Adroddiad Blynyddol 2021-22 ACGM

Page 1

Adroddiad Blynyddol 2021-22

Crynodeb gan y Prif Swyddog

Mae’n fraint eto eleni i mi gael cyflwyno’r adroddiad blynyddol yma sydd yn crynhoi ac adlewyrchu gwaith ac ymdrechion Age Cymru Gwynedd a Môn yn ystod 2021 22. Unwaith yn rhagor yn 2021-22 bu i’r pandemig Covid-19 greu sialensau sylweddol i bawb, ac rwyf yn falch o allu dweud fod ein gwydnwch a’n trugaredd fel mu cynorthwyo i ymateb yn gadarnhaol i’r sialensau yma.

Roedd y flwyddyn eto yn un o gefnogi pobl i fyw yn ddiogel ac annibynnol mewn cyfnod lle roedd cyfyngiadau cymdeithasol ar waith ac yr angen i fobl bregus fod yn hunan-ynysu. Yn sicr mae’r flwyddyn wedi cyfleu yn glir pwysigrwydd gwasanaethau gofal cymunedol ac rydym wedi gweld cynnydd oddeutu 33% yn y pecynnau gofal rydym yn darparu.

Bum yn weithgar iawn o ran sicrhau cadw mewn cyswllt gyda pobl a sicrhau fod pobl yn cael mynediad i’r arian a budddaliadau maent yn deilwng iddynt. Darparwyd yn ogystal ofal i drigolion yn eu cartrefi a sicrhau eu bod gyda mynediad i brydau bwyd cynnes ac hanfodion eraill.

Gyda lledaenu'r ymgyrch brechiadau Covid 19, a ninnau wedi dychwelyd yn raddol yn ôl i elfen o normalrwydd o ran bywyd cymdeithasol, ymddengys ein bod bellach tu cefn i’r gwaethaf o’r pandemig Covid 19. Fodd bynnag rydym yn wynebu sawl argyfwng pellach yn gymdeithasol sef yr argyfwng costau byw ac yr argyfwng diffyg capasiti ar lawr gwlad yn y maes gofal cymunedol. Mae’r elfennau yma yn rhai fydd yn dylanwadu’n gryf ar ein hymdrechion gwaith fel elusen dros y 12 mis nesaf a thu hwnt.

Drwy nawdd cyllidwyr rydym wedi diweddu’r flwyddyn mewn sefyllfa ariannol iach ac am barhau i adeiladu a datblygu partneriaethau cyd-weithredol drwy sicrhau fod pobl Gwynedd a Môn yn ganolog i’n gwaith o ddatblygu gwasanaethau i’r dyfodol. Fe barhawn i edrych fewn i gyfleoedd newydd a goresgyn yr heriau sydd o'n blaenau trwy rymuso, ac ymdrechu am ragoriaeth ac mynd ati i arloesi.

Ynghyd â’n gweithwyr a’n gwirfoddolwyr, byddwn yn parhau i weithio tuag at hyrwyddo llesiant a chynorthwyo cleientiaid i heneiddio’n dda a byw’n annibynnol cyhyd â phosibl.

Mae gwneud yn siŵr bod pobl yn gallu defnyddio gwasanaethau Cymraeg, pryd bynnag a ble bynnag mae’r angen ac mewn ffordd sy'n addas i'w gallu yn y Gymraeg, yn hanfodol i ni fel elusen sydd yn gweithredu yn gwbl ddwy-ieithog. Wrth ddatblygu ein gwasanaethau byddwn yn sicrhau creu a chynnal cyfleoedd i ddefnyddio ein hiaith rydym yn grediniol fod meithrin y gallu o ran sgiliau Cymraeg yn ganolog i gynnal cymunedau oed gyfeillgar yn lleol.

Mae fy mharch a’r diolch i staff a gwirfoddolwyr Age Cymru Gwynedd a Môn yn enfawr. Chi sydd wedi cadw llawer o oedolion bregus yn ddiogel ac yn iach ac mae eich ymdrechion wedi bod yn rhagorol ac yn eithriadol ac mae wedi bod yn fraint cael gweithio gyda chi i gyd.

Hoffwn ddiolch hefyd i'n holl bartneriaid a chyllidwyr yn ystod y flwyddyn, ac yn wir eu parodrwydd i’n cefnogi. Ni allwn ddarparu’r gwasanaethau heb eu cefnogaeth i fobl fregus iawn mewn cyfnod anodd, ond erbyn hyn mae pethau’n gwella, a gobeithio bydd yr haul yn tywynu arnom cyn hir.

Eleri Lloyd Jones Prif Swyddog

Cadeirydd

- Anwen Hughes

Eleni yw fy mlwyddyn gyntaf fel Cadeirydd Age Cymru Gwynedd a Môn, braint yn dilyn yn ôl traed anferth Dafydd Iwan, fydd yn dasg enfawr i'w chyflawni. Hoffwn ddiolch iddo ar ran yr holl Ymddiriedolwyr, am ei waith caled a'i arweiniad dros y blynyddoedd. Diolch byth ei fod yn parhau fel Aelod gweithgar o Fwrdd yr Ymddiriedolwyr.

Hoffwn hefyd ddiolch i Meinir Owen a Helen Owen, cyn aelodau’r Bwrdd, am eu hymroddiad dros y blynyddoedd ac am eu hamser fel Ymddiriedolwyr. Eleni rydym wedi croesawu Nerys Evans, cyn swyddog diogelu i Gyngor Gwynedd, fel aelod newydd o’r Bwrdd, mae hi eisoes wedi profi i fod yn gaffaeliad mawr i’r Bwrdd.

Diolch hefyd i Eleri a’r holl staff, sydd wedi gweithio’n galed iawn mewn cyfnod anodd i sefydlu gwasanaethau rhagorol i'n cwsmeriaid sydd wedi esblygu ers Covid. Mae pobl wedi elwa ar wasanaethau fel Cyngor a Gwybodaeth, arweiniad, gofal a llesiant, gan gynnwys datblygu gwasanaethau prydau yn y cartref bwyd maethlon ffres sy'n cael ei baratoi yn Y Cartref, Bontnewydd.

Diolch hefyd i Meryl yng Nghaffi Hafan, Bangor am ei hymroddiad a derbyniodd gydnabyddiaeth gan Gomisiynydd yr Heddlu am ei gwasanaeth i'r gymuned yn ardal Bangor. Diolch hefyd i Dot a Margaret sy’n rheoli ein siopau ym Mhorthmadog a Llangefni, maent wedi gweithio’n ddiflino i sicrhau bod pobl yn cael cyngor, a dewis o nwyddau am brisiau rhesymol, sydd wedi profi’n amhrisiadwy yn y cyfnod anodd hwn.

Mae’r agwedd gymunedol o’r hwb yn Bontnewydd bellach yn ei hanterth dan arweiniad y Swyddog Ail gysylltu gyda'r gymuned, sydd wedi datblygu grŵp gwau newydd, clybiau cinio ac yn cefnogi’r grwpiau Cerdyn a Chrefft sydd bellach wedi hen ennill eu plwyf. Gobeithiwn ddatblygu’r menter Ffiws newydd yn y misoedd nesaf a hoffem groesawu aelodau newydd i gefnogi’r hwb.

Bydd y Bwrdd yn parhau i gefnogi a ymroi eu hamser i ddarparu gwasanaethau rhagorol sy’n cefnogi gwaith Age Cymru Gwynedd a Môn yn y gymuned, rydym fel bob amser yn ddiolchgar am gefnogaeth pobl Gwynedd ac Ynys Môn, y Comisiynwyr a’r Partneriaid.

Anwen Hughes, Cadeirydd

Y Bwrdd Ymddiriedolwyr
Ymddiriedolwyr Gwilym Ellis Evans Wynne Williams Alwyn Jones Neville Evans Cledwyn Williams Nerys Anne Evans Is-Gadeirydd Dafydd Iwan Trysorydd John Pritchard

Ein hamcanion a datganiad pwrpas

Ein gweledigaeth fel elusen yw i:

“Gyfrannu’n bositif tuag at yr ymdrechion i greu Cymru sy’n Oed Gyfeillgar a sicrhau fod y boblogaeth yn gallu heneiddio’n dda.”

Ein datganiad pwrpas yw:

“Grymuso pobl hŷn, a'u teuluoedd, yng Ngwynedd ac Ynys Môn, trwy ddarparu amrywiaeth o wasanaethau cefnogol yn yr iaith o'u dewis; gyda'r nod terfynol o drechu unigrwydd a chynyddu eu lles emosiynol, corfforol a chyffredinol, gan wella eu hansawdd bywyd.”

