Skip to main content

Y cynllun busnes 2015 to 2019

Page 1

Y Cynllun Busnes 2015 i 2019


Ein gweledigaeth yw: “cyflawni twf cryf a chynaliadwy i wneud gwahaniaeth i fywydau, cartrefi a chymunedau pobl.”


Tai Wales & West | Y Cynllun Busnes 2015 - 2019 | 1

Yn union fel mae mes yn tyfu'n goed derw nerthol, pan ddechreuom yn 1965 ein bwriad oedd darparu tai y gallai pobl leol eu fforddio. O’r 'fesen' honno o syniad, rydym erbyn hyn yn berchen ar ac yn rheoli dros 9,500 o gartrefi ledled Cymru. Mae gan ein cynllun busnes yr un thema â'r un a oedd gennym yn 1965. Erbyn hyn mae gennym ychydig yn rhagor o themâu - chwech ohonyn nhw, mewn gwirionedd. Chwe ffordd y byddwn yn parhau i dyfu mewn modd cynaliadwy i wneud gwahaniaeth i fywydau, cartrefi a chymunedau pobl.

Rhagor – cartrefi i bobl eu rhentu a’u prynu Buddsoddi – gwneud ein tai yn gynnes ac yn fforddiadwy Tyfu – cynhyrchu cyfleoedd o ddifrif i breswylwyr weithio Technoleg – staff a phreswylwyr yn manteisio i’r eithaf ar dechnoleg newydd Gofal – dod yn ddarparwr gofal a chefnogaeth rhagorol Bywydau – cefnogi preswylwyr i fanteisio i’r eithaf ar eu tenantiaethau

1 –Maer Wrecsam, y Cynghorydd David Bithell, yn ymweld â’n datblygiad newydd yn Hightown ar Kingsmills Road 2 – Plant yn Barracksfield, Wrecsam, yn gofalu am eu gwelyau plannu wedi’u codi 3 – Preswylwyr yn Nant y Môr wrth eu bodd yn eu mannau agored 4 – Chris Ruane AS yn agor yn swyddogol yr ardd gymunol newydd yn Buxton Court yn y Rhyl, Sir Ddinbych 5 - Carl Sargeant AC, y cyn Weinidog Tai ac Adfywio, yn ymweld â Llys Jasmine, datblygiad gofal ychwanegol / gofal dementia o’r radd flaenaf yn Sir y Fflint 6 - Tharniya Sivakumar, Mia Coates a Sujan Sivakumar yng Ngŵyl y Cenhedloedd yng Nghanolfan Adnoddau Cymunedol Hightown, Wrecsam


2 | Y Cynllun Busnes 2015 - 2019 | Tai Wales & West

O’n dechreuadau bychan… "O'n ddechreuadau bychan yng Nghaerdydd, fel mesen rydym ninnau wedi tyfu. Yn fy nghyfnod ar Fwrdd Tai Wales & West rwyf wedi gweld y sefydliad hwn yn ffynnu ac yn ehangu. Fel y dderwen nerthol, daw’r cryfder o fod â gwreiddiau da mewn cymunedau lleol, a bod yn sefydliad y gall pobl dibynnu arno. Mae ein cynllun yn ymwneud â'r nifer o ffyrdd y byddwn yn gwneud gwahaniaeth i fywydau ein preswylwyr. Yn Tai Wales & West rydym yn gwneud yr hyn rydym yn ei ddweud y byddwn yn ei wneud. Rydym yn malio am yr hyn rydym yn ei wneud, a dyna pam ein bod yn cyflawni'r hyn a wnawn." Kathy Smart, Cadeirydd WWH O’r chwith i’r dde: Huw Lewis, Aelod Cynulliad Merthyr Tudful a Rhymni, Kathy Smart, Cadeirydd WWH, un o’r preswylwyr, Pauline Protheroe, yn ei chartref newydd yn Vulcan Court ym Merthyr Tudful, a’r Cynghorydd Brendan Toomey, arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful


Tai Wales & West | Y Cynllun Busnes 2015 - 2019 | 3


4 | Y Cynllun Busnes 2015 - 2019 | Tai Wales & West

Yn hyderus am y dyfodol… Mae gwneud y peth iawn wedi dod yn fantra i ni, ac mae'r cynllun hwn ar gyfer y pum mlynedd nesaf yn amlinellu'r hyn a wnawn i wneud yn siŵr ein bod yn parhau i wneud gwahaniaeth i gymaint o bobl ag y gallwn. Ein huchelgais yw i bawb gael cartref y gallan nhw fod yn falch ohono, mewn lle maen nhw’n dymuno byw. Mae cartref yn llawer mwy na dim ond brics a morter - cartref yw lle’r ydym yn teimlo'n ddiogel ac yn rhan o gymuned. Dyma lle'r ydym yn perthyn, yn lle y gallwn dyfu ac aeddfedu. Yn syml, cartref yw'r sylfaen y bydd pawb ohonom yn adeiladu ein bywydau arno. Rydym yn fusnes cymdeithasol sy'n gwrando ar ein preswylwyr er mwyn i ni gyflawni'r hyn sydd o bwys iddyn nhw. Rydym yn fusnes cyfrifol sy'n gwneud y peth iawn yn y ffordd rydym yn trin ein preswylwyr, ein staff a'n partneriaid. Mae ein cryfder yn dod o fod yn fusnes 'cymdeithasol' a 'chyfrifol'. Rydym yn hyderus am y dyfodol, ac eisiau rhannu’r teimlad hwnnw gyda’n preswylwyr hefyd. Bydd y camau gweithredu yn y cynllun hwn yn helpu i gyflawni hynny. Anne, Shayne, Steve a Tony Os hoffech drafod unrhyw agwedd ar y cynllun hwn, rhowch ganiad i ni ar 02920 415335 neu e-bostiwch business.plan@wwha.co.uk


Tai Wales & West | Y Cynllun Busnes 2015 - 2019 | 5

O’r chwith i’r dde: Shayne Hembrow, y Dirprwy Brif Weithredwr/Cyfarwyddwr Masnachol, Anne Hinchey, y Prif Weithredwr, Steve Porter, y Cyfarwyddwr Gweithrediadau, a Tony Wilson, y Cyfarwyddwr Cyllid.


6 | Y Cynllun Busnes 2015 - 2019 | Tai Wales & West

6 Ein

thema

Carl Sargeant AC, y cyn Weinidog Tai ac Adfywio, yn agor yn swyddogol ein datblygiad newydd Gofal Ychwanegol / Gofal Dementia gwobredig, sef Llys Jasmine, yn yr Wyddgrug, Sir y Fint

Rhagor Buddsoddi Tyfu Technoleg Gofal Bywydau


Tai Wales & West | Y Cynllun Busnes 2015 - 2019 | 7


8 | Y Cynllun Busnes 2015 - 2019 | Tai Wales & West


Tai Wales & West | Y Cynllun Busnes 2015 - 2019 | 9

RHAGOR

Rydym eisiau parhau i adeiladu cymaint o gartrefi newydd ag y gallwn ei fforddio. Drwy wneud ein hunain yn fwy effeithlon a chael gwell gwerth am arian, rydym wedi gallu buddsoddi £54 miliwn mewn tai newydd yn y 3 blynedd diwethaf.

Ein bwriad yn ystod y pum mlynedd nesaf yw adeiladu dros 1,000 o gartrefi fforddiadwy newydd. Mae'r rhain yn cynnwys: -

870 o gartrefi teuluol fforddiadwy newydd o ansawdd uchel

-

38 o dai arbenigol o’r radd flaenaf ar gyfer pobl sy'n agored i niwed, fel y gallan nhw fyw bywydau gwell, llawnach a mwy annibynnol

-

92 o fflatiau wedi’u cynllunio’n dda i bobl hŷn fod yn berchen arnyn nhw neu eu rhentu

-

100 o gartrefi ar gyfer pobl sydd eisiau bod yn berchen ar eu cartref eu hunain

Rydym hefyd yn bwriadu: -

Prynu rhydd-ddaliad 400 o unedau lle mai ni yw'r lesddeiliad presennol

-

Lansio ein llyfr patrwm o gartrefi wedi’u cynllunio'n dda, sy’n gost effeithlon ac yn defnyddio ynni’n effeithlon, i'w prynu a'u rhentu

Symone Davies, ei mab, Ethan, a’i merch, Ffion, yn edrych ymlaen at symud i mewn i’w cartref newydd ar Town Mill Road yn y Bont-faen, Bro Morgannwg


