Skip to main content

Intouch Gwanwyn 2015

Page 1

intouch RHIFYN 82 | GWANWYN 2015 | AM DDIM

Cylchgrawn preswylwyr Tai Wales & West

Yn y rhifyn hwn... Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth 2015 Sgamiau: peidiwch â chael eich twyllo Cynllun gofal ychwanegol o’r radd flaenaf yn dod i Bowys Ein hadroddiad chwarterol ar ei newydd wedd


Gwnewch wahaniaeth i’ch dyfodol...

Profiad gwaith

yn Tai Wales & West

Ydych chi’n ddi-waith ac yn dymuno datblygu sgiliau newydd? Rydym yn cynnig y cyfle i chi gymryd rhan mewn rhaglen profiad gwaith dros bythefnos yn ein prif swyddfa yng Nghaerdydd. Fe gewch chi:

• mynediad at hyfforddiant yn y gweithle

• asesiad sgiliau hanfodol (dewisol) • cyngor am gyfleoedd cyflogaeth pellach a hyfforddiant • tystysgrif cyflawniad • geirda • cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol mewn sgiliau cyflogadwyedd (dewisol)

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’n Tîm Menter Cymunedol Ffoniwch: 0800 052 2526 Testun: 07788 310 420 E-bost: contactus@wwha.co.uk


Newyddion a gwybodaeth gyffredinol | intouch | www.wwha.co.uk | 03

Llythyr y Golygydd Croeso i rifyn y gwanwyn InTouch - y cylchgrawn arbennig ar gyfer preswylwyr WWH lle gallwch ddod o hyd i’n newyddion diweddaraf a llawer o wybodaeth ddefnyddiol. Ddydd Gwener 6 Tachwedd, byddwn yn cynnal ein hwythfed Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth blynyddol yng Ngwesty’r Fro ger Caerdydd. Yn ddigwyddiad sydd wedi ei sefydlu’n gadarn fel uchafbwynt calendr WWH, mae’r gwobrau’n dathlu eich llwyddiannau rhyfeddol chi, ein preswylwyr, ac yn noson allan wych. Felly, os ydych yn adnabod rhywun sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’ch cymuned, rhywun sy’n mynd y filltir ychwanegol i helpu eraill neu sydd wedi troi eu bywyd o gwmpas, yna rydym eisiau clywed gennych chi! Cewch ragor o wybodaeth am y Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth, categorïau eleni a sut i enwebu ar dudalen 12. Gyda’r gwanwyn wedi cyrraedd erbyn hyn, mae llawer ohonoch yn brysur yn yr ardd. Fel y gwelwch yn ein hadran Byw’n Wyrdd, mae rhai preswylwyr wedi elwa’n ddiweddar ar help ychwanegol i brynu offer garddio, diolch i’n grant Gwneud Gwahaniaeth i’ch Amgylchedd (tudalen 26-27). Credir bod miliynau o bobl yn dioddef yn sgil sgamiau bob blwyddyn yn y Deyrnas Unedig. Yn ein hadran Materion Ariannol, cewch wybodaeth am rai o’r mathau mwyaf cyffredin o sgamiau a sut i amddiffyn eich hun rhagddyn nhw ar dudalen 18. Ac ar dudalen 28, mae Kristin, ein Hyfforddwr Cyflogaeth a Menter, yn rhoi ei hawgrymiadau ar brentisiaethau a swyddi haf i rai o’n preswylwyr iau. Rydym hefyd wedi ailwampio ein Hadroddiad Chwarterol, gyda gwedd newydd i’r graffeg gwybodaeth fel y gallwch weld yn glir sut rydym yn perfformio (tudalen 23). Hoffem wybod eich barn am ein harddull newydd, felly cysylltwch â ni i roi gwybod i ni. Rydym yn gobeithio y byddwch yn mwynhau’r rhifyn hwn o InTouch, a than y tro nesaf, hwyl i chi ar y darllen!

Cynnwys Newyddion a Gwybodaeth WWH Iechyd a Diogelwch Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth 2015 Cynnal a Chadw wedi ei gynllunio Raffl Fawr PH Materion Ariannol Y Diweddaraf am Elusennau Adroddiad Chwarterol Byw’n Wyrdd Gwaith. Sgiliau. Profiad Byw’n iach Eich Newyddion a’ch Safbwyntiau Penblwyddi a Dathliadau

04 10 12 14 16 17 20 23 26 28 30 32 38

Wyddech chi eich bod chi nawr yn gallu cael mwy o newyddion a diweddariadau ar-lein? Dilynwch ni ar twitter @wwha

Ieithoedd a fformatau eraill Os hoffech chi dderbyn copi o’r rhifyn hwn o In Touch yn y Saesneg neu mewn iaith neu fformat arall, er enghraifft, mewn print bras, rhowch wybod i ni ac fe wnawn ni eich helpu chi.

Cysylltu â ni

Tai Wales & West Cyf., 3 Alexandra Gate, Ffordd Pengam, Tremorfa, Caerdydd CF24 2UD Ffôn: 0800 052 2526 Testun: 07788 310420 E-bost: contactus@wwha.co.uk Gwefan: www.wwha.co.uk Gallwch hefyd gysylltu ag aelodau o staff yn uniongyrchol drwy e-bost. Er enghraifft, joe.bloggs@wwha.co.uk PEFC Certified This product is from sustainably managed forests and controlled sources PEFC/16-33-254

www.pefc.org


04 | www.wwha.co.uk | intouch | Newyddion a gwybodaeth gyffredinol

Ein hymrwymiad i’r Gymraeg

Mae Comisiynydd y Gymraeg yn edrych ar sut mae’r holl Gymdeithasau Tai yng Nghymru yn delio â’r Gymraeg ac yn diwallu anghenion siaradwyr Cymraeg. Cynhelir yr astudiaeth am 12 wythnos o ddiwedd mis Mai. Unwaith y bydd hi wedi cwblhau ei hastudiaeth, bydd Comisiynydd y Gymraeg yn gosod safonau newydd ar gyfer pob Cymdeithas Dai, gan gynnwys WWH. Bydd y safonau newydd yn cael eu cyflwyno yn hydref 2015 ac yn dod i rym yn 2016. Yn y cyfamser, os byddai’n well gennych gyfathrebu â ni yn Gymraeg ac nad ydych wedi rhoi gwybod i ni yn barod, cysylltwch â Mike Richards trwy: E-bost: Michael.richards@wwha.co.uk Ffôn: 0800 052 2526 Yn ysgrifenedig: Tai Wales & West, 3 Alexandra Gate, Ffordd Pengam, Caerdydd CF24 2UD Yna bydd Mike yn cysylltu i drafod y ffordd orau y gallwn ddiwallu eich anghenion.

Our commitment to the Welsh Language The Welsh Language Commissioner is looking at how all Housing Associations in Wales deal with the Welsh language and meet the needs of Welsh speakers. The study will take place for 12 weeks from the end of May. Once they have completed their study, the Welsh Language Commissioner will be setting new standards for each Housing Association, including WWH. The new standards will be introduced in the Autumn of 2015 and will come into force in 2016. In the meantime, if you would prefer to communicate with us in Welsh and have not already let us know, please contact Mike Richards by: Email: Michael.richards@wwha.co.uk Telephone: 0800 052 2526 In writing: Wales & West Housing, 3 Alexandra Gate, Ffordd Pengam, Cardiff CF24 2UD Mike will then get in touch to discuss the best way we can meet your needs.

Rhoi gwybod am newidiadau i’ch budd-daliadau Wyddech chi ei bod yn drosedd peidio â dweud wrth y Cyngor am newid mewn amgylchiadau sy’n effeithio ar eich hawl i gael budd-daliadau? Gallai hyn arwain atyn nhw’n cymryd camau yn eich erbyn, a allai gynnwys erlyniad. Mae’r mathau o newidiadau y mae angen i chi roi gwybod amdanynt yn cynnwys: • Os yw incwm unrhyw un ar yr aelwyd yn newid mewn unrhyw ffordd • Os byddwch yn symud, neu os byddwch yn gadael eich cartref am unrhyw gyfnod sy’n debygol o fod

yn fwy na 13 wythnos • Os bydd rhywun ar eich aelwyd yn dechrau neu’n rhoi’r gorau i dderbyn unrhyw fath o fudd-dal • Os bydd unrhyw rent a gewch gan is-denant yn cynyddu neu’n gostwng • Os bydd amgylchiadau’r rhywun ar yr aelwyd yn newid – e.e. yn dechrau gweithio, yn priodi, ac ati Os oes gennych unrhyw newid o’r fath sydd angen eu nodi, neu os oes gennych unrhyw ymholiad, cysylltwch â’ch Cyngor.


Newyddion a gwybodaeth gyffredinol | intouch | www.wwha.co.uk | 05

Anne Hinchey a’r hanesydd lleol Peter Metcalfe yn edrych ar yr arddangosfa yn Sgwâr y Canmlwyddiant yn y Fflint

WWH yn cofio am arwyr y Rhyfel Byd Cyntaf Mae arddangosfa deimladwy sy’n cofio dynion y Fflint a wasanaethodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf wedi cael ei ddadorchuddio yn agoriad un o gynlluniau mwyaf newydd WWH. Mae WWH wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r hanesydd lleol Peter Metcalfe i greu’r arddangosfa, sydd i’w gweld yn natblygiad newydd Sgwâr y Canmlwyddiant yng nghanol y Fflint. Mae’r cynllun o’r radd flaenaf sy’n werth £3.3 miliwn, ac a gyllidwyd yn rhannol gan Lywodraeth Cymru, wedi cael ei ddatblygu gan WWH mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint, a chaiff ei ystyried fel datblygiad blaenllaw yn adfywiad y Fflint, gan ddarparu 33 o fflatiau ar gyfer pobl dros 55 oed. Ar safle hen Swyddfeydd Cyngor Delyn yn Nhŷ’r Fflint yn y dref, wrth ymyl y senotaff, adeiladwyd yr adeilad pedwar llawr gan Anwyl Construction.

Mewn gweithred o goffáu, mae’r arddangosfa yn adrodd hanesion rhai o’r dynion lleol a aeth i frwydro yn Rhyfel Mawr 1914-1918 – ni ddaeth llawer ohonynt adref, yn anffodus. Trefnwyd yr arddangosfa ar ôl i’r hanesydd lleol Peter Metcalfe gytuno’n garedig i weithio gyda WWH ar y prosiect, ac mae’n canolbwyntio ar y dynion hynny sy’n ymddangos yn ei gyfrol ddiweddaraf, Remembered Again: Recalling Flint’s Fallen Heroes of the First World War. Dywedodd Anne Hinchey, Prif Weithredwr WWH,: “Nid adeiladu cartrefi yn unig yw gwaith WWH. Gan fod y cynllun wrth ymyl y senotaff, roeddem yn awyddus i ddangos parch i breswylwyr yn y Fflint drwy arddangos wal ar bob llawr ac yn y dderbynfa gydag arddangosfa ar y Rhyfel Mawr sy’n benodol i’r gymuned. “Hoffwn ddiolch yn arbennig i’r hanesydd lleol Peter Metcalfe ac aelodau o’r gymuned leol, sydd wedi cyfrannu at yr arddangosfa.”