Nod yr Elusen yw: Amcanion y dyfodol:

Creu cyfleoedd i bobl hŷn gynnal eu hannibyniaeth ac i fyw bywyd llawn a hapus yn eu cartrefi eu hunain os dymunant Gwella ansawdd bywyd yr henoed a'u gofalwyr di-dâl Hyrwyddo darparu gwasanaethau yn y sectorau hŷn, ac yn arbennig ar gyfer dinasyddion bregus ac sydd yn agored i niwed Cefnogi a hyrwyddo gwasanaethau sy'n gydlynol, yn integredig ac yn gwneud defnydd effeithlon o adnoddau Hyrwyddo agweddau cadarnhaol tuag at heneiddio a henaint Hyrwyddo gwasanaethau sy'n diwallu anghenion yr unigolyn yn ei gyfanrwydd, trwy gyfrwng Cymraeg neu Saesneg, yn unol â dymuniad y cleient

Datblygu gwasanaethau sy'n gynaliadwy i ddiwallu anghenion y dyfodol Darparu gwasanaeth o safon sy'n addas at y diben i bobl hŷn yn gymesur â'u hanghenion a'u dyheadau Cyflawni mwy o gydweithredu â phartneriaid ar draws pob sector Creu cydbwysedd effeithiol rhwng annog mentrau newydd ond hefyd sicrhau cynnal dadansoddiad cost cadarn o pob menter

Polisi cronfeydd wrth gefn

Mae’n bolisi gan Fwrdd Ymddiriedolwyr Age Cymru Gwynedd a Môn y dylid cadw cronfeydd anghyfyngedig, sydd heb eu dynodi ar gyfer defnydd penodol, ar lefel sy’n cyfateb i rhwng tri a chwe mis o wariant.

Mae cronfeydd wrth gefn yr elusen wedi eu defnyddio yn y blynyddoedd diwethaf i fuddsoddi mewn eiddo at ddefnydd yr elusen ei hun, a fydd yn y tymor hir yn darparu incwm a sefydlogrwydd i’r elusen. Yn unol â phenderfyniad y Bwrdd, gwerthwyd eiddo’r Elusen yng Nghaernarfon yn ystod Haf 2021, gan nad oedd bellach yn gynaliadwy at ddefnydd yr Elusen yn dilyn penderfyniad Age UK i ddileu'r gwasanaeth Yswiriant.

Defnyddiwyd cyfran o gronfeydd wrth gefn yr Elusen yn ystod 2021 22 er mwyn gwella ardaloedd allanol ein heiddo Cartref Bontnewydd gan gynnwys darpariaeth maes parcio gorlif a gwelliannau diogelwch i’r grisiau allanol sy’n arwain o’r maes parcio gorlif.

Defnydd cronfeydd:

Mae’r ymddiriedolwyr o’r farn y bydd cronfeydd wrth gefn yn sicrhau, os bydd gostyngiad sylweddol mewn cyllid, y byddant yn gallu parhau â’r nodau ac amcanion elusennol tra bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i ffyrdd y gellir codi arian ychwanegol. Mae’r ymddiriedolwyr o’r farn y dylid cael 12 mis o arian wrth gefn, er mwyn talu staff yr elusen pe byddai angen eu digolledu mewn argyfwng. Hefyd mae’r ymddiriedolwyr yn ymwybodol fod diffyg yn y cyfrif Pensiwn a pe fyddai angen ei dalu ar unwaith mae’r diffyg ar hyn o bryd yn £104,733.09.

Y nodau yn y dyfodol fydd cynyddu argaeledd arian parod wrth gefn yn y banc ar gyfer unrhyw amrywiadau mewn cyllid. Mae'r ymddiriedolwyr wedi asesu'r prif risgiau y mae'r cwmni elusennol yn agored iddynt, ac maent yn fodlon bod systemau ar waith i liniaru'r risgiau mawr.

Yn ystod 2022-23 bydd y Bwrdd yn parhau i edrych yn fanwl ar ddyfodol ein sylfaen gwasanaeth cyfan, ac yn ailasesu ein hasedau a’n gwasanaethau yng ngoleuni’r pandemig Covid 19 wrth i gymdeithas integreiddio’n raddol yn ôl i fywyd cymunedol a’r ‘normal’ newydd.

Cyflwyniad

Mae’r adroddiad blynyddol yma yn egluro sut mae Age Cymru Gwynedd a Môn wedi mynd ati i gefnogi pobl hŷn ein hardal weithredol drwy 2021/22. Mi roedd yn flwyddyn arall o’r pandemig Covid-19. Eglurir hefyd sut fu i ni fel elusen fynd ati i ail edrych, cynnal a datblygu ein hystod o wasanaethau lleol er mwyn ymateb i anghenion o fewn ein cymunedau lleol. Oherwydd bod gennym lawer o bobl fregus iawn yn byw yn eu cartrefi eu hunain, mae ein gwasanaethau wedi cael eu gwerthfawrogi yn fawr iawn gan y bobl hŷn a'u teuluoedd yn ystod cyfnod lle mae pwysau aruthrol ar y sector iechyd a gofal cymdeithasol a diffyg gofal ar gael trwy'r sector statudol.

Mae’r cyfnod wedi bod yn un lle sydd wedi amlygu yn glir fod gan y trydydd sector y gallu i fod yn hyblyg i addasu ei wasanaethau i ddiwallu anghenion. Trwy hynny mae’r gwasanaethau hynny yn sicr wedi, ac yn parhau i dynnu pwysau oddi ar y sector statudol a hynny mewn adeg heriol iawn.

Mae 2021 22 wedi bod yn flwyddyn i ddarparu ein hystod o wasanaethau sefydliedig, ond hefyd mynd ati i edrych a chynllunio i’r dyfodol drwy gychwyn ail fodelu ein gwasanaethau. Bydd hyn yn sicrhau fod gweithgaredd yr elusen yn addas a chynaliadwy i’r dyfodol ac yn cwrdd a gwir anghenion yn lleol.

Bydd y gwaith cynllunio i’r dyfodol yn parhau yn 2022 23 ac yn ymgorffori egwyddorion dogfen strategol Llywodraeth Cymru (Hydref 2021) “Cymru o blaid pobl hŷn: ein strategaeth ar gyfer cymdeithas sy'n heneiddio”.

Nod y strategaeth yw datgloi potensial pobl hŷn yr oes ohoni a chymdeithas sy'n heneiddio yn y dyfodol. Mae’r ddogfen yn gosod allan y camau sydd i’w cymryd i elwa ar y ffaith bod niferoedd cynyddol o bobl hŷn yn ein cymunedau gan hefyd egluro y bydd hyn, yn ei dro, yn ein galluogi i gefnogi'n well bobl sy'n byw mewn amgylchiadau heriol.

Rydym wedi amlygu yn yr adroddiad blynyddol yma effaith ein gwaith yn ystod 2021 22 ar sail prif nodau strategol Llywodraeth Cymru.

o’r hyn a gyflawnwyd yn 2021-22

Er bod 2021-22 wedi bod yn flwyddyn heriol ar sawl maes, sicrhaodd Age Cymru Gwynedd a Môn lwyddiannau amrywiol ar lefel strategol ac ymarferol.

Mae’r hyn a gyflawnwyd yn 2021-22 yn cynnwys:

Gweithio tuag at gyflawni Ansawdd Perfformiad Cyngor a Gwybodaeth (IAQP) (sicrhawyd yn ffurfiol Gorffennaf 2022)

Gweithio’n rhagweithiol gyda phartneriaid allweddol (academaidd a statudol) i nodi a chyd gynhyrchu modelau gofal cymunedol trawsnewidiol a fydd yn diwallu anghenion gofal yr 21ain Ganrif

Datblygu presenoldeb cynyddol ar lein i hyrwyddo a gwella ein hystod o wasanaethau gan gynnwys ymuno â llwyfan gwerthu ar lein BuyCharity.com

Ailsefydlu darpariaethau cymunedol a chymdeithasol yn raddol gan gynnwys ail agor ein siopau, caffis, prosiect Men’s Shed, a gweithgareddau llesiant

Mae’r hyn a gyflawnwyd yn 2021 22 yn cynnwys:

Sicrhau bod gan y boblogaeth hŷn fynediad da at gyngor a gwybodaeth ar ystod o faterion sy'n allweddol i gynnal a gwella eu llesiant hemosiynol, corfforol, ariannol a chymunedol.

Ymateb i bwysau Covid 19 a phwysau cyffredinol y Gaeaf i gadw'r boblogaeth hŷn yn ddiogel ac yn gysylltiedig yn eu cymunedau

Sicrhau twf o 33% yn ein darpariaeth gofal cymunedol gan gynnwys twf sylweddol yn ein darpariaeth gwasanaeth preifat ar Ynys Môn

Sicrhau ffynonellau cyllid amrywiol er mwyn cyflawni ein hamcanion gwasanaeth yn ystod y flwyddyn ariannol.

Ailymweld a chryfhau ein prosesau rheoli data gan gynnwys mabwysiadu system Rheoli Data Elusen Salesforce

Cydweithio â Phartneriaeth

Age Cymru i ddatblygu fframwaith diwygiedig, cryfach a symlach ar gyfer recriwtio, hyfforddi a chefnogi gwirfoddolwyr

Parhau â’n hymdrechion i weithio gyda sefydliadau allweddol ar gyfer Cyn filwyr a’r Lluoedd Arfog gan gynnwys Woody’s Lodge a SAAFA

Ymgysylltu â'r boblogaeth hŷn leol i nodi eu blaenoriaethau a'u dyheadau allweddol ar gyfer y dyfodol ac i ddeall eu pryderon

Rhesymoli ein hasedau, yn cynnwys gwaredu les rhentu Siop Blaenau Ffestiniog, ac hefyd buddsoddi yn is adeiledd ffisegol ein Pencadlys.

