân, Fy Nghymru i a dy Gymru di Yn aros yn ein calonnau ni. Gan Joshua Sibley Blwyddyn 6

nol am wneud mor dda yng Ngala Nofio yr Urdd fis Ionawr –Seren Haf Jones, Carwyn Jones, Seren Wood -Jones a Garyn Rees. Ymweliad Storiwr Daeth Mr Guto Dafis – y storiwr a’r chwedleuwr talentog, i adrodd straeon gyda’n disgyblion fis Ionawr. Mwynheuodd pawb wrando ar ei ddychymyg byw a’i ddawn adrodd storiau.

11


12


Gloranmai14