06 | www.wwha.co.uk | intouch | Newyddion a gwybodaeth gyffredinol

Cymuned yn dod ynghyd ar gyfer

ymgyrch diogelwch y ffyrdd ​ aeth preswylwyr hen ac ifanc o Ystrad a D Phentre yn Rhondda Cynon Taf at ei gilydd yn ddiweddar i atgoffa gyrwyr a cherddwyr o ddiogelwch ar y ffyrdd yn yr ardal. Cafodd yr ymgyrch ei lansio gan Age Connects Morgannwg, yn dilyn pryderon a godwyd gan breswylwyr hŷn ynghylch digwyddiadau gyda thraffig ar yr A4058, a oedd wedi gwneud iddyn nhw deimlo’n agored i niwed wrth groesi’r ffordd, hyd yn oed ar groesfannau wedi’u marcio. Cefnogodd nifer o sefydliadau a busnesau lleol yr Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd ochr yn ochr â Heddlu De Cymru, Swyddogion Diogelwch y Ffyrdd y Cyngor, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Cymunedau yn Gyntaf a Fforwm 50+ y Rhondda. Cynhaliwyd gweithgareddau, arddangosfeydd a digwyddiadau gwybodaeth amrywiol drwy gydol yr wythnos i atgoffa pobl am beryglon gyrru’n beryglus a goryrru a sut mae hynny’n effeithio ar bawb. Cynhaliwyd digwyddiadau yn Ysgol Gynradd Bodringallt a dau o gynlluniau WWH -

Swyddogion Diogelwch y Ffyrdd o sioe Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn dangos i Margaret Thomas, un o’r preswylwyr, sut i ddefnyddio’r camera cyflymder

Llys Ben Bowen Thomas yn Ystrad a Llys Nasareth yn y Pentre. Dywedodd Shelley Bird o Age Connects Morgannwg, a arweiniodd yr ymgyrch: “Cawsom wythnos ffantastig yn ymgysylltu â’r gymuned ac yn gweithio gyda sefydliadau amrywiol, gwasanaethau brys ac unigolion allweddol. Ers i ni glywed y pryderon a godwyd gan breswylwyr hŷn yn yr ardal, ein nod yn y pen draw oedd dod â diogelwch ar y ffyrdd i flaen meddyliau pobl. Byddwn yn ailymweld â’r ymgyrch hon yn ystod wythnos Genedlaethol Diogelwch ar y Ffyrdd ym mis Tachwedd. Rydym yn gobeithio ein bod wedi gallu gwneud i yrwyr ‘feddwl’ a gwneud i breswylwyr deimlo’n fwy diogel wrth groesi’r ffordd.” Dywedodd Swyddog Tai WWH, Alex Morris: “Mae’n wych gweld y gymuned leol - gan gynnwys rhai o’i haelodau ieuengaf, yn ogystal â’i hynaf - yn cyd-dynnu a chefnogi’r ymgyrch yn llawn. Mae hi’n flwyddyn ein 50fed pen-blwydd fel cymdeithas dai, ac mae’r fenter diogelwch ar y ffyrdd hon yn enghraifft wych o natur WWH gwneud gwahaniaeth i fywydau, cartrefi a chymunedau pobl.”

Alex Morris a Laura Allcott o WWH gyda phreswylwyr ac asiantaethau partner yn yr ymgyrch diogelwch ar y ffyrdd yn Ystrad a Phentre


Newyddion a gwybodaeth gyffredinol | intouch | www.wwha.co.uk | 07

Rydym ar restr fer

Gwobr Busnes Cyfrifol! Mae WWH yn aelod o Fusnes yn y Gymuned Cymru - mudiad sy’n annog busnesau yng Nghymru i chwarae rhan weithredol wrth gefnogi eu cymunedau - ac rydym wrth ein bodd ni newydd gael ein cynnwys ar restr fer un o’u Gwobrau Busnes Cyfrifol. Pan fyddwn yn prynu unrhyw beth ar gyfer ein preswylwyr neu ein staff - yn ceginau, offer, gwisg neu unrhyw fath o gyfarpar, rydym yn awr yn defnyddio rhywbeth a elwir yn fatrics ‘Prynu Priodol’. Mae hyn yn ein helpu i farnu a yw’r cynnyrch a’r gwasanaethau rydym yn eu prynu nid yn unig yn cynrychioli’r gwerth gorau am arian, ond hefyd yn cefnogi’r amgylchedd, yn cynnig gwaith a chyfleoedd hyfforddi, a lle bynnag y bo’n bosibl, yn cadw’r bunt Gymreig yng Nghymru. Mae’r contractwyr rydym yn gweithio gyda nhw hefyd yn ein cefnogi mewn ffyrdd eraill drwy’r feddylfryd ‘Prynu Priodol’, llawer ohonyn nhw drwy noddi ein Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth blynyddol. Ac yn awr, ym mlwyddyn ein 50fed pen-blwydd, maen nhw hefyd yn cyfrannu at ein tair Cronfa Gwneud Gwahaniaeth newydd - Cymuned, Dyfodol a’r Amgylchedd.

Os ydych ar Twitter ac os hoffech wybod mwy am y gwaith rydym wedi ei wneud fel Busnes Cyfrifol, yna chwiliwch am #RBWeek. Fe welwch ein trydariadau, yn ogystal â’r rhai’r cwmnïau eraill sy’n cefnogi’r fenter. Oherwydd ein menter ‘Prynu Priodol’ yr ydym wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Busnesau Cynaliadwy BITC Cymru.

Cyhoeddir enwau’r enillwyr ym mis Mehefin mewn seremoni yn Stadiwm Dinas Caerdydd, felly cadwch olwg am fanylion!


08 | www.wwha.co.uk | intouch | Newyddion a gwybodaeth gyffredinol

Ydych chi’n Mae Grŵp Llywio Canolfan Adnoddau Cymunedol Hightown yn galw ar breswylwyr yn Wrecsam i gymryd rhan mewn tri phrosiect celf. Mae’r grŵp yn awyddus i fywiogi’r canol drwy fomio edafedd (arddangosfeydd lliwgar o edafedd neu ffibr gwau neu crosio), murlun ac arddangosfa ffotograffiaeth.

Os gallwch chi helpu, ffoniwch 0300 123 2070, neu galwch i mewn i’r ganolfan i weld Rheolwr y Ganolfan Libby Price. Mae llawer o bethau’n digwydd yng Nghanolfan Adnoddau Cymunedol Hightown – ewch i’w tudalen Facebook ar www.facebook.com/hightowncrc i weld yr amserlen o weithgareddau a digwyddiadau.

Ni yw’r cwmni nid-er-elw gorau yng Nghymru eto! Mae Cwmnïau Gorau’r Sunday Times 2015 wedi dyfarnu mai WWH yw’r busnes nid-erelw gorau yng Nghymru am y bedwaredd flwyddyn yn olynol. Fe wnaeth y sefydliad, sy’n dathlu ei 50fed blwyddyn, hefyd ennill Gwobr Arbennig Dysgu a Datblygu Cwmnïau Gorau’r Sunday Times 2015. Yn ogystal, cyrhaeddom y 3ydd safle ymhlith y busnesau nid-er-elw gorau

yn y Deyrnas Unedig – gan ddringo dau safle o’n safle yn 2014. Mae WWH yn rheoli 10,000 o dai fforddiadwy ledled Cymru, gan ddarparu cartrefi ar gyfer mwy na 17,500 o bobl. Mae’r sefydliad, sydd â rhaglen ddatblygu dros gyfnod o bum mlynedd sy’n werth £121 miliwn, a swyddfeydd yng Nghaerdydd a’r Fflint, hefyd yn cadw’r wobr tair seren mawr ei bri i’r Cwmnïau Gorau. Dywedodd y Prif Weithredwr Anne Hinchey: “Rydym yn ymfalchïo mewn bod yn gwmni sy’n cael ei yrru gan werthoedd - i fod yn deg, agored, cefnogol, effeithlon a chyfrifol - i’n staff, yn ogystal â phawb rydym yn gweithio gyda nhw ac ar eu cyfer.” Cadeirydd WWH, Kathy Smart, ac Anne Hinchey gyda Jonathan Austin, Prif Weithredwr y Cwmnïau Gorau


Newyddion a gwybodaeth gyffredinol | intouch | www.wwha.co.uk | 09

Gwasanaeth datganiad

pensiwn am ddim

Mae gwasanaeth am ddim gan y Llywodraeth i helpu miliynau o bobl ddeall eu Pensiwn y Wladwriaeth yn well wedi cael ei ehangu.

Gwasanaeth atebion

tai newydd Mae’r ffordd rydych yn gwneud cais am dai cymdeithasol yng Nghonwy a Sir y Fflint wedi newid. Mae’r ddau Gyngor a’u partneriaid tai cymdeithasol wedi dod ynghyd i greu Atebion Tai, sef llwybr mynediad sengl at dai (a elwid gynt yn SARTH).

Mae gwneud cais gyda phob darparwr tai yn unigol wedi dod yn rhywbeth sy’n perthyn i’r gorffennol, ac mae Atebion Tai erbyn hyn yn cynnig gwasanaeth newydd a fydd yn eich helpu i gael mynediad at amrywiaeth o ddewisiadau llety, gan gynnwys tai cymdeithasol, rhentu preifat a pherchnogaeth gyda chymorth cartref. Gallwch ymweld â’n gwefan, www.wwha.co.uk, i weld cwestiynau cyffredin ddefnyddiol i’ch helpu, ond os byddwch angen rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’n Tîm Dewisiadau Tai ar 0800 052 2526 neu’r awdurdod lleol perthnasol.

Gall unrhyw un dros 55 oed yn awr ofyn am ddatganiad Pensiwn y Wladwriaeth personol, a fydd yn rhoi amcangyfrif o’r hyn maen nhw’n debygol o’i dderbyn yn seiliedig ar eu cofnod Yswiriant Gwladol cyfredol. Yn flaenorol, roedd y cynllun yn agored i bobl dros 60 oed yn unig. Bydd ymestyn y gwasanaeth yn arfogi pobl gyda gwybodaeth hanfodol wrth iddyn nhw ystyried eu dewisiadau o dan y rheolau newydd. Dywedodd Steve Webb, y Gweinidog dros Bensiynau: “Rwyf bob amser wedi dweud yn glir y dylai pobl gael y rhyddid i wneud eu penderfyniadau ariannol eu hunain - ond mae’n hanfodol fod pawb yn cael yr holl wybodaeth i’w helpu i wneud y dewisiadau cywir. “Rydym yn gwneud yn siŵr fod pobl yn cael yr adnoddau a’r cymorth maen nhw ei angen... fel y gallan nhw gymryd yr amser i gynllunio sut i ddefnyddio eu cynilion pensiwn yn y ffordd orau ar gyfer ymddeoliad diogel.” I gael datganiad Pensiwn y Wladwriaeth, ffoniwch Canolfan Bensiwn Newcastle (Futures Group) ar 0345 3000168 (ffôn testun: 0845 3000169). Yn ogystal, gellir cael datganiadau drwy llwytho’r ffurflen gais i lawr oddi ar wefan gov.uk


10 | www.wwha.co.uk | intouch | Iechyd a diogelwch

Cymuned yn elwa o gael diffibriliwr Mae’n ffaith frawychus fod llawer o drefi heb unrhyw diffibriliwr sydd ar gael i’r gymuned, dim ond y rhai mewn ysbytai. Roedd Kara Foulkes, Rheolwr Cynllun gofal ychwanegol Llys Jasmine yn yr Wyddgrug, yn ymwybodol o hyn, ac yn awyddus i wneud rhywbeth yn ei gylch. “Roeddwn yn pryderu y gallai preswylwyr sydd â salwch sy’n gysylltiedig â’r galon aros am amser hir am ambiwlans, o bosibl – sefyllfa a allai fod yn fater o fyw neu farw. “Felly pe baem yn llwyddo i gael diffibriliwr yn y cynllun, gyda staff wedi’u hyfforddi ar sut i’w ddefnyddio, gallem helpu i achub bywydau wrth aros i ambiwlans gyrraedd.” Roedd un o gyn-breswylwyr Llys Jasmine wedi gadael rhywfaint o arian yn eu hewyllys i ni, a syniadau cychwynnol Kara oedd rhoi’r arian tuag at ddiffibriliwr. Ymgynghorodd â’r preswylwyr a oedd i gyd yn gefnogol o’i chynnig. Yna, ymchwiliodd Kara i’r math gorau o offer sydd ei angen yn y mathau hyn o gynlluniau i wneud yn siŵr y gallai WWH ddarparu’r cymorth gorau i breswylwyr a’r gwasanaethau brys. Cafodd yr achos busnes ei dderbyn. Yna gweithiodd Kara gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru (WAS) i ddod o hyd i’r diffibriliwr gorau a mwyaf addas, ynghyd â phadiau ac offer hyfforddi. Darparodd parafeddygon fatris am ddim, a gellir llwytho i lawr y data o’r

Y Rheolwr Cynllun Kara Foulkes gyda’r diffibriliwr sydd newydd gael ei osod yng nghynllun gofal ychwanegol Llys Jasmine.

diffibriliwr pe bai angen am adroddiad crwner. Darparodd y Groes Goch Brydeinig hyfforddiant ar gyfer nifer o staff WWH a staff gofal. “Erbyn hyn, mae gan yr Wyddgrug ei diffibriliwr ei hun ar gyfer y gymuned, ac mae hefyd wedi cael ei chofrestru gyda WAS.” Meddai Kara. “Mae’r meddygon yn y feddygfa drws nesaf, er enghraifft, yn gallu ei ddefnyddio pan fyddan nhw’n defnyddio cod arbennig, yn ogystal â’r rhai mewn byngalos a fflatiau byw â chymorth gerllaw. “Mae hwn wedi bod yn gam cadarnhaol – mae cynllun gofal ychwanegol Nant y Môr ym Mhrestatyn yn mynd i gael un hefyd. Nid oedd angen i Tai Wales & West wneud hyn, ond roeddem yn cydnabod anghenion ein preswylwyr a’r gymuned leol, ac fe wnaethon ni rywbeth yn ei gylch.” A yw’r diffibriliwr wedi cael ei ddefnyddio eto? “Na,” meddai Kara. “Ond y gwahaniaeth yn ein bod yn gwybod ei fod yno pan fydd ei angen arnom.”