Crynodeb

Effaith a gwerth ein gwaith a'n hymdrechion

1. Ymateb i sefyllfa Covid-19 ac ôl-Covid-19 Fel sefydliad, rydym yn gorfod esblygu’n barhaus er mwyn ymateb i newidiadau yn yr amgylchedd allan ol gweithredol a strategol yr ydym yn gweithio ynddo. Yn ystod cyfnod Covid-19 bu’n rhaid i ni addasu ein gwasanaethau’n gyflym i ymateb i anghenion y boblogaeth leol.

Gwaethygodd y pandemig broblemau gyda rhestrau aros, diffyg staff a gwasanaethau. Mae wedi gadael llawer o bobl sy'n defnyddio gwasanaethau a gofalwyr heb gymorth a cyfyngiadau difrifol gan arwain at unigrwydd, ynysu a dirywiad mewn iechyd.

Credwn yn gryf fod ein hymdrechion yn ystod Covd 19 ac yn y cyfnod dilynol, wedi, ac yn parhau i fynd yn bell tuag at gefnogi a gwella bywydau'r rhai sydd wedi derbyn gwasanaeth. Mae’r ymdrechion yma wedi arwain at nifer o ganlyniadau cadarnhaol gan gynnwys:

pobl oedd yn gorfod hunan-bellhau yn teimlo'n llai dibynnol ar deulu a ffrindiau a theimlo yn llai bregus, unig ac wedi eu hynysu ac sicrhau fod gan y bobl oedd yn hunan bellhau fynediad at gyngor a gwybodaeth hanfodol a chael rhywle i droi ato yn hyderus, os oedd angen cymorth arnynt neu sicrhau mynediad at berson i siarad ag ochr arall y ffôn.

Mae nifer y bobl sydd eisiau prydau bwyd a chyswllt rheolaidd, unai wyneb i wyneb neu drwy alwadau ffôn, yn naturiol wedi lleihau wrth i gyfyngiadau gael eu codi ond mae dal galw o hyd am y gwasanaethau hyn.

2. Ymateb i’r agenda heneiddio’n dda a chymunedau oedgyfeillgar

Yn ystod Hydref 2021 fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru y ddogfen strategol “Cymru o blaid pobl hŷn: ein strategaeth ar gyfer cymdeithas sy'n heneiddio”. Mae’r strategaeth yn canolbwyntio ar bedwar nod strategol (rhestrir isod) ac byddwn yn ymhelaethu isod ar ein gwaith yn lleol yn ystod 2021 22 ar sail y pedwar nod yma sef:

i.Gwella llesiant

ii.Gwella gwasanaethau lleol ac amgylcheddau

iii.Meithrin a chynnal galluogrwydd pobl

iv.Trechu tlodi sy'n gysylltiedig ag oedran

i. Gwella llesiant

Mae 'Cymru Iachach,' a gyhoeddwyd yn 2018, yn nodi gweledigaeth hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer 'gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu darparu drwy un system gyfan'. Mae'n rhoi mwy o bwyslais ar atal salwch, ar gynorthwyo pobl i reoli eu hiechyd a'u llesiant eu hunain, ac ar alluogi pobl i fyw'n annibynnol cyhyd ag y bo modd, gyda chymorth technolegau newydd a gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol integredig a ddarperir yn agosach at adref.

Ar lefel leol mae Age Cymru Gwynedd a Môn wedi bod yn chwaraewr allweddol o ran yr agenda ataliol ac ymyrraeth gynnar a hynny drwy sawl agwedd gwaith. Mae cyd weithio gyda partneriaid allweddol er mwyn sicrhau fod pobl yn gallu byw mor annibynol a phosib yn eu cartrefi eu hunain yn un o’m prif amcanion.

Gwasanaeth Gofal Cymunedol

Unwaith eto eleni rydym yn ddiolchgar i'n staff gofal am eu hymrwymiad a'u hymdrechion anhunanol mewn cyfnod mor ansicr ac anodd sydd wedi sicrhau bod defnyddwyr bregus ac ynysig ein gwasanaethau gofal wedi cael gofal a'u cadw'n ddiogel. Rydym wedi gweld cynnydd yn y galw am y gwasanaeth gyda oddeutu 33% o gynnydd yn yr oriau a ddarparwyd yn 2021-22 o gymharu gyda’r flwyddyn flaenorol.

Diolchwn eto i’r bwrdd iechyd lleol ac awdurdodau lleol hefyd am y cyflenwad rheolaidd o PPE i helpu i gadw ein gofalwyr a’r rhai sy’n derbyn gofal yn ddiogel.

.

0 2,500 5,000 7,500 10,000 12,500 Gofal Cartref Gofal Personol Oriau o gofal wedi ei darparu gan ein staff Gofal

Adborth defnyddwyr ein gwasanaethau

“Heb y gwasanaeth siopa rydych chi’n ei ddarparu, fyddai gen i ddim ffordd o gael fy siopa gan fy mod yn gaeth i’r tŷ.”

“Mae ansawdd bywyd fy mam wedi gwella’n fawr drwy’r caredigrwydd a’r help gan ei gofalwr.”

“Mae’r Gofal Cartref rwy’n ei dderbyn yn help gwych gyda glanhau a siopa a sgwrs gyfeillgar.”

"Rwy'n 91 oed. Mae'n wych cael rhywun i mewn i helpu gyda'r gwaith tŷ a siopa. Mae hyn yn rhyddhau fy egni i wneud pethau eraill, ac mae'n debyg ei fod yn golygu y gallaf aros yn annibynnol yn fy nghartref cyn hired â phosib."

Gwasanaeth cadw mewn cyswllt /

Gwasanaeth Prydau yn y Cartref

Darparodd y gwasanaeth prydau yn y cartref dros 7,600 o brydau bwyd a 3,400 o bwdinau i’n cwsmeriaid yn ystod 2021-22. Mae'r gwasanaeth hwn yn boblogaidd iawn oherwydd ansawdd y bwyd. Rydyn ni'n dosbarthu'n ddyddiol i bobl sy'n fregus, mae'r rhan fwyaf o gwsmeriaid yn derbyn pecyn gofal ac yn methu mynd allan i siopa a gweld coginio cinio rhost yn dasg anodd.

Mae'r gwasanaeth hwn nid yn unig yn wasanaeth dosbarthu, ond mae gwybod bod anwylyd wedi cael pryd maethlon, a rhywun i wirio eu bod yn iawn yn amhrisiadwy i aelodau'r teulu.

Os oes angen bwydlen arnoch ar gyfer y mis cysylltwch â’n derbynnydd cyfeillgar Rhian ar 01286 685926

Rydym wedi gweld ein gwasanaethau yn cynnwys elfen allweddol yn y cyfnod ohoni o ddarparu galwadau llesiant (dros y ffôn neu yn ffisegol) a galw mewn ar bobl gyda prydau bwyd ac hanfodion er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel ac er mwyn adnabod unrhyw arwyddion o risg i’w hiechyd.

Cafwyd un digwyddiad lle ddaru un o'n swyddogion cadw mewn cyswllt, wrth ymweld â chartef rhywun gyda pryd bwyd, sylwi fod yr unigol oedd yn derbyn y pryd yn ei wely yn wirioneddol sâl - aethpwyd ’ person yma i’r ysbyty lle cafodd ddiagnosis o se Yn yr achos yma gellid dadlau fod y gwasan wedi achub bywyd rhywun.

“Mae’r

gwasanaeth
cartref wedi
prydau
bod yn fendith, fel yr oedd un yn ynysu.”
“Rydych chi'n d rhagorol. Diolch am y gwasanaeth rydych chi'n ei ddarparu prydau maethlon iawn - sylweddol ac o ansawdd / cynnyrch da. Diolch yn fawr.”
Derbyniodd y derbynwyr mwyaf ynysig a agored i niwed hefyd Becyn Argyfwng Gaea ddarparwyd i ni gan SP Energy Networks
Ar gael | Available Dydd Llun - Dydd Gwener | Monday - Friday Pryd yn y cartref / Meals @ home Pryd poeth wedi ddanfon i'ch drws / Hot meal delivered to your door Am fwy o wybodaeth cysylltwch a | For more information please contact: 01286 685 926 - rhianjones@acgm.co.uk 2 Cwrs | Courses £8.50

Prosiect Swyddog Cefnogaeth a Gwybodaeth Ysbytai

Prosiect yw hwn ar y cyd gyda Cynghorau Gwynedd ac Ynys Môn wedi ei ariannu drwy yr arian y Gronfa Integredig.

Yn sgil sefyllfa Covid 19, nid oedd y Swyddog Cefnogaeth a Gwybodaeth Ysbytai yn gallu sicrhau presenoldeb o fewn Ysbyty Gwynedd yn 2021-22 (yn unol â nod gwreiddiol y prosiect). Yn hytrach penderfynwyd byddai’r Swyddog yn gynrychiolydd 3ydd sector o fewn Timau Adnoddau Cymunedol (CRTs) lefel lleol. Rhoddwyd rôl i’r Swyddog o ddilyn fyny ar achosion yr unigolion hynny oedd mewn ysbyty yn lleol (Ysbyty Gwynedd, Alltwen, Dolgellau) nad oeddent eisoes ar agor ac yn wybyddus i’r mudiadau statudol lleol. Byddai’r swyddog y gwneud cyswllt cychwynnol gyda’r unigolion (fyddai o bob oedran o 18 oed i fyny) gan edrych fewn i anghenion y person dan sylw er mwyn sicrhau eu bod yn dod adref yn ddiogel o’r Ysbyty.