10 | Y Cynllun Busnes 2015 - 2019 | Tai Wales & West


Tai Wales & West | Y Cynllun Busnes 2015 - 2019 | 11

BUDDSODDI Teimlwn yn gryf na ddylai unrhyw un fethu â fforddio cynhesu eu cartref, a’n bwriad yw gwneud popeth o fewn ein gallu i ddileu tlodi tanwydd. Rydym am wneud ein tai yn rhai o'r cynhesaf a mwyaf fforddiadwy i’w rhedeg yng Nghymru. Byddwn yn: -

Dylunio pecynnau effeithlonrwydd ynni ôl-osod pwrpasol ar gyfer pob un o'n cartrefi lle gallwn wneud hynny o fewn rheswm

-

Datblygu ymhellach ein cynlluniau buddsoddi i:

-

-

Greu gerddi a lleiniau llysiau cymunol

-

Ailfodelu tai hŷn i ddiwallu anghenion preswylwyr yn well

Cynnal Safon Ansawdd Tai Cymru ar gyfer ein holl gartrefi

Un o’n preswylwyr, Daisy Jones, gyda’i harddangosiadau blodeuol hyfryd yn Buxton Court yn y Rhyl, Sir Ddinbych


12 | Y Cynllun Busnes 2015 - 2019 | Tai Wales & West


TYFU Tai Wales & West | Y Cynllun Busnes 2015 - 2019 | 13

‘Creu cyfleoedd gwaith o ddifrif’ ar gyfer ein preswylwyr drwy ein hadnoddau ein hunain yn ogystal â’n rhwydwaith o bartneriaid yw ein pedwaredd thema. Rydym eisiau i'n preswylwyr wneud y defnydd gorau o'r sgiliau a'r cyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw. Yn y blynyddoedd a ddaw, byddwn yn: -

Gwneud defnydd llawn o Wasanaethau Cynnal a Chadw Cambria a Castell Ventures i greu cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant, gan ddechrau gyda Castell Catering

-

Gweithio gyda phreswylwyr i'w helpu i gael yr hyfforddiant sydd ei angen arnyn nhw, naill ai gan WWH neu gan bartneriaid

-

Defnyddio ein tîm menter gymdeithasol a chyflogaeth i gynnig pecynnau o gefnogaeth wedi ei deilwra i helpu i gael pobl i weithio neu i wirfoddoli

(Uchod) Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria yn gosod canolfan newydd Banc Bwyd Caerdydd Mae Flynn (ar y chwith) yn edrych ymlaen at helpu i arddio yn Ysgol Fabanod Ton Pentre, y Rhondda, diolch i’n cyfraniad o gyfarpar garddio


14 | Y Cynllun Busnes 2015 - 2019 | Tai Wales & West

TECHNOLEG

Pa un ai a ydym yn ei hoffi neu’n ei gasáu, mae technoleg yma i aros a bydd yn parhau i drawsnewid y ffordd rydym yn gweithio ac yn byw. Rydym ni wrth ein bodd gydag ef, ac rydym eisiau i bawb sy'n gweithio i ni ac sy’n byw yn ein cartrefi i gael y gorau o'r hyn sydd ar gael. Mae gennym lawer o gynlluniau, ac mae'r rhain yn cynnwys: -

Parhau i gyflwyno WiFi am ddim i breswylwyr

-

Asesu’r posibilrwydd o ehangu teleofal a gwasanaethau technoleg gynorthwyol eraill a gynigir gan Connect 24

-

Ehangu'r amrywiaeth o offer ac apiau sydd ar gael ar gyfer staff fel y gallan nhw wneud mwy i breswylwyr pan fyddan nhw yn y maes

-

Gwella sgiliau staff a phreswylwyr i wneud defnydd llawn o'r rhyngrwyd

-

Creu rhwydwaith o hyrwyddwyr digidol i hyrwyddo manteision bod ar-lein i breswylwyr

(Uchod) Myfyriwr o’r enw Jacob Durbin ac un o’n preswylwyr, Anne Halliday, yn mynd i’r afael â Facebook a Twitter yng nghynllun er ymddeol Oldwell Court, Caerdydd (Dde) Myfyriwr o’r enw Luke Moore yn helpu un o’n preswylwyr, Fred Austin, i ganfod ei ffordd o gwmpas y rhyngrwyd