Iechyd a diogelwch | intouch | www.wwha.co.uk | 11

Cadwch eich cartref yn ddiogel pan fyddwch yn defnyddio canhwyllau Wyddech chi mai canhwyllau bach, canhwyllau, arogldarthau a llosgwyr olew yw rhai o’r achosion pennaf o danau yn y cartref? Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae eitemau o’r fath wedi dod yn fwy a mwy poblogaidd fel ffordd o helpu pobl i ymlacio yn eu cartrefi - sydd hefyd wedi gweld cynnydd yn nifer y digwyddiadau yn gysylltiedig â thân. Dyma rai awgrymiadau defnyddiol i helpu i gadw eich cartref yn ddiogel: • Rhowch ganhwyllau ar arwyneb sy’n gwrthsefyll gwres bob amser. Byddwch yn arbennig o ofalus gyda goleuadau nos a chanhwyllau bach, sy’n mynd yn ddigon poeth i doddi plastig. A chofiwch, nid yw setiau teledu ac arwynebau plastig eraill yn gallu gwrthsefyll gwres. • Rhowch nhw mewn canhwyllbren go iawn. Mae angen i ganhwyllau fod yn unionsyth a sownd yn y canhwyllbren fel na fyddan nhw’n syrthio. • Cofiwch bob amser adael o leiaf 10cm (4 modfedd) rhwng canhwyllau a chanhwyllau bach sydd ynghynn. • Peidiwch byth â’u rhoi dan silffoedd neu mewn mannau caeedig eraill. • Cadwch ganhwyllau, canhwyllau bach, matsis a thanwyr allan o gyrraedd plant ac anifeiliaid anwes.

Difrod gan dân a achoswyd gan gannwyll fach a adawyd ynghynn mewn cartref yn Llundain

• Peidiwch â rhoi canhwyllau ger llenni, dodrefn nac unrhyw beth arall a all fynd ar dân, fel eich gwallt a dillad llac. • Diffoddwch ganhwyllau a chanhwyllau bach bob amser a’u gadael i oeri cyn i chi geisio eu symud. • Peidiwch byth â gadael canhwyllau na chanhwyllau bach ynghynn heb oruchwyliaeth. • Gwnewch yn siŵr eu bod wedi diffodd. Gall canhwyllau sydd wedi cael eu diffodd barhau i fudlosgi a dechrau tân. Gwnewch yn siŵr eu bod wedi eu diffodd yn llwyr. • Defnyddiwch ddiffoddwr canhwyllau neu lwy i’w diffodd. Mae’n fwy diogel na’u chwythu, sy’n gallu tasgu gwreichion a chwyr poeth.


12 | www.wwha.co.uk | intouch | Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth 2015 Garddwr gorau Mae’r categori hwn yn ymwneud â dathlu garddwyr gwych y mae eu gwaith called wedi gwneud rhywle’n hyfryd ac yn bywiogi’r gymuned. Yn agored i rai o bob oedran, yn grwpiau ac unigolion. Mae tystiolaeth ffotograffig yn hanfodol ar gyfer y wobr hon. Dechrau o’r Newydd Mae’r categori hwn yn ymwneud â phobl ryfeddol sydd wedi goresgyn cyfnod anodd i newid eu bywyd er gwell. Efallai eu bod wedi goresgyn salwch, wedi cefnogi aelodau o’r teulu drwy adegau anodd neu wedi dychwelyd i’r gwaith / at addysg ar ôl amser hir i ffwrdd. Ar agor i unigolion o bob oedran. Ddydd Gwener 6 Tachwedd, 2015, byddwn yn cynnal ein hwythfed seremoni Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth blynyddol yng Ngwesty’r Fro ym Mro Morgannwg. Mae ein Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth yn cydnabod ac yn dathlu’r rhai sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl eraill. Rydych yn gwybod pwy ydyn nhw - arwyr di-glod eich cymuned, pobl gyffredin yn gwneud pethau anghyffredin. Dyma eich cyfle i ddangos eich gwerthfawrogiad o’r unigolion hyn.

Y Categorïau Prosiect Cymunedol A yw rhywun wedi gwneud rhywbeth yn eich cymdogaeth sydd wedi newid bywyd eich ardal er gwell? Mae’r categori hwn yn agored i unigolion neu grwpiau o bob oed, a gall y prosiect ymwneud ag unrhyw beth o gwbl sydd wedi bod o fudd i’ch cymuned. Cymydog Da Mae gan gymdogion glust i wrando, dwylo sy’n helpu, a chalon gynnes. Rydym yn awyddus i gydnabod y bobl hynny y mae eu gweithredoedd ‘bach’ o ddydd i ddydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywyd rhywun arall. Mae’r categori hwn yn agored i unigolion o bob oed.

Arwr lleol Mae’r wobr hon yn dathlu cyflawniadau rhyfeddol y rhai sy’n mynd y filltir ychwanegol i helpu eraill, neu’r gymuned yn ei chyfanrwydd. Mae’n agored i grwpiau neu unigolion o unrhyw oedran. Eco Bencampwr Ydych chi’n adnabod rhywun sy’n frwd dros ailgylchu? Ydyn nhw’n trefnu sesiynau codi sbwriel? Ydyn nhw wedi dechrau tyfu eu ffrwythau a’u llysiau eu hunain? Rydym yn chwilio am unigolion neu grwpiau o unrhyw oedran sy’n gwneud yr ymdrech pan ddaw’n fater o fod yn ‘fwy gwyrdd’. Seren ddisglair Yn newydd ar gyfer 2015, mae’r categori hwn yn dathlu’r cyfraniadau pobl ifanc at ein cymunedau. Yn agored i’n preswylwyr (neu’r rhai sy’n gweithio’n agos gyda hwy) sy’n 25 oed neu’n iau, ac sydd wedi cael effaith sylweddol a chadarnhaol ar eu cymuned.

Os hoffech enwebu rhywun arbennig, ffoniwch Keri neu Sharon yn ein Tîm Cyfathrebu ar 0800 052 2526 – gallwch enwebu dros y ffôn neu gallwn anfon ffurflen enwebu atoch. Y dyddiad cau ar gyfer eich enwebiadau yw dydd Gwener 4 Medi 2015.


Datblygiadau diweddaraf | intouch | www.wwha.co.uk | 13

Cartrefi newydd ym Merthyr Tudful diolch i bartneriaeth gydag eglwys Mae gwaith wedi dechrau ar ddatblygiad tai arloesol newydd ym Merthyr Tudful lle bydd 13 o gartrefi fforddiadwy yn cael eu hadeiladu ar y safle lle safai eglwys yn flaenorol. Mae WWH yn gweithio mewn partneriaeth â’r Eglwys yng Nghymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a Llywodraeth Cymru i ddarparu rhagor o dai fforddiadwy ar gyfer yr ardal. Bydd saith o dai newydd a chwe fflat yn cael eu datblygu ar safle hen eglwys Sant Pedr a Sant Paul yn Abercannaid. Bydd gwerthu’r tir gan yr Eglwys yng Nghymru yn hwyluso gwella’r gofod cymunedol ac addoli ar hyn o bryd. Mae’r datblygiad yn cael ei gyllido gan WWH a Grant Cyllid Tai Llywodraeth Cymru. Cafodd y cytundeb - y cyntaf o’i fath yng Nghymru - rhwng yr Eglwys yng Nghymru a WWH ei drefnu gan Ffydd mewn Tai Fforddiadwy. Contractwr Cymunedau Greenwich wedi newydd ddechrau ar y safle a disgwylir i’r cartrefi gael eu cwblhau erbyn mis Ionawr 2016. Fe fyddan nhw ar gael am rent fforddiadwy drwy WWH a chynllun Dewis Tai Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.

Bydd y bartneriaeth yn dod â 13 o gartrefi newydd i Abercanaid, Merthyr Tudful

Dywedodd Anne Hinchey, Prif Weithredwr WWH,: “Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous yn Abercannaid a fydd yn darparu tai newydd fforddiadwy ar safle eglwys nad oedd yn cael ei defnyddio, yn ogystal â chyfleuster eglwys newydd sbon ar gyfer cynulleidfa Sant Pedr a Sant Paul, a’r gymuned gyfagos. Mae gennym bartneriaeth gref gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, ac mae hyn yn enghraifft arall o hynny ar waith.” Dywedodd Alex Glanville, pennaeth Gwasanaethau Eiddo’r Eglwys yng Nghymru: “Mae’r Eglwys yng Nghymru yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Tai Wales & West ar y prosiect hwn yn Abercannaid. Mae’n arwydd o’n hymrwymiad i wasanaethu cymunedau Cymru drwy ganiatáu i’n tir gael ei ddefnyddio i adeiladu tai i helpu’r rhai sydd mewn angen, yn ogystal â darparu cyfleusterau modern ar gyfer gweithgareddau addoli a chymunedol.” Dywedodd Sharon Lee o Ffydd mewn Tai Fforddiadwy, “Rwy’n falch iawn y bydd y datblygiad hwn yn dod â chartrefi y mae eu hangen yn fawr i bobl ym Merthyr Tudful. Llwyddodd prosiect Ffydd mewn Tai Fforddiadwy i ddod â’r eglwys a Tai Wales & West at ei gilydd i wneud i hyn ddigwydd. Rwy’n arbennig o falch fod hyn yn digwydd lle magwyd fi hefyd.” I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun, ac i gofrestru eich diddordeb, ffoniwch ein Tîm Dewisiadau Tai ar 0800 052 2526.


14 | www.wwha.co.uk | intouch | Datblygiadau diweddaraf

Argraff arlunydd o’r cynllun newydd

Cynllun gofal ychwanegol o’r radd flaenaf

yn dod i’r Drenewydd, Powys Mae WWH a Chyngor Sir Powys yn gweithio mewn partneriaeth ar ddatblygu cynllun gofal ychwanegol newydd o’r radd flaenaf yn nhref hyfryd y Drenewydd, Powys. Bydd y cynllun newydd cyffrous hwn yn darparu llety o’r radd flaenaf ar gyfer pobl dros 55 oed sydd ag anghenion gofal a chymorth. Wedi ei leoli ar Ffordd Cambrian, yn edrych dros afon brydferth Hafren, bydd y datblygiad yn cynnwys 39 o fflatiau gofal ychwanegol a fydd

yn elwa ar lawer o nodweddion yn ein dau gynllun gofal ychwanegol presennol, sef Nant y Môr ym Mhrestatyn, Sir Ddinbych a Llys Jasmine yn yr Wyddgrug, Sir y Fflint. Mae disgwyl y bydd y datblygiad gofal ychwanegol newydd yn Severnside yn cael ei gwblhau yn ystod haf 2016. Mae mynegiadau o ddiddordeb yn cael eu croesawu yn awr gan bobl dros 55 oed a fyddai’n elwa ar ddewisiadau gofal a chymorth a ddarperir gan dai gofal ychwanegol. Rhoddir blaenoriaeth i bobl sy’n byw ym Mhowys yn barod.

Os hoffech ragor o wybodaeth am ein cynllun gofal ychwanegol diweddaraf yn y Drenewydd, cysylltwch â’n Tîm Dewisiadau Tai ar 0800 052 2526, neu e-bostiwch y tîm drwy housingoptionsteam@wwha.co.uk Fel arall, gallwch ffonio Rhian Marsh, y Swyddog Tai, ar 07539 118 684 neu e-bostio rhian.marsh@wwha.co.uk


Cynnal a chadw wedi’i gynllunio | intouch | www.wwha.co.uk | 15

Beryl Haslam, un o’r preswylwyr, yn edrych drwy un o’i ffenestri newydd ar ei gardd islaw yn Sydney Hall Court

Cynnal a chadw wedi’i gynllunio

Ffenestr newydd ar fywyd Mae Beryl Haslam wedi byw yn Sydney Hall Court, Cei Connah, am naw mlynedd, ac mae hi wedi mwynhau edrych allan o’i ffenestri ar ei gardd ar hyd y cyfnod hwnnw. Fel rhan o’r rhaglen cynnal a chadw wedi’i gynllunio, mae Cambria Maintenance wedi gosod ffenestri newydd yn lle’r hen rai drwy gydol y cynllun.

“Rydw i’n hoffi fy ffenestri yn fawr iawn – maen nhw’n well nag o’r blaen,” meddai Beryl. “Roedd gweithwyr Cambria yn neis ac fe wnaethon nhw waith da.”