Dros y flwyddyn bu’r Swyddog Cefnogaeth a Gwybodaeth gefnogi oddeutu 300 o unigolion ac derbyniwyd aborth gadarnhaol gan swyddogion statudol fod y ddarpariaeth yma yn werthfawr iawn ac yn gymorth o ran atal ail dderbyn i’r ysbyty.

ASTUDIAETH ACHOS - Swyddog Cefnogaeth a Gwybodaeth Ysbytai

Cysylltodd ein cleient ag Age Cymru Gwynedd a Môn am gyngor ynglŷn â chael boiler newydd. Roedd y cleient wedi bod yn glaf mewnol yn yr ysbyty lleol ers dros bum wythnos. Rwy’n cysylltu â’r ysbyty lleol yn rheolaidd i wirio pobl a dderbyniwyd yn ddiweddar i weld a ellir gwneud unrhyw beth yn y gymuned i gyflymu’r broses ryddhau. Rwy’n egluro fy rôl i’r staff ar y wardiau a dyma sut y dysgodd y cleient am ein gwasanaethau. Roedd hi wedi cael ei derbyn i'r ysbyty oherwydd problemau anadlu a theimlai fod diffyg gwres yn ei chartref wedi cyfrannu at ei salwch. Mae’r cleient yn byw gyda’i gŵr ac ar ôl cael ei rhyddhau o’r ysbyty’n ddiweddar roedd yn bryderus iawn am gael ei hail dderbyn oherwydd y tywydd oer a’r brwydro i gadw’n gynnes yn eu cartref. Yn ystod y drafodaeth gychwynnol canfûm fod y cleient yn cael Lwfans Gweini ar y gyfradd uwch ond nad oedd yn derbyn unrhyw fudd daliadau prawf modd a oedd yn ei gwneud yn anodd iddynt gael cymorth ariannol gan Nyth Cymru. Cynhaliwyd gwiriad budd-daliadau llawn ac yn ystod y sesiwn canfuom fod ei gŵr yn gyfyngedig o ran rheoli ei dasgau dyddiol oherwydd anaf yn y gwaith flynyddoedd yn ôl. Nid oedd yn derbyn unrhyw fudd daliadau anabledd, er iddo ddioddef anafiadau hirdymor. Yn ariannol, roeddent yn poeni am wresogi eu cartref y gaeaf hwn gyda boiler diffygiol, yn dibynnu ar wresogyddion trydan ac yn poeni am y cynnydd mewn costau trydan sydd i ddod. Roeddent eisoes wedi gwneud cais i'w cyflenwr ynni am y Gostyngiad Cartref Cynnes o dan y grŵp ehangach ond yn aros i glywed a oedd eu cais wedi bod yn llwyddiannus.

Drwy ddefnyddio cyfrifiannell Age UK canfuom nad oedd unrhyw hawl i gredyd pensiwn ar y cam cychwynnol hwn. Drwy gymryd i mewn i gyfrifiadau ei gŵr sy’n gwneud cais am y lwfans gofalwr, gwelsom y gallai eu rhoi yn y cromfachau cymhwyster yr elfen credyd pensiwn gwarantedig. Arweiniodd hyd yn oed bunt o hawl PC Gwarantedig at hawl i foeler newydd a gwiriwyd eu system wresogi gan beirianwyr dibynadwy trwy Nest. Yn ystod ein hail sgwrs canfûm fod ei gŵr yn ei chael hi'n anodd mwy nag y maent wedi'i grybwyll a'i fod yn cwympo'n ddirybudd oherwydd ei feddyginiaeth a phoen yn ei gymalau oherwydd y tywydd oer. Cynghorais y cleient y byddai cais llwyddiannus o Lwfans Gweini ar gyfer ei gŵr yn gwneud byd o wahaniaeth i’w hincwm gyda mwyhau budd dal drwy Gredyd Pensiwn. Cwblhawyd ceisiadau dros y ffôn a'u hanfon at ŵr y cleient i'w llofnodi. Roedd cais gŵr y cleient am Lwfans Gweini yn llwyddiannus ar y gyfradd Is a derbyniwyd hawl Credyd Pensiwn llawn. Ar y bore derbyniodd y llythyr cadarnhad fe’i cynghorais i gysylltu â Nyth Cymru a dywedwyd wrthi y byddai peiriannydd gyda hi yr wythnos ganlynol i asesu eu heiddo ar gyfer inswleiddio a system wresogi (Pob un am ddim o dan gynllun Llywodraeth Cymru). Gyda'r cynnydd yn eu hincwm, cafodd y cleient a'i gŵr eu hunain mewn sefyllfa lai o straen yn ariannol. Galwodd y cleient y cynghorydd yn “Dduw”. Dim ond yn y dechrau yr oedd hi wedi gwneud yr ymholiad i weld a allai gael unrhyw gymorth ariannol i gael boiler newydd i gynhesu eu cartref i atal aildderbyn i'r ysbyty. Gyda Chredyd Pensiwn yn cael ei dalu byddai ganddynt hawl i ostyngiad Treth y Cyngor llawn, £140 o dan y cynllun Gostyngiad Cartref Cynnes yn flynyddol ac arian ychwanegol yn wythnosol i d l nydd mewn prisiau ynni sydd i ddod.

ii. Gwella gwasanaethau lleol ac amgylcheddau

Mae tai, systemau trafnidiaeth a'r amgylchedd adeiledig yn cael effaith sylfaenol ar ba mor dda yr ydym yn byw ac yn heneiddio. O ran y maes tai, gall tai addas ddod yn fwyfwy pwysig wrth inni heneiddio, wrth i'n hanghenion newid ac wrth inni dreulio mwy o amser gartref.

Eleni roeddem yn llwyddiannus mewn sicrhau cyllidebau amrywiol er mwyn gallu cyfrannu yn gadarnhaol tuag at y Rhaglen Cartrefi Clyd ac hefyd y Rhaglen Pwysau’r Gaeaf.

Sicrhawyd unwaith yn rhagor gyllid Rhaglen Cartrefi Clyd Age UK / EON a alluogodd ni i ymgymryd ag 250 o sesiynau archwiliadau budd daliadau a hefyd ymgymryd ag 140 o archwiliadau cartrefi ynni effeithlon. Roedd y gwaith yma yn ein galluogi i rannu gwybodaeth ddefnyddiol i bobl sy’n byw mewn tlodi tanwydd, sut i wneud arbedion ariannol ac hefyd eu cynorthwyo gyda camau ymarferol o ran gwneud eu tai yn fwy ynni effeithlon.

Bum yn cydweithio gyda mudiadau arbenigol hefyd gan gyfeirio pobl ymlaen oedd angen cymorth fwy arbenigol yn cynnwys cymorth gan y fenter NYTH.

Mae ein diolch hefyd i SP Energy Networks ddaru eto eleni ddarparu oddeutu 100 o becynnau argyfwng i ni rannu allan i fobl sydd yn byw mewn tlodi tanwydd ac mewn ardaloedd ynysig rhag ofn y byddent yn wynebu torriad mewn cyflenwad trydan i’w cartrefi. Bum yn rhagweithiol iawn hefyd yn hyrwyddo ac annog pobl (yn cynnwys ein derbynwyr gofal ac derbynwyr prydau yn y gymuned) i gofrestru gyda Cofrestr Blaenoriaeth SP Energy Networks mewn sefyllfa lle fyddai toriad mewn cyflenwad trydan.

Ail-sefydlu ein mannau cyfarfod a chymdeithasu Mae mannau addas i grwpiau cymunedol gyfarfod a ffynnu yn hollbwysig er mwyn datblygu Cymru sy’n oed gyfeillgar. Yn ystod 2021 22 bu i ni ail agor ac ail sefydlu ein darpariaethau cymunedol a chymdeithasol yn raddol, yn unol â rheoliadau Covid 19, yn cynnwys ein Caffis ym Mangor ac yn Y Cartref Bontnewydd. Ail sefydlwyd hefyd ein gweithgareddau amrywiol o Y Cartref Bontnewydd ac y ddarpariaeth Mens Shed / Gofod Creu yng Nghaernarfon. Bum yn cydweithio hefyd gyda’r Canolfannau Heneiddio’n Dda o ran eu cynorthwyo gyda’r broses o ail-sefydlu eu gweithgareddau hwy yn Nefyn, Y Bala ac yn Nolgellau. iii. Meithrin a chynnal galluogrwydd pobl
Er mwyn cynorthwyo gyda’r gwaith yma bu i ni benodi Swyddog Ailymgysylltu gyda’r gymuned aeth ati i ail sefydlu ac/neu sefydlu o’r newydd rhaglen o weithgareddau cymunedol o’r Cartref Bontnewydd, a hefyd mewn lleoliadau yn y gymuned yng Ngwynedd a Môn.

Cyngor Pobl Hŷn a Fforymau Pobl Hŷn Ynys Môn

Mae cyfranogiad cymunedol yn broses a ddefnyddir gan unigolyn i ymgysylltu â gweithgareddau lleol a allai fod o fudd iddynt hwy a’u cymuned ac dengy canlyniadau yr ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru ar gymunedau oed gyfeillgar, bod fforymau pobl hŷn yn darparu cymorth cymdeithasol a ymarferol gwerthfawr i bobl hŷn.