Tai Wales & West | Y Cynllun Busnes 2015 - 2019 | 15


16 | Y Cynllun Busnes 2015 - 2019 | Tai Wales & West


Tai Wales & West | Y Cynllun Busnes 2015 - 2019 | 17

GOFAL Rydym yn gweld galw cynyddol gan ein preswylwyr ac eraill yn y gymuned am help gyda gwasanaethau gofal a chymorth. Rydym yn awyddus i ehangu amrywiaeth a graddfa ein gwasanaethau, ac felly byddwn yn: -

Gwella sgiliau ein holl staff i gynnal amrywiaeth ehangach o bobl sy'n agored i niwed mewn ffordd well

-

Gwella mynediad, arwyddion a dyluniad ein holl stoc i'w gwneud yn wirioneddol ystyriol o bobl â dementia, pobl â nam ar y golwg a phobl anabl

-

Cynyddu nifer ac amrywiaeth y cynlluniau tai â chymorth ar gyfer pobl ag anghenion cymhleth

(Uchod) Un o’n preswylwyr, Norma Thomas, yn mwynhau dosbarth ymarfer corff ysgafn, tra mae Jaclyn Bolton yn mwynhau ychydig o faldod gan y steilydd gwallt Denise yng nghynllun Gofal Ychwanegol Nant y Môr ym Mhrestatyn, Sir Ddinbych (Chwith) y preswylwyr Idwal Roberts a Walter McCleod yn ymlacio yng nghynllun Gofal Ychwanegol Llys Jasmine, yr Wyddgrug, Sir y Fflint


18 | Y Cynllun Busnes 2015 - 2019 | Tai Wales & West

BYWYDAU Mae cefnogi ein preswylwyr i wneud y gorau o'u tenantiaeth, a'u galluogi i barhau i fyw yn ein heiddo am gyhyd ag y dymunan nhw, yn bwysig iawn i ni. Rydym yn gwybod bod rhai o'n preswylwyr angen ychydig o help ychwanegol i wneud eu tŷ yn gartref. Yn y blynyddoedd nesaf byddwn yn: -

Parhau i helpu preswylwyr i ennill mwy, cyllidebu’n well a pheidio â mynd i ddyled

-

Archwilio mathau eraill o gymorth y gall pobl fod ei angen pan fyddan nhw’n dechrau eu tenantiaeth, fel cael gafael ar y tariffau tanwydd gorau, dodrefn a nwyddau gwyn ar eu cyfer eu hunain.

(Uchod) Un o’n preswylwyr, Viv Ellis, yn mwynhau cinio gyda’r Rheolwr Arlwyo Christine Wolstenholme yng nghynllun Gofal Ychwanegol Llys Jasmine, yr Wyddgrug, Sir y Fflint (dde) Carl Sargeant AC, y cyn Weinidog Tai ac Adfywio, yn sgwrsio gyda dau o’n preswylwyr, Brian a Joyce Bibb, am eu system wresogi adnewyddadwy yn Hywi, Powys


Tai Wales & West | Y Cynllun Busnes 2015 - 2019 | 19


20 | Y Cynllun Busnes 2015 - 2019 | Tai Wales & West

Sut rydym yn rhedeg WWH Mae sut rydym yn rhedeg y busnes yn cael effaith fawr ar ein preswylwyr, ein staff, yr amgylchedd a'n partneriaid. Mae bod yn gyfrifol yn gymdeithasol yn bwysig iawn i ni, ac yn syml iawn, dyna’r peth iawn i'w wneud. Wrth gyflawni ein chwe thema, mae rhai egwyddorion sy’n bwysig iawn i ni -

Byddwn yn byw ein gwerthoedd a bod yn deg, yn agored, yn gyfrifol, yn gefnogol ac yn effeithlon

-

Byddwn yn defnyddio ein hegwyddorion gweithredu er mwyn sicrhau bod preswylwyr wrth wraidd yr hyn a wnawn, a bod ein gwasanaethau yn cyflwyno'r hyn sy'n bwysig iddyn nhw

-

Byddwn yn buddsoddi’n ddoeth, yn foesegol ac yn rhedeg ein busnes i sicrhau'r gwerth gorau posibl i breswylwyr