Isod, rhestrir y cartrefi rydym yn bwriadu eu huwchraddio yn nhrydydd chwarter 2015: Ceginau Oak Court, Penarth, Bro Morgannwg Parhau gyda: Powell Road, Bwcle, Sir y Fflint Becketts Lane, Bwcle, Sir y Fflint Ystafelloedd ymolchi Great Western Court, Caerdydd

Ffenestri yn unig Hanover Court, Llandudno, Conwy Ffenestri a drysau Finch Court, Llandrindod, Powys Heighway Court, Llandrindod, Powys Llys Heulog, Llandrindod, Powys


16 | www.wwha.co.uk | intouch | Raffl fawr PH Jones

Raffl fawr PH Jones Cyfle i ENNILL £250, siampên, siocledi a thusw o flodau!

Gallech chi fod yn ENILLYDD! Yn syml, sicrhewch fod eich boeler nwy yn cael ei wasanaethu ar yr apwyntiad cyntaf, neu roi o leiaf 48 awr o rybudd i aildrefnu’r ymweliad ar gyfer adeg sy’n fwy cyfleus i chi. Ein henillydd diweddaraf yng Ngogledd Cymru yw Mrs Gregory o Wrecsam, sydd i’w gweld yn y llun gyda’i gwobrau. Cafodd ei synnu’n fawr! Mr Harry Vane o Dwyncarmel ym Merthyr Tudful yw ein henillydd diweddaraf o Dde Cymru. Roedd yn falch iawn ei fod wedi ennill, a bu’n ddigon caredig i roi ei flodau a’i nwyddau i elusen staff WWH, Ymchwil Canser Cymru.

Mrs Gregory o Wrecsam

Fe wnaeth Mr Jones o’r Pentre yn y Rhondda (yn y llun) ennill yn 3ydd chwarter 2014 hefyd. Dywedodd Mr Jones y bydd yn defnyddio ei £250 i addurno ei gyntedd.

£

£

£

Mr Jones o’r Pentre, Rhondda


Materion ariannol | intouch | www.wwha.co.uk | 17

Siopau rhentu-i-brynu: ydyn nhw’n addas i chi? Pa un ai symud i gartref newydd ydych chi neu’n adnewyddu eitemau sydd wedi bod gennych ers blynyddoedd, mae pob un ohonom angen gwario symiau mawr o arian o bryd i’w gilydd i brynu nwyddau newydd i’r cartref. Fodd bynnag, nid oes gan lawer o bobl yr arian i brynu eitemau’n llwyr, ac yn hytrach maen nhw’n prynu drwy siopau rhentu-ibrynu (a elwir hefyd yn siopau hurbwrcas) fel BrightHouse, Buy As You View a PerfectHome. Er y gallan nhw ymddangos yn hawdd ac yn fforddiadwy, mae’r cyfanswm a dalwch wrth brynu nwyddau o siopau o’r fath mewn gwirionedd yn llawer mwy na gwerth yr eitem. Er enghraifft, cafodd teledu Plasma 3D clyfar 50” LG o siop adnabyddus rhentu-i-brynu ei hysbysebu’n ddiweddar am bris arian parod o £1299.99, gyda chynllun ad-dalu wythnosol o £14.46 dros 156 o wythnosau - cyfanswm o £2255.76. Roedd yr un teledu mewn siop dechnoleg boblogaidd ar y stryd fawr yn costio dim ond £619. Dyna wahaniaeth o £1636.76! Os ydych chi eisiau rhywbeth ac nad oes gennych y modd i dalu amdano ymlaen llaw, gofynnwch i chi eich hun a ydych ei angen o ddifrif. Y dewis gorau fyddai cynilo ar gyfer yr eitem, ond os oes angen i chi fenthyg arian, mae’n gwneud synnwyr gwybod beth yw eich dewisiadau o ran benthyca ar gyfradd llog is. Cardiau credyd llog 0%: Os oes gennych sgôr credyd da, bydd eich dewis yn fwy, ond hyd yn oed os oes gennych sgôr credyd gwael, gallwch gael cerdyn credyd 0% o hyd, ond dros gyfnod byrrach o fenthyca fel arfer. Mae’n rhaid i chi sicrhau eich bod yn talu yn ôl o leiaf yr isafswm bob mis ac mae angen i chi hefyd dalu yn ôl yn llawn cyn diwedd y cyfnod 0%. Os oes gennych gofnod credyd gwael yn barod, defnyddiwch y cyfnod 0%

hwn i glirio rhai o’ch dyledion presennol, yn hytrach na chronni rhagor o ddyled. Benthyciadau banc: Fel cerdyn credyd, mae benthyciad gan eich banc yn caniatáu i chi ad-dalu swm penodol bob mis dros gyfnod o amser y cytunwyd arno. Os ydych yn cael budd-daliadau yn seiliedig ar incwm (cymhorthdal incwm, credyd pensiwn, Lwfans Ceisio Gwaith, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth) efallai y gallwch gael benthyciad cyllidebu di-log gan yr Adran Gwaith a Phensiynau - siaradwch gyda’ch canolfan waith leol am ragor o wybodaeth. Undebau credyd: Gall pobl sy’n cynilo gyda’u hundeb credyd lleol yn barod fanteisio ar gredyd hyd at dair gwaith swm eu cynilion am dâl o 1% y mis (12.6% APR). Mae’r rhai nad ydyn nhw’n gwsmeriaid presennol, ond sydd angen benthyca mewn argyfwng, yn gallu benthyca hyd at £500 gyda thâl llog o 2% y mis (26% APR). Bydd undebau credyd bob amser yn rhoi benthyg yn gyfrifol ac yn trefnu cyllideb realistig gyda chwsmeriaid. Moneyline Cymru: Mae’r sefydliad hwn ar gael i bobl nad ydyn nhw’n gallu cael cerdyn credyd, na benthyciad gan fanc nac Undeb Credyd. Maen nhw’n fenthycwyr cyfrifol ac yn fwy fforddiadwy na benthycwyr ar garreg y drws. Gallwch gysylltu â Moneyline Cymru ar 0845 643 1553 neu ewch i moneyline-uk.com Am ragor o gyngor, siaradwch gyda’ch Swyddog Cefnogi Tenantiaeth neu cysylltwch â:

Step Change - 0800 138 1111 neu ewch i www.stepchange.org Llinell Ddyled Genedlaethol 0808 808 4000 neu ewch i www.nationaldebtline.org Y Gwasanaeth Cynghori Ariannol 0300 500 5000 neu ewch i www.moneyadviceservice.org.uk


Sgamiau:

18 | www.wwha.co.uk | intouch | Materion ariannol

Peidiwch â chael eich twyllo Mae sgamiau yn gynlluniau twyllodrus i’ch twyllo chi ynghylch arian - amcangyfrifir bod miliynau o bobl yn y Deyrnas Unedig yn dioddef bob blwyddyn. Yn yr erthygl hon, mae Mike Shears, Cynghorydd Tactegol Lleihau Troseddau ar gyfer Heddlu De Cymru, yn rhoi cyngor ar sut i sylwi ar sgam a chadw eich arian yn ddiogel.

Mathau cyffredin o sgamiau

Sgamiau ar garreg y drws: Y rhain yw pan fydd twyllwyr yn ceisio eich sgamio ar ôl curo ar eich drws. Gall twyll ar garreg y drws fod ar sawl ffurf, gan gynnwys: gwerthu dan bwysau, contractau annheg, gwaith adeiladu afresymol o ddrud neu isel ei safon, arolygon defnyddwyr ffug a chasgliadau elusennol ffug. Mae achosion o dwyll o’r fath yn cynnwys hyrwyddo nwyddau neu wasanaethau sydd naill ai byth yn eu darparu, neu sydd o ansawdd gwael iawn. Gall twyllwyr hefyd eich bilio am waith na chytunoch y byddai’n cael ei wneud.

Sgamiau drwy’r post: Mae llawer o sgamiau post marchnata torfol yn eich twyllo drwy gymryd eich arian neu ofyn i chi ddarparu eich manylion banc yn y gred y byddwch yn ennill gwobr ariannol. Cofiwch bob amser na allwch ennill arian na gwobr mewn cystadleuaeth os nad ydych wedi rhoi cynnig ar y gystadleuaeth honno! Ac ni ddylech orfod talu ffi i hawlio gwobr mewn cystadleuaeth gyfreithlon. Sgamiau ar-lein: Gall y sgamiau hyn fod yn fwy anodd sylwi arnyn nhw weithiau, felly byddwch yn ofalus pan fyddwch chi ar y we. Peidiwch ag agor atodiadau negeseuon e-bost na ofynnwyd amdanyn nhw, gan y gallen nhw gynnwys firws, a pheidiwch byth ag ymateb i geisiadau e-bost sy’n ymddangos fel eu bod wedi eu hanfon gan fanciau, marchnadfeydd ar-lein ac ati sy’n gwneud cais am wybodaeth bersonol neu gyfrineiriau. Os ydych yn aelod o’r safle mynd ar ddêt, peidiwch â chyflwyno eich gwybodaeth bersonol a pheidiwch byth ag ymateb i geisiadau am arian, waeth pa mor ddilys y gall stori’r unigolyn arall ymddangos.


Materion ariannol | intouch | www.wwha.co.uk | 19 Sgamiau dros y ffôn a ffônau symudol: Un sgam gyffredin dros y ffôn yw derbyn galwad gan rywun sy’n honni ei fod/ei bod yn cynrychioli eich banc neu hyd yn oed yr heddlu. Fe fyddan nhw’n dweud wrthych fod yna weithgarwch twyllodrus ar eich cyfrif banc ac yna’n gofyn i chi am fanylion cyfrinair a PIN. PEIDIWCH BYTH â datgelu’r manylion hyn dros y ffôn. Ni fydd eich banc na’r awdurdodau yn gofyn i chi am wybodaeth o’r fath. Gyda negeseuon testun, byddwch yn wyliadwrus o negeseuon testun sy’n dweud eich bod wedi ennill gwobr gallech fod yn talu hyd at £2 y neges destun drwy ateb. Yn ogystal, os ydych yn derbyn negeseuon sy’n cynnig arian i chi yn sgil damwain, peidiwch ag ateb gyda’r gair STOP - gall hyn fod yn ffordd o gael manylion personol.

Cofiwch: Os yw’n swnio’n

Rhy dda i fod yn wir,

Mae’n debygol o fod yn ffug! ActionFraud yw canolfan genedlaethol y Deyrnas Unedig ar gyfer rhoi gwybod am dwyll a throseddau ar y rhyngrwyd. Os gwelwch sgam, neu os cawsoch eich twyllo, rhowch wybod. Gallwch gysylltu ag ActionFraud ar 0300 123 2040 neu ar-lein: www.actionfraud.police.uk

Cyngor doeth i

amddiffyn eich hunan • Peidiwch byth â rhoi gwybodaeth bersonol na chyfrineiriau oni bai eich bod 100% yn siŵr o gyfreithlondeb yr unigolyn. • Dinistriwch wybodaeth bersonol cyn ei daflu i ffwrdd – torrwch gardiau banc a charpiwch ddogfennau. • Peidiwch â chofrestru ar gyfer elusennau, cynnyrch, cystadlaethau ac ati oni bai eich bod wedi ymchwilio i’r cwmni neu’r elusen. • Peidiwch byth ag anfon neu roi arian i rywun nad ydych yn eu hadnabod. • Peidiwch ag anfon unrhyw arian na thalu ffioedd i hawlio gwobrau neu enillion loteri. • Ewch i wefan Action Fraud (www.actionfraud.police.uk) am ragor o gyngor am sgamiau, neu llwythwch i lawr ‘The little book of big scams’ o wefan yr Heddlu Metropolitan www.met.police.uk