Yn sgil Covid 19 nid oedd modd cynnal cyfarfodydd fel yr arfer, allan yn y gymuned, o Gyngor Pobl Hŷn nac o Fforymau Pobl Hŷn Ynys Môn. Fodd bynnag rydym wedi cadw momentwm y gwaith drwy gyfarfodydd rhithiol er yn cydnabod nad yw’r cyfrwng yma yn ddelfrydol i bawb. Yn ystod y flwyddyn cynhaliwyd sesiwn diddordol ac addysgiadol gan Hourglass Cymru ar y maes cam-drin pobl hŷn. Ymunwyd yn y digwyddiad Cyflwr y Genedl gan y Comisiynydd Pobl Hŷn i Gymru oedd ar ddiwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn (1af Hydref 2021) ac hefyd cafwyd sesiwn penodol ar ddarparu mewnbwn i strategaeth oed-gyfeillgar Cyngor Môn.

Hyrwyddo hyder digidol

Mae’r ffordd rydym wedi bod yn cysylltu ag eraill a'r ffordd o weithio a chyfarfod wedi newid yn sylweddol o ganlyniad i’r pandemig gyda llawer mwy o gyswllt rhithiol. Credir bydd trefniadau i’r dyfodol o ran cynnal sgyrsiau a digwyddiadau gyda chymunedau angen ymgorffori technoleg fwyfwy gyda rhagor o weithio ar fodelau hybrid hefyd o ran cyfarfod mewn person ac yr opsiwn rhithiol.

Mae’r newid yn y ffordd yma o weithio yn amlwg wedi adnabod gwerth technoleg ddigidol a hefyd yr angen i fuddsoddi mwy mewn hyfforddi pobl i ddod yn fwy hyderus a gwybodus o ran defnyddio technoleg.

Drwy gydweithio gyda mudiadau fel Cymunedau Digidol Cymru a Gwynedd Ddigidol, mae ein Cysylltwyr Cymunedol yng Ngwynedd ac ein Swyddog Cefnogi Hybiau Ynys Môn yn ystod y flwyddyn wedi bod yn codi ymwybyddiaeth ddigidol yn y gymuned boed i unigolion neu i grwpiau cymunedol, ac hefyd i weithwyr proffesiynol fel gweithwyr cymdeithasol a swyddogion cefnogi tenantiaid.

Mae ein Swyddog Cefnogi Hybiau Ynys Môn wedi bod yn gweithio ar adnabod ungolion a grwpiau ar gyfer cydweithio ar fenter llogi tabledi electronig i fobl sydd wedi’u dieithrio’n ddigidol ac hefyd adnabod pencampwyr digidol yn y gymuned fydd yno i roi cymorth i fobl sydd yn cychwyn eu taith ddigidol. Byddwn hefyd yn mynd ati yn 2022 23 i ail sefydlu sesiynau cymorth gyda technoleg yn Y Cartref Bontnewydd ac Caffi Hafan Bangor drwy gydweithio gyda Addysg Oedolion Cymru.

Gwella mynediad i wybodaeth gan fudiadau

Rydym wedi manteisio ar gael cyfrannu a defnyddio llyfrynnau hyrwyddo llesiant Cyngor Gwynedd, Medrwn Môn a Mantell Gwynedd drwy gynnwys hysbys am ein gwasanaethau a hefyd wedi gwneud defnydd o gyfryngau cymdeithasol fel ein gwefan ac Facebook.

Dosbarthwyd yn helaeth i’n defnyddwyr gopiau o’r cyhoeddiadau canlynol Cadw'n iach y gaeaf hwn (llyfryn a gydlynwyd gan Llywodraeth Cymru) a hefyd y llyfryn Save Energy Pay Less gan Age UK.

Gwirfoddoli

Bu 2021 22 yn flwyddyn ansicr ac ansefydlog o ran cyfyngiadau cymdeithasol a cyfnodau clo Covid-19. Roedd hyn yn golygu i lawer o gyn wirfoddolwyr a darpar wirfoddolwyr, na fyddai ymgymryd â gwaith gwirfoddoli i ni yn opsiwn.

Fodd bynnag, rydym eto yn 2021-22 wedi ein bendithio gan ymdrechion y gwirfoddolwyr hynny sydd wedi rhoi eu hamser i’n cynorthwyo i ddarparu ein gwasanaethau gan gynnwys paratoi a/neu ddosbarthu pryd ar glud yn y gymuned, cynorthwyo gyda rhedeg ein siopau a’n caffis a hefyd cynorthwyo gyda’n gweithgareddau cymdeithasu cymunedol.

Bu i ni weithio gyda’r gymuned er mwyn recriwtio gwirfoddolwyr i gynorthwyo gyda’n hymdrechion yn cynnwys defnyddio papurau bro, y wefan a chyfryngau cymdeithasol i hysbysu cyfleoedd gwirfoddoli. Rydym wedi bod yn hynod ffodus o gael 25 o wirfoddolwyr yn ein cynorthwyo gyda’n hymdrechion.

gwirfoddolwyr

Fy enw i yw Louise ac rydw i'n nyrs iechyd meddwl wedi ymddeol. Dechreuais wirfoddoli gydag Age Cymru Gwynedd a Môn flwyddyn yn ôl, unwaith roedd cyfyngiadau Covid wedi lleddfu. Yn ystod cyfnodau clo Covid collais ryngweithio cymdeithasol gyda phobl leol eraill ac roeddwn eisiau gwneud rhywbeth i helpu fy nghymuned leol. Rwy'n ddysgwr Cymraeg ac yn teimlo hefyd y byddai gwirfoddoli yn gyfle da i ddefnyddio a gwella fy Nghymraeg gyda phobl leol.

I ddechrau, gwirfoddolais i ddosbarthu pryd ar glud yn fy ardal leol unwaith yr wythnos, a hefyd i helpu gyda chlybiau cinio mewn lleoliadau lleol. Wrth i fy amgylchiadau personol newid ac wrth i'r gwaith corfforol ddod yn broblemus i mi symudais i helpu i bacio'r prydau i'w dosbarthu, ond collais y rhyngweithio gyda chleientiaid. Yn ddiweddar, rydw i wedi dechrau gwneud ffrindiau mewn pentref sy'n agos at fy nghartref. Byddaf yn gweld cleientiaid yn rheolaidd am sgwrs a thaith allan am goffi yn achlysurol i helpu i leddfu eu teimladau o unigrwydd ac ynysu cymdeithasol.

Rwy'n mwynhau'r gwirfoddoli yn fawr iawn. Mae staff canolfan Age Cymru Gwynedd a Môn ym Montnewydd yn gyfeillgar a chroesawgar. Maent yn caniatáu i mi gymryd rhan pryd bynnag y dymunaf. Mae pawb yn galonogol iawn pan dwi'n ymarfer fy Nghymraeg. Mae'n wych bod wedi gwneud ffrindiau newydd ac mae wedi fy helpu i deimlo fy mod yn cael fy nerbyn gan y gymuned leol.

Rydym wedi cydweithio gyda Partneriaeth Age Cymru er mwyn datblygu fframwaith newydd ar gyfer gwirfoddolwyr. Bydd ymdrechion blynyddoedd dilynol yn mynd tuag at hyrwyddo ein cyfleoedd gwirfoddoli a recriwtio a chefnogi mwy o wirfoddolwyr i gynorthwyo gyda’n hymdrechion i’r dyfodol.

Hanes Louise un o’n

iv. Trechu

tlodi

sy'n gysylltiedig ag oedran

Mae sefyllfa ariannol unigolyn yn dylanwadu'n sylweddol ar eu hansawdd bywyd cymdeithasol. Mae Llywodraeth Cymru yn datgan fod ar wahân i orfod gwneud dewisiadau llym rhwng gallu gwresogi eu cartref neu allu bwyta prydau maethlon, gall pobl hŷn sy’n byw mewn tlodi gael dewisiadau cyfyngedig ynghylch sut i dreulio eu hamser rhydd.

Yn wyneb lefelau cynyddol o dlodi, amcangyfrifir bod £214 miliwn o Gredyd Pensiwn a Budd dal Tai (sy'n cael ei ddatgloi drwy hawliad Credyd Pensiwn) nad yw'n cael ei hawlio bob blwyddyn (Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, 2019). Mae gan fudiadau fel ni rôl bwysig mewn sicrhau fod pobl yn ymwybodol o’u hawliau ac yn derbyn y cymorth i’w sicrhau.

a) Mynediad i gyngor a gwybodaeth o ansawdd Mae’r gwasanaeth ar gael ar draws ardaloedd Gwynedd ac Ynys Môn gyfan er mwyn darparu mynediad i gyngor a gwybodaeth diduedd am ddim dros y ffôn, wyneb yn wyneb neu ar e bost. Mae 2021 22 wedi bod yn flwyddyn heriol arall i fobl hŷn a’r gwasanaeth Cyngor a Gwybodaeth. Trwy gydol y flwyddyn rydym wedi gweld cynnydd yn y galw am y gwasanaeth sydd wedi rhoi pwysau ar y tîm ac wedi arwain at restrau aros wrth iddynt geisio mynd i'r afael â'r galw.

Yn ystod 2021 22 derbyniodd Age Cymru Gwynedd a Môn 2,500 o gysylltiadau am gyngor a gwybodaeth a hynny ar ystod o faterion. Lle na allem gynorthwyo yn uniongyrchol byddem wedi cyfeirio pobl ymlaen neu eu harwydd bostio i’r mudiadau a gwasanaethau priodol iddynt.

