Cynllun Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru 2009-11

Page 1

Adeiladu dyfodol cryfach i'r celfyddydau Cynllun Rhanbarthol Cyngor Celfyddydau Cymru 2009-11

Unedau Creadigol newydd Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, dyluniwyd gan Stiwdio Heatherwick (llun: James Morris)

Canolbarth a Gorllewin Cymru


Croeso Dyma'r Cynllun Rhanbarthol ar gyfer swyddfa Canolbarth a Gorllewin Cymru Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer y cyfnod o ddwy flynedd 2009-2011. Mae'n adlewyrchu'r blaenoriaethau yn ein cynllun cenedlaethol, ac mae'n cael ei lywio gan Strategaeth y Ffurfiau ar Gelfyddyd a dogfennau strategaeth eraill. Gyda'i gilydd, mae'r cynlluniau hyn yn ein helpu i gyflawni ein hamcanion cyffredinol a chyfrannu at amcanion Llywodraeth Cynulliad Cymru; maent oll ar gael ar ein gwefan. Mae'r Cynllun hwn yn rhoi darlun o'r gweithgareddau celfyddydol yn ein rhanbarth, a'r hyn rydym yn gobeithio'i gyflawni erbyn mis Mawrth 2011. Os ydych yn ystyried gwneud cais am arian gennym, bydd hefyd yn eich helpu i ddangos sut y mae blaenoriaethau cenedlaethol Cyngor Celfyddydau Cymru yn cael eu gweithredu'n lleol. Mae'r Cynllun ar gael ar ein gwefan yn Saesneg ac yn Gymraeg yn www.celfcymru.org.uk. Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am y Cynllun Rhanbarthol, cysylltwch â ni ar 01267 234248 neu anfonwch neges ebost at canolbarthagorllewin@celfcymru.org.uk.

Amanda Loosemore Cyfarwyddwr Rhanbarthol, Canolbarth a Gorllewin Cymru

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn ymrwymedig i hyrwyddo mynediad cyfartal i amrywiaeth lawn o ddigwyddiadau celfyddydol i bobl o bob oedran, gallu, diwylliant a chymuned, a hyrwyddo cyfle cyfartal o fewn y celfyddydau yn cynnwys hil, iaith, crefydd, anabledd, oedran, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi ymrwymo i drefnu bod gwybodaeth ar gael mewn print bras, braille ac ar gasét sain a bydd yn ceisio darparu gwybodaeth mewn ieithoedd heblaw Cymraeg a Saesneg ar gais. Cynllun Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru 2009-11


Ein gweledigaeth, ein blaenoriaethau a'n gwerthoedd ...

gweledigaeth Cymru greadigol lle mae'r celfyddydau yn greiddiol i fywyd y genedl

cenhadaeth

Ni yw'r corff arweiniol ar gyfer y celfyddydau yng Nghymru Cefnogi'r broses o greu celfyddyd o ansawdd uchel

Annog mwy o bobl i gymryd rhan yn y celfyddydau a'u mwynhau

Sicrhau twf economi'r celfyddydau

Datblygu effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd ein busnes

Cyngor Celfyddydau Cymru yw'r asiantaeth sy'n ariannu ac yn datblygu'r celfyddydau yn y wlad hon

gwerthoedd

arbenigol

creadigol

agored

effeithiol

cydweithredol

atebol

Rydym am i Gymru fod yn genedl lle ... • mae'r celfyddydau a diwylliant yn greiddiol i'n hunaniaeth genedlaethol, gan gymell pobl i ymweld â ni a dysgu amdanom • mae artistiaid o ansawdd sy'n llawn dychymyg yn byw ac yn gweithio • mae'r celfyddydau wrth wraidd ei hadfywiad cymunedol ac economaidd, gan olygu eu bod yn cael eu hystyried mewn gwaith cynllunio lleol a chenedlaethol • mae'r celfyddydau ar gael yn fwy, gyda'r ystod ehangaf o bobl yn cymryd rhan ynddynt ac yn eu mwynhau • mae artistiaid uchelgeisiol a chlodfawr yn ategu enw da'r wlad o ran diwylliant Cynllun Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru 2009-11

01


Er mwyn troi ein gweledigaeth yn realiti, rydym yn gweithio o fewn y gwerthoedd a'r egwyddorion hyn:

02

arbenigol

effeithiol

O fewn ein staff a’n hymgynghorwyr mae gennym y ffynhonnell arbenigedd yn y celfyddydau fwyaf yn y wlad. Ein nod yw gwella a datblygu’r arbenigedd hwnnw drwy dynnu ar wybodaeth ac arbenigedd artistiaid, sefydliadau celfyddydol a phartneriaid.