£

£

£


20 | www.wwha.co.uk | intouch | Y diweddaraf am elusennau

Ymchwil Canser Cymru yw ein partner elusennol swyddogol yn awr Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi mai Ymchwil Canser Cymru yw ein partner elusennol swyddogol ar gyfer y ddwy flynedd nesaf. Mae ein tîm elusennol ymroddedig, dan arweiniad yr Uwch Swyddog Gweinyddol Di Barnes, wrthi’n cynllunio gweithgareddau codi arian ar gyfer y misoedd nesaf yn barod. Mae’r gweithgareddau a gynlluniwyd hyd yn hyn yn cynnwys taith feicio noddedig anferth, a fydd yn gadael swyddfa WWH yn y Fflint yng ngogledd Cymru ac yn gorffen yn ein swyddfa yng Nghaerdydd yn y de. Bydd staff hefyd yn cynnal arwerthiant teisennau, gan gymryd rhan yn Nhaith Pinc a Glas blynyddol yr elusen, mynd i’r afael â Her flinedig y Tri Chopa a chynnal diwrnodau gwisg anffurfiol ar ddyddiau Gwener. Mae WWH wedi codi cyfanswm o £75,000 ar gyfer tair elusen flaenllaw dros y chwe blynedd ddiwethaf, gan gynnwys Cymdeithas Alzheimer, Help for Heroes a Chymdeithas Strôc Cymru. Dewisodd WWH Ymchwil Canser Cymru ar ôl i’n staff gael cyfle i ddewis elusen roedden nhw’n dymuno ei chefnogi. Ymchwil Canser Cymru oedd yr enillydd o led cae, gyda’n tîm yn awyddus i godi arian ar gyfer elusen canser Cymru. Bydd yr holl arian a godir trwy’r bartneriaeth yn aros yng Nghymru i gefnogi gwaith yr elusen, fel y

prosiectau ymchwil arloesol sy’n cael eu cynnal gan wyddonwyr o fri rhyngwladol a myfyrwyr PhD, a’r unig lyfrgell ganser arbenigol yng Nghymru. Dywedodd Laura Priddle, Rheolwr Codi Arian ar gyfer Ymchwil Canser Cymru: “Rydym yn hynod o ddiolchgar am gefnogaeth WWH, ac yn edrych ymlaen at weithio gyda’n gilydd i godi cymaint o arian â phosibl i helpu i roi dyfodol disgleiriach i’r rhai sy’n cael eu heffeithio gan ganser.” Ychwanegodd Di Barnes: “Mae pawb wedi cael eu cyffwrdd gan effeithiau canser ar ryw adeg yn eu bywydau, ac yn y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi cael nifer o staff sydd naill ai wedi brwydro yn erbyn y clefyd eu hunain neu sydd ag aelod agos o’r teulu wedi dioddef. Yn ogystal â chodi arian i achos gwirioneddol deilwng, rydym hefyd yn edrych ymlaen at y cynnydd yn yr ymdeimlad o dîm, hwyl a’r boddhad a ddaw drwy godi arian.” Mae Leah, Peter a Di yn rhai yn unig o’n staff sy’n paratoi ar gyfer taith feicio fawr WWH o’r gogledd i’r de


Y diweddaraf am elusennau | intouch | www.wwha.co.uk | 21

Yn y llun (o’r chwith i’r dde): Corporal Natasha Moore, Awyr Sarsiant Kev Wilkin, Kathy Smart (Cadeirydd Bwrdd WWH), Is-Farsial Awyr David Murray CVO OBE (Prif Weithredwr SSAFA) gyda’r Sarsiant Lisa Millar a’r Sarsiant Awyr Al Crawford.

WWH yn cyfrannu £10,000 at elusen y Lluoedd Arfog - SSAFA Yn ddiweddar, fe wnaethom gyfrannu £10,000 at SSAFA, yr elusen filwrol sy’n rhoi cymorth gydol oes i aelodau ein Lluoedd Arfog a’u teuluoedd. Cyfarfu Prif Weithredwr SSAFA, IsFarsial Awyr David Murray CVO OBE, gyda’n Prif Weithredwr Anne Hinchey a Chadeirydd ein Bwrdd Kathy Smart yn RAF Sain Tathan ym Mro Morgannwg yn ddiweddar i dderbyn y siec. Dewisodd WWH SSAFA, a elwid gynt yn y Gymdeithas Milwyr, Morwyr, Awyrenwyr a’u Teuluoedd, fel elusen y Bwrdd oherwydd ei waith yng nghymunedau Cymru yn darparu cefnogaeth ymarferol, emosiynol ac ariannol i’r rhai sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog. “Rydym mor falch o allu cefnogi achos teilwng o’r fath,” meddai Kathy Smart.

“Rydym yn ymwybodol iawn o’r anawsterau y mae llawer o’n lluoedd arfog a’u teuluoedd yn eu hwynebu, a dyna pam rydym eisiau helpu i wneud gwahaniaeth. Rydw i’n gobeithio y bydd ein cyfraniad yn mynd rywfaint o’r ffordd i gynorthwyo’r rhai sydd angen help SSAFA yn ein cymunedau ledled Cymru.” Dywedodd yr Is-Farsial Awyr David Murray: “Rydym yn falch iawn bod Tai Wales & West wedi dewis cefnogi gwaith SSAFA yng Nghymru. Mae’n amlwg eu bod yn sefydliad sy’n gofalu llawer am eu cleientiaid ac mae gennym lawer yn gyffredin o ran gwerthoedd. Mae SSAFA yn deall yr heriau unigryw y mae cyn-filwyr a phersonél sy’n gwasanaethu yn gallu eu hwynebu, a dyna pam rydym yn cynnig cefnogaeth gydol oes i deulu cyfan y Lluoedd Arfog.”


22 | www.wwha.co.uk | intouch | Gwneud iddo ddigwydd

Gwneud iddo ddigwydd...

Fe wnaethom, yn Nhŷ Ddewi, Rhondda Cynon Taf Mae Tŷ Ddewi, ein cynllun yn Nhon Pentre, Rhondda Cynon Taf, yn gartref i Grŵp Anabledd y Can Do Club – grŵp ysbrydoledig o bobl dan arweiniad menyw ryfeddol o’r enw Dee Thorne. Ffurfiwyd y Clwb Do Can yn y blynyddoedd diwethaf ar ôl i grŵp anabledd sy’n cael ei redeg gan y Cyngor lleol golli ei gyllid. Fe wnaeth Dee, sy’n un o’r preswylwyr, gyda chefnogaeth staff WWH, sefydlu clwb yn ei chynllun yn sydyn fel bod gan ei ffrindiau o’r grŵp blaenorol rywle i fynd. Mae’r grŵp bellach yn cyfarfod yn wythnosol yn Nhŷ Ddewi ac mae ganddo aelodau o bob cwr o’r Rhondda sydd ag amrywiaeth o anghenion. Maen nhw’n cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys garddio, gemwaith a gwneud crefftau, cyfrifiaduron a gemau. Maen nhw wedi cael cymorth mawr gan ddau wirfoddolwr, Tony a Sandra Slade o RSVP (Rhaglen Wirfoddoli’r Rhai sydd wedi Ymddeol a Phobl Hŷn), sy’n dod i’r sesiynau bob wythnos i arwain gweithgareddau.

Preswylwyr yn mwynhau gêm o fowlio deg ar eu Wii-Fit

Dee yn cymryd rhan mewn dosbarth paentio gwydr gyda’r Can Do Club

Llwyddodd y grŵp gyda chais am Grant Gwneud Gwahaniaeth i’ch Cymuned (y grant Gwneud Iddo Ddigwydd, gynt). Roedd ganddyn nhw ddiddordeb mewn ymarfer corff, ond roedd cost tiwtor wythnosol yn ormod, felly yn lle hynny fe wnaethon nhw gais am Wii Fit, y gallen nhw ei ddefnyddio pryd bynnag roedden nhw eisiau. Maen nhw’n defnyddio’r consol yn rheolaidd erbyn hyn ar gyfer Swmba a chanu, yn ogystal ag amrywiaeth o gemau a chwaraeon. Talodd y Grant Gwneud Gwahaniaeth i’ch Cymuned am gyfarpar gwneud gemwaith a chrefftau hefyd, y mae’r grŵp yn bwriadu ei ddefnyddio i wneud eitemau a’u gwerthu i godi arian. Mae’r grant wedi helpu i wneud gwahaniaeth o ddifrif i’r rhai sy’n mynd i’r Can Do Club, gan eu galluogi i gael mynediad at amrywiaeth o weithgareddau sy’n addas i’w hanghenion. Am ragor o wybodaeth ynghylch ein grant Gwneud Gwahaniaeth i’ch Cymuned, cysylltwch â Claire Hammond (Swyddog Strategaeth Cyfranogiad Preswylwyr) drwy e-bostio claire.hammond@wwha.co.uk neu ffonio 0800 052 2526


Adroddiad Chwarterol| intouch | www.wwha.co.uk | 23

Adroddiad Chwarterol:

Eich cadw chi yn y darlun Yn yr un modd, rydym wedi defnyddio blychau geiriau, lle unwaith eto po fwyaf ac amlycaf yw’r testun, a pho fwyaf yw’r blwch lle mae’n eistedd, y mwyaf poblogaidd yw’r ateb penodol (fel y gwelir isod).

Ers 2012, rydym wedi bod yn dweud wrthych sut rydym yn ei wneud fel sefydliad gyda’n hadran Adroddiad Chwarterol rheolaidd yn InTouch.

2015

Penderfynom ystyried ffyrdd eraill o

rannu’r wybodaeth hon gyda chi, er MDEITHASOL

mwyn cyflwyno ffeithiau allweddol i chi ar ffurf glir gan ddefnyddio darluniau. Ein bwriad yw cyhoeddi’r graffigau gwybodaeth hyn ym mhob InTouch, fel y gallwn roi gwybod i chi am sut mae WWH yn perfformio.

FANDALIAETH

yma yn rydym gosod

05

artrefi

55

Fe ofynnom i breswylwyr newydd beth fydden nhw’n hoffi ei ATGYWEIRIADAU weld yn cael WEDI’U CWBLHAU ei wella wrth CYN SYMUD I MEWN symud i mewn i un o’n cartrefi ni

EIDDO GLANACH

LLAI O OEDI WRTH ROI GWYBOD AM

GELLID G ATGYWE

GWEI GYFEI CHWR

Fe ofynnom i breswylwyr newydd

ATGYWEIRIADAU CYFLYMACH

N

N

LLEOLIAD Y CARTREFI

A R

Fe welwch rai nodweddion newydd yn ein graffig gwybodaeth diweddaraf, fel cymylau geiriau (a ddangosir isod). Mae’r cymylau geiriau’n gweithio mewn ffordd syml: po fwyaf y mae gair / term wedi cael ei ddefnyddio yn eich adborth i ni, y mwyaf fydd ei faint a’r trymaf fydd y print yn y Argair cwmwl. Felly, er gyfartaledd, mae wedii breswylwyr enghraifft, pan ofynnom 95 cymryd 56 newydd beth yr hoffen nhw ei weld yn cael ei wella wrth symud i mewn i un 110 48 o’n cartrefi, yr ateb mwyaf poblogaidd niwrnod i osod oedd ‘eiddo glanach’. cartref

ANIFEILIAID YN NIWSANS Gofynnwyd yn ddiweddar am farn aelodau ein Grŵp Llywio Cyfranogiad Preswylwyr ar ein graffig gwybodaeth newydd, ac yn awr hoffem glywed gennych chi.

Felly, cymerwch olwg fanwl, ac os oes gennych sylwadau, byddem yn falch iawn o glywed gennych. Gallwch anfon e-bost atom ar contactus@wwha.co.uk, neu ein ffonio ni ar 0800 052 2526.