Roedd 2021 22 hefyd yn gyfnod o weithio tuag at sicrhau at gyflawni Ansawdd Perfformiad Cyngor a Gwybodaeth (IAQP) ac fe sicrhawyd hyn yn ffurfiol yng Ngorffennaf 2022.

£505,877.80 2500 o bobol Helpu Budddaliadau Gofalcymunedol Teithio 1,250 1,000 750 500 250 0 Y3priffateradrafodwyd
Ynifersy'nhawliobudd-daliadau ardrawsGwyneddacYnysMôn Derbyniodd195oboblgymorthi hawliobudd-daliadauyn llwyddiannus

b) Ymateb i dlodi cymdeithasol

Gall tlodi gymryd ffurf agweddau amrywiol yn cynnwys tlodi ariannol, tlodi tanwydd ond hefyd tlodi cymdeithasol gyda pobl methu a manteisio ar gyfleoedd a gwasanaethau lleol am amryw ffactorau fel diffyg trafnidiaeth priodol neu ddiffyg gweithgaredd yn lleol.

Un agwedd lle rydym wedi bod yn darparu cefnogaeth gynyddol, yn cynnwys mewn ymateb i amryw o gyfeiriadau gan yr awdurdodau lleol, yw cynorthwyo ungiolion sydd angen Bathodyn Glas o ran parcio. Mae sicrhau Bathodyn o’r fath yn arwain at welliant sylweddol mewn llesiant pobl gan eu galluogi gael fwy actif o ran mynd allan i’r gymuned ac eu cynorthwyo o ran gallu parcio mewn canolfannau iechyd ac ysbytai lleol.

Mae’r adborth gan y rhai sydd wedi derbyn cefnogaeth yn cynnwys:

“Mae’r gwasanaeth budddaliadau wedi galluogi mi wneud cais am fudd-dal anabledd na allwn fod wedi’i wneud ar fy mhen fy hun.”

“Y prif wahaniaeth ers derbyn cymorth gan y gwasanaeth cynghori budd-daliadau yw fy mod bellach yn gallu cadw’r gwres ymlaen trwy’r dydd.”

“Help mawr! Mae’r bathodyn glas yn help mawr pan rwy’n mynd i siopio.”

78oHawliadau BathodynGlas llwyddiannus
"Mae'n wir i ddweud fod Age Cymru Gwynedd a Môn wedi newid fy mywyd yn sylweddol er gwell. Diolch o galon i bawb!"

gyda partneriaid

y y y y ym wedi parhau cadw mewn cyswllt gyda phar boed drwy drafodaeth a chydweithio lefel un i un, neu drwy rwydweithiau penodol, yn cynnwys partneriaid Age Cymru, Cynghorau Sir Gwynedd a Môn, y Bwrdd Iechyd yn cynnwys Ysbytai lleol, Mantell Gwynedd a Medrwn Môn, elusennau/mudiadau fel Gofalwyr Cymru, Cynnal Gofalwyr, mudiadau Cyn-Filwyr a grwpiau cymunedol a darparwyr gofal.

Mae cydweithio mewn partneriaieth yn golygu fod unigolion yn derbyn y gwasanaethau gorau, heb ddyblygu na mynd ar draws cynlluniau eraill. Mae enghraifft o hyn yn digwydd gyda Clybiau Cinio, drwy weithio gyda’n gilydd mae pobl yn cael dewis lleoliad boed yn Y Fron, Bontnewydd, Penygroes neu Llandwrog yn cynnwys derbyn trafnidiaeth yno.

Rydym yn falch o’n hanes hyd yn hyn ac yn anelu at fod yn sefydliad ‘mynd iddo’ ar gyfer pobl hŷn yn y maes hwn. Byddwn yn ceisio gweithio gydag asiantaethau partner ac yn eu hannog hwy a sefydliadau eraill i gyfeirio pobl hŷn atom yn eu hamser o angen.

Mae’r cydweithio gyda partneriaid wedi cynnwys: a. Gyda Age Cymru (Cenedlaethol) ar eu prosiect HOPE sydd yn darparu eiriolaeth gwirfoddol annibynnol gan sicrhau bod pobl yn cael cymorth o ran os yn profi problemau neu bryderon sy’n anodd i’w datrys. Nid yw Age Cymru Gwynedd a Môn wedi bod a Swyddog Eiriolaeth yn 2021 22 felly mae’r prosiect yma wedi bod yn adnodd gwerthfawr i fod ar gael yn lleol.

b. Ymdrechion gyda Partneriaeth Age Cymru ar ddatblygu fframwaith recriwtio hyfforddi a chefnogi gwirfoddolwyr newydd a fydd yn cael ei fabwysiadu yn lleol yn ystod 2022 23.

c. Gyda Cyngor Gwynedd a’r Bwrdd Iechyd a darparwyr gofal eraill i gyd-gynhrychu model gofal cartref statudol trawsnewidiol newydd.

ch. Gweithio gyda mudiadau ac elusennau Cyn Filwyr yn cynnwys SAAFA a Woody’s Lodge a mynychu’r cyfarfodydd Cyfamod Lluoedd Arfog ar gyfer Gwynedd ac Ynys Môn.

d. Cydweithio gyda Gwynedd Ddigidol Citizens Online, Cymunedau Digidol Cymru, Addysg Oedlion Cymru a Grŵp Llandrillo Menai o ran hyrwyddo yr agenda cymhwysiad digidol a chynorthwyo gyda canfod pencampwyr digidol yn y gymuned.

4.CymunedauNi

Maecymunedfywiogynamgylcheddiach,cefnogol,llawnadnoddausy'nmanteisio'n gynhwysol ar gyfalaf dynol, economaidd a naturiol i ffynnu a thyfu gyda'i gilydd. Ar adeg ysgrifennu'r adroddiad blynyddol mi oedd llawer o'r cyfyngiadau yng Nghymru wedicaeleullacioa/neuwedieucodiacynraddolrydymwedibodynailsefydluein gwasanaethaucymunedolgangynnwyseinsiopaua'ncaffiscymunedolaceinprosiect MensShed/GofodCreu.

Rydym yn ffodus iawn o fewn yr elusen i fod yn cynnal Swyddog Cefnogi Hybiau Cymunedol ar Ynys Môn ac hefyd 2 Gysylltwyr Cymunedol yng Ngwynedd yn ardal dalgylch Caernarfon/Bro Peris/Bro Lleu ac hefyd yn De Meironnydd. Mae’r adnoddau yma yn allweddol o ran ein bod gyda arbenigwr lleol, sy’n casglu ac yn rhannu gwybodaeth am gyfleoedd, gweithgareddau a chefnogaeth leol, gan ddod â phobl ynghyda’ucefnogiiarosynhyderusacannibynnolyneubywydaubobdydd.

ArdalYnysMôn

RoeddhiynflwyddynllebueinSwyddogCefnogiHybiauCymunedolynweithgariawno ran cydweithio gyda’r hybiau cymunedol ar hyd a lled yr Ynys o ran cefnogi gyda’r gwaith o sefydlu gweithgaredd cymunedol ac hefyd o ran hyrwyddo yr agenda cynhwysiantdigidol.

BucydweithiogydaGrŵpLlandrilloMenai,AddysgOedolionCymru,aDysguCymraegar ran nifer o Hybiau Cymunedol i drefnu dosbarthiadau amrywiol yn y gymuned a gweithdaiarbynciaugangynnwysgarddio,TechnolegGwybodaeth,gwersiCymraega SgiliauDIY.

Ar Dachwedd 1af 2021 yn adeilad M-sbarc yng Ngaerwen cafwyd digwyddiad arwyddocaol iawn sef lansiad Gwefan Cymuned sydd yn blatfform neuadd pentref rhithiol ar gyfer hybiau’r Ynys. Datblygwyd a dyluniwyd y wefan trwy waith partneriaethardderchogrhwngystodobartneriaidgangynnwysAgeCymruGwynedd aMôn,CyngorYnysMôn,ycwmniBrandified,asawlhwbcymunedolaryrYnys.

Ersylansiad,mae'rSwyddogCefnogiHybiauCymunedolwedibodyncynnalsesiynau hyfforddiantagwybodaethmewnHybiauCymunedolgangynnwysCanolfanBiwmaris (argyferCynghrairSeiriol)acIorwerthArms,Bryngwran.Cyflwynwydywefanhefydi FforwmStaffGwasanaethauOedolionCyngorYnysMôn.

Ardal Gwynedd

Mae ymdrechion 2021-22 wedi bod i gynorthwyo pobl ymsefydlu yn ôl i fywyd cymdeithasol yn hyderus ac yn ddiogel, ac hefyd gweithio gyda mudiadau a grwpiau o ran ail sefydlu eu gweithgaredd yn lleol neu helpu gyda sefydlu gweithgaredd o’r newydd.