Mae’r cyhoedd yn mynnu, a hynny’n briodol, bod y sefydliadau y maent yn eu hariannu yn effeithlon ac yn gosteffeithiol. Mae'r rhai rydym yn gweithio gyda hwy yn disgwyl i ni gael yr hanfodion yn gywir a sicrhau ein bod yn cyflawni ein swyddogaethau mewn ffordd syml a phroffesiynol. Rydym yn anelu at y safonau uchaf o wasanaeth i gwsmeriaid.

creadigol

cydweithredol

Mae’r celfyddydau yn ffynnu ar ysbrydoliaeth, arloesedd a chreadigrwydd. Mae'n rhaid i ni rannu'r nodweddion hyn, gan flaengynllunio a bod yn greadigol wrth ddatblygu a gwneud ein gwaith.

Rydym yn cydnabod gwerth cydweithio ar draws y sector cyhoeddus a’r sector preifat. Gwerthfawrogwn bartneriaethau ac rydym yn ymrwymedig i ddatblygu cydberthnasau cefnogol sy'n dangos parch at ei gilydd.

agored

atebol

Rydym yn ymddwyn mewn ffordd agored, gonest a thryloyw. Rydym yn trin pawb yr ydym yn gweithio â hwy mewn ffordd gyson a diduedd. Rydym yn cyhoeddi gwybodaeth sy’n esbonio beth rydym yn ei wneud, ac yn croesawu awgrymiadau am sut y gallwn wella.

Rydym yn gweithredu “hyd braich” oddi wrth y llywodraeth. Mae ein penderfyniadau ariannu yn seiliedig ar ffeithiau pob achos unigol ac rydym yn gweithredu er budd gorau’r celfyddydau. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod yn rhaid i ni, fel corff cyhoeddus, roi cyfrif am ein defnydd o arian cyhoeddus.

Cynllun Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru 2009-11


Amdanom ni

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn elusen annibynnol a sefydlwyd drwy Siarter Frenhinol yn 1994 (fel u'n o'r pedwar cyngor celfyddydau cenedlaethol a ddisodlodd Cyngor Celfyddydau Prydain Fawr, a sefydlwyd yn 1946). Caiff aelodau ein Cyngor eu penodi gan Weinidog dros Dreftadaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae gennym dri Phwyllgor Rhanbarthol hefyd, sy'n cael eu cadeirio gan aelod o'r Cyngor, sy'n cynnig cyngor ac arweiniad i waith staff ein swyddfeydd rhanbarthol ac yn llywio'r gwaith cynllunio strategol cenedlaethol.

Ein prif fuddsoddwr yw Llywodraeth Cynulliad Cymru. Rydym hefyd yn codi arian ychwanegol, ac yn dosbarthu arian gan Loteri Genedlaethol y DU. Drwy gydweithio â Llywodraeth Cynulliad Cymru, gallwn ddangos sut mae’r celfyddydau yn help i gyflawni amcanion polisi Cymru’n Un y llywodraeth. Mae staff proffesiynol Cyngor Celfyddydau Cymru yn gweithio o swyddfeydd ym Mae Colwyn, Caerfyrddin a Chaerdydd. Caiff rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru ei wasanaethu gan ein swyddfa yng Nghaerfyrddin.

Arts Care/Gofal Celf

Cynllun Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru 2009-11

03


Yr hyn a wnawn

04

cefnogi a datblygu gweithgarwch celfyddydol o ansawdd uchel

rydym yn dosbarthu arian cyhoeddus gwerth tua 拢31 miliwn bob blwyddyn, gan helpu i sicrhau bod y celfyddydau yn ffynnu yng Nghymru

dyrannu arian y Loteri

drwy geisiadau i'n rhaglenni ariannu rydym yn buddsoddi mewn prosiectau sy'n datblygu gweithgarwch celfyddydol newydd, gan gefnogi unigolion a sefydliadau

rhoi cyngor ar y celfyddydau

drwy ein staff proffesiynol a'n hymgynghorwyr mae gennym y swm mwyaf o arbenigedd a gwybodaeth gelfyddydol yng Nghymru

rhannu gwybodaeth

rydym yn rhan o rwydwaith cenedlaethol o wybodaeth am y celfyddydau yng Nghymru. Hefyd mae gennym gysylltiadau rhyngwladol cryf yn y DU a thu hwnt

codi proffil y celfyddydau yng Nghymru

drwy weithio'n rhanbarthol ac yn genedlaethol, ni yw llais cenedlaethol y celfyddydau yng Nghymru sy'n sicrhau bod pobl yn ymwybodol o ansawdd, gwerth a phwysigrwydd celfyddydau'r genedl

cynhyrchu mwy o arian i economi'r celfyddydau

mae mentrau fel Cynllun Casglu (ein cynllun di-log i annog mwy o bobl i brynu gwaith celf) a'n llwyddiant o ran cael arian Ewropeaidd yn sicrhau bod mwy o arian ar gael i economi'r celfyddydau

dylanwadu ar gynllunwyr a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau

cynhelir y celfyddydau mewn sawl lleoliad gwahanol. Gallant gael effaith drawiadol ar ansawdd bywyd pobl, a'r mannau lle maent yn byw ac yn gweithio. Mae'r celfyddydau hefyd wrth wraidd mentrau adfywio economaidd a chymdeithasol yn aml. Ein r么l ni yw sicrhau bod y cyfraniad y gall y celfyddydau ei wneud yn cael ei gydnabod, ei werthfawrogi a'i ddathlu