-

Byddwn yn ceisio lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd

Os hoffech ragor o wybodaeth am sut rydym yn rhedeg WWH, gan gynnwys manylion am ein Bwrdd, ewch i www.wwha.co.uk Swyddog Tai Gogledd Cymru, Cath Marland, yn ymweld â’i phreswylwyr


Tai Wales & West | Y Cynllun Busnes 2015 - 2019 | 21

Lle’r ydym yn gweithredu Anghenion cyffredinol

249 Tai â Chymorth

Er ymddeol

Anghenion cyffredinol

32

Cyfanswm ar y safle yn awr

Perchnogaeth cartref

58

34

606

1

Gofal ychwanegol

Perchnogaeth cartref

36

wrthi'n datblygu

58

12

204

Anghenion cyffredinol

Er ymddeol

wrthi'n datblygu

Tai â Chymorth

Sir y Fflint

Wrecsam

71

wrthi'n datblygu

24

wrthi'n datblygu

Anghenion cyffredinol

774

38

Er ymddeol

104

158

49

63

Tai â Chymorth

Er ymddeol

Tai â Chymorth

19

Gofal ychwanegol

Sir Ddinbych

Iwrthi'n datblygu

137

137

Conwy

576

Er ymddeol

Perchnogaeth cartref

23

88

Cyfanswm Stoc

Anghenion cyffredinol

ck

632

6

wrthi'n datblygu

12

64

Er ymddeol

245

Perchnogaeth cartref

1

9,623

Powys

Perchnogaeth cartref

Er ymddeol

149

Perchnogaeth cartref

2

5

1

Rhondda Cynon Taf

Anghenion cyffredinol

31

Abertawe

Pe n ar -y-b Og on wr t

65

Perchnogaeth cartref

988

Tai â Chymorth

26

wrthi'n datblygu

40

Er ymddeol

106

Caerffili

wrthi'n datblygu

Caerdydd

57

Bro Morgannwg

General Needs Perchnogaeth cartref

33

305 Perchnogaeth cartref

166

247

128

wrthi'n datblygu

47

31

2,103

627

Er ymddeol

Perchnogaeth cartref

Anghenion cyffredinol

Perchnogaeth cartref Anghenion cyffredinol

Er ymddeol

Anghenion cyffredinol

92

l dfu r Tu rthy Me

64

243 Tai â Chymorth

Anghenion cyffredinol

ydfil

Anghenion cyffredinol

Er ymddeol

682

Tai â Chymorth

33

Ffigurau fel yr oedden nhw yn Awst 2014


22 | Y Cynllun Busnes 2015 - 2019 | Tai Wales & West

Cryfder ariannol Mae ein cryfder ariannol yn ein galluogi i wneud y peth iawn ar yr adeg iawn ar gyfer ein preswylwyr a'n heiddo, ac amsugno'r ergydion a ddaw yn sgil Diwygio Lles. Rydym yn disgwyl parhad gwargedau iach a byddwn yn ail-fuddsoddi hynny yn ein stoc tai presennol, gan sicrhau eu bod yn bodloni Safon Ansawdd Tai Cymru bob amser. Rydym hefyd yn gallu benthyg am gyfnodau hir ar gyfraddau llog isel a chael gafael ar gyllid grant, ac rydym yn rhagweld y bydd yn ein galluogi i dyfu ein stoc dai 12% ymhellach erbyn 2019. Bydd cyfanswm ein gwariant dros y pum mlynedd nesaf, sef dros ÂŁ300 miliwn, hefyd yn rhoi hwb economaidd sylweddol yn y cymunedau lle mae ein preswylwyr yn byw.


Tai Wales & West | Y Cynllun Busnes 2015 - 2019 | 23

Lesley Griffiths AC yn agor yn swyddogol Ganolfan Adnoddau Cymunedol Hightown, ynghyd â Phrif Weithredwr Tai Wales & West, Anne Hinchey, y Maer, y Cynghorydd David Bithell, Ian Lucas AS a disgyblion o Ysgol Bodhyfryd ac Ysgol Gynradd San Silyn


24 | Y Cynllun Busnes 2015 - 2019 | Tai Wales & West CYFRIF INCWM A GWARIANT ar gyfer y blynyddoedd yn diweddu 31 Rhagfyr Incwm Costau gweithredu Gwarged gweithredu Llog taladwy Gwarged net MANTOLEN fel yr oedd ar 31 Rhagfyr Cost eiddo gros Grant tai Dibrisiant Cost net eiddo Benthyciadau Asedau net eraill Asedau a chronfeydd wrth gefn net Cymhareb gerio (gwerth net) Cymhareb gerio (cost eiddo gros)