Drwy arian Atal Unigrwydd ac Ynys Cymdeithasol, aethpwyd ati i weithio gyda sawl grwp yng Ngwynedd i gynnal digwyddiadau a gweithgareddau dros y Gaeaf. Roedd cyd weithio rhwng y Cysylltwr Cymunedol De Meirionnydd a Chlwb Rygbi Dolgellau i drefnu cinio Nadolig yn lleol gan ddarparu 114 o brydau dros 2 ddiwrnod. Roedd rhai yn bwyta yn y Clwb Rygbi gyda’r gweddill, nad oedd yn medru dod i’r clwb gan eu bod rhy fregus i ddod allan o’r tŷ, yn cael y pryd wedi ei gludo iddynt adre gan wirfoddolwyr o’r clwb Rygbi

Ein hymdrechion dros y Gaeaf Nid pawb fodd bynnag oedd yn gallu ymuno yn ôl gyda bywyd cymdeithasol ac felly cafwyd ymdrechion amrywiol o ran cefnogi yr unigolion yma. Bum yn danfon pecynnau bwyd ac hanfodion i fobl yn eu cartrefi ac mae diolch eleni eto i gwmniau Teso, Morrisons, Asda ac Waitrose am ein cefnogi gyda’r ymdrechion. Mae ein diolch hefyd eleni i Erin ac Efa o Lanrug ger Caernarfon am eu gwaith mewn casglu rhoddion bwyd cyn y Nadolig er mwyn ni allu eu dosbarthu i fobl bregus yn lleol. Cafwyd eto eleni ymgyrch llwyddiannus o ran yr Apêl Bocs Rhoddion Nadolig gyda dros 60 o focsus wedi eu dosbarthu yng Ngwynedd ac Ynys Môn. Cafwyd cydweithio unwaith yn rhagor eleni gyda Cyngor Cymuned Bontnewydd ddaru ein comisiynu i baratoi dros 100 o brydau cinio Nadolig i drigolion y gymuned. “Diolch yn fawr am ddarparu’r bwyd mor ddi-drafferth ac rydym fel Cyngor Cymuned wedi derbyn sylwadau gan nifer o aelodau’r cyhoedd yn gwerthfawrogi ac yn canmol y bwyd.” (Cyngor Cymuned Bontnewydd)

Mens Shed/Gofod Creu Caernarfon

Wedi cyfnod hir o fod ar gau oherwydd cyfyngiadau Covid 19, roedd aelodau’r Mens Shed/Gofod Creu yn falch iawn o gael ail gychwyn yn yr Uned ar Stad Cibyn Caernarfon.

Mae ein diolch yn y flwyddyn wedi bod i fudiadau fel yr Armed Forces Covenant Fund Trust a changen Gogledd Cymru o’r Mark Master Masons hefyd am eu cyfraniadau tuag at gynnal y fenter cymdeithasol bwysig yma.

5. Ymgysylltu ar beth sy’n bwysig

Byddwn yn parhau i ymgynghori â phobl hŷn er mwyn helpu i lunio ein gwasanaethau a cheisio ymagwedd gyfannol at y materion a godwyd.

Ar lefel llawr gwlad, drwy ein hymdrechion o gadw mewn cyswllt gyda pobl yn ystod y flwyddyn drwy alwadau ffôn, ymweld a pobl yn eu cartrefi er mwyn darparu gofal neu i ddanfon prydau bwyd, roeddem yn sicrhau y gallu i ymgysylltu gyda pobl yn cynnwys gallu ymateb i unrhyw geisiadau am gymorth. Rydym wedi parhau hefyd gyda ein proses blynyddol o gylchredeg arolygon i’n defnyddwyr gwasanaethau ar eu bodlonrwydd gyda’r gwasanaeth.

Ar lefel fwy strategol, comisiynwyd Age Cymru Gwynedd a Môn i wneud gwaith ymgysylltu ar ran Cyngor Ynys Môn yn ail hanner 2021 22 er mwyn canfod llais a barn cymunedau lleol ar yr Ynys o ran cynnal a datblygu ymhellach cymunedau oed gyfeillgar.

Rhai o’r prif negeseuon ddaeth i’r amlwg oedd her cael mynediad i apwyntiadau meddygon teulu, diffyg cefnogaeth iechyd meddwl, dim digon o gyflenwad tai addas, yr angen am fwy o wybodaeth sydd ddim mewn cyfrwng digidiol. Amlygwyd hefyd bod ysbryd gymunedol gryf iawn mewn sawl cymuned ar yr Ynys ac bod yna ddiddordeb mewn gwaith rhyng genhedlaeth a phrosiectau garddio cymunedol.

Bum yn cydweithio hefyd gyda Age Cymru yn genedlaethol o ran annog trigolion Gwynedd ac Ynys Môn gwblhau arolygon cyfnodau clo Covid-19. Roedd rhain yn arolygon gwerthfawr iawn o ran canfod beth oedd rhwystredigaethau a phrydeon pobl yn ystod cyfnodau clo y pandemic ond hefyd yn rhoi gwybodaeth allweddol i ni fel partneriaid o ran dylunio a datblygu gwasanaethau i’r dyfodol.

Agweddau masnachol

Profodd 2021-22 i fod yn flwyddyn heriol o ran ein agweddau masnachol a hynny yn sgil y rheoliadau Covid 19 a chyfnodau clo lleol oherwydd cynnydd mewn cyfraddau lleol.

Fodd bynnag, yn unol a’n amcanion cychwyn y flwyddyn o ran mynd ati ac ail agor ac ail sefydlu ein gwasanaethau, ail agorwyd siop Llangefni yn ystod Mehefin 2021 ac ail-agorwyd siop Porthmadog ddiwedd Awst 2021. Mae ein diolch unwaith eto eleni i’r staff a gwirfoddolwyr sydd yn cynnal y siopau ac hefyd i’n holl gwsmeriaid!

Penderfynwyd peidio parhau gyda ein les ar gyfer y siop yn Blaenau Ffestiniog ac felly ni ail-agorwyd y siop honno.

Yn ogystal yn ystod Haf 2021 cwblhawyd gwerthiant ein cyn adeilad siop ac swyddfeydd yng Nghaernarfon a hynny i berson busnes lleol.

A ninnau yn gweld lleihad yn presenoldeb ffisegol o ran masnachu, penodwyd Swyddog Creu Incwm a Marchnata yn ystod Mehefin 2021 er mwyn datblygu dulliau amgen o greu incwm.

Yn y flwyddyn, ar ôl cyfnod o gydweithio gyda Age UK South Lakeland, sefydlwyd presenoldeb ar y portal gwerthu ar lein BuyCharity.com sydd nawr yn sicrhau fod gwerthu arlein yn elfen o’n masnachu sydd wedi cryfhau.

Byddwn yn parhau i gynyddu momentwm y gwerthu ar lein yma dros y blynyddoedd dilynol yn cynnwys recriwtio swyddog fydd yn canolbwyntio a datblygu’r agwedd yma.

Rydym hefyd wedi treialu y syniad o gynnal Pop up Shops ar y Maes yng Nghaernarfon, ger ein Caffi Hafan ym Mangor ac hefyd yn Y Cartref Bontnewydd. Mae rhain wedi ein galluogi i hyrwyddo presenoldeb mewn lleoliadau amrywiol ac hefyd yn fodd i ni hyrwyddo gwasanaethau a chyfleoedd amrywiol megis cyfleoedd gwaith maes gofal cymunedol.

Rydym bellach yn rhan o Rwydwaith Menter Gofod Creu/Ffiws Gwynedd ac yn ystod 2021-22 wedi derbyn offer amrywiol yn cynnwys Argraffwyr 3D, Peiriant Laser, Gwasg Gwres (Heat Press), Gwasg Myg (Mug Press) Argraffwr Sublimation ac Torrwr Vinyl.

Byddwn yn symud ymlaen yn ystod 2022 23 i sefydlu’r Ffiws yn lleol o’n safle yn Y Cartref Bontnewydd ac hefyd ein uned yn Cibyn Caernarfon. Byddwn faes o law yn cynhyrchu deunyddiau i’w gwerthu a chreu incwm masnachol ychwanegol i’r elusen.

Edrych i’r dyfodol a'n strategaeth hir dymor

Ymateb i’r hinsawdd cymdeithasol ac economaidd presennol Fel sefydliad, rydym yn gyson yn gorfod esblygu er mwyn ymateb i'r amgylchedd gweithredol a strategol allanol yr ydym yn gweithio ynddo sy'n gallu newid yn gyflym. Mae hyn yn cynnwys ymateb i batrymau demograffig, cyfleoedd sydd yn codi ac hefyd argyfyngau sydd yn codi yn ein cymdeithas leol ac ar y lefel cenedlaethol ac/neu rhyngwladol.

Y cyfnod ôl-bandemig

Wrth symud ymlaen yn yr hyn a fydd yn cael ei weld fel y cyfnod ôlbandemig, roedd 2021 22 yn flwyddyn pan ddechreuo ni’r broses o adolygu ein gwasanaethau a’n gweithgareddau presennol i sicrhau ein bod yn cyflawni’r hyn yr ydym yn anelu ato, ac yn cyflawni'r canlyniadau y dymunir. Mae’n rhaid i ni ddatblygu ac addasu ein gwasanaethau ymhellach i ddiwallu anghenion a dyheadau’r boblogaeth hŷn yng ngoleuni’r pandemig.

Mae’n rhaid inni gydnabod na fydd pawb am integreiddio’n ôl i fywyd cymunedol yn y tymor byr i’r tymor canolig. Rydym wirioneddol o’r farn fod angen adnoddau i gynnal cynllun cyfeillio lleol drwy gydlynwyr lleol a gwirfoddolwyr i gynorthwyo gyda’r gwaith integreiddio’n ôl i fywyd cymunedol yma.