Cynllun Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru 2009-11


Rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru

Y cyd-destun rhanbarthol • Canolbarth a Gorllewin Cymru yw'r rhanbarth daearyddol mwyaf o fewn Cyngor Celfyddydau Cymru. • Mae ganddo chwe ardal awdurdod lleol Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro, Powys (De) ac Abertawe. • Ceir lefelau sy'n uwch na'r cyfartaledd o bresenoldeb ymhlith oedolion i ddigwyddiadau yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, gydag 81% yn mynychu digwyddiadau celfyddydol (Arolwg Omnibws Cymru 2008).

• Mae nifer uchel o blant a phobl ifanc yn cymryd rhan yn y celfyddydau yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, gyda thua 85% yn mynychu digwyddiadau celfyddydol ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau Arolwg Omnibws Cymru 2008). • Ar draws y Rhanbarth, mae 34 o ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf. Mae'r nifer fwyaf ohonynt yng Nghastell-nedd Port Talbot (15), wedyn Abertawe (6), Sir Gaerfyrddin (5), Powys (3), Ceredigion (2), Sir Benfro (2) a thraws-sirol: Sir Gaerfyrddin/Castell-nedd Port Talbot (1).

Cynllun Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru 2009-11

05


• Ym Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru, mae 12 ardal yn y rhanbarth yn dod o dan y 10% o gymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru: tair yr un yn Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe, dwy yn Sir Benfro, un ym Mhowys a dim yng Ngheredigion. • Fel y nodwyd yn yr un Mynegai, mae 68% o Ardaloedd Allgynnyrch Arbennig yr Haen Isaf (LSOAs) Castell-nedd Port Talbot yn fwy difreintiedig na chyfartaledd Cymru; 55% yn Sir Gaerfyrddin, 46% yn Abertawe, 38% yn Sir Benfro, 34% yng Ngheredigion a 24% ym Mhowys. • Mae Rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru yn wledig yn bennaf, gyda chrynodiadau trefol nodedig yn y De o amgylch Abertawe, Port Talbot, Castellnedd a Llanelli. • Mae dwy gymuned sy'n alinio'u hunain yn naturiol â Chymoedd De Cymru Cwmaman a Chwmafan.

Y Celfyddydau yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru • Mae gan ranbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru 28 o Sefydliadau sy'n cael Cyllid Refeniw yn ei bortffolio. • Mae ganddo gyfran neilltuol o uchel o ymarferwyr y celfyddydau gweledol a chrefft gymhwysol. • O blith y Rhwydwaith dynodedig o Orielau Datblygu, mae dwy wedi'u lleoli yn y rhanbarth - Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe a Chanolfan y Celfyddydau

06

Cynllun Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru 2009-11

Aberystwyth. O blith y tair oriel y nodwyd bod ganddynt bwysigrwydd strategol ar gyfer datblygu crefft/celfyddydau cymhwysol, mae dwy oriel arall hefyd wedi'u lleoli yma - Oriel Myrddin, ac Oriel Mission, Abertawe. • Mae gan y rhanbarth gyfoeth o theatrau a chanolfannau celfyddydol. O blith yr 11 o ddyfarniadau Y Celfyddydau y Tu Allan i Gaerdydd a ddyfarnwyd i Ganolfannau'r Celfyddydau Perfformio Rhanbarthol (sydd o fudd i 20 o leoliadau i gyd), mae chwech ohonynt wedi'u lleoli yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru: Canolfan Gelfyddydau Taliesin a Theatr y Grand, Abertawe; Theatr y Torch, Aberdaugleddau; Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth; Theatr Mwldan, Aberteifi a Theatr Brycheiniog, Aberhonddu. • Rydym yn gartref i bum lleoliad sydd wedi derbyn Dyfarniad Disglair Cyngor Celfyddydau Cymru, sef, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth; Dawns Tân/ Tân Dance; Oriel Gelf Glynn Vivian; Canolfan Gelfyddydau Taliesin a Theatr Mwldan. • Mae'r rhanbarth yn gartref i ddau brif gleient sydd â chylch gorchwyl cenedlaethol: Creu Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru. • Mae nifer fawr o Wyliau'n cael eu cynnal ledled y Rhanbarth, yn amrywio o Abergwaun a Thyddewi, hyd at Ŵyl Abertawe, Pontardawe, Aberhonddu a'r Gelli.