2015 £m 44.9 (33.2) 11.7 (6.0) 5.7

2016 £m 48.0 (36.2) 11.8 (6.5) 5.3

2017 £m 50.3 (37.6) 12.7 (7.4) 5.3

2015 2016 2017 £m £m £m 529.1 549.0 571.7 (281.9) (285.8) (294.4) (48.6) (54.8) (61.1) 198.6 208.4 216.2 (162.6) (170.1) (172.2) 20.3 23.4 22.9 56.3 61.7 66.9 48.1% 30.7%

49.0% 47.6% 31.0% 30.1%

2018 2019 £m £m 52.9 55.1 (39.1) (40.1) 13.8 15.0 (8.0) (8.9) 5.8 6.1

2018 £m 602.5 (303.8) (68.0) 230.7 (178.3) 20.3 72.7

2015 2019 £m 251.2 (186.2) 65.0 (36.8) 28.2

2019 £m 640.1 (314.2) (75.2) 250.7 (191.7) 19.9 78.9

47.4% 48.8% 29.6% 29.9%

(Isod) ein datblygiad newydd yn Hightown, Wrecsam (Dde) Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yng nghynllun Gofal Ychwanegol Llys Jasmine.


Wales & West Housing | The Business Plan 2015 to 2019 | 25

LLIF ARIAN ar gyfer y blynyddoedd yn diweddu 31 Rhagfyr Llif arian net o weithrediadau Taliadau llog net Gwariant amnewid cyfalaf Amnewid cydrannau Mewnlif arian parod rhydd Gwariant ar ddatblygu Grantiau All-lif arian net cyn cyllido Prif ddadansoddiad y benthyciadau cyfleuster hysbys - Gofyniad cyfleusterau ychwanegol Prif fenthyciadau ad-daliadau Cynnydd / (gostyngiad) net mewn arian parod TYBIAETHAU ar gyfer y blynyddoedd yn diweddu 31 Rhagfyr Chwyddiant Rhent Cyflogau Costau cynnal a chadw CPI

2015 £m 17.6 (5.8) (3.5) (8.3) 0.0 (29.8) 6.1 (23.7)

2016 £m 18.4 (6.5) (0.6) (7.2) 4.1 (12.7) 4.4 (4.2)

5.0 20.0 (2.0)

5.5 4.2 (2.2)

(0.7)

3.3

2015 Cynllun

2017 2018 2019 2015 £m £m £m 2019 £m 19.8 21.3 23.0 100.1 (7.4) (8.3) (9.0) (37.0) (0.6) (0.6) (0.7) (6.0) (6.0) (4.8) (6.8) (33.1) 5.8 7.6 6.5 24.0 (16.9) (25.9) (30.8) (116.1) 9.0 9.8 10.9 40.2 (2.1) (8.5) (13.4) (51.9) 0.0 0.0 0.0 4.9 23.9 16.2 (2.8) (17.8) (2.8) 0.0

(2.4)

10.5 69.2 (27.6)

0.0

0.2

2016 2017 2018 2019 Cynllun Cynllun Cynllun Cynllun

3.50% 3.25% 3.50% 2.00%

3.50% 3.25% 3.50% 2.00%

3.50% 3.25% 3.50% 2.00%

3.50% 3.25% 3.50% 2.00%

3.00% 3.25% 3.50% 2.00%

Cyfradd benthyciadau newydd

4.82%

5.14%

5.54%

5.84%

6.04%

Cyfradd grant

58%

Cyllido

Cwblhau tai

278

58% 183

58% 130

58% 160

58% 240


Tai Wales & West 3 Alexandra Gate, Ffordd Pengam, Tremorfa, Caerdydd CF24 2UD. ac Uned 2, Parc Busnes Acorn, Aber Road, y Fint CH6 5YN. Ffoniwch 0800 052 2526 E-bost: contactus@wwha.co.uk Gwefan: www.wwha.co.uk @wwha wwhahomesforwales

Cyhoeddwyd ym Medi 2014


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Y cynllun busnes 2015 to 2019 by Wales & West Housing - Issuu