We’ve let

73

homes so far in homes so far in

Homes

yma NEEDS Hyd GENERAL RETIREMENT yn 2015, wedi NEEDS rydymGENERAL adeiladu

2015 FRIENDLY HELPFUL FRIENDLY STAFF HELPFUL STAFF

95 110

55 55

Bu i ni days to let adeiladu a home 110

77

days to let

56 56 48 48 QUICKERQUICKER REPAIRS REPAIRS

BE DONE REPAIRSREPAIRS COULDCOULD BE DONE FASTERFASTER

We built

OPERATIVES OPERATIVES FRIENDLY FRIENDLY AND AND POLITE POLITE

9/10

77

2014

new homes during

New residents gave us a satisfaction rating of 9.4 out of 10 for the service they received from us when finding them a home

LOCATION OF LOCATION OF PROPERTIES PROPERTIES

73

2015

We’ve built

a home We asked new We asked new CLEANER o gartrefi residents what they residents what they PROPERTIES yn newydd Weoasked new We asked most liked would like new to see gartrefi CLEANER REPAIRS 2014 residents what they residents what they when moving improved newydd DONE BEFORE PROPERTIES mostone liked would like to see MOVING IN into of when MOVING IN REPAIRS when moving improved QUICKLY our homes moving intoo 9.4 allanDONE Rhoddodd preswylwyr sgôr bodlonrwydd o 10 BEFORE i ni am y IN gennym into one of when one of ouri homes gwasanaeth aMOVING gawson nhw wrth ni chwilio amMOVING gartrefIN iddyn nhw QUICKLY our homes moving into one of our homes au eiriad ywasked AtgWe residents QUALITY OF We asked infographic LESS TIME WAITING what they most liked residents what ON HOLD WHEN WORK We asked We asked about our residents QUALITY OF they would like LESS TIME WAITING REPORTING A SPEED what they most liked THE WORK residents what repairs see 16+oto ON HOLD WHEN d REPAIR rn diw WITH WHICH about our they would like service improved REPORTING A SOMETIMES THE THE SPEED REPAIRS ARE 14.4 0-5 63% 98% repairs to see our 11-5od about diwrnod REPAIR DAYS rn WITH WHICH REPAIRS DON’T STAY COMPLETED diw service improved repairs service 6-10 SOMETIMES THE diwrnod REPAIRS ARE FIXED about our REPAIRS DON’T STAY COMPLETED repairs service new homes so far in

WEDI Residents EU TRWSIO gaveWEDI DYDDIAU I ORFFEN Y SGÔR FIXEDI NI AM us aEU satisfaction rating of 9.2 out of 10A ROESOCH AR YR YMWELIAD TRWSIO’N ATGYWEIRIAD DRWSIO ATGYWEIRIADAU for the repair service they received from us CYNTAF Residents gaveBARHAOL us a satisfaction rating of 9.2 out of 10

Rhent

for the repair service they received from us

83% 83%

OF TENANCIES

ARE PAYING O DENANTIAETHAU MEWN OFON TENANCIES THEIR RENT TIME OR ÔL-DDYLEDION

1403

Repairs

205 205 2015

95 22| www.wwha.co.uk fi RETIREMENT | intouch | Money Matters Cartre We’ve let

On average it’s taken On average it’s taken

ARE PAYING PAYING OFF THEIR ARREARS THEIR RENT ON TIME OR PAYING OFF THEIR ARREARS

Niwsans i’r gymdogaeth

SŴN

TAKE ACTION TAKE ACTION QUICKLY MOREMORE QUICKLY

EXPLAINING HOW YOU EXPLAINING HOW YOU CANTHINGS MAKE THINGS CAN MAKE MORE BAREABLE MORE BAREABLE

We asked WeADRODDIADAU asked residentsAM YMDDYGIAD HELPING GWRTHGYMDEITHASOL residents what FEELING MORE 120they most US RESOLVE what We asked they would like SAFE IN MY We asked HELPING PROBLEMS liked aboutresidents our residents what FEELING to see improved MORE US RESOLVE what they most OURSELVES HOME anti-social they would about our like SAFE IN MY PROBLEMS liked about our BEING ABLE TO EVICT MORE behaviour to see improved anti-social 0 REPORT PROBLEMS OURSELVES HOME anti-social NEIGHBOURS service about our 2014 2015 behaviour BEING QUICKLY ABLE TO EVICT MORE behaviour anti-social service REPORT PROBLEMSGWRTHGYMDEITHASOL PRIF BROBLEMAU YMDDYGIAD NEIGHBOURS service behaviour QUICKLY service ANIFEILIAID

Residents gave us a satisfaction rating of 8.3 out of 10 for FANDALIAETH YN the NIWSANS anti-social behaviour service they received from us Residents gave us a satisfaction rating of 8.3 out of 10 for the


F O N O I TA C OL SE I TR E P OR P

TSRIF NO DEXIF TISIV

sriapeR

REPAIRS COULD BE DONE FASTER

5102

one of our homes

3041 YR 98% GELLID GWNEUD14.4

37

EIDDO CLEANER GLANACH PROPERTIES STAYED FIXED DAYS TO COMPLETE A REPAIR

semoh wen ni raf os

F F ATS

QUICKER REPAIRS

SR I AP E R R E K C I U Q

Fe We ofynnom i breswylwyr asked new dekil tsom newydd beth fydden residents what they gnivom nehw nhw’n hoffi ei would N Ilike G NtoI Vsee O M ATGYWEIRIADAU fo eno otni weld yn cael REPAIRS improved Y L K C I U Q semoh ruo WEDI’U CWBLHAU ei wella wrth DONE BEFORE CYN SYMUD I MEWN IN when symud i mewn MOVING intoni i unmoving o’n cartrefi

48

FRIENDLY HELPFUL STAFF

yeht tahw stnediser

56 REPAIRS QUICKER 63%

YL D N E I R F 1403 LUFPLEH

ATGYWEIRIADAU CYFLYMACH

2014

tliub ev’eW

48 days to let 48 niwrnod i osod a home wen deksa eW cartref

tneR

o gartrefi

55 55

5110111002

On average it’s taken

homes so far in

VISIT

THE MAIN ANTI-SOCIAL BEHAVIOUR ISSUES

205 2015

wen deksa eW yeht tahw stnediser ees ot ekil dluow SR I APwhat Enewydd R theySTAFF CYFEILLGAR A breswylwyr residents devorpmi OF E B E N O D CHYMWYNASGAR bethE R oedden most liked nehw N I G N I V O M nhw’n ei hoffi SYMUD I MEWN when moving otni gnivom fwyaf wrth YN SYDYN MOVING into one semoh ruo IN fo eno symud i unof o’n QUICKLY our homes cartrefi ni

NOISE

SE I C N A N E T SR AE R R A N I

ETELPMOC OT SYAD DEXIF DEYATS RIAPER A

%89

S E V I TA R E P O D N A YL D N E I R F E T% ILO 3P6

rof 01 fo tuo 4.9 fo gntiar noticafstias a su evag stnediser weN emoh a meht gnidnfi nehw su morf deviecer yeht ecivres eht

4.41 51-11

ROF SU DEROCS UOY SRIAPER GNIXIF

01/9

01-6 syad

behaviour service Rhoddodd preswylwyr sgôr o 8.3 allan o 10 i ni am y gwasanaeth

eht rof 01 fo tuo 3.8 fo gntiar noticafstias a su evag stnediseR

ymddygiad gwrthgymdeithasol su morf deviecer yeahgawson t ecivrenhw s ruogennym ivaheb lni aicos-tina

Residents gave us a satisfaction rating of 8.3 out of 10 for the

TAKE ACTION MORE QUICKLY

GWEITHREDU’N GYNT

EXPLAINING HOW YOU

EGLURO SUT Y GALLWCH CAN MAKE THINGS WNEUD MWYBAREABLE O BETHAU’N MORE HAWS EU GODDEF

REPORT PROBLEMS QUICKLY

Fe ofynnom i stnediser deksa eW G N Inewydd PLEH breswylwyr TEIMLO’N E V L O S E R S U tsomFWY yeht tahw We asked beth fydden nhw’n M Eyn Lwhat B OR PDIOGELruYN FY o t u oba dekil residents hoffi ei S weld MORE Swould E VL E Slike R U O FEELING cael ei wella NGHARTREF laicos-tina they SAFE INOMY TROI MWY amtoeinsee OT improved ELBA GNIEB ruoivaheb GYMDOGION ALLAN S M E L B OR P TR O P E R O’U CARTREFI HOME gwasanaeth ecivres about our YL K C I U Q ymddygiad EVICT MORE anti-social gwrthgymdeithasol NEIGHBOURS

U OY W O H G N I N I A L P X E SGNIHT EKAM NAC E L B AE R AB E R O M

deksa eW

Fe ofynnom i tahw stnediser E R O Mnewydd G N I L EEIN E FCYNORTHWYO I DDATRYS breswylwyr ekil dluoEIN w yeht PROBLEMAU beth oedden nhw’n Y M N I E F A S We asked residents HELPING HUNAIN d e v o r p m i ees ot ei hoffi US GALLU RESOLVE what RHOI E Mthey O Hmost r u o tuoba fwyaf about ein our GWYBOD AM PROBLEMS liked E Ram OM TCIVE l a i c o s-tina gwasanaeth BROBLEMAU’N anti-social SR U O B H G I E N OURSELVES GYFLYMACH ymddygiad r u o i v BEING ABLE TOaheb behaviour gwrthgymdeithasol ecivres

service

syad

SYAD

5-0 syad

77

semoh wen gnirud

THEIR RENT ON TIME OR PAYING OFF THEIR ARREARS

%38

SE I C N A N E T F O G N I YAP E R A RO EMIT NO TNER RIEHT SR AE R R A R I E H T F F O G N I YAP

9/10

ANIMAL NUISANCE

O DENANTIAETHAU YN TALU EU RHENT OF TENANCIES YN BRYDLON NEU’N ARE PAYING TALU EU HÔL-DDYLEDION

YOU SCORED US FOR FIXING REPAIRS

83% 83%

+61 syad

for the repair service they received from us

2015

tliub eW

Rhoddodd preswylwyr su morfsgôr devibodlonrwydd ecer yeht ecivore9.2 s riallan aper oeh10 t rof gave us a satisfaction ofnhw 9.2 out of 10ni iResidents ni am y gwasanaeth atgyweirio arating gawson gennym

4102

E N O D E B D L U O C SR I AP E R R E T S AF

6-10 days

0-5 11-15 ATGYWEIRIADAU YN GYNTdays DAYS days

VANDALISM

REPAIRS COULD BE DONE 16+ FASTER days

deinfographic ksa eW G N I T I AW E M I T S SE L F O Y T I L AU Q stnediser deksa eW tahw stnediser kil tsom yeht tahw N E H W D L O H N O K Ri OW LLAI OdeOEDI Fe ofynnom i ofynnom ANSAWDD Yow yeht Fe We We asked ekil dluOF ruo tuoba LESS TIME WRTH WAITING A Gasked N I TRresidents O P E R QUALITY breswylwyr newydd breswylwyr newydd D E E P S E H T ROI GWYBOD AM GWAITH what they most liked residents what e e s o t sriaper beth beth fydden nhw’n ON HOLD WHEN WORK R I Aoedden PER H C I Hlike W H T I WATGYWEIRIAD about they nhw’n eiour hoffi ei would devorpmi hoffi e civrA es CYFLYMDER REPORTING E H Tam SE M I T E M O SCWBLHAU’R THE SPEED fwyaf repairs toyn seeE R A S R I AP E R ruo tuoba weld REPAIR YAgwasanaeth T S T’N O DATGYWEIRIADAU SR I AWITH P E R WHICH ein ei D E T E L PWEITHIAU M OC NID YW’R service ecivres sriaper caelimproved SOMETIMES atgyweirio wella yn REPAIRS ARE DEXIF ATGYWEIRIADAU YNTHE about our ein gwasanaeth REPAIRSLLWYDDO DON’T STAY COMPLETED repairs service atgyweirio 01 fo tuo 2.9 fo gntiar noticafstias a su evag stnediseR FIXED

N O I T C A E K AT YL K C I U Q E R O M

semoH

5

205

taken maeit’s wedi 56 cymryd S D E E N L A R E N E G56

os95se95moh ni raf

days to let

em oh a GENERAL NEEDS ANGHENION CYFFREDINOL

R E N AE L C Sasked E I TRnew E P OR P Fe ofynnom i We

502

55

Hyd yma ynlet We’ve 2015, rydym 011 wedi gosod

OPERATIVES LESS TIME WAITING GWEITHWYR YN LOCATION OF FRIENDLY AND LLEOLIAD Y PROPERTIES ON HOLD WHEN GYFEILLGAR A POLITE CARTREFI bourhoodA nuisance CHWRTAIS NeighREPORTING REPAIR REPORTS OF ANTI-SOCIAL BEHAVIOUR SOMETIMES THE 120 REPAIRS DON’T STAY FIXED

tel ot syad

10

RETIREMENT 84YMDDEOLIAD

tel ev’eW

59 Money Matters | intouchAr |gyfartaledd, www.wwha.co.uk | 23 On average TNEMERITER

a homeFIXED ON FIRST

55

65

asked new CLEANER dents what they PROPERTIES ld like to see Rent REPAIRS roved DONE BEFORE TENANCIES n MOVINGININARREARS ving into of our homes

asked dents what would like ee roved ut our irs service

ting of 9.2 out of 100 d from us

egareva nO nekat s’ ti


26 | www.wwha.co.uk | intouch | Byw’n wyrdd

Staff a phreswylwyr yn brysur yn garddio

yn Hope Court

Gwisgodd staff WWH eu menig garddio i helpu preswylwyr adeiladu eu gwelyau plannu wedi’u codi newydd yng nghynllun er ymddeol Hope Court yng Nghaerdydd yn ddiweddar. Aeth y tîm i’r ardd gymunedol yn Hope Court ddydd Mercher 1 Ebrill i roi help llaw am y diwrnod. Daeth y digwyddiad fel rhan o raglen wirfoddoli WWH, sy’n caniatáu i bob aelod o staff yn y sefydliad i dderbyn tâl am ddiwrnod gwaith llawn - bob blwyddyn - i roi o’u hamser i wirfoddoli ar brosiectau preswylwyr ledled Cymru. Treuliodd y preswylwyr a’r staff y diwrnod yn torchi eu llewys a helpu ei gilydd – gan adeiladu’r gwelyau pren o’r newydd, a’u llenwi â phridd ac yna eu paratoi ar gyfer plannu. Deilliodd y prosiect garddio o’r adeg y cysylltodd y grŵp â WWH am gyllid ar gyfer sied i gadw eu hoffer garddio yn ddiogel. Cafodd Sarah Willcox, Cynorthwyydd Amgylcheddol WWH, ei synnu gan y diddordeb a ddangoswyd gan y grŵp o breswylwyr, a gwelodd botensial o ddifrif yn eu plith. Gyda chymorth Sarah, paratôdd y grŵp gynllun i wella’r gerddi gyda’i gilydd. Yna,