• Mae'r portffolio celfyddydau cymunedol/cynhwysiant yn arbennig o gryf gan amrywio o ddawns gyda Dawns Powys a Dawns Tân; i Gwmnïau Theatr mewn Addysg fel Theatr Powys, Arad Goch a Theatr Na n'Óg; gwaith ar draws y ffurfiau ar gelfyddyd gan CARAD (Celfyddydau Cymunedol Rhaeadr Gwy a’r Cylch), GofalCelf (celfyddydau mewn iechyd/grwpiau difreintiedig ac wedi ymddieithrio) a Theatr Felinfach (darpariaeth Gymraeg o fewn cymuned wledig). • Mae tri o blith yr wyth cwmni Theatr mewn Addysg / Theatr i Bobl Ifanc sy'n cael arian refeniw, wedi'u lleoli yn y rhanbarth, sef Cwmni Theatr Arad Goch, Theatr Powys a Theatr Na n'Óg.

• Mae'r rhan fwyaf o'r cleientiaid yn fregus yn ariannol, gyda lefelau cymharol isel o gyflog, ac yn gorddibynnu ar aelodau allweddol o staff. • Nid oes gan un Awdurdod Lleol swyddog datblygu'r celfyddydau penodedig. Nid oes gan hanner ohonynt swyddog sydd â chylch gorchwyl penodol i ddatblygu celfyddydau cymunedol/celfyddydau yn y gymuned. • Mae gennym raglenni llwyddiannus iawn o weithgareddau cymunedol, allgymorth ac addysg wedi'u hariannu gan bartneriaid Awdurdodau Lleol ym Mhowys, Sir Gaerfyrddin, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. O bwys penodol y mae'r cynnydd yn nifer y gweithgareddau a ariennir yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Cryfderau a heriau'r rhanbarth • Mae llwyddiant Partneriaethau'r Awdurdodau Lleol yn gymysg ar draws y Rhanbarth, gyda'r lleiaf o weithgaredd datblygiadol yn Sir Benfro a Cheredigion. Ceredigion yw'r unig Sir yng Nghymru nad yw'n cymryd rhan yng nghynllun Noson Allan. • Mae gan y rhanbarth rwydwaith cryf o theatrau a chanolfannau celfyddydol ag iddynt raglenni arloesol a chyffrous (o ran cyflwyno a chynhyrchu/cyd-gynhyrchu). Mae nifer ohonynt wedi ymgymryd â phrosiectau datblygu cyfalaf sylweddol gan drawsffurfio seilwaith y celfyddydau yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru. Fodd bynnag, mewn rhai achosion, prin fod yr arian refeniw yn talu costau'r rhaglenni/gorbenion a ddeilliwyd o'r buddsoddiad cyfalaf.

• Her sy'n dod i'r amlwg yw iechyd ariannol a sefydlogrwydd cyffredinol y portffolio o gleientiaid, yn enwedig y rhai sy'n cael eu rheoli gan awdurdodau lleol, wrth i bartneriaid ariannu weld eu hadnoddau ariannol yn lleihau.

Blaenoriaethau sy'n dod i'r amlwg • Archwilio anghydbwysedd neu ddiffyg hanesyddol mewn ariannu fel rhan o Adolygiad Buddsoddi Cyngor Celfyddydau Cymru, a nodi camau gweithredu i gefnogi rhwydwaith o gleientiaid cynaliadwy orau. Bydd hyn yn cynnwys monitro effaith ariannu strategol fel arian y Celfyddydau y Tu Allan i Gaerdydd ac arian Disglair. • Sicrhau bod y ddarpariaeth o ddawns gymunedol o safon uchel yn parhau yng Cynllun Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru 2009-11

07


enwedig lle y gwnaed newidiadau i'r portffolio o gleientiaid refeniw, yn bennaf Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. • Gweithio gyda chydweithwyr a sefydliadau partner i ddatblygu mynediad i gelfyddydau o safon uchel, a sicrhau cyfranogiad yn y celfyddydau, mewn ardaloedd targed fel Ystradgynlais yn Ne Powys. • Ail-lansio ac ail-fywiogi Gŵyl Jazz Aberhonddu. • Datblygu partneriaethau a mentrau ymhellach i hyrwyddo mynediad a chynhwysiant drwy'r celfyddydau mewn ardaloedd o amddifadedd uchel ac ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf. • Datblygu partneriaethau gweithredol gyda Swyddogion yr Awdurdodau Lleol, i hyrwyddo gweithredu ar y cyd ar

brosiectau strategol, yn enwedig mewn ardaloedd lle mai prin yw gweithredu o'r fath ar hyn o bryd, fel Ceredigion a Sir Benfro. • Gweithio gyda chydweithwyr mewn timau eraill er mwyn cynnal archwiliad o anghenion gwariant cyfalaf o fewn y Rhanbarth. • Sefydlogi'r sylfaen cleientiaid yn dilyn buddsoddiad cyfalaf. Mae nifer o ddatblygiadau yn ei chael yn anodd cyflawni eu potensial yn y cyfleusterau newydd oherwydd yr angen i gael staff a refeniw ychwanegol er mwyn manteisio ar y buddsoddiad i'r eithaf. • Gweithio gyda dau awdurdod lleol i ddatblygu prosiectau peilot ar gyfer rhaglenni cynhwysfawr i artistiaid sy'n gweithio mewn ysgolion gyda phlant a phobl infanc.