Pobl Hŷn yng Nghymru yw’r grŵp poblogaeth y mae Covid 19 wedi effeithio fwyaf arnynt ac mae’n hanfodol bod cynllun adfer, sy’n “adeiladu’n ôl yn well” yn rhoi blaenoriaeth i’w hanghenion.

Fel partneriaid, rhaid cydweithio er mwyn mynd i’r afael ag amrywiaeth o faterion gan gynnwys ymateb i restrau aros am ofal yn y gymuned, mynediad at Feddygon Teulu, ymateb i ynysu cymdeithasol ac unigrwydd, sicrhau cynhwysiant digidol, a sicrhau y gallu i fynychu'r ddarpariaeth o gyfleusterau cymunedol ar gyfer unigolion a grwpiau. Bydd hyn yn arwain at ymateb yn gadarnhaol i lesiant emosiynol a chorfforol pobl.

Lleihau Unigrwydd ac Arwahanrwydd

Mae lleihau unigrwydd ac arwahanrwydd yn un o’r prif heriau i’r dyfodol. Byddai mynd i’r afael â hyn yn llwyddiannus fel blaenoriaeth yn dod â llawer o fanteision i iechyd a llesiant pobl ac yn lleihau’r angen a’r galw dilynol am wasanaethau statudol. Er nad yw pawb am groesawu a gwneud defnydd o dechnoleg yn eu bywydau, byddwn yn cynyddu ein dealltwriaeth a defnydd o dechnoleg dros y blynyddoedd dilynol er mwyn sicrhau plethu technoleg fewn i fywydau o ddydd i ddydd pobl gan sicrhau eu bod fwy cysylltiedig yn gymdeithasol.

Atgyfnerthu a chryfhau ein darpariaeth gofal cymunedol

Mae ein hymdrechion yn y maes gofal yn 2021-22 wedi creu seilwaith fwy cadarn er mwyn ni ddatblygu i’r dyfodol yn cynnwys manteisio ar gyfleoedd cydweithio gyda asiantaethau statudol. Yn ystod y flwyddyn rydym wedi cydweithio yn agos gyda Cyngor Gwynedd a’r Bwrdd Iechyd lleol ar eu hymdrechion i drawsffurfio y model gofal cartref yn y Sir.

Bydd 2022 23 yn gyfnod lle byddwn yn mynd ati a datblygu a chyflwyno ceisiadau tender i gael darparu gofal cartref mewn ardaloedd penodol yng Ngwynedd a hynny drwy fod yn ddarparwyr comisiynedig am leiafswm 5 mlynedd ac uchafswm 9 mlynedd. Rydym o’r farn bydd sicrhau hyn yn darparu sicrwydd a chynaliadwyedd staffio ac ariannol i ni fel elusen.

Bydd ymdrechion hefyd yn mynd tuag at recriwtio a chynnal staff o fewn y maes gofal cymunedol.

Cefnogi pobl i fyw adref yn ddiogel

Mae parhau i fyw yn eu cartrefi eu hunain yn flaenoriaeth i lawer o bobl hŷn ac yn rhan bwysig o gynnal annibyniaeth. Mae’r galw am wasanaeth yn debygol o gynyddu wrth i nifer y bobl dros 65 oed gynyddu yn y boblogaeth.

Mae'r galw hefyd i'w weld yn cynyddu am gymorth mwy cymhleth a nifer uwch o oriau o ofal bob wythnos. Bydd llawer o bobl hefyd, o ganlyniad i’r pandemig, yn dymuno peidio ag integreiddio’n ôl i fywyd cymunedol a byddant yn treulio mwy a mwy o’u hamser o fewn cyfyngiadau eu cartref eu hunain.

Hyrwyddo mentrau ataliol ac ymyrraeth gynnar Rhaid cael proses cydweithio sydd yn creu system iechyd a gofal cymdeithasol cwbl integredig sy’n cefnogi pobl i gymryd cyfrifoldeb am eu hiechyd a’u lles eu hunain tra’n teimlo’n hyderus y bydd cymorth ar gael ac yn hygyrch os oes angen.

Gall ymdrechion a mentrau ataliol ac ymyrraeth gynnar atal problemau rhag digwydd yn y lle cyntaf. Gallant hefyd gefnogi pobl sy'n byw mewn amgylchiadau heriol i ymdopi'n well.

Ymateb i’r argyfwng costau byw

Mae costau byw wedi bod yn cynyddu ledled y DU ers dechrau 2021. Cyrhaeddodd y gyfradd chwyddiant flynyddol 10.1% ym mis Medi 2022, sef uchafbwynt 40 mlynedd, gan effeithio ar fforddiadwyedd nwyddau a gwasanaethau i aelwydydd.

Mae cynnydd yng nghostau nwyddau defnyddwyr, wedi'u hategu gan alw cryf gan ddefnyddwyr a thagfeydd yn y gadwyn gyflenwi, wedi bod

yn un ffactor sy'n achosi chwyddiant cynyddol. Mae aelwydydd incwm isel yn gwario cyfran uwch na'r cyfartaledd ar ynni a bwyd, felly mae cynnydd mewn prisiau yn effeithio'n fwy arnynt.

Sbardun pwysig arall ar gyfer chwyddiant yw prisiau ynni, gyda thariffau ynni cartrefi a chostau petrol yn cynyddu. Rhwng mis Medi 2021 a mis Medi 2022, cynyddodd prisiau nwy domestig 96% a chynyddodd prisiau trydan domestig 54%.

Mae’n anochel bydd ein hymdrechion gwaith dros y blynyddoedd dilynol yn gorfod ymateb i’r argyfwng mewn costau byw ac y bygthiad a relati enfawr y bydd mwy o mwy o’r boblogaeth yn byw mewn tlodi ariannol a thlodi tanwydd. Gall hyn arwain at cohort ychwanegol o bobl hŷn yn cysylltu gyda ni am gyngor a gwybodaeth a chefnogaeth, o ran mentrau uchafu eu hincwm ac o ran gwneud eu cartrefi yn fwy ynni effeithlon.

Wrth i brisiau ynni barhau i godi, bydd angen cymorth ychwanegol ar lawer o bobl y gaeaf hwn. Bydd pobl yn ei gweld yn heriol yn ariannol o ran gallu cynhesu eu cartrefi ac bydd angen edrych allan am y pobl yma. Byddwn angen hefyd sicrhau fod ein darpariaethau cymunedol yn hybiau cynhesrwydd i fobl dros y Gaeaf.

Rydym fel y mwyafrif o sefydliadau yn ystod y pandemig wedi wynebu ansicrwydd ariannol mawr oherwydd gorfod cau ein gweithgareddau masnachol yn gan gynnwys ein caffis a'n siopau. Ein diolch i’n hariannwyr yn ystod 2021-22
mae ein diolchgarwch yn mynd
ariannwyr wnaeth ddangos ffydd ynddom yn ystod
flwyddyn a rhoi cymorth ariannol i'n
ymateb
Fodd bynnag,
i'r nifer rheini o
y
cynorthwyo gyda'n mesurau
brys Covid-19 yn yr amser oedd ei wir angen.

Prif Swyddog

Eleri Lloyd Jones

Rheolwr Busnes a Datblygu Aled Evans

Rheolwyr Gofal Cartref Beverley Rowlands Melissa Rowlands

Cyngor a Gwybodaeth Ann Parry (Rheolwr) Mandy Parry

Rheolwr Swyddfa Elaine Williams

Swyddog Ariannol Caryl Jones

Swyddog Personel Caryl Jones

Cydlynydd Caban Dynion Brian Cook

Cydlynydd Gwasanaethau Cymunedol Rhian Jones

Swyddog Croesawu / Gweinyddol Ruth Jones

Rheolwyr Caffis Sheila Lambrecht Meryl Williams

Swyddog Ail-ymgysylltu gyda'r gymuned Eleri Lovell Jones

Swydd Marchnata a Chreu Incwm Ceri Hughes (gadael y swydd Mawrth 2022)

Swyddog Cefnogi Hybiau Cymunedol Ynys Môn Sioned Young

Cysylltwyr Cymunedol Gwynedd

Nia Jones (Arfon Caernarfon) Bethan Wyn Roberts (South Meirionnydd)

Rheolwyr Siop Elusen

Llangefni - Margaret Thomas Porthmadog - Dorothy Murchie

Bancwyr HSBC 24 Castle Square Caernarfon

Broceriaid Canaccord Genuity Wealth Limited Llundain

Cyfrifwyr

A
Dyson & Co Chartered Accountants Capel
South
Parry
· Cyngor
· Cyngor
·
Dda · Clwb Cinio · Gwasanaeth
fewn ·
Digidol (TG) · Fforymau · Siopau Elusen · Gwasanaeth Caffi · Torri Gwinadd Traed · Gofal Personol · Gofal Dydd · Gwasanaeth Glanhau · Cynllun
· Gwirfoddoli · Caban Dynion Age Cymru Gwynedd a Môn Y Cartref Bontnewydd Caernarfon Gwynedd LL54 7UW www.agecymru.org.uk/gwyneddamon 01286 677711 Staff Ein Gwasanaethau
Hughes-Jones
Moreia
Penrallt Caernarfon Cyfreithwyr
Davies ClwydJones and Lloyd Bangor Street Caernarfon
a Gwybodaeth
Budd daliadau
Heneiddio’n
eistedd
Cyswllt
Siopa Gwynedd
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.