helpodd Sarah y preswylwyr i wneud cais am y grant Gwneud Gwahaniaeth i’ch Amgylchedd er mwyn cael y nwyddau garddio angenrheidiol ar gyfer y prosiect. Mae eu cais llwyddiannus wedi arwain at WWH yn talu am batio newydd, dau wely plannu wedi’u codi, sied storio a phridd. Mae’r preswylwyr yn bwriadu defnyddio un gwely wedi’i godi ar gyfer blodau, perlysiau a choed ffrwythau, ac yna gwely wedi’i godi mwy o faint ar gyfer llysiau. Dywedodd Tony Morton, sy’n 78 oed ac sy’n gyn-beiriannydd sy’n byw yn Hope Court: Bydd yn braf gweld y merched yn dod allan i’r ardd – fe fyddan nhw eisiau cadw trefn arni nawr ein bod ni wedi gwneud yr holl waith trwm! Roeddwn yn fwy na pharod i roi fy amser tuag at adeiladu’r gwelyau wedi’u codi a chymryd rhan gan fy mod yn awyddus i roi rhywfaint yn ôl i’r gymuned.” Dywedodd Steven Christie, y Rheolwr Cynllun: “Mae’n wych gweld yr holl breswylwyr gyda’i gilydd ac yn cymryd rhan. Mae yna lawer o ddiddordeb yn y gerddi yma, a gobeithio y bydd hyd yn oed mwy o ddiddordeb yn awr ar ôl i’r gwelyau wedi’u codi gael eu hadeiladu. “Mae Tai Wales & West wedi gwneud llawer i ni yma, a bydd y gerddi a’r patio yn adnodd gwych ar gyfer y preswylwyr dros fisoedd nesaf yr haf.”


Byw’n wyrdd | intouch | www.wwha.co.uk | 27

Preswylwyr sy’n hoffi garddio wrth eu bodd â thŷ gwydr newydd Bydd preswylwyr Hanover Court ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn brysur yn tyfu hyd yn oed mwy o’u ffrwythau a’u llysiau eu hunain yn ystod yr haf, ar ôl i WWH ddarparu cyllid ar gyfer tŷ gwydr cymunol drwy ei grant Gwneud Gwahaniaeth i’ch Amgylchedd. Mae’r preswylwyr wedi bod yn gweithio’n galed iawn dros y flwyddyn ddiwethaf i wella gerddi cymunol y cynllun ac yn eu gwneud yn bleserus ar gyfer y gymuned. Ar ôl cyfarfodydd gyda thîm amgylchedd WWH, cafodd preswylwyr Hanover Court gyllid ar gyfer gwely plannu wedi’i godi yn y lle cyntaf, lle maen nhw ers hynny wedi bod yn tyfu tomatos, betys, planhigion wy, a phys.

darparodd WWH gyllid ar gyfer prynu tŷ gwydr cryf newydd sbon. Mae’r tŷ gwydr wedi cael ei adeiladu erbyn hyn, ac mae’r preswylwyr balch wedi bod allan yn yr heulwen braf yn barod i ddechrau tyfu eu llysiau a’u blodau o hadau; maen nhw hyd yn oed yn disgwyl cnwd toreithiog o’r hyn a blannwyd eleni! Eglurodd y preswylwyr bod y cynllun wedi adfywio, diolch i ddatblygu’r ardd - a bod gwŷr y grŵp yn mwynhau wisgi bach slei tra maen nhw allan gyda’i gilydd garddio! Am ragor o wybodaeth am ein grant Gwneud Gwahaniaeth i’ch Cymuned, cysylltwch â Sarah Willcox (Cynorthwyydd Amgylcheddol) drwy sarah.willcox@wwha.co.uk neu ffoniwch Sarah ar 0800 052 2526.

Er bod y preswylwyr medrus wedi gwneud yn dda iawn gyda’u hymdrechion i dyfu eu cynnyrch eu hunain, maen nhw wedi cael trafferth i dyfu llysiau a blodau o hadau, felly fe aethon nhw at WWH eleni i gael arian ychwanegol drwy’r grant Gwneud Gwahaniaeth i’ch Amgylchedd (a elwid gynt y Gronfa Amgylcheddol). Yn dilyn nifer o ymgynghoriadau a chefnogaeth gan Sarah Willcox, y Cynorthwyydd Amgylcheddol,

Evelyn Elsbury ac Eddie Atkins, dau o breswylwyr Hanover Court, Pen-y-bont ar Ogwr


28 | www.wwha.co.uk | intouch | Gwaith.Sgiliau.Profiad

Annwyl Kristin Kristin, ein Hyfforddwr Cyflogaeth a Menter, sy’n rhoi ei chyngor i chi ar brentisiaethau a swyddi haf.

Annwyl Kristin, Mae fy nhad bob amser yn swnian arnaf y dylwn i gael prentisiaeth fel y gwnaeth ef pan oedd yn iau, ond rwy’n dweud wrtho o hyd bod yr oes wedi newid. Rwy’n 18 mlwydd oed ac rwyf wedi gadael yr ysgol ers fy arholiadau TGAU. Dydw i ddim awydd mynd i’r coleg yn llawn amser, ond rwyf yn ei chael yn anodd dod o hyd i waith am nad oes gennyf gymwysterau eraill. A fyddai prentisiaeth yn fy helpu? Dan

Ysgrifenna Kristin: Am gryn dipyn o amser aeth prentisiaethau yn anffasiynol, ond yn ddiweddar mae ymgyrch fawr dros brentisiaethau i bobl ifanc fel chi. Gall prentisiaethau fod hyd yn oed yn fwy cynhyrchiol y dyddiau hyn nag oedden nhw yn y gorffennol. Mae’r rhan fwyaf o brentisiaethau yn cynnig y cyfle i weithio ac ennill profiad, dysgu eu ffordd at gymhwyster proffesiynol a hefyd ennill ychydig o arian. Bydd sefydliad da yn helpu ac yn cefnogi eu prentis drwy eu cymhwyster, sy’n golygu na fyddwch ar eich pen eich hun. Bydd rhai prentisiaid yn cael eu talu ar gyfradd is na staff rheolaidd, sy’n rhywbeth y bydd angen i chi ofyn yn ei gylch, ond bydd llawer yn cynnig cyflog cystadleuol a’r holl fuddiannau y byddai gan weithiwr rheolaidd hawl i’w gael. Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, efallai y bydd budd-daliadau eraill y gallech fod â hawl i’w cael. Ar ben hyn, ar ôl hyfforddi’n brentis am flwyddyn neu ragor a’u cefnogi drwy eu cymwysterau, efallai y bydd y cwmni rydych yn gweithio iddyn nhw yn cynnig swydd tymor hir i chi. I grynhoi, gall prentisiaethau fod yn ateb hynod o dda i’r unigolyn priodol. • Cael profiad gwaith gwerthfawr • Cymwysterau proffesiynol • Dechrau ennill arian ar unwaith Os ydych eisiau rhagor o wybodaeth am brentisiaethau, gallwch gysylltu â mi neu chwilio ar-lein ar www.gyrfacymru.com


Gwaith.Sgiliau.Profiad | intouch | www.wwha.co.uk | 29

Annwyl Kristin, Rwy’n fyfyrwraig 23 oed ac eisiau swydd dros yr haf, ond nid wyf yn gwybod lle i ddechrau chwilio. Pa gymorth sydd ar gael i mi? Gemma

Ysgrifenna Kristin: Mae swydd dros yr haf yn ffordd wych o ennill arian a chael profiad. Yn dibynnu a ydych yn meddwl dod adref dros yr haf, efallai y bydd eich undeb myfyrwyr yn gallu eich helpu i ddod o hyd i swydd addas. Mae yna hefyd lawer o wefannau sy’n helpu myfyrwyr, fel www.studentjob.co.uk , www.summer-jobs.co.uk a www.e4s.co.uk a llawer mwy. Mae angen i chi hefyd fod â CV cyfredol. Fel arall, efallai y byddwch eisiau mynd i weithio dramor dros yr haf, ac mae nifer o wefannau sy’n hysbysebu’r swyddi hyn gan gynnwys www.campamerica.co.uk a www.air-pro.co.uk Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio gyda phlant, efallai y bydd eich awdurdod lleol yn cynnal cynlluniau chwarae drwy gydol yr haf, ac fe fyddan nhw’n dechrau hysbysebu ar gyfer y swyddi hyn yn awr, felly cymerwch olwg ar wefan eich awdurdod lleol am ragor o fanylion.

Os hoffech gael cymorth gydag unrhyw fater yn ymwneud â gweithio, hyfforddi neu wirfoddoli, beth am gysylltu â ni? E-bostiwch eich ymholiad at Kristin: contactus@wwha.co.uk


30 | www.wwha.co.uk | intouch | Byw’n iach

Yn ei sied y mae

dyn hapusaf Mae mudiad Siediau Dynion yn darparu noddfa a chefnogaeth i ddynion o bob oed a chefndir. Yma, cawn ragor o wybodaeth am y prosiect unigryw hwn yng Nghymru a’r hyn sydd ganddo i’w gynnig. Mae sied dyn ers cenedlaethau wedi bod yn lle iddo fynd a dianc rhag y straen bywyd; hafan cyfarwydd a diogel i gael ychydig o bwyll mawr ei angen; lle i feddwl, i wneud manion, a chreu ac atgyweirio pethau. Mae dynion y byd wedi gwneud hyn ar eu pennau eu hunain i raddau helaeth hyd yn hyn… Erbyn hyn mae ffordd newydd i ddynion ddilyn eu diddordebau, perthyn i grŵp unigryw, teimlo’n ddefnyddiol, yn fodlon a chael ymdeimlad o berthyn. Mae’r mudiad Siediau Dynion wedi cyrraedd Cymru. Dechreuodd y mudiad Siediau Dynion yn Awstralia, i ddarparu lle i ddynion i gyfarfod, cymdeithasu, gwneud rhywbeth ymarferol a sgwrsio. Darganfuwyd yn gyflym y gallai wella ansawdd bywyd dynion; gallai dynion siarad am faterion iechyd a

Keith, sy’n gyn-filwr ac yn aelod o’r Squirrel’s Nest ym Mhen-y-bont ar Ogwr

bywyd mewn man lle’r oedden nhw’n teimlo’n gyfforddus. Ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn ne Cymru, sefydlwyd Sied Dynion y Squirrel’s Nest fel elusen rai blynyddoedd yn ôl er mwyn darparu man lle i ddynion ddod


Byw’n iach | intouch | www.wwha.co.uk | 31 at ei gilydd, gweithio ar brosiectau ymarferol a rhannu straeon. Y Squirrel’s Nest yw Sied Dynion weithredol gyntaf Cymru, ac fel llawer o siediau eraill, mae’n rhoi pwyslais arbennig ar gynorthwyo gydag iechyd a lles dynion. Y mae hefyd wedi dechrau cefnogi’r rhai y mae eu bywydau wedi cael eu heffeithio gan ganser y prostad. Diolch i elusen Canser y Prostad y Deyrnas Unedig, mae’r Squirrel’s Nest yn awr yn agor ar ddyddiau Gwener i ddynion sydd wedi cael eu heffeithio gan y cyflwr er mwyn iddyn nhw ddod draw a chefnogi ei gilydd. Drwy weithio gyda’i gilydd, cadw’n brysur a rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned leol, gall y rhai sy’n ymuno â’r sied helpu i gadw eu lles meddyliol a chorfforol dan oruchwyliaeth.