Oriel Myrddin Mary Sikkel

08

Cynllun Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru 2009-11


Cyllid

Mae 6 phrif ffordd rydym yn ariannu'r celfyddydau:

cyllid refeniw

rydym yn ariannu tua 100 o sefydliadau yn genedlaethol yn flynyddol. Mae ein cefnogaeth yn helpu i ddod â gwaith o safon uchel i amrywiaeth eang o bobl - yn gynulleidfaoedd a chyfranogwyr. Nid yw'r arian yn agored i geisiadau, a chytunir ar ddyraniadau yn flynyddol gan ein Cyngor.

cronfeydd strategol

rydym yn buddsoddi mewn prosiectau a mentrau ag iddynt derfynau amser penodol sy'n helpu i ddatblygu cyfleoedd celfyddydol newydd. Yn aml, rhoddir yr arian hwn i ni at ddiben penodol, naill ai gan y Lywodraeth Cynulliad Cymru neu'r Undeb Ewropeaidd. Fel arfer, byddwn yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid ar draws y sector cyhoeddus a'r sector preifat. Ni ellir gwneud cais am yr arian hwn.

arian cyfalaf y Loteri

rydym yn defnyddio arian y Loteri i fuddsoddi yn y gwaith o adnewyddu neu greu adeiladau celfyddydol, cyfleusterau ac offer. Rydym hefyd yn cefnogi'r gwaith o gomisiynu a chreu celfyddyd gyhoeddus. Mae'r arian wedi cael ei glustnodi ar gyfer y cyfnod hyd at 2012 ac felly nid yw'n agored i geisiadau.

cynhyrchu ac arddangos ffilmiau

rydym yn dosbarthu arian y Loteri yn y meysydd hyn i'n cydweithwyr yn Asiantaeth Ffilmiau Cymru. Am fwy o wybodaeth ewch i www.asiantaethffilmcymru.com

Y Cynllun Casglu

diben y cynllun benthyciadau di-log hwn yw ei gwneud yn hawdd ac yn fforddiadwy i bobl brynu celf gyfoes. Am fwy o wybodaeth ewch i www.cynlluncasglu.org.uk

arian sy'n ‘agored i geisiadau'

rydym yn defnyddio arian y Loteri i gefnogi prosiectau celfyddydol sydd o fudd i bobl ledled Cymru, neu sy'n helpu artistiaid a sefydliadau celfyddydol. Os oes gennych syniad am rywbeth yr hoffech ei wneud ym maes y celfyddydau, gallwch wneud cais naill ai fel unigolyn neu fel sefydliad. Am fwy o wybodaeth ewch i www.celfcymru.org.uk

Cynllun Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru 2009-11

09


Rydym hefyd yn ariannu nifer o sefydliadau sy'n 'ail-roi' ar ein rhan: Mae'r Academi yn cynnig amrywiaeth o raglenni ariannu sy'n cefnogi gweithgareddau llenyddol a'r gwaith o ddatblygu llenorion, yn cynnwys Ysgoloriaethau i Awduron, Awduron ar Daith, Sgwadiau Sgwennu ledled Cymru, yn ogystal 창 rhaglenni'r Bardd Cenedlaethol a Llyfr y Flwyddyn. Am fwy o wybodaeth ewch i www.academi.org. Mae Safle'n cynnig amrywiaeth o raglenni ariannu sy'n cefnogi celf gyhoeddus a chelf yn y byd cyhoeddus, yn cynnwys Artistiaid Preswyl. Am fwy o wybodaeth ewch i www.safle.org. Mae T킹 Cerdd yn cynnig amrywiaeth o grantiau sy'n cefnogi gweithgareddau cerddoriaeth gyfranogol. Am fwy o wybodaeth ewch i www.wmic.org

10

Cynllun Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru 2009-11

Rydym yn cynnal Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, sef ein partneriaeth gyda'r Cyngor Prydeinig, sy'n cynnig grantiau i gefnogi amrywiaeth o brosiectau rhyngwladol. Am fwy o wybodaeth ewch i www.wai.org.uk. Rydym hefyd yn gweithredu cynllun Noson Allan mewn partneriaeth ag 21 o blith y 22 o awdurdodau lleol Cymru er mwyn galluogi sefydliadau cymunedol bach i gyflwyno perfformiadau celfyddydol proffesiynol. Am fwy o wybodaeth ewch i www.nosonallan.org.uk.


Blaenoriaethau rhanbarthol

Help gyda'ch cais

Rydym yn gweithredu cynlluniau ariannu sengl, cyson ledled Cymru. Fodd bynnag, caiff penderfyniadau ynghylch ariannu eu gwneud yn unol ag anghenion penodol pob rhanbarth. Felly cofiwch y gallai math penodol o brosiect sgorio'n uwch mewn un rhanbarth o gymharu 창 rhanbarth arall mewn rhai achosion.

Os hoffech wneud cais i gael grant, dylech

Wrth wneud cais am arian, fe'ch cynghorwn i wneud yn siwr bod eich prosiect yn bodloni'r blaenoriaethau a amlinellwyd yn y Cynllun(iau) Rhanbarthol sy'n cwmpasu'r rhanbarth(au) y bwriedir cynnal y gweithgaredd ynddo (yn hytrach na dim ond y Cynllun ar gyfer y rhanbarth rydych yn gweithio ynddo). Gall swyddogion ym mhob swyddfa ranbarthol roi mwy o gyngor i chi, ond ym mhob achos, bydd angen i chi drafod eich cynnig ar gyfer y prosiect gyda ni cyn i ni roi ffurflen gais i chi. Diben hyn yw sicrhau eich bod yn cael y cyngor gorau ac nad ydych yn gwastraffu amser nac ymdrech yn cyflwyno cais na fydd yn cael ei flaenoriaethu o bosibl yn sgil cyllidebau gostyngol y Loteri.

ddarllen ein Canllawiau ar gyfer Unigolion neu Sefydliadau yn drylwyr, yn enwedig yr adrannau ar gymhwysedd, blaenoriaethau ariannu a therfynau amser, sydd ar gael ar ein gwefan www.celfcymru.org.uk. Rydym yn croesawu trafodaethau ynghylch syniadau ar gyfer prosiectau o safon artistig uchel ac, fel y byddech yn ei ddisgwyl, bydd angen i ni ofyn nifer o gwestiynau i chi yn ystod camau cyntaf y broses fel y gallwn roi'r cyngor gorau posibl i chi. Pan fyddwch wedi darllen ein Canllawiau, y ffordd orau o wneud hyn yw drwy ddefnyddio'r cyfleuster Ymholiad Grant Cychwynnol ar ein gwefan yn https://www.celfcymru.org.uk/enquiry.asp Mae hyn yn rhoi'r cyfle i chi roi ychydig o wybodaeth i ni am eich syniad ar gyfer y prosiect a gofyn am drafodaeth gydag aelod o staff ar gyfer eich rhan chi o Gymru Cyn gynted ag y byddwch wedi cyflwyno'ch manylion ar-lein, byddwn yn cysylltu 창 chi o fewn pum diwrnod gwaith er mwyn cael sgwrs neu i drefnu apwyntiad. Fel y byddech yn ei ddisgwyl, rydym yn derbyn mwy o geisiadau am arian y Loteri nag y gallwn eu hariannu, felly mae'r gystadleuaeth bob amser yn ffyrnig. Po fwyaf trylwyr fydd eich gwaith cynllunio, y cryfaf fydd eich cais. Fodd bynnag, mae angen i chi gael gweledigaeth glir a chynnig artistig cymhellgar wrth wraidd eich cais.

Cynllun Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru 2009-11

11


Ein cynllun gweithredu rhanbarthol 2009-11

Cefnogi’r gwaith o greu celfyddyd o safon

Gweithio gyda National Theatre Wales i sicrhau presenoldeb yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru.

Trefnwyd perfformiadau a gweithdai mewn lleoliadau yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru. Sicrhawyd cyswllt gydag unigolion a sefydliadau allweddol yn y rhanbarth.

Cefnogaeth i ymarferwyr unigol a grwpiau artistiaid drwy grantiau'r loteri.

Amrywiaeth dda o geisiadau yn cefnogi'r gwaith o hyrwyddo ffurfiau ar gelfyddyd. Cefnogaeth i Locws International fel grŵp sydd â phroffil uchel sy'n dod i'r amlwg yn genedlaethol a thu hwnt.

Hyrwyddo arloesedd a chydweithrediad rhwng cwmnïau sy'n cynhyrchu a chwmnïau sy'n cyflwyno o fewn y Rhanbarth, ynghyd â chwaraewyr allweddol Cenedlaethol eraill.

Trefnu cyfarfod Cynhyrchwyr/ Cyflwynwyr cychwynnol er mwyn hwyluso trafodaeth. Cyfarfodydd y dyfodol yn dibynnu ar ba mor ddefnyddiol y rhagwelir y bydd y fforwm yn ôl mynychwyr.