Drwy ymuno â sied, byddwch yn gallu: • Cwrdd â phobl newydd • Profi cyfeillgarwch gweithio gyda dynion eraill • Rhoi sgiliau ymarferol ar waith a’u rhannu gydag eraill • Rhoi cynnig ar rywbeth newydd a dysgu sgiliau newydd • Cymryd rhan yn y gymuned leol • Dysgu am weithgareddau a gwasanaethau eraill yn yr ardal • Siarad gydag eraill a allai rhannu profiadau tebyg

Mae’r mudiad Siediau Dynion yn dal yn ei ddyddiau cynnar yng Nghymru, ond cafwyd diddordeb aruthrol. Mae yna 22 o grwpiau ar draws y wlad sy’n mynd ati o ddifrif i sefydlu sied yn eu cymuned leol ar hyn o bryd. Beth am gymryd rhan? I gael rhagor o wybodaeth am siediau yn eich ardal chi, cysylltwch ag Eiriolwr Rhanbarthol Cymru Siediau Dynion, Mark Bond, ar 07736 295237 neu e-bostiwch info@mensshedscymru.co.uk Mae sied y Squirrel’s Nest ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn agored rhwng 10am a 3.30pm fel arfer o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn Uned 38 Canolfan Fenter Tondu, Bryn Rd, Tondu. Gallwch gysylltu drwy e-bostio quirrelsnestms@gmail. com neu ffonio 01656 729625. I gael cymorth a chefnogaeth ynghylch canser y prostad, ffoniwch Linell Gymorth gyfrinachol Canser y Prostad y Deyrnas Unedig ar 0800 074 8383 neu ewch i www.prostatecanceruk.org


32 | www.wwha.co.uk | intouch | Eich newyddion a’ch safbwyntiau

Eich newyddion a’ch safbwyntiau Preswylwyr yn rhoi’n hael at

Fanc Bwyd Abergele Ym mis Chwefror, cyfrannodd preswylwyr Tŷ Gwynn Jones, Abergele, y swm syfrdanol o 118kg (sef 18 stôn ac 8 pwys) o fwyd y mae mawr ei angen i Fanc Bwyd y gymuned leol.

Dywedodd Su Smith, y Rheolwr Cynllun: “Fel cynllun, rydym yn awyddus i helpu pobl leol ac roeddem yn teimlo bod hwn yn achos teilwng. Ers hynny rydym wedi gosod blwch yn Nhŷ Gwynn Jones ar gyfer rhoddion parhaus o fwydydd sy’n para, sy’n cael ei gasglu’n rheolaidd.”

Daeth Maer a Maeres Abergele i gyflwyno’r bwyd i Lynda Tavenor ac Andrew Sturgess o Fanc Bwyd Abergele ac i ddiolch i’r preswylwyr am eu hymdrechion. Tŷ Gwynn Jones

Enillwyr Cwpan Bowlio Dan Do

4 Pêl Tai Wales & West 2015 Bob blwyddyn, mae WWH yn noddi’r cwpan uchod yng Nghlwb Bowlio Dan Do Merthyr Tudful. Yn y llun gwelir Dennis Owen, Cadeirydd y clwb, yn cyflwyno’r cwpan i enillwyr 2015, Colin Osborne a Barrie Broad, ar 1 Ebrill. Mae’r clwb yn darparu gwasanaeth cymunedol gwych i ddynion, menywod a phobl ifanc, gydag oedrannau’r aelodau rhwng 9 a 90 mlwydd oed!


Eich newyddion a’ch safbwyntiau | intouch | www.wwha.co.uk | 33

Stephenson Court yn dathlu

50 mlynedd o WWH

Preswylwyr yn Stephenson Court yn mwynhau parti i ddathlu pen-blwydd WWH yn 50 oed

Daeth dros 30 o breswylwyr at ei gilydd ar gyfer parti yn y lolfa gymunol yn Stephenson Court, Caerdydd, i ddathlu 50fed pen-blwydd WWH ddydd Gwener 27 Mawrth. Fe wnaeth Alison Thomas, y Rheolwr Cynllun, gais am ein grant dathlu’r 50fed pen-blwydd fel y gallai preswylwyr ymuno â ni i ddathlu ein blwyddyn arbennig. Dywedodd Pauline Amery, un o’r preswylwyr: “Cawsom barti hyfryd – roedd y bwyd yn ardderchog, yr adloniant yn wych ac roedd yr awyrgylch yn dda iawn.

Rydw i’n meddwl bod pawb a ddaeth yno yn mwynhau eu hunain. Cawsom gantores a anogodd bawb ohonom i ddawnsio a chanu, a thalwyd am y cyfan gan Tai Wales & West. Diolch a phenblwydd hapus i chi yn 50 oed!” Ychwanegodd un arall o’r preswylwyr, Enis Howells: “Hoffwn ddiolch yn bersonol i Alison, a’r i dair o’r preswylwyr, sef Margaret, Jennifer a Mary, am eu holl waith caled tuag at noson wych, a diolch i Dai Wales & West am wneud iddo ddigwydd.”


34 | www.wwha.co.uk | intouch |Eich newyddion a’ch safbwyntiau

Roedd y parti yn Limebourne Court yn llwyddiant mawr

Mae’n amser parti yn Limebourne Court! Daeth preswylwyr Limebourne Court, Caerdydd, at ei gilydd hefyd i ddathlu ein pen-blwydd yn 50 oed ddydd Mercher 15 Ebrill. Mwynhaodd y grŵp sesiwn ganu a dawnsio i alawon clasurol.

Os hoffech ymgeisio am grant 50fed pen-blwydd o hyd at £250 ar ran eich cynllun neu gymuned, siaradwch gyda’ch Rheolwr Cynllun neu eich Swyddog Tai, neu ffoniwch ein Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 0800 052 2526.

Preswylwyr yn cynnig llwncdestun yn eu dathliad i nodi 50fed pen-blwydd WWH


Eich newyddion a’ch safbwyntiau | intouch | www.wwha.co.uk | 35

Yn y llun o’r chwith i’r dde gwelir Verity Imms o Tenovus, Mr Alec Anderson a Mrs Hannah Lowe o Dŷ Pontrhun, a helpodd i godi £690.22 tuag at yr elusen ganser

Gwasanaeth Lovelight er cof am Joyce Anderson yn

codi arian i Tenovus Mae’r gwasanaeth Lovelight yn cael ei drefnu gan Mrs Hannah Lowe o Eglwys Sant Ioan, ac fe’i cynhelir y rhan fwyaf o flynyddoedd yng nghynllun Tŷ Pontrhun WWH ym Merthyr Tudful.

Eleni, roedd y gwasanaeth yn arbennig o deimladwy yn dilyn marwolaeth un o’r preswylwyr, Mrs Joyce Anderson. Cafodd y gwasanaeth ei gynnal ar 3 Chwefror a chodwyd £690.22 o roddion yn lle blodau


36 | www.wwha.co.uk | intouch | Eich newyddion a’ch safbwyntiau

“Hoffwn ddiolch i’m

holl gymdogion yn Treseder Way, Caerdydd” Ffoniodd Mr Malcolm Mansbridge, sy’n 66 oed, o Treseder Way yng Nghaerdydd, ni i ofyn a allem drosglwyddo’r neges a ganlyn i’w gymdogion caredig: “Nid wyf wedi bod mewn iechyd rhy dda, a bu’n rhaid i mi aros yng Nghartref Nyrsio Holm Towers, lle cefais fy nhrin yn dda iawn yn ystod y pedair wythnos roeddwn yno. Pan ddychwelais adref i Treseder Way,

roeddwn wedi synnu’n fawr pan ddaeth fy nghymdoges Margaret ar fy nrws gyda basged hyfryd o ffrwythau a roddwyd gan fy holl gymdogion. Nid yw fy ngwraig a minnau wedi bod yn byw yma’n hir iawn, ond mae’r cymdogion wedi ein croesawu ni fel aelodau o’u teulu, bob amser yn barod i siarad ac mor gymwynasgar. Diolch yn fawr i bob un ohonyn nhw gan fy ngwraig a minnau.”

Olwen yw’r orau am droi pancos!

Ddydd Mawrth Ynyd eleni, heriodd Anne White, Rheolwr Cynllun Norbury Court yn y Tyllgoed, Caerdydd, breswylwyr y cynllun mewn cystadleuaeth troi crempogau. Mrs Olwen Hnatiw oedd pencampwraig y cynllun!


Eich newyddion a’ch safbwyntiau | intouch | www.wwha.co.uk | 37

Anfonodd Phillip Howell, Arolygydd Safle WWH, y llun gwanwynol hyfryd hwn o grocysau a chennin Pedr yn Nhŷ Pontrhun, Merthyr Tudful.

Anfonodd Michael Fowler, Arolygydd Safle WWH, y llun gwych hwn o aelodau o Glwb Coffi Fferm y Bryn, Ystrad Mynach, yn dathlu 50fed pen-blwydd WWH.

Preswylwyr yn

cynnal bore coffi a theisennau elusennol

Daeth preswylwyr Wentloog Court, Caerdydd, at ei gilydd ym mis Chwefror ar gyfer bore coffi a theisennau Sant Ffolant arbennig i gefnogi Ymchwil Canser Cymru. Mwynhaodd y grŵp lawer o ddanteithion blasus a pherfformiad arbennig gan sacsoffonydd ifanc o’r enw Rochelle Gough, merch y Rheolwr Cynllun Lorraine Gough. Gyda’i gilydd, cododd y preswylwyr y swm trawiadol o £115.41.

Y preswylwyr yn mwynhau eu bore coffi elusennol yn Wentloog Court

Dywedodd Lorraine: “Roedd hi mor braf gweld y preswylwyr yn mwynhau’r gerddoriaeth mewn digwyddiad cymdeithasol hyfryd. “Fe wnaethon nhw gyfrannu’n hael i helpu i gefnogi Ymchwil Canser Cymru.”


38 | www.wwha.co.uk | intouch | Pen-blwyddi a dathliadau

Pen-blwyddi a

dathliadau Pen-blwydd priodas ddiemwnt, Gordon a Brenda! Dathlodd Gordon a Brenda Hopkins o St Catherine’s Court, Caerffili, 60 mlynedd o briodas ar 19 Mawrth drwy deithio i Ddyfnaint am benwythnos hir. Fe wnaeth y ddau gwrdd am y tro cyntaf yn Neuadd Ddawns Glynebwy pan oedd Brenda’n dim ond 18 oed a Gordon yn 22 oed.

Syrthiodd y ddau mewn cariad ar yr edrychiad cyntaf, ac fe wnaethon nhw adnewyddu eu haddunedau priodas pan oedden nhw’n dathlu 50 mlynedd o briodas. Llongyfarchiadau i’r ddau ohonoch!

Pen-blwydd hapus Anita! Ar 16 Chwefror, dathlodd Miss Anita Eggebrecht ei phen-blwydd yn 80 oed yng Wentloog Court yn Nhredelerch, Caerdydd. Darparodd y preswylwyr deisen ben-blwydd arbennig y gwnaeth pawb fwynhau ei bwyta yn ystod eu bore coffi.


Pen-blwyddi a dathliadau | intouch | www.wwha.co.uk | 39

Pen-blwydd hapus, Barbara Dathlodd Barbara Johnston ei phen-blwydd yn 83 oed ddydd Gwyl Dewi gyda the’r prynhawn â siampên gyda’r holl breswylwyr yn Norbury Court yn y Tyllgoed, Caerdydd. Magwyd Barbara yng Nghaerfyrddin ac aeth i Ysgol Ramadeg Llanelli, cyn mynd ymlaen i ddysgu yn Ysgol Peter Lea yn y Tyllgoed. “Mae hwn yn lle delfrydol i fyw; mae gen i fy nrws ffrynt fy hunan yn arwain i’r ardd ardd ac rwy’n mwynhau cwmni fy nghymdogion yn y lolfa gymunol.”

Pen-blwydd hapus yn 90 oed, Kathleen! Bu Mrs Kath Williams, sydd newydd ddathlu ei phen-blwydd yn 90 oed, yn un o breswylwyr Cwrt Anghorfa yn y Pîl, Pen-y-bont ar Ogwr, ers tua 20 mlynedd. Symudodd hi yno ar ôl dioddef lladrad a phrofedigaeth yn ei hen gartref. O ganlyniad, roedd Kath yn naturiol yn nerfus nes iddi symud i mewn i Cwrt Anghorfa, lle mae hi bellach yn teimlo’n ddiogel ac yn hapus. Mae hi eisiau canmol staff WWH am yr holl gymorth y maen nhw wedi ei roi iddi dros y blynyddoedd.


Grantiau ar gyfer addysg, hyfforddiant a gwaith

Gwnewch wahaniaeth

i’ch dyfodol

Ydych chi angen hyfforddiant arbenigol? Dillad ar gyfer cyfweliad? Cyfarpar i sefydlu busnes? Beic i fynd i’r gwaith? Neu eitemau ar gyfer y coleg? Os ateboch ‘ydw’:ffoniwch ni ar 0800 052 2526, ewch i www.wwha.co.uk neu siaradwch gyda’ch Swyddog Tai


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Intouch Gwanwyn 2015 by Wales & West Housing - Issuu