Hyrwyddo Fforymau sy'n benodol i Ffurf ar Gelfyddyd yn y Rhanbarth gyda'r Uwch Swyddogion.

Fforwm Dawns Rhanbarthol a Fforwm Celfyddydau Gweledol yn cael eu cynnal er mwyn hwyluso trafodaethau am y ffurf benodol ar gelfyddyd a'r gwaith o ddatblygu'r ffurf honno ar gelfyddyd. Cysylltu â'r Uwch Swyddog Cerddoriaeth i drafod y posibilrwydd o sefydlu Fforwm Rhanbarthol am fod sector cerdd cryf yn yr ardal.

12

Cynllun Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru 2009-11


Annog mwy o bobl i fwynhau’r celfyddydau ac i gymryd rhan ynddynt

Datblygu prosiectau peilot newydd ar gyfer rhaglenni cymhwysol i'r celfyddydau mewn ysgolion.

Dwy raglen beilot wedi cael eu cychwyn gyda phartneriaid yr Awdurdod Lleol.

Datblygu mynediad i'r celfyddydau mewn ardaloedd targed allweddol.

Mwy o weithgareddau celfyddydau cymunedol a mwy o gefnogaeth i leoliadau cyflwyno mewn ardaloedd fel Ystradgynlais a Phontardawe. Cefnogaeth i sefydliadau fel Theatr Fforwm Cymru a Theatr Small World, gweithio mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf a grwpiau difreintiedig, anabl neu grwpiau lleiafrifol.

Hyrwyddo dwyieithrwydd o fewn sector y celfyddydau cyfranogol.

Gweithgareddau arloesol sydd â'r pŵer i drawsnewid ar gael i gyfranogwyr iaith Gymraeg.

Dyfarniadau loteri rhanbarthol i brosiectau cyfranogol da.

Prosiectau sy'n gweddu'n dda i amcanion rhanbarthol ac amcanion y ffurf ar gelfyddyd yn cael cefnogaeth.

Hyrwyddo Cynllun Noson Allan yng Ngheredigion.

Yr Awdurdod yn cymryd rhan yn y cynllun, gan alluogi mwy o sefydliadau i hyrwyddo digwyddiadau celfyddydol yn eu cymunedau.

Cynllun Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru 2009-11

13


Ehangu economi’r celfyddydau

14

Gweithio gyda chyd-weithwyr yng Nghyngor Sir Gaerfyrddin i ddatblygu'r datblygiadau arfaethedig ar gyfer Theatr y Lyric a chanolfan gelfyddydol yn Llanelli.

Cam pwysig wrth weithio tuag at lenwi bwlch yn y ddarpariaeth ar gyfer lleoliad cyflwyno ar raddfa fawr yn Sir Gaerfyrddin. Byddai hyn hefyd yn lleoliad teithio ar gyfer Theatr Genedlaethol Cymru.

Cefnogi Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot gyda'i weledigaeth ar gyfer adnewyddu Neuadd Gwyn yng Nghastell-nedd.

Gweledigaeth artistig ar y cyd ar gyfer y lleoliad ar ei newydd wedd, gan ystyried brandio unigol lleoliadau eraill o fewn yr awdurdod at ddibenion datblygu cynulleidfaoedd.

Gweithio gyda Dinas a Sir Abertawei sicrhau datblygiadau ar gyfer Oriel Gelf Glynn Vivian.

Cymorth ariannol wedi'i sicrhau ar gyfer prosiect datblygu, gyda'r gwaith o sicrhau mynediad gwell wrth wraidd y prosiect.

Cynllun Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru 2009-11


Gwneud Cyngor y Celfyddydau yn fusnes effeithiol ac effeithlon

Datblygu'r sylw positif yn y wasg yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru.

Mwy o gysylltiadau yn y wasg. Pob prosiect yn cael ei werthuso ar gyfer effaith y cyhoedd.

Cynnal amrywiaeth o gyfarfodydd er mwyn hwyluso trafodaeth a chyfnewid gwybodaeth.

Nodwyd yn flaenorol: Fforwm Cyflwynwyr/Cynhyrchwyr Fforwm Dawns Fforwm y Celfyddydau Gweledol Fforwm posibl i Gerddoriaeth Fforwm Prif Swyddogion Awdurdodau Lleol Fforwm Swyddogion Datblygu Celfyddydau yr Awdurdodau Lleol

Mynychu cynghorfeydd a sesiynau cyngor i ddarpar ymgeiswyr arian y loteri.

Mynychu diwrnod cyfranwyr y loteri ar y cyd. Mynychu sesiynau a gynhaliwyd gan grwpiau gwirfoddol/amatur fel Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gaerfyrddin (CAVS).

Bodloni'r holl amserlenni gofynnol mewn perthynas 창 phrosesu grantiau.

Bodlonwyd yr amserlenni.

Cyfrannu at yr Adolygiad Buddsoddi.

Defnyddiwyd y wybodaeth leol a gasglwyd yn y prosesau gwneud penderfyniadau.

Hyrwyddo'r gwaith o ddatblygu staff.

Cynlluniau hyfforddi unigol i staff wedi'u cyflawni er mwyn sicrhau datblygiad creadigol a phersonol.

Cynllun Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru 2009-11

15


Ein Pwyllgor rhanbarthol

Mae Pwyllgor Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cynghori, yn cefnogi ac yn arolygu ein gweithgareddau yn rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru. Wedi'i gadeirio gan aelod o'n Cyngor cenedlaethol, mae'r pwyllgor yn: • helpu i ddatblygu a monitro'r Cynllun Rhanbarthol • cynghori'r Cyngor ar waith y sefydliadau sy'n cael cyllid refeniw a datblygu blaenoriaethau yn y rhanbarth • meithrin cysylltiadau gydag awdurdodau lleol y rhanbarth • cymryd rhan yn y gwaith o fonitro ac adolygu'r gweithgareddau celfyddydol • cefnogi gwaith staff y swyddfa ranbarthol

Aelodau presennol y pwyllgor rhanbarthol yw: Kate Woodward Lydia Bassett Dr. Jennifer Williams Dr. George Lilley Karen MacKinnon Myles Pepper Dilwyn Davies Y Cynghorydd Clive Scourfield Y Cynghorydd Ceredig Wyn Davies Y Cynghorydd Graham Thomas Y Cynghorydd Mike James Y Cynghorydd Robert Lewis Y Cynghorydd Gwyn Gwillim Ian Jones Dr. Rhodri Llwyd Morgan Iwan Davies Lloyd Ellis Paul Griffiths Neil Bennett Russell Ward

Cadeirydd Aelod Annibynnol Aelod Annibynnol Aelod Annibynnol Aelod Annibynnol Aelod Annibynnol Aelod Annibynnol Cynrychiolydd yr Awdurdod Lleol Cynrychiolydd yr Awdurdod Lleol Cynrychiolydd yr Awdurdod Lleol Cynrychiolydd yr Awdurdod Lleol Cynrychiolydd yr Awdurdod Lleol Cynrychiolydd yr Awdurdod Lleol Arsylwyr yr Awdurdod Lleol Arsylwyr yr Awdurdod Lleol Arsylwyr yr Awdurdod Lleol Arsylwyr yr Awdurdod Lleol Arsylwyr yr Awdurdod Lleol Arsylwyr yr Awdurdod Lleol Arsylwyr yr Awdurdod Lleol

Mae'r pwyllgor yn cael ei gynghori gan ddeg o Uwch Swyddogion yr awdurdodau lleol sy'n goruchwylio Diwylliant, y Cyfarwyddwr Rhanbarthol a swyddogion eraill Cyngor Celfyddydau Cymru.

16

Cynllun Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru 2009-11


Staff ein tîm rhanbarthol

Amanda Loosemore Cyfarwyddwr (Canolbarth a Gorllewin Cymru) amanda.loosemore@celfcymru.org.uk

Siân Griffiths Swyddog Datblygu'r Celfyddydau siân.griffiths@celfcymru.org.uk

Suzanne Griffiths-Rees Swyddog Datblygu'r Celfyddydau suzanne.griffiths-rees@celfcymru.org.uk

Rolande Thomas Swyddog Datblygu'r Celfyddydau Rolande.Thomas@celfcymru.org.uk

Margaret James Swyddog Cynorthwyol margaret.james@celfcymru.org.uk

Henry Rees Swyddog Cynorthwyol henry.rees@celfcymru.org.uk

Wendy James Cydgysylltydd y Swyddfa wendy.james@celfcymru.org.uk

Gillian Davies Cynorthwy-ydd Gweinyddol gillian.davies@celfcymru.org.uk

Bonita Evans Cynorthwy-ydd Gweinyddol bonita.saunders@celfcymru.org.uk

Cynllun Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru 2009-11

17


Am wybod mwy?

Rydym yn cyhoeddi amrywiaeth eang o wybodaeth ar bob agwedd ar y celfyddydau, o ariannu i godi arian, polisïau celfyddydol i ganllawiau hunangymorth. Os oes gennych unrhyw ymholiad ynghylch agwedd ar ein gwaith, byddai'n werth i chi ymweld â'n gwefan www.celfcymru.org.uk

Gŵyl Serameg Rhyngwladol 2009, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth (llun: Glenn Edwards)

Cyngor Celfyddydau Cymru, 4-6 Gardd Llydaw, Lôn Jackson, Caerfyrddin SA31 1QD Ffôn: 01267 234248 Ffacs: 01267 233084 Minicom: 01267 223496 Ebost: canolbarthagorllewin@celfcymru.org.uk Gwefan: www.celfcymru.org.uk

18

Cynllun Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru 2009-11


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.